RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Mae’r llanw mawr glas yn bygwth ein cenedl


Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Aled Gwyn Job sy’n dadlau pam y dylai Leanne Wood fod wedi mentro, a sefyll i fod yn Aelod Seneddol y Rhondda ar docyn penodol “Brexit Sy’n Deg i Gymru”…

Mae’n edrych yn debyg ein bod yn wynebu Tswnami Toriaidd yn yr Etholiad Cyffredinol sydd i’w gynnal ar Fehefin 8.

Gydag un pol piniwn yn rhoi’r Toriaid ar 50%, mae’n ymddangos bod penderfyniad annisgwyl y Prif Weinidog Theresa May i alw etholiad buan yn mynd i dalu ar ei ganfed iddi.

Wedi’r cwbwl, mae’r Blaid Lafur yn gwbwl, gwbwl rannedig ac arweinyddiaeth anobeithiol Jeremy Corbyn druan yn destun dirmyg ymhlith y rhan fwyaf o’i Aelodau Seneddol ei hun, heb son am y boblogaeth yn gyffredinol.

Gan mai Etholiad Brexit fydd hi yn anad un peth arall, bydd hynny’n galluogi’r Toriaid i ddenu cyn-gefnogwyr UKIP atynt hefyd a sicrhau buddugoliaeth ysgubol ar don o Brydeinodod newydd yn erbyn y gelyn allanol Ewropeaidd a’r gelyn mewnol sef yr SNP yn yr Alban.

Mae’r llanw mawr glas i ddod yn debyg o gael effaith mawr ar Gymru hefyd, gyda hyd at wyth sedd Llafur yn syrthio i’r Ceidwadwyr. Mae ambell un hyd yn oed yn darogan y gallai’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif y seddau yng Nghymru y tro hwn, ac mae’n rhaid mynd nol i 1859 pryd y digwyddodd hynny ddiwethaf.

O gofio natur y Toriaid presennol, dydi o ddim yn ormodiaith i ddweud bod hwn yn argyfwng existential yn ein bodolaeth fel cenedl. O bosib mai dyma’r her fwyaf erioed sydd wedi wynebu ein plaid genedlaethol Plaid Cymru.

Creu arweinwyr

Maen nhw’n dweud mai argyfyngau sy’n creu neu’n claddu arweinwyr, ac mae’n adeg o brysur bwyso bellach ar Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru. A hithau wedi ennill sedd y Rhondda yn Etholiadau’r Cynulliad y llynedd,  y cwestiwn rwan ydi a ddylai hi fod wedi mentro ceisio ei hennill yn yr Etholiad Cyffredinol fis Mehefin?

Daw’r gair buddugoliaeth yn Gymraeg o’r gair Buddug, arweinydd benywaidd hen lwyth yr Iceni a arweiniodd wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Rhufeiniaid yng Nghymru 60 AD. Fe gysylltir yr enw hefyd gyda newid positif, optimistiaeth a gallu arweinyddol. Geiriau priodol iawn pe bai Leanne Wood yn mynd amdani.

Wrth gwrs, byddai’n groes i’r graen gosod Llundain uwchben Caerdydd, ac mi fyddai’n rhaid iddi wynebu cwestiynau anodd o sawl cyfeiriad am  yr hyn y mae’r penderfyniad yn ei olygu o ran ein senedd genedlaethol. Ond wedyn, mae’r amgylchiadau presennol yn rhai cwbwl eithriadol. Sydd felly’n gofyn am ymatebion eithriadol.

Gyda’r holl sylw a fyddai Leanne Wood yn ei gael, y cyhoeddusrwydd ychwanegol y byddai’r dadleuon teledu yn ei roi iddi,cefnogaethol cenedlaetholwyr o bob rhan o Gymru yn yr etholaeth, a’r ffraeo parhaus ymhlith y Blaid Lafur yn gefnlen i’r cwbwl, mae’r sedd yn gwbwl enilladwy.

Rhyddid i Gymru

Os ydan ni fyth am weld rhyddid i Gymru, mae’n rhaid ennill calonnau a meddyliau pobl y cymoedd ble mae dros 40% o’r boblogaeth Gymreig yn byw. Byddai ennill y Rhondda mewn etholiad pryd y caiff Llafur eu chwalu’n ulw a Thoriaid eithafol yn cipio grym am flynyddoedd yn San Steffan, yn dangos mai’r dimensiwn cenedlaethol ydi’r unig amddiffynfa bosib i Gymru.

Ac er mor chwithig ydi dweud hynny, byddai ennill y Rhondda yn San Steffan o dan yr amgylchiadau presennol yn cael llawer mwy o ddylanwad na ennill Rhondda yn y Cynulliad llynedd.

Gyda Llafur yn deilchion ar ol Fehefin 8, a chyfnod newydd o gecru mewnol yn digwydd ymhlith gweddillion y blaid honno, bydd oblygiadau hynny yn saff o effeithio ar sut y bydd pobl yn edrych ar Lafur Cymru hithau. Bydd y brand Llafur, ble bynnag y bo yn hollol toxic ac yn cael ei gysylltu gyda methiant trychinebus na welwyd mo’i debyg am hanner canrif neu fwy.

Mewn sefyllfa felly, hawdd iawn yw dychmygu mwy o bobol y Cymoedd am ddilyn esiampl Y Rhondda ac y gellid wedyn cael deialog newydd am bosibiliadau rhyddid cenedlaethol i Gymru yn yr ardal strategol holl bwysig hon.

Mae’n bosib na fyddai raid i Leanne Wood fod yn Llundain am gymaint a hynny, beth bynnag, o gofio y bydd sedd y Rhondda yn diflannu yn yr etholiad cyffredinol nesaf oherwydd y newid ffiniau.

Ac, o feddwl am y trafferthion pellach sy’n siwr o ddigwydd gyda Brexit, dydi hi ddim yn amhosib y gwelir etholiad cyffredinol arall o fewn y ddwy/dair blynedd nesaf, ac y gallai Leanne Wood ail-ystyried ei sefyllfa bryd hynny. Gallai Leanne Wood fod wedi sefyll ar docyn penodol ”Brexit Sy’n Deg i Gymru”.

O ran y pryderon am orfod sefyll is-etholiad Cynulliad anodd pe bai hi’n ennill y Rhondda, siawns y gellid gohirio hwnnw tan fis Awst er mwyn cael amser i ddewis ymgeisydd cryf a chynnal y math o ymgyrch boblogaidd a gipiodd is-etholiad Mon i Rhun ap Iorwerth yn 2014.

Joban o waith neilltuol sydd i’w wneud yn Llundain dros gyfnod penodol o amser felly – sef cynrychioli’r buddiant cenedlaethol Cymreig dros bobl y Rhondda a phobl Cymru fel ei gilydd. Pe bai modd ychwanegu’r Rhondda ac Ynys Mon at y tair sedd bresennol – byddai’n cynnig rhywfaint o ragfur cenedlaethol rhag y llanw glas mawr.

Mae’n biti na theimlodd Leanne ychydig o ysbryd Buddug wrth iddi bwyso a mesur y sefyllfa.

BLOG: Leanne – be’ yn y byd mae hi’n wneud?


Dylan Iorwerth sy’n codi cwestiynau am dactegau etholiad arweinydd Plaid Cymru

Mae’n bosib mai syniad beiddgar i gael sylw ar ddechrau ymgyrch anodd ydi awgrym Plaid Cymru y bydd ei harweinydd, Leanne Wood, yn sefyll yn y Rhondda yn yr Etholiad Cyffredinol.

Y ddadl hyd yn hyn ydi fod hwn yn ‘etholiad argyfwng’ a bod angen yr ymgeiswyr cryfa’ a’r bobol gryfa’ yn San Steffan er mwyn cael dylanwad.

Yn amlwg, mi fydd hi’n anodd i Blaid Cymru gael sylw – mae hynny’n wir am bob ymgyrch Brydeinig; mi fydd hyn yn oed yn fwy gwir am ymgyrch lle mae Brexit yn brif bwnc, a Britain ydi’r Br.

Mae’n debyg mai’r ddamcaniaeth ydi y byddai Leanne Wood yn cael sylw, yn rhannol oherwydd ei fod i’w weld yn gam mentrus ynddo’i hun.

Mae’n wir fod gan Leanne Wood broffil Prydeinig uwch na’r un gwleidydd arall o fewn y Blaid ond mae hynny’n dibynnu mwy ar un ateb i Nigel Farage ddwy flynedd yn ôl nag ar berfformiadau diweddar.

Y cwestiynau sy’n codi

Felly, a ydi hi a Phlaid Cymru wedi meddwl o ddifri am ystyr dyfnach penderfyniad o’r fath ac am y negeseuon sydd ymhlyg hyd yn oed mewn chwarae-bach o gwmpas y syniad?

I ddechrau, mae’n awgrymu bod un sedd o blith 650 yn San Steffan yn bwysicach nag un sedd o blith 60 yn y Cynulliad – hyd yn oed os oes yna rhyw fath o argyfwng Prydeinig.

Yn ail, mae’n golygu y bydd rhaid iddi roi’r gorau i arweinyddiaeth Plaid Cymru, neu geisio newid y rheolau i ganiatáu i aelod yn San Steffan gael arwain unwaith eto. Ydi honno’n neges dda gan blaid sy’n arddel hunan-lywodraeth ac, weithiau, annibyniaeth.

Mi fyddai symudiad o’r fath yn creu dadlau o fewn ei phlaid ei hun; y dewis arall fyddai fod un o’r Aelodau Cynulliad eraill uchelgeisiol sydd ganddi yn cymryd y swydd … er y byddai ambell un, falle, yn falch o’r cyfle, pa ddylanwad fyddai gan Leanne Wood wedyn yn San Steffan?

Yn drydydd, yn groes i’w chymeriad hi, mae’n cyfleu neges anffodus braidd am weddill ei phlaid ei hun – mai hi ydi’r unig un a all wneud argraff.

Hyd yn oed pe bai’r dacteg yn gweithio yn yr etholiad yma, mae oblygiadau gwirioneddol cwestiynau o’r fath am aros yn llawer hwy.

A’r pethau arwynebol…

Mae yna gwestiynau mwy arwynebol hefyd.

Be’n union fyddai’r neges i bobol y Rhondda? Fod Leanne Wood yn eu cymryd o ddifri’, neu’n barod i’w defnyddio nhw? Mae blas chwarae gwleidyddiaeth ar y syniad.

Beth petai hi’n ennill ac yn ildio’i sedd yn y Cynulliad ar ôl dim ond blwyddyn? Ai’r gambl ydi y byddai Llafur wedi gwanhau digon i golli isetholiad i’r Cynulliad hefyd? Gambl a allai golli sedd a cholli dylanwad pellach ym Mae Caerdydd.

Pe bai Leanne Wood yn ennill ac yn un o bedwar, falle bump, o ASau Plaid Cymru yn San Steffan, faint o ddylanwad fyddai ganddi? A fyddai ganddi well llwyfan felly na thrwy fod yn arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad?

A beth petai hi’n colli? Fymryn yn well neu waeth nag ennill?

Y cyntaf allan o’r bloc – ond ai Plaid fydd yn ennill y ras?

Cyhoeddwyd Ebrill 20, 2016 gan Cymru.

Tagiau: etholiadau cynulliad 2016, Leanne Wood, Plaid Cymru


'Estyn am y sêr' yw nod Leanne Wood yn yr etholiad yma
Yn y trydydd
mewn cyfres o gyfweliadau ag arweinwyr y pleidiau yng Nghymru cyn etholiadau’r Cynulliad, Iolo Cheung fu’n holi Leanne Wood o Blaid Cymru

Ar ôl treulio dros ddwy flynedd yn llunio’i maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad eleni, doedd hi ddim yn syndod gweld brwdfrydedd Plaid Cymru wrth iddyn nhw fod y cyntaf i gyhoeddi’u dogfen.

Bu tipyn o fwrlwm a chanmol – yn naturiol – ymysg selogion y blaid pan ryddhawyd y ddogfen y mae arweinydd y blaid wedi’i ddisgrifio fel eu “cynllun fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn” i arwain y llywodraeth yng Nghymru.

Ond pa mor bwysig yw maniffesto mewn gwirionedd? Faint o etholwyr sydd wir yn eu darllen, a fydd yn bwrw’u pleidlais yn seiliedig ar gynnwys y ddogfen liwgar pan mae’n dod at yr etholiad?

Mae Leanne Wood yn gwybod mai’r unig ras fydd yn cyfrif mewn gwirionedd yw hwnnw ar y 5 Mai, gyda’r cenedlaetholwyr yn gobeithio am ganlyniad gwell eleni ar ôl dod yn drydydd mewn etholiad Cynulliad am y tro cyntaf yn 2011.

Ac ar ôl methu â chynyddu nifer eu seddi yn yr etholiad cyffredinol llynedd er gwaethaf tipyn o sylw i’r arweinydd o’r Rhondda ar y cyfryngau, mae hi’n gwybod bod pwysau arni i ddangos cynnydd nawr bod y sylw wedi troi at Fae Caerdydd.

“Mae’r ddau bôl diwethaf wedi bod yn galonogol, rydyn ni’n mynd i’r cyfeiriad iawn,” mynnodd Leanne Wood wrth golwg360.

“Llafur sydd ar y brig o hyd, ond maen nhw’n colli cefnogaeth. Mae rhywfaint o amser ar ôl o’r ymgyrch ac fe ddylen ni weld rhywfaint o newid – fel arall, beth yw’r pwynt cael etholiad!

“Dw i ddim yn derbyn bod unrhyw beth anochel am y canlyniad. Beth sydd ei angen yw newid mewn llywodraeth, rydyn ni wedi cael 17 mlynedd o Lafur yn arwain y llywodraeth yng Nghymru ac fe allwn ni wneud cymaint yn well. Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi rhedeg allan o syniadau.

“Dw i’n falch o’n maniffesto a’r tîm rydyn ni wedi’i adeiladu … a beth ddysgon ni o’r etholiad diwethaf oedd na ddylen ni roi gormod o sylw i beth mae’r polau’n ei ddweud!”

Gwerthu i’r byd

Tra bod y Ceidwadwyr yn treulio tipyn o’u hamser yn herio’r llywodraeth Lafur presennol ar ei record ym maes iechyd, yr economi sydd yn taro rhywun fel y rhan greiddiol o neges Plaid Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae pethau’n edrych yn gymharol dda ar hyn o bryd, gyda diweithdra ar i lawr a mwy o fuddsoddi nac erioed gan gwmnïau rhyngwladol.

Ond nid da lle gellir gwell yw neges Plaid Cymru, sydd yn mynnu y byddai atgyfodi corff tebyg i Awdurdod Datblygu Cymru “ar gyfer yr 21ain Ganrif” yn ffordd i gau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Roedd y WDA yn frand oedd yn cael ei adnabod ar draws y byd. Mae rhai agweddau ohono na fydden ni eisiau ailgyflwyno, felly d’yn ni ddim yn sôn am ddod â’r WDA nôl fel ag yr oedd e,” meddai Leanne Wood.

“Ond mae angen rhyw fath o gorff i’r llywodraeth a Chymru gyflwyno’i hun i wledydd eraill, yn gyntaf fel lle da i ddod a gwneud busnes, ond yn ail er mwyn hyrwyddo’r math o gwmnïau sydd yn gwneud yn dda yng Nghymru a sicrhau ein bod ni’n gallu allforio mwy.

“Mae cymaint am Gymru sydd wedi’i guddio, a phan oedd y WDA yn bodoli, roedden ni’n llwyddo i werthu Cymru fel brand unigryw, felly d’yn ni eisiau dod â’r egwyddor hwnnw nôl eto.

“Mae ein GVA ni [mesuriad o faint yr economi] yn 71% o lefel cyfartalog y Deyrnas Unedig. Mae hynny yn ei hun yn dweud wrthym ni bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo Cymru y tu hwnt i’n ffiniau.”

‘Dim ymddiheuriad’ dros ffioedd dysgu

Buan y daw hi’n glir, wrth drafod rhai o’r meysydd eraill y mae gan y Cynulliad bwerau drosti, fod llawer o atebion Plaid Cymru yn dod yn ôl at yr economi mewn rhyw fodd neu’i gilydd yn y bôn.

Daw hyn yn amlwg wrth i ni drafod addysg, ac un polisi ble mae Plaid Cymru ar hyn o bryd yn mynd yn groes i’r pleidiau eraill yn y Cynulliad – y grant ffioedd dysgu.

Y cenedlaetholwyr yw’r unig rai sydd am weld newid i’r drefn fyddai’n gwahaniaethu rhwng myfyrwyr sydd yn astudio yng Nghymru a’r rheiny oedd yn gadael am brifysgolion dros y ffin.

Byddai’r rheiny sydd yn aros yn derbyn grant i ad-dalu’r rhan fwyaf o’u ffioedd – ond fyddai’r grant hwnnw ddim ond yn cael ei roi i’r alltudion petawn nhw’n dychwelyd i Gymru i weithio ar ôl graddio.

Mae’n bolisi sydd yn hollti barn, gyda phryder y gallai arwain at ddychryn rhai myfyrwyr rhag ehangu’u gorwelion wrth ddilyn cyrsiau gwell dros y ffin, a dim sicrwydd y byddan nhw’n gallu dychwelyd i Gymru i weithio yn y maes hwnnw yn y dyfodol.

Yr unig beth all Leanne Wood ei gynnig ar hyn o bryd yw addewid y bydd y polisi ffioedd hwnnw’n cydredeg â chryfhau’r economi fel bod mwy o swyddi sgiliau uchel ac arbenigol yn dod i Gymru.

“Dydw i ddim yn ymddiheuro am fod eisiau defnyddio adnoddau cyhoeddus a chyllideb brin y Cynulliad i geisio cyrraedd amcanion economaidd,” meddai.

“Mae gormod o bobol ifanc yn gorfod gadael y wlad yma gan nad oes cyfleoedd economaidd yma.

“Rydyn ni eisiau buddsoddi yn sgiliau’r bobol ifanc yna, ond er mwyn gweld gwerth y buddsoddiad yna rydyn ni eisiau iddyn nhw ddod nôl i Gymru i weithio a chyfrannu i goffrau trethi Cymru, ac os wnawn nhw hynny fe wnawn ni ad-dalu rhai o’u ffioedd.

“Ond os ydyn nhw’n gallu gwneud mwy o arian yn rhywle arall, fe gawn nhw dalu mwy ar eu ffioedd – dyw hi ddim yn iawn fod Llywodraeth Cymru’n rhoi cymhorthdal i fyfyrwyr i fynd oddi yma pan mae eu hangen nhw arnom ni yma.”

Trafod arbedion

Allwn ni ddim trafod yr etholiad Cynulliad yma fodd bynnag heb droi ein sylw at iechyd, un arall o’r meysydd ble mae brwydro a ffraeo ffyrnig dros ei dyfodol.

Mae cynlluniau Plaid Cymru yn cynnwys ad-drefnu’r awdurdodau iechyd, diddymu ffioedd ar gyfer gofal yn y cartref a’r rheiny â dementia, a chyflogi 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol er mwyn taclo rhestrau aros hir.

Ond un addewid yn eu maniffesto ddenodd tipyn o sylw oedd hwnnw i wneud £300m o ‘arbedion’ yn y gwasanaeth iechyd – toriad mewn gwirionedd, meddai’r Blaid Lafur; celwydd, meddai’r Blaid yn eu hymateb.

Yn ôl Leanne Wood, fodd bynnag, mae’n “rhaid i ni gael y sgwrs yna” bellach ynglŷn â sut mae modd gwario cyllideb bresennol y gwasanaeth iechyd yn well – a hynny ar bethau mor syml â gwariant ar fenig rwber, neu lenwi bylchau mewn rhestrau aros llawfeddygol.

“Mae modd i ni ddod o hyd i ffyrdd weddol syml o wario arian yn fwy effeithlon,” mynnodd.

“Mae pethau bach drwy gydol y system ble mae modd gwneud arbedion ac fe wnaeth Adolygiad Carter yn Lloegr adnabod y rheiny.

“Rydyn ni eisiau gweithredu’r un egwyddor yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru. Edrych ar bob peth, siarad â’r holl weithwyr a chleifion er mwyn gweld beth yw’r newidiadau bach yna mae modd eu gwneud yn y system er mwyn gwneud yr arbedion hynny.

“Achos maen nhw’n dweud wrtha i eu bod nhw’n gallu gweld bod gwastraff yno.”

‘Anelu am y sêr’

Ar ôl bod mewn llywodraeth unwaith o’r blaen rhwng 2007 a 2011, fel partner iau’r glymblaid â Llafur, y dyfalu ymysg rhai yw y gallai Plaid Cymru ailgydio’r berthynas honno ar ôl mis Mai os nad oes unrhyw un yn ennill mwyafrif.

Er gwaethaf y diffyg awydd ymysg Plaid Cymru i weld hynny’n digwydd dyw Leanne Wood ddim wedi diystyru’r opsiwn – yn wahanol i’w haddewid blaenorol i wrthod gweithio â’r Ceidwadwyr.

“Dw i ddim yn bwriadu mynd nôl ar fy ngair,” meddai yn bendant.

“Mae popeth arall ar y bwrdd. Dw i eisiau gweld cymaint o faniffesto Plaid Cymru’n cael ei weithredu â phosib. Ond dw i ddim eisiau gweld clymblaid ar ôl yr etholiad, dw i eisiau mandad gan bobol i weithredu cynllun llywodraeth Plaid Cymru.”

Bod y blaid fwyaf yn Senedd yw ei nod hi ar ôl 5 Mai – tasg sydd yn edrych y tu hwnt iddyn nhw ar hyn o bryd, gydag 11 Aelod Cynulliad o’i gymharu â 30 y Blaid Lafur, a’r pôl diweddaraf yn darogan cynnydd o ddim ond un aelod.

A oes perygl felly mai dim ond achosi siom – a hyd yn oed creu anghydfod – o fewn y blaid fyddai gosod targed rhy uchel ac yna methu â’i chyrraedd?

“Y broblem yng Nghymru yw’n bod ni’n gosod y bar yn rhy isel fel arfer er mwyn sicrhau ein bod ni’n ei gyrraedd,” mynnodd Leanne Wood.

“Dw i eisiau estyn am y sêr, dw i eisiau i ni gyrraedd ein llawn botensial fel gwlad.

“Dw i ddim am ymddiheuro felly am osod uchelgais a disgwyliadau uchel yn yr etholiad yma, mae’n rhaid i chi anelu am y brig neu fel arall ewch chi ddim i unman.”

Gallwch ddarllen y cyfweliadau blaenorol yn y gyfres gydag Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr a Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol drwy ddilyn y dolenni.

Fi a Mrs Jones


Aled Morgan Hughes
Aled Morgan Hughes sydd yn edrych ar arwyddocâd siaradwr gwadd annisgwyl yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn ddiweddar…

Behind every great man there’s a great woman”- dyna ddywed y cliché adnabyddus, ac ym maes gwleidyddiaeth a llywodraethu, gweler ‘other half’ arweinwyr yn prysur ddatblygu’n thema o bwys.

Mae’r fath ddiddordeb yn deillio yn bennaf o ben arall yr Iwerydd yn America, gyda chryn dipyn o sylw cyhoeddus a chyfryngol yn cael ei gronni o amgylch gwragedd yr Arlywyddion – o Mary Todd Lincoln yn yr 1860au i statws eiconaidd Jackie Kennedy, Nancy Reagan a Barbara Bush, a bellach Michelle Obama.

Yma ym Mhrydain, cymharol newydd yw’r fath sylw poblogaidd i bartneriaid y Prif Weinidog.

Teg yw awgrymu ei fod wedi amlygu’i hun yn bennaf yn y 1990au gyda dyfodiad ‘Llafur Newydd’, â gwraig Tony, Cherie Blair, yn hawlio dipyn o sylw’r cyfryngau Prydeinig.

Erbyn heddiw, mae’r fath sylw wedi cynyddu fwyfwy gyda Sarah Brown a Samantha Cameron bellach yn datblygu’n gymeriadau adnabyddus ar draws y wlad.

Tir newydd

Gwahanol iawn yw’r stori yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Cymru a’r Alban fodd bynnag, a phrin unrhyw sylw’n cael ei bennu i fywydau personol a phartneriaid yr arweinwyr ers dyfod datganoli yn 1999.

Trawiadol tu hwnt felly oedd gweld gwraig Carwyn Jones, Lisa, yn cyflwyno’i gŵr i gynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn Llandudno yn ddiweddar.

Wrth iddi adrodd hanesion eu bywydau personol tu hwnt i’r llwyfan gwleidyddol – o’i goginio i’w gwyliau – torrwyd tir newydd mewn gwleidyddiaeth ddatganoledig Gymreig.

Deinameg yr Arweinwyr?

Yr hyn sydd fwyaf nodedig am gyflwyniad Lisa Jones fodd bynnag, yw’r ffordd y daeth i gydlynu gyda deinameg gymharol gudd etholiad Cynulliad hyd yma – sef y cynnydd nodedig mewn sylw i’r arweinwyr, a’r personoli o ymgyrchoedd y pleidiau gwleidyddol o’u hamgylch.

Nid yn unig o fewn y Blaid Lafur y mae modd gweld y fath bersonoli o ymgyrchoedd.

Ym Mhlaid Cymru mae Leanne Wood yn chwarae rôl hynod actif a chyfryngol ganolog, gyda thystiolaeth o hyn i’w cael mewn erthyglau megis yr un diweddar am ei magwraeth yn y Western Mail.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, hefyd yn chwarae’r un dechneg, ac yn amlwg iawn yn ymgyrch ei blaid – “I want to be first minister and I’d lead for all of Wales,” meddai mewn erthygl ddiweddar.

Hawdd yw cyffredinoli, ond yn sicr mae yno ryw flas gormes arlywyddol yn yr awenau eleni.

Gall y pwyslais hwn ar Carwyn Jones fel arweinydd y Blaid Lafur, a Phrif Weinidog Cymru, hefyd ddatblygu’n ddiddorol am ddau brif reswm.

Carwyn v Corbyn

Yn gyntaf oll un o heriau mwyaf y Blaid Lafur Gymreig eleni fydd i bellhau oddi wrth Lafur San Steffan dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Gyda rhai’n ofni’r effaith etholiadol negyddol allai Corbyn ei gael mewn rhai o etholaethau craidd y blaid yng Nghymru, gwelwyd Carwyn Jones yn pwysleisio awtonomi’r Blaid Lafur Gymreig mewn cyfweliad diweddar, gan honni “does dim ots pwy yw’r arweinydd yn Llundain”.

Mewn arolwg diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru dangoswyd bod Carwyn Jones yn sylweddol fwy poblogaidd yng Nghymru na Corbyn – er yn llai adnabyddus.

Gellir awgrymu felly mai un o’r prif ffyrdd y gall Llafur Cymru ddod i geisio atgyfnerthu’r bwlch yma rhwng Cymru a Corbyn fyddai drwy osod pwyslais ar gymeriad a statws poblogaidd Carwyn Jones – a’i wneud felly yn amlwg iawn yn yr ymgyrch etholiadol.

Cafwyd tystiolaeth o hyn mewn darllediad gwleidyddol diweddar gan y blaid, gyda Carwyn Jones yn ymddangos yn amlwg, ond dim sôn am Corbyn.

Brwydr poblogrwydd

Yn ail, am y tro cyntaf ers 1999 bydd goruchafiaeth poblogrwydd yr arweinydd Llafur hefyd yn cael ei herio.

Mewn etholiadau blaenorol gwelwyd Carwyn Jones, a chynt Rhodri Morgan, yn fwy poblogaidd ac adnabyddus nag arweinwyr y pleidiau eraill.

Ceir enghraifft o hyn yn etholiad 2011 gydag arolwg yn dangos Carwyn yn llawer, llawer fwy adnabyddus a phoblogaidd na’i gyfoedion Cymreig – ac o’i gymharu â’r Alban, hyd yn oed yn fwy poblogaidd nag Alex Salmond!

Mae’r statws hwn dan fygythiad y tro hwn fodd bynnag, yn bennaf oddi wrth arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a welodd dwf sylweddol mewn adnabyddiaeth a phoblogrwydd yn dilyn chwistrelliad o gyhoeddusrwydd llynedd drwy ddadleuon teledu’r arweinwyr.

Awgrymodd yr arolwg diweddar fod tua 80% o’r etholwyr bellach yn adnabod Carwyn Jones a Leanne Wood, o’i gymharu â 60% oedd yn adnabod arweinwyr Cymreig y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Gyda monopoli anwadadwy’r Blaid Lafur dros adnabyddiaeth a phoblogrwydd arweinwyr yng Nghymru bellach dan fygythiad, bydd eu hymateb i’r her yma yn ddiddorol tu hwnt.

I gloi felly, fel profwyd gydag ymddangosiad Mrs Jones yng nghynhadledd y Blaid Lafur, teg yw awgrymu bod rôl a phersona arweinwyr y pleidiau Cymreig, a’u rôl yn ymgyrchoedd eu pleidiau i’w weld i ddod yn fwyfwy amlwg yn yr ymgyrch etholiadol eleni.

Ond efallai nad ydyn nhw eto’n atsain brwydrau personol ffyrnig Trump v Cruz a Clinton v Sanders sydd yn cael ei weld yn yr UDA ar hyn o bryd!

Mae Aled Morgan Hughes yn fyfyriwr PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Golwg arall ar Arfon


Ymgeisydd Llafur, Alun Pugh
Ifan Morgan Jones sy’n ail-ystyried pwy fydd yn ennill sedd dinas Bangor a thref Caernarfon…

Wrth ddadansoddi sedd Arfon ganol mis Ebrill, roeddwn i o’r farn y gallai’r sedd yn hawdd fynd y naill ffordd, gyda Phlaid Cymru a Llafur benben.

Erbyn hyn rwy’n credu bod y Blaid yn fwyaf tebygol o gadw’r sedd. Er bod Alun Pugh yn amlwg wedi bod yn brysur iawn yma, dydw i ddim yn siŵr a oes ganddo ddigon o gefnogwyr sy’n fodlon gwneud y gwaith caib a rhaw ar lawr gwlad.

Rwy’n dilyn ymgyrch sawl ymgeisydd ledled y Deyrnas Unedig ac mae’n nodedig cyn lleied o fwrlwm sydd ynghylch ymgyrch Llafur yn Arfon o’i gymharu â, dywed, ymgyrch Mari Williams yng ngogledd Caerdydd.

Er bod arwyddion Llafur i’w gweld mewn ambell ran o’r etholaeth (yn ôl eu ffrwd Trydar), rhaid cyfaddef nad ydw i wedi gweld yr un ohonynt ar fy nhaith ddyddiol rhwng Waunfawr a Bangor, tra bod arwyddion Plaid yn frith.

Ychydig iawn o sylw y mae’r sedd wedi ei dderbyn gan rai o ffigyrau mwyaf y blaid – fe ymwelodd Carwyn Jones ac Owen Smith yn gynnar yn yr ymgyrch, ac yna dyna ni.

Yn y cyfamser mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi ymweld ag un o’u targedau eraill yng Nghymru, Canol Caerdydd, nid unwaith ond ddwywaith.

Efallai eu bod nhw eisoes yn paratoi am senedd grog, gan ddod i’r casgliad bod maeddu Democrat Rhyddfrydol, a allai ochri gyda’r Ceidwadwyr, yn fwy o flaenoriaeth na churo ymgeisydd plaid a fyddai yn fwy tueddol o ochri â nhw.

Hela sgwarnog

Nid oes yna ryw lawer i awgrymu bod Llafur eu hunain yn hyderus o gipio’r sedd chwaith.

Yn nyddiau olaf yr ymgyrch maent fel petai wedi cydio ar y syniad mai pleidlais ASau Plaid Cymru o blaid caniatáu hela llwynogod – ddegawd yn ôl – fydd yn ennill yr etholaeth iddynt.

Ddydd Sadwrn fe fuodd ambell gefnogwr yn gwisgo fel anifeiliaid fferm a’n dilyn bws etholiadol Plaid Cymru o amgylch yr etholaeth.

Rhaid derbyn mai erfyn etholiadol ar ran Plaid Cymru yw Blogmenai yn bennaf, ond yn yr achos hwn rwy’n credu ei fod yn eithaf agos ti.

Yn y cyfamser mae ymgyrch Plaid Cymru wedi bod ychydig yn fflat, o’i gymharu â Ceredigion, ond bu rywfaint o fwrlwm yn weladwy.

Bu ymweliad Leanne Wood â Prifysgol Bangor ddyddiau ar ôl yr ail ddadl deledu yn uchafbwynt amlwg. Ni welwyd y fath gynnwrf torfol ers diwygiad 1904-5.

Nid wyf o’r farn bod Leanne Wood yn berfformwraig arbennig o wefreiddiol ond yn sgil y sylw y mae hi wedi ei dderbyn mae ryw fath o hud yn perthyn iddi erbyn hyn.

Yn y pen draw, ni fyddai yn syndod anferth pe bai y Blaid Lafur yn cipio Arfon, o ystyried mai sedd ymylon yw hon a’u bod wedi ad-ennill cefnogaeth ers 2010.

Serch hynny rwy’n credu bod Plaid wedi cynnal ymgyrch fwy effeithiol yn yr etholaeth, ac felly wedi symud y tebygolrwydd o gadw’r sedd o 50/50 i 70/30.

Llafur wedi dangos ‘diffyg diddordeb’ yng Ngogledd Cymru

Cyhoeddwyd Ebrill 23, 2015 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Jamie Thomas, Leanne Wood, Plaid Cymru


Leanne Wood
Mae angen creu pwerdy economaidd yng Ngogledd Cymru ar ôl blynyddoedd o Lafur yn dangos “diffyg diddordeb” mewn ariannu’r rhanbarth, yn ôl Leanne Wood.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru nad oedd y gogledd wedi teimlo’r buddiannau ers datganoli, wrth iddi ddadorchuddio cynlluniau ei phlaid hi i wella’r cysylltiadau rhwng Gogledd a De Cymru.

Roedd y rheiny’n cynnwys gwella ffyrdd a rheilffyrdd y gogledd yn lle rhoi cymaint o arian tuag at wella’r M4 yn y de, a sefydlu prifddinasoedd arbenigol ar hyd a lled y wlad.

“All Plaid Cymru ddim cyfiawnhau gwario’r holl arian y mae Cymru yn cael benthyg ar wella’r M4,” mynnodd Leanne Wood wrth siarad mewn darlith ym Mhrifysgol Bangor heddiw.

“Mae ‘na lwyth o brosiectau yng Nghymru sydd yn haeddu buddsoddiad mwy na hwnna.

“Mae llwyddiant y gogledd yn hanfodol i ddyfodol Cymru – hebddo fo ni all Cymru symud ymlaen. Mae diwrnodau gorau’r ardal o’i flaen o. Allwn ni ddim parhau i anwybyddu asedau’r gogledd.”

Prifddinasoedd arbenigol

Cyhuddodd Leanne Wood lywodraeth Prydain o ganolbwyntio gormod ar y de yn y gorffennol, gan ddweud fod hynny’n gamgymeriad na ddylai gael ei ailadrodd.

“Ni allwn ni fforddio ailadrodd camgymeriadau llywodraeth y DU o ganoli grym a buddsoddi mewn un cornel ar draul y gweddill,” meddai arweinydd Plaid Cymru.

Yn y ddarlith fe ddywedodd Leanne Wood hefyd fod gan ei phlaid gynllun i wella proffil trefi yng ngogledd y wlad drwy hyrwyddo ‘prifddinasoedd’ arbenigol yn y gogledd a’r de.

“Byddwn yn ymgynghori ar sut y gellir cyflawni hyn ac yn cyhoeddi ein cynlluniau ym maniffesto Etholiad y Cynulliad flwyddyn nesaf,” cyhoeddodd Leanne Wood.

“Ein gweledigaeth yw cael canolfannau poblogaeth ar draws Cymru, yn enwedig yn y gogledd, er mwyn elwa o fod yn brifddinasoedd diwylliant, celf neu gyllid.”

Bargen decach i Gymru

Mynnodd Leanne Wood, sydd wedi galw i Gymru gael ei chyllido ar yr un lefel â’r Alban, nad oedd hi’n afrealistig gofyn i Lywodraeth San Steffan am fwy na’r £16bn sydd yn cael ei anfon i Gaerdydd ar hyn o bryd.

“Rydyn ni’n gofyn am £1 biliwn arall er mwyn sicrhau’r cyllid i ddatblygu prosiectau eraill,” meddai.

“Y cyfan rydyn ni’n gofyn amdano yw cydraddoldeb o adnoddau, dyna i gyd. Rydyn ni eisio diwedd i lymder a dealltwriaeth fod yn rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn i bawb yng Nghymru.”

Mynnodd hefyd bod angen delio â’r anghydbwysedd economaidd ym Mhrydain, gan ymosod hefyd ar doriadau i addysg a chyrsiau rhan amser, a dweud ei bod hi’n gobeithio gweld yr oedran bleidleisio yn cael ei ostwng yn y dyfodol.

“Rydw i’n pwysleisio i’r bobl iau yn y gynulleidfa i wneud yn siŵr bod eu barn yn cael ei glywed,” ychwanegodd Leanne Wood.

“Rydyn ni’n gobeithio mai’r etholiad cynulliad nesaf fydd yr un olaf lle na all pobl ifanc 16 oed bleidleisio.

“Mae gan Blaid Cymru weledigaeth o Gymru sy’n gyfiawn yn gymdeithasol, yn deg i bob ardal o safbwynt economaidd ac yn uno’r gogledd a’r de y tu ôl i achos cyffredin.”

Stori: Jamie Thomas

Y dadleuon: Sut wnaeth Leanne Wood?


Ifan Morgan Jones sy’n ystyried pa effaith a gaiff dadl yr arweinwyr ar ITV ar obeithion Plaid Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol fis nesaf…

Roedd Plaid Cymru eisoes ar ei hennill o ganlyniad i’r dadleuon teledu cyn i’w harweinydd, Leanne Wood, hyd yn oed gamu ar y llwyfan. Un o’r problemau sydd wedi bod yn fwrn ar y Blaid dros y degawdau ers ei chreu yw nad yw wedi gallu sicrhau’r un math o sylw yn y wasg a’i chystadleuwyr Prydeinig. Y cyfan oedd angen i Leanne Wood ei wneud oedd dangos wyneb.

Roedd yn amlwg bod Llafur yng Nghymru wedi deall hyn, ac roedd dicter rhai o hoelion wyth y gangen honno o’r Blaid Lafur yn amlwg ar Twitter. Iddynt hwy mae’n arbennig o annheg bod arweinydd plaid sy’n meddu ar gyn lleied o gefnogaeth yn y wlad yn cael ymddangos yn llefarydd iddi ar lwyfan ochr yn ochr â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, ei Ddirprwy Brif Weinidog, Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan. Mater o safbwynt, neu lwytholdeb, yw hynny mae’n siŵr.

Roeddwn i wedi fy hudo’n llwyr gan y dadleuon, a hynny’n bennaf oherwydd bod sawl is-ddadl yn mynd rhagddo’r un pryd. Roedd gan bob un o arweinwyr y pleidiau ei h/amcan ei hun, ac yn ceisio llywio’r drafodaeth yn y cyfeiriad hwnnw.

Leanne Wood ddaeth yn olaf yn ôl y polau piniwn a gyhoeddwyd yn syth wedi’r ddadl, ond dydw i ddim yn credu y bydd hi’n malio ryw lawer am hynny. Polau piniwn yn adlewyrchu barn trigolion y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd oedd y rhain, ond roedd Leanne wedi canolbwyntio drwyddi draw ar siarad yn uniongyrchol â phleidleiswyr yng Nghymru. Roedd Twitter yn llawn jôcs am ba mor aml yr oedd hi wedi crybwyll Cymru, a’r Rhondda – sedd y mae hi’n gobeithio ei chipio yn yr Etholiad Cynulliad y flwyddyn nesaf, wrth gwrs. Yn ôl is-sampl YouGov yng Nghymru, daeth Leanne Wood yn ail i aweinwydd yr SNP, Nicola Sturgeon. A dyna’r cyfan a fydd o bwys i Plaid Cymru.

Roedd gan Nicola Sturgeon ei hun amcan hollol wahanol. Yn wahanol i Leanne, mae hi eisoes wedi llwyddo i chwalu’r Blaid Lafur yn yr Alban gyda’r un cyflymder a nerth ffrwydrol a’r arfau Trident y mae hi’n ymgyrchu i gael eu gwared. Iddi hi, roedd dadl yr arweinwyr i gyd am werthu ei phlaid fel partneriaid dichonadwy i Lafur mewn cytundeb ar ôl yr etholiad, gyda’r nod o gadw’r Ceidwadwyr allan o lywodraeth. Estynnodd law cyfeillgar i Loegr yn ei datganiad ar y dechrau a’r diwedd, ac fe enillodd y ddadl gyfan yn ôl Pôl Piniwn YouGov.

Yr unig un a fethodd a gwneud ryw lawer o argraff arna i oedd Nigel Farage o’r blaid UKIP. Roedd yn ffefryn yng ngolwg y bwcis i ennill y ddadl cyn ei dechrau, ac efallai bod y disgwyliadau uchel wedi bod yn fwrn arno. Roedd ganddo ei amcan ei hun, yr un mor benodol â Leanne Wood, sef siarad yn uniongyrchol â’i etholaeth ef ei hun. Serch hynny, rwy’n credu bod ei sylwadau am gleifion sy’n dioddef o HIV wedi bod yn gamgymeriad. Fe fydd yna llawer un cymhedrol a oedd wedi ystyried cynnig ei bleidlais i UKIP, gan gredu eu bod nhw’n fwy parchus na’r BNP, wedi ail-feddwl yn dlyn ei sylwadau. Cynigiodd gôl agored i arweinwyr y pleidiau erail hefyd, ac mae’n rhyfeddol mai Leanne Wood, sydd â’r lleiaf o brofiad wrth ymdrin â’r cyfryngau o’r saith, oedd y mwyaf chwim ar ei thraed wrth rwydio.

Fel arall, roedd Leanne Wood dan ychydig o anfantais. Roedd hi yn llai ‘slic’ na’r arweinwyr eraill, oedd yn amlwg wedi eu hyfforddi gan arbenigwyr i ddefnyddio cyfuniad o lais, mynegiant ac iaith y corff i fynegi eu hunain mewn modd grymus (gan wneud yr union yr un pwyntiau a hi, yn aml). Mae’n debyg bod Ed Miliband wedi talu £10,000 y diwrnod am gyngor arbenigwr i’w hyfforddi i ddadlau’n effeithiol ar gamera. Cymharol ddistaw ac amharod i wthio ei phig i mewn i ddadleuon yr arweinwyr eraill oedd Leanne Wood, o’i gymharu. Ar y llaw arall, ni ddangosodd dim o’r nerfusrwydd y byddai rhywun efallai wedi ei ddisgwyl ar noson mor hanesyddol a phwysig i’w phlaid – y math o nerfau a oedd i weld wedi cydio yn Natalie Bennett yn ystod ei datganiad agoriadol.

A fydd y ddadl yn ddigon i arwain at hwb sylweddol yng nghefnogaeth Plaid Cymru fis nesaf? Mae’n annhebygol. Er ei fod yn hollbwysig eu bod nhw wedi cael sylw cenedlaethol am y tro cyntaf, dim ond un rhaglen ar ddechrau wythnosau o ymgyrchu oedd hon. Bydd sylw’r wasg Lundeinig (neu Salford-aidd) yn canolbwyntio fwyfwy ar y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr wrth i’r ymyrchu fynd rhagddo, gan ddychwelyd at y pleidiau llai yn dilyn y Senedd grog ddisgwyliedig ar 7 Mai.

Drwy grybwyll y Rhondda tair neu bedair gwaith, mae’n amlwg bod gan Leanne un llygad ar etholiad y Cynulliad 2016. Ac efallai mai bryd hynny y gallai ei phroffil uwch ymysg y cyhoedd o fudd i’r Blaid wrth iddynt geisio gwireddu eu nod hir-dymor o lacio gafael tynn y Blaid Lafur ar rai o gymoedd y de-ddwyrain.

Mêt Mrs Windsor yn plesio’r Comiwnyddion

Cyhoeddwyd Mawrth 23, 2012 gan Adolygiadau.

Tagiau: Leanne Wood


Leanne Wood
Leanne Wood fydd y ferch gynta’ i annerch cynhadledd Plaid Cymru fel Arweinydd y prynhawn yma. Anna Glyn sy’n edrych yn fanylach ar y stori hyd yma…

Mae’r ffaith fod y Comiwnyddion wedi croesawu etholiad Leanne Wood fel arweinydd y Blaid yn adrodd cyfrolau, ac mi fydd sawl larwm yn canu ym mhenau’r Aelodau Cynulliad mwy cymhedrol hynny sy’ dan ei phawen.

Yn amlwg mae ei neges wedi taro deuddeg mewn cyfnod pan mae bancars barus a chyfalafiaeth yn y doc, ond mae ethol gweriniaethwraig ronc sydd i’r chwith o’r Blaid Lafur yn dipyn o gambl. Gobaith aelodau cyffredin yw y bydd Leanne Wood yn denu fôts yn y Cymoedd, ond mae rhai’n amau a oes yna wir alw am blaid sy’n ffyrnicach ei Sosialaeth na Llafur.

Y gwir ydy nad oes neb yn gwybod eto a fydd yr Arweinydd newydd yn llwyddo neu’n suddo, ond mae’r ffaith iddi ennill er gwaetha’ profiad helaethach Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas yn haeddu clod.

           Pwy fyddai wedi darogan pan roddodd Ieuan Wyn Jones y ffidil yn to, mae’r ddysgwraig o’r Rhondda fyddai’n camu i’w ‘sgidiau? Hyd yn oed ar ddiwrnod y cyhoeddi wythnos yn ôl mi gafodd ambell i byndit dipyn fraw bod Leanne Wood wedi ennill buddugoliaeth gyfforddus. Y gred oedd bod cefnogaeth y to iau yn y bag. Ond mi gafodd hi 3, 326 o bledleisiau ar ôl dwy rownd, o’i gymharu â’r 2,494 i Elin Jones – prawf pendant bod apêl y ferch o’r Cymoedd wedi cael croeso yn y Fro Gymraeg.

Does yna ddim peryg y bydd Leanne Wood yn carbon copy o’i rhagflaenydd, a beryg mai dyna ran o’r apêl. Fel Tony Blair a David Cameron, daeth o unman i gipio’r awenau’n annisgwyl.

Os yw’r Blaid yn gyfuniad o ddaliadau gwahanol gyda rhai yn fwy ceidwadol nag eraill, mae’n bosib bod bygythiad i’w dyfodol. A fydd ffermwyr cefnog Môn, er enghraifft, yn fodlon gydag Arweinydd sy’ eisiau i’r mwya’ breintiedig mewn cymdeithas dalu trethi uwch?

 Mae’r sylwebydd Gareth Hughes wedi dweud mai camgymeriad fyddai hi i Blaid Cymru fynd i’r chwith o Lafur, gan nad oes yna fawr o gefnogaeth gan etholwyr yn y tir anial hwnnw, meddai.

A fydd hi’n parhau i fynegi safbwynt gref ar wleidyddiaeth ryngwladol mewn llefydd fel Iran?

A fydd Leanne Wood yn cymedroli rhywfaint ar ei daliadau gwrth-Frenhinol? Mi gafodd hi ei hel o’r Senedd am alw Brenhines Lloegr yn ‘Mrs Windsor’, ond ers ei hethol mae’n addo bod fymryn yn fwy parchus.

A faint o ddylanwad fydd gan y dyn sy’n llechu dros y dŵr yn America? Yn bendant bu cefnogaeth Adam Price yn hwb i’w hymgyrch. Ond beth fydd ei rôl o hyn allan?

           Wrth ganfasio mae’n amlwg bod gan Leanne Wood y gallu i gynhesu calonau’r Cymry cyffredin. Mae’n wleidydd y daliadau cryf ac nid yw’n ofni mynegi ei barn yn glir a chroyw – peth prin mewn byd gwleidyddol lle mae troedio’r tir canol yn fantra dyddiol.

‘Student politician’ yw’r farn ymysg Llafurwyr, a ‘rhamantwraig’ yw’r label dilornus arall sy’n cael ei bedlera. Mi fydd angen iddi ddarbwyllo llawer bod ganddi’r clowt gwleidyddol. Nid yw’n cael unrhyw fath o fis mêl yn y byd, gyda chynhadledd y Blaid y penwythnos hwn a phawb yn gwylio, gwrando a cheisio dadansoddi pob sill o enau’r ddynes gynta’ i fod yn ben ar y Blaid.