RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Annibyniaeth yw’r unig ffordd o newid Cymru


Joe Chucas
Mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth i Gymru. Yr ydym yn dal i fod o dan Lywodraeth geidwadol, er nad ydi’r Ceidwadwyr erioed wedi ennill mwyafrif o seddi yma.

Derbyniwn yr un model o wleidyddiaeth adain dde Brydeinig o hyd; y fath o wleidyddiaeth ‘synnwyr cyffredin’ sy’n golygu cymorthdaliadau i’r cwmnïau tanwydd ffosil, talu am arfau niwclear allem ni fyth defnyddio, gostyngiadau trethi i’r cyfoethog a lleihau budd-daliadau i bobol anabl.

Mae gan y Deyrnas Unedig y gyfradd isaf o symudedd cymdeithasol (hynny yw, gallu person i godi yn statws economaidd) yng ngorllewin Ewrop, ac rydyn ni nawr wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn rhoi £245m yn fwy i Gymru nag oedd Cymru yn talu iddo.

Ar ben hynny, mi fydd Brexit yn debygol o effeithio ein heconomi’n wael, yn ystod cyfnod pryd mae Cymru’n parhau i fod yn wlad dlotaf y Deyrnas Unedig.

Ymddengys ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd gorwelion ynysig wleidyddol Prydain- adlewyrchiad o’r agweddau ymerodraethol sydd nawr yn trechu’r Unol Daleithiau ar ôl etholiad Trump. Ceir system dwy blaid sy’n fwyfwy seiliedig ar gae ffiniau, osgoi trafnidiaeth agored pobol, diwylliannau a chynhyrchion a- medd cefnogwyr Ukip- ‘gofalu am ein pobol ein hunain’.

Beth yw ein dyfodol fel cenedl?

Pam ddylen ni ddilyn yr un llwybr fel Teyrnas Unedig sy’n difetha’r amgylchfyd, gorfodi pobol dlawd i ddefnyddio banciau bwyd, bomio pobol ddiniwed ac wedyn gwrthod mynediad y bobl ddiniwed yma- gan gynnwys plant – i’r wlad sydd wedi difetha eu bywydau?

Mae angen i Gymru adfywio ei gwleidyddiaeth ac edrych ar ei hunan a gwledydd bychain eraill a sylwi ein bod ni’n gallu cyflawni cymaint mwy. Mae angen datganoli llwyr fel bod Cymru’n gallu penderfynu beth sydd orau i’w hunan, mae angen cytundebau masnach ledled y byd, a chytundebau amlochrog dros yr amgylchedd, hawliau dynol a safonau cynhyrchion, ac felly’r cymysgedd gorau o weithio ar y materion byd-eang a’r materion lleol yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Yn fyr, mae angen i Gymru edrych ar weithio tuag at annibyniaeth mewn Ewrop agored, yn yr un ffordd mae’r Alban yn edrych nawr. Dyw Cymru ddim yn fach. Mae hi’n fwy na 135 gwlad, ac os ydyn ni’n edrych ar y gwledydd sy’n cael eu llywodraethu gorau, fel arfer y rhai bach ydyn nhw!

Gwledydd bychain sy’n llwyddo

Yn yr esiamplau o wledydd bychain llewyrchus sy’n dilyn, prin sydd wedi cael unrhyw beth yn agos at y nifer o adnoddau naturiol mae Cymru wedi cael fel gwlad. Crud y chwyldro diwydiannol oedd Cymru – Amlwch ym Môn a wnaeth reoli pris copr ar farchnadoedd y byd; yn Sir Gaernarfon oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd; a’r Barri a Chaerdydd oedd y porthladdoedd mwyaf yn y byd.

Dylid ystyried datblygiadau gwledydd bychain eraill, yn enwedig y gwledydd nordig (ond allem ni ystyried datblygiadau yng ngwledydd fel Costa Rica, Ciwba, ac yn y blaen hefyd) a sylwi taw ni yn unig all newid ein dyfodol er gwell.

Dechrau da byddai mabwysiadu system llywodraethiant y gwledydd Nordig – system pleidleisio luosogaethol amlbleidiol sy’n seiliedig ar glymbleidiau a chytundebau yn lle gwrthwynebiaeth gyson afresymol rhwng dwy blaid.

Y sioc fwyaf i’r system fyddai’r ‘ddemocratiaeth gymdeithasol’ (Social democracy) y mae’r gwledydd yma yn ei dilyn- gyda gwariant cyhoeddus uchel, gwladwriaeth les mwy cyflawn sy’n seiliedig ar hyrwyddo symudedd cymdeithasol a rhyddid personol, tra bod y trethi uchel ar gyflog yn sicrhau anghyfartaledd a thlodi isel.

O ran yr economi, mae yna elfennau cyffredin ymysg y gwledydd nordig i gyd: system gorfforaethol lle mae cynrychiolwyr o undebau a chyflogwyr  yn trafod telerau a pholisïau’r farchnad lafur o dan gyfryngiad y Llywodraeth. Mae yna ymrwymiad tuag at feddiant preifat a chyfalafiaeth masnach rydd profedig- trafnidiaeth agored o bobol, cynhyrchion a chyfalaf. Mae hwn wedi galluogi iddynt gyrraedd safonau bywyd uchel.

Yn y gwledydd yma, mae pobol yn sylwi bod datblygiad angen pwrpas- os nag yn ni’n fwy addysgedig, iachus neu’n hapus, beth yw’r pwynt o gynyddu allbwn – sef CMC – y wlad? Mae angen ystyried mynegyddion eraill megis tlodi, anghyfartaledd, cyfeirnod GINI, ac ôl traed Carbon, a chreu cymdeithas lewyrchus ond hapus.

Ysbryd Lloyd George, Bevan a Gwynfor

Pam na ddylai Cymru adfywio ei gwleidyddiaeth yn ei modd arloesol ei hun, yn yr un ysbryd â Lloyd George, Aneurin Bevan a Gwynfor Evans? Tri dyn oedd yn hollol afresymol yn eu disgwyliadau am newid, a ysbrydolodd sefydliad y wladwriaeth lles a’r GIG, a llywodraeth i Gymru.

Mae cynnydd yn ddibynnol ar bobol afresymol. Trwy fod yn afresymol y gallwn ni greu Cymru sydd – trwy’r system nordig- ddim rhagor yn ddiurddas a ddinod, ond, yn llewyrchus a theg, yn agored ac yn gwneud penderfyniadau, chwedl Gwynfor, “gyda’n cefnau’n dipyn yn fwy syth, ac yn dal ein pennau’n dipyn yn uwch”.

Drafft Mesur Cymru – sarhad i’n gwlad

Cyhoeddwyd Ionawr 14, 2016 gan Joe Chucas.

Tagiau: Datganoli, Joe Chucas, Mesur Cymru


Joe Chucas
Joe Chucas sydd yn cyhuddo cynlluniau’r Ceidwadwyr o dynnu Cymru nôl i’r gorffennol …

Ymgais chwerthinllyd gan Lywodraeth San Steffan yw’r Mesur newydd i geisio dofi Cymru a thynnu’r wlad yn nôl i’r gorffennol.

Mae hi’n tanseilio’r gefnogaeth gyson sydd wedi bod i ddatganoli, gan mai bwriad y bil yw atal Cymru rhag medru creu deddfau ar faterion sydd eisoes wedi’u datganoli, heb ganiatâd Aelod Seneddol o Lundain.

Yn ystod y refferendwm yn 2011, mi wnaeth 21 o’r 22 awdurdod yng Nghymru bleidleisio dros roi hawl i’r Cynulliad ddeddfu ar yr holl faterion sydd wedi eu datganoli HEB ymyrraeth o San Steffan.

Ond mae’r mesur newydd yn bygwth gwyrdroi’r penderfyniad hwnnw yn llwyr.

Angen y grym

Mae’r polau diweddar wedi awgrymu bod cefnogaeth y Cymry tuag at ddatganoli pellach ar gynnydd, ac mae comisiynau annibynnol Silk a Holtham wedi argymell hyn eisoes.

Wrth edrych yn ôl ar hanes Cymru, fe allwn weld yn sicr pam fod ei angen.

Yn 1965, mi gafodd trigolion Capel Celyn eu gorfodi’n ddisymwth i symud o’u cartrefi, cafodd y capel ei chwalu a’r fynwent ei chladdu dan sment yn ddidrugaredd er mwyn adeiladu’r gronfa ddŵr.

Er yr holl brotestio, gyda 39 o 40 AS Cymru yn pleidleisio yn erbyn hyn (a’r AS arall yn ymatal rhag pleidleisio) fe gafodd y penderfyniad ei wneud. Doedd yr un o ASau Cymru yn cefnogi’r penderfyniad ond mi roedd San Steffan, yn amlwg, yn gwybod yn well.

Wrth edrych nôl ymhellach fe gofiwn fod y Cymry wedi cael eu galw’n ‘ddiog, yn dwp ac yn anfoesol’ ym Mrad y Llyfrau Gleision oherwydd bod gwell ganddynt siarad Cymraeg; ac fe gafodd defnydd o’r iaith ei wahardd mewn ysgolion gyda chosb lem i’r rhai oedd yn mynnu dweud unrhyw beth yn eu hiaith gyntaf.

Fe sylweddolwn hefyd, ar hyd yr 20fed ganrif, nad yw’r Blaid Geidwadol erioed wedi cael mwyafrif yng Nghymru, ond eto dyna’r Llywodraeth wnaeth ein penderfyniadau drosom ni am 57 mlynedd o’r ganrif honno.

Hunanlywodraeth – nid annibyniaeth

Efallai’ch bod chi’n anghytuno â’r hyn rydw i wedi’i ddweud uchod, a’ch bod chi’n credu’r un peth ag arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban – nad yw’r ‘Celtiaid’ yn “genetically programmed” i wneud penderfyniadau.

Ydi Llywodraeth Cymru – sydd wedi cynnal ffioedd dysgu isel, wedi gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr o 23.8%, ac wedi cael gwared â ffioedd presgripsiwn – yn fethiant llwyr?

Mae unrhyw wlad yn llawer mwy llewyrchus os yw hi’n llywodraethu ei hun, ac os oes ganddi wleidyddion sydd wedi’u hethol yn gyfrannol i ganran y pleidleiswyr, gan roi llais go iawn i bobl ynglŷn â dyfodol eu gwlad.

Mae hi’n wir fod Cymru yn wlad rhy fach – rhy fach i gael unrhyw effaith yn San Steffan, hynny yw.

Dyw 40 AS a phoblogaeth o 3.5miliwn byth am greu tolc hyd yn oed, pan mae gan y Deyrnas Unedig 650 o Aelodau Seneddol a phoblogaeth o 60miliwn, niferoedd sy’n drech na Chymru yn hawdd.

Ond dydi hi ddim yn rhy fach i gael hunanlywodraeth, o leiaf i’r un graddau ag y mae Senedd yr Alban yn cael llywodraethu ei hun.

Mae llawer o bobl yn ofni y byddai hyn yn arwain at annibyniaeth i Gymru, ac yn eu tyb nhw ansicrwydd economaidd, ond dadl a refferendwm arall fyddai hynny!

Mae cam mawr rhwng hunanlywodraethu ar faterion sydd wedi’u datganoli, ac annibyniaeth, cam dyw Cymru ddim mewn sefyllfa ddigon cryf i’w cymryd eto – ond nid dyna beth ‘dw i’n ei awgrymu.

Gwleidyddion o fri

Dylai unrhyw un sy’n dadlau na all Cymru gynnig atebion digonol i’w phroblemau gymryd eiliad i gofio am hanes cyfoethog rhai o’n gwleidyddion amlycaf ni.

David Lloyd George, a gyflwynodd Yswiriant Cenedlaethol a phensiynau, wnaeth sefydlu’r Wladwriaeth Les, a gostwng pwerau Tŷ’r Arglwyddi; Aneurin Bevan, a sefydlodd y Gwasanaeth iechyd; James Callaghan, Prif Weinidog y DU yn ystod y saithdegau; Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru a wnaeth ymprydio dros gael S4C; hyd yn oed llwyddiannau diweddar llai amlwg, ond blaengar beth bynnag, gan y Cynulliad gan gynnwys y ddeddf rhoi organau, a threth arfaethedig ar ddiodydd meddal.

Mae’r Mesur Drafft diweddaraf ar gyfer Cymru yn bleidlais o ddiffyg hyder gan San Steffan, sy’n anwybyddu ein hanes gwleidyddol cyfoethog, ein hawl i hunanlywodraeth, a’r effaith enbyd o beidio â gadael i bobl Cymru wneud penderfyniadau dros eu hunain.

Mae Joe Chucas yn fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd ac yn astudio Busnes ar gynllun Erasmus ym Mhrifysgol Toulouse yn Ffrainc.