RSS

Golwg360

MwyCau 

Llanast! – effaith yr etholiad

Cyhoeddwyd Mehefin 9, 2017 gan Cymru.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol, Jeremy Corbyn, Llafur


Jeremy Corbyn - ymgyrchu go iawn (Rwedland CCA4.0)
Mae pob plaid – a ninnau – yn wynebu cwestiynau anodd, ar ôl smonach anferthol Theresa May. Dadansoddiad Dylan Iorwerth o’r canlyniadau ….

Mewn gwahanol ffyrdd, mi allai pob plaid wynebu llanast ar ôl etholiad ddoe.

  • Mae’r Ceidwadwyr mewn trwbwl mawr, mae hynny’n amlwg. Paratowch am gyfnod hyll.
  • Mae gan Lafur hefyd gwestiynau anodd i’w hwynebu ac, yng Nghymru, mae ganddi gyfrifoldeb mawr.
  • Mi fydd rhaid i Blaid Cymru edrych eto ar ei chyfeiriad a’i thactegau.
  • A’r Democratiaid Rhyddfrydol? Beryg ei bod hi’n ta-ta ar ôl mwy na chanrif a hanner o gynrychioli Cymru yn San Steffan.
  • Tân siafins oedd UKIP o’r dechrau. Dim ond un marworyn bach sydd ar ôl, a hynny yn y Bae. Fyddai hi’n ddim syndod gweld rhai, os nad y cyfan, yn mynd yn ôl at y Torïaid.
  • Mi gafodd yr SNP ei gwasgu hefyd a’i chosbi am ganolbwyntio gormod ar refferendwm ac mi fydd rhaid iddi ailfeddwl a chwilio am dir cadarn eto.
  • Mae’r cwestiynau mwya’ er hynny i ni i gyd. Mi fydd oblygiadau o ran Brexit yn ysgytwol ac mi allai’r sgil effeithiau fod yn fawr ar sefyllfa fregus Gogledd Iwerddon.

A dyma nhw fesul un …

Y Ceidwadwyr – cawdel

Mae’n anodd gweld sut y gall Theresa May aros yn Brif Weinidog yn hir iawn a’i hawdurdod wedi ei chwalu. Ar ôl colli hwnnw, does ganddi fawr ar ôl, heblaw esgidiau.

Mi fydd y geiriau ‘Cader Idris’ ar ei charreg fedd.

Tydi’r blaid bellach ddim mewn sefyllfa i wthio am Brexit caled ac mi fydd hynny’n aildanio’r ymladd mewnol.

Yng Nghymru, ar ôl rhai digwyddiadau rhyfedd yn ystod yr ymgyrch, mae’r pwysau’n debyg o dyfu eto hefyd ar yr arweinydd, Andrew R. T. Davies.

Llafur – lle nesa’?

Ar yr olwg gynta’, mi allech chi feddwl bod popeth yn wych, gydag ymgyrch gref yn ennill seddi yn nannedd ymosodiadau personol a gwasg asgell dde ddidrugaredd.

Ond beth am y mwy na 150 o ASau oedd wedi gwrthwynebu’r arweinydd Jeremy Corbyn a’i bolisïau? Sut fyddan nhw’n ymateb wrth iddo fo a’r llefarydd economaidd, John McDonnell, gael trwydded i fynd ymhellach ac i gryfhau’r blaid yn y wlad ar eu traul nhw?

Faint o’r enwau mawr fydd yn fodlon edifarhau a derbyn swyddi mainc flaen? A pha mor gyfrwys fydd Jeremy Corbyn wrth yrru ei agenda yn ei blaen? A fydd y rhyfel yn parhau?

Y dewis arall ydi cydweithio a gweld o ddifri a ydi “gwleidyddiaeth Prydain wedi newid”. Dyna ddylen nhw’i wneud.

Llafur Cymru – lwc a chraffter

Mi lwyddodd Llafur Cymru i fanteisio i ddechrau ar bellter rhyngddyn nhw a’r blaid yn Lloegr ac, wedyn, ar lwyddiant yr arweinydd Prydeinig.

Mae Carwyn Jones wedi dangos sawl tro ei fod yn dactegydd craff ac yn gyfathrebwr ardderchog ond y canlyniad ydi fod y cyfrifoldeb arno fo a’r ASau Llafur Cymreig bellach yn anferth.

Ganddyn nhw y mae’r gallu i ymladd am Frexit da i Gymru – o ran pwerau ac arian – a, gyda senedd grog, mae’r cyfle yno.

Plaid Cymru – cwestiynau

Yn weddol fuan – unwaith y dechreuodd Llafur gryfhau – mi ddaeth hi’n amlwg y byddai’r ‘blaid bach’ yn cael ei gwasgu.

Y gobaith iddi hi oedd ennill cwpwl o seddi, er gwaetha’ cwymp yn y bleidlais. Mi enillon nhw Geredigion a dod yn agos eto ym Môn, ond mae Arfon yn ymylol ac maen nhw wedi colli tir ar draws y Cymoedd.

Mi fydd yna gwestiynau am arweinyddiaeth Leanne Wood ar ôl yr holl sylw y mae’n ei gael ond, yn fwy na hynny, mae’n rhaid i’r Blaid ystyried beth yn union y mae’n ei gynnig yn wahanol i Blaid Lafur Garwynaidd.

Brexit … efallai

Mi fydd y canlyniadau yn codi amheuon am ddyfodol Brexit ei hun. Mae sŵn y chwerthin ym Merlin a Pharis i’w glywed fan hyn.

Roedd hi’n anodd cynt; bellach, mae ganwaith anos. Ac mi fydd rhaid cael cytundeb ‘y wlad’ mewn rhyw ffordd – nid refferendwm ond, yn bendant, trafodaeth lawn a phleidlais go iawn yn Nhŷ’r Cyffredin.

A chymryd y bydd y Ceidwadwyr yn cynnal llywodraeth, mae hynny’n debyg o fod yn bartneriaeth gyda’r DUP yng Ngogledd Iwerddon. Rhwng Brexit a hynny, mae’n gyfnod peryglus iawn yn y dalaith.

A’r canlyniad i gyd?

Mae’r etholiad yma wedi cadarnhau’r diffyg trefn rhyfeddol sydd mewn gwleidyddiaeth ar hyn o bryd.

Mae gwladwriaeth a bleidleisiodd tros Brexit bellach wedi gwanhau gallu ei Llywodraeth i fargeinio – yn fwriadol, efallai, ar ôl cael ofn y Blaid Geidwadol.

Y sôn ydi fod llawer o bobol ifanc wedi pleidleisio – cenhedlaeth fory’n taro’n ôl yn erbyn cenhedlaeth ddoe a heddiw.

Mi fydd rhaid aros ychydig eto i weld a oes yna symudiad go iawn yn erbyn toriadau a threthi isel ac o blaid gwleidyddiaeth wahanol.

Y newyddion da ydi fod ymgyrchu didwyll yn gallu ennill weithiau.

A ddaeth hi’n bryd claddu’r Blaid Lafur?

Cyhoeddwyd Hydref 3, 2016 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Aled G Jôb, Jeremy Corbyn, Llafur


Jeremy Corbyn Llun: PA
Aled G J
ôb sy’n trafod y rhagolygon i Lafur wedi ei chynhadledd stormus yr wythnos ddiwethaf…

Mae yna baradocs mawr yn nodweddu’r stori hon sydd wedi denu cymaint o sylw dros yr haf ac sy’n debyg o lenwi colofnau papur newydd am fisoedd eto i ddod.

Ar y naill law, mae’r bybl cyfryngol/San Steffanol yn unfryd unfarn nad oes gan Jeremy Corbyn unrhyw obaith ennill Etholiad Cyffredinol, pryd bynnag y gelwir yr etholiad hwnnw. Mae’r ddadl hon wedi ei hail-adrodd cymaint o weithiau fel ei bod yn atgoffa dyn o’r dywediad Lladin hwnnw; “Argumentum ad Populum” (Oherwydd bod cymaint o bobl yn dweud ei fod yn wir, felly mae’n rhaid ei fod o’n wir).

Ond wedyn, mae’r polau piniwn sydd yn mesur poblogrwydd arweinwyr y pleidiau ymhlith y cyhoedd hefyd yn awgrymu bod Corbyn dal i bolio’n drybeilig o wael ar bob cyfrif.

Ac eto, ar y llaw arall,  mae’n ymddangos imi fod syniadau Corbyn am symud tuag at wleidyddiaeth gwirioneddol gyfranogol rhagor na’r hen wleidyddiaeth gynrychioladol, mynd i’r afael ag anghyfartaledd a sicrhau cymdeithas decach, buddsoddi yn yr economi go iawn ac ymestyn cyfleoedd i bawb bron megis meme tawel-bwerus sy’n prysur ymledu i bobman er nad oes modd ei fesur yn iawn ar hyn o bryd.

Ar un ystyr, dydi hyn ddim yn rhyfeddod o gwbl. Mae gwledydd Prydain wedi profi 35 mlynedd o neo-ryddfrydiaeth sydd wedi arwain at un o’r cymdeithasau mwyaf anghyfartal ar gyfandir Ewrop. Mae hanes yn dangos inni mai symud mae’r pendil yn anorfod wedi hyn a hyn o amser, ac yn dilyn Brexit a’i holl oblygiadau, mae yna synnwyr cynyddol ein bod mewn cyfnod gwahanol  a phob math o bosibiliadau newydd yn brwydro i weld golau dydd.

Ond ynghanol y posibiliadau newydd hyn, y caswir sy’n rhaid ei wynebu yw bod y Brand Llafur ei hun bellach yn farw. Yn y lle cyntaf, mae’r enw ei hun bellach yn ymddangos yn hollol anachronistaidd ac amherthnasol yn 2016, yn gyforiog o gyfeiriadaeth at orffennol a math o gymdeithas sydd wedi hen ddiflannu o’r tir.

Yn ail, collodd Hen Lafur bob credinedd ym marn yr etholwyr oherwydd yr ystrydebau am or-ddylanwad yr undebau llafur,  diflaniad yr hen weithfeydd traddodiadol a’r ffaith fod Llafur Newydd ei hun yn ymdrech mor fwriadol nid yn unig i’w disodli ond hefyd ei thanseilio.

Yn ei thro, mae Llafur Newydd hefyd wedi ei dinistrio’n racs jibiders erbyn hyn. Yn bennaf efallai oherwydd Rhyfel Irac, ond hefyd am iddi or-addoli’r farchnad ariannol yn Llundain, colli cysylltiad â’i chefnogwyr traddodiadol, closio gormod at y Ceidwadwyr a chreu’r canfyddiad cyhoeddus mai prif ddiben y blaid oedd caniatáu i griw o siwtiau yn San Steffan i bluo’u nythod eu hunain uwchlaw popeth arall.

Erbyn hyn, yr hyn sy’n weddill yw Llafur Gwerylgar. Er gwaethaf ail fuddugoliaeth Corbyn, a methiant llwyr y coup yn ei erbyn dros yr haf – go brin y caiff yr hollt rhyngddo ef â’r mwyafrif helaeth o’r aelodau seneddol ei gyfannu.  Bydd y “trench warfare” y rhybuddiodd Corbyn rhagddo yn symud i dir newydd  a chyfnod newydd mewn dim o dro gyda Tom Watson, Sadiq Khan, a Chuka Umunna ymhlith eraill yn codi’u pennau yn rheolaidd uwchben y ffosydd i danio bwledi dirifedi at eu harweinydd druan.

Y Llafur Gwerylgar hon fydd ei diwedd hi mae gen i ofn. Mi fydd hi’n drist ar un wedd gweld sefydliad a fu mor ganolog a dylanwadol yn hanes Gwledydd Prydain yn dod i ben. Ond wedyn, o weld natur hunanddinistriol y Blaid oedd mor amlwg o hyd yn eu cynhadledd yn Lerpwl a’r dybiaeth hollol ymhonnus hon fod ganddi hawl i siarad dros “yr holl wlad” fondigrybwyll, daw rhywun i’r casgliad mai bendith ac nid melltith fydd hynny yn y pendraw.

Be’ allai ddod yn ei lle felly?

Synnwn i damaid y bydd  symudiad cymdeithasol Momentum yn datblygu i fod  yn drefniant gwleidyddol yn ei hawl ei hun cyn hir. Yn fan hyn mae’r syniadau, y bwrlwm, yr egni, a’r brwdfrydedd sydd ei angen i greu newid go iawn, ac i apelio at y miliynau dadrithiedig sydd wedi hen golli ffydd yn y system wleidyddol bresennol.

Yn y creadigrwydd organig hwn, fe welwn ni fersiwn Lloegr o’r hyn sydd wedi bod ar waith yn yr Alban ers 2014  a hynny gyda’i ffurf ei hun a’i ddeinameg ei hun.  Dyma’n union y math o wleidyddiaeth gyfranogol, drawsnewidiol y mae Jeremy Corbyn am ei weld yn ennill ei phlwyf, ac yn y sefyllfa ryfedd sydd ohoni ar hyn o bryd, pwy sydd i’w ddweud na fydd Momentum yn tyfu’n ddylanwadol iawn yn Lloegr cyn hir?

Bydd yr aelodau seneddol Llafur gwrth-Gorbynaidd hwythau yn gorfod wynebu llif hanes hefyd a phenderfynu ai ymuno gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a fyddai orau iddyn nhw, neu ymffurfio o dan enw newydd sbon –  “Democrats Together” efallai?

Ond pa bynnag ffurfiau a ddaw yn lle’r Blaid Lafur, yn hwyr neu’n hwyrach bydd rhaid i’r ffurfiau newydd hyn gydnabod yr eliffant ar riniog y drws sef natur Lloegr ei hun. Roedd hi’n arwyddocaol iawn cyn lleied o son a fu am yr Alban a Chymru yn y gynhadledd yn Lerpwl, felly efallai’n wir fod y tir yn cael ei baratoi ar gyfer wynebu’r eliffant. Ond wedyn, mae’n eliffant trafferthus iawn yn anffodus.

Sut mewn difri calon mae unrhyw blaid yn gallu llunio un neges ystyrlon all apelio at ddinas gosmopolitan Llundain, Mondeo Man yr Home Counties, ardaloedd gwledig y de, dinasoedd mawr fel Birmingham a Lerpwl, ardaloedd ôl-ddiwydiannol y Midlands a’r Gogledd-Ddwyrain, ac ardaloedd anghofiedig megis Cernyw a Gwlad yr Haf oll ar yr un pryd? Mae Lloegr yn wlad hollol ranedig yn ei hanfod ac mae’n ymddangos bod ei hen deyrnasoedd unigol megis Mercia, Wessex, a Northumberland yn parhau i daflu’u cysgod drosti.  Adlewyrchiad o’r rhaniad hwn fu holl dreialon y Blaid Lafur dros y blynyddoedd diwethaf mewn gwirionedd wrth iddynt frwydro i geisio cadw’r cwbl at ei gilydd. A bellach mae Brexit wedi dangos inni noethni llwm y cawr hwn sydd wedi teyrnasu dros yr ynysoedd hyn cyhyd.

Mae’n debyg mai’r unig beth all uno Lloegr yn y pendraw yw neges genedlaethol am hawl Lloegr i fodoli fel cenedl a bydd rhaid i Momentum a Democrats Together ddechrau llunio’r neges honno yn gyflym iawn gan fod UKIP eisoes ar y trywydd hwn yn barod.  A gyda’r Ceidwadwyr yn blaid Lloegr de facto yn barod, bydd cryn gystadleuaeth yn eu hwynebu am deyrngarwch cenedlaethol y Saeson.

A’r oblygiadau i Gymru? Er y gwag obeithio a fu mewn rhai cylchoedd am anwybyddu Lloegr a  sefydlu perthynas uniongyrchol gydag Ewrop, does dim modd inni ysgaru’n hunain o’r hyn sy’n digwydd ym myd ein cymydog mawr yn anffodus. Mae’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr wastad am ddylanwadu ar Gymru mewn amryfal ffyrdd.

Ond byddai gweld radicaliaeth Momentwm yn deffro Lloegr o’i thrwmgwsg  ynghyd â neges genedlaethol am ei rôl newydd yn y byd yn cynnig cyfleoedd newydd i Gymru hithau.  Felly, ble mae’r Momentwm Cymreig?!

BLOG: Corbyn ‘fel seren bop’

Cyhoeddwyd Medi 9, 2016 gan Cymru.

Tagiau: Jeremy Corbyn, meic birtwistle, Owen Smith, peter hain


Jeremy Corbyn
Drannoeth y ddadl deledu fawr rhwng Owen Smith a Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Meic Birtwistle sy’n egluro pam ei fod yn cefnogi Jeremy Corbyn…

Noson hyfryd ym mis Awst ar lan y môr yn Abertawe ac mae 1,200 o bobol mewn canolfan hamdden  i glywed gwleidydd yn areithio. Does dim sedd wag yn y neuadd – sefyllfa anhygoel! Ar ddiwedd y digwyddiad ,  mae’n rhaid i ni drefnu ffordd saff i’r siaradwr  adael yr adeilad oherwydd gor-frwdfrydedd y dorf i siarad ag e a siglo ei law! Trwy ddrws ochor ag e ac i mewn i gar sy’n aros amdano fe…. Yn gynharach, ym Merthyr ,mae’r un dyn yn ymddangos ar falconi  hen Neuadd y Dre Merthyr (fel Keir Hardie AS, Arweinydd cyntaf y Blaid Lafur)…mae cannoedd o bobol  yn mynd yn wallgof gan weiddi a chymeradwyo  a chwifio fflagiau cochion. Mae cefnogwyr yn ciwio i gael ei lofnod .  Mae criw o ddynion tân o swydd Essex  hyd yn oed wedi cymryd cwpwl o ddiwrnodau bant i  ddod yr holl ffordd i Gymru i glywed eu harwr. Maen nhw’n cael eu diolch trwy gael y job o ddala’r  faner enfawr ddwyieithog gyda llun yr arweinydd arni:  ‘MAE CYMRU’N CEFNOGI JEREMY FEL ARWEINYDD Y BLAID LAFUR’ … Ie  wrth gwrs, Jeremy Corbyn sy’n annerch….lle dechreuodd chwyldro Merthyr 1831… ond mae fel gwylio seren bop!

Fel swyddog y wasg mae hyn yn job bleserus er yn waith caled. Mae pawb eisiau gair gyda’r boi…. BBC, ITV, SKY papure lleol, grwpiau fideo cymunedol, a newyddiadurwr Almaeneg o’r Swistir! Hyd yn oed mwy nac yn ystod ei ymgyrch flaenorol flwyddyn yn ôl.

Y tro hyn roedd hystings Caerdydd rhwng y ddau ymgeisydd yn brofiad newydd…teimlo fel gornest arlywyddol – neu dyna fel mae’r darlledwyr am ei phortreadu hi.

Y blaid fwyaf yn Ewrop

Fel person sydd wedi trefnu cyfarfodydd politicaidd di-ri mae rhywun yn cenfigennu a syfrdanu a gorfoleddu ar y niferoedd. Mae pobol am drafod gwleidyddiaeth. Haleliwia mae democratiaeth yn fyw ac yn iach! Ac maen nhw’n ymaelodi…gan wneud y Blaid Lafur y blaid fwyaf yn Ewrop!

Ond mae’r phenomenom  yn llawer mwy na’r dyn ei hun….brwydr  yw hi rhwng yr aelodaeth a’r aelodau seneddol…pwy sy’n arwain a phwy sy’n dilyn? Ac nid yw hyn yn rhywbeth sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth Brydeinig yn unig. Yn ystod Gŵyl y Gelli ymddangosodd Yanis Varoufakis o blaid boblogaidd Syriza  – y gwleidydd asgell chwith Groegaidd – o flaen cynulleidfa  sylweddol….1,700 ohonyn nhw.  Mae newid ar y gorwel.

Ie’n wir, ar draws Ewrop yng Ngwlad Groeg , Sbaen yn ogystal â Phrydain mae syniadau asgell chwith yn ôl ar yr agenda. Nid yw Sosialaeth yn air brwnt neu amherthnasol bellach. Ac mae Owen Smith yn gorfod dilyn y llif.

Yn wir, mae hyd yn oed y bobol sydd am wrthwynebu Jeremy yn cael eu gorfodi i wneud hyn ar delerau Jeremy. Mae’r holl drafodaeth wedi symud i’r chwith. Ar ôl blynyddoedd Thatcher ac wedyn Llafur Newydd mae tra arglwyddiaeth syniadau economaidd neo- ryddfrydol yn cael eu herio go-iawn.

Nawr mae materion fel ymladd polisïau o lymder, adeiladu tai cyngor, ail- genedlaetholi’r rheilffyrdd  a’r Gwasanaeth Iechyd, gwasanaeth addysg sy’n rhad ac yn ddim, ystyried cymryd y gwasanaeth bysiau o dan reolaeth y wlad, polisi tramor sy’n blaenoriaethu trafod o flaen gwrthdaro…. mae’r rhain yn swnio fel synnwyr cyffredin eto. Polisïau a strategaethau oedd llywodraethau o bob lliw wedi arfer arddel – fel cenedlaetholi – nawr yn ôl mewn ffasiwn. Ac o ran datganoli, Jeremy sydd wedi cydnabod a chanmol y broses o ddatganoli yng Nghymru, gan foli llywodraethau  Bae Caerdydd – wedi ‘u harwain gan Lafur – am y polisi o ‘Ddŵr Claer Coch’ a’u camau radicalaidd nhw mor belled.

Ac felly dyma’r prif reswm rwy’n cefnogi Jeremy… mae ei ymgyrch wedi trawsffurfio gwleidyddiaeth y wlad. Mae diwygiad ar y gweill!

Meic Birtwistle yw Swyddog y Wasg Cymreig yr ymgyrch Jeremy Dros Lafur.

Bydd golwg360 yn cyhoeddi blog gan Peter Hain yn egluro pam mai Owen Smith yw’r dyn i arwain y Blaid Lafur.

Totalitariaeth brenhinwyr a chenedlaetholwyr

Cyhoeddwyd Medi 16, 2015 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: God Save the Queen, Jeremy Corbyn


Huw Prys Jones
Dangos  agwedd gul ac anoddefgar y mae’r rheini sy’n collfarnu Jeremy Corbyn am iddo beidio â chanu God Save the Queen, yn ôl Huw Prys Jones

Mae’r anoddefgarwch sy’n cael ei ddangos tuag at Jeremy Corbyn am iddo beidio â chanu God Save the Queen ddoe yn rhywbeth a ddylai beri pryder i bawb ohonom.

Nid gormodiaith ydi dweud bod yr agweddau sy’n cael eu mynegi yn rhai totalitaraidd eu naws.

Yr unig wladwriaeth y gallaf feddwl amdani lle byddai’n orfodol canu unrhyw gân ydi Gogledd Corea. Ai dyma’r math o wlad yr hoffai’r brenhinwyr a’r cenedlaetholwyr Seisnig hyn fyw ynddi?

Y cyhuddiad rhyfeddaf ydi bod Jeremy Corbyn yn dangos amarch tuag at goffadwriaeth y milwyr a gafodd eu lladd ym Mrwydr Prydain wrth beidio â chanu’r gân frenhinol yn y gwasanaeth ddoe.

Y cyfan a wnaeth oedd sefyll yn urddasol mewn distawrwydd yn lle canu cân nad yw’n credu ynddi.

Prin y byddai neb yn gwarafun coffadwriaeth deilwng i’r peilotiaid a roddodd eu bywydau yn erbyn goresgyniad Natsïaidd o Brydain yn 1940.

‘Canolbwyntio ar y pethau sy’n cyfrif’

Mi fyddai rhywun yn disgwyl felly y byddai newyddiadurwyr yn dangos parch at yr achlysur yng Nghadeirlan Sant Paul ddoe trwy ganolbwyntio ar y pethau sy’n cyfrif yn lle gwneud môr a mynydd o ystumiau neu osgo unrhyw wleidydd yn y ddefod o ganu anthem ar y diwedd.

Yr unig gasgliad y gellir dod iddo ydi bod y cenedlaetholwyr Seisnig hyn yn teimlo rhyw ddiffyg hyder dychrynllyd yn eu hunaniaeth os ydi pethau mor bitw â pheidio canu anthem (nad yw’n ddim byd ond cân wedi’r cwbl) yn eu tramgwyddo.

Mae’n arwydd hefyd o ryw fath  o anaeddfedrwydd cynhenid ynddyn nhw tuag at yr holl syniad o wladwriaeth a chenedl.

Onid symbolau sy’n perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ydi pethau fel anthemau a baneri p’run bynnag ac nid pethau i’w cymryd mor ddychrynllyd o ddifrifol?

Mi ddylai unrhyw genedl hunan hyderus yn yr unfed ganrif ar hugain fod ag ysgwyddau digon llydain i beidio ag amau gwladgarwch pobl nad ydynt yn dewis cydymffurfio â rhai o’i defodau traddodiadol.

Gobeithio’n wir ein bod ni fel Cymry ymhlith cenhedloedd eangfrydig o’r fath, ac na fyddwn byth fel y Saeson cul ac anoddefgar hyn.