RSS

Golwg360

MwyCau 

Cyflwr Cymru – dylanwad datganoli?

Cyhoeddwyd Medi 19, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Datganoli, Huw Edwards, Iwan England, refferendwm


Huw Edwards (Llun: S4C)
Ugain mlynedd ers refferendwm 1997, bu’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr Iwan England ar daith gyda’r cyflwynydd Huw Edwards i gasglu barn a thrafod profiadau pobol Cymru …

Ugain mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn y tywyllwch mewn stafell anghyfarwydd yn gwylio’r teledu. Hon oedd fy noson gyntaf yn rhannu tŷ gyda saith o fyfyrwyr eraill. Roeddwn i eisoes wedi bwrw fy mhleidlais y bore hwnnw, ac wedi manteisio’n llawn ar gynnig £1 y peint ym mar yr undeb.

Roedd y manylion hyn, a chyffro rhyfeddol noson Medi 18, 1997, bron yn angof tan i mi eistedd i lawr a gwylio tapiau archif o ganlyniadau Refferendwm Datganoli Cymru. Mae’n anodd credu pa mor agos oedd y bleidlais i sefydlu’r Cynulliad. Ar raglen Saesneg y BBC, roedd Peter Snow wedi darogan taw ‘Na’ fyddai’n ennill, hanner awr yn unig cyn canlyniad tyngedfennol Caerfyrddin.

Roedd hi’n drawiadol sylwi faint o’r pynciau llosg a drafodwyd yn y stiwdio’r noson honno sydd yr un mor berthnasol heddiw: diffyg trafodaeth ar faterion Cymreig yn y cyfryngau; amheuaeth o’r de ymysg y gogs, ac o’r gogledd ymysg yr hwntws; a phroblemau economaidd enbyd mewn rhannau helaeth o’r wlad. Felly oes unrhyw beth wedi newid ers y noson dyngedfennol honno? Ydy Cymru’n cael ei llywodraethu’n well neu’n waeth?

Yr her osodom i ni ein hunain fel criw cynhyrchu oedd ceisio mesur cyflwr Cymru heddiw; gorchwyl oedd yn ymylu ar yr amhosib mewn cwta awr o deledu o ystyried popeth mae’r Cynulliad yn dylanwadu arno. Felly dyma benderfynu canolbwyntio ar dri o’r meysydd sy’n ysgogi’r drafodaeth fwyaf – addysg, iechyd a’r economi. Fe aethom ati i chwilio am unigolion oedd yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd arbenigol a’u cymunedau. Pobol fyddai’n barod i ddweud yn onest a ydy’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn gwneud gwahaniaeth?

Wrth baratoi a chynnal sgyrsiau anffurfiol, y syndod mwyaf oedd bod pobol yn cyfeirio at lond llaw yn unig o ddeddfau wrth fesur llwyddiannau datganoli. Mae’r deddfau sy’n ymwneud â smygu, codi pris ar fagiau plastig a rhoi organau wedi dal dychymyg y cyhoedd. Ond prin iawn yw’r ymwybyddiaeth o union bwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad, nac o ddeddfau mwy ‘cynnil’.

Unwaith i ni ddechrau ar ein taith o amgylch y wlad, roedd pethau’n wahanol – roedd gan bawb farn glir am effaith datganoli ar eu sector arbennig nhw. Tra bod dadleuon 1997 wedi rhannu’r wlad 50/50 yn rheini o blaid ac yn erbyn datganoli, mae pethau’n fwy cymhleth ac yn fwy diddorol erbyn hyn. Roedd sawl person yn feirniadol iawn o ddiffygion mewn meysydd penodol, ond roedden nhw’n gefnogol o fodolaeth y Cynulliad ac o syniad creiddiol datganoli.

Roedd sylwadau cefnogol gan rai fel gweithwyr dur Tata ym Mhort Talbot, er enghraifft, yn agoriad llygad go iawn. O gofio pa mor wenwynig oedd y drafodaeth ynghylch y syniad o ddatganoli dim ond dau ddegawd yn ôl, mae’r newid yn arwyddocaol.

Huw Edwards: Datganoli 20: Nos Fawrth, Medi 19 am 9.30, S4C

Dathliadau cyffrous Gŵyl Dewi

Cyhoeddwyd Mawrth 15, 2013 gan Adolygiadau.

Tagiau: Huw Edwards, john bercow, Ysgol Gymraeg Llundain


John Bercow ac Elfyn Llwyd yn croesawu'r plant
Bu Ysgol Gymraeg Llundain yn dathlu dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn o weithgareddau oedd yn cynnwys canu yn Nhŷ’r Cyffredin, perfformio ar gyfer y Cylch Ti a Fi,  min nos llawn hwyl yn y twmpath a chystadlu yn yr Eisteddfod Sir ar gyfer Eisteddfod yr Urdd!

I nifer o blant yr ysgol, dyma eu hoff amser o’r flwyddyn gan eu bod yn gallu treulio penwythnos cyfan yn perfformio, dawnsio a mwynhau eu diwylliant.

Dathlu gyda’r Llefarydd

Dechreuodd y dathlu ar 28 Chwefror, yn Nhŷ’r Cyffredin, Westminster. Cyfarchwyd y plant gan John Bercow, Llefarydd y Tŷ a chyflwynodd Rhys Griffiths, disgybl Blwyddyn 5, dusw o gennin Pedr iddo ar ran yr Ysgol.

Roedd y plant wedi’u gwisgo yn y wisg Genedlaethol ac roedden nhw’n canu fel rhan o’r gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi blynyddol a gynhaliwyd yng Nghapel y Santes Fair Undercroft, Palas Westminster.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Rose Hudson-Wilkin, Caplan Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ac roedd nifer o Aelodau Seneddol yn bresennol yn y gwasanaeth gan gynnwys y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd AS sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd ac sy’n Arweinydd Plaid Cymru yn Westminster.

Roedd nifer o aelodau teuluoedd yr ysgol yn bresennol hefyd ynghyd â nifer o aelodau o gymuned Cymry Llundain gan ei wneud yn ddiwrnod arbennig i bawb.

Dywedodd Miss Sullivan, Pennaeth Ysgol Gymraeg Llundain: “Roedd cyfarfod y Llefarydd a chyflwyno tusw o gennin Pedr iddo’n brofiad unigryw a chofiadwy i’n disgyblion.  Roedd y plant wedi gwir fwynhau eu diwrnod yn Westminster a chafodd eu perfformiad yn y gwasanaeth dderbyniad gwresog.

“Hefyd, cawsom y fraint  o fynychu derbyniad yr Urdd oedd yn dilyn.  Mae’r plant a’u teuluoedd yn edrych ymlaen at y digwyddiadau pwysig hyn bob blwyddyn ac yn falch o gael eu gwahodd a chael y cyfle i berfformio.”

Miri Mawr gyda’r Cylch

Gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi’r grŵp Cylch Miri Mawr oedd y lle nesaf, ar 1 Mawrth.

Mae’r Cylch yn un o dri grŵp teulu sy’n cyfarfod yn Llundain ac mae pob un yn gyfle gwych i blant ifanc a rhieni gyfarfod ei gilydd a bod yn rhan o’r galw cynyddol yn Llundain am ddarpariaeth Gymraeg.   Mae’r awyrylch gynnes, croesawus yn le delfrydol i rieni a phlant gymdeithasu ac ymarfer eu sgiliau ieithyddol.

Mae nifer o blant o‘r amrywiol gylchoedd chwarae’n symud ymlaen i Ysgol Gymraeg Llundain i gael addysg lawn amser.  Bob blwyddyn, mae Miri Mawr, y Cylch sy’n cyfarfod ar fore Gwener, yn cynnal gweithgareddau Gŵyl Dewi bywiog a hwyliog – nid oedd eleni’n eithriad.

Dechreuodd y dathliadau gyda digon o bice ar y mân, bara brith a chacennau cwpan cartref.   Gyda nifer anhygoel o gymulleidfa a phlant yn bresennol, perfformiodd Ysgol Gymraeg Llundain amrywiaeth o ganeuon a barddoniaeth yn hyfryd.  Ar ddiwedd y dathliadau, roedd plant y Cylch yn canu dwy gan ac yn amlwg yn mwynhau y profiad o berfformio o flaen cynulleidfa am y tro cyntaf.

Roedd elw’r holl weithgareddau arbennig hyn ar gyfer y Cylch.  Diolch yn fawr i’r holl rieni a drefnodd yr achlysur pwysig hwn ac am y gefnogaeth gan nifer o aelodau capeli Cymraeg Llundain.

Tip Tap yn y Twmpath

Y Twmpath oedd y digwyddiad nesaf gyda min nos Dydd Gwyl Dewi  yng Nghanolfan Cymry Llundain yng nghanol Llundain.  Roedd y noson o ddawnsio gwerin Cymreig, i ddweud y lleiaf, yn hynod egnïol.  Galwr y noson oedd Daniel Evans oedd yn sicrhau lle llawn bwrlwm.

Daeth oedolion a phlant o Lundain i gyd at ei gilydd i ddawnsio ac, i rai, dyma’r twmpath cyntaf iddyn nhw erioed ei fynychu.  Roedd y noson yn llawn hwyl a chwerthin a  brwdfrydedd ac nid y gallu i ddawnsio oedd fwyaf pwysig.  Cynhaliwyd raffl gyda nifer fawr o wobrau gwych a gwledd o fwyd Cymreig traddodiadol blasus.

Llawer o ddiolch i Rhian Jones Canolfan Cymry Llundain a PTFA Ysgol Gymraeg Llundain am eu help i sicrhau bod y noson yn un llwyddiannus.

Cystadlu yn yr Eisteddfod

Diweddglo’r penwythnos cyffrous oedd Eisteddfod Sir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar 2 Mawrth.

Roedd cannoedd o allfudwyr Cymraeg eu hiaith o’r Deyrnas Gyfunol wedi dod i Gapel Cymraeg Jewin, Barbican i gystadlu.

Agorwyd y gweithgareddau’n swyddogol gan y Darlledwr Newyddion o News at 10, Huw Edwards.  Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar gyfer yr ‘allfudwyr’ am y tro cyntaf yn 2006, wrth i fwy a mwy o aelodau’r Urdd o’r tu allan i Gymru ddangos diddordeb mewn cystadlu.

Dywedodd trefnydd yr Urdd, Leah Owen-Griffiths, “Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Cymru gan ddenu bron i 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.  Gyda nifer cynyddol o bobl o Gymru’n setlo y tu allan i Gymru teimlem ei bod yn bwysig rhoi cyfle i’w plant gystadlu yn yr Eisteddfod.  Yn y gorffennol, cawsom gystadleuwyr o Singapore, Bahrain a myfyrwyr sy’n astudio tramor yn teithio i Lundain yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod.”

Ychwanegodd Julie Sullivan, Pennaeth Ysgol Gymraeg Llundain, “ Mae’r Eisteddfod i allfudwyr yn Llundain yn gyfle gwych i blant Ysgol Gymraeg Llundain gystadlu i ddathlu’r iaith Gymraeg.  Yng Nghymru, mae’n hawlfraint i blant gystadlu ac mae’n anhygoel gweld sut mae’r plant yn ein hysgol ni’n datblygu eu hyder, eu hiaith a’u sgiliau perfformio o ganlyniad i hyn.  Mae’r plant yn edrych ymlaen at gystadlu bob blwyddyn ac yn cael llawer o hwyl wrth wneud hynny.

Mae Dydd Gŵyl Dewi’n ddathliad pwysig yng Nghymru a gyda phenwythnos lawn o weithgareddau yn Llundain, mae’n gwneud i ni deimlo nad ydym yn bell o gartref.”

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain: Nona Jolly Jones, Ruben Fletcher, Carys Hind, Cerys Thomas, Gruff Thomas a Mabli Fflur Reynolds a fu’n llwyddiannus yn y rowndiau unigol, a bydd côr yr ysgol a’r grŵp llefaru’n cynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod yr Urdd.

Bydd y rhain, ynghyd ag aelodau Aelwyd yr Urdd Llundain yn teithio i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro eleni o 27 Mai – 1 Mehefin.


Huw Edwards a'r plant

Y plant yn Nhy'r Cyffredin