RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 2)


Mae Non Tudur yn dal ati’n ddygn gyda gweddill aelodau Côr Heli ar gyfer yr Wyl Cerdd Dant a gynhelir ym Mhwllheli ar Dachwedd 12…

Anadlu. Yn y man cywir. Mae hyn yn HANFODOL. Bydd yr ymarfer yn dod i stop os bydd yr arweinydd yn clywed anadl fawr.

Rhaid cuddio’r anadl rhwng geiriau neu gymal, neu ei gymryd ynghynt yn y llinell, er mwyn eich cario at y diwedd. Rhywbeth tebyg i’r hen ‘gipanadl’ fondigrybwyll y mae’r dihafal gerdd-dantes Sioned Grug (un o gymeriadau comig Caryl Parry Jones) yn ein cynghori arno. Ond efallai yr af i ailastudio dosbarthiadau meistr Sioned – mae yna lot fawr o reolau yn codi wrth ganu cerdd dant. Rhaid ynganu ‘min’ fel ‘mun’, a pheidiwch sôn wrtha i, fel rhywun o Aberystwyth, am drio canu’r gair ‘Llŷn’. A gwenu wrth ganu! Help…

Peidio ynganu ‘ei’

Dylech chi ddim ynganu ‘ei’ fel yn ‘ceir’. Na, mi ddylech ganu ‘ei’ fel i-dot bob un tro. Nid oes y fath beth ag ‘ei’ ar lafar yn Gymraeg. Gwrandewch ac EIliwch.

Blino a llusgo

“Rhaid i chi gyflymu yn y pennill cynta yna, neu erbyn i chi gyrraedd y chweched pennill fe fyddwch chi gyd ar eich cefnau, ar ‘y ngwir.” Dyna gerydd caredig ond difrifol yr arweinydd Alwena – un sy’n aml yn ennyn chwerthin gyda’i disgrifiadau digri o fyd cerdd dant – yn y chweched ymarfer. Y peth yw, gyda chynifer mewn côr, pwy a ŵyr pwy na beth sy’n arafu’r côr. Y dôn / gainc / alaw / y gynghanedd sydd ar fai, nid ni! Wir.

Odi, mae pawb yn trio’u gore glas. Ac am wneud hynny tan y diwedd un. Mae ymuno â chôr cerdd dant – o ran traddodiad cystadleuol yr oes fodern, felly – fel tyngu llw i wasanaethu mewn mintai filwrol. Ein lleisiau yw’n picellau tân. Mae yn llafur cariad, a mawr yw fy edmygedd o’r arweinwyr sy’n gwneud hyn yn gwbl wirfoddol, dros barhad y Pethe a’r Gymraeg.

Ry’n ni’n griw, yn dîm, yn gatrawd, yn gôr. Nid oes dianc rhagor.

Ond mae hi’n hanner awr ’di naw yn barod, mae taith hanner awr adref o ’mlaen a rhaid ymarfer y ddau bennill olaf o leiaf unwaith eto…

Ond BETH fyddwn ni’n ei wisgo?

Dyma yw’r pwnc that dare not speak its name. Fe glywch chi ryw fwmial y tu allan i’r festri cyn bob ymarfer – ‘do, mi soniodd hon a hon am hynny y tro d’wetha, ond does na neb wedi dweud dim’. Er i ni drafod sawl syniad ymysg ein gilydd – yr ymateb rhadlon a geir yn ddiffael yw ‘ond dydi hynny ddim yn gweddu pawb’. Hunllef i’r arweinyddion.

Ym Mhwllheli fyddan ni, ac mae’r môr a’r heli yn rhan o wead y côr, felly fe gewch chi ddyfalu. Dewch i Blas Heli ym Mhwllheli ar Dachwedd 12 neu gwyliwch ar S4C i weld p’un ai “blodyn mawr” yn unol ag un o argymhellion Sioned Grug, ynteu rhywbeth bach mwy sidêt fyddwn ni’n ei wisgo.

Iaics! Mi fyddwn ni ar y teli!

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 1)


Ymhen tair wythnos, fe fydd yr Wyl Cerdd Dant yn ymweld â Phwllheli. Eleni, mae Non Tudur yn edrych ymlaen at ei morio hi yng nghanol y cerdd dantwyr profiadol…

A dyna ni. Dw i wedi ei gwneud hi. Wedi camu o’r ochr dywyll, ac wedi gweld y golau (i eraill, dw i wedi gwerthu mas, wedi mynd yn gul, ac wedi colli arni). Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant.

Nid unrhyw gôr, ond côr mawr at Ŵyl Cerdd Dant 2016 ym Mhwllheli ganol Tachwedd, o dan arweiniad dwy arglwyddesau’r byd cerdd dant, Gwenan Gibbard ac Alwena Roberts. Daeth y gwahoddiad gan Gwenan, ar ôl i mi gyfaddef wrthi un tro bod gen i (a sawl un arall) ryw ysfa gref i brofi cerdd dant ryw ddydd. Ie, ha ha. Yn anffodus, mae Gwenan yn un anodd iawn i’w gwrthod am ei bod hi mor dirion ei natur.

“Paid a phoeni, bydd rhai ohonyn nhw erioed wedi canu cerdd dant o’r blaen,” meddai, fel mêt. Ac yna’r fwyell: “A digwydd bod, mi fyddwn ni yn canu ar gainc enwog dy fodryb Nan, ‘Penyberth’.” Dyna selio’r ddêl.

Serch hynny, fe fyddai’n golygu teithio hanner awr yn ôl a blaen bob nos Fercher am ddeg wythnos gyfan. Minnau a babi blwydd yn ordueddol o ddeffro yng nghanol nos. Beth ddaeth dros fy mhen? Wedi oes o wadu f’etifeddiaeth, a nosweithiau di-ri’ yn beirniadu cerdd dant ar y soffa adre’, dyma gyfle i fyw’r peth drosof i fy hun.

Roedd yn gynnig unwaith mewn oes. Doedd dim amdani ond cytuno.

Ond fydda i ddim yn nabod neb…

Mae hyn yn bwynt dilys. Os byddwch yn ymuno â chôr ym mherfeddion y fro Gymraeg, mae’n debyg y bydd y lleill yn nabod ei gilydd yn dda IAWN. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi hel at ei gilydd o bob cornel o Lŷn ac Eifionydd ac o Arfon.

D’yn nhw ddim wedi arfer gofyn ‘un o le ydach chi?’ gan eu bod i gyd yn adnabod ei gilydd yn dda IAWN. Ond edrychodd neb yn gam arna i, diolch byth. Maen nhw’n deall y sgôr. Ry’n ni yno i ganu cerdd dant. Yr efengyl sanctaidd.

Yn ei deall hi

Daeth tua 70 i’r ymarfer cyntaf diolch i apêl hwyliog Gwenan. Mae’r nifer wedi aros yn lled gyson trwy’r ymarferion cyntaf, er i haul mis Medi ildio’i le i dywyllwch yr hydref gyda phob ymarfer.

Mae grwn naturiol swynol yn perthyn i griw sydd wedi hen arfer â chyd-ganu cerdd dant – fel sŵn tonnau bach yn torri ar draethell unig. Rhyw asio cyfrin. Mae eisiau ychydig bach o grap ar gerddoriaeth arnoch chi i ddilyn ymarferion.

Cyfle neu ddau sydd yna i ddysgu llinellau’r altos neu’r sopranos ar eich pennau eich hunain, yna pawb drostyn nhw eu hunain wedyn a hei lwc i chi (a chlustfeinio’n slei bach ar eich cymdogion hyderus – cofiwch sodro’ch hun yng nghanol cantorion eich cyfryw lais).

Ond r’yn ni mewn dwylo da; o fewn dau ymarfer roedd o leia’ bedwar pennill yn y bag. Waw.