RSS

Golwg360

MwyCau 

Cyflwr Cymru – dylanwad datganoli?

Cyhoeddwyd Medi 19, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Datganoli, Huw Edwards, Iwan England, refferendwm


Huw Edwards (Llun: S4C)
Ugain mlynedd ers refferendwm 1997, bu’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr Iwan England ar daith gyda’r cyflwynydd Huw Edwards i gasglu barn a thrafod profiadau pobol Cymru …

Ugain mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn y tywyllwch mewn stafell anghyfarwydd yn gwylio’r teledu. Hon oedd fy noson gyntaf yn rhannu tŷ gyda saith o fyfyrwyr eraill. Roeddwn i eisoes wedi bwrw fy mhleidlais y bore hwnnw, ac wedi manteisio’n llawn ar gynnig £1 y peint ym mar yr undeb.

Roedd y manylion hyn, a chyffro rhyfeddol noson Medi 18, 1997, bron yn angof tan i mi eistedd i lawr a gwylio tapiau archif o ganlyniadau Refferendwm Datganoli Cymru. Mae’n anodd credu pa mor agos oedd y bleidlais i sefydlu’r Cynulliad. Ar raglen Saesneg y BBC, roedd Peter Snow wedi darogan taw ‘Na’ fyddai’n ennill, hanner awr yn unig cyn canlyniad tyngedfennol Caerfyrddin.

Roedd hi’n drawiadol sylwi faint o’r pynciau llosg a drafodwyd yn y stiwdio’r noson honno sydd yr un mor berthnasol heddiw: diffyg trafodaeth ar faterion Cymreig yn y cyfryngau; amheuaeth o’r de ymysg y gogs, ac o’r gogledd ymysg yr hwntws; a phroblemau economaidd enbyd mewn rhannau helaeth o’r wlad. Felly oes unrhyw beth wedi newid ers y noson dyngedfennol honno? Ydy Cymru’n cael ei llywodraethu’n well neu’n waeth?

Yr her osodom i ni ein hunain fel criw cynhyrchu oedd ceisio mesur cyflwr Cymru heddiw; gorchwyl oedd yn ymylu ar yr amhosib mewn cwta awr o deledu o ystyried popeth mae’r Cynulliad yn dylanwadu arno. Felly dyma benderfynu canolbwyntio ar dri o’r meysydd sy’n ysgogi’r drafodaeth fwyaf – addysg, iechyd a’r economi. Fe aethom ati i chwilio am unigolion oedd yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd arbenigol a’u cymunedau. Pobol fyddai’n barod i ddweud yn onest a ydy’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn gwneud gwahaniaeth?

Wrth baratoi a chynnal sgyrsiau anffurfiol, y syndod mwyaf oedd bod pobol yn cyfeirio at lond llaw yn unig o ddeddfau wrth fesur llwyddiannau datganoli. Mae’r deddfau sy’n ymwneud â smygu, codi pris ar fagiau plastig a rhoi organau wedi dal dychymyg y cyhoedd. Ond prin iawn yw’r ymwybyddiaeth o union bwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad, nac o ddeddfau mwy ‘cynnil’.

Unwaith i ni ddechrau ar ein taith o amgylch y wlad, roedd pethau’n wahanol – roedd gan bawb farn glir am effaith datganoli ar eu sector arbennig nhw. Tra bod dadleuon 1997 wedi rhannu’r wlad 50/50 yn rheini o blaid ac yn erbyn datganoli, mae pethau’n fwy cymhleth ac yn fwy diddorol erbyn hyn. Roedd sawl person yn feirniadol iawn o ddiffygion mewn meysydd penodol, ond roedden nhw’n gefnogol o fodolaeth y Cynulliad ac o syniad creiddiol datganoli.

Roedd sylwadau cefnogol gan rai fel gweithwyr dur Tata ym Mhort Talbot, er enghraifft, yn agoriad llygad go iawn. O gofio pa mor wenwynig oedd y drafodaeth ynghylch y syniad o ddatganoli dim ond dau ddegawd yn ôl, mae’r newid yn arwyddocaol.

Huw Edwards: Datganoli 20: Nos Fawrth, Medi 19 am 9.30, S4C

BLOG: Dim cyfundrefn gyfreithiol annibynnol i Gymru – ar hyn o bryd

Cyhoeddwyd Mawrth 15, 2017 gan Blog Meddwl.

Tagiau: Cadeirydd, Caerdydd, Cyfreithwyr, Datganoli, Enid Rowlands, SRA


Enid Rowlands (Llun: SRA)
Ers fy mhenodi’n Gadeirydd lleyg cyntaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn 2015, rwyf wedi ymrwymo i ddod allan o’r swyddfa a chydweithio’n agos â phobol yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwetha’, bues i a fy mwrdd ym Mae Caerdydd, gan gyfarfod â rhyw 80 o bobol o’r sector cyfreithiol a’r tu allan iddo er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth.

Un pwnc trafod oedd a ddylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Mae’n eglur bod corff cynyddol o gyfraith Gymreig, ac mae’n sicr yn drafodaeth ddiddorol.

Yn rhinwedd fy swydd fel rheoleiddiwr, dw i ddim yn credu mai’n rôl ni yw pleidio’r naill ochr neu’r llall yn y ddadl. Mater i gyhoedd a llywodraeth Cymru yw hyn.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai cadw’r trefniadau presennol yw’r dewis ar y cyfan ond, wrth gwrs, fe allai hynny newid dros y blynyddoedd. Felly byddwn yn monitro’r drafodaeth yn ofalus, i sicrhau ein bod yn deall y goblygiadau ar gyfer ein gwaith ni ac ar gyfer diogelu defnyddwyr yng Nghymru.

Er enghraifft, un peth sy’n ganolog i’n gwaith yw pennu a gorfodi safonau ac ymddygiad proffesiynol uchel i gyfreithwyr. Rydym yn nodi egwyddorion allweddol yn ein rheolau, megis diogelu buddiannau cleientau – er enghraifft, drwy gadw eu harian a’u gwybodaeth yn ddiogel.

Fforddio gwasanaeth cyfreithiol

Nid dim ond sgyrsiau mewn digwyddiadau a chyfarfodydd ffurfiol sy’n bwrw goleuni ar yr hyn sy’n bwysig i bobol. Rwy’n siarad â phobol ledled y wlad ynghylch gwasanaethau cyfreithiol.

Mae llawer i’w ddathlu ynglŷn â sector cyfreithiol Cymru. Gyda 450 o ffyrmiau a bron 5,000 o gyfreithwyr, mae trosiant y sector yn fwy na £380m ac fe dyfodd 3% y llynedd. Ond mae sylwadau rwy’n eu clywed mewn amrywiaeth mawr o sgyrsiau’n dadlennu problemau sy’n peri pryder.

Mae yna broblem o hyd bod gormod o bobol yn methu fforddio gwasanaethau cyfreithiol.

Pwysig

Mae gwasanaethau cyfreithiol yn bwysig i ni i gyd. Maen nhw’n gallu helpu ar rai o’r adegau pwysicaf yn ein bywydau – wrth brynu tŷ, ymdrin â chyflogwr diegwyddor, neu drafod tor perthynas.

Mae ymchwil yn dangos bod pobol yn credu bod gwasanaethau cyfreithiol yn rhy ddrud, hyd yn oed pan fydd pobol yn sylweddoli bod ganddyn nhw broblem gyfreithiol – a fydd llawer ddim yn sylweddoli. Dim ond un ym mhob 10 o bobol sy’n defnyddio cyfreithiwr neu fargyfreithiwr pan fydd ganddyn nhw broblem gyfreithiol.

Mae’n rhaid ei bod yn anghywir bod gennyn ni system ddwy-haen lle mae’r mwyafrif mawr yn methu cael gafael ar y cymorth angenrheidiol i orfodi neu i amddiffyn eu hawliau.

Mae yna drafodaeth ddilys ynghylch rôl Cymorth Cyfreithiol i fyd i’r afael â’r broblem hon, ond nid dyna’r ateb i bopeth. Does gan y cyllid cyhoeddus mo’r adnoddau i gau’r bwlch. Beth felly all y sector ei hunan ei wneud i’w gwneud yn haws i bobl sicrhau cymorth?

Gwell gwybodaeth i’r cyhoedd

Rwy’n croesawu dyfarniad diweddar yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) fod angen diwygiad er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd yn well. Maen nhw’n argymell mwy o dryloywder.

Rwy’n cytuno bod diffyg gwybodaeth am wasanaethau cyfreithiol yn rhan o’r broblem. Mae pobl yn cael eu gadael i wneud dewisiadau dall am ei bod yn anodd cael yr wybodaeth y mae ei hangen er mwyn cymharu darparwyr a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym wrthi’n ystyried sut y gallai pobl gael gwybodaeth ystyrlon am wasanaethau, ansawdd a phrisiau, er mwyn chwilio am fargen well. Bydd dysgu gwersi o sectorau eraill lle mae hyn wedi digwydd yn barod – o ynni i wasanaethau ariannol – yn siŵr o helpu.

Dylai symudiad o’r fath helpu i greu marchnad gyfreithiol fwy agored a chystadleuol sy’n sbarduno mwy o ddewis a gwasanaethau mwy fforddiadwy. Bydd o fantais hefyd i’r busnesau bach sy’n ffurfio asgwrn cefn economi Cymru. Gall ffyrmiau cyfraith helpu’r rhain i dyfu a llwyddo: o gyflogi eu gweithiwr cyntaf i gwblhau eu gwerthiant ar-lein neu eu hallforiad cyntaf. M

ae ar economi agored, cystadleuol angen sector cyfreithiol agored, cystadleuol.

Tra na fydd y mwyafrif yng Nghymru’n gallu fforddio gwasanaethau cyfreithiol, allwn ni ddim fforddio parhau i wneud yr un hen bethau.

Drafft Mesur Cymru – sarhad i’n gwlad

Cyhoeddwyd Ionawr 14, 2016 gan Joe Chucas.

Tagiau: Datganoli, Joe Chucas, Mesur Cymru


Joe Chucas
Joe Chucas sydd yn cyhuddo cynlluniau’r Ceidwadwyr o dynnu Cymru nôl i’r gorffennol …

Ymgais chwerthinllyd gan Lywodraeth San Steffan yw’r Mesur newydd i geisio dofi Cymru a thynnu’r wlad yn nôl i’r gorffennol.

Mae hi’n tanseilio’r gefnogaeth gyson sydd wedi bod i ddatganoli, gan mai bwriad y bil yw atal Cymru rhag medru creu deddfau ar faterion sydd eisoes wedi’u datganoli, heb ganiatâd Aelod Seneddol o Lundain.

Yn ystod y refferendwm yn 2011, mi wnaeth 21 o’r 22 awdurdod yng Nghymru bleidleisio dros roi hawl i’r Cynulliad ddeddfu ar yr holl faterion sydd wedi eu datganoli HEB ymyrraeth o San Steffan.

Ond mae’r mesur newydd yn bygwth gwyrdroi’r penderfyniad hwnnw yn llwyr.

Angen y grym

Mae’r polau diweddar wedi awgrymu bod cefnogaeth y Cymry tuag at ddatganoli pellach ar gynnydd, ac mae comisiynau annibynnol Silk a Holtham wedi argymell hyn eisoes.

Wrth edrych yn ôl ar hanes Cymru, fe allwn weld yn sicr pam fod ei angen.

Yn 1965, mi gafodd trigolion Capel Celyn eu gorfodi’n ddisymwth i symud o’u cartrefi, cafodd y capel ei chwalu a’r fynwent ei chladdu dan sment yn ddidrugaredd er mwyn adeiladu’r gronfa ddŵr.

Er yr holl brotestio, gyda 39 o 40 AS Cymru yn pleidleisio yn erbyn hyn (a’r AS arall yn ymatal rhag pleidleisio) fe gafodd y penderfyniad ei wneud. Doedd yr un o ASau Cymru yn cefnogi’r penderfyniad ond mi roedd San Steffan, yn amlwg, yn gwybod yn well.

Wrth edrych nôl ymhellach fe gofiwn fod y Cymry wedi cael eu galw’n ‘ddiog, yn dwp ac yn anfoesol’ ym Mrad y Llyfrau Gleision oherwydd bod gwell ganddynt siarad Cymraeg; ac fe gafodd defnydd o’r iaith ei wahardd mewn ysgolion gyda chosb lem i’r rhai oedd yn mynnu dweud unrhyw beth yn eu hiaith gyntaf.

Fe sylweddolwn hefyd, ar hyd yr 20fed ganrif, nad yw’r Blaid Geidwadol erioed wedi cael mwyafrif yng Nghymru, ond eto dyna’r Llywodraeth wnaeth ein penderfyniadau drosom ni am 57 mlynedd o’r ganrif honno.

Hunanlywodraeth – nid annibyniaeth

Efallai’ch bod chi’n anghytuno â’r hyn rydw i wedi’i ddweud uchod, a’ch bod chi’n credu’r un peth ag arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban – nad yw’r ‘Celtiaid’ yn “genetically programmed” i wneud penderfyniadau.

Ydi Llywodraeth Cymru – sydd wedi cynnal ffioedd dysgu isel, wedi gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr o 23.8%, ac wedi cael gwared â ffioedd presgripsiwn – yn fethiant llwyr?

Mae unrhyw wlad yn llawer mwy llewyrchus os yw hi’n llywodraethu ei hun, ac os oes ganddi wleidyddion sydd wedi’u hethol yn gyfrannol i ganran y pleidleiswyr, gan roi llais go iawn i bobl ynglŷn â dyfodol eu gwlad.

Mae hi’n wir fod Cymru yn wlad rhy fach – rhy fach i gael unrhyw effaith yn San Steffan, hynny yw.

Dyw 40 AS a phoblogaeth o 3.5miliwn byth am greu tolc hyd yn oed, pan mae gan y Deyrnas Unedig 650 o Aelodau Seneddol a phoblogaeth o 60miliwn, niferoedd sy’n drech na Chymru yn hawdd.

Ond dydi hi ddim yn rhy fach i gael hunanlywodraeth, o leiaf i’r un graddau ag y mae Senedd yr Alban yn cael llywodraethu ei hun.

Mae llawer o bobl yn ofni y byddai hyn yn arwain at annibyniaeth i Gymru, ac yn eu tyb nhw ansicrwydd economaidd, ond dadl a refferendwm arall fyddai hynny!

Mae cam mawr rhwng hunanlywodraethu ar faterion sydd wedi’u datganoli, ac annibyniaeth, cam dyw Cymru ddim mewn sefyllfa ddigon cryf i’w cymryd eto – ond nid dyna beth ‘dw i’n ei awgrymu.

Gwleidyddion o fri

Dylai unrhyw un sy’n dadlau na all Cymru gynnig atebion digonol i’w phroblemau gymryd eiliad i gofio am hanes cyfoethog rhai o’n gwleidyddion amlycaf ni.

David Lloyd George, a gyflwynodd Yswiriant Cenedlaethol a phensiynau, wnaeth sefydlu’r Wladwriaeth Les, a gostwng pwerau Tŷ’r Arglwyddi; Aneurin Bevan, a sefydlodd y Gwasanaeth iechyd; James Callaghan, Prif Weinidog y DU yn ystod y saithdegau; Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru a wnaeth ymprydio dros gael S4C; hyd yn oed llwyddiannau diweddar llai amlwg, ond blaengar beth bynnag, gan y Cynulliad gan gynnwys y ddeddf rhoi organau, a threth arfaethedig ar ddiodydd meddal.

Mae’r Mesur Drafft diweddaraf ar gyfer Cymru yn bleidlais o ddiffyg hyder gan San Steffan, sy’n anwybyddu ein hanes gwleidyddol cyfoethog, ein hawl i hunanlywodraeth, a’r effaith enbyd o beidio â gadael i bobl Cymru wneud penderfyniadau dros eu hunain.

Mae Joe Chucas yn fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd ac yn astudio Busnes ar gynllun Erasmus ym Mhrifysgol Toulouse yn Ffrainc.

Cymru unwaith eto ar waelod tomen datganoli

Cyhoeddwyd Chwefror 11, 2015 gan Cymru.

Tagiau: Bil Asbestos, Datganoli


Gwenno Williams
Mae’r Bil Asbestos wedi amlygu unwaith eto rhai o ddiffygion y drefn ddatganoli, yn ôl Gwenno Williams …

Wel am gic i’r asennau! Yr wythnos yma, fe wnaeth y Goruchaf Lys wrthdroi Bil Asbestos a basiwyd gan y Cynulliad yn Nhachwedd 2013, gan ddatgan nad oes gan y Cynulliad y pŵer deddfwriaethol i gyflwyno cyfraith o’r fath.

Bwriad y bil oedd mynnu mai cyfrifoldeb busnesau a’u cwmnïau yswiriant, ac nid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yw ariannu triniaeth feddygol gweithwyr o ganlyniad i effeithiau asbestos.

Derbyniodd y bil gymeradwyaeth am gosbi’r rhai a oedd yn gyfrifol am droi llygad ddall at y defnydd o asbestos yn eu gweithleoedd, gan ad-dalu’r GIG ar yr un pryd.

Cynigodd Mick Antoniw, AS Pontypridd, y bil ar ôl gweld effaith asbestos ar unigolion a’u teuluoedd yn ystod ei yrfa fel cyfreithiwr.

Rhagolygwyd y byddai’r bil yn cynhyrchu hyd at £1miliwn y flwyddyn i’w ddefnyddio gan y GIG i ymhelaethu ar driniaethau mesothelioma, sef y cancr a achosir gan asbestos.

Ar ôl blwyddyn i’w anghofio yn hanes y GIG, byddai miliwn ychwanegol bob blwyddyn wedi cael ei dderbyn yn llon.

Pŵer y cwmnïau mawr

Ond wrth gwrs, cafodd y bil ei herio o’r cychwyn cyntaf gan y cwmnïau yswiriant a Chymdeithas Yswirio Prydain.

Teimlaf anghrediniaeth lwyr wrth weld y pŵer sydd gan fusnesau Llundain dros systemau cyfreithiol y wlad, a’u bod wedi llwyddo unwaith eto i osod agenda barus yn uwch na’u dyletswyddau dinesig.

Mae’n gwbl amlwg pwy ddylai dderbyn y bai am achosi’r cymhlethdodau iechyd. Rheolwyr y busnesau oedd wedi anwybyddu’r goblygiadau o ddefnyddio asbestos yn eu hadeiladau, ac felly rhaid iddynt dderbyn y canlyniadau ac ysgwyddo’r baich ariannol.

Ond eu dadl nhw ydi y byddai’r bil wedi achosi cynnydd yn nhaliadau yswiriant busnesau Cymru, heb ategu unrhyw fudd ychwanegol i ddioddefwyr mesothelioma.

Mae’n gwbl eironig iddynt hefyd hawlio y bydd y ddeddf yn mynd yn groes i’r Bil Hawliau Dynol Ewropeaidd – bil y mae eu ffrindiau ym mhlaid y Torïaid wedi’i wawdio ers ei gyflwyniad ym Mhrydain yn 2000.

Mae dylanwad y cwmnïau yma hyd yn oed yn fwy eglur o ystyried bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu o blaid gallu ddeddfwriaethol y Cynulliad mewn achosion blaenorol, megis newidiadau i is-ddeddfau llywodraethau lleol ac ail-sefydlu’r Bwrdd Cyflogau  Amaethyddol.

Gwaelod y domen

Y cwmnïau yswiriant oedd hefyd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am blannu’r hedyn ynglŷn â chymhwysedd y Cynulliad i wneud newidiadau cyfreithiol o’r fath.

Ac felly gwelwn wir broblem yr achos yma, sef y diffyg gallu sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w thrigolion heb ganiatâd.

Er bod y pwerau gennym i benderfynu ar ariannu a threfnu’r GIG, mae’n debyg nad ydyn ni’n gymwys i fynd yn erbyn trefn gweddill Prydain.

Ar ôl yr holl halibalŵ am geisio creu Prydain decach yn sgil y galwad am annibyniaeth i’r Alban a’r addo di-baid am ddatganoli pellach, dyma ni unwaith eto ar waelod y domen.

Tybed os fyddai’r canlyniad wedi bod yr un fath petai Llywodraeth yr Alban wedi cynnig y bil? Mae gwrthod pasio bil ar y sail ei fod y tu hwnt i’n gallu gwleidyddol yn sarhaus i ddweud y lleiaf.

Mae’n cwestiynu rôl y Cynulliad, gan droi Cymru’n blentyn mewn gwirionedd, gyda San Steffan yn lapio ychydig o bwerau yn anrheg i’n cadw’n hapus a mud.

Ond yr eiliad rydyn ni’n camfihafio a gofyn am fwy, daw’r ymateb anhygoel o wrthod ein cydnabod a mynnu ein bod ni’n ddiolchgar am y briwsion sydd gennym.

Mae’r holl beth yn tanseilio datganoli yn llwyr, gan ein hysgogi i ystyried faint o bŵer sydd wir gennym wrth reoli ein gwlad ein hunain.

Gydag eleni’n flwyddyn etholiad, mae’n bryd i ni ystyried ein datblygiad dros y pedair blynedd diwethaf, gan ofyn am ychydig o eglurhad am beth yn union sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Mawr obeithiaf y bydd pob plaid wleidyddol yng Nghymru yn gosod datganoli yn uchel ar yr agenda, a bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd gan y cyhoeddiad ar ddatganoli ar Ddydd Gŵyl Dewi i’w gynnig yn y gobaith o osgoi ffars arall fel hon yn y dyfodol.

Mae Gwenno Williams yn fyfyrwraig fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.