RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 3)

Cyhoeddwyd Tachwedd 9, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.

Tagiau: cor heli, llyn ac eifionydd, ymarferion, yr wyl cerdd dant


Dim ond tridiau i fynd. Sut y digwyddodd hynny? Hedfanodd yr wythnosau i rywle, fel hen wrach ar ysgub drwy hud yr hydref.

Rydyn ni ar yr ochr dywyllaf i Galan Gaeaf, ac mae yna gyffro i’w deimlo at y noson fawr ym Mhlas Heli. Ewch yno rywbryd am sbec a thamed i fwyta, gyda llaw; mae yna olygfa ddihafal draw at Berch (traeth Abererch) ac Eryri. Ni fydd cyfle i fwynhau’r olygfa nos Sadwrn, wrth gwrs, a phawb ar bigau’r drain yn barod i gamu ar lwyfan.

Bu’n rhaid i mi golli ambell ymarfer, er cywilydd, ar ôl i’r babi fod yn sâl sawl gwaith y mis diwethaf, a minnau yn dychwelyd i’r gwaith. Nid yr adeg delfrydol i ymuno â chôr, ond fel na mae hi.

Y tro nesa’ – ac ydw, dw i’n ffyddiog y bydd yna dro nesa’ os cymrith ryw gôr bach fi – fydda’ i ddim yn colli’r un ymarfer. Dyw peidio â mynd i ymarfer ddim yn deg â phawb arall, yn enwedig yr arweinwyr sy’n gorfod bod yno yn ddiffael.

Cerdd dant ‘go iawn’

Mae bod yn y côr yn dipyn o hwyl ac yn gyffrous. Serch hynny, wn i ddim faint o brofiad cerdd dant ‘go iawn’ y mae rhywun yn ei gael mewn côr mawr fel hwn, o ran dysgu’r hen, hen grefft. Ymarferion tebyg i ymarferion côr cyffredin ydyn nhw, a rheiny o’r safon uchaf; pawb yn mynd ati i ddysgu eu llais (alto, alto canol, soprano, soprano canol) ac asio yn gelfydd wedyn.

Mae hanfodion y grefft yno, wrth gwrs – bydd y cyfeilydd yn chwarae’r gainc wreiddiol a ninnau’n canu’r gyfalaw wahanol, sef y gosodiad.  Ond rydyn ni’n cael copi hen-nodiant o’r gosodiad pedwar llais ac yn cael ymarfer ymlaen llaw. Mae’n debyg taw canu o’r glust yn fyrfyfyr fyddai’r hen gantorion penillion, a hynny am ryw achlysur neu’i gilydd o’r byd yr oedden nhw’n perthyn iddo; nid detholiad o awdl fawr am dranc yr iaith ac am ‘fur Gwynedd’ yn gwegian.

Wedi dweud hynny, falle ’mod i jyst ddim yn sylwi; efallai bod y gwir grefft yn cael ei hau ynon ni’n ddwfn ddwfn wrth i ni gael ein dysgu i godi a gostegu, cyflymu a phwyllo, gwenu a difrifoli.

Efallai taw mynd ati ar eich liwt eich hun sydd raid. Gwell byth, ddysgu gosod cerdd dant – a hynny wrth draed y meistri ar y cyrsiau gosod niferus sy’n cael eu trefnu ar hyd y wlad erbyn hyn. Does yna ddim esgus bellach dros beidio â thrwytho’ch hun yn hen draddodiadau gwerin ein gwlad os taw dyna chi’n ei ddymuno.

Am y tro, r’yn ni yma i gystadlu, a hynny mewn gŵyl fawr genedlaethol. Mae pobol yr ardal wedi gweithio yn galed yn codi arian ac yn pwyllgora a threfnu. Da clywed bod dros ddeg ymhell o bartïon cerdd dant am gystadlu nos Sadwrn (Tachwedd 12). Ac mae’r gwybodusion i gyd yn edrych ymlaen at yr ornest rhwng y corau.

Iaics!

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 2)


Mae Non Tudur yn dal ati’n ddygn gyda gweddill aelodau Côr Heli ar gyfer yr Wyl Cerdd Dant a gynhelir ym Mhwllheli ar Dachwedd 12…

Anadlu. Yn y man cywir. Mae hyn yn HANFODOL. Bydd yr ymarfer yn dod i stop os bydd yr arweinydd yn clywed anadl fawr.

Rhaid cuddio’r anadl rhwng geiriau neu gymal, neu ei gymryd ynghynt yn y llinell, er mwyn eich cario at y diwedd. Rhywbeth tebyg i’r hen ‘gipanadl’ fondigrybwyll y mae’r dihafal gerdd-dantes Sioned Grug (un o gymeriadau comig Caryl Parry Jones) yn ein cynghori arno. Ond efallai yr af i ailastudio dosbarthiadau meistr Sioned – mae yna lot fawr o reolau yn codi wrth ganu cerdd dant. Rhaid ynganu ‘min’ fel ‘mun’, a pheidiwch sôn wrtha i, fel rhywun o Aberystwyth, am drio canu’r gair ‘Llŷn’. A gwenu wrth ganu! Help…

Peidio ynganu ‘ei’

Dylech chi ddim ynganu ‘ei’ fel yn ‘ceir’. Na, mi ddylech ganu ‘ei’ fel i-dot bob un tro. Nid oes y fath beth ag ‘ei’ ar lafar yn Gymraeg. Gwrandewch ac EIliwch.

Blino a llusgo

“Rhaid i chi gyflymu yn y pennill cynta yna, neu erbyn i chi gyrraedd y chweched pennill fe fyddwch chi gyd ar eich cefnau, ar ‘y ngwir.” Dyna gerydd caredig ond difrifol yr arweinydd Alwena – un sy’n aml yn ennyn chwerthin gyda’i disgrifiadau digri o fyd cerdd dant – yn y chweched ymarfer. Y peth yw, gyda chynifer mewn côr, pwy a ŵyr pwy na beth sy’n arafu’r côr. Y dôn / gainc / alaw / y gynghanedd sydd ar fai, nid ni! Wir.

Odi, mae pawb yn trio’u gore glas. Ac am wneud hynny tan y diwedd un. Mae ymuno â chôr cerdd dant – o ran traddodiad cystadleuol yr oes fodern, felly – fel tyngu llw i wasanaethu mewn mintai filwrol. Ein lleisiau yw’n picellau tân. Mae yn llafur cariad, a mawr yw fy edmygedd o’r arweinwyr sy’n gwneud hyn yn gwbl wirfoddol, dros barhad y Pethe a’r Gymraeg.

Ry’n ni’n griw, yn dîm, yn gatrawd, yn gôr. Nid oes dianc rhagor.

Ond mae hi’n hanner awr ’di naw yn barod, mae taith hanner awr adref o ’mlaen a rhaid ymarfer y ddau bennill olaf o leiaf unwaith eto…

Ond BETH fyddwn ni’n ei wisgo?

Dyma yw’r pwnc that dare not speak its name. Fe glywch chi ryw fwmial y tu allan i’r festri cyn bob ymarfer – ‘do, mi soniodd hon a hon am hynny y tro d’wetha, ond does na neb wedi dweud dim’. Er i ni drafod sawl syniad ymysg ein gilydd – yr ymateb rhadlon a geir yn ddiffael yw ‘ond dydi hynny ddim yn gweddu pawb’. Hunllef i’r arweinyddion.

Ym Mhwllheli fyddan ni, ac mae’r môr a’r heli yn rhan o wead y côr, felly fe gewch chi ddyfalu. Dewch i Blas Heli ym Mhwllheli ar Dachwedd 12 neu gwyliwch ar S4C i weld p’un ai “blodyn mawr” yn unol ag un o argymhellion Sioned Grug, ynteu rhywbeth bach mwy sidêt fyddwn ni’n ei wisgo.

Iaics! Mi fyddwn ni ar y teli!