RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Rhywbeth i’w bori yn y Ffair Aeaf

Cyhoeddwyd Tachwedd 28, 2016 gan Blog Meddwl.

Tagiau: cefn gwlad, cennydd owen jones, Ceredigion, Pontsian, y ffair aeaf


Mae’r dyddiau’n byrhau, y tywydd yn oeri, a’r stoc ar y rhan fwyaf o ffermydd Cymru naill ai tu fewn, neu ar borthiant gaeaf.

I’r stocmyn gwartheg, mae’n golygu agor y cladd silwair, a chodi ychydig ynghynt er mwyn galluogi i’r gwaith ychwanegol o garthu, gwellto a bwydo gael ei gwblhau mewn da o bryd.

I’r bugeiliaid, mae’n golygu gwisgo haenen arall o ddillad yn y tywydd garw wrth oruchwylio eu praidd, a chludo bwyd ychwanegol iddynt i gyflenwi diffyg tyfiant y glaswellt.

Y Ffair Aeaf

Un o uchafbwyntiau’r wythnosau nesaf imi yw’r Ffair Aeaf ar faes y sioe yn Llanelwedd.

Mae’n gyfle i arddangos cynnyrch ffermydd Cymru gyda dros 1,300 o wartheg, moch, defaid a cheffylau, yn ogystal â chystadlaethau carcas, stondinau celf a chrefft a llawer mwy.

Mae llawer o gyhoeddiadau’n dueddol o gael eu gwneud yma hefyd, a dyma ambell beth rwy’n awyddus i glywed mwy amdanyn nhw…

Antibiotigion

Mae mis Tachwedd wedi gweld nifer o ddadleuon o’r ddwy ochr o ran deunydd antibiotigion ar anifeiliaid fferm.

Mae pryderon ers blynyddoedd o ran “esgeulustod” amaethyddiaeth tuag at eu defnydd o antibiotigion a all arwain at rhai clefydau yn gwrthsefyll triniaeth yn y dyfodol.

Mae gwrthsefyll antibiotigion yn sefyllfa sydd angen ei thaclo dros y byd yn feddygol ac yn filfeddygol.

Mae amaethyddiaeth yn cyrraedd eu targedau o leihau defnydd antibiotigion, ac ar y trywydd iawn i ragori’r targed cafodd ei osod ar gyfer 2018.

Mae dofednod wedi bron haneru eu defnydd o antibiotigion yn y pedair blynedd diwethaf, ac mae’r sector moch wedi lansio system ar-lein i gofnodi’r cwymp mewn defnydd o antibiotigion.

Rwy’n cydnabod y broblem o wrthsefyll antibiotigion, ond credaf taw’r ffordd gorau i daclo hyn yw defnyddio nhw mewn ffordd fwy cyfrifol, a defnyddio dulliau rhwystro yn hytrach na gwella gan fod hyn llawer gwell yn ariannol ac yn fiolegol.

Ardaloedd NVZ – diangen i ffermwyr da byw?

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal cyfnod o ymgynghori gyda ffermwyr Cymru o ran y posibiliad o ehangu NVZ (Nitrate Vulnerable Zones) ar draws Cymru gyfan.

Mae hyn yn dwf sylweddol o’i gymharu â’r 2.4% o dir Cymru mae’r cynllun yn ei oruchwylio ar hyn o bryd.

Petai hyn yn digwydd, bydd holl ffermwyr Cymru o dan yr orfodaeth o orfod dilyn canllawiau newydd, ac ni fydd hawl gan unrhyw dirfeddiannwr rhoi mwy na 250Kg o Nitrogen i bob hectar.

O ystyried y canllawiau sydd i gael yn barod i sicrhau lleihau Nitradau yn trwytholchi i mewn i’r amgylchedd, a bod ffermydd Cymru ar gyfartaledd yn rhoi tipyn llai na 250Kg o Nitrogen i bob hectar, yna credir nifer fod y weithred yma yn un ddiangen i ffermwyr da byw.

Bydden i’n dadlau y byddai’n well ffocysu’r NVZ ar y ffermydd tir âr, ac annog mwy o ffermydd Cymru i ddefnyddio systemau mwy effeithlon o osod slyri a thail er mwyn lleihau gwastraff Nitradau. Mae angen inni fel ffermwyr gofio cysylltu gydag Undeb Amaethwyr Cymru neu NFU Cymru er mwyn lleisio barn am y mater yma, ar effaith byddai’n cael ar ein ffermydd.

* Mae Cennydd yn astudio am radd meistr mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Problemau Plaid Cymru yng Ngheredigion



Ifan Morgan Jones sy’n dadansoddi pleidlais Plaid Cymru yn y sir…

Ar yr olwg gyntaf, nid oedd pethau cynddrwg a hynny i Blaid Cymru yng Ngheredigion, er gwaethaf eu methiant i gipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cwympodd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol -14.2% yno, o’i gymharu â 15.2% ar draws y Deyrnas Unedig.

O ganlyniad, gellid awgrymu mai methiant Plaid Cymru oedd caniatau i’r Democratiaid Rhyddfrydol adeiladu’r fath fwyafrif yn y lle cyntaf yn 2010.

Serch hynny, mae golwg agosach ar yr ystadegau yn awgrymu darlun duach nag y mae’r canlyniad gwreiddiol yn ei awgrymu.

Mewn gwirionedd, fe syrthiodd pleidlais Plaid Cymru yn ogystal a’r Democratiaid Rhyddfrydol oddi ar 2010 – ddim o ryw lawer, yn achos PC, ond ‘fflat’ yw’r disgrifiad mwyaf caredig.

Mae’n nodedig hefyd bod y Gwyrddion, Llafur ac UKIP wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu pleidlais ers 2010.

Mae hynny’n awgrymu bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei wasgaru rhwng y pleidiau ‘bychan’ yn y sir, yn hytrach na chael ei drosglwyddo i Blaid Cymru.

Yr awgrym yw bod gan Blaid Cymru bleidlais graidd sy’n araf bach, bach encilio oddi ar uchafbwynt 1997 – tra bod gweddill y pleidleisiau yn llifo rhwng y pleidiau uniolaethol sy’n weddill.

Plaid Pleidlais (canran) 2001 Pleidlais (canran) 2005 Pleidlais (canran) 2010 Pleidlais (canran) 2015
Dems Rhydd 9,297 (26.9%) 13,130 (36.5%) 19,139 (50.0%) 13,414 (35.9%)
Plaid Cymru 13,241 (38.3%) 12,911 (35.9%) 10,815 (28.3%) 10,347 (27.7%)
Gwyrddion - 846 (2.4%) 696 (1.8%) 2,088 (5.6%)
UKIP - - 977 (2.6%) 3,829 (10.2%)
Ceidwadwyr 6,730 (19.4%) 4,455 (12.4) 4,421 (11.6%) 4,123 (11.0%)
Llafur 5,338 (15.4%) 4,337 (12.1%) 2,210 (5.8%) 3,615 (9.7%)
Cyfanswm 34,606 35,679 38,258 37,416

Ond beth am allu Plaid Cymru i ddal y sedd yma yn Etholiadau’r Cynulliad? Onid yw hynny’n awgrymu bod yna ragor o bleidleiswyr yng Ngheredigion a fyddai yn fodlon cefnogi’r blaid?

Yn anffodus i’r Blaid, nid yw eu pleidlais yn y Cynulliad llawer uwch nag ydyw yn yr Etholiad Cyffredinol. Rhan o’r rheswm eu bod yn dal y sedd yw bod llai o gefnogwyr y pleidiau eraill yn pleidleisio.

Ni fyddai pleidlais Elin Jones yn Etholiadau’r Cynulliad 2011, sef 12,020, wedi bod yn ddigon i drechu Mark Williams yn yr etholiad eleni.

Beth yw’r ateb?

Nid yw’n amlwg serch hynny pam fod Plaid Cymru yn ei chael hi mor anodd yng Ngheredigion, tra’n ffynnu yn etholaethau eraill ‘Y Fro Gymraeg’.

Mae pleidlais graidd Plaid Cymru, y siaradwyr Cymraeg, ar drai yng Ngheredigion – ond mae hynny’n wir dros y Teifi yng Nghaerfyrddin hefyd.

Rhyngddynt mae Adam Price a Jonathan Edwards rywsut wedi llwyddo i gipi’r sedd honno oddi ar y Blaid Lafur, ac fe gynyddodd Plaid Cymru ei phleidlais oddi ar 2010 eleni.

Mae angen i Blaid Ceredigion drafod gyda Plaid Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr er mwyn darganfod beth yw allwedd eu llwyddiant.

Gellid awgrymu efallai mai dod o hyd i’r ymgeisydd cywir fydd y cam cyntaf i gipio Ceredigion. Nid yn unig hynny, ond ymgeisydd a fydd yn fodlon sefyll droeon ac adeiladu cefogaeth dros amser.

Roedd Mark Williams wedi sefyll teirgwaith cyn ennill yn 2005. Roedd Cynog Dafis hefyd wedi sefyll teirgwaith cyn ennill i Blaid Cymru yn 1992. Efallai fod yna batrwm yma!

Mae’n bryd cau pen y mwdwl ar gecru Ceredigion

Cyhoeddwyd Ebrill 10, 2015 gan Ifan Morgan Jones.

Tagiau: Ceredigion, Huw Thomas


Huw Thomas
Ni ddylai Huw Thomas orfod ymddiheuro, heb son am ymddiswyddo, meddai Ifan Morgan Jones…

Os yw ymgeisydd Llafur yng Ngheredigion, Huw Thomas, yn euog o unrhyw beth, rhagrith ac efallai ychydig o naïfrwydd gwleidyddol yw hwnnw.

Galwodd ar Mike Parker i ymddiswyddo yn dilyn cyhoeddiadau digon di-sail yn y Cambrian News am erthygl a ysgrifennodd 14 mlynedd yn ôl.

Roedd hynny’n gamgymeriad – os ydych chi’n dechrau taflu baw, mae’n debygol os nad yn anochel y bydd rhywfaint o faw yn glanio yn ôl arnoch chi.

Y nod wrth dynnu sylw at sylwadau digon amheus ganddo ef ei hun yn 2006, oedd dangos bod pawb wedi cyhoeddi pethau dwl rywbryd yn eu gorffennol.

Ond fel Mike Parker, nid ddylai orfod ymddiheuro, heb son am ymddiswyddo, am eu cynnwys.

Yn wir, pe na bai wedi bod mor barod i feirniadu Mike Parker, ni fyddai’r ffaith iddo ddweud ambell beth annoeth naw mlynedd yn ôl yn stori o gwbl.

Mae’n siŵr bod hanner trigolion Maes-e – gan fy nghynnwys i – wedi dweud pethau fyddai yn codi cywilydd arnom ni erbyn hyn.

Yn wir, roedd ‘Huw T’ ymysg y cyfranwyr callaf a mwyaf aeddfed ar y safle. Roedd y maes yn flwch tywod gwleidyddol i sawl ffŵl ifanc sydd bellach yn newyddiadurwr, ymgeisydd, ac Aelod Seneddol parchus.

Drwy gymryd geiriau Huw Thomas, oedd yn fyfyriwr 21 oed ar y pryd, allan o’u cyd-destun mae’r cyfryngau Llundeinig mewn peryg o wneud yr un cam ag ef ac y gwnaethon nhw â Mike Parker.

Mae’r Daily Star a’r Daily Telegraph eisoes yn honni mai ar flog personol y cyhoeddodd ei sylwadau, cyd-destun gwahanol iawn i sgwrs tafod yn y boch ar fforwm drafod Gymraeg.

Mae hefyd yn drueni bod rhai, gan gynnwys arweinydd UKIP, Nigel Farage, ac is-Gadeirydd y Ceidwadwyr, Bob Neill, wedi ceisio ei ddefnyddio fel pel-droed gwleidyddol, heb wybod dim mewn gwirionedd am yr achos.

Mae Huw Thomas yn ddyn o Geredigion sydd wedi penderfynu dychwelyd adref o Gaerdydd i ymgeisio am sedd yn yr ardal u’i magwyd ynddo.

Bydd etholwyr y sir yn gwerthfwrogi hynny, ac ar ôl tudalen flaen anffodus y Cambrian News ddydd Mawrth, gobeithio y gallai’r etholiad ddylchwelyd i rywfaint o normalrwydd yr wythnos nesaf.

Dydw i ddim yn credu y bydd unrhyw un yn dal dig. Fe fydd y cyfryngau wedi symud ymlaen at benawadu eraill yfory.

Ac rwy’n sicr y bydd pob un o’r ymgeiswyr am gadw’r ras mor lân a phosib o hyn allan.

Mike Parker a ‘Nazis’ Ceredigion

Cyhoeddwyd Ebrill 8, 2015 gan Ifan Morgan Jones.

Tagiau: Ceredigion, Mike Parker, Plaid Cymru


Tudalen flaen y Cambrian News
Ifan Morgan Jones sy’n holi pa effaith gaiff sylwadau ymgeisydd Plaid Cymru yn y sir ar ei obeithion yn yr Etholiad Cyffredinol…

Ar yr olwg gyntaf mae’n swnio fel ffilm Indiana Jones wedi ei ysgrifennu gan T Llew Jones. Serch hynny mae ‘Plaid Cymru a Natsiaid Ceredigion’ yn bwnc llosg yn y byd gwleidyddol y bore ma.

Mae’r Cambrian News yn gwerthu sawl argraffiad gwahanol o Fachynlleth i dde Ceredigion, ond mae pob un yn cario’r un pennawd tudalen flaen yr wythnos hon, sef bod ymgeisydd Plaid Cymru’r sir, Mike Parker, wedi cymharu mewnfudwyr â Natsiaid.

O dyrchu ychydig ymhellach i’r ffeithiau, daw’n amlwg nad yw’r sylwadau eu hunain cynddrwg ag y mae’r pennawd yn ei awgrymu:

  • Ysgrifennwyd y sylwadau 14 mlynedd yn ôl yn rhifyn Awst Cylchgrawn Planet 2001.
  • Nid yw’n cyfeirio’n uniongyrchol at Natsiaid yn yr erthygl (er gwaethaf y dyfynodau yn y pennawd), ond yn hytrach at ‘gun-toting Final Solution crackpots’.
  • Mae’n amlwg o ddarllen yr erthygl nad yw’n taenu pawb gyda’r un brwsh – ‘sprinkling’ o’r bobl yma sy’n trigo yng nghefn gwlad Ceredigion, meddai.
  • Mae ei sylwadau yn ymddangos yng nghyd-destun trafodaeth ar arweinydd y BNP, Nick Griffin.

Serch hynny’r pennawd niweidiol yw “Incomers are ‘Nazis’, says would-be MP”. A’r is-bennawd ‘Plaid candidate defends criticism of English’.

Ychydig a fydd yn mynd i fanylder wrth ddarllen papur newydd. Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr yn edrych ar y pennawd, ac efallai’r intro, a dyna ni.

Llai byth fydd yn tyrchu am hen gopiau o Planet i gael y cyd-destun llawn.

Dim ymddiheuriad

Pe bai Mike Parker wedi nodi’n glir yn y papur mai lleiafrif yn unig a gyfeirir ato mae’n berffaith bosib y gallai fod wedi osgoi pennawd mor niweidiol.

Yn anffodus, yn hytrach nag ymhelaethu ar ei sylwadau, yr unig eglurhad a geir ganddo/ganiateir iddo yn y Cambrian News yw dweud: “The point I was making is

defnitely still valid.”

Erbyn hyn mae wedi ychwanegu at y sylwadau rheini ar Facebook: “Dydw i erioed wedi dweud nac awgrymu mai dyma barn mwyafrif y bobl sy’n symud i ardaloedd gwledig, ond doedd y niferoedd ddim yn bitw, a dydw i erioed wedi bod ofn gwrthwynebu rhagfarn ym mha bynnag lle y bo.

“Fy nicter at yr agweddau hiliol oedd y tu ôl i ieithwedd liwgar fyddwn i ddim yn ei ddefnyddio nawr – ond rwy’n dal i fod o’r farn na ddylid anwybyddu na derbyn hiliaeth; dylid ei daclo.”

Y dasg i Mike Parker a thîm cysylltiadau cyhoeddus Plaid Cymru yn awr fydd newid y naratif yn y wasg, o ddyn yn galw mewnfudwyr yn Natsiaid i ddyn yn herio hiliaeth cefn gwlad.

Fe fydd ei sylwadau yn fêl ar fysedd rhai o elynion Plaid Cymru, am ei fod yn gweddu i’w darlun nhw ohonynt fel plaid sy’n chwyrn yn erbyn mewnfudo – yn hiliol eu hunain, mewn gwirionedd.

Yn wir, roeddwn i wedi ystyried pan ddewisiwyd Mike Parker yn ymgeisydd Plaid Cymru a fyddai ei wrthwynebwyr yn cymryd mantais o’r hyn a ysgrifennwyd mewn llyfrau megis Neighbours From Hell?: English Attitudes to the Welsh.

Ni ddigwyddodd hynny, a daethom i’r casgliad bod y ffaith ei fod ef ei hun yn frodor o Loegr yn wreiddiol yn golygu bod ganddo rwydd hynt i ddweud ei farn ar y mater.

I’r gwrthwyneb, daw’n amlwg bod rhywun wedi bod yn tyrchu drwy ei lyfryddiaeth ac wedi disgwyl nes mis olaf ymgyrch yr etholiad i lansio’r taflegrau – ‘October Surprise’ cas ar ei gyfer, o fenthyg y jargon wleidyddol Americanaidd.

Faint o effaith ar Geredigion?

Gellid dadlau na fydd sylwadau Mike Parker yn gwneud cymaint â hynny o niwed i’w obeithion o gael ei ethol.

Wedi’r cyfan, fe fydd y bobl a oedd wedi bwriadu pleidleisio drosto, y Cymry Cymraeg a’r Saeson ‘gwyrdd’ adain-chwith, yn fwy tebygol o gytuno gyda’i sylwadau am wleidyddiaeth adain dde rhai mewnfudwyr, os yw Plaid yn llwyddo i’w esbonio yn ddigonol.

Serch hynny, rwy’n dyfalu mai rhan o fwriad Plaid Cymru wrth ddewis Mike Parker yn ymgeisydd oedd ymestyn eu cefnogaeth y tu hwnt i’w cefnogwyr naturiol.

Nodais mewn blog fis diwethaf mai ryw 1,000 o bleidleisiau fyddai ynddi, pe bai popeth yn mynd o blaid Mike Parker.

Hyd yn oed pe bai’r erthyglau hyn ddim ond yn gwthio ychydig gannoedd o bleidleisiau o gorlan i blaid i gorlan y Democratiaid Rhyddfrydol, fe allai gael effaith pendant ar y canlyniad.

Fe fydd yna bryderon hefyd gan Blaid Cymru i ba raddau y gallai’r sylwadau niweidio enw da’r blaid yn genedlaethol.

Roedd tudalen flaen y Cambrian News yn cael ei ail-drydar gan rai o enwau cenedlaethol y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol neithiwr ac y bore ma.

Daw’n amlwg bod pleidiau eraill yn pryderu am y sylw a gafodd Leanne Wood yn sgil y dadleuon teledu’r wythnos diwethaf, ac yn awyddus i atal unrhyw ‘fomentwm’ pellach sydd gan y Blaid.

Bydd rhai yn siŵr o ystyried tudalen flaen y Cambrian News yn fodd o gyflawni hynny.

Diweddariad: Nid dyma’r tro cyntaf i’r ysgrif yn Planet ddal sylw’r wasg – roedd yn destun erthygl yn y Telegraph ar ôl ei gyhoeddi yn 2001.

Mae’n ddiddorol bod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu ei sylwadau bryd hynny. Ond mae hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â pham nad oedden nhw wedi paratoi cynllun ar gyfer y posibilrwydd y gallai’r un sylwadau ddod i’r fei unwaith eto.

A fydd Plaid Cymru yn cipio Ceredigion?


Beth fydd dylanwad Prifysgol Aberystwyth ar yr etholiad?
Ifan Morgan Jones sy’n holi a oes gan Mike Parker obaith o ddymchwel Mark Williams yn y sedd…

Roedd hi’n ddiwrnod tawel a heulog yma yng Ngheredigion heddiw. Ond mae cyfnod tymhestlog ar y gorwel. Glaw a gwynt yr wythnos nesaf. Ac wedyn, mewn wythnos neu ddau, bydd storm o fath gwahanol – y cloddiau uchel rhwng o Dalybont i Lanbed  yn goedwig o arwyddion, y naill yn datgan cefnogaeth i’r deiliad seneddol, Mark Williams, a’r llall i’w gystadleuydd, Mike Parker.

Mae Ceredigion wedi bod yn darged #1 i Blaid Cymru ers iddyn nhw ei golli’r sedd yn annisgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005. Maen nhw’n dal y sedd yn y Cynulliad, ac yn rheoli’r Cyngor. Serch hynny, yn hytrach na chau’r bwlch, cynyddodd o drwch gwybedyn, 219, i fwyafrif iach iawn, 8324, rhwng 2005 a 2010. Ond er mwyn profi bod noson yr etholiad yn llwyddiant, mae’n rhaid iddyn nhw ennill Ceredigion yn ôl. Fe fyddwn nhw hyd yn oed yn fwy awyddus i ddangos eu gallu i wneud hynny ar adeg pan mae platiau tectonig grym cenedlaethol ym Mhrydain yn dechrau llacio o ddifri’ am y tro cyntaf ers canrif, a chyfle i feddu ar rywfaint o rym mewn senedd grog gecrus.

Mae pencampwyr chwaraeon yn siarad yn aml am fod ‘eisiau’ ennill yn fwy na’u gwrthwynebwyr – ‘we wanted it more’, neu i’r gwrthwyneb.

Y broblem i Blaid Cymru yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn hynod o awyddus i gadw’r sedd, hefyd. Maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n mynd i golli tua hanner y 57 o seddi a ennillodd y blaid yn 2010. Dydyn nhw ddim yn debygol o fuddsoddi llawer o arian mewn 20 o’r seddi ymylol rheini. Y flaenoriaeth fydd atal chwalfa lwyr, ac mae hynny’n golygu taflu sinc y gegin a mwy at seddi fel Ceredigion lle mae ganddyn nhw gyfle da o gadw eu tir.

Dim ond 13 o seddi’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ‘saffach’, ar bapur, na Cheredigion – ac mae disgwyl i dri neu bedwar o’r rheini syrthio i’r SNP yn yr Alban. Os nad ydyn nhw’n gallu cadw Ceredigion, mae’n berffaith bosib y byddwn nhw i lawr i ffigyrau sengl yn San Steffan. A gyda Chanol Caerdydd a Brycheiniog a Sir Faesyfed hefyd yn y fantol, fe fydd eu cyfnod 150 mlynedd o feddu ar seddi yng Nghymru, cyfnod a gynhyrchodd ein hunig Brif Weinidog Cymreig hyd yn hyn, ar ben.

Dyma’r frwydr ffyrnig a hanesyddol y bydd Ceredigion yn cael ei dal ynddi dros yr wythnosau nesaf.

Pwy fydd yn ennill?

Mae ambell un, gan gynnwys sylwebwyr mor amrywiol ag Iain Dale a Hogyn o Rachub, wedi proffwydo buddugoliaeth i’r Blaid. Does ganddyn nhw wrth gwrs ddim y fantais o fyw yn y sir, a chael trafod y mater gyda’i gyd-Gardis (er mai Beganif ydw i). O gael y cyfle i wneud hynny, dydw i ddim yn ffyddiog y bydd Plaid yn ennill, am ambell i reswm. Rhaid rhybuddio o flaen llaw mai golwg wedi ei ganoli’n bendant ar gefn gwlad de’r sir sydd gen i yma – mae’r teimlad cyffredinol o fewn Aber a threfi tebyg yn ddirgelwch i mi:

1.)    Er bod dwy dref Prifysgol yng Ngheredigion, rydw i’n amau i ba raddau y bydd gwrthwynebiad myfyrwyr i’r ffioedd uwch yn arwain at gwymp digonol ym mhleidlais Mark Williams. Tua 15,000 o fyfyrwyr sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac rwy’n credu ei fod braidd yn obeithiol awgrymu y byddai mwy na chwarter y rheini yn bwrw pleidlais o fewn y sir. Ataliodd Mark Williams ei bleidlais ar y mater, yn ogystal.

2.)    Nid rywbeth arwynebol yw’r gefnogaeth i’r Rhyddfrydwyr yn ardaloedd gwledig y sir. Mae’n ymestyn ôl i’r 1860au o leiaf. Nid yw materion cenedlaethol, megis Cleggmania (neu ei wrthwyneb – Cleggmaggedon?), yn debygol o ddylanwadu ryw lawer ar farn y bobl i’r un graddau ag a fyddai yn wir yn rhai o’u seddi mwy dinesig, megis Canol Caerdydd.

3.)    Nid yw Mark Williams wedi gwneud unrhyw beth amlwg o’i le. Mae’n Aelod Seneddol gweithgar yn y sir, hyd yn oed os na fu’n (neu efallai am na fu’n) arbennig o amlwg yn San Steffan.

4.)    Mae gan Blaid Cymru ymgeisydd cryfach y tro hyn yn Mike Parker. Mae’n ddyn hoffus, dysgedig, blaengar ac fe fyddai yn Aelod Seneddol penigamp yn sicr. Ond yn fy mhrofiad i, gall trigolion cefn gwlad Ceredigion fod yn weddol geidwadol eu byd-olwg- rydw i wedi clywed mwy nag unwaith i Simon Thomas golli’r bleidlais yn 2010 am iddo wisgo clustlws! Yn ogystal â hyn, ac yn eironig i blaid sydd mor weithgar wrth frwydro dros ddiwylliant unigryw Cymru, fe allai’r ffaith bod gwreiddiau lleol Mike Parker ychydig yn fwy bas na rhai Mark Williams gyfri yn ei erbyn. Ac nid yw’n amlwg chwaith a yw neges fwyfwy adain chwith y Blaid, un y mae Mike Parker yn ei arddel ag arddeliad, fod o fudd arbennig iddynt yma chwaith.

5.)    Mae Cymreigrwydd ar drai yng Ngheredigion. Syrthiodd nifer y siaradwyr Cymraeg dan y 50% am y tro cyntaf, o 52% i 47%, yn y cyfrifiad diwethaf. Crebachu, nid ehangu, mae demograffig naturiol Plaid Cymru yma.

6.)    Mae’r Blaid Werdd wedi gweld twf yn y polau piniwn yn yr etholiad hwn ar draws y Deyrnas Unedig. Nid yw Plaid Cymru erioed wedi ennill Etholiad Cyffredinol yng Ngheredigion pan oedd y Blaid Werdd wedi cynnig ymgeisydd i’w herio. Yn wir fe gipiodd Plaid Cymru’ sedd yn wreiddiol, i Gynog Dafis yn 1992, ar docyn Plaid-Gwyrdd.

Serch hynny, mae yna le i Blaid Cymru fod yn obeithiol – os nad i ennill Ceredigion, yna i wneud tolc mawr ym mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol a sicrhau bod y sedd yn un cystadleuol yn y dyfodol.

1.)    Mae’n bosib bod 2010 wedi bod yn isafbwynt i Blaid Cymru yn y sir. Does yr un etholiad diweddar arall, gan gynnwys rhai cyffredinol blaenorol, na rhai lleol, Ewropeaidd a Chynulliad, wedi awgrymu dim llai na gornest 50/50 rhwng y ddwy blaid yma. Ai ‘blip’ ydoedd?

2.)    Gallai Mike Parker oresgyn ofnau rhai o drigolion dinesig Seisnig Ceredigion ynglŷn â pholisïau Plaid Cymru am yr iaith Gymraeg. Mae wedi ymdrechu’n galed i ddenu pleidleiswyr naturiol y Gwyrddion. Er y gallai ei chael hi’n anodd yng nghefn gwlad Ceredigion, efallai mai ef yw’r ymgeisydd perffaith i uno trigolion trefi Aberystwyth, Ceredigion a chymunedau glan-môr eraill.

3.)    Yn y dadleuon teledu saith ffordd, fe allai Plaid Cymru gyrraedd lefel o amlygrwydd y maent wedi ei chael hi’n anodd iawn ei sicrhau yn Etholiadau Cyffredinol y gorffennol. Mae’r SNP wedi dangos beth all ychydig o sylw yn y cyfryngau Llundeinig ei wneud i bleidlais plaid.

4.)    Mae’n bosib y bydd yr holl etholwyr a oedd wedi gweld chwith â chlustlws Simon Thomas yn 2005 yn pleidleisio UKIP y tro hyn, yn hytrach nag i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’r blaid yn gallu bod yn ystorfa ddefnyddiol yn hynny o beth.

5.)    Gallai chwalfa y Democratiaid Rhyddfrydol fod yn fwy catastroffig nag y mae’r bwcis yn ei awgrymu. Awgrymodd un o bolau piniwn yr Arglwydd Ashcroft ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Ionawr eu bod nhw eisoes wedi  colli 15% o’u cefnogaeth yno. Mae polau piniwn arall ganddo wedi awgrymu cynnydd yng nghefnogaeth y Blaid wedi seddi unigol. Ac mae hyn oll cyn i bobol ddechrau canolbwyntio ar yr etholiad o ddifrif.

Fy nyfaliad i, serch hynny, yw mai cadw’r sedd fydd y Democratiaid Rhyddfrydol – ond gan wneud hynny â mwyafrif llai o lawer, sef tua 1000 o bleidleisiau. Hoffwn glywed eich barn chi am y mater, serch hynny – yn enwedig y rheini sy’n byw yn rhai o drefi’r sir.