RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Dim cyfundrefn gyfreithiol annibynnol i Gymru – ar hyn o bryd

Cyhoeddwyd Mawrth 15, 2017 gan Blog Meddwl.

Tagiau: Cadeirydd, Caerdydd, Cyfreithwyr, Datganoli, Enid Rowlands, SRA


Enid Rowlands (Llun: SRA)
Ers fy mhenodi’n Gadeirydd lleyg cyntaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn 2015, rwyf wedi ymrwymo i ddod allan o’r swyddfa a chydweithio’n agos â phobol yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwetha’, bues i a fy mwrdd ym Mae Caerdydd, gan gyfarfod â rhyw 80 o bobol o’r sector cyfreithiol a’r tu allan iddo er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth.

Un pwnc trafod oedd a ddylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Mae’n eglur bod corff cynyddol o gyfraith Gymreig, ac mae’n sicr yn drafodaeth ddiddorol.

Yn rhinwedd fy swydd fel rheoleiddiwr, dw i ddim yn credu mai’n rôl ni yw pleidio’r naill ochr neu’r llall yn y ddadl. Mater i gyhoedd a llywodraeth Cymru yw hyn.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai cadw’r trefniadau presennol yw’r dewis ar y cyfan ond, wrth gwrs, fe allai hynny newid dros y blynyddoedd. Felly byddwn yn monitro’r drafodaeth yn ofalus, i sicrhau ein bod yn deall y goblygiadau ar gyfer ein gwaith ni ac ar gyfer diogelu defnyddwyr yng Nghymru.

Er enghraifft, un peth sy’n ganolog i’n gwaith yw pennu a gorfodi safonau ac ymddygiad proffesiynol uchel i gyfreithwyr. Rydym yn nodi egwyddorion allweddol yn ein rheolau, megis diogelu buddiannau cleientau – er enghraifft, drwy gadw eu harian a’u gwybodaeth yn ddiogel.

Fforddio gwasanaeth cyfreithiol

Nid dim ond sgyrsiau mewn digwyddiadau a chyfarfodydd ffurfiol sy’n bwrw goleuni ar yr hyn sy’n bwysig i bobol. Rwy’n siarad â phobol ledled y wlad ynghylch gwasanaethau cyfreithiol.

Mae llawer i’w ddathlu ynglŷn â sector cyfreithiol Cymru. Gyda 450 o ffyrmiau a bron 5,000 o gyfreithwyr, mae trosiant y sector yn fwy na £380m ac fe dyfodd 3% y llynedd. Ond mae sylwadau rwy’n eu clywed mewn amrywiaeth mawr o sgyrsiau’n dadlennu problemau sy’n peri pryder.

Mae yna broblem o hyd bod gormod o bobol yn methu fforddio gwasanaethau cyfreithiol.

Pwysig

Mae gwasanaethau cyfreithiol yn bwysig i ni i gyd. Maen nhw’n gallu helpu ar rai o’r adegau pwysicaf yn ein bywydau – wrth brynu tŷ, ymdrin â chyflogwr diegwyddor, neu drafod tor perthynas.

Mae ymchwil yn dangos bod pobol yn credu bod gwasanaethau cyfreithiol yn rhy ddrud, hyd yn oed pan fydd pobol yn sylweddoli bod ganddyn nhw broblem gyfreithiol – a fydd llawer ddim yn sylweddoli. Dim ond un ym mhob 10 o bobol sy’n defnyddio cyfreithiwr neu fargyfreithiwr pan fydd ganddyn nhw broblem gyfreithiol.

Mae’n rhaid ei bod yn anghywir bod gennyn ni system ddwy-haen lle mae’r mwyafrif mawr yn methu cael gafael ar y cymorth angenrheidiol i orfodi neu i amddiffyn eu hawliau.

Mae yna drafodaeth ddilys ynghylch rôl Cymorth Cyfreithiol i fyd i’r afael â’r broblem hon, ond nid dyna’r ateb i bopeth. Does gan y cyllid cyhoeddus mo’r adnoddau i gau’r bwlch. Beth felly all y sector ei hunan ei wneud i’w gwneud yn haws i bobl sicrhau cymorth?

Gwell gwybodaeth i’r cyhoedd

Rwy’n croesawu dyfarniad diweddar yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) fod angen diwygiad er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd yn well. Maen nhw’n argymell mwy o dryloywder.

Rwy’n cytuno bod diffyg gwybodaeth am wasanaethau cyfreithiol yn rhan o’r broblem. Mae pobl yn cael eu gadael i wneud dewisiadau dall am ei bod yn anodd cael yr wybodaeth y mae ei hangen er mwyn cymharu darparwyr a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym wrthi’n ystyried sut y gallai pobl gael gwybodaeth ystyrlon am wasanaethau, ansawdd a phrisiau, er mwyn chwilio am fargen well. Bydd dysgu gwersi o sectorau eraill lle mae hyn wedi digwydd yn barod – o ynni i wasanaethau ariannol – yn siŵr o helpu.

Dylai symudiad o’r fath helpu i greu marchnad gyfreithiol fwy agored a chystadleuol sy’n sbarduno mwy o ddewis a gwasanaethau mwy fforddiadwy. Bydd o fantais hefyd i’r busnesau bach sy’n ffurfio asgwrn cefn economi Cymru. Gall ffyrmiau cyfraith helpu’r rhain i dyfu a llwyddo: o gyflogi eu gweithiwr cyntaf i gwblhau eu gwerthiant ar-lein neu eu hallforiad cyntaf. M

ae ar economi agored, cystadleuol angen sector cyfreithiol agored, cystadleuol.

Tra na fydd y mwyafrif yng Nghymru’n gallu fforddio gwasanaethau cyfreithiol, allwn ni ddim fforddio parhau i wneud yr un hen bethau.

Annog mwy o feicio yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd Ionawr 14, 2017 gan Cymru.

Tagiau: Beicio, Caerdydd


(llun: Cyngor y Ddinas)
Mae disgwyl i gabinet Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynllun uchelgeisiol yr wythnos nesaf i annog llawer mwy o bobl i ddefnyddio beiciau i deithio yn y ddinas.

Nod y Cyngor yw cael hanner y rhai sy’n gweithio yn y ddinas ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu feicio neu gerdded erbyn 2021, ac mae targed o 60% wedi’i osod ar gyfer 2026.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Ramesh Patel: “Mae Caerdydd yn ddinas berffaith ar gyfer beicio a cherdded.  Does dim amheuaeth bod gormod o geir ar ein ffyrdd, ac wrth i’r ddinas dyfu ni all ein ffyrdd gynnal mwy a mwy o gerbydau.”

Dywedodd fod cynnydd sylweddol wedi bod mewn beicio dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

“Yn 2005, dim ond 4.3% o gymudwyr Caerdydd oedd yn teithio i’r gwaith ar feic,” meddai. “Heddiw mae 9.2% yn beicio i’r gwaith. Mae ein strategaeth yn nodi sut rydym yn bwriadu dyblu’r ffigur hwn eto i dros 18% erbyn 2026. Golyga hyn y bydd angen i’r rhwydwaith wneud lle ar gyfer 38,000 o deithiau beic ychwanegol bob diwrnod.”

Mapiau

Mae mapiau sy’n dangos cynlluniau’r cyngor ar gyfer beicwyr a cherddwyr i’w weld ar www.caerdydd.gov.uk/teithiollesol.

Bwriad y cyngor yw buddsoddi mewn dau prif lwybr – un o’r gogledd i’r de, a’r llall o’r dwyrain i’r gorllewin.

  • Mae’r prif lwybr Gogledd-De yn dechrau ym Mae Caerdydd ac yn cysylltu ag Ardal Fenter Caerdydd a Chanol y Ddinas. I’r gogledd o ganol y ddinas bydd y llwybr yn cysylltu Prifysgol Caerdydd ag Ysbyty’r Waun a gorsafoedd trên Lefel Uchel y Mynydd Bychan a Lefel Isel y Mynydd Bychan, cyn pasio drwy goridor Nant Fawr i gysylltu â’r datblygiad tai mawr a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar dir rhwng Llys-faen a Phontprennau.
  • Bydd y prif lwybr Dwyrain-Gorllewin yn cysylltu’r safle cyflogaeth mawr i’r de o Barc Busnes Llaneirwg â Chanol y Ddinas drwy lwybr beicio newydd drwy Heol Casnewydd. I’r gorllewin o Ganol y Ddinas bydd y prif lwybr yn pasio drwy gaeau Pontcanna a Llandaf cyn cysylltu â’r safleoedd tai mawr i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o Bentre-baen drwy Llantrisant Road ac ar hyd llwybr y rheilffordd segur i’r gorllewin o Waterhall Road.  Bydd y llwybr yn croesi’r prif lwybr Gogledd-De yng Nghanol y Ddinas.

Os caiff yr adroddiad ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Iau, bydd Cyngor y Ddinas yn cyhoeddi arolwg ar-lein i gasglu barn y cyhoedd ac yn cynnal sesiynau galw heibio ym mis Chwefror i gyhoeddi mapiau beicio a cherdded y Rhwydwaith Integredig.

Beyoncé yng Nghaerdydd – ‘un sgrech fawr o ffeministiaeth’

Cyhoeddwyd Gorffennaf 4, 2016 gan Roc a Phop.

Tagiau: beyonce, Caerdydd, Lemonade, Mared Ifan


Beyonce yng Nghaerdydd, Llun: Mared Ifan
Roedd mynd i weld y seren bop byd-enwog, Beyoncé, yn brofiad newydd i mi.

Er fy mod i’n nabod y rhan fwyaf o’i chaneuon, fel y rhan fwyaf o bobol eraill fy oedran am wn i, doeddwn i byth yn ffan fawr a hynny am nad oedd llawer yn cael ei ddweud yn ei chaneuon.

Ond daeth tro ar fyd pan gyhoeddodd ei halbwm diweddaraf, Lemonade, sy’n un sgrech fawr o ffeministiaeth a brwydr pobol ddu America am hawliau sifil dros y ganrif ddiwethaf.

Ac os mai dyma beth oeddwn yn ei ddisgwyl wrth fynd i’w gwylio yng Nghaerdydd nos Iau, chefais mo fy siomi.

Gwleidyddiaeth canu pop

Roedd y daith hon, Formation World Tour, sydd wedi’i enwi ar ôl cân orau Lemonade yn fy marn i, yn fwy aeddfed na’i gwaith blaenorol, gan roi lle priodol i wleidyddiaeth mewn canu pop am y tro cyntaf ers sbel.

Roedd ei pherfformiad yn dechrau gyda Formation, cân sy’n adleisio hanes pobol ddu yn America dros y ganrif ddiwethaf, o buteindai New Orleans ddechrau’r ugeinfed ganrif i Gorwynt Katrina yn 2005 a laddodd 1,245 o bobol yn yr un ddinas.

Mae clip yn fideo’r gân sy’n dangos y ddinas dan ddŵr, cyfeiriad pigog tuag at ymateb hwyr yr awdurdodau i helpu pobol New Orleans – llawer ohonynt yn bobol ddu sy’n byw mewn tlodi.

Mae’r gân yn un floedd falch sy’n adlewyrchu lle menywod du am ryddid a chyfiawnder cymdeithasol a dyna oedd y perfformiad hefyd.

Ar yr albwm, roedd llais un o ymgyrchwyr hawliau pobol ddu America i’w clywed hefyd – Hattie White – sydd hefyd yn fam-gu i ŵr Beyoncé, Jay Z, sy’n dweud ar ei phen-blwydd yn 90 oed: “Rwyf wedi cael amseroedd da ac amseroedd caled, ond dw i o hyd wedi dod o hyd i nerth y tu mewn i mi i dynnu fy hun i fyny.

“Cefais lemwnau, ond fe wnes i lemonêd.”

Ysbrydoli merched ledled y byd

Roedd y perfformiad yn adlewyrchiad o daith pob dyn a dynes mewn bywyd ac yn wers bywyd ar sut i aros yn gryf mewn amseroedd caled.

Nid rhyw ‘girl power’ llipa sydd gan Beyoncé fan hyn ond caneuon cryf  – pop â chig arno – fydd yn ysbrydoli merched o bob oedran, ledled y byd.

Roedd hi’n wych bod yno i brofi perfformiad angerddol a gwreiddiol, ac mi adawais y stadiwm yng Nghaerdydd yn ffan o Beyoncé a hefyd yn rhywun oedd yn falch iawn o fod yn ferch.

Cadw cymeriad Caerdydd a Lerpwl

Cyhoeddwyd Chwefror 26, 2015 gan Cymru.

Tagiau: Caerdydd, Lerpwl


Morgan Owen
Mae Lerpwl wedi llwyddo llawer gwell na Chaerdydd i drysori ei hanes, yn ôl Morgan Owen

Ymwelaf â Lerpwl yn fynych: bob mis, fel rheol. Fel arall, treuliaf fy amser yng Nghaerdydd ac eithrio’r gwyliau.

Yn hyn o beth, teimlaf fy mod i’n gymwys i gymharu’r ddwy ddinas, a’u tafoli yn ôl eu diwylliant, eu hunaniaeth a’u harwyddocâd.

Oherwydd yn y pethau hyn mae gwarchod etifeddiaeth cenhedloedd, ac yng nghyswllt Caerdydd, hollbwysig yw’r gwarchod, a phellgyrhaeddol ei ddiffyg.

Dim sylwedd

Fel prifddinas (a bwrw y byddai pobl y tu allan i Gymru yn ei hystyried yn wlad ‘go iawn’) byddid yn disgwyl i Gaerdydd feddu ar hunaniaeth gref ac amgyffrediad o’i le a’i phwysigrwydd yn wladol ac yn rhyngwladol.

Ond, heblaw am led-adnabyddiaeth am fod yn lleoliad i ambell i raglen deledu ac am fod yn lle bywiog i wylio gêm o rygbi, nid oes fawr o sylwedd i’w delwedd.

Darlun go wahanol a geir o Lerpwl, fodd bynnag. Wrth gwrs, ni ellir sôn am y ddinas honno heb gonsurio’r Beatles, ond y tu hwnt i’w phedwar mab enwocaf, y mae cryn hanes a chymeriad sydd yn weladwy ac yn gyffyrddadwy yna hyd heddiw.

Gwreiddiau, a pharhad y gorffennol, sydd yn dyrchafu Lerpwl uwchben Caerdydd, a thrwy ystyried sut mae’r un ddinas yn rhagori ar y llall gellir cynnig achubiaeth i Gaerdydd farwaidd.

Pensaernïaeth

Mae’r argraff gyntaf a geir o gymeriad ac ysbryd Lerpwl yn reddfol. Gwelir ar unwaith ddinas a gadwodd, ar y cyfan—er gwaethaf y Blitz— ei phensaernïaeth wreiddiol o’r adeg pan ddaeth yn ddinas o bwys.

Mae cynifer o’i hadeiladau i’w gweld fel y cafwyd hwy yn gyntaf, ac o’r herwydd, safant fel cofebau i orffennol y ddinas, ar y cyd â bod yn rhan o wead ei phresennol.

Gwêl yr ymwelydd i Gaerdydd, ar y llaw arall, gybolfa bensaernïol: dim ond rhyw ddyrnaid o adeiladau ar eu gweddau gwreiddiol; angenfilod llwydion ac annynol y 60au, y 70au a’r 80au; ac yma a thraw, creadigaethau modern ymhongar nad ydynt yn adlewyrchu ddim o hanes y ddinas na’i hesblygiad.

Mae adeiladau dinas yn ymgorffori ei hanes, ac mae eu tynnu i lawr yn ddiangen yn erydu’r hanes hwnnw.

Siopau digymeriad

Tu mewn i’r adeiladau hyn ceir arwydd o agwedd y dinasoedd tuag at eu gorffennol. Yng Nghaerdydd ceir diffeithwch o siopau cadwyn, yr un rhai â phob dinas arall.

Unwaith yr ydych yn camu dros drothwy eu drysau, gallwch fod unrhyw le yn y byd. Mae’r arcêds yn eithriaid, bid siŵr, ond pa sylw a gânt o gymharu â’r strydoedd mawr?

Pan adewir i gyfalaf byd-eang ymblannu yn y ddinas, aiff ei gorffennol ar ddifancoll oherwydd nod cyfalafiaeth hegemonaidd yw creu marchnad unffurf, gorau po fwyaf, lle y sgubir ymaith popeth sydd yn lleol ac yn neilltuedig.

Wrth gwrs, ceir siopau cadwyn yn Lerpwl hefyd, ond maent yn llawer llai niferus, ac fe’u ceir ar wasgar mewn torf o siopau annibynnol.

Mae’r fath fusnesau annibynnol yn gweithredu’n lleol, wrth reswm, ac o’r herwydd yn nodwedd unigryw’r dinasoedd y’u ceir ynddynt. Yn hyn o beth, cyfranogant o ddiwylliant y ddinas, gan ddod yn rhan ohono maes o law.

Dadwneud y diwreiddio

Ond pam sôn felly am amgylchfyd y ddwy ddinas hyn? Yn y bôn, gwelir dileu graddol a chyson yr ymwybyddiaeth o le yng Nghaerdydd, ac yn ymhlyg yn hynny, diwreiddio ei chymeriad a’i hanes.

Fel ein prifddinas a chanolbwynt gweinyddol a gwleidyddol ein gwlad, mae’r fath wacter yn niweidiol i’n hunaniaeth genedlaethol.

Nid yw Lerpwl yn brifddinas Lloegr nac ychwaith yn ddinas ag arwyddocâd arbennig bellach i economi’r wlad honno, ond erys ynddi ymdeimlad cadarn o’i chymeriad, ac ymwybyddiaeth o le neilltuedig, unigryw.

Os nad yw Caerdydd yn meithrin ymwybyddiaeth neilltuedig o’i hun fel lle â hanes a chymeriad a diwylliant arbennig, ac os nad yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn ei amgylchfyd dynol, mi fydd yn agored i unrhyw ddylanwad a chwytho heibio, ac ni fydd Cymru ar ei hennill gyda phrifddinas ddiwreiddiedig a di-le.

Dychwelyd i las – ond y difrod wedi’i wneud

Cyhoeddwyd Ionawr 16, 2015 gan Pêl-droed.

Tagiau: Caerdydd


Rhys Hartley
Am wythnos annisgwyl i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd!

Wedi dwy flynedd a hanner o chwarae mewn coch, a dim ond ychydig wythnosau wedi i’r perchennog adnabyddus Vincent Tan ailddweud yn blwmp ac yn blaen nad oedd am ystyried newid lliw’r cit yn ôl i’r glas traddodiadol, fe chwaraeodd Caerdydd yn eu hen liwiau yn erbyn Fulham gyda’r addewid y bydd y cit cartref yn yn las o hyn allan.

Rhaid dweud bod hwn yn newid syfrdanol o ystyried hanes didostur Tan a’i ddiffyg parch at deimladau’r cefnogwyr hyd yn hyn.

Ond pwy all feio’r dyn busnes llwyddiannus o’r dwyrain? Cafodd ei groesawu â breichiau agored wrth feddiannu’r clwb yn 2010 ac, er y protestiadau ar y cychwyn, fe gefnogodd nifer fawr o ffans ei benderfyniad i newid cit y clwb yn sgîl ei addewid i fuddsoddi £100m yn y clwb.

Yn wir, heblaw bod yr arian yn dal i fod ar ffurf benthyciad, mae Tan wedi cadw at ei air ac roedd y cefnogwyr yn hapus i lenwi Stadiwm Dinas Caerdydd bob yn ail wythnos wrth i’r tîm gyrraedd yr Uwch Gynghrair.

Rhod yn troi

Yn dilyn y dyrchafiad yn 2013 fe gynyddodd y protestiadau yn erbyn y coch, gyda’r haf hwnnw yn gweld genedigaeth mudiad ‘Bluebirds Unite’ i arwain y protestiadau.

Ymunodd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr â’r ymgyrch hefyd wedi i’w haelodau ‘galedu’ dros y mater.

Trwy gydol 2014 fe gynyddodd y nifer oedd yn protestio unwaith eto, gyda sacio Malky Mackay a disgyn o’r Uwch Gynghrair yn amlwg yn cael effaith ar y cefnogwyr.

Ond dechrau eleni fe welwyd y brotest fwyaf yn erbyn Tan – stadiwm bron yn wag ar gyfer y gêm gwpan yn erbyn Colchester.

I fod yn deg, dim ond mil yn llai na chyn-record isa’r grownd oedd yno. Ond roedd y seddi gwag yn ddatganiad mawr a chlir gan y cefnogwyr.

Wedi’r cwbl, fel dywedodd y diweddar Jock Stein: “Does dim pêl-droed heb gefnogwyr”.

Gwneud y gwahaniaeth

Mae’n rhaid cwestiynu dyfnder teimladau’r cefnogwyr. Wedi’r cwbl, mi roedd hi’n gêm oer ar nos Wener, jyst wedi’r Nadolig, roedd hi ar y teledu, yn erbyn gwrthwynebwyr gwan, a’r clwb hefyd ar rediad gwael.

Protest go iawn oedd hi, ynteu cyd-ddigwyddiad cyfleus i’r ymgyrchwyr?

Ers i mi stopio mynychu gemau Caerdydd – boicot fel mae nifer yn hoffi ei alw – dw i wedi dadlau mai dim ond cwpwl o gemau fyddai’n rhaid i’r ffans aberthu er mwyn gwir ddangos i Tan taw clwb y cefnogwyr ydyw, nid ei degan ef.

Mae’n bosib na fyddai hynny wedi cael effaith ar Tan wedi ei ddatganiadau trahaus, ond roedd rhaid gwneud rhywbeth.

A dyna ddigwyddodd yn y pen draw – un gêm gyda stadiwm wag gymerodd hi.

Y difrod wedi’i wneud

Gwell hwyr na hwyrach, ‘sbo. Dw i’n falch bod nifer o’m ffrindiau yn gallu dychwelyd i wylio’r clwb yr oedden nhw’n ei garu cymaint.

Fe aeth nifer i’r gêm yn erbyn Fulham a mwynhau mas draw, sy’n addawol iawn.

I fi, yn anffodus, mae’r boicot wedi troi mewn i rywbeth arall. Galla’ i ddim galw fy hun yn gefnogwr Caerdydd rhagor.

Roedd y misoedd cyntaf yn anodd iawn ond dw i wedi dygymod â’r golled.

Mae hi wedi bod yn newid byd mawr i mi, i beidio teithio i bellafion Lloegr bob yn ail wythnos a heb dreulio pob penwythnos arall yn dilyn yr un routine a’r arfer. Ond fel ‘na mae hi.

Fe adawais i’r clwb achos do’n i ddim yn teimlo mod i’n perthyn rhagor, fod y clwb ddim yn golygu’r un peth i’r rhan fwyaf ag oedd hi i mi.

Collwyd y lliw glas, yr aderyn glas a’r hanes, ac roedd y mwyafrif yn hapus i aberthu canrif o draddodiad am lwyddiant dros dro.

Fe gynyddodd y protestio dim ond pan oedd y clwb yn colli ar y cae. Mae’n debyg fod y cefnogwyr moyn ei chael hi bob ffordd.

Pwy a ŵyr …

O leia’ nawr, fe fydda’i ddim yn mynd mas o fy ffordd i osgoi gwylio Caerdydd.

Pwy a ŵyr, os oes tocyn sbâr ‘da rhywun, falle fe af i nôl a falle fe wna i fwynhau a theimlo’r un buzz a ro’n i’n cael bob wythnos am dros ddeunaw mlynedd. Ond ar y foment, dyw hi dal ddim i fi.

Gan y bu Jock Stein farw yn hen stadiwm Caerdydd, Parc Ninian, rwy’n gobeithio y gall y clwb gymryd ei eiriau o ddifrif ac agor deialog parhaol gyda’r cefnogwyr – a bod yn esiampl i glybiau ar draws y wlad.

Symptom o broblem ddyfnach oedd newid lliwiau Caerdydd ond, trwy weld synnwyr, maen nhw wedi dechrau cymodi.

Y gamp yn awr fydd i’r clwb a’r cefnogwyr symud ymlaen fel un a cheisio trwsio’r gêm brydferth.

Pod Pêl-droed – Diwedd y Tymor

Cyhoeddwyd Mai 14, 2014 gan Pêl-droed.

Tagiau: Abertawe, Caerdydd, Cymru, pod pêl-droed


Mae tymor arall o bêl-droed bron ar ben (ac eithrio Cwpan y Byd wrth gwrs), a chyda chlybiau Cymru’n cloriannu gweddillion eu tymor wrth iddyn nhw baratoi am haf hir o’u blaenau.

Owain Schiavone, Iolo Cheung a blogiwr pêl-droed golwg360, Rhys Hartley, sydd wedi dod at ei gilydd felly i asesu Caerdydd, Abertawe a’r timau cenedlaethol yn ein pod arbennig ar ddiwedd y tymor.

Mae clwb y brifddinas yn hawlio llawer o’r sylw wrth gwrs, gyda’u helyntion ar ac oddi ar y cae – pa chwaraewyr fydd yn gadael, ac a yw Tan a Solskjaer am aros?

Tymor cymysg fu hi i’r Elyrch gafodd lwyddiant yn Ewrop ond na wnaeth cystal yn y gynghrair, ac mae’r criw yn dewis y chwaraewyr maen nhw’n credu wnaeth argraff (neu ddim).

Mae’r tri hefyd yn trafod timau cenedlaethol Cymru, gan gynnwys ymgyrchoedd rhagbrofol y bechgyn dan-21 a’r merched.

Ac yn ogystal â hynny mae rhai o dimau ysgolion Cymru sydd wedi serennu’n ddiweddar hefyd yn hawlio’r sylw.

Brwydro nes y diwedd

Cyhoeddwyd Mai 9, 2014 gan Pêl-droed.

Tagiau: Abertawe, Caerdydd, Lerpwl, Man City, Uwch Gynghrair Lloegr


Llywelyn Williams
Mae hi wastad yn dda cael diweddglo cyffrous i’r Uwch Gynghrair, meddai Llywelyn Williams …

Y tro diwethaf ysgrifennais i flog pêl-droed golwg360, roedd y gynghrair yn nwylo Lerpwl. Bellach mae’r rhod wedi troi unwaith yn rhagor tuag at Manchester City, y ffefrynnau pendant am y gynghrair wedi deng munud o wallgofrwydd draw yn Selhurst Park nos Lun gan Lerpwl, a buddugoliaeth hynod o gyfforddus yn yr Etihad nos Fercher gan City.

Mae’r Gynghrair y tymor hwn wedi bod yn un hynod o gyffrous. Mae Lerpwl ac Everton wedi atgyfodi o ddyfnderoedd y tabl i fod yn gystadleuwyr brwd, a Manchester United yn cael tymor i’w anghofio.

Cafodd Arsenal ddechrau hynod o addawol i hanner cyntaf y tymor ond fe achosodd anaf Aaron Ramsey ar ôl y flwyddyn newydd, ymysg eraill, glec anferthol i obeithion Arsenal am y tlws.

Mae Chelsea wedi cael tymor reit gyson o ran perfformiad, ond yn rhyfeddol, timau o’r gwaelod megis Sunderland, Villa a Norwich sydd wedi’u hatal rhag ennill yn gynghrair.

Cymysg i’r Cymry

I bêl droed Cymru, siomedig oedd gweld Caerdydd yn methu gwneud hi’r tro hwn, yn enwedig gydag enw mawr fel Ole Gunnar Solskjaer yn cael ei benodi’n rheolwr ddechrau mis Ionawr.

Efallai y byddai sticio gyda Malky Mackay wedi bod yn well. Mae’n galonogol fod Abertawe wedi rhoi cytundeb parhaol i Gary Monk ar gyfer y tymor nesaf, gŵr medd Huw Jenkins sydd gyda’i wreiddiau a’i egwyddorion yn agos iawn i’r clwb.

Mae’n wir dweud fod mis mêl Abertawe yn yr Uwch Gynghrair wedi hen basio, a bod y gwrthwynebwyr yn fwy cystadleuol yn eu herbyn y tymor hwn. Ond o dan yr amgylchiadau, mae Abertawe wedi gwneud joban dda iawn ohoni i oroesi yn y gynghrair, gan fod hanner gwaelod y tabl wedi bod yn agos ofnadwy o ran pwyntiau.

Mae Wilfried Bony wedi camu fewn yn y gemau diwethaf gan ddangos digon o gymeriad, chwarae teg iddo. Un o chwaraewyr disgleiriaf yr Elyrch yn fy marn i.

Ras am y Gynghrair

Wedi canlyniad siomedig o 3-3 nos Lun yn erbyn Crystal Palace, mae gobeithion realistig Lerpwl o ennill y Gynghrair wir wedi dirywio. Yn fathemategol ydi, mae hi’n bosib, ond yn realistig bydd yn rhaid i Rodgers a’i dîm setlo am ail safle petai nhw’n curo Newcastle, a lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf eisoes wedi’i sicrhau.

Wedi eu buddugoliaeth o 4-0 nos Fercher mae gan Manchester City un llaw ar yr Uwch Gynghrair yn barod. Ar ôl i’r gôl gyntaf fynd fewn yn erbyn Villa, mi roedd Man City chwarae teg iddyn nhw yn chwarae fel gwir bencampwyr.

Yr amddiffyn yw’r gwahaniaeth rhwng City a Lerpwl y tymor hwn. Ond mae o’n dal yn ddigwyddiad cyffrous pan mae dau dîm yn dal i fod a siawns fathemategol o ennill y gynghrair ar ddiwrnod ola’r tymor, gyda’r gynghrair yn nwylo West Ham i bob pwrpas.

Y canlyniad?

Gan fod hi’n ddiwedd tymor, dyma sut rwyf am ragdybio’r canlyniadau bnawn Sul.

Manchester City v West Ham: Man City yn ennill (a dod yn bencampwyr)

Lerpwl v Newcastle: Lerpwl

Caerdydd v Chelsea: Chelsea

Hull v Everton: Everton

Fulham v Crystal Palace: Gêm gyfartal

Norwich v Arsenal: Arsenal

Southampton v Man Utd: Man Utd

Sunderland v Abertawe: Sunderland

Tottenham v Aston Villa: Tottenham

West Brom v Stoke: West Brom

Palas i’r Cymry

Cyhoeddwyd Chwefror 10, 2014 gan Pêl-droed.

Tagiau: Abertawe, Caerdydd, Crystal Palace, Iolo Cheung, tony pulis


Iolo Cheung
Iolo Cheung sy’n pendroni pa effaith gaiff y llif o Gymry sydd yng Nghrystal Palace ar y tîm cenedlaethol …

Mae ‘na bellach yr un faint o Gymry’n chwarae i Crystal Palace ac sydd yn nhimau Abertawe a Chaerdydd gyda’i gilydd, credwch neu beidio.

Ella mai adlewyrchiad gwael ar y ddau glwb Cymreig ‘di hynna, gydag ond dau chwaraewr o Gaerdydd (Craig Bellamy a Declan John) a thri o Abertawe (Ashley Williams, Ben Davies a Neil Taylor).

Ond mae hi dal yn syfrdanol meddwl bod pum Cymro rhyngwladol yn chwarae i’r un tîm yn yr Uwch Gynghrair – ydy hyn ‘rioed di digwydd o’r blaen?

Pan benodwyd Tony Pulis (y Cymro) yn rheolwr ar Palace ym mis Tachwedd etifeddodd garfan oedd yn cynnwys pedwar Cymro’n barod – Danny Gabiddon, Jonathan Williams, Lewis Price a Darcy Blake.

Mae Blake bellach wedi cael ei ryddhau gan y clwb, ond fis dwytha fe arwyddodd Pulis ddau Gymro arall all chwarae rhan bwysig iawn iddyn nhw’r tymor yma.

Cam da i Hennessey a Ledley

Y cyntaf oedd Wayne Hennessey o Wolves, y dyn o Fôn sy’n ddewis cyntaf yn y gôl i Gymru ar hyn  o bryd.

Mae’n rhyddhad mawr gweld Hennessey’n symud, rhaid deud. Doedd o ddim hyd yn oed yn cael gêm i Wolves yng Nghynghrair Un, ar ôl dychwelyd yno ar ôl cyfnod ar fenthyg yn Yeovil.

Mae o’n olwr lot rhy dda i’r safon yna – mae’n sicr yn ddigon da i ddechrau yn y Bencampwriaeth ac mae ganddo’r gallu i chwarae yn yr Uwch Gynghrair hefyd, heb os.

Mae golwr arall Palace, Julian Speroni, yn 34 bellach, felly’r gobaith ydi mai Wayne bach ni fydd y rhif un, os nad rŵan, yn sicr erbyn tymor nesaf.

Joe Ledley di’r llall gyrhaeddodd ym mis Ionawr, ac o bersbectif Cymreig eto mae’n dda’i weld yn gadael Celtic.

Oce iawn, mae o’n gallu ennill pob medal (domestig) dan haul yn yr Alban ar ôl i Rangers fynd i’r wal, ond mae’n wir nad ydi Cynghrair yr Alban yn un cryf iawn.

Ac felly i Ledley ma’ ymuno efo Palace a bod mewn sgrap am lefydd yng nghanol cae (er mai fel cefnwr chwith ro’dd o’n chwarae ar y penwythnos pan sgoriodd o) yn sicr yn beth da o ran ei ddatblygiad.

Dio ddim wastad wedi disgleirio yng nghrys Cymru’n ddiweddar, ac er bod ‘na ddigon o chwaraewyr canol cae i ddewis ohonynt mewn theori i Gymru, yn aml bydd dau neu dri o leiaf wedi’u hanafu – felly mae Ledley’n aml yn ddewis awtomatig.

Dos, Joni bach!

Mae’n ymddangos bod y Cymry sydd yno’n barod hefyd yn falch bod eu cydwladwyr wedi cyrraedd – gweler y llun yma o Joni, Ledley a ‘Gabbs’ allan am ddiod fach!

Ond yn anffodus i Joniesta, dwi ddim yn meddwl y dylai o aros yn Crystal Palace ar hyn o bryd, er bod o wedi arwyddo cytundeb newydd hir dymor.

Wrth gadw llygad arno ar y ‘Cip ar y Cymry’ wythnosol buan y gwelwch chi nad ydi o’n cael fawr ddim gêm i Palace ar hyn o bryd – ‘di o heb ddechrau’r un gêm yn yr Uwch Gynghrair eto a doedd o ddim hyd yn oed ar y fainc tro dwytha.

Ac yntau ond yn 20 oed, mae’n hanfodol ei fod o’n mynd allan ar fenthyg i’r Bencampwriaeth er mwyn chwarae’n fwy rheolaidd. Mae angen hynny arno fo a Chymru os ydan ni am wneud y mwyaf o’i dalent.

Jyst drychwch ar Emyr Huws. Yn lle llesteirio yn Man City mae o ‘di mynd ar fenthyg i Birmingham, a ‘di chwarae 90 munud ddwywaith, cael seren y gêm ddwywaith a chreu gôl ym mhob o’r gemau hynny ers ymuno.

Go brin wnawn ni weld pedwar Palace ar y cae gyda’i gilydd llawer y tymor yma (‘di Price ddim yn cyfri gan mai’r ‘bac-yp goli’ ydi o).

Ond ma’ cael chwaraewyr yn chwarae ar y lefel uchaf yn hanfodol i dîm rhyngwladol Cymru, felly gobeithio’n wir y gwnaiff Palas aros fyny’r tymor yma – er, nid ar draul yr Adar Cochion neu’r Elyrch chwaith.

Gallwch ddilyn Iolo ar Twitter ar @iolocheung.

Darbi De Cymru gyntaf yr Uwch Gynghrair

Cyhoeddwyd Tachwedd 1, 2013 gan Pêl-droed.

Tagiau: Abertawe, Caerdydd, Pêl-droed, uwch gynghrair



Rhys Hartley sydd yn edrych ymlaen at y gêm fawr rhwng Caerdydd ac Abertawe…

Ers i’r ddau dîm gwrdd ddiwethaf, ddwy flynedd a hanner yn ôl, daeth tro ar fyd i Gaerdydd ac i Abertawe.

Y tro hwnnw, gôl hwyr gan Bellamy enillodd y dydd i Gaerdydd yn Stadiwm Liberty ond aeth Abertawe yn mynd ymlaen i ennill dyrchafiad drwy’r gemau ail-gyfle.

Mae’r ddau wedi bod yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ers hynny, gydag Abertawe yn trechu Bradford y llynedd i gyrraedd Cynghrair Ewropa.

Darbi ar newydd wedd

Serch hyn, y newid mwyaf wrth gwrs yw newid lliw cit Caerdydd o las i goch gyda’r aderyn glas yn cael ei ddisodli gan ddraig.

Mae lot wedi cael ei ddweud am sut y mae’r timoedd yn cael eu rhedeg tu ôl i’r llen. Byddai hyd yn oed cefnogwr mwyaf brwd Caerdydd yn gwingo wrth glywed enw perchennog y clwb – Tan Sri Vincent Tan.

Mae ei arian wedi helpu Caerdydd i gyrraedd yr Uwch Gynghrair, gan ennill y Bencampwriaeth llynedd, ac mae’r clwb wedi gwario dros £30 miliwn eleni i geisio aros ar y lefel uchaf.

Ers newid lliw’r cit, fodd bynnag, mae Tan wedi llwyddo i greu sawl gelyn yn y brifddinas, gan wrthod cyfarfod â grwpiau cefnogwyr sydd eisiau trafod eu pryderon.

Gyda’r clwb dal mewn dyled syfrdanol, a’r ddyled yna’n cynyddu gyda llog o 7% yn daladwy i Tan, mae sôn y bydd y gŵr o Falaysia yn troi’r ddyled yna yn gyfranddaliadau yn y clwb.

Ond, os digwydd hyn, yna bydd Tan yn rheoli 95% o’r clwb a gyda phum dyn o Falaysia ar fwrdd y cyfarwyddwyr yn barod, mae’n anodd gweld unrhyw le i’r cefnogwyr neu eu cynrychiolydd.

Yn ddiweddar, mae e wedi llwyddo i wylltio’r rheolwr, Malky Mackay, wrth gael gwared ar Bennaeth Recriwtio’r clwb oedd wedi bod gyda Malky ers ei ddyddiau yn Watford – a phenodi ffrind ei fab, boi 24 mlwydd oed o Kazakstan yn ei le!

Esiampl yr Elyrch

I lawr yr M4 mae Abertawe yn dangos sut y gall pethau fod – esiampl nodedig o sut i reoli clwb.

Mae’r cadeirydd, Huw Jenkins, yn ŵr lleol ac yn gefnogwr selog o’r clwb ac mae Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn dal 20% o gyfranddaliadau’r clwb, a does neb yn cael prynu mwy na nhw.

Abertawe sydd hefyd a’r sefyllfa ariannol gorau yn yr Uwch Gynghrair – dim dyled a £5miliwn yn y banc.

Mae llwyddiant Abertawe yn y Gynghrair, y Cwpan ac ar y cyfandir yn dangos nad oes rhaid gwario gormod, na chael arian o dramor i lwyddo, tra bod modd cadw’r cefnogwyr, y rheolwr a’r chwaraewyr yn hapus.

Mae rhyw eironi bod y ‘Cochion’ am groesawu’r ‘Gwynion’ ddydd Sul, fel petai’r ddau yn eistedd ar naill ysgwydd a llall y gêm hon – Caerdydd fel y gydwybod ddrwg ac Abertawe fel y cydwybod glan.

Yn iach i bêl-droed Cymru?

Yn anffodus i Gymru, fodd bynnag, mae’n ymddangos mai dim ond tri Chymro fydd ar y maes yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul – Ashley Williams, Neil Taylor a Craig Bellamy.

Dim ond dau ohonyn nhw sydd yn dal i gynrychioli eu gwlad wedi i Bellamy orffen ei yrfa yng ngwlad Belg.

Yn y ddarbi ddwetha’ roedd chwe Chymro ar y cae, sy’n gwneud i mi ofyn a yw cael dau dîm yn yr Uwch Gynghrair yn wir o gymorth i Gymru? Mae’r arian sydd ar gael i’r ddau glwb nawr yn eu galluogi i brynu o dramor fel y gwelsom dros yr haf gyda Medel, Theophile-Catherine a Cornelius yn dod i Gaerdydd a Bony, Pozuelo a Cañas yn cyrraedd Abertawe.

Yn yr hir dymor mae’n rhaid gobeithio y bydd llwyddiant y ddau dîm yn annog cenhedlaeth newydd i chwarae pêl-droed a gobeithio y bydd y clybiau yn ariannu eu hacademïau er mwyn cael y gorau o’r Cymry ifanc.

Dim ond un chwaraewr o academi Caerdydd oedd yng ngharfan dan-21 diwethaf Cymru, a dim ond dau yn y tîm llawn – ond efallai ei bod hi’n anodd mesur llwyddiant fel hyn gan fod tîm cyntaf Caerdydd bellach yn chwarae ar y lefel newydd, uwch yma. Cawn weld!

Teimladau cymysg

Hon fydd y gêm ddarbi gyntaf i mi fethu ers 1998. Dwi wedi gwisgo glas ar y teras bob tro, ond ‘newch chi fyth fy ngweld i yn dilyn Caerdydd mewn coch. Bydd pnawn Sul yn anodd i mi. Cefnogi clwb sy’n amhosib i mi uniaethu â nhw neu gefnogi’r hen elyn.

Mike Dean fydd yn cael y pleser o ddyfarnu’r gêm. Yr un dyn a roddodd cic o’r smotyn amheus iawn i Gaerdydd yn y funud ola’ er mwyn cael gêm gyfartal yn y ddarbi olaf ym Mharc Ninian – a hynny ar ôl iddo gael ei daro gan geiniog o’r dorf! Pob lwc iddo. Mae hi’n siŵr o fod yn gêm danllyd arall.

Ar bapur, dylai Abertawe fod yn ffefrynnau ddydd Sul ond mae hi’n anodd iawn darogan

sgôr gêm ddarbi. Mae David Marshall wedi bod yn arbennig i Gaerdydd y tymor yma ond dydyn nhw ddim yn sgorio rhyw lawer.

Bydd gêm basio, amyneddgar Abertawe yn gorfodi Caerdydd i weithio’n galed i gael y bêl ac yna chwarae’r bêl yn hir fel y maen nhw wedi gwneud y tymor hwn. Felly, mae’r pen yn dweud gêm gyfartal isel ei sgôr – gydag un neu ddau o gardiau coch yn hwyr yn y gêm.

Gallwch ddilyn Rhys ar Twitter ar @HartleyR27.