RSS

Golwg360

MwyCau 

Mae’r amser bron â dod …

Cyhoeddwyd Hydref 20, 2017 gan Blog Meddwl.

Tagiau: brexit, Theresa May, y blaid lafur


Theresa May - mae'r gair 'sombi' yn dod i'r meddwl (llun o'i chyfri Twitter)
Blog bach cyn cinioi gan Dylan Iorwerth …

Mae’r amser bron wedi cyrraedd pan fydd hi’n bosib i rywrai ddechrau ymgyrch go iawn yn dweud “dau fys i’r Refferendwm”.

Er gwaetha’r mymryn o gynnydd y mae Theresa May wedi’i wneud heddiw trwy gael rhyw addewid wysg-tin y bydd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau trafod masnach, mae shambls Brexit yn waeth nag yr oedd y beirniad mwya’ wedi’i ddisgwyl.

Cysgod sy’ ar ôl o’r Prif Weinidog ei hun ac mae’r bowns hunandybus wedi hen fynd o agwedd ei phrif drafodwr, David Davis. Am ryw reswm, mae’r gair ‘sombis’ yn mynnu dod i’r meddwl.

Mae’r polau piniwn bellach yn dangos mwyafrif yn erbyn Brexit ond, yn fwy na hynny, mae yna deimlad o ddiflastod mawr wedi cydio ym mhawb ond y gadawyr mwya’ brwd.

Felly, petai Llafur wirioneddol yn credu hynny, mi allen nhw fentro cyn bo hir i ddweud, ‘dyden ni ddim am adael’ a herio’r Ceidwadwyr i wynebu etholiad arall.

Nonsens fyddai cynnal refferendwm ar y fargen i adael yr Undeb Ewropeaidd ar ei phen ei hun ond mi fyddai’n bosib cynnal refferendwm efo dau ddewis clir – y fargen newydd neu’r drefn fel y mae o fewn yr Undeb.

Mi allai Llafur ddadlau’n ddigon teg eu bod nhw am siarad tros y mwyafrif na wnaeth bleidleisio tros adael – yr arhoswyr a’r rheiny na bleidleisiodd o gwbl.

Mi allen nhw ddweud nad oedd y canlyniad yn dweud yn glir bod eisio gadael y farchnad sengl ac mai’r unig ffordd i aros o fewn honno ydi bod yn aelod o’r Undeb unwaith eto.

Ac, ar ben hynny, ei bod hi’n dod yn amlwg y gallai gadael wneud difrod anferth i’r Gwasanaeth Iechyd ymhlith pethau eraill.

Mae’r ddadl wedi newid yn ystod y deunaw mis diwetha’.

A fydd gan Lafur y gyts i wneud hyn? A ydyn nhw eisio aros?

BLOG: Trafod Brexit – cyngor gan Winston Roddick


Winston Roddick
Ar ddechrau’r drafodaeth ar wahanu Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, mae cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru yn ystyried y pynciau pwysicaf…

Mae dros 7,000 o bynciau i’w trafod a’u cytuno. Dyna yw maint y dasg sydd o’n blaen heddiw. Felly bydd rhaid blaenoriaethu a chanolbwyntio ar y materion pwysicaf.

Bydd y penderfyniadau ar y pethau mawr yn dylanwadu ar y drafodaeth ar y pethau llai.

Y man cychwyn yw bod yn glir ynglŷn â beth yw’r materion pwysicaf i’r Deyrnas Unedig. Yn ôl araith y Prif Weinidog rhai misoedd yn ôl, Brexit caled yw ei tharged.

Beth yw Brexit caled (a Brexit meddal)?

Ail sefydlu sofraniaeth seneddol y Deyrnas Unedig, ail-ennill rheolaeth tros ein ffiniau, a chreu’r capasiti i greu cytundebau masnachol – trade deals – gyda gwledydd o bob rhan o’r byd. Dyma’r rhesymau pwysicaf tros adael yr Undeb, yn ôl Theresa May.

I sicrhau’r freuddwyd hon, mae’n angenrheidiol i’r Deyrnas Unedig ddiddymu pedwar rhyddid Ewropeaidd sy’n safonol i’r farchnad sengl a’r Undeb sef – rhyddid i symud nwyddau, arian, pobol a gwasanaethau.

Aelodau’r pwyllgor sy’n goruchwylio’r drafodaeth yw Theresa May, Damien Green, David Davis, Phillip Hammond a Boris Johnson. Ein problem fwyaf ar hyn o bryd yw bod ansicrwydd ymysg agweddau’r aelodau tuag at Brexit caled.

A ydynt yn gytûn ar beth maen nhw eisiau o’r drafodaeth?

A beth am Brexit meddal? Cytundeb sy’n caniatáu rhywfaint o reolaeth tros ein ffiniau ac sydd yn caniatáu i ni barhau yn aelod o’r farchnad sengl a’r Undeb Tollau, casgliad o wledydd Ewrop sydd wedi cytuno ar faint y tâl – y tariff – am fewnforio nwyddau.

Dyma dw i’n ei gynnig…

A oes rheolau neu ganllawiau i’n harwain mewn trafodaeth o’r math? Ym mhob achos, dyma’r chwe rheol y byddaf i’n ceisio eu gweithredu:

1. Bod yn glir a realistig am beth yw cryfderau a gwendidau eich achos;

2. Bod yn glir yn eich dealltwriaeth o beth yw materion a thargedau pwysicaf eich client;

3. Beth yw’r materion na ellir cyfaddawdu arnynt? Byddwch yn glir am beth yw eich llinell olaf – eich ‘bottom line’ – yn y drafodaeth. Bydd rhaid cyfaddawdu ar rai pethau ond ni ellir cyfaddawdu ar bopeth. Pwrpas y slogan ‘gwell dim cytundeb na chytundeb sâl’ yw dweud bod gynnon ni linell olaf;

4. Peidio dechrau’r drafodaeth drwy roi’r argraff eich bod yn berson caled a digyfaddawd. Mae’n anochel y byddwch yn gorfod dod lawr o’r llwyfan hwn yn ystod y drafodaeth ac wrth wneud hynny byddwch yn rhoi’r argraff mai blyffio oeddech yn gynharach ac mae blyffiwr ydych. Ddim yn gredadwy;

5. Ceisiwch ragweld beth sy’n bwysig iawn i’r ochr arall a meddyliwch am ffordd o roi hwn iddynt neu ei addasu fel eich bod yn gallu ei gytuno;

6. Cofiwch mai pris uwch yw gwir gost cyfaddawd. Faint mwy rydym yn fodlon dalu am iddynt roi i ni rhywbeth sy’n bwysig i ni – rhywbeth na allwn fynnu ei gael. Bydd rhaid bod yn glir ar y cwestiwn hwn. Mynd yn ôl at beth sydd yn wir bwysig i’r Deyrnas Unedig.

Materion eraill 

Un enghraifft o hyn yw cael cytundeb masnachu rhydd – free trade deal – gyda’r Undeb. Beth mae hyn yn ei olygu yw mynediad – access – yn hytrach nag aelodaeth o’r farchnad sengl. Mae cost i aelodaeth. Does dim cost i fynediad rhydd.

Gallwn ddim mynnu hyn, felly bydd yn rhaid mynd ar ofyn yr Undeb a bydd yn rhaid derbyn mai gofyn yr ydym ac nid hawlio. Bydd yn rhaid talu pris am y consesiwn hwn.

A dyma fynd yn ôl at beth sy’n bwysig i’r Undeb. Os ydych yn gwybod yr ateb, mi allwch chi ganolbwyntio arno ac efallai ei gynnig iddyn nhw fel pris consesiwn i ni.

Mae sefyllfa dinasyddion yr Undeb sydd wedi ymgartrefu ym Mhrydain yn bwysig iawn i bobol a llywodraethau Ewrop. Mae eu dyfodol yn y fantol ar hyn o bryd.

Mae dyfodol Prydeinwyr sydd wedi ymgartrefu yn Ewrop yr un mor bwysig. Mae eu dyfodol nhw hefyd yn ansicr.

Cyngor i David Davis

Beth am iddo ddechrau’r drafodaeth trwy gynnig sicrhad i ddinasyddion Ewrop sydd wedi ymgartrefu yma i aros os ydyn nhw eisiau hynny? Mi fasa hyn yn ennill parch pawb yn Ewrop – rhywbeth wedi’i gynnig yn wirfoddol ac yn ddiamodol.

Hwyrach y byddai esiampl o’r math yn annog Michael Barnier i gynnig rhywbeth tebyg i ddinasyddion y Deyrnas Unedig sydd yn Ewrop.

Dechrau da. Dechrau cryf i drafodaeth bwysicaf ein hanes.

BLOG: Osgoi y gwir am oblygiadau Brexit

Cyhoeddwyd Mai 27, 2017 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: brexit, Theresa May


(llun: PA)
Huw Prys Jones yn dadlau bod pwnc pwysicaf yr etholiad yn cael ei anwybyddu

Mae’n anochel y bydd yr ymosodiad ym Manceinion yn newid rhywfaint ar natur ymgyrch yr etholiad.

Dydi hynny fodd bynnag ddim yn esgusodi methiant llwyr y gwrthbleidiau i fynd i’r afael â’r hyn ddylai fod yn bwnc pwysicaf yr etholiad.

A’r pwnc hwnnw yw’r ffordd y mae’r Blaid Dorïaidd bellach yn llwyr yng nghrafangau eithafwyr sy’n benderfynol o dorri unrhyw gysylltiadau rhwng Prydain a thir mawr Ewrop.

Mi allai’r etholiad eleni fod yn gyfle gwych i’r gwrthbleidiau edliw a thaflu bai am y llanast yr ydym ynddo.

Yn lle hynny, mae eu tawedogrwydd ar y mater yn debygol o arwain at benrhyddid i Theresa May gamddefnyddio mwy ar ei grym.

Ni ddylid bychanu difrifoldeb y sefyllfa. Mae’n amlwg fod y garfan wrth-Ewropeaidd wedi bod yn cynllwynio ers blynyddoedd am ffyrdd o gipio grym pe byddai’r refferendwm yn digwydd o’u plaid.

Maen nhw wedi sicrhau bod y dehongliad mwyaf eithafol bosibl o’r canlyniad yn cael ei dderbyn fel efengyl, ac yn benderfynol o fygu unrhyw ddehongliadau eraill mwy gonest.

Oni bai fod yna bobl sy’n barod i herio’u hagweddau a’u dehongliadau, maen nhw am fynd yn fwyfwy eithafol.  Rhowch chi fodfedd i’r bobl hyn ac mi gymeran nhw lathen. Ac mi allan nhw fod yn hyderus bod ganddyn nhw bapurau newydd fel y Sun a’r Daily Mail i bregethu eu gwenwyn ddiwrnod ar ôl diwrnod i’r hygoelus a’r anwybodus.

Methiant

Rydan ni i gyd yn talu’r pris am fethiant y gwleidyddion hynny sy’n gwybod yn iawn bod Brexit yn syniad gwael, i ddwyn anfri ar ddilysrwydd canlyniad y refferendwm.  Trwy dderbyn y celwyddau a’r rhagfarnau a oedd yn sail iddo, maen nhw wedi sigo ymhellach ffydd pobl mewn democratiaeth.

Y Blaid Lafur ydi’r mwyaf euog o’r gwrthbleidiau o bell ffordd, gyda Jeremy Corbyn fel petai’n cofleidio’r canlyniad o’r cychwyn. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn fwy goleuedig ac mae eu haddewid o ail refferendwm  yn sicr yn rhywbeth i’w groesawu. Er hynny, dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n llwyddo i gyfleu neges gwbl ddiamwys o’u safbwyntiau.

Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi gwneud safiad clodwiw drwy bleidleisio yn erbyn Erthygl 50 ac wedi bod yn bur gyson eu safbwynt. Mae Dafydd Wigley hefyd, eu hunig arglwydd bellach, wedi bod yn dadlau’n huawdl dros yr egwyddor o ail refferendwm.

Yn anffodus fodd bynnag, mae arwyddion fod Plaid Cymru hefyd wedi simsanu yn ystod ymgyrch yr etholiad.

Dywed eu harweinydd Leanne Wood fod angen ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ gan sôn am ‘gynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’ (beth bynnag mae hynny yn ei olygu).

Ystyr ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ ydi ildio’n ddigwestiwn i gelwyddau a rhagfarnau’r cenedlaetholwyr Seisnig fu’n arwain ymgyrch Brexit, a gwrthod gwneud safiad yn erbyn newyddion ffug y Daily Mail a’r Sun.

Go brin fod hyn yn dderbyniol i drwch cefnogwyr Plaid Cymru.

Meddyliwch yn ôl dair blynedd a chanlyniad refferendwm yr Alban, pryd roedd mwyafrif mwy yn erbyn annibyniaeth nag oedd o blaid Brexit y llynedd.

Allwch chi ddychmygu Alex Salmond a Nicola Sturgeon yn dadlau bod angen i bawb barchu’r canlyniad, a’i dderbyn fel y gair olaf, a chanolbwyntio ar y manteision a allai ddeillio o aros fel rhan o Brydain?

Problemau sylfaenol

Hyd y gwelaf i, mae sawl problem sylfaenol gyda’r datblygiad diweddaraf yn agwedd Plaid Cymru at Brexit.

I ddechrau, mae’n awgrymu’r camddealltwriaeth sylfaenol mai mater economaidd yn unig yw perthynas Cymru, Prydain ac Ewrop. Nid bygythiad economaidd yn unig ydi Brexit ond ymosodiad ar ein gwerthoedd, ein diwylliant a’n hunaniaeth. Un o gymhellion mwyaf sylfaenol cenedlaetholdeb Cymreig ydi gwrthsefyll y math o genedlaetholdeb Seisnig haerllug sy’n nodwedd mor hanfodol o arweinwyr Brexit.

Mae hefyd yn debygol o gyfrannu at wrthdaro rhwng agweddau aelodau Plaid Cymru ar lawr gwlad mewn ardaloedd fel Gwynedd a’r hyn fydd yn cael ei weld fel gor-awydd i apelio at bleidleiswyr yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de.

Cwestiwn arall y bydd yn rhaid iddi ei wynebu hefyd fydd oblygiadau Brexit i’w hamcanion cyfansoddiadol. Mae’r freuddwyd o annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddigon anodd ei dychmygu pan fo Prydain yn dal yn aelod o’r Undeb. Os bydd y math o Brexit ynysig y mae Theresa May yn ei addo yn digwydd, mae’r nod yn symud i dir ffantasi pur. Pa obaith fyddai perswadio pobl Cymru i ffeirio undeb â Lloegr am undod â thir mawr Ewrop os ydi Plaid Cymru’n derbyn canlyniad y refferendwm llynedd fel adlewyrchiad dilys o’u dyheadau? Ac os nad annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, annibyniaeth yn lle? Go brin fod annibyniaeth lwyr yn opsiwn yn y byd sydd ohoni. Unig obaith am ddatblygiad cyfansoddiadol Cymru mewn byd ôl-Brexit felly fyddai fel rhyw fath o dalaith mewn Prydain ffederal.

Ai hyn tybed fydd canlyniad ‘cynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’?

Ar y llaw arall, mae’n debygol iawn mai’r unig obaith i ddyfodol cenedlaetholdeb Cymreig fyddai methiant llwyr y Brydain newydd y mae’r Torïaid yn ceisio’i chreu. Os yw Plaid Cymru am fanteisio ar fethiant o’r fath yn y dyfodol, bydd yn rhaid iddi fod yn gwbl eofn a chyson ei gwawd a’i dirmyg o weledigaeth y cenedlaetholwyr Seisnig sy’n ein llywodraethu heddiw.

BLOG: Trump, Farage a Le Pen… a’r peryclaf yw Trump

Cyhoeddwyd Tachwedd 25, 2016 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: brexit, donald trump


Aled Thomas

Cafodd chwech o aelodau Plaid Cymru Ifanc gyfle arbennig i fod yn rhan o weithdy areithio a drefnwyd gan Hywel Williams AS yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf. Dysgais am dechnegau ysgrifennu areithiau gwleidyddol.

Fel rhan o’r cwrs, astudiwyd araith Barack Obama yn dilyn ei fuddugoliaeth pan etholwyd ef yn Arlywydd America. Prif dechnegau’r araith hon oedd: ail-adrodd cyson, defnydd o wrthgyferbyniadau a gosod brawddegau mewn rhestrau o dri.

Prif themâu araith Obama oedd cydraddoldeb a’r pwyslais ar obaith newydd am ragor o newid, i’r llef ‘Yes we can’.

Heddiw, gwaetha’r modd, yr anobaith am arlywyddiaeth Trump sy’n rhagori ac yn gafael yn dynn amdanom. Corddwyd y dyfroedd gan anobaith ffiaidd. Dysgom am ddulliau Trump o drosglwyddo negeseuon ffasgaidd eu natur i’r bobl. Lledaenodd casineb gwrth-Islamaidd a gwrth-Hispanig wrth iddo ailadrodd ei addewidion.

Atgoffwyd ni am yr hyn a ddywedodd Hitler: ‘If you tell a big enough lie, and tell it frequently enough, it will be believed’. Dyma a ddywedai Trump drosodd a throsodd: ‘We’ll build a wall, a beautiful wall and Mexico is going to pay for it.’ Tri pheth sy’n cael eu crybwyll gan Donald Trump yn y frawddeg: wal, prydferthwch a thaliad.

Llwyddodd i hyrwyddo’r syniad o adeiladu wal drwy ddweud y byddai’r wal yn brydferth ac mai Mecsico fyddai’n talu amdano. Mae hyn yn codi ias, yn enwedig wrth gofio am eiriau Hitler: ‘does neb yn herio’r enillydd’.

Tri pheth sy’n anodd adnabod: Trump, Farage a Le Pen. A’r peryclaf ohonynt, o drwch blewyn, yw Trump. Yntau, y dyn gwyn, y bwli cyfoethog diegwyddor fydd yn arwain yn awr – o’r fath newid i egwyddorion diymhongar Obama.

‘Brexit yn drychinebus’

Mae’n bwysicach nag erioed i Blaid Cymru ddarbwyllo ein pobl mai twyll adain dde ei natur yw UKIP. Mae’r gymhariaeth rhwng ymgyrch Trump a Brexit yn amlwg i bawb, sef i greu ofn yn erbyn ffoaduriaid, gyda’u sloganau ‘Bring back control’ a ‘Make America Great Again.

Roedd canlyniad Brexit yn drychinebus yng Nghymru, yr un mor drychinebus â llwyddiant Trump yn yr Unol Daleithiau. Rhaid cofio fod cynifer â saith o aelodau UKIP yn ein Cynulliad Cenedlaethol.

“Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad.” Mae angen rhagor o wrtaith ar y winllan hon i ganghennau ifanc dyfu a’n cysgodi rhag surdeb eithafiaeth. Gyda’n gilydd rhaid torchi llewys a churo drysau i ddirwyn perswâd ar ein pobl i wrthod UKIP, canys egni a lwydd.

Yn y pen draw, fe ddaw haul ar fryn a gwin melys i’n parthau unwaith eto, dw i’n siŵr.

Cymru Annibynnol ym Mhrydain?

Cyhoeddwyd Hydref 22, 2016 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Aled G Jôb, brexit, Plaid Cymru


Aled G Jôb yn awgrymu trywydd newydd i Blaid Cymru

Roedd canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd yn yr haf yn ddaeargryn gwleidyddol  na welwyd ei debyg o’r blaen. Er fod union natur strategaeth Llywodraeth Prydain yn dilyn y bleidlais yn parhau’n bur amwys, a’r lleisiau gwrthwynebus yn tyfu’n gynyddol, does fawr o amheuaeth mai gadael yr Undeb fydd ei hanes hi yn y pendraw.

Mae gan y Prif Weinidog, Theresa May waith anodd iawn o’i blaen wrth arwain y broses o adael yr Undeb nid yn unig gan nad oes unrhyw gynsail ar gyfer y ffasiwn broses, ond hefyd gan fod y penderfyniad i adael wedi bod mor agos a hynny’n brawf o’r rhanniadau dwfn a ddaeth i’r wyneb yng Ngwledydd Prydain yn ystod y refferendwm ei hun.

Er gwaetha’r synau herfeiddiol a geir ganddi ar hyn o bryd wrth iddi baratoi i negydu gyda’r Undeb Ewropeaidd, diau y bydd rhaid wrth ryw fath o gyfaddawd er mwyn ceisio cyfannu’r hollt mewnol gartref a sicrhau bod masnachu mor ddilyffethair â phosib yn gallu parhau rhwng Gwledydd Prydain â’r cyfandir.

Problem  ddyrys arall sydd raid i Theresa May ei hwynebu yw sefyllfa’r Alban a’r bygythiad real o ail refferendwm ar annibyniaeth yno pe bai Llywodraeth Prydain yn gadael y farchnad sengl Ewropeaidd.

Er gwaetha’r propaganda du a ledaenir gan y cyfryngau am ddibyniaeth yr Alban ar largesse Lloegr, a’r rhagdybiaethau dall sydd gan lawer o Saeson am y sefyllfa yno, y gwir plaen ydi na all y Wladwriaeth Brydeinig fforddio colli’r Alban. Byddai’r colli hwn yn llawer mwy na cholli talp  o dir helaeth a cholli wyneb yn y byd wrth i’r Albanwyr fynd eu ffordd eu hunain.

Rhaid cofio y defnyddir cyfoeth olew’r Alban fel collateral gan y Wladwriaeth Brydeinig i fenthyca arian ar farchnadoedd arian y byd ac mae diwydiannau llewyrchus eraill yr Alban megis wisgi, bwyd a diod hefyd yn allweddol i gynnal yr hynny o sefydlogrwydd ariannol sydd gan y Wladwriaeth o gofio bod y ddyled genedlaethol bellach yn 1.4 triliwn.

Dydi hi ddim yn ormodiaith i ddweud y byddai hi wirioneddol ar ei thîn yn economaidd pe bai yr Alban yn gadael o gofio am y modd y mae gweithgynhyrchu wedi crebachu bron yn ddim yn Lloegr yn dilyn blynyddoedd lawer o ganolbwyntio ar fuddiannau Dinas Llundain.

Felly, bydd y Prif Weinidog yn siwr o wneud popeth yn ei gallu i gael hyd i gyfaddawd nid yn unig gydag Ewrop ond hefyd gyda’r Alban. Efallai’n wir y bydd rhaid iddi negydu cytundeb sy’n gadael i’r Alban aros yn y farchnad sengl gyda Lloegr a Chymru’n gadael. Ac wrth gwrs byddai diogelu bodolaeth yr Alban yn y farchnad sengl ar garreg y drws yn gallu bod o fantais mawr i’r endid newydd “England and Wales” beth bynnag.

Yr her i Blaid Cymru

Felly, ble mae hynny’n gadael Cymru a Phlaid Cymru yn benodol?

Am flynyddoedd bu’r slogan ‘Cymru Annibynnol yn Ewrop’ yn ysbrydoliaeth i’r mudiad cenedlaethol. Wrth wraidd y slogan hon oedd y syniad y gellid rhywfodd anwybyddu’r brawd mawr drws nesaf a sefydlu cysylltiad uniongyrchol â’r cyfandir a’r gwledydd bychain eraill ar y cyfandir hwnnw.

Arweiniodd hyn at Ewroffilia di-feddwl ac amharodrwydd i wynebu gwir natur yr Undeb Ewropeaidd, ei dogma neo-ryddfrydol di-gyfaddawd a’r bwriad cudd i greu un Wladwriaeth Ewropeaidd ar draul holl wledydd unigol y cyfandir.

Bellach gyda Brexit, mae popeth wedi newid, llwybrau eraill yn bosib a ffyrdd newydd o lywodraethu hefyd yn bosib. Tybed a oes cyfle nawr i Blaid Cymru gyflwyno neges newydd i bobl Cymru yn wyneb y sefyllfa newydd sydd yn ein hwynebu?

Y caswir sy’n rhaid ei gydnabod yw fod y slogan Cymru Annibynnol yn Ewrop yn boblogaidd iawn ymhlith cenedlaetholwyr Cymraeg a’r dosbarth canol hynny yng Nghymru sydd wedi hen arfer mynd am wyliau “diwylliannol” ar y cyfandir. Ond mae’n amheus gen i a yw’r slogan erioed wedi apelio ryw lawer at drwch pobl Cymru

Cysylltiad diwylliannol

Onid y gwir amdani yw fod gan bobl Cymru fwy o gysylltiad diwylliannol a chymdeithasol gyda phobl eraill yr ynysoedd hyn, ie hyd yn oed gyda Lloegr a gyda’r Alban nag sydd ganddynt â phobl ar y cyfandir?

Gellid cysylltu hyn o bosib gydag amharodrwydd cyson pobl Cymru i gofleidio gweledigaeth y Blaid ynghylch annibyniaeth. Dros y blynyddoedd, cafodd annibyniaeth ei weld fel rhywbeth a fyddai’n arwain at Gymru ynysig a mewnblyg a fyddai’n seiliedig ar droi cefn ar weddill pobloedd gwledydd Prydain.

Byddai defnyddio Brexit fel cyfle i alw am Gymru Annibynnol ym Mhrydain yn gwneud llawer i ddifa’r ofnau a’r pryderon hyn sydd wedi llesteirio twf yr achos cenedlaethol cyhyd.Byddai hefyd yn arwydd bod arweinwyr Plaid Cymru yn gallu meddwl y tu hwnt i’r bocs a chydnabod yr hen wireb honno “ Pan fo’r ffeithiau’n newid, dwi hefyd yn newid fy meddwl”.

Byddai cydnabod realiti daearyddol a gwleidyddol tirlun Gwledydd Prydain o’r newydd  hefyd yn fodd inni ail-gysylltu â’n gwreiddiau diwylliannol ein hunain. Wedi’r cwbl, roedd y cwbl o dir Prydain unwaith yn nwylo’r Cymry ac mae ein barddoniaeth ar hyd yr oesau yn gyforiog o gyfeiriadau at hynny. Yn y gerdd “Armes Prydain” yn yr 11ed ganrif, sonir am y Cymry yn ail-feddiannu y cwbl o diroedd Prydain hanesyddol.  Efallai y gellid addasu’r hen broffwydoliaeth hon ar gyfer ein cyfnod ni trwy ddefnyddio’r syniad o Gymru Annibynnol ym Mhrydain er mwyn mynnu y dylid dysgu am y Gymraeg fel rhan o syllabus ysgolion Lloegr er enghraifft.

Ond y ffordd orau i rymuso’r ddadl fyddai son am greu annibyniaeth ar y model Sgandinafaidd.Mae Denmarc, Sweden a Norwy oll yn rhannu’r un tirwedd, ond y tair wlad yn wledydd annibynol yn eu hawl eu hunain sydd â chysylltiadau clos ac sy’n cyd-weithio â’i gilydd. Gallai Plaid Cymru ddadlau dros sefydlu system debyg ar dir Prydain gyda’r Alban, Lloegr a Chymru oll yn wledydd annibynol sydd hefyd yn gallu cyd-weithio gyda’i  gilydd.

Mae’r cysyniad o Annibyniaeth i Gymru wedi codi gormod o fraw ar ormod o bobl am ormod o flynyddoedd.  Pe bai modd cyflwyno’r weledigaeth mewn ffordd sy’n lleddfu ofnau dyfnaf y Cymry, efallai gallai esiampl Sgandinafia roi bywyd newydd i’r hen freuddwyd.

Deffro i hunllef y refferendwm

Cyhoeddwyd Mehefin 28, 2016 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: brexit, Brwsel, refferendwm, Rhiannon Hincks, Undeb Ewropeaidd


Rhiannon Hincks
Cymraes o Aberystwyth, Rhiannon Hincks, sy’n esbonio’r ymateb ym Mrwsel wedi i Brydain ddewis gadael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf…

Roedd deffro bore dydd Gwener fel hunllef.

Roeddwn i’n syllu ar fy ffôn mewn anghrediniaeth lwyr, ac yn teimlo’n sâl wrth ddarllen y newyddion bod Prydain wedi penderfynu gadael yr UE.

Mewn eiliad, roedd ein heconomi, ein hunaniaeth, ein dyfodol a’n hawliau i gyd o dan fygythiad. Roeddwn i bellach yn teimlo cywilydd, fel pe bawn i’n fradychwr ym Mrwsel, dinas sy’n dathlu llwyddiant a gwerthoedd yr UE ym mhob ffordd.

Gan ddal tacsi i adeilad y BBC i gael cyfweliad i drafod pethau, roedd clywed y newyddion yn Ffrangeg ar y radio yn swrrealaidd a’r awyrgylch yn ofnadwy.

Roedd y ddinas i gyd yn syn ac roedd teimlad dwys o argyfwng a thristwch yn yr awyr, yn enwedig wrth agosáu at adeilad y Comisiwn a chlywed pobl yn siarad am y bunt yn colli ei gwerth, a goblygiadau trychinebus eraill y penderfyniad i Brydain.

‘You are all crazy’

Ym Mrwsel, roedd fel petai llygaid y byd yn syllu’n gyhuddgar arnom ni, a phawb yn ceisio deall o ble y daeth y penderfyniad tyngedfennol hwn.

Pam nad oedd cyfiawnder i Ewrop, ac i’w chenhedlaeth iau yn arbennig?

Beth am y 48% a oedd yn gefnogol i Ewrop ac yn ei gwerthfawrogi fel sylfaen i’w gwerthoedd a’i hunaniaeth?

“You are all crazy”, meddai menyw mewn siop bapurau yn agos i’r Comisiwn wrthym ni y bore hwnnw.

Brad

Y tu hwnt i’r teimlad o ddicter a dryswch ym Mrwsel, mae hefyd pryder mawr, a ninnau’n dychmygu gweld yr Undeb Ewropeaidd yn dadfeilio o flaen ein llygaid, o dan rym y tu hwnt i synnwyr a chyfiawnder.

Yn waeth byth mae ceisio esbonio i bobl beth a achosodd y brad yma, a cheisio cyfleu cyn lleied o synnwyr a oedd ynghlwm wrth benderfyniadau’r rheiny a ddewisodd adael.

Sut mae egluro bod y rhan fwyaf ohonynt wedi pleidleisio o dan ddylanwad ffug addewidion, diffyg dealltwriaeth ynghylch Ewrop, ac i brotestio yn erbyn cyni a oedd yn codi o bolisïau’r Blaid Geidwadol ac nid o bolisïau Ewrop?

Hunanladdiad Cymru

Wrth geisio esbonio’r penderfyniad o safbwynt y Cymry, yr unig beth sy’n dod i’r meddwl yw taw hunanladdiad ydoedd.

Y gwir amlwg iawn yw bod yr union gymunedau sydd wedi elwa fwyaf o’r UE wedi bradychu eu dyfodol a dyfodol eu cenhedlaeth iau drwy hyn.

Mae ceisio derbyn eich bod wedi eich amddifadu o’r fraint o fod yn rhan o’r UE, ac nad yw mwyafrif poblogaeth eich gwlad yn rhannu’r un gwerthoedd â chi y tu hwnt o anodd.

Mae’n anos byth, mewn ffordd, dderbyn yr anghyfiawnder hwn wrth ddirwyn i ben blwyddyn wych o fyw ac astudio yng nghalon Ewrop.

Mae Rhiannon Hincks yn fyfyrwraig MA yn astudio technoleg cyfieithu ym Mhrifysgol Leuven, a bydd yn dychwelyd i Gymru yn yr wythnosau nesaf wedi blwyddyn ym Mrwsel.