RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Dau Brif Weinidog hapus … un –ish ac un yn bendant


Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth yn edrych ar ganlyniadau’r etholiadau lleol hyd yn hyn…

Mae yna ddau Brif Weinidog cymharol hapus y bore yma – Carwyn Jones a Theresa May.

Mi fydd un yn falch o fod wedi osgoi darogan gwaetha’r polau piniwn, a’r llall yn gweld arwyddion bod ei thactegau’n gweithio ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Mae’n anodd gwybod i ba raddau yr oedd yr etholiad hwnnw’n gysgod dros y rhain, ond mae’n bosib ei fod wedi cryfhau Llafur yng Nghymru a’r Ceidwadwyr yn Lloegr.

Y syndod o ran y Blaid Lafur yng Nghymru oedd eu bod nhw wedi cadw’r dinasoedd mawr – Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd – yn gymharol gyfforddus, ac efallai fod bygythiad yr Etholiad Cyffredinol wedi eu helpu yn hynny gan wasgu Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol a thynnu ychydig yn rhagor o’i selogion allan i ymgyrchu a phleidleisio.

Mae hefyd yn arwydd fod agwedd pen-i-lawr, hyd-braich-o-Lundain wedi llwyddo unwaith eto, am y tro. Tacteg Carwyn Jones ydi peidio â gwneud dim i gynhyrfu’r dyfroedd ac esgus nad oes a wnelo fo ddim â Jeremy Corbyn.

Mater arall ydi a wnaiff y dacteg honno lwyddo pan fydd y dadlau tros un pwnc mawr Prydeinig a rhagor o bobol, llai brwd tros wleidyddiaeth, yn mynd i bleidleisio.

O edrych ar Loegr, mi fydd Theresa May yn hapus iawn, a’r darnau iawn fel petaen nhw’n disgyn i’r llefydd iawn ym mhob man, bron.

Rhan o’r dacteg yw fod UKIP yn chwalu a’r pleidleisiau’n dod at y Ceidwadwr – esboniad am sylwadau ymladdgar y dyddiau diwetha’. Mae hynny wedi digwydd.

Elfen arall hollbwysig yw atal y Democratiaid Rhyddfrydol rhag atgyfodi yn ne-orllewin Lloegr ac mae’n ymddangos bod hynny wedi digwydd hefyd.

A Llafur yn gwneud cynddrwg â’r disgwyl yn y mannau pwysig – fe lwyddodd y Ceidwadwyr i gipio seddi yn nhre geiliog-y-gwynt Harlow ychydig ddyddiau ar ôl i’r arweinydd Llafur fod yn ymweld.

Mi fydd hithau’n gymharol hapus am Gymru, yn enwedig o weld canlyniadau Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr – y tu allan i’r dinasoedd mawr, mae’n ymddangos fod y Ceidwadwyr yn gwneud marc yn yr ardaloedd cymysg.

Cyn cyhoeddi’r canlyniadau gwledig, bratiog iawn ydi perfformiad Plaid Cymru – ambell fuddugoliaeth dda, ambell golled ddrwg – a methu â thorri trwodd. Mae’n tanlinellu’r peryg y bydd hi’n cael ei gwasgu ymhellach yn yr Etholiad Cyffredinol os na lwyddith hi i gael neges drawiadol o rywle.

Mae’n ymddangos hefyd mai cael ei gwasgu a wnaiff y Democratiaid Rhyddfrydol a’r canlyniadau siomedig heddiw’n gwneud hynny’n fwy tebyg fyth.

Mae hi ar ymyl y dibyn; mae UKIP wedi mynd trosto.

Cyfle am annibyniaeth i Gatalwnia?

Cyhoeddwyd Tachwedd 6, 2014 gan Rhyngwladol.

Tagiau: Bethan Gwenllian, Blog Gwleidyddiaeth, Catalwnia


Bethan Gwenllïan
Bethan Gwenllïan sydd yn trafod dyfodol gwleidyddol Catalwnia, ar drothwy pleidlais anffurfiol ar annibyniaeth …

Dydd Sul 9 Tachwedd fe fydd pobl Catalwnia’n cael cyfle i leisio barn ar y pwnc mwyaf pwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad y ganrif hon – a ddylai hi gael y cyfle i fod yn annibynnol o weddill Sbaen.

Gyda thros filiwn o bobl yn mynychu rali annibyniaeth a gynhaliwyd ym Marcelona ddeufis yn ôl, mae’n edrych yn debygol y bydd canlyniad y bleidlais yn newid strwythur gwleidyddol Sbaen am byth; bo’r canlyniad yn ie neu na.

Yr ‘ymgynghoriad’

Ar 12 Rhagfyr 2013 fe gytunodd y pleidiau a’r llywodraeth Gatalanaidd ar sut i gyflwyno’r bleidlais ar 9 Tachwedd eleni, gan ofyn dau gwestiwn – a ddylai Catalwnia fod yn wladwriaeth, ac os ie, a ddylai Catalwnia fod yn wladwriaeth annibynnol?

Mae hawl i bleidleisio gan bawb sy’n hanu o Gatalwnia, dim ots lle maen nhw’n byw o fewn neu du allan i Sbaen, a hefyd i bobl o wledydd tramor sydd wedi symud i fyw i Gatalwnia.

Gyda phrotestiadau ar draws yr ardal, ac yn enwedig ym Marcelona, mae’r peth wedi tyfu’n ddigwyddiad hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Sbaen.

Ond ers hynny mae llywodraeth Sbaen wedi herio’r bleidlais yn gyfreithiol, gan ddweud nad oes hawl gan Gatalwnia i gynnal refferendwm ar annibyniaeth heb ganiatâd Madrid.

Canslwyd y refferendwm swyddogol felly, ond mae llywodraeth Catalwnia yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal pleidlais answyddogol a’i galw hi’n ‘ymgynghoriad’.

Er bod llywodraeth Sbaen wedi ceisio herio hyn hefyd,  mae arlywydd Catalwnia Artur Mas yn mynnu y bydd yr ymgynghoriad yn mynd yn ei blaen.

Bydd hi’n gyfle felly i’r bobl leisio eu barn, a barn na all Sbaen ei hanwybyddu.

Yr effaith ar Sbaen

Un o’r rhesymau nad yw Sbaen am weld Catalwnia yn mynd  yn annibynnol yw bod gan Gatalwnia economi cryf sy’n helpu ariannu economi Sbaen, sydd wedi wynebu llawer o broblemau ers argyfwng ariannol 2007/08.

Mae CMC (Cynnyrch Mewnwladol Crynswth) Catalwnia yn uwch nag unrhyw ardal arall o Sbaen. Yn 2011 roedd CMC y pen Catalwnia yn €27,430, uwch na CMC y pen yn Sbaen (€23,100) a chyfartaledd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd (€25,200).

Mae ffigwr CMC y pen Catalwnia yn debyg i rai gwledydd fel Ffrainc a’r DU, rhai o wledydd cyfoethoca’r byd.

Problemau Catalonia

Fodd bynnag, gyda dyled genedlaethol o dros €42 biliwn mi fuasai Catalwnia annibynnol yn creu straen ar Fanc Canolog Ewrop, ac o bosib byddai rhaid i wledydd Ewrop gynnig ‘bailout’ iddi.

Mi allai’r bailout hwnnw greu straen ar berthynas Catalwnia a gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, a hynny wrth gwrs gan gymryd y byddai Catalwnia’n cael caniatâd i ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd yn y lle cyntaf.

Mae rhai o fewn yr Undeb eisoes wedi awgrymu y byddai Catalwnia annibynnol yn gorfod gadael a cheisio ailymaelodi, tebyg i rai o’r negeseuon a glywyd am yr Alban pan oedd hithau’n cynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Mewn gwlad gyda system ddemocrataidd anuniongyrchol, ni allwn wadu bod hawl gan y bobl i ddewis eu cynrychiolwyr a hefyd felly’r hawl i ddewis lled yr ardal lle maent yn ei gynrychioli.

Felly mi ddylai’r ymgynghoriad Catalanaidd anfon neges glir i wleidyddion Sbaen ac Ewrop ei bod hi’n bryd rhoi cyfle i ardaloedd fel Catalwnia, gydag iaith a meddylfryd eu hunain, gael mwy o hawliau a phwerau dros eu dyfodol.

Neu a fydd gwendid economi Sbaen a chyfoeth Catalwnia yn esgus i wadu hyn?

Mae Bethan Gwenllïan yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Sciences-Po Bordeaux yn Ffrainc.

Mwy o wleidyddion i’r Cynulliad?

Cyhoeddwyd Tachwedd 28, 2013 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Blog Gwleidyddiaeth, Catrin Williams


Catrin Williams
Mae llawer o ddadlau wedi bod yn ddiweddar ynglŷn ag argymhellion Rhan Un Comisiwn Silk ar bwerau ariannol i Gymru – ond a fyddai Cymru’n elwa o gael mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd i rannu’r baich? Catrin Williams sy’n trafod, yn ein Blog Gwleidyddiaeth diweddaraf…

Er bod llawer yn gofyn am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad (AC), parhau mae’r Cynulliad i gael 60 aelod – 40 o’r etholaethau yng Nghymru, ac ugain arall drwy’r pum rhanbarth etholiadol sydd gennym ni.

Yn wir, i lawer o’r cyhoedd sydd â delwedd weddol negyddol o wleidyddion, mae cael 60 AC yn swnio’n fwy na digon, yn enwedig nawr wrth ystyried beth fyddai cost cyflogi ‘chwaneg mewn cyfnod o doriadau diddiwedd.

Ond, byth ers i adroddiad Comisiwn Richard gael ei gyhoeddi yn ôl yn 2004, mae’r galw wedi parhau am gynnydd yn nifer ein AC. Bu i Gomisiwn Richard argymell cynyddu’r nifer o 60 i 80 pan fyddai’r Cynulliad yn cael rhagor o bwerau deddfu.

Felly, wrth ystyried y cynnydd sydd wedi bod i allu deddfwriaethol y Cynulliad, yn bennaf ar ôl buddugoliaeth ysgubol refferendwm 2011, onid fyddai’n gwneud synnwyr fod darpariaethau wedi cael ei wneud ar gyfer hyn? Er mwyn osgoi’r problemau sydd yn bodoli nawr?

Problemau presennol

Wrth ystyried fod 14 o’r aelodau yn Weinidogion, a bod angen Aelod arall fel Llywydd, dim ond 45 AC sydd yn weddill.

Ond o’r 45 AC yna, mae yna ddirprwy swyddog sydd yn llywyddu, a thri arweinydd i’r gwrthbleidiau. Felly mewn gwirionedd does ond 41 AC ar ôl ar gyfer eistedd ar y pwyllgorau sydd yn bodoli – oddeutu 12 pwyllgor, ac amryw is-bwyllgorau.

Golygir hyn fod bob AC yn gorfod eistedd ar dri phwyllgor, os nad mwy. Sut mae disgwyl iddynt graffu ar waith yn llwyddiannus, heb sôn am fagu’r wybodaeth fanwl a chywir ynglŷn â’r maes penodol hwnnw? Mewn gwirionedd mae bron a bod yn amhosib.

Clwb cant?

Fe wnaeth cyhoeddiad diweddar gan UK Changing Union alw am gynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 100, oherwydd bod y nifer presennol yn aneffeithiol yn eu hymgais i geisio sicrhau craffu cywir o Lywodraeth Cymru.

Ond oes modd cyfiawnhau cynyddu cymaint ar nifer yr aelodau? Wrth edrych ar nifer sydd yn weddill i graffu yn Senedd yr Alban ( 113), a 522 yn San Steffan, yna yn bendant mae lle i gyfiawnhau cynnydd o’r fath.

Yn wir, nid yw’r un aelod yn y ddwy senedd yna yn eistedd ar fwy nag un pwyllgor – sydd yn golygu gall y pwyllgorau graffu yn fanwl ac yn llwyddiannus er mwyn sicrhau effeithlonrwydd.

Dadl arall sydd yn amlwg yw’r holl bwysau gwaith sydd ar AC wrth iddynt fod yn rhan o gymaint o bwyllgorau. Ar ben y pwyllgorau rhaid iddynt fod yn y Siambr ar gyfer sesiynau penodol, yn ogystal â gwneud gwaith i’w etholaeth/rhanbarth.

Golygir hyn fod eu horiau gwaith yn ddifrifol o hir, ac efallai fod lle i ddadlau fod y pwysau gwaith ychwanegol yma yn effeithio ar effeithlonrwydd eu gwaith?

Amheuon gan rai

Ond er y ddadl gref yma o blaid cynyddu nifer y ACau, mae Andrew Davies yn honni fod angen cynnal ymchwil i geisio gwella’r ffordd y caiff y Cynulliad ei redeg o ddydd i ddydd – megis newid yr amserlen, er mwyn sicrhau ei bod yn fwy effeithiol. Drwy wneud hyn, credai fod dim galw ar gynyddu nifer y ACau.

Taflodd Dafydd Elis-Thomas lwch i lygaid y cynigion i gynyddu nifer yr ACau hefyd. Honnodd fod dim modd cyfiawnhau cynyddu’r niferoedd oherwydd y sefyllfa economaidd sydd ohoni heddiw.

Os byth ddaw’r cyfle i gynyddu nifer y ACau, mae gofyn ad-drefnu’r llywodraeth leol yng Nghymru yn gyntaf, yn ogystal â niferoedd Aelodau Seneddol Cymru yn ei farn ef. Ond eto aiff yn ei flaen yn ei erthygl i ddweud fod y system bresennol o bwyllgorau yn gweithio yn dda fel y mae.

Tybiaf fod dadl hynod o gref dros gynyddu niferoedd yr ACau, yn bennaf er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y Cynulliad, yn ogystal â safon y gwaith a wneir ar y pwyllgorau.

Ond, anodd yw cyfiawnhau cynnydd o’r fath ar hyn o bryd, heb efallai edrych ar newid niferoedd Aelodau Seneddol neu Lywodraeth leol fel y dywed Dafydd Elis-Thomas.

Ond yn bendant mae angen sicrhau effeithlonrwydd y Cynulliad, er mwyn sicrhau fod Cymru yn cael y gorau allan o’r pwerau sydd wedi eu datganoli iddi.

Mae Catrin Williams yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn astudio’r  Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallwch ei dilyn ar Twitter ar @caticymru <https://twitter.com/caticymru>.