RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Mae’r llanw mawr glas yn bygwth ein cenedl


Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Aled Gwyn Job sy’n dadlau pam y dylai Leanne Wood fod wedi mentro, a sefyll i fod yn Aelod Seneddol y Rhondda ar docyn penodol “Brexit Sy’n Deg i Gymru”…

Mae’n edrych yn debyg ein bod yn wynebu Tswnami Toriaidd yn yr Etholiad Cyffredinol sydd i’w gynnal ar Fehefin 8.

Gydag un pol piniwn yn rhoi’r Toriaid ar 50%, mae’n ymddangos bod penderfyniad annisgwyl y Prif Weinidog Theresa May i alw etholiad buan yn mynd i dalu ar ei ganfed iddi.

Wedi’r cwbwl, mae’r Blaid Lafur yn gwbwl, gwbwl rannedig ac arweinyddiaeth anobeithiol Jeremy Corbyn druan yn destun dirmyg ymhlith y rhan fwyaf o’i Aelodau Seneddol ei hun, heb son am y boblogaeth yn gyffredinol.

Gan mai Etholiad Brexit fydd hi yn anad un peth arall, bydd hynny’n galluogi’r Toriaid i ddenu cyn-gefnogwyr UKIP atynt hefyd a sicrhau buddugoliaeth ysgubol ar don o Brydeinodod newydd yn erbyn y gelyn allanol Ewropeaidd a’r gelyn mewnol sef yr SNP yn yr Alban.

Mae’r llanw mawr glas i ddod yn debyg o gael effaith mawr ar Gymru hefyd, gyda hyd at wyth sedd Llafur yn syrthio i’r Ceidwadwyr. Mae ambell un hyd yn oed yn darogan y gallai’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif y seddau yng Nghymru y tro hwn, ac mae’n rhaid mynd nol i 1859 pryd y digwyddodd hynny ddiwethaf.

O gofio natur y Toriaid presennol, dydi o ddim yn ormodiaith i ddweud bod hwn yn argyfwng existential yn ein bodolaeth fel cenedl. O bosib mai dyma’r her fwyaf erioed sydd wedi wynebu ein plaid genedlaethol Plaid Cymru.

Creu arweinwyr

Maen nhw’n dweud mai argyfyngau sy’n creu neu’n claddu arweinwyr, ac mae’n adeg o brysur bwyso bellach ar Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru. A hithau wedi ennill sedd y Rhondda yn Etholiadau’r Cynulliad y llynedd,  y cwestiwn rwan ydi a ddylai hi fod wedi mentro ceisio ei hennill yn yr Etholiad Cyffredinol fis Mehefin?

Daw’r gair buddugoliaeth yn Gymraeg o’r gair Buddug, arweinydd benywaidd hen lwyth yr Iceni a arweiniodd wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Rhufeiniaid yng Nghymru 60 AD. Fe gysylltir yr enw hefyd gyda newid positif, optimistiaeth a gallu arweinyddol. Geiriau priodol iawn pe bai Leanne Wood yn mynd amdani.

Wrth gwrs, byddai’n groes i’r graen gosod Llundain uwchben Caerdydd, ac mi fyddai’n rhaid iddi wynebu cwestiynau anodd o sawl cyfeiriad am  yr hyn y mae’r penderfyniad yn ei olygu o ran ein senedd genedlaethol. Ond wedyn, mae’r amgylchiadau presennol yn rhai cwbwl eithriadol. Sydd felly’n gofyn am ymatebion eithriadol.

Gyda’r holl sylw a fyddai Leanne Wood yn ei gael, y cyhoeddusrwydd ychwanegol y byddai’r dadleuon teledu yn ei roi iddi,cefnogaethol cenedlaetholwyr o bob rhan o Gymru yn yr etholaeth, a’r ffraeo parhaus ymhlith y Blaid Lafur yn gefnlen i’r cwbwl, mae’r sedd yn gwbwl enilladwy.

Rhyddid i Gymru

Os ydan ni fyth am weld rhyddid i Gymru, mae’n rhaid ennill calonnau a meddyliau pobl y cymoedd ble mae dros 40% o’r boblogaeth Gymreig yn byw. Byddai ennill y Rhondda mewn etholiad pryd y caiff Llafur eu chwalu’n ulw a Thoriaid eithafol yn cipio grym am flynyddoedd yn San Steffan, yn dangos mai’r dimensiwn cenedlaethol ydi’r unig amddiffynfa bosib i Gymru.

Ac er mor chwithig ydi dweud hynny, byddai ennill y Rhondda yn San Steffan o dan yr amgylchiadau presennol yn cael llawer mwy o ddylanwad na ennill Rhondda yn y Cynulliad llynedd.

Gyda Llafur yn deilchion ar ol Fehefin 8, a chyfnod newydd o gecru mewnol yn digwydd ymhlith gweddillion y blaid honno, bydd oblygiadau hynny yn saff o effeithio ar sut y bydd pobl yn edrych ar Lafur Cymru hithau. Bydd y brand Llafur, ble bynnag y bo yn hollol toxic ac yn cael ei gysylltu gyda methiant trychinebus na welwyd mo’i debyg am hanner canrif neu fwy.

Mewn sefyllfa felly, hawdd iawn yw dychmygu mwy o bobol y Cymoedd am ddilyn esiampl Y Rhondda ac y gellid wedyn cael deialog newydd am bosibiliadau rhyddid cenedlaethol i Gymru yn yr ardal strategol holl bwysig hon.

Mae’n bosib na fyddai raid i Leanne Wood fod yn Llundain am gymaint a hynny, beth bynnag, o gofio y bydd sedd y Rhondda yn diflannu yn yr etholiad cyffredinol nesaf oherwydd y newid ffiniau.

Ac, o feddwl am y trafferthion pellach sy’n siwr o ddigwydd gyda Brexit, dydi hi ddim yn amhosib y gwelir etholiad cyffredinol arall o fewn y ddwy/dair blynedd nesaf, ac y gallai Leanne Wood ail-ystyried ei sefyllfa bryd hynny. Gallai Leanne Wood fod wedi sefyll ar docyn penodol ”Brexit Sy’n Deg i Gymru”.

O ran y pryderon am orfod sefyll is-etholiad Cynulliad anodd pe bai hi’n ennill y Rhondda, siawns y gellid gohirio hwnnw tan fis Awst er mwyn cael amser i ddewis ymgeisydd cryf a chynnal y math o ymgyrch boblogaidd a gipiodd is-etholiad Mon i Rhun ap Iorwerth yn 2014.

Joban o waith neilltuol sydd i’w wneud yn Llundain dros gyfnod penodol o amser felly – sef cynrychioli’r buddiant cenedlaethol Cymreig dros bobl y Rhondda a phobl Cymru fel ei gilydd. Pe bai modd ychwanegu’r Rhondda ac Ynys Mon at y tair sedd bresennol – byddai’n cynnig rhywfaint o ragfur cenedlaethol rhag y llanw glas mawr.

Mae’n biti na theimlodd Leanne ychydig o ysbryd Buddug wrth iddi bwyso a mesur y sefyllfa.