Annog mwy o feicio yng Nghaerdydd

Diweddarwyd  


(llun: Cyngor y Ddinas)
Mae disgwyl i gabinet Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynllun uchelgeisiol yr wythnos nesaf i annog llawer mwy o bobl i ddefnyddio beiciau i deithio yn y ddinas.

Nod y Cyngor yw cael hanner y rhai sy’n gweithio yn y ddinas ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu feicio neu gerdded erbyn 2021, ac mae targed o 60% wedi’i osod ar gyfer 2026.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Ramesh Patel: “Mae Caerdydd yn ddinas berffaith ar gyfer beicio a cherdded.  Does dim amheuaeth bod gormod o geir ar ein ffyrdd, ac wrth i’r ddinas dyfu ni all ein ffyrdd gynnal mwy a mwy o gerbydau.”

Dywedodd fod cynnydd sylweddol wedi bod mewn beicio dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Darllen rhagor »

Yr Athro D Ellis Evans: cwrdd coffa

Diweddarwyd  


Rhan o Goleg Iesu, lle bydd y cwrdd coffa (o wefan y Coleg)
Ddydd Sadwrn, 15 Chwefror, bydd Coleg Iesu, Rhydychen, yn talu’r deyrnged olaf i un o brif ysgolheigion y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd, a gyrhaeddodd binacl ei yrfa academaidd pan benodwyd ef i Gadair Gelteg y Coleg yn 1978.

Bu farw yr Athro D Ellis Evans ddiwedd Medi 2013, yn dilyn cyfnod o salwch. Ond yn y cwrdd coffa ganol Mis Bach daw cyfle i ysgolheigion a’i gydnabod ymgasglu i gofio amdano ym mlodau ei ddyddiau, ar binacl ei yrfa, ac i gofio cyfoeth ei gyfraniad i ysgolheictod y Gymraeg.

Cysylltir enw yr Athro Ellis Evans yn benodol â’i waith ar yr arysgrifau Galeg, ac yn arbennig â’i gyfrol ysgolheigaidd Gaulish Personal Names. Dyma oedd ffrwyth ei lafur ymchwil ar gyfer ei radd DPhil a phen draw ei gyfnod disglair yn fyfyriwr yn Rhydychen – myfyriwr a lwyddodd i ennill tair gradd dosbarth cyntaf (mewn Lladin, Groeg a Chymraeg) cyn ennill ysgoloriaeth i ymchwilio ar gyfer doethuriaeth.

Bu hynny’n sail ar gyfer gyrfa academaidd lewyrchus ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, ac wedyn yng Ngholeg Iesu, lle rhoddodd ei farc ar y Gadair Gelteg a chodi proffil y Gymraeg ac astudiaethau Celtaidd yn y Coleg, ond lle’r oedd hefyd yn fawr ei ddylanwad ar astudiaethau ieithoedd yr oesoedd canol ledled y Brifysgol.

Darllen rhagor »

Lle i Gymru ym myd breuddwydion

 


John Hefin  – y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd ffilm a theledu –  a fu’n ddarlithydd ar Gwenno Ffrancon  ac yn gydweithiwr iddi nwrth sefydlu mudiad Cyfrwng. Fe fu farw 19 Tachwedd yn 71 oed.

Braint aruthrol oedd cael dysgu am astudiaethau ffilm wrth draed John Hefin ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mi roedd yn ddarlithydd hollol wahanol i’r arfer; yn un nad oedd yn poeni am hierarchiaeth staff a myfyrwyr, yn un a fynnai bwysleisio’r gweledol ar draul y gair, ac yn un a welai yn glir y cyfleoedd sydd ar gael i’r Gymru Gymraeg ddweud ei stori trwy gynyrchiadau ffilm a theledu a bod lle iddynt ar lwyfan rhyngwladol.

Does dim llawer o ddarlithwyr a allai ddenu haid ffyddlon o fyfyrwyr brwd i’r Hen Goleg am ddarlith chwech o’r gloch y nos, ond fe lwyddai John bob wythnos!

Tyfodd fy nghyfeillgarwch â John wrth i mi astudio ar gyfer fy noethuriaeth a bu ei gefnogaeth ef, a’r Athro Elan Closs Stephens, yn allweddol. Rhoddai o’i amser a’i gyngor yn hael ac mae nifer fawr ohonom wedi elwa’n sylweddol dros y blynyddoedd o’i barodrwydd i feithrin awydd y genhedlaeth nesaf i rannu straeon Cymru trwy’r cyfrwng ffilm.

Darllen rhagor »

Capten wrth reddf ac arloeswr rygbi

Diweddarwyd  


Arwyn Teifion Thomas
Dyma le ar wefan Golwg360 i dalu teyrnged i ffrindiau, perthnasau ac unigolion sy’n haeddu eu coffáu. Y tro yma, Dylan Iorwerth yn cofio am hen ffrind ysgol ac un o arloeswyr rygbi yn y gogledd-orllewin.

Weithiau, mi fydd pobol yn rhyfeddu at faint capeli Cymru gan wfftio’r syniad fod angen adeiladau mor fawr. Roedd angladd Teifion Thomas ddydd Gwener yn dangos pam yr oedd hi felly – weithiau, mae cymuned gyfan eisiau talu’r gymwynas ola’ a dangos eu parch.

Felly, am hanner dydd 21 Medi, roedd capel a chyntedd Amlosgfa Bangor yn llawn at yr ymylon, a rhagor yn sefyll y tu allan. Roedd cymuned rygbi Caernarfon a gogledd Cymru eisiau diolch i un o’r arloeswyr a fu farw o ganser yn ddim ond 56 oed.

Roedd Teifion – Arwyn Teifion Thomas a rhoi ei enw llawn – yn un o chwaraewyr cynta’ Clwb Rygbi Caernarfon yn nyddiau cynnar clybiau’r gogledd-orllewin. Yn ddiweddarach, fe fu’n gapten ar y Clwb am bum mlynedd, cyn mynd ymlaen i hyfforddi.

Darllen rhagor »