Ein diwrnod yn yr Eisteddfod – blog a fideo Sgwad Sgwennu Gwynedd

Diweddarwyd am  


Ymunodd y bardd Guto Dafydd a chriw Sgwad Sgwennu Gwynedd ar faes yr Urdd. Y bwriad oedd creu blogiau drwy’r Gymraeg. Dyma’r blog o brofiadau’r Sgwad ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri, 2012.

Cafodd y criw hefyd sialens i greu cerdd gyfarch arbennig i gyn-aelod Sgwad Sgwennu Gwynedd ac enillydd y Gadair, Gruffudd Antur.

Mae fideo hefyd wedi atodi.

Ein diwrnod yn yr Eisteddfod

Mae’r awyr yn llwyd, a’r car yn gwyro a llithro yn y mwd. Mae’r rhai call wedi cerdded, ond at eu sodlau yn y baw. Ponchos S4C yn hongian yn llac.

Rhwng y llawr brown a’r awyr dywyll mae llu o liwiau: welingtons pinc, a leim llachar, partymau llachar, sbotiau (ac un pâr iwnion jacs). Ymbarels streipiog, a chotiau porffor a glas. Baneri pinc ar neuaddau mawr gwyn. A thri lliw ymhobman: coch, gwyn, gwyrdd.

Stondinau

Dilyn ein trwynau, heb sbio ar y map. Rhedeg am gysgod rhag y glaw…a glanio mewn penbleth yn stondin Merched y Wawr. Cael cynnig bara brith.

Chwilio am feiros, prennau mesur, plastro’n crysau â sticars…a hel balŵns bach crebachlyd a rhai mawr sgleiniog.

Hysbyseb

AR GOLL: balŵn.

DISGRIFIAD: siâp Mistar Urdd. Wyneb hapus. Coch, gwyn a gwyrdd. Llinyn arian hyfryd.

Gwelwyd ddiwethaf yn hedfan dros y Pafiliwn i gyfeiriad Caernarfon.

GWOBR: 53 sticer, 29 beiro, 16 rwbiwr, tocyn bwyd caffi Mistar Urdd.

Adolygiad bwyty

Yr oedd yn amlwg fod lle bwyty ‘Ardal Picnic’ ar faes Glynllifon yn boblogaidd; bu’n rhaid i mi aros am ddwyawr yn y car cyn cael mynediad. Syniad gwreiddiol, avant-garde oedd peidio â lleoli’r bwyty mewn adeilad ond yng nghornel cae. Doedd dim gweinwyr chwaith i gael lle i ni – roedd canfod bwrdd yn brofiad rhyngweithiol.

Mae’r pris yn adlewyrchu safon y coginio; telais £9.70 am eidionyn a sglodion (a hynny ar ôl mynnu gostyngiad 10% am fod y gwasanaeth yn Saesneg). Peidio â’n llethu â gormod o fwyd yw’r athroniaeth; cefais drafferth canfod y cig yn y bara. Ond pan gefais hyd i’r byrger, roedd heb ei or-goginio o gwbl a’r gwaed yn llifo’n goch. Techneg ddiddorol oedd darparu bara caled a gadael i’r hylif o’r cig ei feddalu. Roedd y nionod duon yn teimlo’n symudol yn fy ngheg. Fintej 2008 oedd y saws coch. Roedd blas dirgel ar y sglodion, ac awgrym o dechnegau coginio cemegol yn y blas sylffwrig.

Pryd syfrdanol; profiad unigryw.

Ffair

‘Ble mae’r Gymraeg?’ bloeddiai’r posteri powld. Beth am ailenwi rhai o reidiau’r ffair?

MAD MAX à MACSEN WLEDIG

Breichiau dur esmwyth yn troi’r plant – eu bwrw i’r awyr a’u gwalltiau’n hedfan a’u llygaid yn ofnus. Mentro i’r sedd. Breichiau duon yn ein cofleidio’n dynn a’n cloi’n saff. Dal yn dynn wrth swingio gan bwyll bach, yna’n gynt – a chyflymu eto: ein troi fel dillad yn y peiriant, ein bwrw y naill ffordd â’r llall fel llong mewn storm. Cyrraedd y gwaelod a’n stumogau’n dal yn uchel.

CANCAN à MEDRUMEDRU

Pentyrru un ar ben y llal wrth i’r breichiau cryf ein taflu i’r awyr. Cael ein gwasgu: ddown ni o’r sedd yn dalach?

WALTZERS à CLOCSWYR

Beth ydi’r pwynt mynd i giwio am yr allanfa mewn car llonydd pan allwn ni wibio o gwmpas yn y cwpanau mawr, a’r dyn yn ein troelli pan ydyn ni’n bygwth arafu?

RHYBUDD: peidiwch â mynd i’r ffair ar ôl bwyta byrger.

Cystadlu

Brysio am y llwyfan, llithro ar y ramp.

Gweld y sgriniau; hanner clywed y lleisiau o’r llwyfan.

Ar bigau’r drain: pinnau bach, fel pe bai rhywun yn fy mhigo â phigau’r goron. Fel taswn i’n dal ar y Macsen Wledig.

Golau llachar ar y llwyfan mawr, llonydd gwag. Môr o wynebau’n disgwyl – nabod neb. Mae Nain adre’n syllu ar y sgrin, ddim eisiau colli eiliad. Nodyn neu ddau ansicr, ac yna anghofio am y camerâu a’r goleuadau a chanu fel pe bawn i’n canu i Nain.

Ble mae Mistar Urdd?

Ar ôl hedfan yn uchel o’r maes, efallai bod balŵn Mistar Urdd wedi cyrraedd…

  • gwerddon yn y Sahara, lle daw llwyth o bobl ag amnesia o hyd iddo a’i addoli fel duw
  • America, ac wedi mynd yn sownd yn y Statue of Liberty, cyn i’r CIA ei gamgymryd am daflegryn terfysgol a’i saethu i’r llawr
  • y blaned Mawrth – felly mae’r Mawrthiaid yn credu bod pobl y ddaear i gyd yn edrych fel Mistar Urdd
  • ogof ym mynyddoedd Eryri lle mae Owain Glyndŵr yn byw. Mae Myrddin yn byw yno hefyd, ac mae o’n dod â Mistar Urdd yn fyw ac yn rhoi gwybodaeth iddo fel ei fod yn achub Cymru.
  • Sir Fôn.

Cerdd i gyfarch Gruffudd Antur

Daethom i Eryri yn y glaw

a phawb yn gorfod brwydro’u ffordd drwy’r baw

dan awyr lwyd, dan gwyno am y lôn.

Ond wedyn, daeth yr haul, a chlywsom sôn

am dy gamp yn cipio’r gadair hardd

yn ddewin gyda geiriau, cawr o fardd.

Bu’r hen feirdd yn dod ar hyd y llwybrau –

o Benllyn, dros y mynydd, herio’r tonnau,

eira, glaw a’r ceffyl wedi blino

ac angen cyrraedd plasty erbyn heno.

Drwy’r dyffrynnoedd, ac eisiau gweld yr afon:

dod o’r diwedd, â llafur at Lynllifon.

Dyma dy lwybr dithau: teithio am ymgeledd

a thalu ffordd ag arian dy gynghanedd.

Ambell Steddfod cyn hyn, roet ti mewn Sgwad fel ni:

gawn ninnau ddod i rannu d’antur di?

Eisteddfodau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd