Darlith Saunders yn ysbrydoli Gruffudd Antur i greu ‘Cylchoedd’ – Stori fideo

Diweddarwyd  


Gruffudd Antur ydi bardd cadeiriol Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, gyda cherdd wedi ei hysbrydoli gan ddarlith Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’.

Bachgen o Lanuwchllyn ydi Gruffudd, ac mae newydd orffen ei ail flwyddyn yn astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe fu’n ddisgybl yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn, ac Ysgol Y Berwyn, Y Bala.

“Mi ges i fy ngwers gynganeddu gynta’ ym mlwyddyn 7 gan Huw Dylan Jones, a phan o’n i yn y chweched dosbarth, mi ges i gyfres o wersi cynganeddu gan y Prifardd Elwyn Edwards,” meddai Gruffudd.

“Dyna pryd y dechreues i fynd ati i gynganeddu o ddifri’. Mae fy nyled i Swêl yn wirioneddol fawr,” meddai wedyn, gan ddefnyddio llysenw’r Prifardd.

“Hefyd, roedd cael bardd a chynganeddwr cystal ag Arwel Emlyn Jones fel athro Mathemateg yn y chweched yn fodd i gadw’r arfau cynganeddol yn loyw.”

Hon ydi pedwaredd cadair Gruffudd Antur. Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd y llynedd ac ym Mangor eleni; a fo oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Llanuwchllyn yn 2011. Daeth yn ail am gadair yr Urdd ddwy flynedd yn ôl hefyd.

Yn ail am Gadair yr Urdd eleni y mae Steffan Gwyn o Ysgol Uwchradd Tryfan; a Catrin Haf Jones o Aelwyd Aeron, Ceredigion sy’n drydydd.

Eisteddfodau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd