Enillydd Medal y Dysgwyr efo enw Cymraeg! – stori a fideo

Diweddarwyd am  


Nia Haf Jones, wedi gwireddu breuddwyd wrth ennill yn Eryri
Nia Haf Jones ydi enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012. Mae hi’n ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun – ac ar ganol ei harholiadau TGAU yr ha’ hwn! Fe fydd ganddi bedair arholiad yn ei haros pan aiff yn ôl i’r ysgol ddydd Llun nesa’.

“Mae gen i enw Cymraeg, ond dysgwr ydw i,” meddai Nia. “Dw i’n byw yn Rhuthun efo Mam, Dad, Dewi a Nain; ac mae gen i frawd arall o’r enw Bryn, sydd wedi priodi efo Ruth, ac mae ganddyn nhw dri o blant… a dw i wedi bod yn anti ers pan o’n i’n 11 oed!

“Mae Dad yn siarad Cymraeg, ond mae Mam yn siarad Saesneg… felly Saesneg oedden ni’n siarad pan o’n i’n fach,” meddai Nia wrth golwg360. “Mae teulu Dad yn dod o Llandegla, ac mae ganddo frawd… a dydi o ddim yn gwybod fy mod i wedi cystadlu eleni!

“Fy niddordebau ydi badminton, siopa a gwylio pêl-droed yn Wrecsam,” meddai wedyn. “Fy hoff dîm ydi Manchester United, a dw i wedi bod yn Old Trafford. Fy uchelgais ers blwyddyn 7 ydi ennill Medal y Dysgwyr, cael llwyddiant yn yr arholiadau a gobeithio mynd i’r brifysgol i astudio Hanes.”

Y dasg i’r cystadleuwyr eleni oedd cyfansoddi tri darn o waith, yn ogystal â pharatoi tâp o sgwrs naturiol sy’n cynnwys cyfeiriadau at eu cefndir.

Yn ail am y Fedal oedd Angharad Chandler Davies o Ysgol Uwchradd Caerdydd, gydag Ami Isaac o Ysgol Uwchradd Caerdydd a Hannah Thomas o Aelwyd Coleg Sir Gâr yn gydradd drydydd.

Eisteddfodau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd