RSS

Golwg360

MwyCau 

FIDEO: Cofio Rhodri Morgan – “cymwynaswr mawr gwleidyddiaeth Cymru”

Cyhoeddwyd Mai 18, 2017 gan Cymru.

Tagiau: Jeremy Miles, Rhodri Morgan


Jeremy Miles, AC Llafur, a gafodd ei ethol yn 2016
Bydd un o Aelodau mwyaf newydd y Cynulliad yn cofio’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, fel un o “fel un o gymwynaswyr mawr gwleidyddiaeth y genedl ac un o benseiri y Cynulliad”.

“Roedd e’n wleidydd unigryw iawn, cyfuno bod yn ddeallus tu hwnt – un o’r deallusion mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru, gyda hefyd elfen gyffredin â phobol, y gallu i uniaethu â phobol o bob cwr,” meddai Jeremy Miles.

Atgofion ymgyrchu

Cafodd Jeremy Miles ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd yn 2016, ac mae’n cofio Rhodri Morgan yn dod i’w helpu i lansio ei ymgyrch.

“Fi’n cofio pan wnaeth e gymwynas fawr â fi a dod i helpu i lansio fy ymgyrch i fan hyn yng Nghastell-nedd ar fyr rybudd.

“Fe ddaeth e a cherdded gyda fi drwy strydoedd Castell-nedd ac roeddwn i’n synnu bod pawb yn ei adnabod e a phawb eisiau ysgwyd llaw ag e ac yn barod i gael sgwrs a fe yn hel straeon ac atgofion gyda nhw fel tasai fe’n ei adnabod nhw i gyd hefyd.

“Bydd ei golled e yn golled fawr i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.”

FIDEO: Golwg ar yr etholiadau lleol ac edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol

Cyhoeddwyd Mai 8, 2017 gan Cymru.

Tagiau: Etholiad cyffredinol 2017, etholiadau lleol 2017


Pwy ddaeth allan ohoni orau a gwaethaf o’r etholiadau lleol yr wythnos ddiwethaf? A beth mae’r canlyniadau’n eu golygu ar gyfer yr etholiad cyffredinol fis nesaf?

Dyma gasgliad golwg360:

FIDEO: Delio â Neil McEvoy a materion eraill

Cyhoeddwyd Mawrth 10, 2017 gan Cymru.

Tagiau: cynulliad, senedd


Gareth Hughes yn crynhoi cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos hon
Golwg ar y Bae – cyfres fideo wythnosol gan golwg360 yn crynhoi digwyddiadau’r Senedd.

Yn rhifyn diweddaraf Golwg ar y Bae, byddwn ni’n edrych ar gwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – “no score draw” oedd hi yn ôl y sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes.

Bydd cyfweliad hefyd â Rhys Taylor, un o ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiadau lleol eleni, ar drothwy eu cynhadledd genedlaethol yn Abertawe.

A sut mae Plaid Cymru wedi delio â helbul tribiwnlys Neil McEvoy dros yr wythnos ddiwethaf? Ddim yn dda iawn, medd Gareth Hughes.

A hithau’n ddiwrnod rhyngwladol y merched dydd Mercher, cafodd ymgyrch newydd ei ddechrau i osod placiau porffor ledled Cymru i gofio merched nodedig ein hanes – bu golwg360 yn ffilmio yn y lansiad.

Oriel Lluniau Eisteddfod Sir Ddinbych, 2013.

Cyhoeddwyd Awst 10, 2013 gan Fideo.

Lluniau o Faes y Brifwyl, ynglwm a rhai o uchafbwyntiau’r wythnos.

Lansio cystadleuaeth llun eiconig Golwg

Cyhoeddwyd Awst 9, 2013 gan Celf Weledol.



Ar Faes yr Eisteddfod heddiw cafwyd lawnsiad swyddogol cystadleuaeth i nodi a chlodfori rhai o luniau mwyaf eiconig a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg dros y chwarter canrif ddiwethaf.

Cafodd y lluniau eu tynnu gan rai o brif ffotograffwyr Cymru ac maen nhw’n dangos cymeriadau a digwyddiadau nodedig dros y cyfnod ers lansio’r cylchgrawn yn 1988.

Mae’r dewis yn seiliedig ar farn y bobl, gyda’r rhestr lluniau a modd pleidleisio ar gael drwy safle www.gwylgolwg.com

Bydd arddangosfa o’r lluniau sydd ar y rhestr yng Ngŵyl Golwg yn Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sadwrn 7 Medi, gydag enillydd y bleidlais gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi yn ystod y dydd.

Sgwrs gyda awdur ‘Diawl y Wasg’, Geraint Evans.

Cyhoeddwyd Awst 9, 2013 gan Fideo.

Cylchgrawn y Gwyddonydd yn 50 oed

Cyhoeddwyd Awst 9, 2013 gan Cymru.



Yr wythnos hon ar faes Eisteddfod Genedlaethol bu dathliad hanner canmlwyddiant cylchgrawn Y Gwyddonydd.

Ymddangosodd y cyfnodolyn gwyddonol am y tro cyntaf yn 1963, gyda cyhoeddiadau cyson hyd at 1996.

I ddathlu’r achlysur mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth ‘Gwyddonydd Ifanc yr Eisteddfod’.

Enillydd y Gystadleuaeth oedd Sara Gruffydd o flwyddyn 8 Syr Hugh Owen Caernarfon, gyda’r darn buddugol ‘Cholera’ ar gael yn y cyfnodolyn dathlu.

Roedd yr Athro Glyn O. Phillips, golygydd Y Gwyddonydd rhwng 1963 a 1993, hefyd yn rhan o’r dathliad gyda’i ddarlith ‘Y Gwyddonydd – ddoe a heddiw’ ym mhabell y cymdeithasau 2.

Cyflwyniad Dr Hefin Jones yn y seremoni dathlu – Fideo

Cymdeithas yr Iaith yn meddiannu stondin Cyngor Sir Ddinbych

Cyhoeddwyd Awst 9, 2013 gan Eisteddfodau.


Mae Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu stondin Cyngor Sir Dinbych ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd Cymdeithas wedi meddiannu’r stondin i brotestio yn erbyn Awdurdod Lleol Dinbych sydd wedi clustnodi tir ar gyfer adeiladu chwe mil o dai newydd, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf cymunedau fel Dinbych, Rhuddlan a Bodelwyddan.

Roedd y brotest yn un heddychlon er i Gymdeithas yr Iaith roi posteri ar waliau’r stondin.

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod y sefyllfa yn y sir yn enghraifft o fethiant y gyfundrefn gynllunio yng Nghymru.

Roedd cyn cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machraeth, a’r ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn siarad yn y digwyddiad.

Effaith penderfyniadau cynllunio

Dywedodd Toni Schiavone bod angen rhoi ystyriaeth ar effaith penderfyniadau cynllunio yng nghanol penderfyniadau cynllunio awdurdodau lleol.

“Rydyn ni wedi cael llawer iawn o siarad a dadansoddi wedi’r Cyfrifiad – ond mae’n hen bryd i ni weld gweithredu,” meddai Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. “Fel arall, bydd yr holl siarad, a’r gynhadledd fawr, wedi bod yn wastraff amser.

“Yn y maes tai a chynllunio, rydyn ni wedi bod yn glir gyda Carwyn Jones: nid nawr yw’r amser am newidiadau bychain i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae ein cymunedau a’n pobl – boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio – wedi dioddef effeithiau negyddol y farchnad rydd.”

“Mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno cynigion polisi cynhwysfawr i’r Prif Weinidog er mwyn sicrhau bod pobl yn cael byw yn Gymraeg. Os nad yw’r Llywodraeth yn dechrau cymryd camau cadarnhaol, byddwn ni’n gweithredu yn ei herbyn – bydd dyletswydd arnom i dynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa.”

Fideo o’r digwyddiad.

Bet Jones yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

Cyhoeddwyd Awst 6, 2013 gan Eisteddfodau.

Tagiau: Bet Jones, Craciau, ffracio, Gwobr Goffa Daniel Owen



Bet Jones yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen  Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych eleni.
Athrawes, sydd bellach wedi ymddeol, o Riwlas ym Mangor yw Bet Jones.
Ysgrifennodd y nofel fuddugol Craciau o dan y ffugenw Seiriol Wyn.
Mae’n disgrifio fel mae proses ffracio am nwy ar Ynys Môn yn arwain at greu daeargryn sy’n difrodi rhannau helaeth o dref Llangefni ac yn bygwth diogelwch Cob Malltraeth a gorsaf niwclear Yr Wylfa.
Dywedodd y beirniaid, Geraint Vaughan Jones, Bethan Hughes a Gwen Pritchard Jones: “Mae hon yn nofel hyderus, ddifyr ac amserol a bydd darllenwyr yn sicr yn ei mwynhau ac mae’r awdur yn llwyddo’n arbennig o dda i greu byd credadwy ond dieithr iawn, a hynny heb unrhyw gam gwag.”
Cyflwynir y fedal er cof am y nofelydd Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi gyda dim llai na 50,000 o eiriau, a gwobr ariannol o £5000 i’r enillydd. Fe fydd nofel Bet Jones, Craciau, hefyd yn mynd ar werth ar y Maes ac mewn siopau llyfrau.
Cafodd Bet Jones ei  geni a’i magu ym mhentref Trefor yng Ngwynedd. Bu’n athrawes yn Ysgol y Graig, Llangefni am bedair blynedd ar hugain. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel flaenorol, Beti Bwt, yn 2007 a Gadael Lennon yn 2009.

Ffracio yn ddylanwad – fideo

‘Angen denu mwy o bobl o wahanol gefndiroedd’

Cyhoeddwyd Awst 6, 2013 gan Eisteddfodau.

Tagiau: Archdderwydd Christine James, dysgwyr


Christine James
Mae’r Archdderwydd Christine James wedi dweud bod angen denu mwy o ddysgwyr a phobl o wahanol gefndiroedd i’r Eisteddfod – gan gynnwys yr Orsedd.

Daeth sylwadau Christine James, sydd wedi dysgu’r Gymraeg, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych heddiw.

Dywedodd bod angen “newid agwedd” er mwyn denu mwy o bobol i’r maes.

Rhaid newid’

Meddai: “Dw i’n credu bod rhaid i ni newid y ffordd mae pobol yn meddwl am y Cymry Cymraeg. Mae ‘na duedd i feddwl am y Cymry Cymraeg fel pobol ddosbarth canol, yn enwedig yng Nghaerdydd, neu rydych chi’n meddwl am y byd amaethyddol yn y gogledd neu’r gorllewin a meddwl am yr iaith fel rhywbeth traddodiadol i’r bobl hynny.

“Ond mae’n amser i ni newid hyn. Fe ddaeth ffigurau’r Cyfrifiad y llynedd a doedden nhw ddim yn gadarnhaol iawn a’r unig ffordd allan ni droi’r sefyllfa o gwmpas yw drwy groesawu a chynnwys Cymry eraill – pobl sy’n gallu siarad Cymraeg, ond sy’n dod o gefndiroedd gwahanol ac o gefndiroedd ieithyddol gwahanol.”

Pobol yn penderfynu

“Pobol sydd wedi penderfynu eu bod nhw am siarad Cymraeg ac wedi mynd ati i ddysgu’r iaith eu hunain,” meddai Christine James.

“Ac mae angen i ni dynnu’r bobl yma i mewn – y rhai sydd wedi cofleidio’r Gymraeg,  oherwydd eu bod nhw am ei siarad hi –  a’u cynnwys nhw yn rhan  o’r weledigaeth.

“Mae’n rhaid i ni eu croesawu nhw ar faes yr Eisteddfod, mae’n rhaid i ni eu croesawu nhw i bob math o sefydliadau eraill hefyd – gan gynnwys yr Orsedd.”

Fideo