RSS

Golwg360

MwyCau 

‘Gypsy boy’ a cham gwag rygbi


Fe balodd Warren Gatland 'chydig o dwll i'w hun gyda'i sylwadau yntau am 'banter' Joe Marler (llun: Gareth Fuller/PA)
Mae’n hawdd deall pam bod cefnogwyr wedi siomi â’r ymateb i sarhad Joe Marler, yn ôl Iolo Cheung…

Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i – a llawer o bobol eraill – wedi disgwyl y penderfyniad gafodd ei wneud gan awdurdodau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad neithiwr.

Fydd prop Lloegr Joe Marler ddim yn wynebu unrhyw gosb bellach er iddo gael ei ddal ar feicroffon y dyfarnwr yn galw Samson Lee yn ‘gypsy boy’ yn ystod ffrwgwd pan oedd Cymru’n herio’r Saeson wythnos ddiwethaf.

Doedd ond rhaid i chi gael cip ar y cyfryngau cymdeithasol i weld ymateb anghrediniol rhai pobl i’r penderfyniad.

Ac er bod yr awdurdodau wedi dweud eu bod yn “ystyried y mater bellach ar ben”, mae’n anodd credu hynny rhywsut.

Y gyfraith yn glir

Yn ôl hyfforddwr Warren Gatland – a ddisgrifiodd sylw Marler fel ‘banter’ cyn ymddiheuro am hynny – roedd y ddau chwaraewr yng nghanol y ffrae eisoes wedi cymodi yn dilyn y gêm.

Ychwanegodd trefnwyr y bencampwriaeth, wrth esbonio pam na fyddai’r Sais yn wynebu cosb bellach, fod y sylw wedi cael ei wneud yn ddifeddwl – “in the heat of the moment”.

Esboniad, efallai, ond nid cyfiawnhad.

Mae llawer o droseddau yn cael eu cyflawni yn ddifeddwl. Dyw hynny ddim yn golygu na ddylen nhw gael eu cosbi.

Yn ôl rheolau disgyblu’r gêm mae unrhyw sylw sarhaus ar sail hil, grefydd, lliw, cenedligrwydd neu gefndir ethnig yn golygu gwaharddiad o bedair wythnos o leiaf.

Does dim amheuaeth fod y sylw ‘gypsy boy’ gafodd ei wneud yn disgyn i’r categori hwnnw – mae sipsiwn Romani yn cael eu diffinio yn gyfreithiol fel hil, ac fe gafodd y sylw ei wneud er mwyn ceisio herio gwrthwynebydd ar gae rygbi.

A fyddai’r un ymateb wedi dod gan yr awdurdodau petai’r sylw wedi cael ei wneud am hil arall? Dw i ddim yn siŵr.

Dylanwad

Ddylen ni ddim esgusodi’r digwyddiad chwaith ar sail ymddiheuriad sydyn Joe Marler i Samson Lee.

Dw i ddim yn amau o gwbl fod Marler yn edifar am beth ddywedodd, ond dyw’r ffaith bod y Cymro wedi derbyn ei ymddiheuriad ddim yn ddigon yn yr achos yma.

Cafodd y sylw ei glywed gan filoedd oedd yn gwylio ar y teledu ar y pryd hefyd – heb sôn am bawb sydd wedi darllen am y peth ers hynny. Nid dim ond Samson Lee gafodd ei sarhau, ond eraill o fewn y gymuned sipsiwn Romani hefyd.

Yn ogystal â hynny, fe glywodd plant ar hyd a lled y wlad chwaraewr rygbi rhyngwladol yn sarhau rhywun yn hiliol ac osgoi cosb. Pa fath o esiampl mae hynny’n ei osod?

‘Banter’ neu ddim?

Nid Warren Gatland yw’r unig berson sydd wedi lleisio’r farn bod mor a mynydd wedi’i wneud o’r sefyllfa, mai ‘banter’ oedd y cwbl.

Mae tynnu coes a chael hwyl yn rhan annatod o fod yn rhan o dîm mewn gêm fel rygbi wrth gwrs, a sawl camp arall, ac mae pethau sy’n cael eu hystyried yn jôc ymysg ffrindiau yn gallu cael eu camddehongli gan bobol o’r tu allan.

Ond does dim amheuaeth fod ‘banter’ hefyd yn cael ei ddefnyddio fel masg ar gyfer ymddygiad sarhaus ac annymunol ar brydiau. Dyw rhywbeth sy’n ‘ddoniol’ i un person ddim o reidrwydd yn cael ei weld yn yr un modd gan y person nesaf.

A phan mae’r sarhad hwnnw’n cael ei daflu at rywun gan chwaraewr sydd wedi cerdded deg llathen i ymuno â ffrwgwd â gwrthwynebydd ar gae rygbi, maddeuwch i mi os nad yw’n edrych fel cellwair cyfeillgar rhwng ffrindiau.

Mae llawer i’w ganmol am ymddygiad o fewn rygbi – cyfeillgarwch cefnogwyr, ufudd-dod tuag at ddyfarnwyr a pharch at gyd-chwaraewyr – yn enwedig o’i gymharu â phêl-droed ar adegau.

Ond mae’r bêl gron wedi delio’n llym ag achosion o hiliaeth fel y rheiny yn ymwneud â John Terry a Luis Suarez mewn blynyddoedd diweddar. Yn hynny o beth, mae gan rygbi wersi i’w dysgu.

Cymru v Lloegr: y brwydrau allweddol

Cyhoeddwyd Mawrth 11, 2016 gan Cymru.

Tagiau: Cymru v Lloegr


Taulupe Faletau (Llun:PA)

Richard Carbis sydd yn asesu’r gêm fawr yn y Chwe Gwlad yfory…

As long as we beat the English…” fel y canodd y Stereophonics. Wel, mae’r gêm fawr wedi cyrraedd a dw i’n meddwl bod y gallu gan Gymru i faeddu’r Hen Elyn unwaith eto.

Yn anghredadwy, mae sawl person wedi cwestiynu safon chwarae Cymru ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc.

Mae’n rhaid i gefnogwyr Cymru benderfynu. Ai chwarae pert sydd yn bwysig, ynteu ennill?

Fel un sydd wedi gwylio Cymru yn ystod y 1980au a’r 1990au, doeddwn i ddim yn meddwl ei bod yn bosib i’r crysau cochion drechu Ffrainc bum gwaith yn olynol.

Efallai eich bod chi’n sylwi felly fy mod i o blaid ennill, ac ar ddiwedd y dydd, rhaid bod hynny yn fwy pwysig na’r steil o chwarae.

Mae angen derbyn beth yw cryfder ein tîm ac mewn gwirionedd amddiffyn cryf, chwaraewyr sydd yn rhedeg yn nerthol a chicio da yw sail llwyddiant Cymru.

Pob tro mae’r tîm yn lledu’r bêl, dw i’n dechrau teimlo’n ansicr iawn achos mae’n glir nad yw trafod y bêl yn dod yn naturiol iddyn nhw.

Faletau v Vunipola

Dw i’n meddwl bod angen ystyried sawl brwydr sydd â’r potensial i ennill neu golli’r gêm yfory.

Does dim amheuaeth bod Tonga yn gallu bod yn hynod o falch o deuluoedd Taulupe Faletau a Billy Vunipola, y ddau chwaraewr o’r ynysoedd pell.

Mae’n rhaid cydnabod bod Vunipola wedi gwella dan hyfforddiant Eddie Jones, ond hoffwn awgrymu bod Lloegr yn gorddibynnu ar yr wythwr ac felly petai Cymru’n gallu ei stopio fe fydd prif ymosodiad y Saeson yn dod i ben.

Mae Faletau yn wahanol. Nid cryfder yn unig sydd ganddo ond y gallu i ddarllen y gêm, taclo’n ddi-baid a rhedeg yn bert trwy amddiffyn y gelyn.

Warburton v Haskell (a Robshaw)

Dyma gyfle Sam Warburton i ddangos bod ei nerth dros y bêl yn allweddol i lwyddiant Cymru.

Gyda chefnogaeth Dan Lydiate, sydd hefyd yn dod nôl at ei orau yn dawel bach, mae gan Gymru gyfle i arafu pêl Lloegr.

Pe bai Lloegr yn llwyddo i ennill meddiant cyflym ac arafu ein pêl ni gyda’u blaenasgellwyr nhw Chris Robshaw a James Haskell, fe fyddan nhw’n gallu ennill y gêm.

Davies & Webb v Youngs & Care

Dw i ddim yn bod yn wirion wrth dynnu sylw at y pedwar mewnwr, achos mae gan bob un ohonyn nhw siawns o ennill y gêm i’w timau.

Mae gallu Gareth Davies i sgorio ceisiau yn wych, ond efallai bod gan Webb fwy o weledigaeth wrth geisio rheoli gêm.

Mae Danny Care yn newid tempo’r gêm ac yn sicr yn fwy parod na Ben Youngs i newid y tactegau.

Biggar v Ford

Mae pawb yn sôn am Jonny Sexton fel y maswr gorau yn Ewrop, ond yn fy marn i mae pasio George Ford a chicio Dan Biggar yn fwy cywir na’r Gwyddel.

Does neb yn rhedeg ar ôl cic ei hun yn well na Dan Biggar, mae ei allu o dan y bêl uchel yn anhygoel.

Yn sicr dyma arf sydd yn gallu datgloi’r amddiffyn mwyaf tynn.

Bygythiad Lloegr

Yn gyffredinol mae’r wasg o farn bod olwyr Lloegr yn chwarae’n well nag ers llawer dydd. Yn fy marn i, mae Eddie Jones wedi rhoi rhyddid i’r olwyr fynd amdani a chwarae beth sydd o’u blaenau yn lle cadw at batrymau roedden nhw’n dysgu ar y maes hyfforddi.

Yn erbyn Yr Eidal roedden nhw’n manteisio ar bob cam-drafod gan yr Eidalwyr a’u cosbi nhw am bob camgymeriad yn yr ugain munud olaf.

Chwaraeodd Jonathan Joseph yn dda iawn gan gadw ei ben i fyny a darganfod y gwagle.

Efallai mai un o’r brwydrau mwyaf diddorol fydd Manu Tuilagi yn dod ymlaen fel eilydd i geisio rhedeg trwy amddiffynwyr Cymru pan fyddan nhw’n dechrau blino. Mae’r fainc felly yn allweddol i’r ddau dîm a phleser yw gweld Luke Charteris ymysg eilyddion Cymru.

Tân gwyllt yn y cefn

Ond hoffwn dynnu sylw at ddwy frwydr arall fydd yn allweddol yn ystod y gêm.

Yn gyntaf Mike Brown yn erbyn Liam Williams. Maen nhw yn chwaraewyr tanllyd iawn sydd yn gallu newid gêm wrth ymosod.

Mae hi’n amlwg bod Mike Brown yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i guro Cymru, a bydd rhaid i’r Cymry fanteisio ar y sefyllfa a cheisio achosi Brown i fynd yn fwy rhwystredig yn ystod y gêm. Wrth wneud hyn bydd cyfle i ennill ciciau cosb.

Hoffwn weld Liam Williams yn rhedeg fwy tuag at wrthwynebwyr. Un peth sydd yn sicr, ni fydd y tân gwyllt ar ddechrau’r gêm yn unig gyda’r ddau yma yn chwarae.

Yn ail, mae Sam Warburton wedi awgrymu y bydd y gêm yn troi ar ddigwyddiad arbennig gan unigolyn ac yn fy marn i, Alun Wyn Jones yw’r unigolyn hwnnw.

Bydd ei ymdrechion i guro pac Lloegr yn hanfodol at lwyddiant y tîm. Nid ei ymroddiad at yr achos yn unig sydd yn bwysig, ond sut mae’r aeddfedrwydd sydd ganddo yn helpu pawb o’i amgylch.

A oes siawns gan Loegr?

Dw i’n meddwl bod dwy elfen o’r gêm y bydd hi’n angenrheidiol i Loegr ennill os ydyn nhw am gipio buddugoliaeth.

Yn gyntaf, dw i’n sicr y bydd Dan Cole a gweddill y rheng flaen yn edrych ymlaen at bob sgrym yn erbyn Rob Evans. Ond efallai y bydd hyn yn gweithio o blaid Cymru oherwydd bod y crysau cochion yn gwthio’n syth a does neb yn gallu dweud bod Lloegr yn gwneud hynny.

Bydd rhaid i ni ddibynnu ar y dyfarnu. Craig Joubert yw’r dyn â’r chwib, gan ddyfarnu ei gêm gyntaf ers iddo wneud camgymeriad yn yr ornest rhwng Yr Alban ac Awstralia yng Nghwpan y Byd. Nid y sgrym yw cryfder Joubert felly bydd rhaid i’r rheng flaen gymharol ifanc ddal eu tir.

Pan oedd Eddie Jones yn hyfforddi Awstralia, roedd e’n gwybod mai’r ffordd orau o guro Cymru oedd cadw’r bêl yn fyw gydag ymosodiad ar ôl ymosodiad, yn debyg i’r modd yr oedd Siapan yn chwarae yn ystod Cwpan y Byd.

Mae hyn yn gallu profi’n effeithiol iawn petai Cymru’n ei gweld hi’n anodd arafu pêl Lloegr, a chydag Anthony Watson ar yr asgell mae ganddyn nhw chwaraewr dawnus fydd yn gallu cymryd mantais o’r sefyllfa.

A fydd Cymru’n ennill?

Wrth gwrs bydd emosiynau yn rhedeg yn uchel ar ôl buddugoliaeth Cymru yn ystod Cwpan y Byd, ond fe all gormod o emosiwn achosi i dîm fynd dros ben llestri a cholli gafael ar gêm.

Pwyll biau hi ddydd Sadwrn, a dw i’n meddwl bod profiad Cymru yn mynd i’w helpu wrth iddyn nhw amddiffyn yn effeithiol a chymryd mantais o bob cyfle sydd yn codi.

Ond bydd angen ennill pêl chwim a’i defnyddio hi’n gywir er mwyn ennill ym ‘mhencadlys’ y gêm rygbi yn Lloegr am yr ail waith yn olynol.

Petai George North yn gallu sgorio cais ar y ffordd i fuddugoliaeth, bydd pob dymuniad wedi’i gyflawni.

Amddiffyn yn allweddol i obeithion Chwe Gwlad Cymru

Cyhoeddwyd Mawrth 4, 2016 gan Y Blog Rygbi.

Tagiau: eddie jones, Llion Carbis, Warren Gatland


Llion Carbis gyda Mike Phillips
Ar ôl tri gem hynod o fywiog ond efallai nid llawn antur ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae gobeithion y Cymry o ennill y gystadleuaeth yn fyw.

Ar ôl profi dechreuad heriol yn Nulyn, mae Cymru wedi cofrestru dwy fuddugoliaeth i gynnal yr  ymgais am oruchafiaeth.

Iwerddon 16-16 Cymru

Cafodd Cymru eu cosbi’n wael am ddechreuad swrth, yn sicr roedd y gêm yn dod ag atgofion nôl o’r golled i’r Gwyddelod yn 2014,  pan enillodd Iwerddon 26-3.

Heb amheuaeth, roedd Cymru mewn sefyllfa dorcalonnus yn colli o 13 pwynt ar ôl 28 munud. Serch hynny, yn nodweddiadol roedd Cymru wedi dangos y dyfalbarhad a’r cymhwysedd i adfer y gêm o grafangau colled.

Cymru 27-23 Alban

Yn wahanol i’r gêm agoriadol, roedd Cymru wedi llwyddo i ddechrau’n bwrpasol yn sgorio cais o fewn y munudau cyntaf y gêm. Fodd bynnag, roedd yr Alban wedi llwyddo i frawychu cefnogwyr Cymru gan fynd ar y blaen o 13-10.

Ond fe brofodd greddf a thalent Cymru yn ddigon i ormesu’r Albanwyr, gyda’r cochion yn llwyddo i sgorio dwy gais mewn cyfnod o saith munud.

Cymru 19-10 Ffrainc

Mae modd dadlau taw dyma oedd y perfformiad mwyaf perffaith. Er bod y nifer o gyfleoedd i sgorio yn gyfyngedig, roedd George North wedi dangos effeithlonrwydd arbennig i fanteisio ar ei unig gyfle ac roedd amddiffyn Cymru wedi llwyddo i wrthsefyll ymosodiadau  Ffrainc ar sawl achlysur.

Yn gyferbyniol i’r hanner cyntaf ble roedd Cymru’n rheoli’r meddiant, roedd yr ail hanner yn troi o gwmpas amddiffyn Cymru. Roeddent wedi gwneud yn eithriadol o dda ac yn amlwg roedd y tîm yn benderfynol i niwtralu’r bygythiad oedd gan ymosodwyr y Ffrancwyr.

Cryfder yn y sgrym

Un agwedd o chwarae Cymru sydd wedi profi’n llwyddiant eithriadol yw’r sgrym.  Cafodd nerth y sgrym ei adlewyrchu ym mherfformiad Cymru yn erbyn yr Alban, gyda’r gwrthwynebwyr yn methu â datblygu unrhyw deimlad o reolaeth.

Cafodd yr oruchafiaeth yma ei adlewyrchu unwaith eto yn erbyn Ffrainc, gyda sgrym Cymru yn rhoi sylfaen ddelfrydol i ddyfeisio ymosodiadau. Nid oedd Ffrainc yn medru cystadlu yn erbyn grym sgrym Cymru.

Yn sicr, roedd Gareth Davies wedi manteisio ar nerth Cymru ymysg y blaenwyr wrth iddo geisio torri drwy amddiffyn Ffrainc. Heb os nac oni bai, Gareth Davies oedd chwaraewr fwyaf bygythiol Cymru.

Wrth edrych ymlaen at gêm Lloegr, cawn yr argraff bod y sgrym yn mynd i fod yn agwedd arwyddocaol iawn, yn enwedig os ystyriwn ni awydd Lloegr i chwarae rygbi 10 dyn.

Mae’n bosib iawn taw mantais Cymru yn y sgrym fydd yn profi i fod yn ffactor tyngedfennol mewn gêm sy’n argoeli i fod yn dynn iawn.

Amddiffyn solet

Yn enwedig yn y ddwy gêm ddiwethaf, mae amddiffyn penderfynol Cymru wedi bod yn ffactor hollbwysig sydd wedi sicrhau’r fuddugoliaeth.

Am fwyafrif yr ail hanner yn erbyn Ffrainc, roedd gwrthwynebiad digymar Cymru wedi llwyddo i negyddu bygythiad y Ffrancwyr, fel y gwnaethpwyd yn erbyn yr Alban.

Cafodd yr ymdrech yma ei adlewyrchu gan gyfraniad allweddol  Sam Warburton a oedd yn edrych fel ei fod wedi ailddarganfod ei allu. Fe ddangosodd Warburton ei fod yn chwarae ar ei orau fel rhif saith.

Yn sicr roedd ei barodrwydd i frwydro yn ddihafal yn amlwg, ac fe gofnododd gyfres o daclau pwysig iawn. Dim ond Taulupe Faletau – seren y gystadleuaeth hyd yn hyn (dros Gymru) – oedd wedi llwyddo i gwblhau mwy o daclau.

Seren y gystadleuaeth hyd yn hyn

Wrth ystyried taw yr amddiffyn sydd wedi sefydlu canolbwynt llwyddiannau Cymru, nid yw’n syndod taw Taulupe Faletau sydd wedi serennu hyd yma yn y gystadleuaeth.

Fe ddangosodd weledigaeth arbennig yn erbyn yr Iwerddon i sgorio cais cyntaf Cymru yn 2016, ond mae cydnabyddiaeth a’r pwyslais yn cael ei osod arno am ei gyfraniad amddiffynnol.

Mae Faletau wedi cofnodi 53 tacl ac wedi methu dau yn unig yn y bencampwriaeth eleni. Ar gyfartaledd mae’r wythwr wedi cwblhau 17.66 tacl y gêm yn y gystadleuaeth.

O safbwynt ymosodol, mae Faletau wedi bod yn ffigwr hynod o ddylanwadol. Mae’r wythwr wedi cario’r bêl 27 o weithiau ac yn aml yn strwythuro’r sgrym.

Y ffordd ymlaen

Er bod amddiffyn Cymru wedi bod yn hynod o nodedig, mae yna dueddiad i ildio ceisiau ym munudau olaf y gêm. Cafodd hyn ei ddangos yn erbyn yr Alban a Ffrainc.

Y ffactor sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn yw blinder, mae’r chwaraewyr wedi ymroi cymaint i’r gêm nad ydynt yn medru cynnal yr un dwyster erbyn y diwedd. Gall hyn fod yn broblem ddifrifol yn erbyn Lloegr, tîm sydd yn ceisio blino eu gwrthwynebwyr.

O dan arweiniad diwylliedig Eddie Jones, mae Lloegr wedi dangos yr awydd i chwarae ‘rygbi 10′dyn’ gan dagu’r gwagle, a blino gelynion ac yna yn chwarter olaf y gêm agor i fyny a thrafod y bêl yn bert.

Os yw strategaeth Lloegr yn llwyddiannus yn erbyn Cymru, yna mae’n debygol y bydd tueddiad Cymru i ildio’n hwyr yn parhau.

Felly, y datrysiad yma yw ceisio gwella’r stamina a ffitrwydd y chwaraewyr. Yn unol â hyn, mae rhaid defnyddio’r eilyddion yn gall.

Casgliad

Dw i’n meddwl bod digon gan Gymru i guro’r Eidal yn hawdd, felly’r brif her yw Lloegr. Heb amheuaeth, mae arweiniad newydd wedi ennyn brwdfrydedd ymysg y Saeson, ac ar ôl y golled fythgofiadwy yng Nghwpan y Byd, bydd Lloegr yn awyddus i ddial ar Gymru.

Yn sicr, mae’r gêm yn argoeli i fod yn un hynod o gorfforol, ond os yw Cymru yn llwyddo i ddangos yr un dwyster wrth ymosod ac ychydig mwy o greadigrwydd, yna dw i’n meddwl mai eu pencampwriaeth nhw fydd hi.

Dyw ‘Warrenball’ ddim yn ddrwg i gyd


Rhidian Jones
Rhidian Jones sydd yn amddiffyn cornel hyfforddwr Cymru Warren Gatland…

Mae’n anodd plesio pawb. Ar un llaw mae Warren Gatland wedi dod ag ‘oes arian’ (os nad oes aur) i rygbi Cymru, ond ar y llaw arall dyw arddull y tîm ddim wrth fodd pawb ac mae sawl un wedi beirniadu diffyg gallu Cymru i sgorio ceisiau, yn arbennig yn erbyn gwledydd hemisffer y de.

Fel un a gafodd ei fagu yn oes hesb rygbi Cymru yn yr 1980au a’r 90au, mae’r wyth mlynedd diwethaf dan arweinyddiaeth Gatland wedi bod yn rhagorol – dwy Gamp Lawn, tair Pencampwriaeth Chwe Gwlad, perfformiadau clodwiw mewn dau Gwpan Byd, a’r Llewod ‘Cymreig’ yn ennill cyfres yn Awstralia.

Yn yr un cyfnod mae Lloegr wedi ennill un Bencampwriaeth yn unig ac wedi mynd trwy bum prif hyfforddwr – gredech chi ddim y pleser mae hynna’n rhoi i ddyn ar ôl gorfod gweld Lloegr yn ben ar y byd yn 2003!

Y rheswm bod Lloegr wedi bod yn newid hyfforddwyr bob whipstitsh yw bod nhw heb ennill yn ddigon aml.

Buddugoliaethau yw bara menyn rygbi rhyngwladol, ac mae arddull Cymru dan Gatland o gael Jamie Roberts a Taulupe Faletau i redeg yn gryf i lawr canol y cae a pheidio gor-fentro â’r bêl wedi dwyn ffrwyth (yn y Chwe Gwlad beth bynnag).

Chwaraewyr – y deunydd crai

Petai gan Gatland y chwaraewyr i chwarae gêm gyflym, fentrus, yna does dim amheuaeth gen i y byddai fe’n gweithredu’r arddull yna.

Roedd Wasps dan Warren Gatland a Shaun Edwards yn gallu sgorio digon o geisiau yn ogystal ag amddiffyn.

Ond does gan Gymru ddim y chwaraewyr i gystadlu â Seland Newydd ac Awstralia pan ddaw hi’n frwydr sgiliau rhwng dau dîm deheuig.

Mae cryfderau amlwg gan Jamie Roberts a Jonathan Davies, ac nid canolwyr fel Conrad Smith neu Matt Giteau mohonynt. Dyna fy nehongliad i o sut mae Gatland yn ei gweld hi, beth bynnag.

Mae modd beirniadu’r hyfforddwyr am yr arddull geidwadol, ond dim ond pwll bach o chwaraewyr cryf, cyflym, medrus sydd yn gallu trin y bêl sydd yng Nghymru.

Yn Seland Newydd mae chwaraewyr fel ‘na rif y gwlith – mae ugeiniau ohonyn nhw’n ennill eu bara menyn yng nghynghreiriau proffesiynol Ewrop.

Mae dau Kiwi oedd yn chwarae rygbi rhannol broffesiynol yn Seland Newydd wedi dod i Gymru ac yn syth i mewn i dîm rygbi proffesiynol y Scarlets – Hadleigh Parkes a Michael Collins.

Yn achos Parkes, petai’n Gymro byddai’n un o’r 23 yn erbyn Ffrainc heb os nac oni bai.

Priestland v Biggar


Roedd Cymru'n chwarae gêm fwy agored gyda Rhys Priestland fel maswr, yn ôl Rhidian
Mae traddodiad anrhydeddus gan Gymru o chwaraewyr chwimwth sy’n gallu gweld bwlch, yn arbennig felly yn safle’r maswr.

Mae’r ffatri enwog wedi cynhyrchu maswyr deheuig fel Barry John, Phil Bennett, Cliff Morgan a Jonathan Davies. Mae llai o fylchau yn y gêm broffesiynol erbyn hyn felly mae arddull y chwarae wedi newid hefyd.

Ond am sawl blwyddyn dewisodd Gatland faswr sydd yn nes at arddull y maswyr yna uchod, sy’n gallu gweld bylchau’n reddfol ac yn footballer naturiol – Rhys Priestland.

Priestland oedd ffefryn Gatland, ond fe gafodd anafiadau a bu ymgyrch danbaid i’w ddisodli gan gefnogwyr y rhanbarthau eraill, a doedd honno ddim o gymorth i’w hyder bregus.

Collodd ei le yn y crys coch i Dan Biggar, sy’n faswr llai naturiol ond yn fwy gwydn o ran cymeriad.

Cafodd y rygbi cymharol agored a welwyd gan Gymru yng Nghwpan y Byd 2011 – pan oedd Priestland yn llywio – ei roi o’r neilltu, a gweithredwyd y Warrenball par excellence a welwyd yng Nghwpan y Byd 2015, i’r graddau bod Cymru wedi bod yn rhy geidwadol i ledu’r bêl yn erbyn 13 dyn Awstralia.

Cyfrifoldeb ehangach

Felly, yn y pen draw, chwaraewyr a’u galluoedd nhw sydd wedi gosod yr arddull sydd gan Gymru ar hyn o bryd.

Y rhain yw’r chwaraewyr mae Gatland wedi eu hetifeddu, ac mae e eisiau ennill pob gêm felly mae e’n gweithredu’r arddull fwyaf pragmataidd.

Mater i’r Undeb a’n hysgolion yw creu chwaraewyr mwy deheuig, ac mae cyfrifoldeb ar benaethiaid World Rugby hefyd i edrych ar y rheolau er mwyn creu mwy o fylchau ar y cae.

Dyw chwarae ar gaeau mwdlyd ar ôl gaeaf mor wlyb ddim yn gymorth, chwaith, i fagu sgiliau er mwyn cystadlu â gwledydd hemisffer y de.

Herio Ffrainc

Ond yn y cyfamser, dw i’n edrych ymlaen at weld Cymru a Ffrainc yn mynd benben heno.

Dw i’n disgwyl digon o redeg caled, ond gobeithio gwnaiff y crysau coch chwilio am fylchau yn amddiffyn Ffrainc ac ailgylchu’r bêl yn chwimwth er mwyn creu rhagor o le.

Mae Gatland wedi awgrymu y bydd Cymru’n rhedeg digon, yn arbennig yn yr ail hanner, ac mae hyfforddwr Ffrainc, Guy Novès, wedi bod yn sôn am ddod â flair y Ffrancwyr yn ôl.

Mae gobaith y cawn ni wledd o rygbi yn y crochan dan do, ac mae’r Bencampwriaeth eleni yn dyheu erbyn hyn am gêm gyffrous.

Cyfleoedd gyda’u clybiau wrth i’r Cymry lygadu gêm Ffrainc

Cyhoeddwyd Chwefror 19, 2016 gan Rygbi.

Tagiau: Illtud Dafydd, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, tim rygbi Cymru


Illtud Dafydd
Bydd chwarae dros eu rhanbarthau’r penwythnos yma yn gyfle i ambell un o garfan Cymru serennu, yn ôl Illtud Dafydd…

Mae’n siŵr bod Warren Gatland yn bles gyda’r fuddugoliaeth dros yr Alban. Doedd dim lot i fod yn bles gyda’r perfformiad, ond roedd hawlio buddugoliaeth cynta’r Cymry yn y Chwe Gwlad eleni yn rhyddhad i’r Ciwi.

Roedd y gêm yn bell o fod yn glasur, strategaeth ‘Warrenball’ yn gweithio i’r dim. Cadw’r gêm yn gul, gyda dynion mawr trwm yn rhedeg yn galed ag yn syth. Dw i’n amau’n fawr fod cais Gareth Davies wedi’i gynllunio, a lwcus oedd Cymru bod y cais wedi’i ganiatáu beth bynnag.

Ar ôl cais mewnwr y Scarlets roedd Cymru i’w weld wedi arafu braidd, yn disgwyl i’r Alban gilio ac ildio’r fuddugoliaeth yn hawdd.

Roedd Cymru yn euog o amharchu’r Albanwyr yn ystod y deugain munud cyntaf. Mae Vern Cotter yn haeddu clod mawr fel hyfforddwr, yn benodol am ei waith gydag ASM Clermont Auvergne.

Fe ddaw buddugoliaeth fawr iddo fel hyfforddwr rhyngwladol yn ystod y misoedd sydd i ddod dw i’n sicr.

Roberts ar dân eto

Daeth cais y doctor Jamie Roberts wedi chwarae disgybledig iawn. Canolwr y Cwins ar y llwybr tarw gan groesi. Ail berfformiad safonol Roberts o fewn llai nag wythnos.

Safonol iddo fe yw rhedeg yn galed gan fygwth y llinell fantais. Yn anffodus mae cadw’r bêl yn sianel y crys rif 12 yn mogi’r talentau eraill sydd ymysg yr olwyr, ond mwy ynglŷn â nhw’n hwyrach.

Daeth y cais olaf gan George North. Er iddo frasgamu heibio i dri Albanwr, agorodd ei lwybr i fyny gyda Sean Lamont yn penderfynu drifftio’n rhy gynnar. Hawdd oedd gwaith North gyda’r gwyngalch o’i flaen.

Roedd amddiffyn y Cymry yn solet, fel rydyn ni’n ei ddisgwyl o dan arweinyddiaeth y ‘guru’ o Wigan Shaun Edwards.

Trueni oedd gweld Duncan Taylor yn croesi am ail gais i’r Alban. Rhys Priestland yn saethu i fyny gan adael gofod i ganolwr y Saraseniaid i’w lenwi.

Bydd Gareth Anscombe yn siomedig gyda’i ymgais o dacl ef hefyd.

Cyfle gyda’u clybiau

Digon o edrych nôl ar y gêm a fu am y tro, wrth i ni droi ein sylw at gêm Ffrainc. Wrth aros am nos Wener nesaf ac i Les Bleus gyrraedd y brifddinas, gwylio gemau’r Pro12 yw trefn y penwythnos.

Wrth edrych ar gemau’r penwythnos mae tri ar ddeg aelod o garfan Gatland wedi’u rhyddhau i chwarae dros eu rhanbarthau.

Dw i wedi trafod ‘chydig am olwyr Rob Howley yn barod. Y rheiny fydd ar gael i’w rhanbarthau yw Lloyd Williams, Cory Allen, Alex Cuthbert, Tom James, Gareth Anscombe, Hallam Amos ac Aled Davies.

Gan edrych ar safle’r asgell chwith mae’n edrych fel bod Gatland neu Howley yn dal i geisio penderfynu ar y dyn fydd yn gwisgo’r crys rhif 11 yn erbyn Ffrainc.

Bydd yn rhaid i James a Cuthbert brofi eu hunain wrth groesawu Leinster i Barc yr Arfau. Bydd Hallam Amos ar bigau’r drain i hawlio lle yn y tîm hefyd wrth i’r Dreigiau deithio i ogledd yr Eidal.

Ystyried opsiynau

Mae Gatland wedi cyfaddef nad oes gan y dyn o Fynwy “gyflymder rhyngwladol”, ond ar ôl gweld Tom James yn cael ei ddal gan Duncan Taylor bnawn Sadwrn diwethaf, bydd yn rhaid i’r Ciwi ailystyried ei opsiynau.

Mae sawl safle i’w benderfynu, a bydd perfformiadau da’r penwythnos yma yn helpu achos unigolion.

Mae’n adeg gyffrous i ddilyn tîm Cymru pan nad yw pob safle wedi’i benderfynu cyn i’r tîm gael ei chyhoeddi, newid mawr o’i gymharu â’r rhan fwyaf o gyfnod Gatland.

Pwy bynnag sy’n cael eu dewis, ennill sydd rhaid yn erbyn gwŷr Guy Noves.

Cymru angen ymosod – a goresgyn dyfarnwr lletchwith

Cyhoeddwyd Chwefror 12, 2016 gan Rygbi.

Tagiau: cymru rygbi, Richard Carbis


Mae Dan Biggar yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban (llun: Gareth Fuller /PA)
Mae hi’n hynod o anodd disgrifio fy nheimladau ar ôl y gêm ddydd Sul. Efallai cymysgedd o ryddhad a rhwystredigaeth.

Pan aeth Dan Biggar bant, a chyda phob parch i Rhys Priestland, doeddwn i ddim yn hyderus o fuddugoliaeth ac mewn gwirionedd ar ôl dechreuad araf iawn gan Gymru, rhyddhad oedd prif emosiwn y dydd.

Ond, ac mae yna ond, roedd y gêm yn ein dwylo ni pan aethon ni ar y blaen gyda 74 munud ar y cloc, ac yna gyda chic wael gan Lloyd Williams, Tomas Francis yn camsefyll a chic gosb i Iwerddon roedd y sgôr yn hafal unwaith eto.

Roedd siawns gan Priestland i fod yn arwr a chipio’r fuddugoliaeth ddau funud o’r diwedd ond na, erbyn y chwib olaf gêm gyfartal oedd hi.

Ydi’ch cwpan chi’n hanner gwag neu hanner llawn? Dw i’n meddwl mod i dal mewn sioc dros chwarae’r Cymry yn yr hanner awr agoriadol.

Wrth edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Yr Alban fory, beth ydyn ni wedi’i ddysgu?

Dechrau gwell

Yn gyntaf, mae angen dechrau’n dda neu o leiaf bod yn barod am yr ornest yn y munudau agoriadol.

Ni fydd pob tîm mor fodlon gadael i Gymru grafu eu ffordd nôl mewn i’r gêm fel yr oedd y Gwyddelod!

Mae’n rhaid iddyn nhw fod fwy ar ddihun, nid ond i amddiffyn yn well ond i gymryd mantais o gyfleoedd ymosod.

Gwella’r sgiliau

Yn ymosodol, gyda Jonathan ‘Foxy’ Davies a Jamie Roberts nôl gyda’i gilydd roedd mwy o harmoni ymysg y canolwyr. Serch hynny roedd pob ymosodiad yn edrych fel cryfder dros ddawn.

Roedden ni’n chwilio am y dyn ac nid y gwagle ac wrth ledaenu’r bêl i’r asgell ac nid oedd digon o ymdrech i gael y bêl mas o’r sgarmes gyda chyflymdra priodol.

Weithiau roedd y bêl yn mynd i’r asgell yn rhy gyflym. Dw i’n teimlo bod y chwaraewyr yn rhy debyg ac yn bersonol, hoffwn weld Matthew Morgan ar y fainc er mwyn newid cyfeiriad yr ymosodiad.

Os yw Cymru eisiau chwarae gêm lydan, bydd angen codi sgiliau trafod y blaenwyr.

Siom ydoedd i beidio â chael gweld pa mor dda yr oedd Gareth Anscombe yn trafod y bêl, ond efallai bydd cyfle yn y gemau nesaf. Mae Liam Williams yn fygythiol iawn fel rhedwr, ond roedd hi’n amlwg nad oedd ei ffitrwydd yno er iddo lwyddo i redeg mwy o fetrau nag unrhyw aelod arall o’r tîm.

Sgrym gref

Yn y sgrym, wel, mae dyfodol disglair yn aros i Rob Evans. Am berfformiad anhygoel gan y prop ifanc, gwych! O blatfform mor sefydlog, siom ydoedd felly i weld Cymru yn trafferthu wrth ymosod.

O ran ffitrwydd fodd bynnag, efallai mod i’n anghywir ond mae’n edrych i mi fel petai ambell chwaraewr yn ei gweld hi’n anodd cynnal safonau ffitrwydd Cymru wrth chwarae dros y rhanbarthau.

Mae’r naid i fyny yn ymddangos yn uchel iawn o ran safon ffitrwydd a dw i’n meddwl mai hwn yw un o’r rhesymau pam ein bod ni’n cychwyn pob Pencampwriaeth yn araf iawn.

Yn sicr, doedd Sam Warburton ddim yn heini. Gwnaeth Liam Williams ei orau o dan amodau anodd. Prin iawn yw cyfleoedd Rhys Priestland gyda Chaerfaddon ac efallai petai wedi chwarae mwy yn ddiweddar fe fyddai wedi sylweddoli faint o amser oedd ganddo i sgorio’r gic adlam hwyr yna.

Ar wahân i’r hanner awr agoriadol, gyda llaw, roedd amddiffyn Cymru yn arbennig! I fi, Jamie Roberts oedd seren y gêm heb os nac oni bai. Roedd ei dacl ar Robbie Henshaw yn nerthol tu hwnt.

Beth am yr Alban?

Does dim amheuaeth bod yr Alban yn siomedig iawn ar ôl perfformiad difflach yn eu gêm agoriadol nhw, a fawr ddim uchafbwyntiau. Doedd dim adeg yn ystod y gêm lle’r oedd eu tîm nhw’n edrych yn agos at sgorio ceisiau.

Roedd Stuart Hogg yn rhedeg yn dda o’r cefn ond gyda dim llawer o gefnogaeth. Doedd Tommy Seymour ddim mor dda ag arfer ac efallai’r syndod mwyaf oedd perfformiad y pac. Ble roedden nhw?

Roedd Lloegr yn rheoli pob rhan o’r chwarae am adegau hir o’r gêm. All yr Alban dim bod mor wael eto, ond bydd rhaid iddyn nhw edrych ar y modd maen nhw’n amddiffyn ar yr asgell.

Wrth geisio stopio ymosodiad Lloegr roedd yr asgellwyr yn dod o’r tu fas i’r tu mewn, gan olygu bod gwagle ar gyfer dyn ychwanegol gan ddefnyddio’r cefnwr.

Roedd Lloegr wedi gweld hyn ac fe ddefnyddiodd Jack Nowell y gwagle i sgorio cais hyfryd yn y gornel. Dw i’n sicr y bydd Rob Howley yn gweithio ar systemau i wneud y defnydd gorau o’r cyfleoedd, ond a fydd y gallu gan Gymru i’w cymryd nhw?

Targedu Finn?

Dw i ddim yn gweld pwrpas creu gormod o ornest yn y sgrym. Sgrym digon cadarn sydd gan yr Albanwyr, felly dw i’n meddwl bod angen i Gymru gadw’n dynn o amgylch y sgarmes rydd er mwyn bwrw tyllau yn yr amddiffyn ac yna lledaenu’r bêl.

Doedd cicio Greg Laidlaw ddim yn wych ddydd Sadwrn diwethaf ac yn sicr bydd rhaid cymryd mantais o hyn. Pan mae Finn Russell o dan bwysau dydy e ddim mor hyderus i gicio neu drafod y bêl.

Mae ansicrwydd yn amlwg yn ei chwarae ar adegau, ond wedi dweud hynny pan fydd yr hyder yn llifo mae Russell, y canolwyr a Sean Maitland yn ffurfio ymosodiadau effeithiol.

Dim ond un newid sydd gan yr Alban sef Duncan Taylor yn y canol, ac yn syfrdanol mae Dan Biggar yn holliach i Gymru ac yn barod i wynebu her yr Albanwyr.

Dw i’n gobeithio bod Biggar yn gallu para am ran fwyaf o’r gêm. Yn ddiddorol, does dim lle i Alex Cuthbert ar y fainc ond mae Gareth Anscombe yn cymryd ei le.

Dyfarnwr lletchwith

Yn draddodiadol, gêm Cymru yn erbyn yr Alban yw’r gêm fwyaf agored, ond fory George Clancy yw’r dyfarnwr.

O bob dyfarnwr, yn fy marn i, fe yw’r un mwyaf lletchwith ac yn sicr nid yw’n ffrind i dactegau Cymru.

Yn fwy nag hynny, prin iawn yw’r gemau mae e’n dyfarnu ble mae’n caniatáu gêm sydd yn llifo, felly byddwch yn barod am sŵn y chwiban.

Os yw Cymru yn meddwl bod y gêm wedi’i hennill cyn cyrraedd y Stadiwm (‘sa i’n hoffi’r enw newydd), mi fydd yr Alban yn cipio’r fuddugoliaeth.

Ond os yw tîm Warren Gatland yn codi safon yr ymosod ac yn llwyddo i groesi’r llinell fantais yn fwy cyson, dw i’n rhagweld buddugoliaeth i Gymru.

Iwerddon v Cymru – Marciau’r Chwaraewyr

Cyhoeddwyd Chwefror 7, 2016 gan Cymru.

Tagiau: Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, tim rygbi Cymru


Taulupe Faletau sgoriodd gais Cymru (llun: PA)
Mae gobeithion Cymru o gipio Camp Lawn drosodd am flwyddyn arall, felly – ond does dim amheuaeth eu bod nhw’n dal i fod yn y ras ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cyfartal o 16-16 y gorffennodd hi yn Nulyn rhwng gwŷr Gatland a’r Gwyddelod y prynhawn yma, gyda Connor Murray yn tirio i’r tîm cartref a Taulupe Faletau yn sgorio cais yr ymwelwyr.

Rhys Priestland a Jonny Sexton giciodd gweddill y pwyntiau, a hynny ar ôl i faswr Cymru Dan Biggar orfod gadael y cae yn gynnar gydag anaf.

Beth wnaethoch chi o berfformiadau’r Cymry, felly? Dyma’r cyfle chi i roi marciau allan o bump iddyn nhw.

Olwyr

Liam Williams

George North

Jonathan Davies

Jamie Roberts

Tom James

Dan Biggar

Gareth Davies

Blaenwyr

Rob Evans

Scott Baldwin

Samson Lee

Luke Charteris

Alun Wyn Jones

Sam Warburton

Justin Tipuric

Taulupe Faletau

Eilyddion

Ken Owens

Gethin Jenkins

Tomas Francis

Bradley Davies

Dan Lydiate

Lloyd Williams

Rhys Priestland

Cymru vs Iwerddon


Llion Carbis, sydd yn fyfyriwr yn Chweched Dosbarth Ysgol Glantaf
Llion Carbis sydd yn bwrw golwg dros ornest agoriadol gwŷr Gatland…

Mae’r penwythnos ar y gweill a’r cynnwrf yn cydio. Mae’r Cymry wedi uno yn y gred y byddwn yn dathlu buddugoliaeth gampus ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, er gwaethaf goruchafiaeth y Gwyddelod yn y gystadleuaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Heb amheuaeth mae’r gêm yn addo cyffro di-ri, gyda Chymru yn obeithiol y byddan nhw’n llwyddo i ddod â theyrnasiad Iwerddon i ben.

Yn sicr, mae modd ystyried Cymru fel ffefrynnau wrth gofio’r fuddugoliaeth o 23-16 yng Nghaerdydd llynedd.

Gan fod nifer o chwaraewyr hefyd yn dychwelyd o anafiadau, mae cyfle euraidd gan Gymru i osod eu stamp yn gynnar ar y Chwe Gwlad eleni.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad – Blog Darogan Golwg360

Tîm Cymru: Gareth Anscombe, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Tom James, Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones , Sam Warburton, Justin Tipuric, Taulupe Faletau

Eilyddion Cymru: Ken Owens, Gethin Jenkins, Tomas Francis, Bradley Davies, Dan Lydiate, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert

Machlud ar yrfa Gethin

Wrth ddadansoddi carfan Cymru, rydyn ni’n gweld cymysgedd iachus o brofiad ac ieuenctid.

Mae Gatland wedi aros yn driw i Sam Warburton, Alun Wyn Jones a Jamie Roberts er mwyn ffurfio sylfaen gadarn i’r tîm, tra’n cadw llygad at y dyfodol gyda phresenoldeb Rob Evans a Tom James.

Mae’r penderfyniad i gychwyn gyda Rob Evans yn arwydd o bwysigrwydd y sgrym, gyda’r gobaith y gall y prop newydd ei sefydlogi – mae Gethin Jenkins yn fwy tueddol o ildio cosbau yn enwedig gyda Jerome Garces yn dyfarnu.

Yn ôl Warren Gatland roedd hyn yn un o’r rhesymau dros beidio cychwyn gyda’r prop profiadol.

Yn sicr, dyma’r cam cyntaf yn y broses o dynnu Jenkins o’r llinell flaen, unigolyn sydd wedi bod yn ffigwr arwyddocaol iawn i Gymru dros y pedwar ar ddeg mlynedd ddiwethaf.

Ond, mae rhaid i bob haul wawrio ac mae’n debyg y bydd Jenkins yn dod â’i yrfa ryngwladol i ben cyn bo hir.

Ansicr dros Anscombe


Mae Tom James yn haeddu'i gyfle, yn ôl Llion Carbis (llun: David Davies/PA)
Yn ychwanegol, mae cynnwys Tom James yn y tîm yn dangos bod amynedd Gatland gydag Alex Cuthbert wedi dod i ben.

Mae asgellwr y Gleision wedi profi dirywiad truenus, a heb lwyddo i ailadrodd y safon a osododd yn 2013, felly mae’r penderfyniad yn un cyfiawn.

Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu wrth edrych ar ystadegau James y tymor yma. Heb os nac oni bai, mae ei record yn addawol iawn gydag wyth cais mewn 12 ymddangosiad.

O bosib yr unig bryder amlwg yn y tîm yw Gareth Anscombe, sy’n dirprwyo fel cefnwr yn absenoldeb Leigh Halfpenny.

Yn bersonol dw i’n meddwl bod Mathew Morgan yn chwaraewr llawer mwy dawnus ac addas i chwarae gêm gyflym Cymru.

Er bod Anscombe yn cynnig yr hyblygrwydd yna – mae’n gallu chwarae fel maswr neu gefnwr – does ganddo ddim yr un ddawn naturiol â Morgan, sydd wedi profi ei allu i newid llwybr gêm mewn chwinciad.

Mae presenoldeb Gareth Davies yn sicrhau y bydd Cymru yn llwyddo i drafod y bêl yn gyflym. Yn ychwanegol, mae ganddo sgiliau rhedeg gwych ac felly mae’n medru darganfod gwagle.

Ar ôl ffynnu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, fyddai hi ddim syndod gweld y mewnwr yn ychwanegu at nifer ei geisiau dros Gymru – mae wedi sgorio pum gwaith hyd yma.

Gwyddelod yn tangyflawni?

Serch hynny, mae’n rhaid cydnabod llwyddiannau Iwerddon. O dan arweiniad deallus Joel Schmidt, mae Iwerddon yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Ond wedi buddugoliaeth ysgubol Yr Ariannin yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan y Byd, ydi momentwm y Gwyddelod wedi dod i ben?

Allwch chi ddim cwestiynu hyfedredd Iwerddon, gydag ymosodwyr sydd ymysg y mwyaf nerthol yn hemisffer y gogledd.

Yn ganolog i’r ymosod yna mae Jonny Sexton, sydd wedi bod yn tangyflawni yn ddiweddar yn y Pro12. Sexton a Connor Murray sy’n gyfrifol am drefnu pob ymosodiad, ac felly mae’n hollbwysig bod y ddau yn chwarae’n dda i sicrhau bod ymosod Iwerddon yn gweithredu’n effeithiol.

Gwylio’r rheng ôl


A fydd Sam Warburton, sydd ar glawr Golwg yr wythnos hon, yn arwain ei dîm i fuddugoliaeth arall?
Yn ogystal, mae gan y Gwyddelod ddigon o brofiad yn enwedig ymysg y blaenwyr. Yn absenoldeb Paul O’Connell bydd rhagor o bwyslais a sylw yn cael ei roi ar arweinyddiaeth Rory Best i sbarduno a chymell ei gyd-chwaraewyr.

Heb amheuaeth mae gan Iwerddon reng ôl hynod o fygythiol allai beri trafferth i unrhyw amddiffyn yn y byd.

Yn amddiffynnol maen nhw’n gadarn ac wrth redeg gyda’r bêl mae Jamie Heaslip a Sean O’Brien yn beryg y bydd Gatland yn gobeithio ei atal.

Yn hanesyddol Cymru sydd wedi cael y gorau o’r ornest hon gan ennill 67 o’r 123 gêm rhwng y ddwy wlad.

Fodd bynnag, mae’r gemau wedi bod yn fwy cyfartal dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r ddwy wlad yn ennill pump yr un o’r 10 gêm ddiwethaf.

Yn dilyn Cwpan y Byd cadarnhaol iawn, dw i’n meddwl bod gan Gymru’r hyder a’r gallu i guro Iwerddon.

Mi fydd yn ddiddorol gweld os yw partneriaeth Jamie Roberts a Jonathan Davies yn llewyrchu yn y canol, ac os fydd Gareth Davies yn parhau i ffynnu yn absenoldeb Rhys Webb.

Darogan: Iwerddon 12-26 Cymru

Gallwch ymuno â chynghrair Rygbi Ffantasi Golwg360 ar ESPN ar gyfer y Chwe Gwlad – côd y gynghrair yw 1256260-29723.

Chwe Gwlad – Blog Darogan Golwg360


Pa un o flogwyr Golwg360 sydd wedi darogan Camp Lawn arall i Gymru?
Blogwyr Golwg360 sydd yn edrych i mewn i’r belen grisial …

Ydi, mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto – rhowch y crys coch a’r het genhinen amdanoch achos mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar fin dechrau!

Mae timau hemisffer y gogledd wedi cael hen ddigon o amser i lyfu’u briwiau yn dilyn siom Cwpan y Byd bellach, a phenwythnos yma fe fydd yr ornest flynyddol yn dechrau unwaith eto i goroni tîm rhyngwladol gorau Ewrop.

Fe fydd golwg360 yn dilyn Cymru a gweddill y gystadleuaeth bob cam o’r ffordd – ac os ydych chi am fod yn rhan o’r hwyl, croeso i chi ymuno â’n cynghrair Ffantasi Rygbi ni eleni! (ar ôl i chi greu tîm, ewch i ‘Join League’ a rhowch y côd 1256260-29273 i mewn)

Fe fydd ein blogwyr hefyd yn cadw llygad ar hynt a helynt y timau yn ystod y gystadleuaeth – ac fel tamaid i aros pryd mae Rhidian Jones, Illtud Dafydd a Richard Carbis wedi bod yn ceisio dyfalu beth fydd yn digwydd dros y mis a hanner nesaf.

A fydd Cymru’n ennill y Gamp Lawn neu’r Bencampwriaeth?

RJ: Gyda thair gartref dw i’n mynd i ddweud y Gamp Lawn, ond bydd rhaid curo Iwerddon ddydd Sul i wneud hynny, a dw i’n credu y gwnawn ni.

ID: Na fyddwn, bydd curo Lloegr yn Twickenham un cam yn ormod.

RC: Dw i’n meddwl bod siawns dda gyda Chymru i ennill y Bencampwriaeth, ond mae gen i deimlad y bydd Ffrainc yn chwarae gydag antur a chyffro o dan hyfforddiant Guy Noves. Does dim llawer o sôn amdanyn nhw, felly cadwch lygaid ar dîm y Ffrancwyr.

Sut ‘dych chi’n disgwyl i’r chwe thîm orffen yn y tabl?

RJ: 1) Cymru 2) Lloegr 3) Ffrainc 4) Iwerddon 5) Yr Alban 6) Yr Eidal

ID: 1) Lloegr 2) Cymru 3) Ffrainc 4) Yr Alban 5) Iwerddon 6) Yr Eidal

RC: 1) Ffrainc 2) Cymru 3) Lloegr 4) Yr Alban 5) Iwerddon 6) Yr Eidal


Dim ond Rhidian Jones sydd yn meddwl y bydd Sam Warburton, sydd ar glawr Golwg yr wythnos hon, yn cael ei afael ar y bencampwriaeth
Pwy fydd chwaraewr y twrnament?

RJ: Hoffwn i feddwl mai rhywun o Gymru sy’n hoffi ymosod – Gareth Davies neu Justin Tipuric.

ID: Guilhem Guirado – bachwr Toulon i amlygu ei hun fel capten y Tricolore.

RC: Petai Dan Biggar yn chwarae ar ei orau, ‘dw i’n meddwl bod siawns arbennig ganddo i fod yn chwaraewr y twrnament, ond tu hwnt i garfan Cymru, Greg Laidlaw.

Pwy fydd prif sgoriwr ceisiau’r twrnament?

RJ: Mae George North yn benderfynol o wneud argraff eleni, felly fe amdani.

ID: Sean Maitland – bydd y Ciwi yn ffrwydro yn llinell ôl Vern Cotter.

RC: Gareth Davies.

Pwy fydd chwaraewr allweddol Cymru?

RJ: Alun Wyn Jones.

ID: Dan Biggar – ei form da yn ail-gydio ar y lefel ryngwladol wedi sawl wythnos gythryblus yng nghrys y Gweilch.

RC: Heb os nac oni bai, Dan Biggar.

Pa chwaraewr Cymru allai greu argraff annisgwyl?


Fe allai Gareth Anscombe greu argraff yn ystod y bencampwriaeth eleni, yn ôl Richard Carbis (llun: Joe Giddens/PA)
RJ: Mae cyfle gwych gan Rob Evans i etifeddu crys Gethin Jenkins yn barhaol.

ID: Bradley Davies – fe yw trydydd ddewis Gatland fel ail-reng wedi anaf Jake Ball ac fe gaiff gyfle.

RC: Gareth Anscombe.  Dydyn ni ddim wedi ei weld ar ei orau eto ac efallai eleni y bydd Cymru’n elwa o’i ddawn ar y maes, fel roedd e’n arfer gwneud ar gaeau Seland Newydd.

Pa un o chwaraewyr y gwrthwynebwyr fydd rhaid i Gymru fod fwyaf gwyliadwrus ohono?

RJ: Jonny Sexton a’i gicio, Dylan Hartley a’i gorddi, ac efallai bydd Gaël Fickou o Ffrainc yn blaguro o’r diwedd dan ei hen hyfforddwr Guy Novès.

ID: Antoine Burban, blaenasgellwr Ffrainc ac un o hoelion wyth Stade Francais llynedd. Bydd rhaid iddo fe wneud argraff pan gaiff e gyfle.

RC: Dylan Hartley. Does dim amheuaeth ei fod yn hoffi chwarae yn erbyn Cymru. Bydd rhaid i’r blaenwyr fod yn barod am yr her.

Un peth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?

RJ: Cymru’n dychwelyd i Twickers.

ID: Yr awyrgylch yng Nghaerdydd yn ystod yr oriau cyn y gemau cartref yn erbyn yr Alban, Ffrainc a’r Eidal. Does dim dinas yn creu buzz tebyg.

RC: Cyffro’r Chwe Gwlad ac efallai’r cyfle i weld mwy o geisiau nag arfer.


Mae Illtud Dafydd yn gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru yn ystod y Chwe Gwlad yn parhau i ddilyn eu timau rygbi lleol drwy gydol y flwyddyn
Ac un peth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato leiaf?

RJ: Clywed ‘Swing Low Sweet Chariot’.

ID: Cefnogwyr rygbi sydd ond yn amlygu’i hunain yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth. Mae mwy i rygbi yng Nghymru na’r Chwe Gwlad ac mae pob clwb lleol yn haeddu cymorth cefnogwyr rygbi Cymru.

RC: Y dyfarnwyr teledu (oni bai bod y penderfyniadau yn mynd o blaid Cymru!).

Buddugoliaeth i Gymru a bydd Camp Lawn o fewn cyrraedd

Cyhoeddwyd Ionawr 29, 2016 gan Rygbi.

Tagiau: Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Rhidian Jones, tim rygbi Cymru


Rhidian Jones
Rhidian Jones sydd yn edrych ymlaen at ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesa’ …

Mae’n dipyn o ystrydeb erbyn hyn, ond os wnaiff Cymru ennill eu gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad fe ddylen nhw ennill y bencampwriaeth, yn enwedig gan fod tair gêm gartref i ddod yn erbyn y timau mewn glas.

Pencampwyr y llynedd, Iwerddon, yw ein gwrthwynebwyr yn y gêm gyntaf ar 7 Chwefror, ac er bod y gêm yn Nulyn, Cymru yw’r ffefrynnau yn fy marn i.

Pam? Mae golwg sefydlog ar garfan Warren Gatland, fe gawson nhw Gwpan y Byd digon teilwng er gwaethaf anafiadau di-ri, a bydd chwaraewyr pwysig megis Jonathan Davies ar gael unwaith eto.

Mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr wedi cydnabod nad ydyn ni wedi bod yn sgorio digon o geisiau yn erbyn y timau mawr ac felly does bosib nad yw Rob Howley a Gatland wedi bod yn saernïo ein gallu ymosodol y tro hwn.

Iwerddon yn brin o hyder?

Mae Iwerddon, ar y llaw arall, yn edrych fel tîm sy’n mynd trwy gyfnod o newid. Mae un arall o’r hoelion wyth, Paul O’Connell, wedi mynd, ac mae ambell i chwaraewr pwysig mas o’r bencampwriaeth – Tommy Bowe, Peter O’Mahony, yr ail reng addawol Iain Henderson, a’r prop ifanc Marty Moore.

Ar sail perfformiad y taleithiau Gwyddelig yng Nghwpan Ewrop – cystadleuaeth sydd mor agos at eu calonnau – a’r modd y gwibiodd olwyr yr Ariannin heibio i amddiffyn Iwerddon yng Nghwpan y Byd, ni fydd rygbi Iwerddon yn byrlymu o hyder ar hyn o bryd.

Ond maen nhw’n chwarae gartref, fe fyddan nhw’n hynod o daer, a does dim yn well gan y Gwyddelod na chael pawb yn dweud bod eu gwrthwynebwyr yn mynd i ennill.

Eto i gyd, fe enillodd Cymru yn Nulyn yn niwedd mis Awst ac fe guron ni nhw’r llynedd yn y Chwe Gwlad, a dw i’n credu y gwnawn ni ennill eto ddydd Sul nesaf o ryw bum pwynt.

Dim gobaith gan yr Alban

Yn groes i’r holl sôn am dro ar fyd yn rygbi’r Alban yn dilyn Cwpan y Byd da a’r golled funud olaf i Awstralia, wela i ddim arwyddion clir i ddynodi bod record ofnadwy’r Alban yn y bencampwriaeth yma’n mynd i newid.

Fe fyddan nhw’n dîm caled i’w curo, yn arbennig ar ôl tynnu mewn nifer o fois o hemisffer y de i gryfhau’r pac megis John Hardie, Blair Cowan, Josh Strauss a WP Nel, ond dwlu yw unrhyw sôn amdanyn nhw’n ennill y bencampwriaeth.

Dw i’n rhagweld y bydd Lloegr yn curo’r Alban yn gymharol gyfforddus, yn enwedig wrth i’r hyfforddwr newydd Eddie Jones roi tipyn o sbarc iddyn nhw.

Lloegr yn fygythiad

Efallai ei bod hi braidd yn gynnar i Eddie Jones lywio Lloegr i ennill y bencampwriaeth gyfan eleni heb fawr o amser paratoi (er, fe lwyddodd Gatland gyda Chymru yn 2008!), ond wrth edrych ymhellach i’r dyfodol dw i’n proffwydo y bydd Lloegr yn wir fygythiad, yn fyd-eang, ymhen tair i bedair blynedd.

Mae ganddyn nhw hyfforddwr craff, mae clybiau Lloegr yn bwerus iawn ar hyn o bryd, ac mae cenhedlaeth hynod addawol o fois ifanc yn cael eu meithrin – pobol fel Maro Itoje, Elliot Daly, Henry Slade, Sam Underhill y Gwalch, heb sôn am y cawr o Ffiji sy’n siŵr o gynrychioli Lloegr yn anffodus, Nathan Hughes.

Ffrainc v yr Eidal

Dylai fod yn ddechreuad llwyddiannus i deyrnasiad newydd yr hen law o Toulouse, Guy Novès.

Nid yw’r Eidal wedi argyhoeddi dan Jaques Brunel, a pheryg y bydd rhaid aros tan i Conor O’Shea gymryd yr awenau ar ôl y Chwe Gwlad, fel sy’n cael ei ragweld, cyn i’r Azzurri ddechrau gwella.

Mwynhewch y cystadlu!