BLOG: Cenedlaetholdeb Seisnig ar ei ynfytaf

 

Rhan o glawr pasport presennol y Deyrnas Unedig

Huw Prys Jones yn trafod y pwysigrwydd rhyfedd mae rhai Saeson yn ei roi ar rywbeth mor bitw â lliw eu pasport …

Anodd meddwl am fath mwy truenus o genedlaetholdeb na’r cyffro y mae rhai Aelodau Seneddol Torïaidd yn ei deimlo wrth glywed y bydd eu pasports yn newid yn sgil Brexit.

Cyhoeddodd y llywodraeth ddoe y bydd yn newid lliwiau cloriau pasport o’r coch presennol i las er mwyn amlygu arwahanrwydd Prydain.

I’r mwyafrif llethol o bobl, un o hanfodion ymarferol teithio i wledydd tramor ydi pasport, a dim byd arall.

Ond i’r arch-genedlaetholwyr Seisnig hyn, mae eu pasport yn rhan o’u genedigaeth fraint, ac yn arf sy’n hybu eu hunan-bwysigrwydd.

Un o’r manteision o berthyn i genedl ddi-wladwriaeth fel Cymru ydi ein bod ni’n medru chwerthin am ben ynfydrwydd pobl y mae symbolau mor bitw yn golygu cymaint iddyn nhw.

Cwestiynau diddorol

Mae rhoi cymaint o bwys ar symbolau sy’n ymwneud â’r wladwriaeth yn codi cwestiynau diddorol am hunaniaeth a diwylliant y Saeson hyn.

Os ydi pasports yn rhan mor bwysig o’u hunaniaeth – fel mae’r faner i lawer o bobl America – y cwestiwn cyntaf a ddaw i’r meddwl ydi hyn yn arwydd o ddiffyg diwylliant ar eu rhan?

Dw i’n sicr y gall hyn fod yn wir yn achos rhai unigolion.

Ond nid yw’n cynnig ateb llawn chwaith. Mae gan Loegr fel gwledydd eraill Ewrop gyfoeth o hanes a diwylliant y gallai ymfalchïo ynddyn nhw. Yn ogystal â’i beirdd a llenorion mae ganddi draddodiad hir o unigolion goleuedig a frwydrodd dros achosion teilwng eu hoes.

Eto i gyd, i lawer o Saeson, mae gwladgarwch yn rhywbeth sy’n cael ei gyfystyru â theyrngarwch at y wladwriaeth a’r teulu brenhinol ac o ymfalchïo mewn hanes o feddiannu a rheibio gwledydd ym mhedwar ban byd.

Esboniad llawer o genedlaetholwyr Cymraeg yn y gorffennol oedd mai’r hyn roedden nhw’n ei alw’n ‘Brydeindod’ sydd ar fai, ac y byddai cefnu ar hyn yn arwain at ryw fath o newid diwylliant ymhlith y Saeson.

Mae Brexit wedi gwrthbrofi’n llwyr ddamcaniaethau o’r fath.

Tystiolaeth arolygon

Mae sawl arolwg wedi dangos bod mwyafrif llethol y bobl yn Lloegr a oedd yn teimlo’u hunain yn Saeson yn hytrach nag yn Brydeinwyr wedi pleidleisio dros Brexit, tra bod mwyafrif bach o’r rheini a oedd yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn bennaf wedi pleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn geiriau eraill, hunaniaeth Seisnig yn hytrach na hunaniaeth Brydeinig sydd wedi gyrru’r feddylfryd a arweiniodd at gefnogi Brexit.

Rhywbeth arall sy’n dod yn fwyfwy amlwg yn sgil hyn ydi mai gwladgarwch/cenedlaetholdeb Seisnig ydi Prydeindod i lawer o Saeson yn hytrach na theyrngarwch gwirioneddol at holl diriogaeth a diwylliannau’r wladwriaeth.

Mi welwyd yn fuan iawn yn y trafodaethau y byddai’r sefydliad Seisnig yn hapus i gael gwared ar Ogledd Iwerddon ar y cyfle cyntaf. Roedden nhw’n berffaith hapus i gael ffin galed rhwng ynysoedd Prydain ac Iwerddon os oedd hynny am helpu hyrwyddo Brexit.

Hyd yn oed yn achos yr Alban, mae arolygon wedi dangos y byddai’n well gan y mwyafrif o genedlaetholwyr Seisnig golli’r Alban na llesteirio Brexit. Mae’n werth nodi hefyd bod agwedd unoliaethwyr Seisnig at annibyniaeth i’r Alban wedi bod yn fwy cymedrol na’r hyn a welir yn Sbaen tuag at Catalwnia. Er bod hyn yn rhywbeth clodwiw, dydi’r cenedlaetholdeb Seisnig gwrth-Ewropeaidd sydd mor amlwg heddiw ddim yn rhoi unrhyw le i obeithio am agweddau Lloegr pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol.

Tybed ydi’r amser wedi dod i ni yng Nghymru gydnabod y gwir plaen mai Seisnigrwydd ac nid Prydeindod ydi’r gwir elyn i’n hunaniaeth?

Mi allwn yn sicr ymfalchïo bod hunaniaeth sy’n seiliedig ar ein diwylliant a’n hiaith yn rhagori’n fawr ar hunan-bwysigrwydd cenedlaetholwyr Seisnig yn eu haddoliaeth o’u pasport.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd