Fel darllen am ormes Franco

Diweddarwyd am  
Baner annibyniaeth Catalwnia ar fariau haearn

Baner a bariau

Llun: golwg360

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Mae gwylio’r hyn sy’n digwydd yng Nghatalwnia ar hyn o bryd, fel darllen y llyfrau hanes am gyfnod Franco yn rheoli Sbaen.

Mae’n wir y byddai tywallt gwaed wedi bod eisoes bryd hynny ac erlid mwy llym ond, yn eu hanfod, mae’r digwyddiadau ym Marcelona yn adlais cry’ o gyfnod yr unben Ffasgaidd.

Mae ymateb y gymuned ryngwladol hefyd yn debyg iawn i ymateb gwledydd fel Ffrainc a’r Deyrnas Unedig pan ddaeth y Generalissimo i rym, gan ddisodli llywodraeth gyfreithlon.

Troi cefn a chadw hyd braich wnaethon nhw gan esgus fod rhaid cadw’n ddiduedd. Eistedd ar ffens nes i’r dur fynd i’w calonnau nhw.

Wrth gwrs, mae’r sefyllfa’n wahanol mewn sawl ffordd.

Mae llywodraeth Sbaen wedi ei hethol ac, yn swyddogol, mae’r gyfraith ar ei hochr. Ond mae llywodraeth Catalwnia hefyd wedi’i hethol yn deg ac mae ganddi hithau egwyddor o’i phlaid.

Yr hyn y mae Sbaen yn ei ddweud ydi nad oes gan neb fyth yr hawl hyd yn oed i fod eisiau gadael y Wladwriaeth ac nad ydi pleidlais trigolion Catalwnia’n cyfri dim.

Ym marn arbenigwr sy’n cael ei ddyfynnu gan wefan newyddion Ara yng Nghatalwnia, cyhuddiadau gwleidyddol ydi’r rhai yn erbyn yr Arlywydd Carles Puigdemont a dyna sut y gall Gwlad Belg ystyried rhoi sentwar iddo.

Mi ddylai gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd barchu hynny ac ymatal rhag rhoi pwysau ar y llywodraeth na’r drefn gyfreithiol ym Mrwsel.

Mae’r tu hwnt i amgyffred i weld arweinydd democrataidd di-drais yn gorfod dianc o wlad Ewropeaidd yn 2017 rhag cael ei erlyn – a’i erlid – am ddilyn proses wleidyddol agored. Ac mae awydd rhai o bobol gweddill Sbaen i ddial yr un mor hyll.

Beth bynnag oedd barn mwyafrif pobol Catalwnia am annibyniaeth hyd yma, mi ddylen nhw feddwl ddwywaith a ydyn nhw eisio bod yn rhan o wladwriaeth sy’n gweithredu fel hyn.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd