ASau, rhyw a dechrau newydd

Diweddarwyd am  
Siambr Ty'r Cyffredin

Llun: Senedd y Deyrnas Unedig CC 3.0

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth

Yr helyntion diweddara’ tros gamfihafio rhywiol gan Aelodau Seneddol gwrywaidd ydi un o’r rhesymau gorau tros symud y Senedd o San Steffan.

Yn hytrach na gwario biliynau o bunnoedd ar adnewyddu hen adeilad anaddas, mi fyddai’n well gwario ychydig ar droi hwnnw’n amgueddfa ac atyniad twristaidd a chodi canolfan newydd, fodern yn rhywle arall.

Mae’r adeilad yn ychwanegu at wendidau system wleidyddol y Deyrnas Unedig, yn ystumio ymddygiad ac yn caethiwo democratiaeth. Ac mae’r sgandal tros agweddau ASau gwrywaidd at staff a gwirfoddolwyr benywaidd yn un enghraifft o hynny.

O ran ei bensaernïaeth a’i drefn, mae Tŷ’r Cyffredin fel croes rhwng ysgol fonedd a chlwb ‘bonheddwyr’, neu fel Rhydychen neu Gaergrawnt heb y brêns. Mae’r stafelloedd te a’r bariau’n ddigon tebyg i stafelloedd ‘cyffredin’ y sefydliadau hynny a’r holl ledr a’r pren trwm yn debyg i blasty gwledig.

Dyna pam fod dynion anaeddfed yn dal i feddwl eu bod yn gallu bihafio fel y maen nhw; er bod pethau wedi gwella ers pan o’n i’n gohebu yno dros 30 mlynedd yn ôl – a hynny’n benna’ oherwydd cynnydd yn nifer y merched – mae’r adeilad yn cynnal yr hen awyrgylch.

O greu teimlad clwb, y peryg ydi fod pobol yn anghofio am ddulliau ymddygiad y byd y tu allan. Mae’n amlwg fod y cyfuniad o bŵer a’r teimlad o fod ar wahân yn gallu twyllo rhai i feddwl eu bod nhw y tu hwnt i gyrraedd moesau arferol.

Ac os oes mwy a mwy ohonyn nhw heb erioed fod mewn byd gwaith fel arall, mae’r peryg hyd yn oed yn fwy. Ar ben hynny, er mor anhygoel ydi o, dydyn nhw ddim yn gorfod ufuddhau i’r math o reolau cyflogi y maen nhw’n eu gosod ar bawb arall.

Y tu hwnt i drafferthion y dyddiau diwetha’ yma – siâp a threfn y Tŷ sy’n rhannol gyfrifol am y wleidyddiaeth arwynebol llawn gwrthdaro sy’n rhwystr i lywodraeth ddoeth a chraffu trylwyr.

Mae angen dechrau newydd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd