Swyddi – ond sut rai?

 


Llun o Ganada yn yr 1930au (Llun parth cyhoeddus)
Mae ffigurau diweithdra Cymru wedi disgyn eto. Mi allech chi feddwl bod yr economi’n ffynnu. Dyna y mae’r ystadegau’n ei ddweud; mae’r llygaid yn dweud fel arall.

Wrth deithio ar draws Cymru, drwy amryw o’n trefi gwledig ni ac yn arbennig yn y Cymoedd, golygfeydd incwm-isel sydd i’w gweld; siopau rhad, siopau gwag ac olion diffyg buddsoddi.

Y cwymp mewn diweithdra ydi un o’r ychydig bethau y mae Llywodraeth Prydain yn gallu brolio yn ei gylch ac mae’n bosib y bydd yn disgyn eto wrth i ragor o bobol adael yn sgil Brexit. Ond nid arwydd o economi iach ydi hynny.

Un o’r rhesymau am y ffigurau gloyw ydi natur cyflogaeth; nid swyddi sefydlog, da, ydi llawer o’r rhain ond gwaith tros dro, ar hap a byr-dymor. Llai o bobol yn hawlio budd-dal, dim llai yn byw mewn ansicrwydd.

Mae byd gwaith wedi cael eu chwyldroi yn ystod y blynyddoedd diwetha’; o ran patrymau gwaith, mi fyddai chwalu yn well gair. Ar lefel swyddi ‘da’, mae’n golygu cytundebau; ar lefel swyddi ‘salach’, mae’n golygu dim sicrwydd oriau na chyflog.

Mae achosion diweddar cwmnïau fel Uber yn dangos bod cwmnïau bellach yn trïo symud baich cyflogaeth ar y gweithwyr eu hunain ac mae cyfres o Lywodraethau wedi annog hynny.

Yn y sector cyhoeddus, mae llawer o hen swyddi diogel wedi eu troi yn swyddi ansicr trwy asiantaethau a, phob tro, mae rhywun yn y canol yn gwneud pres da am fod yn y canol.

A maes sy’n haeddu ymchwiliad – a ydi’r llacrwydd a’r diffyg trefn yn ei gwneud hi’n haws i rai busnesau ac unigolion diegwyddor droi gweithwyr yn gaethweision? Os ydi diweithdra i lawr, mae hynny ar gynnydd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd