Gwasanaethau cyfreithiol i bawb, nid i’r lleiafrif

 


Enid Rowlands
Mae llawer i’w ddathlu ynglŷn â sector cyfreithiol Cymru. Gyda 450 o ffyrmiau a bron 5,000 o gyfreithwyr, mae trosiant y sector yn fwy na £380m ac fe dyfodd dri y cant y llynedd.

Ond mae sylwadau rwy’n eu clywed mewn amrywiaeth mawr o sgyrsiau’n dadlennu problemau sy’n peri pryder. Mae yna broblem o hyd bod gormod o bobol yn methu fforddio gwasanaethau cyfreithiol.

Mae gwasanaethau cyfreithiol yn bwysig inni i gyd. Maen nhw’n gallu helpu ar rai o’r adegau pwysicaf yn ein bywydau – wrth brynu tŷ, ymdrin â chyflogwr diegwyddor, neu drafod tor perthynas. Mae ymchwil yn dangos bod pobol yn credu bod gwasanaethau cyfreithiol yn rhy ddrud, hyd yn oed pan fydd pobol yn sylweddoli bod ganddyn nhw broblem gyfreithiol – a fydd llawer ddim yn sylweddoli. Dim ond un ym mhob 10 o bobol sy’n defnyddio cyfreithiwr neu fargyfreithiwr pan fydd ganddyn nhw broblem gyfreithiol.

Mae’n rhaid ei bod yn anghywir bod gennyn ni system ddwy-haen lle mae’r mwyafrif mawr yn methu cael gafael ar y cymorth angenrheidiol i orfodi neu i amddiffyn eu hawliau. Mae yna drafodaeth ddilys ynghylch rôl Cymorth Cyfreithiol i fyd i’r afael â’r broblem hon, ond nid dyna’r ateb i bopeth. Does gan y cyllid cyhoeddus mo’r adnoddau i gau’r bwlchsector ei hunan ei wneud i’w gwneud yn haws i bobl sicrhau cymorth?

Gwell gwybodaeth i’r cyhoedd

Rwy’n croesawu dyfarniad diweddar yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) fod angen diwygiad er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd yn well. Maen nhw’n argymell mwy o dryloywder.

Rwy’n cytuno bod diffyg gwybodaeth am wasanaethau cyfreithiol yn rhan o’r broblem. Mae pobol yn cael eu gadael i wneud dewisiadau dall am ei bod yn anodd cael yr wybodaeth y mae ei hangen er mwyn cymharu darparwyr a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym wrthi’n ystyried sut y gallai pobol gael gwybodaeth ystyrlon am wasanaethau, ansawdd a phrisiau, er mwyn chwilio am fargen well. Bydd dysgu gwersi o sectorau eraill lle mae hyn wedi digwydd yn barod – o ynni i wasanaethau ariannol – yn siŵr o helpu.

Dylai symudiad o’r fath helpu i greu marchnad gyfreithiol fwy agored a chystadleuol sy’n sbarduno mwy o ddewis a gwasanaethau mwy fforddiadwy. Bydd o fantais hefyd i’r busnesau bach sy’n ffurfio asgwrn cefn economi Cymru.

Gall ffyrmiau cyfraith helpu’r rhain i dyfu a llwyddo: o gyflogi eu gweithiwr cyntaf i gwblhau eu gwerthiant ar-lein neu eu hallforiad cyntaf. Mae ar economi agored, cystadleuol angen sector cyfreithiol agored, cystadleuol.

Bydd gwell tryloywder yn agor cyfleoedd i ffyrmiau cyfraith Cymru. Bydd ffyrmiau sy’n darparu gwasanaethau perthnasol sy’n hwylus ac yn rhoi gwerth am arian yn ffynnu.

Tra na fydd y mwyafrif yng Nghymru’n gallu fforddio gwasanaethau cyfreithiol, allwn ni ddim fforddio parhau i wneud yr un hen bethau. Gallai gwell gwybodaeth, ynghyd â’r camau eraill rydyn ni’n eu cymryd i gael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen a chreu marchnad fwy agored a chystadleuol olygu bod anghenion pobl gyffredin yn cael eu diwallu’n well. Bydd hynny’n newyddion da i’r cyhoedd, busnes a’r economi.

Dod allan o’r swyddfa

Ers fy mhenodi’n Gadeirydd lleyg cyntaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn 2015, rwyf wedi ymrwymo i ddod allan o’r swyddfa a chydweithio’n agos â phobl yng Nghymru.

Ein gwaith ni yw sicrhau y gall y cyhoedd ymddiried bod cyfreithwyr yn gweithio yn ôl safonau uchel, a hybu sector cyfreithiol cystadleuol, agored sy’n darparu gwasanaethau fforddiadwy. Yr unig fodd inni wneud y gwaith hwn yn effeithiol yw siarad yn gyson â’r rhai y mae’n gwaith yn effeithio arnyn nhw.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu tirwedd polisi Cymru ac yn ei gymryd i ystyriaeth yn llwyr. Felly, dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â phawb o Aelodau’r Cynulliad i grwpiau defnyddwyr, ffyrmiau cyfraith i academyddion, Aelodau Seneddol i gyfreithwyr, ac wrth gwrs y cyhoedd.

Awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru

Yr wythnos hon, bues i a fy Mwrdd ym Mae Caerdydd, gan gyfarfod â rhyw 80 o bobl o’r sector cyfreithiol a’r tu allan iddo er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth.

Un pwnc trafod oedd a ddylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Mae’n eglur bod corff cynyddol o gyfraith Gymreig, ac mae’n sicr yn drafodaeth ddiddorol.

Yn rhinwedd fy swydd fel rheoleiddiwr, dwy ddim yn credu mai ein rôl ni yw pleidio’r naill ochr neu’r llall yn y ddadl. Mater i gyhoedd a llywodraeth Cymru yw hyn. Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai cadw’r trefniadau presennol yw’r dewis ar y cyfan ond wrth gwrs fe allai hynny newid dros y blynyddoedd.

Felly byddwn yn monitro’r drafodaeth yn ofalus, i sicrhau ein bod yn deall y goblygiadau ar gyfer ein gwaith ni ac ar gyfer diogelu defnyddwyr yng Nghymru.

Er enghraifft, un peth sy’n ganolog i’n gwaith yw pennu a gorfodi safonau ac ymddygiad proffesiynol uchel i gyfreithwyr. Rydym yn nodi egwyddorion allweddol yn ein rheolau, megis diogelu buddiannau cleientau – er enghraifft, drwy gadw eu harian a’u gwybodaeth yn ddiogel.

Nid yw’r egwyddorion hyn yn debyg o newid ac rwy’n gwybod y bydd diogelu defnyddwyr bob amser yn bwysig i’r sector cyfreithiol, sut bynnag y bydd yn datblygu.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd