Mae Delyth Morgans Phillips yn Ysgrifennydd Cymdeithas Emynau Cymru ac wedi ymchwilio’n helaeth i emynau Cymraeg gan gynnwys gwaith William Williams Pantycelyn.

Fel rhan o ddathliadau 300 mlynedd geni’r emynydd, mae’n rhestru yma’r deg emyn y mae hi wedi’u dewis fel y goreuon…

10. Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy’

Un o nodweddion rhai o emynau Williams Pantycelyn yw symlrwydd. Ac emyn syml ac uniongyrchol iawn sy’n dod i’r degfed safle gen i. Emyn 305 yn Caneuon Ffydd:

Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy’

yn Frawd a Phriod imi mwy;

ef yn Arweinydd, ef yn Ben,

i’m dwyn o’r byd i’r nefoedd wen.

Beth mwy sydd ishe’i ddweud mewn gwirionedd? Mae Pantycelyn yn dweud taw Iesu yw ei bopeth. Fe sy’n rhoi pwrpas a nod i’w fywyd, hyd yn oed yn rhoi iddo dragwyddoldeb. Mae gan yr emynydd sawl enw ar gyfer Iesu, ac mewn cwta pedair llinell fe gewn ni ‘Brawd’, ‘Priod’, ‘Arweinydd’ ac ‘yn Ben’. Does dim rhyfedd fod rhai yn canmol gwaith Pantycelyn fel bardd, yn ogystal ag emynydd.

9. Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon

Geiriau digon syml sydd ym mhennill cynta’r emyn rwy’n ei osod yn y nawfed safle, sef ‘Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon’ – emyn rhif 320 yn Caneuon Ffydd.

Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon,
‘rwyt ti’n llawer mwy na’r byd;
mwy trysorau sy’n dy enw
na thrysorau’r India i gyd:
oll yn gyfan
ddaeth i’m meddiant gyda’m Duw.

Roedd Williams Pantycelyn yn ddyn reit gefnog, doedd dim arwydd o brinder arian yn ei deulu fe. Ac eto, i Bantycelyn ac i Gristnogion drwy’r oesoedd, nid pa mor iach yw’r cyfrif banc sy’n cyfri. All neb fynd â’i gyfoeth gydag e o’r byd hwn p’run bynnag. Yn dilyn ei dröedigaeth, rhoddodd Williams heibio’r syniad o fynd yn feddyg, ac yn hytrach ymroi ei holl amser i wasanaethu’i Arglwydd Iesu, i bregethu ac ysgrifennu cannoedd o emynau.

8. O llefara, addfwyn Iesu

Un peth sy’n taro rhywun o ddarllen ac o ganu emynau Williams Pantycelyn yw pa mor onest mae e. Erbyn hyn efallai bod rhywun yn cael y syniad ei fod e’n Gristion gloyw heb unrhyw wendid. Ond roedd e ei hunan yn cyfaddef ei fod e’n wynebu anawsterau ac ofnau ac amheuaeth, fel pob crediniwr arall. Yr emyn sy’n dod i’r wythfed safle, rhif 340 yn Caneuon Ffydd, ‘O llefara, addfwyn Iesu’. Y pennill clo sy’n neilltuol yn fy marn i:

Dwed dy fod yn eiddo imi,
mewn llythrennau eglur, clir;
tor amheuaeth sych, digysur,
tywyll, dyrys, cyn bo hir;
‘rwy’n hiraethu am gael clywed
un o eiriau pur y ne’,
nes bod ofon du a thristwch
yn tragwyddol golli eu lle.

7. Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu

Yr emyn sy’n dod i’r seithfed safle yw ‘Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu’, emyn 330 yn Caneuon Ffydd. Rydw i eisoes wedi sôn bod Pantycelyn wedi ymroi i wasanaethu’i Arglwydd drwy bregethu a sgrifennu emynau. Roedd e’n un o arweinwyr y Methodistiaid cynnar gyda Daniel Rowland a Howel Harris. Ac un gweithgarwch a gynyddodd yn y cyfnod hwnnw oedd yr arfer o gynnal seiadau – pobol yn cwrdd i drafod eu ffydd. Mae hynny’n arferiad sydd wedi mynd mas o ffasiwn erbyn hyn, ac ry’n ni wedi mynd yn swil iawn i sôn am ein ffydd a’n profiadau a’n ofnau. Ond dymuniad Pantycelyn yw ei fod e’n cael y cyfle a’r nerth i siarad am ei Waredwr bob cyfle posib:

O Arglwydd, rho im dafod

na thawo ddydd na nos

ond dweud wrth bob creadur

am rinwedd gwaed y groes;

na ddelo gair o’m genau

yn ddirgel nac ar goedd

ond am fod Iesu annwyl

yn wastad wrth fy modd.

6. Dros bechadur buost farw

Rwy’n dod nôl at ddyndod Williams ac at ei onestrwydd e ar gyfer yr emyn sy’n y chweched safle gen i – ‘Dros bechadur buost farw’, emyn 517 yn Caneuon Ffydd. Gallech ddweud ei fod e’n emyn digon trwm ac anodd. Emyn sy’n canolbwyntio ar farwolaeth Iesu ar y Groes yw e, ac felly yn naturiol, does dim disgwyl iddo fod yn rhywbeth ‘joli’. Ond mae Williams yn gweld ei wendid, ac er ei fod e’n cyfaddef hynny’n blwmp ac yn blaen, does dim byd hunan dosturiol yma chwaith. Y cwpled syml sy’n taro deuddeg yw:

Dwed i mi, a wyt yn maddau

cwympo ganwaith i’r un bai?

Mae e hefyd yn canu am yr euogrwydd ‘sy’n cydbwyso â mynyddoedd mwya’r llawr’. Nid dyma’r unig dro iddo ddweud rhywbeth tebyg, fel y gwelwn ni yn nes ymlaen yn y rhestr.

5. Tyred, Iesu, i’r anialwch

Emyn sy’n aml iawn yn cael ei ganu ar y dôn fyd-enwog ‘Blaenwern’ yw’r emyn sy’n dod i’r pumed safle – emyn 730 yn Caneuon Ffydd. Doedd Williams yn bendant ddim yn byw mewn anialwch. Mae Pantycelyn yn fferm neis, gyda thir pori da. Mae’r emyn yn sôn hefyd am fieri sydd o’i gwmpas. Eto, rhywbeth digon dieithr i’r emynydd, dybiwn i. Ond mae i’r emyn yma farddoniaeth a sylwedd. Ac o briodi’r emyn gyda ‘Blaenwern’, fe gewch chi rywbeth arbennig iawn sy’n codi calon rhywun wrth ei ganu. Yn arbennig felly wrth ganu’r trydydd pennill:

Ar dy allu ‘rwy’n ymddiried:

mi anturiaf, doed a ddêl,

dreiddio drwy’r afonydd dyfnion,

mae dy eiriau oll dan sêl;

fyth ni fetha a gredo ynot,

ni bu un erioed yn ôl;

mi â ’mlaen, a doed a ddelo,

graig a thyle, ar dy ôl.

4. Cyfarwydda f’enaid, Arglwydd

Os oedd Williams Pantycelyn yn nghanol yn yr anialwch a’r mieri yn yr emyn diwetha’ gen i, mae e’n teithio ar hyd ‘llwybrau culion, dyrys, anodd’ yn yr emyn rwy’n ei osod yn y pedwerydd safle. ‘Cyfarwydda f’enaid, Arglwydd’ yw hwnnw, emyn 737 yn Caneuon Ffydd. Yn wahanol i’r diffeithwch serch hynny, yr oedd Williams yn gyfarwydd â chymoedd cul ac â llwybrau diarffordd. Fe deithiodd e gannoedd o filltiroedd bob blwyddyn ar gefn ceffyl i bregethu ac i seiadu ac i werthu’i lyfrau emynau. Un o’r penillion rwy’n dueddol o’i ddyfynnu amlaf yn fy mywyd bob dydd yw pennill olaf yr emyn hwn:

Cul yw’r llwybyr imi gerdded,

is fy llaw mae dyfnder mawr,

ofn sydd arnaf yn fy nghalon

rhag i’m troed fyth lithro i lawr:

yn dy law y gallaf sefyll,

yn dy law y dof i’r lan,

yn dy law byth ni ddiffygiaf

er nad ydwyf fi ond gwan.

Fe ddechreues i adrodd y geiriau pan ddes i licio mynd i gerdded fel gweithgarwch yn fy oriau hamdden. A phob tro y byddem ni’n cerdded tamaid o lwybr arfordir Ceredigion er enghraifft, byddai sawl cyfle i sôn am y dyfnder ‘is fy llaw’, chwedl Pantycelyn.

3. O iachawdwriaeth gadarn

Mae’n rhaid i fi gyfaddef fod gwahaniaethu rhwng y tri emyn sy’n dod i’r brig wedi bod yn dipyn o job.

Efallai nad yw hi’n rhwydd i esbonio bob amser pam fod emyn neu ddarn o lenyddiaeth neu gerddoriaeth yn cydio yn rhywun, dim ond fod e’n cyffwrdd â’r galon. Rhywbeth felly yw hi gyda fi a’r emyn sy’n dod i’r trydydd safle. ‘O iachawdwriaeth gadarn’, emyn 509 Caneuon Ffydd. Dyw e ddim yn emyn mor gyflawn o bosib â’r emyn sy’n dod i’r ail safle, a dyw e ddim mor ddramatig â’r emyn sy’n dod i’r brig. Ond mae’r emyn yma a thôn odidog David Jenkins, ‘Penlan’, yn llwyddo i gyffwrdd â ’mhen ac â ’nghalon. Mae’n siŵr taw mewn cymanfa (neu gynulleidfa fawr o ryw fath, o leiaf), y cenais i’r emyn yma am y tro cyntaf, achos dyw e ddim yn emyn i’w ganu bob Sul mewn capel bron yn wag, heb gantorion.

2. Mi dafla maich oddi ar fy ngwar

Yr emyn rwy’n gosod yn yr ail safle o bosib yw emyn mwyaf poblogaidd Williams Pantycelyn. ‘Mi dafla ’maich oddi ar fy ngwar’, emyn 493 yn Caneuon Ffydd. Dyma’r emyn a ddaeth i’r brig yn y pôl piniwn gynhaliwyd yn 2008 ar gyfer Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Dyma hefyd un o delynegion perffeithiaf yr iaith Gymraeg yn ôl John Morris-Jones. Mae popeth yn yr emyn hwn: gonestrwydd Williams am ei euogrwydd, darlun o Iesu’n marw ei fwyn, a’r diweddglo hyfryd a syfrdanol o wynfyd.

Mi dafla’ ’maich oddi ar fy ngwar

wrth deimlo dwyfol loes;

euogrwydd fel mynyddoedd byd

dry’n ganu wrth dy groes.

1. Enynnaist ynof dân

Felly, os yw perffeithrwydd yr emyn ‘Mi dafla ‘maich’ ond yn cyrraedd yr ail safle, pa emyn sy’n dod i’r brig? Emyn 314 Caneuon Ffydd, ‘Enynnaist ynof dân, perffeithiaf dân y nef’. Dyma un o’i emynau mwyaf dramatig yn fy marn i. Ac mae’r briodas rhwng y geiriau a’r dôn ‘Y Faenol’ yn drydanol. Mae’r profiad o ganu rhai emynau’n gallu peri i rywun glosio’n fwyfwy atyn nhw. Dyna oedd fy hanes i â’r emyn hwn. Yr achlysur oedd gwasanaeth lansio Caneuon Ffydd yn Aberystwyth, 10 Chwefror 2001. Myfyriwr ôl-radd o’n i ar y pryd, wedi dechrau ymddiddori o ddifri ym myd yr emyn, ac wedi dechrau profi beth yw Cristnogaeth go-iawn. Oherwydd ’mod i’n perthyn i gynulleidfa fach, wledig, doedd dim cyfle i ganu emynau mawr ac emynau cymanfa fel yr emyn hwn. Dychmygwch y wefr felly o fod yn rhan o gynulleidfa’r Neuadd Fawr Aberystwyth yn morio canu’r geiriau ’ma. Emyn sy’n bendant yn adlewyrchu profiad personol Williams:

Wel dyma’r gwrthrych cun,

a dyma’r awr a’r lle

cysegraf fi fy hun

yn gyfan iddo fe …

Nid pawb sy’n cael y profiad o’r ‘awr a’r lle’ o ddod i adnabod Iesu. Fe wyddom ni i Williams gael profiad felly ym mynwent Talgarth yn gwrando ar yr Howel Harris ifanc yn pregethu. Ond waeth beth am y sut a’r pryd, dyma emyn pwerus inni gyd. Ac am ddiweddglo hyderus a phendant:

ffarwél, ffarwél bob eilun mwy,

mae cariad Iesu’n drech na hwy.