RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Banio’r burkini

Cyhoeddwyd Medi 19, 2016 gan Blog Meddwl.

Tagiau: blog, burkini, ffasiwn, gwenllian jones, rhyddid


Heddlu Ffrainc yn gorfodi dynes i ddiosg ei burkini ar draeth
Os fasa’ burkinis wedi bod ar silffoedd Tammy Girl ar stryd fawr Bangor pan o’n i’n dair ar ddeg, mi fysa’n arddega’ i wedi bod yn lot mwy o sbort. ‘Di gwallt frizzy a bacne ddim yn lot o hwyl ar adeg lle ti’n teimlo fel bod y byd i gyd yn cyfri’r sbotia ar dy groen di.

Are you ‘Beach Body Ready’? Nadw, Cosmo/Protein World/y rhyngrwyd. Dw i’n blotchy, dw i’n chwysu mewn llefydd od, ac ma gen i res o blorynnod fel y Glyderau ar fy nghefn i. Ond diolch am ofyn.

Bellach, dw i wedi dysgu sut i anwybyddu pobol a billboards fasa’n ffafrio ‘mod i’n cuddio yn yr atig yn lle dod allan yn gyhoeddus efo chydig o cellulite. Ac o ganlyniad, dw i’n eitha hapus efo fy ngwisg nofio fy hun.

Ond mae gen i ffrinidau sy’n dechra gweld y burkini fel posibiliad newydd. Tydyn nhw ddim, o angenrheidrwydd, fymryn yn llai hyderus. Mater o ddewis ydi o. Does gan Islam ddim monopoli ar wisgo’n gymhedrol. Dw i wedi gweld digon o ferched ar draeth Dinas Dinlle yn gwisgo crysau hir neu sarongs dros eu gwisgoedd nofio, beth bynnag fo’r rheswm am hynny.

Pan ddyluniodd Aheda Zanetti y burkini yn Awstralia nôl yn 2004, mi wnaeth hi hynny ar gais ei nîth oedd yn cael trafferth ar ei thîm pêl-rwyd. Roedd ei phenwisg hi yn y ffordd, a gweddill ei gwisg yn boeth ac yn anaddas ar gyfer unrhyw fath o ymarfer corff. Mi ddyluniodd Aheda wisg mwy ystwyth, oedd yn ei galluogi i chwarae i orau ei gallu fel ei chyd-chwaraewyr, heb orfod cyfaddawdu arferion ei chrefydd. A dyna eni’r burkini.

Felly dyfeisiwr moslemaidd, ia, ond efo’r bwriad o alluogi merched i gymysgu a chymryd rhan mewn cymdeithas heb rwystr. Dim on hanner yr enw sy’n cysylltu’r burkini i Islam. Mae’r hanner arall yn perthyn i ddyfeisiad gorllewinol (yn ei ffurf modern, o leia’), y bicini. Symbol o ryddid! Mae merched yn rhydd i wisgo be’ fynnan nhw!

Diddorol felly bod hwnnw wedi cael ei wahardd hefyd yn y 1960au (mewn sawl gwlad, gan gynnwys arfordir yr Iwerydd yn Ffrainc) am ddangos gormod o gnawd. ‘Da chi ffansi gneud y’ch meddwl i fyny, hogia? Mi aeth y Pab mor bell â deud ei fod o’n BECHADURUS. Dw i’n dal i drïo ffeindio allan be’ oedd ei farn o ar Speedos.

Un o’r pethau’ sy’n fy nghorddi fi fwya am y gwaharddiad yn Ffrainc ydi honiad yr awdurdodau bod gan y peth rhywbeth i’w wneud efo sicrhau rhyddid i ferched, a’u rhagdybiaeth bod pob merch sy’n gwisgo burkini dan rhyw fath o ormes.

Siawns, os oes yna gymaint o ferched o gwmpas yn cael eu gorfodi mewn i wisg yn erbyn eu hewyllys, nad y wisg ei hun ydi’r broblem? Ond beryg bod gorfodi dynes i dynnu ei dillad i ffwrdd o flaen pedwar dyn canol oed yn haws nag edrych ar y broblem go iawn, sy’n bodoli ymhob cymdeithas. Crefydd neu beidio.

Ddechrau’r haf, mi es i i deithio o gwmpas Iran – gwlad llawn hanes, ac yn gartref i’r bobl mwya croesawgar ar wyneb daear. Ond gwlad thocrataidd hefyd, sy’n gorfodi merched i guddio’u gwallt dan benwisg ers 1984. Yn y 1930au, roedden nhw’n cael eu curo am wisgo’r fath beth. Diolch byth am lywodraeth fodern, seciwlar Ffrainc! O… hold on.