Tactegau Boris Johnson yn mynd yn bellach na Brexit

 

Boris Johnson

Llun: Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad trwy Flickr

Cyn diwedd y dydd, neu erbyn diwedd yr wythnos o leia’, mi fyddwn ni’n gwybod a ydi tactegau bygythiol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gweithio.

Amser cinio dydd Mawrth, mae’n ymddangos yn debygol y bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio i atal gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ond wyddon ni ddim be’n union fydd yn digwydd wedyn.

Mae’n ymddangos na fydd Llafur yn syrthio i’r fagl o gefnogi Etholiad Cyffredinol cyn y diwrnod gadael, ac mi allai hynny greu ychydig o banig yn Rhif Deg Downing Street ac arwain at weithredu mwy eithafol fyth.

Beth bynnag ddaw, mae oblygiadau’r hyn sy’n digwydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i benderfyniadau’r hydref. Os ydi hi’n or-ddweud i hawlio bod ‘coup’ wedi digwydd, mae tactegau Boris Johnson yn arwydd peryglus o’r hyn allai fod.

Os bydd yn llwyddo, neu os na fydd ei ymddygiad yn cael ei wrthod yn llwyr, mi fydd wedi gosod y cyweirnod ar gyfer gwleidyddiaeth y dyfodol; trecha’ treisied fydd hi a phwy bynnag sy’n gweithredu galeta’ ac yn bygwth fwya’ fydd yn ennill.

Dyna’r union agwedd sydd gan Donald Trump hefyd; bygwth, dweud celwydd, dweud a gwneud beth bynnag sydd ei angen i gyrraedd nod; fel dynion busnes yn bargeinio tros bris.

Yn yr achos yma, aelodau seneddol Ceidwadol cydwybodol fyddai’n diodde’ ond, dan amgylchiadau eraill, mi allai’r un peth ddigwydd i bobol llai breintiedig ac i garfanau cyfan.

Er bod y gair yn cael ei ddefnyddio’n rhy rwydd yn aml, dydi’r rhybuddion am ffasgaeth ddim yn hollol wirion chwaith. Efo cefnogaeth ‘y bobol’ ar bwnc fel Brexit, mae’n hawdd gweld sut y gall hawliau sifig a hawliau sifil gael eu sathru. Ac unwaith y byddan nhw wedi mynd, mae’n anodd eu cael yn ôl.

Yn y diwedd, efallai y daw rhyw dda o hyn, hyd yn oed os bydd rhyw fath o drefn Brydeinig yn parhau. Mi all yr argyfwng yma orfodi’r wladwriaeth i edrych ar ei chyfansoddiad a pherthnasau grym a sut y mae sefydliad fel y Goron yn hwyluso ymddygiad o’r fath.

Mi allai Boris Johnson chwalu’r Deyrnas Unedig; mi allai orfodi newid sylfaenol yn y cyfansoddiad a’r drefn wleidyddol. Camp ryfedd iawn i Geidwadwr.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd