Y Bleidlais Fawr

Diweddarwyd am  

Theresa May

Llun: Tiocfaidh ár lá 1916 trwy Flickr (CC ND 2.0)

Yr un peth braf am y llanast Brexit ydi clywed gwleidyddion profiadol a sylwebyddion doeth heb y syniad lleia’ be fydd yn digwydd nesa’.

Y disgwyl ydi y bydd Theresa May a’i llywodraeth yn colli’r bleidlais heddiw ar y fargen i adael yr Undeb Ewropeaidd. Y cwestiwn cynta’, felly, fydd colli o faint.

Gwrthryfel anferth ac mi fyddai’n anodd gweld sut y gall hi barhau; gwrthryfel llai a cholli o rhyw 50 neu lai, ac wedyn pwy a ŵyr? Roedd sŵn paratoi am frwydrau pellach yn natganiad y Prif Weinidog ddoe: mi all hi hawlio ei bod wedi trïo cadw at yr addewid i adael ond mae eraill – gan gynnwys Llafur – oedd wedi ei rhwystro.

Yn sicr, petai yna etholiad cyffredinol, dyna fyddai ei dadl hi a dydi hi ddim yn amhosib mai Theresa May a fyddai’n arwain y Ceidwadwyr eto mewn etholiad o’r fath.

Fyddai safiad y Blaid Lafur ddim yn hollol glir mewn etholiad, chwaith; gwan iawn fyddai addewid i aildrafod ac, wrth gwrs, mi allai addewid i gynnal refferendwm arall greu problemau hefyd.

A oes yna gynllun gwahanol yn llechu yn rhywle? Be fyddai’n digwydd pe bai Tŷ’r Cyffredin yn ceisio gwthio’r Llywodraeth i wneud rhywbeth sy’n groes graen, neu’n atal gadael heb gytundeb?

Ddylen ni ddim synnu pe bai Theresa May yn penderfynu ymladd eto a gofyn am gefnogaeth y ‘wlad’ i’w chynllun hi neu Brexit di-gytundeb.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd