Rhaid manteisio ar rwygiadau’r Sefydliad

Diweddarwyd am  

Llun parth cyhoeddus

Mae trafferthion y llywodraeth yn golygu nad oes gan wrthwynebwyr Brexit unrhyw esgus dros beidio manteisio i’r eithaf ar eu rhwygiadau, yn ôl Huw Prys Jones

Daw her Dafydd Wigley heddiw i Aelodau Seneddol ddangos rhywfaint o asgwrn cefn ar Ewrop ar adeg amserol, wrth i rwyg yng nghabinet Theresa May ddod yn fwyfwy amlwg.

I’r rheini ohonom sy’n gwrthwynebu Brexit ar sail diwylliannol a hunaniaethol yn ogystal ag economaidd, mae’n anodd ar un ystyr teimlo brwdfrydedd dros aros yn rhan o undeb tollau Ewrop fel diben ynddo’i hun.

Ar y llaw arall, byddai gorchfygu lluoedd Brexit ar y mater hwn yn fuddugoliaeth bwysig. Yn un peth, byddai’n peri digofiant iddyn nhw ac yn torri cryn dipyn ar eu hysbryd. Yn wir, mae wedi gorfodi rhai ohonyn nhw i gydnabod y gwir plaen y byddai bod yn rhan o’r undeb tollau heb lais ym mhenderfyniadau’r Undeb Ewropeaidd yn waeth na pharhau fel aelod llawn.

Gallai felly fod yn arf cryf er mwyn edliw’n barhaus iddyn nhw syniad mor wirion oedd Brexit yn y lle cyntaf, ac i wawdio eu buddugoliaeth wag.

Gwrthwynebiad agored

Ar yr un pryd, mae angen mwy o wrthwynebiad agored i Brexit yn ei gyfanrwydd. Yn sicr, rhaid i Aelodau Seneddol gael yr hawl i wrthod Brexit yn gyfan gwbl os na fydd cytundeb y llywodraeth a’r Undeb Ewropeaidd yn ddigon da, fel yr awgryma Dafydd Wigley. Mater o synnwyr cyffredin ydi hyn – yr unig reswm y mae ei awgrym yn swnio mor radical ydi bod y llywodraeth a’r Sefydliad mor eithafol wrth geisio cau pob dadl a thrafodaeth ar y pwnc.

Yn yr un modd, os ydi unrhyw Aelod Seneddol yn credu bod Brexit yn syniad twp a niweidiol, ei ddyletswydd o neu hi ydi gwneud popeth yn eu gallu i’w wrthwynebu a’i lesteirio ym mhob dull a modd.

Yn anffodus, prin iawn hyd yma yw Aelodau Seneddol sydd wedi bod yn fodlon gwneud safiad o’r fath. Mae’n well gan lawer gormod ohonynt ildio’n ddigwestiwn i farn anwadal y dorf.

Ond beth fyddai ymateb cefnogwyr Alex Salmond pe bai wedi dweud ar ôl refferendwm annibynniaeth yr Alban mai ei ddyletswydd bellach oedd ‘derbyn dedfryd pobl yr Alban’ a sicrhau parhad a llwyddiant yr undeb gyda Lloegr?

Dyna’n union yr hyn mae Jeremy Corbyn a’i gyd-aelodau Llafur yn ei wneud yng nghyd-destun refferendwm Ewrop.

Anfaddeuol

Mae agwedd mor wasaidd yn fwy anfaddeuol fyth pan ddaw mwy a mwy o dystiolaeth i’r amlwg sy’n codi amheuon am ddilsrwydd y refferendwm ei hun. Ac o gofio mai canlyniad y bleidlais honno ydi fwy neu lai unig ddadl cefnogwyr Brexit bellach, mi fyddai tanseilio ei hygrededd yn gwanhau eu hachos yn sylweddol.

Mae’n hen bryd herio tiwn gron y rheini sy’n dweud bod angen ‘parchu’ canlyniad y bleidlais. Parchu beth yn hollol? Parchu propaganda twyllodrus Cambridge Analytica? Parchu ymyrraeth llywodraeth Rwsia? A sut y gall neb sy’n rhoi gwerth ar ddemocratiaeth barchu holl gelwyddau a thwyll a hiliaeth arweinwyr Brexit?

Nid gormodiaith ydi dweud mai ‘jobsworths’ cwbl ddiwerth ydi Aelodau Seneddol sydd ag agweddau o’r fath, a dydyn nhw fawr gwell mewn gwirionedd na’r rheini sy’n credu o ddifrif yn Brexit.

Hau amheuon

Nid er mwyn gwneud unrhyw alwadau ofer am ail-gynnal y bleidlais y mae angen hau mwy o amheuon yn y canlyniad. Ond gallai tanseilio hygrededd ynddo – ac atgoffa pobl yn barhaus am y celwyddau gafodd eu dweud – fod yn ffordd wych o ennyn drwgdybiaeth a drwgdeimlad yn erbyn llywodraeth sydd wedi cofleidio cenedlaetholdeb Seisnig amrwd efo’r fath arddeliad.

Faint bynnag mor wan ydi’n gobaith o rwystro Brexit, dydi hynny ddim yn rheswm dros beidio â gwneud pethau mor anodd ag sy’n bosibl i’n gelynion. Ein dyletswydd i genedlaethau’r dyfodol ydi gwneud safiad yn erbyn eu cynlluniau difaol.

Nid amser i ildio dim ydi hi ond amser i fanteisio i’r eithaf ar y rhwygiadau o fewn y Sefydliad ac i ddangos yn glir i weddill Ewrop nad ydi llywodraeth Theresa May ddim yn siarad dros bawb o bell bell  ffordd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd