Canlyniad refferendwm yw unig ddadl cefnogwyr Brexit

Diweddarwyd  
Baner Jac yr Undeb gyda'r gair Brexit drosti

Llun: CC0

Gydag un adroddiad ar ôl y llall yn dangos ffolineb Brexit, mae’n hen bryd i’r gwrthwynebwyr ddechrau ymwroli a tharo’n ôl o ddifrif, yn ôl Huw Prys Jones

Prin fod diwrnod yn mynd heibio na ddaw’r anawsterau sy’n codi yn sgil Brexit a’i ddrwg-effeithiau tebygol yn amlycach inni.

Gyda rhagolygon cynyddol o ddirywiad yn yr economi – yn enwedig mewn ardaloedd tlawd – a rhybuddion o effeithiau ffin galed ar heddwch bregus Iwerddon, mi fyddai disgwyl i fwy o’n harweinwyr godi llais dros ohirio a dangos rhyw fymryn o bwyll.

Synnwn i ddim fod mwyafrif pur sylweddol o’n gwleidyddion etholedig o’r farn fod Brexit yn syniad hollol wirion ac na ddaw unrhyw dda ohono.

Os felly, maen nhw’n esgeuluso eu hetholwyr trwy beidio â datgan hynny ar goedd a gweithredu ar sail y farn honno. Maen nhw wedi cael eu hethol i arwain ac ysbrydoli, nid i ddilyn barn eu hetholwyr fel defaid.

Hyd yn oed o blith cefnogwyr Brexit, digon tawedog ydyn nhwythau hefyd bellach am unrhyw fanteision honedig o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n amlwg i bawb na fydd unrhyw gytundebau masnach newydd ym mhellafoedd byd yn ddigonol i ddigolledu am golledion tebygol o’r brif farchnad ar garreg ein drws. Dydi sôn am leihau mewnfudo ddim yn gredadwy chwaith pan fo cymaint o angen amlwg am weithwyr tramor.

Yr unig ddadl y mae’r Brexitwyr yn syrthio’n ôl arni bellach yw bod yn rhaid gweithredu ‘ewyllys y bobl’.

Yr angen i herio

Dal i golli’r dydd fydd eu gwrthwynebwyr hyd nes y byddwn ni’n barod i herio o ddifrif yr honiad hurt hwn.

Does y fath beth yn bod ag ‘ewyllys y bobl’. Sbin gwleidyddol diystyr ydi cysyniad o’r fath. Nid all ‘gwlad’ na ‘chenedl’ nac ‘etholwyr’ fod ag unrhyw ‘farn’ nac ‘ewyllys’ – ac yn sicr nid oes unrhyw fath o benderfyniad torfol yn bosibl.

Unigolion o farnau cwbl wahanol i’w gilydd sy’n bwrw pleidlais – a’r unig beth a amlygodd y refferendwm yn haf 2016 oedd fod mor rhanedig oedd y farn ar berthynas Prydain ac Ewrop.

Nid gwahaniaethau barn yn unig chwaith, ond rhaniadau dwfn – ar sail dosbarth ac addysg i raddau, ar sail oedran yn sicr, ond yn fwy fyth mi gredaf ar sail diwylliant, gwerthoedd a hunaniaeth.

Rhaniadau dwfn

Mae’n debygol iawn fod Ewrop fel pwnc wedi amlygu rhaniadau diwylliannol chwerw a fydd yn parhau beth bynnag fydd canlyniadau’r trafodaethau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Maen nhw’n rhaniadau diwylliannol digon tebyg i’r hyn sydd wedi bod yn amlwg yn America ar hyd y degawdau, ac sydd fwy na thebyg yn mynd yn ôl i Ryfel Cartref y wlad.

Mae’n hanfodol fod gwrthwynebwyr Brexit yn deall natur y gelyn maen nhw’n eu herbyn.

Dwy ochr yr un geiniog yw apêl Brexit ac apêl Donald Trump, sy’n hyrwyddo’r un math o werthoedd a diwylliant. Lles eu gwlad eu hunain o flaen unrhyw wledydd eraill, dirmyg at gytundebau rhyngwladol ar yr amgylchedd a gwrthwynebiad i wario ar helpu gwledydd tlawd, yw nodweddion hanfodol y math yma o genedlaetholdeb sy’n gyffredin i ddwy ochr yr Iwerydd.

Mae’r rhaniadau diwylliannol hyn – rhwng cenedlaetholdeb Seisnig cibddall ar y naill law ac ymlyniad wrth y syniad o gydweithredu rhyngwladol a dinasyddiaeth byd ar y llall – yn llawer mwy arwyddocaol bellach na labeli traddodiadol o fod ar y ‘chwith’ neu’r ‘dde’ yn wleidyddol.

Natur y gelyn

Er y dicter sylweddol ar lawr gwlad yn erbyn ynfydrwydd a thwyll Brexit, mae gormod o’n harweinwyr gwleidyddol wedi bod yn llawer rhy llywaeth, rhy neis, a rhy foneddigaidd.

Mi fydden ni mewn sefyllfa llawer cryfach heddiw, petai yna ymgyrch benderfynol wedi bod o’r dechrau un i danseilio hygrededd y cyhoedd yng nghanlyniad y refferendwm.

Meddyliwch sut fyddai pethau petai’r bleidlais wedi gwyro fymryn fel arall, a mwyafrif bach dros aros i mewn.

A oes rhywun yn ddigon ffôl a naïf i gredu y byddai’r Brexitwyr wedi rhoi’r ffidil yn y to ac yn syrthio drostyn nhw’u hunain i’n hargyhoeddi eu bod yn ‘parchu’ y bleidlais?

Mi wyddon ni’n iawn y bydden nhw’n mynd ati’n systematig i ddwyn pob anfri posib ar y canlyniad a phardduo eu gwrthwynebwyr.

Hyd yn oed ar ôl ennill, mae eu celwyddau’n parhau, trwy geisio darlunio’u hunain fel gwrthryfelwyr yn erbyn y sefydliad pan mai nhw eu hunain, lluoedd Brexit, yw’r sefydliad bellach. Neu eu hyfdra o gyhuddo economegwyr o ‘project fear’ pan oedd holl sail eu hymgyrch nhw wedi ei seilio ar godi ofnau am fewnfudo a thramorwyr.

Os ydan ni o ddifrif am eu herio nhw, rhaid i ninnau hefyd ddefnyddio dulliau yr un mor filain a dichellgar yn eu herbyn a mynd ati’n fwriadol i’w tanseilio.

Ail refferendwm?

Mi fyddai pob cyfiawnhad dros wrthod dilysrwydd canlyniad y refferendwm ar sail y celwyddau a gafodd eu dweud a’r rhagfarnau a gafodd eu defnyddio.

Mae mwy fyth o reswm dros beidio â’i dderbyn fel gair terfynol yn wyneb yr holl anawsterau a’r cymhlethdodau a ddaw i’r amlwg.

Mae’n gwbl hurt meddwl y gellir setlo mater mor gymhleth ag union berthynas Prydain â gwledydd tir mawr Ewrop gydag un bleidlais ie/na.

Mae’n ddealladwy felly fod llawer o bobl yn amheus o’r syniad o ail refferendwm, a does dim sicrwydd o gwbl y byddai’n datrys y sefyllfa.

Ar y llaw arall, mae’n anodd gweld beth fyddai i’w golli o gymharu â sut mae pethau ar hyn o bryd. Mae’n werth sylwi hefyd sut mae’r syniad o ail refferendwm yn gyrru ias o ofn i lawr y Brexitwyr – yn enwedig pe bai’n cael ei ohirio am ddigon o hyd. Mi dybiwn i fod hyn ynddo’i hun yn ddadl dros bwyso’r angen am ryw fath o ail bleidlais.

Un peth sy’n sicr, mae angen i’r seneddwyr sy’n gwrthwynebu Brexit ddangos llawer mwy o asgwrn cefn.

Beth am gynnig tipyn o arweiniad, gweledigaeth ac anogaeth i’r miloedd lawer ohonom sy’n cael ein cythruddo gan yr hyn cael ei wneud yn ein henw? Os ydyn nhw am ennyn ein parch, rhaid iddyn nhw allu bod yn llais i’n dicter. Ac yn fwy na dim, ein hysbrydoli i gadarnhau ein penderfyniad i orchfygu’r giwed dwyllodrus a chelwyddog sy’n gyfrifol am y llanast yr ydan ni ynddo ar hyn o bryd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd