Trasiedi ac adwaith – plaid a gwlad ar brawf?

Diweddarwyd  
Llun agos o'i wyneb

Carl Sargeant

Llun oddi ar gyfrif Twitter Carl Sargeant

Aled Gwyn Job sy’n edrych yn ôl ar farwolaeth yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant…

Roedd marwolaeth drasig Carl Sargeant yr wythnos hon yn un o’r digwyddiadau mwyaf sobreiddiol yn hanes diweddar Cymru.

Ond er mor dywyll ac erchyll oedd yr hanes, tybed hefyd nad oedd y drasiedi hon yn un o’r digwyddiadau trawsffurfiannol hynny sy’n aml yn gallu diffinio cenedl a hyd yn oed newid trywydd y genedl honno.

Dydi hi ddim yn ormodiaith i ddweud fod llawer iawn o bobl yma yng Nghymru – y tu hwnt i’r byd gwleidyddol arferol – mewn galar, sioc a dychryn wedi clywed am hunanladdiad Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy ddydd Mawrth diwethaf.

Er gwaetha’r trai mawr o ran ymlyniad ffurfiol i’r traddodiad crefyddol Cymreig dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru’n parhau’n wlad sy’n rhoi pwys mawr ar fywyd ac ar urddas dynol, ac mi roedd clywed am farwolaeth Carl Sargeant yn dolc go egr i’n synnwyr cenedlaethol o’n gwerthoedd sylfaenol ni fel gwlad.

Pan ddeallwyd wedyn bod ein Prif Weinidog am ymateb yn gyhoeddus am y tro cyntaf i farwolaeth ei gyd-aelod Llafur mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn Iau, y gobaith oedd y gallai rhywsut neu’i gilydd lwyddo i gyfleu teimladau pawb ohonom wedi’r newydd erchyll a thorcalonnus hwnnw a dorrodd fore Mawrth.

“Oeraidd”

Ond gwaetha’r modd, perfformiad cwbl ddienaid ac oeraidd a gafwyd gan Carwyn Jones, megis fel cyfreithiwr dan bwysau mewn llys , a’r teimlad cyffredinol yn sgil ei ymddangosiad swta o flaen y camerâu oedd na wnaed unrhyw gyfiawnder gyda holl bathos a thristwch y sefyllfa dan sylw.

Gellid dadlau mai marwolaeth Carl Sargeant o dan y ffasiwn amgylchiadau fu’r digwyddiad mwyaf ysgytwol yn holl hanes datganoli yng Nghymru ers 1999 a’r un a enynnodd y mwyaf o sylw cyhoeddus i Gynulliad Cymru ers ei greu.

Bu’r Blaid Lafur yn rheoli pethau’n ddi-dor yma o’r cychwyn cyntaf wrth gwrs, ac un elfen hynod ffortunus i’r blaid  dros y cyfnod hwn fu’r diffyg craffu cenedlaethol arni a’i pherfformiad ar hyd y blynyddoedd hynny.Boed hynny oherwydd diffyg gwasg genedlaethol gwerth son amdani, gwendid y pleidiau eraill neu ddifaterwch cyffredinol y Cymry – mae’r Blaid Lafur wedi cael rhwydd hynt i wneud fel  a fynna hi yma i bob pwrpas.

“Tra-arglwyddiaeth”

A’r realiti creulon ydi bod y dra-arglwyddiaeth hon dros fywyd Cymru a’r trahauster sydd wedi tyfu law yn llaw gyda hynny dros y blynyddoedd wedi’i amlygu’i hun yn ei holl hylltra yn ystod hanes trist yr wythnos hon.

A gafwyd enghraifft fwy graffig erioed o’r “dis-connect” llwyr hwn sy’n bodoli rhwng ein pleidiau gwleidyddol heddiw a’r bobol gyffredin y maen nhw’n honni eu cynrychioli o ystyried sut yr aeth y Blaid Lafur ati i ddisgyblu a chosbi Carl Sargeant a chymharu hynny gyda sut y byddai’r rhan fwyaf o bobl normal yn ein cymdeithas, y tu hwnt i’r bybl gwleidyddol, wedi ceisio mynd o’i chwmpas hi?

Rydym wedi hen arfer clywed geiriau mwys Llafur Cymru am gyfiawnder, tegwch a chwarae teg a’i phwyslais cyson ar ei rhagoriaeth foesol dros y Torïaid brwnt, dideimlad a diegwyddor hynny. Mae’r dacteg hynod syml hon wedi talu ar ei ganfed iddyn nhw mewn un etholiad ar ôl y llall yng Nghymru ar hyd yr holl flynyddoedd.

Ond mae rhywun yn synhwyro rhywsut bod llygaid a chlustiau pobl Cymru wedi eu hagor mewn modd na welwyd erioed o’r blaen yn dilyn digwyddiadau’r wythnos a aeth heibio a bod rhagoriaeth foesol dybiedig y Blaid Lafur bellach yn deilchion.

Mae’r drasiedi ddynol hon a ddigwyddodd o dan oruchwyliaeth y Blaid Lafur yn dangos yn ddigon clir mai ei buddiannau hi ei hun sydd wastad yn dod gyntaf uwchlaw unrhyw beth arall ganddi.

Buddiannau

Gwyddom ers blynyddoedd, wrth gwrs, fod buddiannau’r Blaid Lafur wastad wedi’u gosod uwchlaw buddiannau Cymru fel gwlad. Ond mae’n ymddangos bellach fod buddiannau’r Blaid Lafur yn bwysicach na lles unigolion hefyd- hyd yn oed os yw’r unigolyn dan sylw wedi rhoi oes o wasanaeth i’r blaid honno.

Mae’n debyg fod Carwyn Jones wedi cael neges gan HQ y Blaid Lafur (yn Llundain wrth gwrs) bod rhaid iddo ymddangos yn “arweinyddol” a chadarn yn wyneb yr holl ensyniadau a chyhuddiadau am aflonyddu rhywiol sydd wedi cael cymaint o sylw yn y wasg yn ddiweddar. Roedd rhaid i Lafur ymddangos yn gryf i’w gwahaniaethu nhw rhag y Torïaid a’u helbulon hwy gyda’r cyfryw faterion hyn.

A phan fu rhaid iddo ymddwyn felly pan ddatgelwyd yr adroddiadau gan dair merch ddienw am y sylw amhriodol honedig a roddwyd iddynt gan Carl Sargeant, dyna’n union a ddigwyddodd. Sylw amhriodol noder nad oedd yn ddigon difrifol i’w gyfeirio at yr Heddlu.

“Anghyfiawn”

Does dim angen bod yn anorac gwleidyddol o gwbl i weld bod y modd y deliwyd gyda’r achos gan Carwyn Jones a pheirianwaith y Blaid Lafur y penwythnos diwethaf yn sylfaenol anghyfiawn ac annheg.

Ymddengys o’r hyn a ddywed cyfeillion agos Carl Sargeant ei fod o’n gallu bod yn fregus yn feddyliol a bod y ffaith hon yn wir yn hollol wybyddus i uchel swyddogion y Blaid Lafur yng Nghymru.

Fel un sydd wedi profi iselder a phryder fy hun yn y gorffennol, gallaf ddeall yn iawn sut y gallai ymateb oeraidd a chlinigol gan gyflogwr wrth ddelio gyda phroblem yn y byd gwaith chwarae ar feddwl rhywun bregus o dan rhai amgylchiadau.

O’r holl gamgymeriadau elfennol a wnaed wrth ddelio gyda’r achos dan sylw – yr amharodrwydd hwn i estyn unrhyw ofal bugeiliol i ddyn bregus yn ystod penwythnos tywyllaf ei fywyd, a’i yrfa gyhoeddus yn chwilfriw wrth ei draed, oedd y gwaethaf o bell ffordd.

Halen ar y briw wedyn oedd y ffaith fod ei gyfreithiwr wedi gorfod ysgrifennu at y Blaid Lafur dros y penwythnos yn crefu am fwy o fanylion ynghylch y camymddwyn tybiedig gan rybuddio am gyflwr meddwl eu cleient – dim ond i wynebu wal ddidostur o fiwrocratiaeth bleidiol.

Hyd ei farwolaeth fore Mawrth, doedd Carl Sargeant ddim yn gwybod beth oedd yr union gyhuddiadau yn ei erbyn. Er bod ei enw wedi’i daenu ar draws y cyfryngau a’i euogrwydd honedig yn wybodaeth gyhoeddus i’r byd a’i nain.

Mae’n hawdd gweld sut y gallai’r ffasiwn waradwydd cyhoeddus effeithio ar ddyn, oedd fel un o’r ychydig gynrychiolwyr dosbarth gweithiol yn y Senedd, mor ymwybodol a balch o’i rôl yn cynrychioli ei gymuned enedigol yng Nghei Conna.

“Dyddiau du”

Heb son am y synnwyr fod ei blaid ei hun wedi ei daflu i’r bleiddiaid i bob pwrpas trwy wrthod unrhyw wybodaeth ystyrlon  na chymorth bugeiliol iddo yn y dyddiau du hynny wedi iddo gael ei wahardd o’i blaid a’i ddiswyddo ar yr un gwynt..

Mae’n debyg bod Carwyn Jones wedi cytuno bellach i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiad a’i ran ef ei hun yn ystod y broses. Mae hynny’n sicr yn gam ymlaen.

Ond gall dyn ddim llai na theimlo bod mwy nag hygrededd y Blaid Lafur yng Nghymru yn y fantol fan hyn. Mae’r Senedd ei hun, a’i hymarferion gwaith o dan y chwyddwydr hefyd. Ymhellach, gellid dadlau fod Cymru hithau a’i diwylliant gwleidyddol o dan y chwyddwydr yn dilyn yr holl helynt.

Beth bynnag fydd dyfarniad unrhyw ymchwiliad swyddogol – efallai fod angen i bobl Cymru fynnu yn eu ffordd eu hunain nad yw trin unigolion yn y modd y cafodd Carl Sargeant ei drin yn dderbyniol yn ein gwlad mwyach.

Falle bod angen ymgyrch dorfol i geisio sicrhau gwell cyfiawnder a thegwch i unigolion sy’n darganfod eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg i hyn yn y dyfodol.

Mae’r rhyfel gwallgof hwn rhwng y rhywiau sydd ar garlam bellach a’r cyhuddiadau a’r gwrthgyhuddiadau sy’n codi o ymwneud dynion a merched  gyda’i gilydd yn y man gwaith yn prysur fynd yn bla yn ein cymdeithas.

“Angen canllawiau cadarn”

Mae yna angen cynyddol i sefydlu canllawiau cadarn a thryloyw ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn i’r dyfodol, a thybed yn wir allai Cymru arwain y ffordd gyda hyn er cof am Carl Sargeant.

Go brin y byddai’n ymarferol yn ein diwylliant newyddion 24 awr i beidio ag enwi unigolion o gwbl pan gyfyd digwyddiadau fel hyn yn y man gwaith.

Ond efallai y gellid sefydlu trefn ble bo rhaid i unrhyw gyhuddwr/cyhuddwraig mewn achosion fel hyn dderbyn y byddent hwy yn cael eu henwi yn union yr un modd ag y byddai’r cyhuddedig yn cael ei enwi. Ac y byddai natur unrhyw gyhuddiadau yn cael eu gwneud yn hysbys i’r cyhuddedig mor fuan ag sy’n bosib.

Byddai hynny o leiaf yn sicrhau tryloywder a chyfartaledd o’r cychwn i’r ddwy ochr fel ei gilydd. Gan sicrhau hefyd gobeithio mai dim ond achosion difrifol a fyddai wedyn yn cael eu dwyn gerbron.

Siawns hefyd y dylid ceisio canllawiau sy’n caniatáu i gwynion o’r math gael eu trin mor ddiymdroi ag sy’n bosib, gan osgoi sefyllfaoedd ble fo pobl yn cael eu gwahardd o’u gwaith a  gorfod cicio’u sodlau am wythnosau neu fisoedd yn disgwyl am ddyfarniad.

Pe bai modd cyflwyno newidiadau megis yr uchod yma yng Nghymru, efallai y gwelid rhyw ddaioni’n deillio o un o’r straeon tristaf i ddigwydd yn ein gwlad ers tro byd.

 

 

 

 

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd