Y Brexit Cyntaf a William Salesbury – Ffydd Mewn Iaith

Diweddarwyd am  

Aled Gwyn Job sy’n bwrw golwg ar weledigaeth a phenderfyniad William Salesbury o Lansannan…

MAE’N anodd osgoi’r term Brexit y dyddiau hyn. Mae’n fater sydd yn llwyr ddominyddu’r gofod gwleidyddol ac economaidd presennol ac yn debyg o wneud hynny am beth amser i ddod.

Beth bynnag eich barn am y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd, byddai’r rhan fwyaf yn cytuno mai dyma’r her fwyaf i wynebu Gwledydd Prydain ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945.

Mae ambell sylwebydd wedyn yn awgrymu bod rhaid mynd yn ôl i 1776 i ddarganfod daeargryn gwleidyddol cymharol – pan enillodd America ei rhyddid oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig a’r Ymerodraeth honno wedyn yn colli 30% o’i masnach y flwyddyn ganlynol fel canlyniad i hynny.

Ond tybed yn wir a ellid edrych yn ol ymhellach fyth mewn hanes ar ddigwyddiad cymharol arall sef penderfyniad Harri’r VIII i dorri’r cysylltiad gyda’r Eglwys Babyddol a Rhufain a sefydlu ei hun fel Pen Goruchaf Eglwys Loegr yn 1534. Dyma oedd y Brexit Cyntaf i bob pwrpas.

Yr hyn a gofiwn ni yng Nghymru am y Brexit arbennig hwn yn fwy na dim ydi ei fod wedi arwain mewn llai na dwy flynedd at gyflwyno’r Ddeddf Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a’r cymal enwog hwnnw am y  bwriad i “extirpate” (dileu) yr Iaith Gymraeg yn llwyr.

Gweledigaeth

Ond eto, arweiniodd y Brexit cyntaf hwn hefyd at sefyllfa a fyddai’n gwyrdroi’r cymal hwnnw mewn modd dramatig mewn llai na chenhedlaeth – a hynny’n bennaf oherwydd gweledigaeth a phenderfyniad di-ildio un gŵr arbennig sef William Salesbury o Lansannan.

Ddydd Mawrth,  Hydref 31, mi fydd hi’n Ddiwrnod Diwygiad Ewrop: sef diwrnod i ddathlu 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd a daniwyd gan weithred enwog Martin Luther wrth iddo gyhoeddi ei 95 thesis yn erbyn llygredigaeth Yr Eglwys Babyddol yn 1517.

Ac wrth gofio cynhysgaeth gyfoethog Martin Luther ar gyfandir Ewrop, mae’n briodol iawn inni gofio hefyd am ein Martin Luther ni’n hunain yma yng Nghymru – William Salesbury a’i rôl allweddol wrth gyflwyno syniadau’r Diwygiad Protestannaidd i’n gwlad.

Cyfieithu’r Beibl

Gwr a fanteisiodd ar y Brexit cyntaf a’r holl ansicrwydd gwleidyddol a chrefyddol a ddaeth yn sgil hwnnw er mwyn cyflawni breuddwyd fawr ei fywyd, sef cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ar gyfer pobl Cymru. Roedd hynny yn ei dro wrth gwrs yn fodd i ddiogelu’r iaith am ganrifoedd i ddod.

Roedd William Salesbury yn ddyneiddiwr o fri ac yn bolymath ieithyddol oedd yn gallu siarad wyth iaith sef Cymraeg, Saesneg, Lladin, Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Groeg a Hebraeg. Datblygodd yrfa ddisglair iddo’i hun yn Llundain fel cyfreithiwr gan gyrraedd swydd Dirprwy Dwrnai Cyffredinol yng Nghymru.

Ond er holl ei gyflawniadau proffesiynol, cenhadaeth ysol Salesbury oedd cyflwyno’r Ffydd Brotestannaidd newydd i bobl Cymru a hynny trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.

Eisoes erbyn 1550 roedd wedi llunio’r Geiriadur Cymraeg/Saesneg cyntaf,  cyfieithu darnau o Lyfr Gweddi Cyffredin Thomas Cranmer o dan yr enw ” Kynnifer Llith a Ban”,  a chyhoeddi “Oll synnwyr pen Kembero ynghyd” sef casgliad o ddiarhebion Cymraeg oedd wedi eu casglu ynghyd gan ei gyfaill mawr Gruffydd Hiraethog. Ar ben hynny, roedd hefyd wedi cyhoeddi Llyfr Saesneg “A Brief and Playne Introduction to the British Tongue” er mwyn cyflwyno’r Gymraeg a’i hanes i gynulleidfa addysgedig yn Lloegr.

Treftadaeth

Yn y cyflwyniadau i’r llyfrau hyn oll, canmolai Salesbury iaith a hanes y Cymry gan grybwyll Cyfreithiau Hywel Dda, barddoniaeth Aneirin a Taliesin a thraddodiadau diwylliannol y wlad yn ymestyn yn ol i gyfnod yr hen Frythoniaid. Ac yntau wedi drachtio mor helaeth o ddysgeidiaeth y Dadeni Dysg yn Ewrop a’r pwyslais cyfredol ar ieithoedd hynafol, roedd Salesbury yntau am ddangos fod gan y Cymry hefyd dreftadaeth allai gystadlu gyda’r gorau.

Ond dim ond megis cychwyn pethau oedd y llenydda hyn. Ei weledigaeth fawr oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, gan ddilyn ol-traed William  Tyndale a’i gyfieithiad Saesneg yn 1525 a chyfieithiad Almaeneg Martin Luther yn 1522. Pan ddaeth y syniad hwn iddo gyntaf yn 1547, roedd y rhan fwyaf o’i gyfoedion yn credu mai breuddwyd gwrach oedd hyd yn oed meddwl am y peth. Wedi’r cwbl, ond oedd yna gymaint o ffactorau gwahanol yn milwrio yn ei erbyn?

Heb son am wynebu’r mynydd o geisio perswadio Senedd San Steffan (a oedd newydd basio deddf yn gwahardd y Gymraeg o fywyd cyhoeddus Cymru) i gytuno – roedd Salesbury hefyd yn wynebu dwy garfan yng Nghymru ei hun oedd yn gwbl wrthwynebus i’w syniadau.

Drwgdybus

Y garfan gyntaf oedd y Beirdd Traddodiadol. Ceidwadol iawn oedd y Beirdd yn eu hanfod ac yn amheus iawn o rywun fel Salesbury oedd yn gymaint o arloeswr ac mor agored i ddylanwadau newydd o bob cyfeiriad. Pabyddion oedd y Beirdd wrth gwrs, ac un o’u cyhuddiadau mynych yn erbyn Salesbury oedd ei fod yn hyrwyddo “Ffydd Saeson” fel yr adwaenid Protestaniaeth yng Nghymru ar y pryd.

Roedd y beirdd hefyd yn ddrwgdybus iawn o’r gweisg newydd yr oedd Salesbury mor frwd o’u plaid gan boeni y byddai rheiny’n tanseilio eu gafael nhw ar y gwaith o ofalu am lawysgrifau ac ati a’r monopoli oedd ganddyn nhw o drosglwyddo gwybodaeth i bobl Cymru.

Roedden nhw hefyd yn wrthwynebus  i’r diwylliant Saesneg gyda Salesbury ei hun wrth gwrs yn gwbl gyffyrddus gyda’r Saesneg a’i gweld fel rhan o wead cyfoethog ieithyddol Ewrop. Ac mi roedden nhw hefyd yn hynod feirniadol o’r iaith a ddefnyddiai Salesbury yn ei waith gyda’i arfer o anwybyddu’r treiglad trwynol a’i awydd i ddangos dylanwad Lladin ar y Gymraeg trwy ddefnyddio ffurfiau megis eclisse( eglwys), popul (pobl), Discipulon (disgyblion) a Dew (Duw).

Y Boneddigion

Ond roedd yr ail garfan wrthwynebus yng Nghymru yn fwy fyth o dalcen caled i William Salesbury, sef y Boneddigion, a oedd yn prysur ymgartrefu fel Aelodau Seneddol newydd yn San Steffan ers 1536.

Roedd y rhan fwyaf o’r rhain wedi hen ddechrau Seisnigo hyd yn oed cyn y Ddeddf Uno ac yn credu mai oferedd llwyr oedd meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg o gofio bod y ddeddf honno wedi datgan mai Saesneg oedd iaith swyddogol Cymru bellach.

Doedd ganddyn nhw chwaith ddim diddordeb yn neheuad Salesbury i geisio goleuo’r Cymry cyffredin gan mai eu prif amcan nhw mewn bywyd yn amlach na pheidio oedd ymddyrchafu eu hunain fel rhan o’r gyfundrefn newydd ac adeiladu stadau a chyfoeth iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd.

Ond er ei fod yn cydnabod yr holl rwystrau mewnol ac allanol hyn, ac yn boenus o ymwybodol hefyd o’r holl feirniadu ar yr ieithwedd  a ddefnyddiai, yn ffodus iawn roedd William Salesbury yn ddyn hynod benderfynol. A dim ond miniogi’r natur benderfynol hon wnaeth y ddeddfwriaeth honno a welodd gyflwyno Llyfr Gweddi Cyffredin Saesneg Thomas Cranmer ym mhob eglwys yng Nghymru o 1549 ymlaen.

Anfantais

Teimlai Salesbury fod y werin Gymraeg eisoes o dan anfantais aruthrol wrth orfod gwrando ar wasanaethau eglwysig mewn Lladin, iaith na ddeallent o gwbl. Bellach, roedd yr holl wasanaethau yn cael eu cynnal trwy’r Saesneg- iaith arall nad oedd 90% a mwy o’r Cymry yn ei deall. Pentyrru anwybodaeth ar ben anwybodaeth oedd peth felly yn ei farn ef a’r unig ffordd o fynd i’r afael gyda’r anwybodaeth lethol hon oedd darparu Beibl yn Gymraeg i’r Cymry.

Lansiodd ymgyrch nerthol i’r diben hwn gan bwyso ar ei gysylltiadau a’i gyfeillgarwch gyda nifer o unigolion dylanwadol yn y Senedd a’r Cylch Brenhinol, gan gynnwys Syr William Cecil, Syr Humphrey Llwyd( AS Sir Ddinbych) a Richard Davies a benodwyd yn Esgob Ty Ddewi gan Elizabeth 1af. Ac fe roedd ei gyfeillgarwch gyda’r Cyhoeddwr Humphrey Toy o Lundain( y gŵr a fu’n gyfrifol am argraffu’r Testament Newydd yn y pendraw) hefyd yn gwbl allweddol.

Ac yn rhyfeddol, erbyn 1563 roedd yr holl ymbilio a’r holl ryngweithio dyfal hyn wedi dwyn ffrwyth iddo gyda deddf i ddarparu cyfieithiad o’r Beibl i’r Gymraeg yng Nghymru wedi ei phasio gan Senedd San Steffan.

Gwahoddwyd Salesbury ei hun i ymgymryd yn y gwaith cyfieithu gan yr Esgob Richard Davies yn 1565 ac erbyn diwedd 1567, roedd Beiblau Cymraeg eu hiaith, yn cynnwys Y Llyfr Gweddi Cyffredin a’r Testament Newydd wedi’u gosod ym mhob eglwys yng Nghymru a’r offeiriadaeth yng Nghymru wedi eu gorchymyn i’w defnyddio pob Sul.

Syfrdanol

Rhaid cofio hefyd ei bod yn ofyniad cyfreithiol ar bobl i fynychu’r eglwys pob Sul yn y cyfnod hwn, felly roedd hwn yn ddatblygiad cwbl syfrdanol a gweddnewidiol mewn gwirionedd.

Does dim modd gwybod i sicrwydd pa ddadleuon a ddefnyddiodd Salesbury yn ei gyfarfod tyngedfennol gyda’r frenhines newydd Elizabeth 1af yn nechrau’r 1560au i geisio cymeradwyaeth frenhinol i’r gwaith. Ond mi hoffwn i feddwl bod Salesbury wedi disgyn yn ol ar y priod-ddull Cymraeg hwnnw: ” Os na fydd gryf, bydd gyfrwys”.

Roedd Salesbury wedi deall beth yn union oedd oblygiadau’r Brexit cyntaf. Roedd Prydain wedi cefnu ar yr hen gyswllt traddodiadol gyda Rhufain a’r Babaeth a bellach yn torri ei chwys ei hun yn y byd. Wrth wynebu dyfodol ansicr a gelynion ar bob tu, gwelodd y cyfle i bwysleisio hen draddodiadau Prydain allai gynnig gwaelod a nerth i’r drefn newydd ac wrth gwrs, un o’r traddodiadau hynny oedd y Gymraeg, Deddf Uno neu beidio.

Mae son bod dau o gynorthwywyr personol Elizabeth 1 yn siaradwyr Cymraeg a’i bod hithau wedyn yn gyfarwydd gyda synau’r Gymraeg o oedran cynnar iawn. Mae’n bosib bod Salesbury wedi gallu apelio at rai o’i hatgofion cynharaf a chynhesaf yn ei apêl am Feibl trwy’r Gymraeg.

Ond pryderon crefyddol y cyfnod oedd man gwan y drefn newydd, ac mae’n sicr bod Salesbury wedi defnyddio’i holl gyfrwystra fel cyfreithiwr i fanteisio’n llwyr ar hyn.

Pabyddiaeth dywyll

Gellid ei ddychmygu’n dweud peth fel hyn wrth Elizabeth 1: “Eich Mawrhydi. Does ond ychydig o flynyddoedd ers teyrnasiad Mari Waedlyd ac mae’n gelynion Pabyddol ar waith o hyd heddiw. Yn anffodus, mae Cymru druan dal yng ngafael y Babyddiaeth dywyll hon. Credaf fod yna berig gwirioneddol y bydd ein gelynion Pabyddol yn ceisio ymosod ar eich teyrnas gan ddefnyddio Cymru fel sail ar gyfer gwneud hynny.”

“Anwybodaeth sy’n cynnal yr ymlyniad hwn at Babyddiaeth eich Mawrhydi. Anwybodaeth ac ofergoeliaeth yn unig. Trwy roi’r Beibl i’r Cymry yn eu hiaith eu hunain, gallent ddianc rhag yr anwybodaeth a’r ofergoeliaeth hwn o’r diwedd a dysgu cofleidio’r ffydd Brotestannaidd a’r drefn newydd yr ydych chi yn ei harwain”.

A phe bai Elizabeth 1af wedi atgoffa Salesbury am y cymal hwnnw am ddileu’r iaith Gymraeg yn y Ddeddf Uno a gyflwynwyd gan ei thad cenhedlaeth ynghynt, gallwn ddychmygu’r Salesbury hirben yn awgrymu wrthi hefyd y gellid cyflwyno Beiblau Saesneg ochr yn ochr gyda’r Beiblau Cymraeg yn yr eglwysi, ac y byddai hynny’n fodd i alluogi’r Cymry i ddysgu Saesneg hefyd maes o law.

Mae’n debyg bod Salesbury wedi llwyr fwriadu cwblhau gorchymyn Deddf 1563 trwy fynd ymlaen i gyfieithu’r Hen Destament hefyd ac yn wir, roedd wedi cychwyn ar y gwaith hwnnw. Ond bu colli ei wraig Catrin a’i fab Elisau o fewn dwy flynedd i’w gilydd yn ergyd drom iddo ac fe roddodd y gorau iddi- gyda’r gwaith wedyn yn cael ei gwblhau gan yr Esgob William Morgan yn 1588.

Achub y Gymraeg

Mae ysgolheigion cyfoes yn gytûn mai’r elfen gyffredin sy’n perthyn i ieithoedd Ewrop sy’n parhau i gael eu siarad fel ieithoedd byw heddiw yw eu bod wedi derbyn y Beibl yn eu hiaith eu hunain cyn 1600. Does dim amheuaeth felly bod William Salesbury, wrth gyfieithu’r Testament Newydd yn 1567 a gosod y seiliau a ddilynwyd wedyn gan yr Esgob William Morgan yn 1588, wedi llwyddo i achub y Gymraeg trwy gyfrwng ei ymdrechion a’i ffydd.

Ond, faint ohonom sydd yn llwyr werthfawrogi ei gynhysgaeth ieithyddol helaeth i ddatblygiad y Gymraeg fel iaith? Dyma rai enghreifftiau o’r holl eiriau Cymraeg newydd a fathwyd gan Salesbury ar gyfer ei Destament Newydd: Afieithus, Anghenus, Anghofio, Amheus, Anadlu, Anffortunus, Anwybodaeth, Anghrediniaeth, Anghytuno, Amhosib, Anerchiad, Argyhoeddi, Aruthrol, Ariangar.

Geiriau sydd mor gyfarwydd ac mor naturiol yn ein hiaith hyd heddiw. A dim ond geiriau’n cychwyn gydag A yw’r rheiny!

Salesbury hefyd a gyflwynodd y ffurfiau Ei, Ein, ac Eich i’r Gymraeg( o’r ffurf Deius yn Lladin) a’r ffurf Mai( i’w wahaniaethu rhwng hynny a Mae).

Dyled

Mae’n ddyled iddo fel cenedl yn anfesuradwy a phriodol iawn felly bydd cofio amdano a’i gymwynasau crefyddol ac ieithyddol i Gymru ar Ddiwrnod Dathlu’r Diwygiad Protestanaidd ar Hydref 31ain.

Byddai’n wir i ddweud mai och a gwae yw hi gan fwyaf yn y Gymru Gymraeg gyfoes wrth ystyried y Brexit presennol a’r rhan fwyaf o ddigon yn darogan y bydd y digwyddiad hwn yn berygl einioes i Gymru a’r Gymraeg ei hun.

Ond pan ddigwyddodd y Brexit cyntaf, gwelodd William Salesbury ei fod yn cynnig cyfle newydd i’r Gymraeg gan fod rhaid i Brydain bwyso ar ei threftadaeth hynafol fel amddiffynfa- a beth oedd yn fwy hynafol fel rhan o’r dreftadaeth honno na’r Gymraeg?

Tybed yn wir allai’r Brexit presennol ddilyn trywydd digon tebyg. Hynny ydi, wrth ddisgyn yn ol ar adnoddau Ynys Prydain wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, tybed oes cyfle o’r newydd i gyflwyno rhan bwysig o dreftadaeth Prydain i bobl- sef bodolaeth y Gymraeg fel rhan allweddol o ddatblygiad yr ynysoedd hyn ar hyd y canrifoedd, a’r ysbrydolrwydd hwnnw sydd wastad wedi cyd-gerdded gyda’r iaith o’r cychwyn cyntaf..

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd