BLOG: Cecru Conwy yn codi cwestiynau

Diweddarwyd  


Mae stori Gareth Jones yn dweud cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru, meddai Aled G Job…

ROEDD y ffrae ynghylch pwy allai eistedd ar Gabinet Cyngor Conwy yr wythnos hon yn dweud cyfrolau am y ddeinameg wleidyddol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Roedd y cyn-Aelod Cynulliad, Gareth Jones, yn gobeithio arwain clymblaid yn enw Plaid Cymru i redeg Cyngor Conwy a fyddai’n cynnwys aelodau Ceidwadol a’r Annibynnol.

Ond, fe benderfynodd Swyddfa Ganolog Plaid Cymru rwystro hyn rhag digwydd gan nad oedden nhw am weld Plaid Cymru yn cael eu gweld yn cyd-weithio gyda’r Ceidwadwyr yng Nghymru ar unrhyw gyfrif.

Bellach mae Gareth Jones a Liz Roberts wedi ymddiswyddo o Blaid Cymru er mwyn galluogi’r trefniant Cabinet i fynd yn ei flaen o dan arweinyddiaeth Annibynnol, a grwp Plaid Cymru ar y Cyngor bellach i lawr i wyth aelod.

Niweidiol

Barn arweinyddiaeth Plaid Cymru oedd y byddai cysylltiad gyda’r Ceidwadwyr yn niweidiol i ddelwedd y blaid ac i’w gobeithion etholiadol pe bai etholiad arall yn cael ei alw eleni. Mae’r farn hon yn ddealladwy iawn. Wedi’r cwbwl, mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi gosod ei stondin bersonol gwrth-dorïaidd a gwrth-lymder allan yn berffaith amlwg i bawb.

A gyda’r ymchwydd mawr diweddar o blaid Llafur yng Nghymru, a fu’n rhannol gyfrifol am sicrhau nad oes gan y Ceidwadwyr fwyafrif seneddol yn San Steffan, mae yna ystyr arall i’r ‘Wal Goch Gymreig’ erbyn hyn y tu hwnt i lwyddiannau’r tim pel-droed cenedlaethol yn yr Ewros llynedd.

Mae’n amlwg bod y momentwm hwn o blaid Llafur yng Nghymru (boed hynny’n bennaf trwy ymdrechion Carwyn Jones neu/a thrwy boblogrwydd Jeremy Corbyn) wedi chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniad Plaid Cymru yn ganolog. Mae’n fodd i gynnal y syniad poblogaidd mai gwlad y chwith ydi Cymru, a bod Plaid Cymru hithau ar ochr iawn y ddadl foesol hon yn wleidyddol.

Ac os digwydd etholiad arall yn yr hydref, mae’n hawdd gweld sut y byddai’r Blaid Lafur Gymreig yn defnyddio unrhyw gysylltiad hwn gyda’r Torïaid fel pastwn cyfleus iawn i golbio Plaid Cymru mewn etholaethau fel Arfon, Ceredigion a Chaerfyrddin, a chryfhau eu neges mai nhw yw gwir blaid genedlaethol Cymru bellach.

Colled

Bu Gareth Jones yn Aelod Cynulliad arbennig dros Plaid Cymru, ac wrth gwrs mi roedd ennill Aberconwy dros y Blaid yn y lle cyntaf yn andros o gamp ynddo’i hun. Mae’r ffaith ei fod o wedi gorfod ymddiswyddo yn golled fawr i’r Blaid ac yn loes calon i nifer fawr o’r selogion sy’n gwybod yn iawn am gyfraniad nodedig y gwr o Landudno dros lawer o flynyddoedd.

Ond realpolitik ydi realpolitik yn enwedig yn yr amgylchiadau sydd ohoni. Yn llawer trech na record Gareth Jones dros y blynyddoedd ac yn drech hefyd na’r weledigaeth oedd ganddo ar gyfer llywio’r dyfodol i Gonwy gyda chabinet o dan arweiniad Plaid Cymru.

Mae’r hanes yn codi nifer o gwestiynau pwysig ynghylch cydnabod dewisiadau pobol ar lefel leol a chenedlaethol. Rhaid cofio bod miloedd o Gymry wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol yn Sir Conwy y mis diwethaf am amryfal resymau.

Mae yna beryg bod dogma bleidiol sy’n dweud bod y Ceidwadwyr fel math o wahanglwyfion gwleidyddol nad oes dichon gwneud yr un dim â nhw, yn fodd i baentio llawer iawn o unigolion gwahanol trwy Sir Conwy gyda’r un brwsh.

Ydi hi’n wir i ddweud fod pob un o’r rhain yn llwyr gymeradwyo holl bolisiau’r Ceidwadwyr yn San Steffan? Ydi hi’n bosib o gwbwl bod yna ganran go lew ohonynt, yn hytrach, wedi pleidleisio dros ymgeisydd yr oeddan nhw’n ei adnabod yn bersonol ac yn credu ei fod wedi gwneud tro da o waith dros eu cymuned ar y cyngor sir dros y pedair blynedd diwethaf?

Pleidiau amherthnasol

Rhaid cofio hefyd bod y ganran o bobol sy’n perthyn i bleidiau gwleidyddol yng Ngwledydd Prydain yn bitw bach erbyn hyn er cymaint yr ymchwydd ifanc o blaid Jeremy Corbyn yn yr etholiad – sef tua 5%. Mi fydd llawer iawn o’r bobl sydd y tu hwnt i’r bybyl bach gwleidyddol hwn yn methu deall pam nad yw pleidiau yn gallu cyd-weithio gyda’i gilydd ar lefel leol, yn enwedig o feddwl am yr heriau ariannol anferthol sy’n wynebu cynghorau lleol yn wyneb y toriadau o San Steffan.

Onid oes rhaid cydweithio ar lefel cynghorau lleol er mwyn delio gyda’r sefylllfa hon?

Mae yna gwestiynau’n codi ar lefel genedlaethol hefyd. Mae gan y Ceidwadwyr bleidlais graidd o tua 25% yng Nghymru. Os ydi Cymru fyth am weld llywodraeth genedlaethol sy’n rhydd rhag y Blaid Lafur sydd wedi rheoli Cymru ers 1999,  ac wedi methu ein gwlad mewn cymaint o ffyrdd gwahanol dros cyfnod hwn, mae’n ymddangos mai’r unig opsiwn arall ydi gweld ryw fath o ddealltwriaeth rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr – yn enwedig o gofio fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi chwythu’u plwc yng Nghymru bellach.

Anathema i lawer, mi wn. Ond o ran lles democratiaeth Gymreig yn unig, siawns y byddai’n llesol i Lafur fod mewn gwrthblaid rhywbryd er mwyn iddyn nhw gael ail-ddiffinio eu hunain a meddwl am syniadau newydd i’r dyfodol.

Dydi bod mewn grym yn ddi-dor am gymaint o flynyddoedd ddim yn llesol iddyn nhw, i’r pleidiau eraill na’r etholwyr chwaith. Does ryfedd bod cymaint o bobol yng Nghymru wedi eu dieithrio o’r broses wleidyddol yma o weld Llafur yn eistedd fel math o lyffant di-symud ar ein bywyd cenedlaethol.

Ceidwadwyr mwy Cymreig?

Fel ymateb i hyn, tybed a fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio datblygu agenda fwy Cymreig yn y dyfodol,fel yr awgrymodd yr Aelod Cynulliad, Darren Millar, yn dilyn yr etholiad diweddar.

Ar hyn o bryd, mae’n anodd dychmygu’r Blaid yn dianc rhag ei hymlyniad greddfol at yr Undeb Brydeinig o gofio bod hwnnw cymaint rhan ohonynt a’u byd-olwg cyffredinol. Ac wrth gwrs, byddai’r amheuaeth ddofn ohonynt fel plaid sydd wedi’i hen blannu yma yng Nghymru yn dilyn eu hanes yn ein gwlad dros y blynyddoedd wastad yn groes y bydd rhaid iddyn nhw ei gario.

Ond o gofio traddodiad y chwith yma yng Nghymru, neu’r traddodiad llafur a rhoi ei enw cywir arno, rhaid cydnabod hefyd bod traddodiad ceidwadol gydag ‘g’ fach yn bodoli yma hefyd  a gwreiddiau yr un mor wydn ganddo.

Trefn newydd

Gyda dyfodiad system bleidleisio newydd i etholiadau’r Cynulliad yn 2020, a allai gyflwyno trefn STV (a fyddai’n golygu y byddai pob un pleidlais yn cyfrif), mae’n bosib y gellid gweld pleidiau cwbwl newydd yn ymffurfio ar gyfer hwnnw.

Tybed a fyddai plaid led-geidwadol, wirioneddol Gymreig, yn gallu ymddangos o’r newydd i geisio manteisio ar y tradddodiad hwn? Plaid heb unrhyw baggage o’r gorffennol, yn gwbwl rydd o’r Blaid Geidwadol Brydeinig. Plaid a fyddai’n gosod pwyslais ar bwysigrwydd y teulu, rhwydweithiau cymunedol, traddodiad a threftadaeth, hunan-ddibyniaeth ac entrepreneuriaeth, ac economi lewyrchus.

Mae pleidiau o’r math hwn i’w gweld ym mhob gwlad dan haul, gan gynnwys llawer iawn o wledydd bychain tebyg i Gymru. Byddai unrhyw ddatblygiad i’r cyfeiriad hwn yn gallu ychwanegu at bliwraliaeth a democratiaeth yng Nghymru.

Bydd stori Conwy a’i holl oblygiadau i Gymru yn rhedeg am beth amser eto, yn siwr.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd