BLOG: Califfornia mewn dagrau, America mewn sioc

Diweddarwyd  


Drannoeth y drin, a dw i yn Santa Monica, Califfornia, lle cymerais fy sedd yn nhafarn yr Independent yn reit fuan neithiwr er mwyn i mi gael gwylio’r canlyniadau. Yn fuan iawn yn y noson, roedd hi’n glir dros ben bod yr etholiad yma am fod yn un heriol i Hillary Clinton.

Roedd Donald Trump ar y blaen yn eitha’ cynnar, ac roedd hynny’n syndod mawr mewn lle fel Fflorida. O hynny ymlaen, roedd hi’n amlwg fod y rhan helaeth o’r ardaloedd allweddol yn mynd i fod yn agos iawn… ond fod Trump ar y blaen yn y rhan fwya’ o’r ardaloedd allweddol!

Mi ges i sgwrs efo nifer o bobol Califfornia neithiwr, rhai mewn dagrau yn gweld y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi. Er bod Califfornia yn sedd ddiogel i’r Democratiaid, roedd rhai wedi gobeithio y byddai Bernie Sanders wedi cipio’r enwebiad yn hytrach na Hillary Clinton.

Roedd rhai yn methu pleidleisio i Hillary, ac oherwydd hynny roedden nhw wedi bwrw croes tros ymgeisydd trydydd parti. Dw i’n credu bod hyn wedi bod yn ffactor mawr yn yr etholiad yma: mi fyddai Hillary Clinton wedi ennill Fflorida pe bai pob Democrat wedi pleidleisio iddi. Ac mae’r un peth yn wir am Pennsylvania a nifer o daleithiau allweddol eraill.

Mae un peth yn sicr, dydi’r polau piniwn ddim yn gywir o gwbwl. Roedd bron pob gwasanaeth newyddion wedi rhagweld buddugoliaeth i Hillary Clinton, a dw i’n meddwl bod ei thîm hi ei hun yn eitha’ hyderus hefyd. Roedden nhw wedi datgan yn fuan neithiwr bod Fflorida “yn ddiogel”.

Brifo 

Yn dilyn y canlyniad, mi wrthododd Hillary Clinton roi araith yn derbyn y golled. Yn amlwg, mae’r holl ymgyrchu dros ddwy flynedd wedi bod yn straen arni hi ac ar Donald Trump – ond mae colli’r fath etholiad yn golygu llawer mwy i Clinton nac i Trump. Mae hi wedi treulio 30 mlynedd mewn uchel-swyddi o fewn y llywodraeth a’r Ty Gwyn, ac mae’n embaras mawr.

Mae America a’r byd wedi bod yn ffodus o gael arweinydd mor gadarn a ysbrodoledig â Barack Obama am wyth mlynedd, ac mae wedi arwain America drwy gyfnod heriol gyda’r economi,  wedi arwain yn yr ymdrech i ddod ag Osama Bin Laden a’i ddilynwyr o flaen eu gwel, yn ogystal â bod yn arweinydd y mae’r byd, yn enwedig gwledydd Prydain, yn ei barchu.

Ond, fel y soniais yn y blogiau diwetha’, mae un mater, sef Obamacare wedi bod yn broblem enfawr i bobol America, ac yn fater y mae’r Arlywydd wedi gorfod ei amddiffyn drosodd a thro. Cofiwch, mae’n rhywbeth yr oedd o’n falch iawn ohono, ac roedd datblygu’r cynllun yma yn rhan o’r hyn yr oedd o am ei adael ar ei ôl.

Mae Donald Trump wedi addo cael gwared o’r cynllun yma.

Be’ nesa’?

Ymysg y pethau eraill y mae Mr Trump wedi addo eu cyflawni, y mae wal ar hyd y ffin â Mecsico. Ac atal Mwslimiaid rhag cael mynediad i’r wlad nes y bydd problem Isis wedi ei ddatrys. Pryd bynnag y bydd hynny. Ond mae’n gwestiwn a fydd o’n bwrw ymlaen gyda’r fath syniadau yn mis Ionawr pan fydd o’n cael ei urddo i’r swydd.

Mae ganddo fwyafrif yn y Senedd, sydd yn golygu ei fod yn gallu symud ymlaen yn eitha’ rhwydd gyda’i syniadau, ond mi fydd hi’n ddiddorol gweld pa fath o berthynas fydd ganddo gydag aelodau’r Senedd; ac â Paul Ryan, y Gweriniaethwr a wrthododd gefnogi Trump yn ystod ei ymgyrch.

Mae America wedi dychryn, ond mae’r byd hefyd wedi’i ysgyd. Roedd y syniad y gallai Donald Trump ennill y ras yma yn un chwerthinllyd i bawb, yn ffantasi llwyr, ond mae o wedi’i gwneud hi, a fo fydd 45ed Arlywydd Unol Daleithiau America.

Mae’r farchnad stoc wedi disgyn yn sylweddol dros nos, ac mae yno ymateb cymysg gan arweinwyr y byd i’w lwyddiant.

Mi fydd y cyfnod pontio yn un anodd iawn, ac mi fydd yn rhaid i Barack Obama a Donald Trump gydweithio er mwyn gofalu bod y trosglwyddiad o un weinyddiaeth i’r llall yn un esmwyth. Dim ond disgwyl i weld be’ fydd yn digwydd nesa’, ond doedd neb wedi rhagweld y canlyniad yma, ac mae pawb yn dal i fod mewn sioc.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd