RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Gynnau yn fater o bwys i etholwyr Efrog Newydd


Does ddim cuddio oddi wrth yr hysbysebion negyddol rhwng y ddau ymgeisydd sy’n trio dod yn Arlywydd nesa’ yr Unol Daleithiau. Os faswn i wedi gwneud yr hyn mae’r rhain yn ei wneud yn ystod fy ymgyrch i ar gyfer y Cynulliad eleni, mi fyddai yna achos cyfreithiol yn fy erbyn!

Connolly’s Bar, fy hoff dafarn yn y byd, sydd reit wrth ymyl Times Square. Es i draw yno neithiwr, ac roedd y Gymdeithas Reiffl Genedlaethol yn rhedeg hysbyseb yn erbyn Hillary Clinton, yn dweud eu bod hi eisiau addasu Cyfansoddiad y wlad a chael gwared ar yr hawl i gario arfau.

Mae’r NRA wedi bod yn gefnogol i’r blaid Weriniaethol ers degawdau oherwydd eu hymrwymiad tuag at cadw’r ail ddiwygiad fel ag y mae, a chadw hawl y bobol i gael mynediad at arfau yn rhwydd.

Yn ystod ei ddau dymor, mi drïodd Barack Obama gael mwy o drwyddedu a rheolaeth dros pwy sydd yn gallu cael gafael ar arfau, ond lwyddodd o ddim oherwydd mwyafrif y Republicans yn Senedd America. A ydi’r Americanwyr yn falch go iawn o’r ‘hawl i gadw arfau’? Neu ai anfodlon addasu’r Cyfansoddiad y maen nhw?

Yn yr Afal Mawr, mi gwrddais â Casey, Rachel a Felicity, a’r tri yn gefnogol i Hillary Clinton, ond dydi hynny ddim llawer o syndod oherwydd bod Efrog Newydd yn ardal diogel i’r Democratiaid.

Roedd Rachel a Casey o’r farn bod angen mwy o reolaeth dros arfau, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu addasu’r Cyfansoddiad. Mae’r syniad fod pobol yn fwy diogel os oes ganddyn nhw arf, yn “hurt” ym meddyliau’r rhain. Mae Felicity o’r farn bod modd osgoi y nifer uchel sydd yn cael eu lladd gan ynnau, ac mae hi’n credu bod yr achosion o lofruddiaeth mewn ysgolion yn rhywbeth sy’n rhaid ei daclo, trwy well trwyddedu a rheolaeth.

Mae Felicity hefyd yn sônbod yna broblem enfawr ym maes iechyd yn America, a bod ‘Obamacare’ wedi bod yn shambls a bod angen sgrapio’r cynllun – rhywbeth y mae Donald Trump wedi addo’i wneud pe bai’n cyrraedd y Ty Gwyn. Ond dydi safbwynt Donald Trump ar y mater ddim am newid sut y bydd Felicity’n pleidleisio.

Mae Hillary yn ddigon saff o’r bleidlais yn Efrog Newydd.

Mae’r poliau yn agos, mae ABC wedi adrodd yn ddiweddar bod Trump ar y blaen mewn rhai ardaloedd allweddol, ond mae’r farn yn newid pob dydd. Nid yw’r daith ar ei ben eto, ac mae’r ddau angen gweithio’n galed i sicrhau’r ardaloedd allweddol.

Teithio nesaf i ble fydd yr arlywydd nesaf yn teithio, byw a gweithio. – Washington DC.