Dychmygwch Gaza…

Diweddarwyd am  

Mererid Mair Williams sy’n dychmygu sut fyddai pethau, petai Gaza ym Mhen Llŷn

“Dychmygwch fyw ym Mhen Llŷn, nid fel un o 26,000 ond fel un o 1.8 miliwn. Dychmygwch nad oes modd gadael Pen Llŷn, dim ond drwy ‘checkpoint’ yn Llanllyfni. Dychmygwch orfod aros yn Llanllyfni am ddyddiau yn disgwyl i filwyr ganiatau i chi fynd drwy’r checkpoint.”

Dyma ofynnodd Branwen Niclas i bawb oedd mewn cyfarfod i gofio Gaza fel rhan o Wyl Arall, Caernarfon ei wneud yr wythnos diwethaf. Cefais fy hun yn sefyll yn y glaw mân yng ngardd Pals Print yn gwrando ar Steve Eaves ac Angharad Tomos yn son am yr Apartheid amlwg sy’n digwydd yn Israel/Palesteina. Cefais fy hun yn methu amgyffred poen Rania oedd yn rhannu ei phrofiad o fod yn Balestiniad sydd wedi symud i Brydain.

A cefais fy hun yn dychmygu o ddifri brofiad Palestiniaid heddiw:

Dychymygwch fod Pen Llŷn wedi ei hamgylchynu gan fur sydd mewn manau yn 8 metr o uchder. Dychmygwch eich bod yn ffermwr orennau neu olewydd â thunnelli o gynnyrch yn barod i’w gwerthu ar ôl y cynhaeaf, ond nid oes gennych hawl iddynt adael Pen Llŷn, felly maent i gyd yn pydru – yn arwydd o’ch methiant i gynnal eich teulu.

Dychmygwch fod priffyrdd llydan gwag na chewch deithio arnynt oherwydd eich hil. Dychmygwch fod ysbytai glan modern ychydig filltiroedd i ffwrdd na chewch driniaeth ynddynt oherwydd eich hil.

Dychmygwch fod aelodau eraill o’ch hil yn byw ym Mhowys ond mae bron yn amhosib cael caniatad i ymweld â nhw. Dychmygwch fod hil arall wedi cymryd drosodd weddill Cymru gan ddweud fod yn rhaid i’r Cymry oedd yma aros yn Mhen Llŷn neu Bowys, er fod teuluoedd wedi ffermio a magu teuluoedd a byw ym mhob rhan o Gymru tan y 1940au.

Dychmygwch nad oes gennych hawl i deithio i Fôn neu Fangor, i Abertawe neu Sir Benfro, i Wrecsam neu Aberteifi.

Ac yna…

Ac yna dychmygwch eich bod ym Mhen Llŷn pan mae un o rymoedd mwyaf militaraidd yr ardal yn dechrau ymgyrch yn erbyn y llain o dir yr ydych yn byw ynddi. Maent yn ymateb i rocedi sy’n cael eu tanio o’r llain o dir – rocedi nad ydych chi na’r un aelod o’ch teulu yn eu tanio.

Dychmygwch fythefnos o glywed F16’s ac awyrenau di-beilot yn hedfan uwchben ac yn gollwng bomiau a tanio rocedi. Dychmygwch glywed swn gwaeddi ag ofn eich plant yn eich clustiau yn barahus. Dychmygwch y teimlad o beidio allu gwarchod eich plant.

Dychmygwch fomiau yn chwalu Pwllheli, yn dinistrio Aberdaron ac Abersoch. Dymchmygwch yr holl dai yn Morfa Nefyn yn diflannu dros nos. Dychmygwch degau o filoedd o bobl – y mwyafrif yn blant a phobl ifanc yn dianc i Fotwnog i geisio lloches; lloches sydd ddim ar gael.

Dychmygwch afael yng nhorff eich merch neu eich mab ar ôl i shell daro eich cartref a’i chwalu’n ufflon. Dychmygwch fod teuluoedd cyfan yn cael eu lladd dros nos wrth iddynt gysgu yn eu gwlau. Teulu y Joneses, y Roberts, y Davieses, yr Huwsus.

Dychmygwch fod Ysbyty Bryn Beryl yn orlawn o bobl a phlant wedi eu hanafu a meddygon yn gweithio rownd y cloc heb offer a defnyddiau anghenrheidiol. Dychmygwch Ysbyty Bryn Beryl yn cael ei bomio am yr honnir fod terfysgwyr yn yr adeilad drws nesaf.

Dychmygwch gymuned rhyngwladol y byd yn anwybyddu’r sefyllfa yr ydych ynddi. Dychmygwch arweinywr y byd yn gwrthod condemnio’r weithred farbaraidd hon yn erbyn eich teulu, eich pentref, yn erbyn Pen Llyn, yn erbyn Cymru. Dychmygwch fod cyfryngau’r byd yn un ochrog gan fynnu fod gan y grym militaraidd sydd wedi gwasgu Cymru ers y 1940au yr hawl i ‘amddiffyn ei hun’.

Dychmygwch geisio egluro fod y sefyllfa hon wedi bod yn cyniwair ers 67 mlynnedd o ganlyniad i’r apartheid yr ydych yn ei ddioddef bob eiliad o bob dydd o bob wythnos o bob mis o bob blwyddyn. Sefyllfa sydd heb y bomio yn cael dim sylw o gwbwl.

Dim ond dychmygu sydd raid i ni ei wneud. I 1.8 miliwn o drigolion Gaza, dyma yw realiti.

A’r realiti…

Daw realiti Gaza yn i’r amlwg i’r byd pan fydd sefyllfa o argyfwng yn codi yno. Byddwn yn condemnio ac yn codi arian ac yn galw am heddwch.

Mae’n amlwg nad yw hyn yn ddigon da. Heb fynd i ymrafael â gwir sefyllfa’r Palestiniaid a galw am ddiwedd i’r Apartheid sydd yn eu heffeithio yn eu tir eu hunain – yna bydd yr hyn a welwn yn Gaza heddiw yn parhau i ddigwydd am ddegawdau. Daw diwedd i’r bomio presenol ond nid oes gobaith am ddiwedd i’r apartheid yno am ein bod mor dawedog ynglyn â’r anghyfiawnder sy’n effeithio’r Palestiniaid yn Israel.

Chwaraeodd protestiadau gwrth-apartheid yr 1980au ran bwysig yn dod ag apartheid i ben yn Ne Affrica, onid ydy’r amser wedi dod am ymgyrch gwrth-apartheid rhyngwladol i Israel/Palesteina? Heb gyfiawnder nid yw heddwch yn bosib. Gorffennaf gyda dyfyniad gan Nelson Mandela o araith ddraddododd yn Pretoria ar Ragfyr 4ydd 1997 – diwrnod rhyngwladol sefyll ochr yn ochr â’r Palestiniaid:

“I have come to join you today to add our own voice to the universal call for Palestinian self-determination and statehood. We would be beneath our own reason for existence as government and as a nation, if the resolution of the problems of the Middle East did not feature prominently on our agenda.When in 1977, the United Nations passed the resolution inaugurating the International Day of Solidarity with the Palestinian people, it was asserting the recognition that injustice and gross human rights violations were being perpetrated in Palestine. In the same period, the UN took a strong stand against apartheid; and over the years, an international consensus was built, which helped to bring an end to this iniquitous system. We know too well that our freedom is incomplete without the freedom of the Palestinians..”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd