RSS

Golwg360

MwyCau 

Cyflwr Cymru – dylanwad datganoli?

Cyhoeddwyd Medi 19, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Datganoli, Huw Edwards, Iwan England, refferendwm


Huw Edwards (Llun: S4C)
Ugain mlynedd ers refferendwm 1997, bu’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr Iwan England ar daith gyda’r cyflwynydd Huw Edwards i gasglu barn a thrafod profiadau pobol Cymru …

Ugain mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn y tywyllwch mewn stafell anghyfarwydd yn gwylio’r teledu. Hon oedd fy noson gyntaf yn rhannu tŷ gyda saith o fyfyrwyr eraill. Roeddwn i eisoes wedi bwrw fy mhleidlais y bore hwnnw, ac wedi manteisio’n llawn ar gynnig £1 y peint ym mar yr undeb.

Roedd y manylion hyn, a chyffro rhyfeddol noson Medi 18, 1997, bron yn angof tan i mi eistedd i lawr a gwylio tapiau archif o ganlyniadau Refferendwm Datganoli Cymru. Mae’n anodd credu pa mor agos oedd y bleidlais i sefydlu’r Cynulliad. Ar raglen Saesneg y BBC, roedd Peter Snow wedi darogan taw ‘Na’ fyddai’n ennill, hanner awr yn unig cyn canlyniad tyngedfennol Caerfyrddin.

Roedd hi’n drawiadol sylwi faint o’r pynciau llosg a drafodwyd yn y stiwdio’r noson honno sydd yr un mor berthnasol heddiw: diffyg trafodaeth ar faterion Cymreig yn y cyfryngau; amheuaeth o’r de ymysg y gogs, ac o’r gogledd ymysg yr hwntws; a phroblemau economaidd enbyd mewn rhannau helaeth o’r wlad. Felly oes unrhyw beth wedi newid ers y noson dyngedfennol honno? Ydy Cymru’n cael ei llywodraethu’n well neu’n waeth?

Yr her osodom i ni ein hunain fel criw cynhyrchu oedd ceisio mesur cyflwr Cymru heddiw; gorchwyl oedd yn ymylu ar yr amhosib mewn cwta awr o deledu o ystyried popeth mae’r Cynulliad yn dylanwadu arno. Felly dyma benderfynu canolbwyntio ar dri o’r meysydd sy’n ysgogi’r drafodaeth fwyaf – addysg, iechyd a’r economi. Fe aethom ati i chwilio am unigolion oedd yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd arbenigol a’u cymunedau. Pobol fyddai’n barod i ddweud yn onest a ydy’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn gwneud gwahaniaeth?

Wrth baratoi a chynnal sgyrsiau anffurfiol, y syndod mwyaf oedd bod pobol yn cyfeirio at lond llaw yn unig o ddeddfau wrth fesur llwyddiannau datganoli. Mae’r deddfau sy’n ymwneud â smygu, codi pris ar fagiau plastig a rhoi organau wedi dal dychymyg y cyhoedd. Ond prin iawn yw’r ymwybyddiaeth o union bwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad, nac o ddeddfau mwy ‘cynnil’.

Unwaith i ni ddechrau ar ein taith o amgylch y wlad, roedd pethau’n wahanol – roedd gan bawb farn glir am effaith datganoli ar eu sector arbennig nhw. Tra bod dadleuon 1997 wedi rhannu’r wlad 50/50 yn rheini o blaid ac yn erbyn datganoli, mae pethau’n fwy cymhleth ac yn fwy diddorol erbyn hyn. Roedd sawl person yn feirniadol iawn o ddiffygion mewn meysydd penodol, ond roedden nhw’n gefnogol o fodolaeth y Cynulliad ac o syniad creiddiol datganoli.

Roedd sylwadau cefnogol gan rai fel gweithwyr dur Tata ym Mhort Talbot, er enghraifft, yn agoriad llygad go iawn. O gofio pa mor wenwynig oedd y drafodaeth ynghylch y syniad o ddatganoli dim ond dau ddegawd yn ôl, mae’r newid yn arwyddocaol.

Huw Edwards: Datganoli 20: Nos Fawrth, Medi 19 am 9.30, S4C

BLOG: Gall ‘ARFOR’ roi bywyd newydd i’r Gorllewin

Cyhoeddwyd Awst 16, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Aled G Jôb, Arfor, awdurdod, blog, y gorllewin cymraeg


Adam Price (Llun: Plaid Cymru)
Siom cherw i lawer oedd gweld cynghorwyr lleol yn pleidleisio o blaid Cynllun Datblygu Mon a Gwynedd yn ddiweddar, a fydd yn gweld codi miloedd o dai newydd yn y siroedd hyn dros y blynyddoedd nesaf.

Serch hynny, mae’n ymddangos bod yr adwaith cyhoeddus ffyrnig i’r cynllun datblygu wedi sbarduno syniadau newydd a radical- ac mae hynny’n sicr i’w groesawu’n fawr.

Mae Adam Price, AC Plaid Cymru Dinefwr,  bellach wedi ail-gyflwyno ei syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) – gyda chefnogaeth Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian.

Byddai awdurdod o’r fath yn gyfrifol am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd ar draws siroedd y Gorllewin. Byddai rhychwant ei ddyletswyddau hefyd yn cynnwys elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Mae’r syniad yn hynod o amserol gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu tri rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd, defnydd tir a thrafnidiaeth cyn hir, sef Gogledd Cymru, Canolbarth a De Orllewin Cymru a’r De Ddwyrain.

Cynhyrfus

Gan fod yr ad-drefnu hwn yn yr arfaeth beth bynnag, mae syniad ARFOR yn gynnig cynhyrfus a phell-gyrhaeddol sy’n haeddu derbyn ystyriaeth deilwng gan y Llywodraeth, yn enwedig o gofio eu bod newydd gyhoeddi eu cynlluniau i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bid siwr, bydd rhai yn dadlau bod elfen ymrannus am y syniad ac y byddai’n effeithio ar Gymreictod gweddill Cymru- adlais o’r hen ddadleuon a wyntyllwyd yn ystod y saithdegau wrth gwrs. Ond y gwir amdani ydi bod y syniad o Gymru fel endid daearyddol llawer cryfach bellach a’r hunaniaeth Gymreig ei hun hefyd yn llawer sicrach na’r hyn a fodolai yn y saithdegau.

Mae’r synnwyr o berthyn i Gymru yn ddigon gwydn erbyn hyn i allu ymdopi gyda’r ffaith ddiymwad fod Cymru’n wlad amrywiol, a bod angen atebion gwahanol ar gyfer rhannau gwahanol o’n gwlad erbyn hyn.

Byddai gwireddu ARFOR hefyd yn fodd o ddaearu bwriad y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn syniad cwbwl ddiriaethol: sef dyrchafu’r Gymraeg yn brif iaith cyhoeddus mewn talp o dir ble mae’r Gymraeg yn parhau’n iaith bob dydd i drwch y bobol sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.

Y peryg

Y peryg efo strategaeth y Llywodraeth fel mae’n sefyll ydi ei bod yn rhagdybio’n hygoelus y bydd modd cynhyrchu’r holl siaradwyr Cymraeg newydd hyn trwy’r system addysg a thrwy greu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ond mae holl dystiolaeth y blynyddoedd diwethaf yn dangos mai tua 10-15% yn unig o ddisgyblion Ysgolion Cymraeg(mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith) sy’n cynnal eu sgiliau Cymraeg wedi gadael yr ysgol, oherwydd y diffyg cyfleoedd beunyddiol i ymarfer yr iaith yn y gymdeithas o’u cwmpas.

Mae cymdeithasegwyr iaith cyfoes yn gwbl gytûn nad yw’r system addysg yn ddigon ynddo’i hun i gynnal a datblygu iaith lleiafrifol; mae’n rhaid wrth droedle daearyddol bendant ble mae’r iaith honno yn gallu anadlu’n rhydd a bod yn feistres ar ei thomen ei hun.

Diddorol…

Mae’n ddiddorol iawn bod yr ymchwil diweddaraf yn y maes yn pwyso’n gynyddol ar drosiadau o’r byd amgylcheddol o ran mynd ati’n fwriadol i greu amodau ble gall iaith leiafrifol wreiddio a ffynnu fel blodyn neu blanhigyn, a’i gwarchod rhag ormod o wyntoedd croesion.

Byddai sefydlu ARFOR yn fodd o greu gwrth-bwynt deinamig i holl atyniadau dinesig Caerdydd, sydd wedi hudo miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg ifanc y gorllewin ers dwy genhedlaeth bellach gan dlodi eu cymunedau cynhenid o’u doniau, eu hyder, eu gobaith a’u dyfodol.

Wrth ymdrin gyda’r Gorllewin Cymraeg fel un endid daearyddol, byddai’r Awdurdod newydd yn gallu uno cymunedau Cymraeg o Ynys Mon i Lanelli gyda’i gilydd,  cynnig identiti clir, pwrpasol a hyderus iddynt, a hynny yn ei dro yn rhoi statws a dylanwad newydd iddynt yng Nghymru heddiw.

Creadigol

Eisoes, fe ellid dadlau mai yn y Gymru Gymraeg y mae’r creadigrwydd a’r bwrlwm diwylliannol yn y Gymru gyfoes- roedd yr Eisteddfod Genedlaethol sydd newydd ddod i ben ym Mon yn brawf pellach o hynny. Byddai ARFOR yn fodd o harnesu’r creadigrwydd hwn a’i sianelu i gyfeiriad sydd wedi bod ar goll yn y gorllewin cyhyd – datblygiad economaidd, ffynniant a hunan-hyder.

Byddai hyn wedyn yn gallu gwneud yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn gynyddol apelgar i’r Gymru Ddi-Gymraeg, a chynyddu cyrraedd y Gymraeg o’r gwraidd i fyny.

I aralleirio un o sloganau enwocaf Bill Clinton: “It’s the culture, stupid.” Hynny ydi, rhaid gweld bod creadigrwydd diwylliannol yn gallu arwain at ffynniant cymdeithasol ac economaidd. Mae pobol sydd yn hyderus yn eu diwylliant eu hunain yn llawer mwy tebygol o gredu y gellid trosglwyddo’r hyder hwn i’w cymdeithas a’u heconomi a chreu mentrau a busnesau newydd o bob math.

Yn hytrach na bod yn rhwystr fel yr awgrymwyd mewn modd mor nawddoglyd a di-ddeall ar raglen Newsnight yr wythnos hon, y gwir amdani ydi y gall diwylliant Cymraeg y Gorllewin arwain at adfywiad a datblygiad economaidd gan ffurfio cylch rhinweddol ar gyfer y dyfodol.

Gallai Awdurdod fel hyn hefyd edrych o’r newydd ar y rhagamcanion o ran codi tai yn y siroedd dan sylw a cheisio sicrhau bod y ffigyrau hyn yn cael eu haddasu i ateb gwir anghenion yr ardaloedd hyn: gan gynnwys llawer mwy o dai fforddadwy a thai ar rent hefyd yn cael eu codi ar gyfer y boblogaeth gynhenid.

Syniad

Un syniad diddorol y gallai ARFOR ei ystyried ar gyfer siroedd y gorllewin yw Treth Dwristiaeth. Mae treth fel hon eisoes ar waith yn Efrog Newydd a Pharis er mwyn amddiffyn a chynnal gwasanaethau lleol yn wyneb y pwysau mawr arnynt yn sgil twristiaeth.

Mae Maer Llundain, Saddiq Khan ar fin cyflwyno treth debyg yn Llundain (tua £2.00 ar ben cost pob arhosiad unigol mewn gwestai yn y ddinas) a fydd yn codi £100m y flwyddyn. Byddai treth debyg yn y Gorllewin yn debyg o godi rhwng £5 miliwn a £10 miliwn o bunnau, allai gael ei ddefnyddio i hybu’r economi leol mewn ffyrdd dychmygus ac atal yr allfudiad o bobl ifanc sy’n gymaint o broblem ar hyn o bryd.

Mae’n hen bryd troi twristiaeth i’n melin ein hunain a mynnu bod mwy o fuddiant gwirioneddol i’n cymunedau yn deillio o’r ffaith fod cymaint o bobl o bob rhan o’r byd yn mwynhau dod i weld y tirlun arbennig sydd gennym yn y gorllewin.  Go brin bod £2 ychwanegol pob nos ar gost eu hymweliadau  yn debyg o’u rhwystro rhag dod i weld rhyfeddodau naturiol yr ardaloedd hyn.

Ymarferol

Mater i eraill yw penderfynu sut yn union y byddai ARFOR yn gweithio’n ymarferol, ond un opsiwn yw sefydlu awdurdod o tua 60 aelod( 15 o bob sir presennol), a fyddai’n gyfrifol am osod trywydd strategol i’r 4 sir i’w dilyn.

Byddai’r Awdurdod, wrth gwrs, yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan osod esiampl i holl gyrff yr ardaloedd hyn yn eu tro.

Gallai sefydlu’r Awdurdod olygu lleihau rhai o ddyletswyddau y cynghorau sir presennol gan mai asiantaethau cyflwyno’r cynlluniau penodol yn eu siroedd eu hunain a fydden nhw mewn gwirionedd ( gan arwain at docio niferoedd y cynghorwyr sir).

Efallai hefyd – dros amser – y gellid grymuso rol cynghorau cymuned lleol i fonitro a scriwtineiddio cynlluniau’r awdurdod wrth iddynt gael eu gweithredu yn y gwahanol gymunedau.

Y wyneb yr holl fygythiadau i’r  Gorllewin Cymraeg o ran patrymau allfudo ac ymfudo, ac oblygiadau Brexit yn debyg o waethygu pethau: mae gwir angen atebion radical arnom.

Mae ARFOR yn ymateb Cymreig a chreadigol i’r bygythiadau hyn a gobeithio y gwelwn ymchwydd o gefogaeth i’r syniad hwn o bob cyfeiriad.

BLOG: ‘Gwynedd Gydymffurfiol’ yn dweud cyfrolau amdanom ni

Cyhoeddwyd Gorffennaf 29, 2017 gan Cymru.

Tagiau: aled gwyn job, gwynedd


BLOG: Aled Gwyn Job yn rhoi ei argraffiadau o gyfarfod cynhyrfus o Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddoe

Fel Cenedl Anghydffurfiol y daeth y Gymru fodern i fodolaeth i bob pwrpas.

Arweiniodd y Diwygiadau Methodistaidd yn y 18ed ganrif at ddeffroadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pell-gyrrhaeddol yn eu tro. Gan sefydlu’r syniad sylfaenol hwnnw fod gan Gymru ei meddwl ei hun ar bethau, oedd yn amlach na pheidio yn tynnu’n groes i’r meddylfryd Prydeinig. Mae’r gred honno wedi ei chynnal a’i hanwylo gan genhedlaethau o Gymry ar hyd y blynyddoedd hyd heddiw.

Ond tybed ai fel cenedl gydymffurfiol y dylid meddwl am y Gymru gyfoes mewn cymaint o ffyrdd gwahanol erbyn hyn? Boed hynny ar ffurf y gred hynod boblogaidd hon nad oes gan ffydd ddim oll i’w ddweud wrthym yn y byd cyfoes, neu’r dybiaeth gyffredinol nad oes llawer iawn y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd i newid trefn sylfaenol ein cymdeithas yma neu hyd yn oed o ran yr obsesiwn gyda thechnoleg newydd o bob math – mae cydymffurfio bellach fel petai wedi ein meddiannu ni gorff ac enaid.

Ac mi roedd yr ysbryd cydymffurfiol hwn yn sicr ar waith ddoe yn Siambr Cyngor Sir Gwynedd, wrth i gynghorwyr y sir drafod y Cynllun Datblygu newydd (sy’n cyfateb i 8,000 o dai newydd i Wynedd a Môn rhwng 2011 a 2026.)

Nid yn gymaint yng nghanlyniad y bleidlais ei hun, gan fod 30 o gynghorwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi pleidleisio yn ei erbyn, gan godi cwestiwn go fawr am hyfywedd y cynllun ar ei ffurf bresennol mewn gwirionedd.

Ond roedd y cydymffurfiad yn hytrach i’w weld yn y dadleuon craidd a ddefnyddiwyd gan y rhai hynny oedd o blaid y cynllun datblygu: aelodau cabinet y cyngor sir gan fwyaf.

Er y proffesu taer o blaid y Gymraeg a’i ffyniant hi oedd yn rhagflaenu bron pob un araith ganddynt: chafwyd yr un ddadl yn sgil hyny oedd yn argyhoeddi dyn y byddai’r cynllun datblygu yn gwneud LLES i’r Gymraeg yn y sir. Roeddwn yn disgwyl i ambell un geisio’n hargyhoeddi y byddai’r tai newydd yn allweddol, wrth er enghraifft, ddenu Cymry alltud yn ôl i Wynedd i gychwyn busnesau ac ati, ac y byddai hynny yn ei dro yn helpu tuag at gyflawni un o bolisiau strategol pwysicaf y Cyngor Sir, sef codi canran siaradwyr Cymraeg y sir o 65% i 70% erbyn 2021. Ond na, chafwyd dim ymdrech o gwbl i geisio cyflwyno narratif i’r perwyl hwn.

Neges greiddiol

Y neges greiddiol a gafwyd ganddyn nhw yn ei hanfod oedd: ylwch bois – does gynno ni ddim dewis ond cydymffurfio hefo gofynion yr Arolygiaeth Gynllunio fan hyn.

Codwyd sawl bwgan gan aelodau’r Cabinet yn ystod y trafod, megis y byddai gwrthod y cynllun datblygu yn golygu y gallai Llywodraeth Lafur Cymru ei berchnogi’n llwyr a’i weithredu o Gaerdydd, neu hyd yn oed ddanfon comisiynwyr i mewn i redeg Cyngor Gwynedd yn uniongyrchol. Soniwyd hefyd sut yr oedd datblygwyr yn llyfu’u gweflau wrth feddwl am sefyllfa lle na fyddai cynllun datblygu yn ei le yn y sir.

Ac fe roddwyd pwys mawr ar farn wrthrychol yr Arolygydd Cynllunio ynghylch “cadernid” y cynllun: heb unrhyw synnwyr o ba mor hurt oedd hyn yn swnio o gofio eu bod yn sôn am Arolygydd na wyddai’r un dim am ystyr arwyddair y cyngor sef “Cadernid Gwynedd”, heb son am hanes y sir dros y canrifoedd a roddodd fodolaeth i’r arwyddair hwn.

Bron nad oedd yr aelodau cabinet a siaradodd yn y siambr pnawn ddoe yn cyflwyno’u hunain fel gweinyddwyr yn hytrach na gwleidyddion.

Hynny ydi, eu bod yn gweld eu rôl bellach fel quasi-swyddogion sydd yno i weithredu’r hyn a gaiff ei wthio arnynt yn hytrach na chofio eu bod wedi eu hethol i wleidydda dros bobl Gwynedd yn anad un peth arall.

Mae lle i ddadlau bod y system gabinet wedi hwyluso’r broses hon, gydag aelodau’r cabinet bellach yn treulio mwy o amser yn y cyngor yng nghwmni swyddogion nag ydyn nhw yng nghwmni eu cyd-gynghorwyr, a bod yr hen berthynas hyd-braich traddodiadol (a llesol) rhwng cynghorwyr a swyddogion wedi hen ddiflannu. Mae’n gŵyn gyffredin iawn gan drwch cynghorwyr o bob lliw gwleidyddol bellach eu bod hwy wedi eu hymylu’n llwyr yn y broses hon.

Ac wrth gwrs, mae gweinyddwyr wastad yn iawn. Roedd hi’n drawiadol iawn ddoe pa mor gwbl argyhoeddedig oedd Dafydd Meurig (Portffolio Cynllunio) a Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor) mai nhw oedd yn IAWN. Doedd dim gronyn o amheuaeth gan y naill na’r llall am rinweddau a rhagoriaeth y cynllun datblygu:  fel pob gweinyddwr gwerth ei halen, roeddan nhw wedi llwyr berchnogi a chredu eu sbin eu hunain.

Bron oeddech chi’n teimlo mai dadlau dros eu hygrededd a’u didwylledd hwy eu hunain fel unigolion oeddan nhw yn y bôn, yn hytrach na dadlau’n wrthrychol am y cynllun ei hun. ”Trystiwch ni hogia” oedd eu ple gan ddwyn i gof yr arch-berswadiwr hwnnw, y cyn Brif Weinidog Tony Blair cyn iddo fynnu ei le ar lwyfan y byd yn 2003.

Roedd hi’n eironig iawn mai aelod o’r Blaid Lafur, sef Sion Jones o Bethel a gyflwynodd un o’r areithiau gorau yn y siambr ddoe: araith oedd mewn gwirionedd yn chwa o awyr iach o’i gymharu gyda sbin y gweinyddwyr a gyfeiriwyd ato uchod. Dywedodd ei fod yn gwybod yn iawn ei fod yn mynd yn groes i ewyllys ei blaid wrth wrthwynebu’r cynllun datblygu ond bod dyfodol y Gymraeg yn bwysicach iddo na’i les gwleidyddol ei hun.

Ymhellach, fe gyflwynodd un o’r pwyntiau pwysicaf yn yr holl drafodaeth: sef y dylai’r Cyngor Sir fod wedi pwyso am sicrhau statws ieithyddol arbennig i Wynedd a Môn fel rhan o’r drefn gynllunio yng Nghymru o gofio mai dyma’r unig ddwy sir lle mae’r iaith Gymraeg yn parhau’n iaith fyw a chymunedol ar raddfa eang. Ond na, ddaeth hi ddim i feddwl y “gweinyddwyr” i geisio ymladd dros hynny.

Mae’r clefyd gweinyddu a chydymffurfio yn hytrach na gwleidydda a  chwestiynu yn bla yn y Gymru gyfoes erbyn hyn. Efallai’n wir fod y duedd hon yn deillio’n ôl i gychwyn datganoli ei hun pan benderfynodd Plaid Cymru bod rhaid sefydlogi a diogelu dyfodol y Cynulliad Newydd trwy estyn pob cymorth posib i’r Blaid Lafur.

Mae’r gefnogaeth hon i Lafur a helpu Llafur i “weinyddu” Cymru wedi bod yn elfen gyson yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y 17 mlyned diwethaf: a’r gweinyddu dof yma yn ei dro yn un o’r rhesymau pam y mae datganoli wedi profi’n gymaint o siomedigaeth.

Yn waeth na hynny, mae’r broses hon bellach wedi troi’n nodwedd genedlaethol gwaetha’r modd.  Clywir byth a beunydd am “weinyddu” cynlluniau addysgol, “gweinyddu” newidiadau mewn arferion cynghorau sir, “gweinyddu” ein gwasanethau iechyd mewn amryfal ffyrdd a “gweinyddu’r” ychydig o ddatblygiadau economaidd sy’n digwydd yma. Ac mae’r nifer fawr o weinyddwyr sydd yn gorfod bod ynghwm wrth yr holl brosesau uchod yn brawf pellach o’r ffenomena hon. Mae’r holl bwyslais ar weinyddu yn ein bywyd cyfoes yn amlach na pheidio yn arwain at gydymffurfiad: dyna holl natur y bwystfil. Ac mae cydymffurfiad yn y sefyllfa sydd ohoni yn ddamniol mewn cymaint o ffyrdd.

Mae’n berffaith amlwg bellach mewn myrdd  o feysydd gwahanol ym mywyd Cymru mai ysbryd anghydffurfiol newydd sydd ei angen arnom.

Pwy a’n gwaredo o glwy y Gweinyddu?!

BLOG: “Dydi Gwynedd ddim yn bwriadu codi 8,000 o dai”

Cyhoeddwyd Gorffennaf 27, 2017 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: blog, cynghorydd, cynllun datblygu lleol, Dafydd Meurig, gwynedd a mon


Dafydd Meurig, y cynghorydd sy’n dal portffolio Cynllunio ar Gyngor Gwynedd, sy’n ymateb i’r dadlau diweddar am y Cynllun Datblygu ar y Cyd â Môn… 

Mae’r mater sydd gerbron y Cyngor Gwynedd fory (dydd Gwener, Gorffennaf 28) yn un o ddifrifol bwys. Dau opsiwn sydd, sef i fabwysiadu, neu beidio mabwysiadu, y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd y penderfyniad yn gosod y polisiau i reoli datblygiadau yn y sir hyd at y flwyddyn 2026.

Mae’n hollbwysig bod aelodau etholedig Gwynedd yn gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau ac ar dystiolaeth. Yn ddiweddar, mae llawer iawn wedi ei ysgrifennu a’i ddweud am y Cynllun sy’n gamarweiniol ar y gorau, ac yn aml yn anghywir.

Ymddiheuriadau os yw’r wybodaeth a ganlyn yn faith a thechnegol, ond mae’r CDLl ar y Cyd yn ddarn enfawr o waith, ac mae’n amhosib talfyrru i ychydig baragraffau broses sydd wedi cymryd chwe blynedd i’w chwblhau, ac wedi creu toreth o adroddiadau ac asesiadau.

Mae’r broses wedi cynnwys sawl ymgynghoriad cyhoeddus, sydd wedi arwain at newidiadau amrywiol dros y blynyddoedd. Rwyf wedi cynnwys dolenni yn y testun ar gyfer y rhai sydd â diddordeb pellach.

Ffaith 1: Nid yw Gwynedd yn bwriadu codi 8,000 o dai

Mae’r Cynllun yn nodi gofyniad am 3,712 o gartrefi yn ystod oes y Cynllun (2011-2026), sef cyfartaledd o 248 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Gan ein bod dros bum mlynedd i mewn i oes y Cynllun, mae’r cyfanswm uchod yn cynnwys y tai hynny sydd eisoes wedi eu codi, a’r rhai sydd wedi cael caniatâd cynllunio ers 2011.

Erbyn Ebrill 2016 roedd 917 o’r cartrefi wedi eu codi’n barod, a 1,429 wedi cael caniatâd cynllunio. Felly os caiff y cartrefi sydd gan ganiatâd cynllunio eu hadeiladu, 1366 o gartrefi sydd i’w darparu dros y 10 mlynedd 2016-2026, cyfartaledd o 137 y flwyddyn, ar draws ardal Gwynedd o’r Cynllun.

O’r 1,366 o gartrefi newydd hyn, disgwylir oddeutu 450 ‘ar hap’ (datblygiadau o fewn neu gyfochrog y ffiniau datblygu presennol neu mewn adeiladau presennol) sy’n gadael 915 o dai i’w codi mewn dynodiadau newydd. Mae’r rhain ar 26 safle newydd ar draws y sir (Atodiad 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol, t. 244), ac yn gymysgedd o dai fforddiadwy a thai marchnad agored.

Wrth osod y cyd-destun, mae 1,830 o geisiadau ar restr aros tai cymdeithasol yng Ngwynedd, ac oddeutu 500 wedi cofrestru gyda Tai Teg – cofrestr o bobol gyda diddordeb mewn perchnogi tŷ lle nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu fforddio prynu ar y farchnad agored.

Ffaith 2: Cynllun Datblygu Lleol yw’r brif ddogfen sy’n caniatau i Awdurdodau Cynllunio reoli datblygiadau newydd yn eu hardaloedd. Heb Gynllun Datblygu yn ei le, ni all Awdurdod Cynllunio reoli datblygiadau yn unol â’i amcanion.

Ers i oes hen Gynllun Gwynedd ddod i ben (CDU 2001-2016), nid oes gan Gyngor Gwynedd Gynllun cyfredol. Hyd nes i’r Cynllun newydd gael ei fabwysiadau, nid oes gan y Cyngor ddarpariaeth tir pum mlynedd fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf, felly mae risg gwirioneddol y gallai datblygwr ennill apêl yn erbyn y Cyngor ar y sail yma.

Digwyddodd hyn yn ddiweddar iawn yn Sir Wrecsam (sydd heb Gynllun Datblygu Lleol wedi ei fabwysiadu), ble caniatawyd ystad o 365 o dai ar apêl ger pentref Llai. Yn ôl Arolygydd yr apêl, roedd y ffaith nad oedd gan y sir ddarpariaeth digonol o dir mewn cynllun cyfredol yn “ystyriaeth faterol” yn yr achos.

Ffaith 3: Nid yw cais Morbaine/Penyffridd i godi 366 ym Mangor eto wedi ei ganiatau

Ystyriwyd yr achos yn nghyd-destun yr hen Gynllun Datblygu (CDU Gwynedd 2001-2016), ac argymhelliad Arolygydd yr apêl i Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru oedd i ganiatau.

Nid yw’r Ysgrifennydd wedi dod i benderfyniad eto, ac ar y 24 o Orffennaf daeth llythyr ganddi gerbron y Pwyllgor Cynllunio oedd yn cydnabod y dylid rhoi llawer mwy o bwysau i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi derbyn adroddiad yr Arolygydd.

Nid yw safle Penyffridd wedi ei gynnwys ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, felly mae’r Cyngor yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru ail agor yr apêl fel y gall y Cyngor amddiffyn barn cynrychiolwyr lleol a’r gymuned, a herio’r penderfyniad ar sail y sefyllfa gynllunio gyfredol.

Petai cais Morbaine/Penyffridd yn cael ei wrthod, ni fyddai’r 366 o unedau yn cael eu hychwanegu at ddynodiad Bangor yn y CDLl ar y Cyd.

Ffaith 4: Mae Asesiadau Iaith y Cynllun Datblygu Lleol wedi casglu a dadansoddi gwybodaeth o sawl ffynhonnell am yr iaith a’r cymunedau.

Cyhoeddwyd Proffil Iaith gan Uned Ymchwil a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd, gan ddefnyddio teclyn ‘Gweithredu’n Lleol’ Bwrdd yr Iaith Gymraeg i chwilio am wybodaeth berthnasol – gweler Papurau Testun 10A (10B ar gyfer Môn).

Yn groes i’r honiad ar golwg360, ac yn wahanol i asesiad Hanfod, mae Asesiad Iaith y Cynghorau wedi bod yn broses barhaus – mae cyfres o adroddiadau yn Llyfrgell yr Arolygydd, e.e. adroddiad Asesiad Iaith 2013, adroddiad Asesiad Iaith 2016.

Mae Asesiad Iaith y Cynghorau wedi hysbysu’r Asesiad Cynaliadwyedd a gafodd ei wneud ar y cyd gydag ymgynghorydd allanol sy’n arbenigo mewn gwneud asesiadau o gynaliadwyedd cynlluniau datblygu a phrosiectau unigol. Mae crynodeb anhechnegol o’r Asesiad yma.

Fe ystyriwyd adroddiad Hanfod fel rhan o’r corff tystiolaeth gan Arolygydd y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n cyfeirio’n benodol ato ym mharagraff 3.23 o’i Adroddiad.

Ffaith 5: Yn ystod Gwrandawiad Cyhoeddus ar 6 Medi 2016 gofynnodd yr Arolygydd i’r Cynghorau ailedrych ar faen prawf 3 a 4 Polisi PS1 – gyda golwg o’u huno – gan nad oedd yn credu bod y berthynas rhyngddynt ddigon clir. Nid oedd y newid o ganlyniad i wrthwynebiad gan Horizon.

Yn wir, yn dilyn Gwrandawiad Cyhoeddus ar 26 Ebrill 2017 awgrymwyd ffurf ar eiriad gan gynrychiolydd un o’r mudiadau iaith oedd yn bresennol, a hwn yw’r ffurf sydd bellach yn ymddangos yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Y geiriad llawn (Polisi PS1, maen prawf 3) ydy “(G)wrthod cynigion a fyddai yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad allir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith cynllunio priodol”.

Ffaith 6: Pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yw ymhelaethu ar y polisïau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol gan roi canllawiau pellach sy’n cyfeirio datblygwyr i gynnig datblygiadau yn unol ag amcanion y Cynllun.

Mae’n fwriad gan gynghorau Gwynedd a Môn yn fuan yn yr hydref i lunio CCAau newydd i gydfynd a’r Cynllun Datblygu Lleol. Y pwysicaf o’r rhain ym marn nifer o Gynghorwyr Gwynedd yw’r CCA ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Unigryw a Chynaliadwy’ a fydd yn delio efo materion yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg.

Defnyddir y CCA hwn wrth asesu ceisiadau cynllunio unigol, a bydd hwn yn cynnwys, er enghraifft, cig ar asgwrn polisiau megis PS1 uchod, a chanllawiau yn ymwneud â throthwyon a methodoleg asesiadau iaith.

Bydd y CCA presennol ‘Cynllunio a’r Iaith Gymraeg‘ yn cael ei ddefnyddio hyd nes bydd yr un newydd wedi ei fabwysiadu.

Yn gyfochrog â hyn, bydd y gyfres cyntaf o’r CCAau eraill yn cael eu datblygu fydd cyn bwysiced ar gyfer gwarchod y Gymraeg o fewn y drefn gynllunio, sef CCA Tai fforddiadwy; CCA Tai Marchnad leol; CCA Math a Chymysgedd Tai; a CCA Ymrwymiadau Cynllunio.

Bydd y broses o lunio’r CCAau yn dryloyw ac agored, ac yn tynnu ar nifer o ffynhonellau ac arbenigedd. Bydd hefyd yn destun cyfnod ymgynghori statudol, ac mae’n hollbwysig bod cynifer â phosib o garedigion yr Iaith Gymraeg yn cymryd rhan yn y broses hon er mwyn creu CCAau cadarn o safon uchel.

Ar ôl bod yn destun ymgynghori cyhoeddus ac ymateb i’r sylwadau a dderbynnir, caiff y CCAau eu mabwysiadu a byddant yn ystyriaeth cynllunio wrth asesu ceisiadau cynllunio.

Mae rhestr o’r Canllawiau Cynlluniuo Atodol presennol i’w cael yma.

Ffaith 7: Diffiniad ‘Tai Fforddiadwy’ yw ‘tai a fydd yn cael eu darparu drwy bolisïau yn y Cynllun a gaiff eu meddiannu gan bobol nad ydynt yn gallu prynu na rhentu ar y farchnad agored ac sydd angen tai’.

Mae polisïau’r Cynllun yn darparu Tai Fforddiadwy mewn sawl ffordd. Mewn rhai ardaloedd, mae gofyn i 100% o’r tai fod yn fforddiadwy. Mewn ardaloedd eraill, y ffigwr o rhwng 10% a 30% (yn dibynnu ar yr Ardal Prisiau Tai) yw’r man cychwyn ar gyfer unrhyw gyd-drafod gyda datblygwyr.

Gallai swyddogion geisio canran uwch ar adeg ystyried cais cynllunio unigol, os y cefnogir hyn gan asesiad hyfywedd.

Bydd yr holl dai fforddiadwy yn cael eu sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol (oni bai am achosion lle mai cymdeithas tai sy’n gyfrifol am y tai newydd) a byddant yn destun cymal meddiannaeth leol.

Yn ogystal â’r tai fforddiadwy hyn, mae disgwyl i nifer helaeth o’r tai marchnad agored fod yn fforddiadwy oherwydd eu math, maint, a’u lleoliad.

Ffaith 8: Mae’r Cynllun yn cynnwys polisi arloesol Tai Marchnad Leol (Polisi TAI5, tud. 131) sy’n cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf erioed yng Nghymru.

Mewn rhai mannau penodol – ble mae pris y rhan fwyaf o’r tai ymhell y tu hwnt i gyrraedd pobol leol – mae’r polisi yn golygu y bydd defnydd tai newydd yn cael ei gyfyngu gan amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol i bobol sydd â chysylltiadau lleol yn unig.

Bydd y Polisi yma yn weithredol yn Abersoch, Aberdaron, Borth-y-Gest, Llanbedrog, Llangian, Morfa Bychan, Mynytho, Rhoshirwaun, Sarn Bach, a Thudweiliog.

Ffaith 9: Yn y pentrefi llai, ni fydd dynodiadau tai o’r newydd. Yn hytrach, disgwylir cwrdd â’r angen lleol drwy geisiadau cynllunio yn codi ‘ar hap’.

Er enghraifft, mewn pentrefi sydd wedi eu diffinio fel Clystyrau, ni chaniateir tai marchnad agored. Bydd yr holl gartrefi newydd yn yr ardaoledd isod yn 100% Tai Fforddiadwy:

ARFON – Aberpwll, Bethesda Bach, Caerhun/Waen Wen, Capel y Graig, Crawia, Dinorwig, Gallt y Foel, Glasinfryn, Groeslon Waunfawr, Llanllechid, Llanwnda, Minffordd (Bangor), Mynydd Llandygai, Nebo, Penrhos (Caeathro), Pentir, Saron (Llanwnda), Talybont, Tan y Coed, Treborth, Ty’n-lôn, Ty’n y Lôn, Waun (Penisarwaun).

DWYFOR – Aberdesach, Bryncir, Bryncroes, Llanengan, Llannor, Llwyn Hudol, Pantglas, Penmorfa, Penrhos, Pentrefelin, Pistyll, Pontllyfni, Rhoslan, Swan, Tai’n Lôn.

MEIRIONNYDD – Aberllefenni, Corris Uchaf, Llanaber, Llandderfel, Llanfor, Minffordd, Talwaenydd.

Ffaith 10: O’i fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei fonitro yn flynyddol er mwyn mesur ei effaith, a bydd adroddiad monitro yn cael ei gyhoeddi bob mis Hydref wedi i’r Cynllun fod yn weithredol am flwyddyn.

Os bydd yr adroddiad monitro yn dangos nad yw’r Cynllun yn cyflawni’r hyn a obeithiwyd, mae cyfle ar ddiwedd y bedwaredd flwyddyn i adolygu’r Cynllun – hynny ydy, addasu polisiau, ychwanegu/tynnu dynodiadau tai ac ati.

Os oes newid sylweddol yn yr amgylchiadau e.e. petai Wylfa Newydd yn cael ei ohirio i gyfnod y tu hwnt i oes y Cynllun, gellid adolygu’r Cynllun ynghynt, heb orfod disgwyl am y cylch pedair blynedd.

Wrth fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, bydd y Cyngor yn gallu defnyddio’r polisïau arloesol hyn i gael rheolaeth gadarn dros ddatblygiadau yn y sir, yn hytrach na bod ar drugaredd y datblygwyr mawr.

Mae dolen yma i’r rhai sydd â diddordeb darllen y dogfennau cefndir.

BLOG: Dewis tyngedfennol i gynghorwyr Gwynedd

Cyhoeddwyd Gorffennaf 22, 2017 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: cynllun datblygu lleol, gwynedd, mon

 
Fel awdur asesiad annibynnol ar effaith Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ar y Gymraeg, Huw Prys Jones sy’n trafod y dewis sy’n wynebu cynghorwyr Gwynedd ddydd Gwener nesaf

Pan ofynnodd cynrychiolwyr partneriaieth o fudiadau iaith yng Ngwynedd imi baratoi asesiad o effaith y Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg, y peth cyntaf a bwysleisiais wrthynt oedd y byddai’n adroddiad cwbl wrthrychol. Fyddwn i ddim wedi cytuno i gynhyrchu deunydd i gefnogi propaganda unllygeidiog yn erbyn codi unrhyw dai newydd, er enghraifft. Cytunodd y mudiadau – sef Dyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai – ar unwaith â hyn, gan mai lles y Gymraeg yn ei chadarnleoedd oedd eu blaenoriaeth hwythau hefyd.

Roedd hyn fis Chwefror y llynedd, pan oedd y mudiadau ynghyd â rhai cynghorwyr, yn galw ar Gyngor Gwynedd i gomisiynu asesiad annibynnol o’r fath eu hunain. Oedd, roedd swyddogion yr uned polisi cynllunio ar y cyd (o gynghorau Gwynedd a Môn) wedi gwneud rhyw fath o asesiad ieithyddol eu hunain, ond roedd hwn yn amlwg yn ddim byd ond ymgais dila i gyfiawnhau’r Cynllun Datblygu ar ôl ei wneud. Yn wir, roedd yr asesiad hwnnw mor gwbl druenus nes imi gysylltu â deilydd presennol y portffolio cynllunio yng Ngwynedd tra oedd y trafodaethau rhyngof a’r mudiadau yn mynd ymlaen. Gan geisio esbonio diffygion difrifol yr ‘asesiad’ hwnnw, cynigiais baratoi asesiad trylwyr, gwrthrychol ac annibynnol am bris hynod resymol i’r cyngor, asesiad y gallwn ei sicrhau hefyd y byddai gan yr ymgyrchwyr iaith hyder ynddo. Dw i’n dal i gredu y gallai cam o’r fath fod wedi gallu cyfrannu’n helaeth at osgoi’r drwgdeimlad a’r ddrwgdybiaeth sydd ymysg cynghorwyr Gwynedd heddiw.

Yn wyneb diffyg unrhyw ymateb gan y Cyngor, aeth y mudiadau ymlaen i gomisiynu’r asesiad gen i. Mae’r adroddiad a baratoais i’w weld yma.

Mae’n ffrwyth wythnosau o waith a dw i’n ddyledus i’r mudiadau am y cyfle i’w wneud. Nid ar chwarae bach y deuthum i’r casgliad fod y Cynllun yn darparu ar gyfer nifer gormodol o dai ychwaith. Ar y llaw arall, mae hyn yn eithaf amlwg hefyd.

O edrych ar dueddiadau demograffig a ieithyddol y ddwy sir dros y degawdau diwethaf y patrwm a welwn ydi lleihad graddol yn y boblogaeth frodorol Gymraeg a chynnydd mewn mewnfudwyr di-Gymraeg, yn bennaf o’r tu allan i Gymru. Mae hyn wrth reswm yn arwain at ostyngiad yn y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn y ddwy sir, rhywbeth sy’n cael ei gydnabod yn asesiad ieithyddol y Cyngor fel mae’n digwydd, wrth nodi “bod sgiliau Cymraeg rhai sydd wedi symud o du allan i Gymru yn wannach”.

Heb unrhyw dystiolaeth fod rhagolygon o newid yn y tueddiad hwn, mae’n rhesymegol barnu bod codi mwy o dai nag sydd eu hangen yn fwy tebygol o fod yn niweidiol yn hytrach nag ydyn nhw o fod yn llesol i’r Gymraeg.

Nid darogan gwae

Nid adroddiad sy’n darogan gwae sydd gen i, ond un sy’n nodi’n syml bod y nifer o dai newydd y bwriedir yn debygol o lesteirio ymdrechion rhagorol adrannau eraill o’r Cyngor i godi’r Gymraeg yn y sir. Gan dderbyn mai un ffactor o blith llawer ydi tai newydd, dw i’n cynnig amcangyfrif ceidwadol bod y nifer yn y cynllun, 7,902, ar sail y tueddiadau demograffig presennol, yn debygol o arwaith at leihad o tua 2 bwynt canran yn y cyfrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn y ddwy sir.  Mae hyn yn fwy difrifol nag mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf gan y byddai ar ben unrhyw ostyniadau a allai ddigwydd am resymau eraill.

Mae’n waeth byth wrth ei ystyried yng nghyd-destun amcanion eraill y Cyngor. Un o’r amcanion a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol er enghraifft yw cynyddu’r nifer o gymunedau yn y ddwy sir mae dros 70% yn gallu siarad Cymraeg. Hefyd, mae sicrhau cynnydd o 5 pwynt canran yn y gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg drwy’r sir yn un o amcanion strategol Cyngor Gwynedd. Gydag amcanion uchelgeisiol fel hyn, gwallgofrwydd fyddai caniatáu unrhyw fesurau a fyddai’n eu llesteirio.

Trwy baratoi adroddiad gwrthrychol o’r fath, fy ngobaith oedd y byddai’n helpu’r Cyngor wrth bwyso a mesur a phenderfynu ar y ffordd ymlaen. Er fy mod i’n gwbl sicr fod fy asesiad i ar dir cadarn, mi fyddwn i’n dal yn barod i wrando ar ddadleuon deallus sut y byddai codi cynifer o dai yn fuddiol i’r Gymraeg. Mae’n arwyddocaol nad oes neb o’r naill gyngor na’r llall, wedi ceisio gwneud achos o’r fath. Yn wir, yn ôl fy ffynonellau, unwaith y daw cwestiynau anodd, mae’r rhai sy’n gyfrifol am y Cynllun yn pwyso’n ôl ar yr amddifyniad mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol amdano ac nad eu dewis nhw ydoedd.

Gor-eiddgarwch i gydymffurfio

Mae paratoi’r asesiad a’r hyn sydd wedi digwydd wedyn wedi bod yn agoriad llygad i mi o ran sut mae’r drefn gynllunio yn digwydd yng Nghymru. Mi fyddwn i’n derbyn yn llwyr mai polisi Llywodraeth Cymru yn hytrach na chynllunwyr Gwynedd a Môn sy’n bennaf gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, mae’r hyn sy’n ymddangos fel eu gor-eiddgarwch nhw i gydymffurfio â phob manylyn polisi wedi eu rhoi nhwythau hefyd yn agored i feirniadaeth.

Celwydd noeth ydi dweud bod y drefn o lunio cynlluniau datblygu lleol yn un dryloyw a bod cyfle digonol i ymgynghori. Mae hi’n dywyllwch dudew drwyddi draw. Oes, mae cyfnodau byr o ychydig wythnosau ar y tro o ‘ymgynghori’ â’r cyhoedd, ond anaml y bydd unrhyw sylw’n cael eu cymryd o’r hyn a ddywedir. Dydi cynghorwyr cyffredin – rhai nad ydyn nhw’n aelodau cabinet – ddim wedi cael unrhyw gyfle i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon chwaith. Gwn yn dda am gynghorwyr sydd wedi ymdrechu’n barhaus i gael trafodaethau synhwyrol am y cyfansymiau o dai, ond eu bod yn cael yr un faint o effaith â tharo pen yn erbyn wal. Yr unig bleidais y byddan nhw’n ei gael ar y cynllun ydi’r un ynghylch ei fabwysiadu neu beidio ddydd Gwener nesaf.

Nodwedd arall o’r tywyllwch dudew yma ydi boddi cynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd efo mynydd o ddogfennau hirwyntog, aneglur a gwael eu mynegiant. Mae unrhyw ymgais i geisio gwybodaeth yn golygu oriau o chwilota ac o gael eich croesgyfeirio ar siwrnai seithug o un ddogfen i’r llall. Ar agenda Cyngor Gwynedd ar gyfer y cyfarfod ddydd Gwener, er enghraifft, caiff y cynghorwyr eu cyfeirio at ddim llai na 58 o ddogfennau atodol yn ogystal â’r Cynllun Datblygu Lleol ei hun.

Yr unig ffordd y gall cynghorwyr sy’n anhapus ynglyn â chaniatáu codi cynifer o dai ddangos eu hanfodlonrwydd ydi pleidleisio yn erbyn y Cynllun yn ei gyfanrwydd. Mae cabinet y cyngor a’r uchel swyddogion yn rhybuddio yn erbyn peryglon gwneud hyn, a does neb yn awgrymu y dylai gwrthod mabwysiadu’r cynllun fod yn gam i’w gymryd ar chwarae bach.

Ond y ffaith syml amdani ydi na ddylai pethau fod wedi dod i hyn. Pe bai arweinwyr y cyngor a’r uchel swyddogion wedi bod yn fwy agored a hyblyg a rhoi cyfle ac ystyriaeth deg i’r rhai oedd ag amheuon, mae’n sicr y byddai cyfaddawd a chytgord wedi bod yn bosibl.

Bygythiad – a chyfle – i Blaid Cymru

Drwy fod mor ben-galed mae arweinwyr ac uchel swyddogion y ddau gyngor wedi torri twll nad yw’n hawdd i Blaid Cymru ddod allan ohono.

Mae hi bellach yn y sefyllfa gwbl wrthun o apelio yn erbyn penderfyniad i godi 366 o dai ym Mangor ar y sail y byddai’n ergyd i’r Gymraeg yn y ddinas, tra ar yr un pryd yn gofyn i’w chynghorwyr gymeradwyo cynllun i godi bron i fil arall o dai yno. Fe allan nhw fod yn sicr y bydd y gweinidog Lesley Griffiths yn chwerthin am eu pennau os bydd eu cynghorwyr yn cydymffurfio â’r drefn.

Mi fyddan nhw hefyd yn tanseilio ymdrechion cynghorwyr Plaid Cymru mewn mannau eraill o Gymru, fel ym Mro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili a Wrecsam, sydd wedi bod yn flaenllaw yn eu gwrthwynebiad i godi niferoedd gormodol o dai yn eu hardaloedd nhw. Anodd dychmygu sut y gallai cynghorwyr Gwynedd a Môn – lle mae llawer mwy o reswm dros wrthwynebu gor-ddatbygu – gyfiawnhau cefnogi cynlluniau o’r fath.

Mae’r Aelodau Cynulliad lleol Sian Gwenllian a Rhun ap Iorwerth wedi ymgyrchu’n ddyfal dros gael ysgol feddygol i Fangor. Er cryfed eu hachos, mae’r Llywodraeth Lafur wedi gwrthod yn llwyr. Gallai gweld eu cynghorwyr yn gwneud safiad ac achosi tipyn o niwsans i’r llywodraeth fod yn arf digon cyfleus iddyn nhw. Ar y llaw arall, mwy anodd fyth fyddai iddyn nhw ymgyrchu dros chwarae teg i’r gogledd-orllewin os bydd eu cynghorau’n mynnu bod yn llawforwyn ufudd i’r blaid Lafur.

Mi fyddai rhywun yn gobeithio gweld cynghorwyr o bob plaid yn rhoi dyfodol y Gymraeg o flaen unrhyw ystyriaethau pleidiol, a chalonogol yw gweld cymaint ohonyn nhw’n barod i wneud hyn.

Ond hyd yn oed o edrych ar y mater mewn termau gwleidyddol pur, dylai fod yn weddol amlwg pa ddewis sy’n debygol o arwain at y lleiaf o ddau ddrwg i ragolygon Plaid Cymru.

Mae’n wir y gallai gwrthod y Cynllun achosi rhywfaint o anhrefn, ond byddai ei fabwysiadu’n arwain at ddinistrio holl hygrededd Plaid Cymru gan godi cwestiynau difrifol am ei diben.

Mae cyfle gan gynghorwyr Gwynedd ddydd Gwener i wneud safiad dros ddemocratiaeth a thryloywder yn y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu. Byddai’n anfaddeuol iddyn nhw wrthod cyfle o’r fath.

BLOG: Cecru Conwy yn codi cwestiynau


Mae stori Gareth Jones yn dweud cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru, meddai Aled G Job…

ROEDD y ffrae ynghylch pwy allai eistedd ar Gabinet Cyngor Conwy yr wythnos hon yn dweud cyfrolau am y ddeinameg wleidyddol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Roedd y cyn-Aelod Cynulliad, Gareth Jones, yn gobeithio arwain clymblaid yn enw Plaid Cymru i redeg Cyngor Conwy a fyddai’n cynnwys aelodau Ceidwadol a’r Annibynnol.

Ond, fe benderfynodd Swyddfa Ganolog Plaid Cymru rwystro hyn rhag digwydd gan nad oedden nhw am weld Plaid Cymru yn cael eu gweld yn cyd-weithio gyda’r Ceidwadwyr yng Nghymru ar unrhyw gyfrif.

Bellach mae Gareth Jones a Liz Roberts wedi ymddiswyddo o Blaid Cymru er mwyn galluogi’r trefniant Cabinet i fynd yn ei flaen o dan arweinyddiaeth Annibynnol, a grwp Plaid Cymru ar y Cyngor bellach i lawr i wyth aelod.

Niweidiol

Barn arweinyddiaeth Plaid Cymru oedd y byddai cysylltiad gyda’r Ceidwadwyr yn niweidiol i ddelwedd y blaid ac i’w gobeithion etholiadol pe bai etholiad arall yn cael ei alw eleni. Mae’r farn hon yn ddealladwy iawn. Wedi’r cwbwl, mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi gosod ei stondin bersonol gwrth-dorïaidd a gwrth-lymder allan yn berffaith amlwg i bawb.

A gyda’r ymchwydd mawr diweddar o blaid Llafur yng Nghymru, a fu’n rhannol gyfrifol am sicrhau nad oes gan y Ceidwadwyr fwyafrif seneddol yn San Steffan, mae yna ystyr arall i’r ‘Wal Goch Gymreig’ erbyn hyn y tu hwnt i lwyddiannau’r tim pel-droed cenedlaethol yn yr Ewros llynedd.

Mae’n amlwg bod y momentwm hwn o blaid Llafur yng Nghymru (boed hynny’n bennaf trwy ymdrechion Carwyn Jones neu/a thrwy boblogrwydd Jeremy Corbyn) wedi chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniad Plaid Cymru yn ganolog. Mae’n fodd i gynnal y syniad poblogaidd mai gwlad y chwith ydi Cymru, a bod Plaid Cymru hithau ar ochr iawn y ddadl foesol hon yn wleidyddol.

Ac os digwydd etholiad arall yn yr hydref, mae’n hawdd gweld sut y byddai’r Blaid Lafur Gymreig yn defnyddio unrhyw gysylltiad hwn gyda’r Torïaid fel pastwn cyfleus iawn i golbio Plaid Cymru mewn etholaethau fel Arfon, Ceredigion a Chaerfyrddin, a chryfhau eu neges mai nhw yw gwir blaid genedlaethol Cymru bellach.

Colled

Bu Gareth Jones yn Aelod Cynulliad arbennig dros Plaid Cymru, ac wrth gwrs mi roedd ennill Aberconwy dros y Blaid yn y lle cyntaf yn andros o gamp ynddo’i hun. Mae’r ffaith ei fod o wedi gorfod ymddiswyddo yn golled fawr i’r Blaid ac yn loes calon i nifer fawr o’r selogion sy’n gwybod yn iawn am gyfraniad nodedig y gwr o Landudno dros lawer o flynyddoedd.

Ond realpolitik ydi realpolitik yn enwedig yn yr amgylchiadau sydd ohoni. Yn llawer trech na record Gareth Jones dros y blynyddoedd ac yn drech hefyd na’r weledigaeth oedd ganddo ar gyfer llywio’r dyfodol i Gonwy gyda chabinet o dan arweiniad Plaid Cymru.

Mae’r hanes yn codi nifer o gwestiynau pwysig ynghylch cydnabod dewisiadau pobol ar lefel leol a chenedlaethol. Rhaid cofio bod miloedd o Gymry wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol yn Sir Conwy y mis diwethaf am amryfal resymau.

Mae yna beryg bod dogma bleidiol sy’n dweud bod y Ceidwadwyr fel math o wahanglwyfion gwleidyddol nad oes dichon gwneud yr un dim â nhw, yn fodd i baentio llawer iawn o unigolion gwahanol trwy Sir Conwy gyda’r un brwsh.

Ydi hi’n wir i ddweud fod pob un o’r rhain yn llwyr gymeradwyo holl bolisiau’r Ceidwadwyr yn San Steffan? Ydi hi’n bosib o gwbwl bod yna ganran go lew ohonynt, yn hytrach, wedi pleidleisio dros ymgeisydd yr oeddan nhw’n ei adnabod yn bersonol ac yn credu ei fod wedi gwneud tro da o waith dros eu cymuned ar y cyngor sir dros y pedair blynedd diwethaf?

Pleidiau amherthnasol

Rhaid cofio hefyd bod y ganran o bobol sy’n perthyn i bleidiau gwleidyddol yng Ngwledydd Prydain yn bitw bach erbyn hyn er cymaint yr ymchwydd ifanc o blaid Jeremy Corbyn yn yr etholiad – sef tua 5%. Mi fydd llawer iawn o’r bobl sydd y tu hwnt i’r bybyl bach gwleidyddol hwn yn methu deall pam nad yw pleidiau yn gallu cyd-weithio gyda’i gilydd ar lefel leol, yn enwedig o feddwl am yr heriau ariannol anferthol sy’n wynebu cynghorau lleol yn wyneb y toriadau o San Steffan.

Onid oes rhaid cydweithio ar lefel cynghorau lleol er mwyn delio gyda’r sefylllfa hon?

Mae yna gwestiynau’n codi ar lefel genedlaethol hefyd. Mae gan y Ceidwadwyr bleidlais graidd o tua 25% yng Nghymru. Os ydi Cymru fyth am weld llywodraeth genedlaethol sy’n rhydd rhag y Blaid Lafur sydd wedi rheoli Cymru ers 1999,  ac wedi methu ein gwlad mewn cymaint o ffyrdd gwahanol dros cyfnod hwn, mae’n ymddangos mai’r unig opsiwn arall ydi gweld ryw fath o ddealltwriaeth rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr – yn enwedig o gofio fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi chwythu’u plwc yng Nghymru bellach.

Anathema i lawer, mi wn. Ond o ran lles democratiaeth Gymreig yn unig, siawns y byddai’n llesol i Lafur fod mewn gwrthblaid rhywbryd er mwyn iddyn nhw gael ail-ddiffinio eu hunain a meddwl am syniadau newydd i’r dyfodol.

Dydi bod mewn grym yn ddi-dor am gymaint o flynyddoedd ddim yn llesol iddyn nhw, i’r pleidiau eraill na’r etholwyr chwaith. Does ryfedd bod cymaint o bobol yng Nghymru wedi eu dieithrio o’r broses wleidyddol yma o weld Llafur yn eistedd fel math o lyffant di-symud ar ein bywyd cenedlaethol.

Ceidwadwyr mwy Cymreig?

Fel ymateb i hyn, tybed a fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio datblygu agenda fwy Cymreig yn y dyfodol,fel yr awgrymodd yr Aelod Cynulliad, Darren Millar, yn dilyn yr etholiad diweddar.

Ar hyn o bryd, mae’n anodd dychmygu’r Blaid yn dianc rhag ei hymlyniad greddfol at yr Undeb Brydeinig o gofio bod hwnnw cymaint rhan ohonynt a’u byd-olwg cyffredinol. Ac wrth gwrs, byddai’r amheuaeth ddofn ohonynt fel plaid sydd wedi’i hen blannu yma yng Nghymru yn dilyn eu hanes yn ein gwlad dros y blynyddoedd wastad yn groes y bydd rhaid iddyn nhw ei gario.

Ond o gofio traddodiad y chwith yma yng Nghymru, neu’r traddodiad llafur a rhoi ei enw cywir arno, rhaid cydnabod hefyd bod traddodiad ceidwadol gydag ‘g’ fach yn bodoli yma hefyd  a gwreiddiau yr un mor wydn ganddo.

Trefn newydd

Gyda dyfodiad system bleidleisio newydd i etholiadau’r Cynulliad yn 2020, a allai gyflwyno trefn STV (a fyddai’n golygu y byddai pob un pleidlais yn cyfrif), mae’n bosib y gellid gweld pleidiau cwbwl newydd yn ymffurfio ar gyfer hwnnw.

Tybed a fyddai plaid led-geidwadol, wirioneddol Gymreig, yn gallu ymddangos o’r newydd i geisio manteisio ar y tradddodiad hwn? Plaid heb unrhyw baggage o’r gorffennol, yn gwbwl rydd o’r Blaid Geidwadol Brydeinig. Plaid a fyddai’n gosod pwyslais ar bwysigrwydd y teulu, rhwydweithiau cymunedol, traddodiad a threftadaeth, hunan-ddibyniaeth ac entrepreneuriaeth, ac economi lewyrchus.

Mae pleidiau o’r math hwn i’w gweld ym mhob gwlad dan haul, gan gynnwys llawer iawn o wledydd bychain tebyg i Gymru. Byddai unrhyw ddatblygiad i’r cyfeiriad hwn yn gallu ychwanegu at bliwraliaeth a democratiaeth yng Nghymru.

Bydd stori Conwy a’i holl oblygiadau i Gymru yn rhedeg am beth amser eto, yn siwr.

BLOG: Trafod Brexit – cyngor gan Winston Roddick


Winston Roddick
Ar ddechrau’r drafodaeth ar wahanu Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, mae cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru yn ystyried y pynciau pwysicaf…

Mae dros 7,000 o bynciau i’w trafod a’u cytuno. Dyna yw maint y dasg sydd o’n blaen heddiw. Felly bydd rhaid blaenoriaethu a chanolbwyntio ar y materion pwysicaf.

Bydd y penderfyniadau ar y pethau mawr yn dylanwadu ar y drafodaeth ar y pethau llai.

Y man cychwyn yw bod yn glir ynglŷn â beth yw’r materion pwysicaf i’r Deyrnas Unedig. Yn ôl araith y Prif Weinidog rhai misoedd yn ôl, Brexit caled yw ei tharged.

Beth yw Brexit caled (a Brexit meddal)?

Ail sefydlu sofraniaeth seneddol y Deyrnas Unedig, ail-ennill rheolaeth tros ein ffiniau, a chreu’r capasiti i greu cytundebau masnachol – trade deals – gyda gwledydd o bob rhan o’r byd. Dyma’r rhesymau pwysicaf tros adael yr Undeb, yn ôl Theresa May.

I sicrhau’r freuddwyd hon, mae’n angenrheidiol i’r Deyrnas Unedig ddiddymu pedwar rhyddid Ewropeaidd sy’n safonol i’r farchnad sengl a’r Undeb sef – rhyddid i symud nwyddau, arian, pobol a gwasanaethau.

Aelodau’r pwyllgor sy’n goruchwylio’r drafodaeth yw Theresa May, Damien Green, David Davis, Phillip Hammond a Boris Johnson. Ein problem fwyaf ar hyn o bryd yw bod ansicrwydd ymysg agweddau’r aelodau tuag at Brexit caled.

A ydynt yn gytûn ar beth maen nhw eisiau o’r drafodaeth?

A beth am Brexit meddal? Cytundeb sy’n caniatáu rhywfaint o reolaeth tros ein ffiniau ac sydd yn caniatáu i ni barhau yn aelod o’r farchnad sengl a’r Undeb Tollau, casgliad o wledydd Ewrop sydd wedi cytuno ar faint y tâl – y tariff – am fewnforio nwyddau.

Dyma dw i’n ei gynnig…

A oes rheolau neu ganllawiau i’n harwain mewn trafodaeth o’r math? Ym mhob achos, dyma’r chwe rheol y byddaf i’n ceisio eu gweithredu:

1. Bod yn glir a realistig am beth yw cryfderau a gwendidau eich achos;

2. Bod yn glir yn eich dealltwriaeth o beth yw materion a thargedau pwysicaf eich client;

3. Beth yw’r materion na ellir cyfaddawdu arnynt? Byddwch yn glir am beth yw eich llinell olaf – eich ‘bottom line’ – yn y drafodaeth. Bydd rhaid cyfaddawdu ar rai pethau ond ni ellir cyfaddawdu ar bopeth. Pwrpas y slogan ‘gwell dim cytundeb na chytundeb sâl’ yw dweud bod gynnon ni linell olaf;

4. Peidio dechrau’r drafodaeth drwy roi’r argraff eich bod yn berson caled a digyfaddawd. Mae’n anochel y byddwch yn gorfod dod lawr o’r llwyfan hwn yn ystod y drafodaeth ac wrth wneud hynny byddwch yn rhoi’r argraff mai blyffio oeddech yn gynharach ac mae blyffiwr ydych. Ddim yn gredadwy;

5. Ceisiwch ragweld beth sy’n bwysig iawn i’r ochr arall a meddyliwch am ffordd o roi hwn iddynt neu ei addasu fel eich bod yn gallu ei gytuno;

6. Cofiwch mai pris uwch yw gwir gost cyfaddawd. Faint mwy rydym yn fodlon dalu am iddynt roi i ni rhywbeth sy’n bwysig i ni – rhywbeth na allwn fynnu ei gael. Bydd rhaid bod yn glir ar y cwestiwn hwn. Mynd yn ôl at beth sydd yn wir bwysig i’r Deyrnas Unedig.

Materion eraill 

Un enghraifft o hyn yw cael cytundeb masnachu rhydd – free trade deal – gyda’r Undeb. Beth mae hyn yn ei olygu yw mynediad – access – yn hytrach nag aelodaeth o’r farchnad sengl. Mae cost i aelodaeth. Does dim cost i fynediad rhydd.

Gallwn ddim mynnu hyn, felly bydd yn rhaid mynd ar ofyn yr Undeb a bydd yn rhaid derbyn mai gofyn yr ydym ac nid hawlio. Bydd yn rhaid talu pris am y consesiwn hwn.

A dyma fynd yn ôl at beth sy’n bwysig i’r Undeb. Os ydych yn gwybod yr ateb, mi allwch chi ganolbwyntio arno ac efallai ei gynnig iddyn nhw fel pris consesiwn i ni.

Mae sefyllfa dinasyddion yr Undeb sydd wedi ymgartrefu ym Mhrydain yn bwysig iawn i bobol a llywodraethau Ewrop. Mae eu dyfodol yn y fantol ar hyn o bryd.

Mae dyfodol Prydeinwyr sydd wedi ymgartrefu yn Ewrop yr un mor bwysig. Mae eu dyfodol nhw hefyd yn ansicr.

Cyngor i David Davis

Beth am iddo ddechrau’r drafodaeth trwy gynnig sicrhad i ddinasyddion Ewrop sydd wedi ymgartrefu yma i aros os ydyn nhw eisiau hynny? Mi fasa hyn yn ennill parch pawb yn Ewrop – rhywbeth wedi’i gynnig yn wirfoddol ac yn ddiamodol.

Hwyrach y byddai esiampl o’r math yn annog Michael Barnier i gynnig rhywbeth tebyg i ddinasyddion y Deyrnas Unedig sydd yn Ewrop.

Dechrau da. Dechrau cryf i drafodaeth bwysicaf ein hanes.

Llanast! – effaith yr etholiad

Cyhoeddwyd Mehefin 9, 2017 gan Cymru.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol, Jeremy Corbyn, Llafur


Jeremy Corbyn - ymgyrchu go iawn (Rwedland CCA4.0)
Mae pob plaid – a ninnau – yn wynebu cwestiynau anodd, ar ôl smonach anferthol Theresa May. Dadansoddiad Dylan Iorwerth o’r canlyniadau ….

Mewn gwahanol ffyrdd, mi allai pob plaid wynebu llanast ar ôl etholiad ddoe.

  • Mae’r Ceidwadwyr mewn trwbwl mawr, mae hynny’n amlwg. Paratowch am gyfnod hyll.
  • Mae gan Lafur hefyd gwestiynau anodd i’w hwynebu ac, yng Nghymru, mae ganddi gyfrifoldeb mawr.
  • Mi fydd rhaid i Blaid Cymru edrych eto ar ei chyfeiriad a’i thactegau.
  • A’r Democratiaid Rhyddfrydol? Beryg ei bod hi’n ta-ta ar ôl mwy na chanrif a hanner o gynrychioli Cymru yn San Steffan.
  • Tân siafins oedd UKIP o’r dechrau. Dim ond un marworyn bach sydd ar ôl, a hynny yn y Bae. Fyddai hi’n ddim syndod gweld rhai, os nad y cyfan, yn mynd yn ôl at y Torïaid.
  • Mi gafodd yr SNP ei gwasgu hefyd a’i chosbi am ganolbwyntio gormod ar refferendwm ac mi fydd rhaid iddi ailfeddwl a chwilio am dir cadarn eto.
  • Mae’r cwestiynau mwya’ er hynny i ni i gyd. Mi fydd oblygiadau o ran Brexit yn ysgytwol ac mi allai’r sgil effeithiau fod yn fawr ar sefyllfa fregus Gogledd Iwerddon.

A dyma nhw fesul un …

Y Ceidwadwyr – cawdel

Mae’n anodd gweld sut y gall Theresa May aros yn Brif Weinidog yn hir iawn a’i hawdurdod wedi ei chwalu. Ar ôl colli hwnnw, does ganddi fawr ar ôl, heblaw esgidiau.

Mi fydd y geiriau ‘Cader Idris’ ar ei charreg fedd.

Tydi’r blaid bellach ddim mewn sefyllfa i wthio am Brexit caled ac mi fydd hynny’n aildanio’r ymladd mewnol.

Yng Nghymru, ar ôl rhai digwyddiadau rhyfedd yn ystod yr ymgyrch, mae’r pwysau’n debyg o dyfu eto hefyd ar yr arweinydd, Andrew R. T. Davies.

Llafur – lle nesa’?

Ar yr olwg gynta’, mi allech chi feddwl bod popeth yn wych, gydag ymgyrch gref yn ennill seddi yn nannedd ymosodiadau personol a gwasg asgell dde ddidrugaredd.

Ond beth am y mwy na 150 o ASau oedd wedi gwrthwynebu’r arweinydd Jeremy Corbyn a’i bolisïau? Sut fyddan nhw’n ymateb wrth iddo fo a’r llefarydd economaidd, John McDonnell, gael trwydded i fynd ymhellach ac i gryfhau’r blaid yn y wlad ar eu traul nhw?

Faint o’r enwau mawr fydd yn fodlon edifarhau a derbyn swyddi mainc flaen? A pha mor gyfrwys fydd Jeremy Corbyn wrth yrru ei agenda yn ei blaen? A fydd y rhyfel yn parhau?

Y dewis arall ydi cydweithio a gweld o ddifri a ydi “gwleidyddiaeth Prydain wedi newid”. Dyna ddylen nhw’i wneud.

Llafur Cymru – lwc a chraffter

Mi lwyddodd Llafur Cymru i fanteisio i ddechrau ar bellter rhyngddyn nhw a’r blaid yn Lloegr ac, wedyn, ar lwyddiant yr arweinydd Prydeinig.

Mae Carwyn Jones wedi dangos sawl tro ei fod yn dactegydd craff ac yn gyfathrebwr ardderchog ond y canlyniad ydi fod y cyfrifoldeb arno fo a’r ASau Llafur Cymreig bellach yn anferth.

Ganddyn nhw y mae’r gallu i ymladd am Frexit da i Gymru – o ran pwerau ac arian – a, gyda senedd grog, mae’r cyfle yno.

Plaid Cymru – cwestiynau

Yn weddol fuan – unwaith y dechreuodd Llafur gryfhau – mi ddaeth hi’n amlwg y byddai’r ‘blaid bach’ yn cael ei gwasgu.

Y gobaith iddi hi oedd ennill cwpwl o seddi, er gwaetha’ cwymp yn y bleidlais. Mi enillon nhw Geredigion a dod yn agos eto ym Môn, ond mae Arfon yn ymylol ac maen nhw wedi colli tir ar draws y Cymoedd.

Mi fydd yna gwestiynau am arweinyddiaeth Leanne Wood ar ôl yr holl sylw y mae’n ei gael ond, yn fwy na hynny, mae’n rhaid i’r Blaid ystyried beth yn union y mae’n ei gynnig yn wahanol i Blaid Lafur Garwynaidd.

Brexit … efallai

Mi fydd y canlyniadau yn codi amheuon am ddyfodol Brexit ei hun. Mae sŵn y chwerthin ym Merlin a Pharis i’w glywed fan hyn.

Roedd hi’n anodd cynt; bellach, mae ganwaith anos. Ac mi fydd rhaid cael cytundeb ‘y wlad’ mewn rhyw ffordd – nid refferendwm ond, yn bendant, trafodaeth lawn a phleidlais go iawn yn Nhŷ’r Cyffredin.

A chymryd y bydd y Ceidwadwyr yn cynnal llywodraeth, mae hynny’n debyg o fod yn bartneriaeth gyda’r DUP yng Ngogledd Iwerddon. Rhwng Brexit a hynny, mae’n gyfnod peryglus iawn yn y dalaith.

A’r canlyniad i gyd?

Mae’r etholiad yma wedi cadarnhau’r diffyg trefn rhyfeddol sydd mewn gwleidyddiaeth ar hyn o bryd.

Mae gwladwriaeth a bleidleisiodd tros Brexit bellach wedi gwanhau gallu ei Llywodraeth i fargeinio – yn fwriadol, efallai, ar ôl cael ofn y Blaid Geidwadol.

Y sôn ydi fod llawer o bobol ifanc wedi pleidleisio – cenhedlaeth fory’n taro’n ôl yn erbyn cenhedlaeth ddoe a heddiw.

Mi fydd rhaid aros ychydig eto i weld a oes yna symudiad go iawn yn erbyn toriadau a threthi isel ac o blaid gwleidyddiaeth wahanol.

Y newyddion da ydi fod ymgyrchu didwyll yn gallu ennill weithiau.

Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2017

Cyhoeddwyd Mehefin 8, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.


Mae’r canlyniadau yn llawn yma.

6.36am

Diolch yn fawr iawn i chi am eich cwmni drwy gydol y noson.

I grynhoi, bu’n noson dda iawn i Lafur yng Nghymru wrth iddynt fachu tair sedd Ceidwadwol a bygwth sawl un arall.

Bu’n noson anodd i Blaid Cymru wrth iddynt ddod o fewn trwch blewyn i golli Arfon, a dioddef colbiad go iawn yn y cymoedd. Ond mae ennill Ceredigion wedi rhoi sglein ar y noson.

Diwedd cyfnod i’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth iddynt fethu ag ennill sedd yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1859.

Siom i UKIP a’r Ceidwadwyr wrth iddynt golli tir ar draws y genedl.

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau – rydw i’n sicr wedi gwneud!

6.32am

Ychydig o bleidleisiau fel arall yn Arfon a Cheredigion, ac fe fyddai noson Plaid Cymru wedi bod yn hynod wahanol. Ond maen nhw wedi dod drwyddi, rywsut!

6.24am

Twf 10% a 7% ym mhleidlais Llafur a’r Ceidwadwyr yng Ngheredigion. Wedi tynnu pleidleisiau tactegol oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Plaid Cymru wedi sefyll yn llonydd ond wedi mynd a hi.

6.15am

Dyna ni te, y canlyniadau terfynol. Llafur wedi cymryd tair sedd oddi ar y Ceidwadwyr, a Plaid Cymru wedi cipio sedd olaf un y Democratiaid Rhyddfrydol.

Pwy welodd hynny’n dod? Nid fi! Syfrdanol.

6.09am

Ben Lake yn gwenu fel giat yn y cyfri’ yn Aberaeron.

5.58am

Mae gohebydd gwleidyddol Cymreig ITV yn datgan bod Plaid Cymru wedi cipio Ceredigion.

Mae Arthur Dafis, mab y cyn AS-Cynog Dafis, hefyd yn datgan bod hyn yn wir.

Ond mae’r Cambrian News yn dweud nad oes dim yn swyddogol eto…

5.50am

Mae Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru, wedi galw am ail-edrych ar sut y dewisodd y blaid eu seddi targed. “Pam oedden ni mor bell ohoni mewn sawl man?”

5.36am

Bong! Mae’r BBC wedi datgan ei bod yn senedd grog.

5.32am

Mae Plaid Cymru wedi ennill 10% o’r bleidlais yng Nghymru hyd yn hyn, sydd mewn gwirionedd ychydig yn uwch nag oedd y polau piniwn YouGov olaf yn ei ragweld.

5.23am

Reit, mae’r popcorn a’r siocled wedi ei fwyta, a’r Lucozade wedi ei yfed. Dewch ymlaen Ceredigion, er mwyn dyn! Chi fel rhech mewn pot jam, no!

5.18am

Un o sgil effeithiau heddiw yw bod y papurau newydd adain-dde fel petaen nhw wedi colli llawer o’u hawdurdod. Mi wnaeth y Sun, y Daily Mail a’r Express bardduo Jeremy Corbyn yn ddi-baid.

5.14am

Am noson ddiddorol – mae wedi gwawrio yma, ond rhaid dweud bod y noson wedi hedfan heibio!

5.011am

Preseli Penfro o’r diwedd! Stephen Crabb wedi cadw’r sedd i’r Ceidwadwyr. 314 o bleidleisiau ynddi.

5.06am

Pa mor debygol yw Brexit caled erbyn hyn? Os yw’r Ceidwadwyr yn ddibynnol ar gefnogaeth y DUP, bydd yn anos o lawer gwneud unrhyw beth a allai anfanteisio Gogledd Iwerddon, a gallai hynny olygu Brexit meddal – o fath – neu o leiaf ryw fath o gytundeb arbennig i Ogledd Iwerddon.

4.49am

Ennill neu golli fe fydd Ben Lake wedi gwneud yn llawer well na’r disgwyl yng Ngheredigion. Roeddwn i, a sawl un aral rwy’n tybio, wedi disgwyl iddo dorri ei ddannedd ar yr ymgyrch eleni cyn ymgeisio o ddifri’ am y sedd mewn pump i ddeg mlynedd.

4.39am

Ail-gyfri arall yng Ngheredigion – awgrym bod mwyafrif Plaid Cymru tua 100 o bleidleisiau.

4.36am

Mae’r BBC yn rhagweld y bydd UKIP wedi ennill 2% o’r bleidlais yn unig, cwymp 11% ar 2015.

4.32am

Mae Ruth Davidson, arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, wedi datgan na fydd ail refferendwm ar annibyniaeth. Ond fe enillodd yr SNP y mwyafrif o seddi yn weddol gyffordus.

4.21am

Mae Alex Salmond, cyn arweinydd yr SNP, wedi colli ei sedd i’r Ceidwadwyr.

4.20am

Dim ond Ceredigion a Preseli Penfro yn weddill. Mae yna ail-gyfri yn y ddwy sedd.

4.16am

Beth fydd effaith y canlyniadau ar arweinyddiaeth Leanne Wood?

Efallai bod yr ateb yn dibynnu ar y canlyniad o Geredigion. Ond faint o’r clod y bydd modd iddi hawlio am ennill sedd nad oes ganddi gymaint a hynny o gysyltiad ag o?

Yn y Cymoedd lle oedd disgwyl iddo gael y mwyaf o effaith, fe aeth Plaid Cymru am yn ôl.

4.11am

Mae Plaid Cymru yn cyffroi y tu fas i’r cyfri’ yng Ngheredigion. Ond does dim yn sicr eto.

4.08am

Mae Richard Wyn Jones yn rhagweld y gallai bod etholiad cyffredinol arall yn fuan.

4am

Os yw Plaid yn Cipio Ceredigion, dyma fydd y tro cyntaf ers 1859 i Gymru beidio ethol aelod Rhyddfrydol.

3.56am

Ai fi ydi o neu ydyn nhw’n cyfri lot cyflymach yn yr Etholiad Cyffredinol nag Etholiadau’r Cynulliad? Dim ond megis dechrau oedd Caerdydd adeg yma’r llynedd. Mae’r cyfan wedi gwibio heibio heno.

3.43am

Y Ceidwadwyr wedi cadw Gorllewin Caerfyrddin a Sir Benfro,

3.40am

Cadarnhad bod Plaid Cymru wedi ennill Ceredigion ar y cyfri cyntaf. Ail-gyfri nawr.

3.36am

Fe aeth arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, ar ei wyliau yn ystod yr ymgyrch. A oedd ymgyrch y Ceidwadwyr Cymreig yn rhy gyfforddus?

3.33am

3308 o bleidleisiau yn unig i Paul Nuttall. Canlyniad chwithig iawn iddo.

Llafur yn cadw Gorllewin Caerdydd.

3.32am

Mae Theresa May wedi datgan bod angen cyfnod o sefydlogrwydd gyda’r Ceidwadwyr yn cadw grym.

3.29am

Tim Farron wedi ei ail-ethol o drwch blewyn.

Llafur wedi cadw De Caerdydd a Phenarth. Roedd amheuaeth am y sedd ychydig wythnosau yn ôl.

3.22am

Dim ond 4% o’r bleidlais mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei ennill yng Nghymru.

3.20am

Os yw Theresa May yn ymddiswyddo, hi fydd y Prif Weinidog i fod yn ei swydd am y cyfnod byrraf ers 1762.

3.17am

Mae Jeremy Corbyn wedi ei ail-ethol.

Mae Llafur wedi cadw Merthyr.

3.14am

Y Ceidwadwyr wedi colli Gogledd Caerdydd i Lafur. Ychydig iawn oedd wedi rhagweld canlyniad o’r fath.

3.08am

Ail-gyfri’ llawn yng Ngheredigion. Son bod Plaid 150 pleidlais ar y blaen. Ydi Plaid Cymru wedi cwrdd a phlaid sy’n cael gwaeth noson na nhw? Y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gofyn am ail-gyfri.

3.01am

Pum munud nes Gogledd Caerdydd, lle mae disgwyl i Lafur gipio’r sedd oddi ar y Ceidwadwyr.

Llafur wedi cadw Dwyrain Abertawe yn ddi-ffwdan.

2.57am

Y darlun mawr hyd yma:

Llafur – wedi gwneud yn annisgwyl, anhygoel o dda.

Ceidwadwyr – hynod siomedig, wedi colli tir.

Plaid Cymru – siomedig, heb ennill tir o gwbwl.

Y Democratiaid Rhyddfrydol – anweledig.

2.55am

Cyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones yn cadw ei sedd yn Gorllewin Clwyd.

2.54am

Pethau’n edrych yn ddu i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’r cyn-Dirprwy Brif Weinidog wedi colli ei sedd, ac mae ail-gyfri yn sedd yr arweinydd presennol, Tim Farron.

2.48am

Newyddion da i Blaid Cymru o’r diwedd – Liz Saville Roberts wedi cynnyddu ei mwyafrif yn Nwyfor Meirionnydd.

2.46am

Llafur yn adennill Gwyr gan y Ceidwadwyr wedi ei golli o 26 pleidlais yn 2015. Maent wedi adennill y ddwy sedd a gollon nhw yn 2015.

2.43am

Alun a Glanau Dyfrdwy – sedd darged arall i’r Ceidwadwr, a Llafur wedi ei ddal unwaith eto.

Brycheiniog a Maesyfed – Y Ceidwadwyr yn cadw.

2.40am

Disgwyl canlyniad yng Ngheredigion yn fuan.

Y Ceidwadwr David Davies yn cadw Mynwy.

2.36am

Llafur yn cadw Canol Caerdydd. Roedd ryw deimlad y gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol herio yma ar ddechrau’r ymgyrch.

Mae’r blaid yn cadw Gorllewin Abertawe hefyd.

2.33am

Y Ceidwadwyr Guto Bebb wedi cadw Aberconwy, wedi sion y byddai yn ei golli.

2.28am

Mae Llafur wedi cadw Ynys Mon fel y disgwyl. Plaid Cymru yn y trydydd safle. Canlyniad hynod siomedig i’r blaid yno.

Glyn Davies wedi ei ail-ethol ym Maldwyn.

2.25am

Y Ceidwadwyyr wedi methu a chipio Pen y Bont ar Ogwr, un o’u prif dargedau yng Nghymru. Roedd Theresa May wedi ymweld a’r sedd.

2.24am

Mae Angus Robertson, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi colli ei sedd.

2.20am

Mwyafrif anferth i Lafur yn y Rhondda. Plaid Cymru ddim yn agos at efelychu perfformiad Leanne Wood y llynedd. Llafur wedi llarpio pleidlais UKIP.

2.18am

Mae’n debyg bod ail-gyfri yng Ngheredigion yn ‘debygol iawn’ ond does dim awgrym o bwy yw’r ceffylau blaen!

2.14am

Mae yna “olwg poenus” ar wyneb Craig Williams, AS Ceidwadwol Gogledd Caerdydd, yn ôl gohebydd gweidyddol Golwg 360!

Llafur wedi cadw Caerffili fel y disgwyl. Hefyd wedi cadw Delyn, sedd yr oedd disgwyl y gallai’r Ceidwadwyr ei gipio.

2.07am

Llafur wedi cadw Ogwr. Paul Flynn yn cadw Gorllewin Casnewydd, sedd oedd y Ceidwadwyr wedi ei dargedu.

Roger Scully yn awgrymu y gallai Llafur sicrhau eu canlyniad gorau yng Nghymru ers 1997.

2.04am

Llafur yn cadw Blaenau Gwent.

Bro Morgannwg – Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn ei gadw i’r Ceidwadwyr.

2am

Plaid Cymru wedi cadw Arfon. Ochenaid o ryddhad iddynt.

1.57am

Mae’n dechrau ymddangos bod Plaid Cymru wedi cadw eu seddi, os yw’r ail-gyfri yn Arfon yn cynnal mantais Hywel Williams.

Mae Plaid wedi cadw Dwyrain Caerfyrddin.

Neiil Hamilton UKIP wedi cael 985 pleidlais yn unig!

1.50am

Llafur yn cadw Torfaen, wth gwrs. A Dwyrain Casnewydd, ond roedd rywfaint o ansicrwydd am yr ail.

1.47am

Mae Betfair yn dweud bod Jeremy Corbyn bellach yn fwy tebygol o fod yn Brif Weinidog na Theresa May.

1.41am

Llafur yn cadw De Clwyd yn ddiffwdan. Roedd rhai wedi dadlau y byddai yn agos.

1.39am

Dyffryn Clwyd – Llafur yn cipio’r sedd gan y Ceidwadwyr.

1.36am

Ychydig dros 100 o bleidleisiau ynddi yn Arfon. Wff!

1.34am

Y Ceidwadwyr bellach yn teimlo bod Aberconwy a Gogledd Caerdydd wedi eu colli.

1.31am

Ail-gyfri yn Arfon? Wedi clywed bod pethau ychydig yn fwy gobeithiol yno i Blaid Cymru, ond mae hyn yn awgrymu bod pethau’n dynn iawn o hyd.

1.30am

Gogwydd anferth i Lafur yn Tooting. Sedd a bleidleisiodd i aros yn y refferendwm Ewropeaidd, sedd ifanc, sedd ddinesig. Gallai’r Ceidwadwyr golli llond dwrn o seddi yn Llundain.

1.18am

Mae’n debyg bod y Ceidwadwyr bellach yn credu na fyddwn nhw’n cael mwyafrif.

1.15am

Llafur yn cipio Rutherglen and Hamilton West oddi ar yr SNP. Gogwydd anferth o 16% tuag atynt.

1.13am

Wrecsam – Llafur yn cadw. Dyma brif sedd darged y Ceidwadwyr yng Nghymru. Canlyniad arwyddocaol iawn.

1.12am

Llanelli – Nia Griffith wedi cadw’r sedd, Ceidwadwyr yn ail, a Plaid Cymru’n drydydd.

1.09am

Mae’n debyg bod sedd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, ym Mro Morgannwg dan fygythiad.

1.07am

Mae Daran Hill wedi awgrymu y byddai colli Arfon i ddyn di-Gymraeg o Lundain yn ergyd ofnadwy i Blaid Cymru, i’w gymharu â Gwynfor Evans yn colli Caerfyrddin.

1.01am

Beth sydd wedi mynd o’i le i Blaid Cymru? Y pwyslais cyson ar yr ornest rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, yn wir. Ond mae’n amlwg bod sosialaeth Corbyn wedi apelio at yr un math o bobl fyddai fel arfer yn pleidleisio dros Plaid Cymru.

1am

Pethau’n dynn iawn yng Ngheredigion rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

12.54am

Mae Llafur wedi cadw Darlington. Dyma sedd yr oedd y Ceidwadwyr wedi disgwyl ei chipio, ond mae Llafur wedi cynnyddu eu mwyafrif. Canlyniad arwyddocaol dros ben.

12.50am

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu bod eu cyn-arweinydd Nick Clegg wedi colli ei sedd.

12.48am

Da ni’n clywed am seddi nawr nad oedd unrhyw son amdanynt cyn yr etholiad. Mae Llafur bellach yn trafod Aberconwy, sedd Guto Bebb.

12.44am

Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn etholiad “amhosib” i Blaid Cymru, gyda ffocws mawr ar Corbyn a May.

12.42am

Mae’n debyg bod Boris Johnson eisoes wedi cysylltu ag ambell un yn holi a ddylai herio Theresa May am yr arweinyddiaeth os yw pethau’n mynd o chwith i’r Ceidwadwyr heno.

12.35am

Mae ymgeisydd Llafur yn teimlo ei fod yn agos yn Nwyrain Caerfyrddin, gyda llaw…

12.30am

Os yw Plaid Cymru mewn peryg o golli Arfon, pa mor saff yw Dwyrain Caefyrddin? Trafodwch.

12.20am

Awgrymiadau bod Ceredigion bellach yn ras pedair ceffyl rhwng y Ceidwadwyr, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Plaid Cymru.

12.17am

Neges gan aelod Plaid Cymru yn Arfon yn dweud ei fod yn debygol eu bod wedi colli’r sedd.

12.13am

Mae’r Ceidwadwyr yn credu y gallen nhw ddod yn ail yn Llanelli. Efallai mai malu awyr yw hynny ond fe fyddai yn dyfnhau’r duwch i Blaid Cymru.

12.11am

Roedd yr ychydig seddi cyntaf yn well i’r Ceidwadwyr nag oedd y pol wrth adael yr orsaf bleidleisio wedi ei awgrymu, ond roedd Gogledd Swindon yn waeth.

12.03am

Mae nifer uchel wedi pleidleisio yn ardaloedd Llafur Arfon. Mae hynny’n gwneud Plaid Cymru yn nerfus.

12.01am

Mae’r Ceidwadwyr yn yr Alban yn teimlo eu bod nhw wedi ennill bob sedd ar hyd ffin deheuol y wlad.

11.57pm

Nid Theresa May yw’r unig arweinydd benywaidd sy’n wynebu dyfodol anodd.

Os nad yw Plaid Cymru wedi ennill Mon, a heb ennill tir o gwbl yn Rhondda a Blaenau Gwent, fe allai fod yn ergyd sylweddol i arweinyddiaeth Leanne Wood.

11.52pm

Y gred bellach yw na fydd pethau gynddrwg i’r Ceidwadwyr ag oedd y pol am 10pm yn ei awgrymu, ond na fydd gan Theresa May lawer o fwyafrif.

Un damcaniaeth yw bod y pleidleisiau post yn gogwyddo ymhellach at y Ceidwadwyr nag oedd pleidleisiau’r rheini aeth i’r blwch pleidleisio.

Mae sion bod y Blaid Lafur wedi cynnyddu eu mwyafrif yn Rhondda.

11.48pm

Mae’r Ceidwadwyr yn credu eu bod wedi colli Gwyr, a nad oes gobaith bellach o gipio Pen y Bont ar Ogwr na seddi Casnewydd.

11.43pm

Rywfaint o newyddion am y Ceidwadwyr. Maent yn pryderu eu bod wedi colli Gwyr, Gogledd Caerdydd a Dyffryn Clwyd. Gobeithio cipio rhai seddi yn y gogledd ddwyrain serch hynny.

11.37pm

Nid blog byw am Blaid Cymru yw hwn, ond mae digwydd bod llawer o newyddion amdanynt yn ein cyrraedd ni ar hyn o bryd!

Y sion o Blaenau Gwent yw bod Plaid Cymru wedi cael crasfa.

11.36pm

Mae sion y gall Plaid Cymru fod mewn trafferthion yn Arfon. A fydd noson siomedig yn troi’n un trychinebus iddynt?

Mae Ieuan Wyn Jones wedi dweud wrth Golwg 360 bod y Blaid Lafur wedi gwneud yn “well na’r disgwyl” ym Môn.

11.30pm

Ymddengos nad yw Plaid wedi dod yn agos yn y Rondda chwaith.

11.26pm

Mae Llafur yn credu eu bod nhw wedi cadw Ynys Môn. Mae’n rhaid nad yw’r bleidlais yn arbennig o agos os ydyn nhw’n datgan hynny mor gynnar. Siomedig iawn i Blaid Cymru.

11.22pm

Mae ymgeisydd y Blaid Werdd yng Ngheredigion, Grenville Ham, yn awgrymu bod ymgeisydd Plaid Cymru, Ben Lake, wedi cipio Ceredigion.

Mae’n rhy gynnar o laweer i wybod hynny wrth gwrs.

11.18pm

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud eu bod nhw’n credu bod y pol wrth adael yr orsaf bleidleisio yn anghywir. Nid yw’n cyd-fynd â’u polau piniwn preifat eu hunain.

11.15pm

Rhagor o’r Alban – dyw Llafur yr Alban ddim yn disgwyl cipio cymaint o seddi oddi ar yr SNP ag y mae’r pol yn awgrymu, chwaith.

Mae’n debyg bod yr SNP yn disgwyl colli tua 10 o seddi, gyda 10 arall yn agos.

11.23pm

Roedd Theresa May wedi disgwyl cefnogaeth pleidlais UKIP.

Oedd pynciau megis y dreth ar orddryswch a hela llwynogod wedi gyrru nifer sylweddol o’r pleidleiswyr yma yn ôl i Lafur?

11.10pm

Roedd y pol wrth adael y blychau pleidleisio yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn gwneud yn well yng ngogledd-orllewin Cymru. Felly gall Wrecsam, Delyn, Alyn a Dyfrdwy a De Clwyd fod yn y fantol o hyd.

11.06pm

Mae’n werth nodi bod y gogwydd o Lafur i’r Ceidwadwyr yn Newcastle Central yn llai nag oedd y pol wrth adael yr orsaf bleidleisio yn ei awgrymu - 2% yn hytrach na 7%.

11.02pm

Mae’r canlyniad cyntaf wedi cyrraedd – Llafur wedi cadw Canol Newcastle. Cynnydd mawr ym mhleidlais Llafur, cwymo mawr ym mhleidlais UKIP.

11pm

Os yw’r pol yn gywir, efallai y bydd angen parhau â’r blog yma am rai wythnosau – fe fydd y llanast yma’n cymryd misoedd i’w ddatrys.

10.54pm

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu na fydd clymblaid arall. Anodd eu beio o bosib ar ôl yr un diwethaf. Ond pwy wedyn fydd yn rhedeg y wlad os nad yw’r Ceidwadwyr wedi sicrhau mwyafrif?

10.52pm

Mae yna deimlad cynyddol ymysg sylwebyddion yn yr Alban na fydd Llafur yn gwneud cystal yno ag y mae’r pol wrth adael y blwch pleidleisio yn ei awgrymu.

10.49pm

Rwy’n clywed y gall nifer o golledion y Ceidwadwyr ddigwydd yn Llundain.

Dyma’r seddi ifanc, dinesig a gefnogodd Aros yn y refferendwm y llynedd lle y gallai’r Blaid Lafur fod yn gryf.

10.44pm

Os yw’r pol yn gywir yna mae Brexit caled yn mynd i fod yn llawer anoddach i’r Ceidwadwyr ei wireddu, a gobeithion yr SNP ar gyfer refferendwm ar Annibyniaeth yn yr Alban yn pylu yn ogystal.

10.36pm

Roedd y bleidlais bost yn uchel yng Ngheredigion.

10.42pm

Mae George Osborne wedi dweud bod y Ceidwadwyr yn wynebu noson ‘cwbl drychinebus’. Efallai na lwyddodd i guddio’r wen ar ei wyneb…

10.35pm

Roedd yna rywfaint o bryder ym Mhlaid Cymru am Ddwyfor Meirionnydd ychydig wythnosau yn ôl, ond ymddengys bod y pryderon rheini wedi lleddfu erbyn hyn.

Does dim sion y gall Dwyrain Caerfyrddin fod yn y fantol.

10.30pm

Does dim disgwyl i Blaid Cymru gipio Rhondda na Blaenau Gwent ar hyn o bryd, ond mae oriau o gyfri o’n blaenau ni.

Mae pethau’n ansicr yn Ynys Môn, ond llygedyn o obaith yng Ngheredigion.

10.22pm

Felly beth yw oblygiadau hyn i Gymru?

Mae’n awgrymu na fydd y Ceidwadwyr yn ennill Wrecsam a Phen y Bont yr Ogwr, ac y gallai Llafur ryng-gipio Gwyr.

Nid yw’n awgrymu y bydd unrhyw newid yn nifer seddi Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

10.20pm

Ydi’r cyn-Ganghellor George Osborne yn difaru peidio sefyll eto? Fe allai fod wedi bod yn Brif Weinidog wap.

22.18pm

Mae’n bosib y bydd angen aelodau o Ogledd Iwerddon ar y Ceidwadwyr er mwyn aros mewn grym. Fe fyddai hynny’n eironi blasus wedi i’r cyfryngau a’r prif bleidiau oll anwybyddu Gogledd Iwerddon drwy gydol yr ymgyrch.

22.16pm

Roedd y pol hefyd yn newyddion drwg i’r SNP – mae’n dweud y byddant yn colli 22 sedd, llawer mwy na’r disgwyl.

10.14pm

Mae gwerth y bunt wedi syrthio’n gyflym wedi’r datguddiad bod disgwyl i’r Ceidwadwyr golli seddi.

10.13pm

Ymddengys bod ei thaith i fyny Cader Idris wedi gadael Theresa May yn wallgofyn, nid yn fardd.

10.07pm

Os yw’r pol yn gywir – ac fe allai’r Ceidwadwyr sicrhau mwyafrif o hyd – mae’n weddol drychinebus i Theresa May. A fydd rhaid iddi ymddiswyddo yn y bore?

Mae’n anodd gwybod a fydd pob sedd ar draws y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu’r sampl sydd wedi ei gasglu yma.

10.05pm

Mae’r pol wrth adael yr orsaf bleidleisio yn awgrymu na fydd Plaid Cymru yn cynyddu nifer eu seddi. Ond cofiwch mae pol ar draws y Deyrnas Unedig yw hwn ac mae’n anhebygol o adlewyrchu beth sy’n digwydd mewn seddi unigol.

10.02pm

Wel, mae’r Ceidwadwyr yn mynd i fod y blaid fwyaf ond does dim disgwyl iddyn nhw gael mwyafrif. Os yw’n gywir, mae hon am fod yn noson llawer mwy diddorol na’r disgwyl.

10pm

Ceid: 314 Llaf: 266 SNP: 34 Dem Rhydd: 14

9.51pm

Beth fyddai yn noson dda i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru?

Cadw Ceredigion, sedd eu harweinydd yng Nghymru, Mark Williams.

Roedd rywfiant o obaith ar y dechrau o gipio Canol Caerdydd oddi ar y Blaid Lafur, ond ymddengys bellach mai dyna’r union fath o sedd ifanc, ddinesig lle bydd Llafur yn gwneud yn dda.

9.30pm

Mae Ben Page o IPSOS Mori newydd ddatgan bod canlyniad y ‘pôl wrth adael yr orsaf bleidleisio’ (exit poll yn yr iaith fain) yn “hynod ddiddorol”. Canlyniad agos, efallai? Fe fydd yn cael ei ddatgelu am 10yh.

9.23pm

Sut fyddai noson dda yn edrych i Blaid Cymru?

Mae angen iddynt gipio sedd yn rywle – unrhywle a dweud y gwir.

Ynys Môn yw targed #1. Gydag un o’u gwleidyddion mwyaf profiadol, Ieuan Wyn Jones, yn camu’n ôl i ganol yr ornest, y sedd yn saff yn nwylo’r blaid yn y Cynulliad, a mwyafrif o 500 pleidlais yn unig gan Lafur, fe fyddai yn siom aruthurol i Blaid Cymru os na allen nhw gipio hon.

Siom digon mawr, efallai, i orfodi newid arweinydd?

Os ydyn nhw’n cipio Môn, fe fydd yn rhoi sglein ar etholiad anodd yn yr un modd ac y gwnaeth cipio Rhondda y llynedd.

Dydw i ddim yn siwr faint o obaith sydd o gipio seddi eraill, a hynny’n rhannol am nad yw cefnogaeth Llafur wedi chwalu fel y disgwyl na chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi fel y disgwyl.

Ar ddiwedd mis Ebrill, y dyfalu oedd y byddai yn bosib cipio Rhondda, Blaenau Gwent a Llanelli ond nad oedd ryw lawer o obaith yng Ngheredigion.

Fel arall mae hi wedi bod, gyda cefnogaeth Llafur yn ryw fath o galedu yn eu seddi traddodiadol tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynd am yn ôl.

Y cwestiwn mawr yw – faint o adnoddau mae Plaid Cymru wedi ei fuddsoddi yng Ngheredigion, gan feddwl ar ddechrau’r ymgyrch nad oedd yn sedd arbennig o addawol?

9.10pm

Canlyniad cynta’r noson i chi – Etholiad Ffug Ysgol Bro Teifi, yn ne Ceredigion:

1. Plaid Cymru

2. Llafur

3. Ceidwadwyr

4. UKIP

5. Y Blaid Werdd

6. Democratiaid Rhyddfrydol

Canlyniad hynod siomedig i’r Blaid Ryddfrydol yn un o’u cadarnleoedd! Maen amlwg nad yw rhai o’r rhieni wedi llwyddo i drosglwyddo eu teyrngarwch gwleidyddol i’w plant…

8.59pm

Pa rai yw’r seddi i’w gwylio yng Nghymru? Dyma fy rhai i:

Ynys Môn – Llafur i Blaid Cymru/Ceidwadol

Rhondda – Llafur i Blaid Cymru

Ceredigion – Democratiaid Rhyddfrydol i Blaid Cymru

Wrecsam – Llafur i Ceidwadol

Pen y Bont ar Ogwr – Llafur i Ceidwadol

Gorllewin Casnewydd – Llafur i Ceidwadol

Gwyr – Ceidwadol i Llafur

De Clwyd – Llafur i Ceidwadol

Delyn – Llafur i Ceidwadol

O’r rhain, yr unig rai ydw i’n credu sy’n debygol o newid dwylo yw Wrecsam a Pen y Bont ar Ogwr.

Ar noson wael iawn i’r Blaid Lafur, gallai Alun a Glanau Dyfrdwy, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, a Dwyrain Casnewydd fod yn y fantol.

8.25pm

Tua pryd fyddwn ni’n gwybod sut noson fydd hi i Jeremy Corbyn a Theresa May? Tua 1.30am mae’n debyg, pan fydd nifer o seddi trefol Llafur – gan gynnwys Wrecsam – yn datgan eu canlyniadau.

Dyma’r union fath o seddi y mae Llafur yn pryderu y gallent fod yn wan ynddynt (tra bod disgwyliad y gallent bentyrru pleidleisiau yn y seddi ifanc, dinesig).

Os yw’r rhain yn mynd i fynwes y Ceidwadwyr, fe fydd hi’n noson hir i dîm Corbyn. Eu cadw nhw a bydd May yn dechrau gofyn pam alwodd hi’r etholiad yn y lle cynta’!

8.14pm

Rwy’n rhagweld na fydd yr un blaid yn arbennig o fodlon gyda’u canlyniadau dros nos. Ni fydd y Ceidwadwyr yn llwyddo i sicrhau y mwyafrif anferth yr oedden nhw wedi gobeithio amdano ar ddechrau’r ymgyrch; fe fydd Llafur yn colli seddi ond yn cael noson ychydig yn well na’r disgwyl (gan olygu eu bod nhw’n styc efo Corbyn, er gwell neu waeth); a bydd y pleidiau eraill (SNP, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP) yn profi noson braidd yn siomedig, gan aros yn yr unfan neu fynd am yn ôl.

Dim ond dyfalu ydw i wrth gwrs – os ydych chi am weld eich plaid chi’n gwneud yn well na’r disgwyl, mae yna ddwy awr ar ôl i bleidleisio!

8.12pm

Dyma fy unfed blog ar ddeg byw gwleidyddol ar gyfer golwg360. Ond rwy’n mynd i wneud rywbeth heno nad ydw i erioed wedi ei wneud o’r blaen – blogio yn Gymraeg a Saesneg yr un pryd! Fe fydd y blog Saesneg draw at Nation.Cymru. Ond fe fyddaf yn gwobrwyo eich dealltwriaeth o iaith y nefoedd drwy sicrhau bod y ‘goss’ yn eich cyrraedd chi’n gyntaf, wrth gwrs!

8pm

Croeso i flog byw Etholiad Cyffredinol San Steffan 2017 Golwg 360! Dyna frawddeg nad oeddwn i’n disgwyl ei ysgrifennu ryw saith wythnos yn ôl. Tydi’r amser wedi hedfan dwch?

Fe fyddwn ni’n dod a’r holl wybodaeth i chi o bob cwr o Gymru, a hefyd yn cadw golwg ar beth sy’n digwydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr.

Cofiwch bod modd i chi gymryd rhan yn y sgwrs, naill ai drwy adael sylw fan hyn, drwy yrru ebost ataf ar ifanjones@gmail.com, drwy yrru neges i mi ar Twitter @IfanMJ neu yrru neges at @Golwg360.

BLOG: Etholiad wyneb i waered yw’r etholiad rhyfedd hwn

Cyhoeddwyd Mehefin 4, 2017 gan Cymru.

Tagiau: Aled G Jôb, blog, etholiad


Mae pethau wedi newid cymaint i Theresa May, meddai Aled G Job…

Gyda dyddiau’n unig yn weddill bellach yn yr Etholiad Cyfredinol, teg fyddai mentro dweud mai dyma’r etholiad mwyaf bizarre a welwyd yng ngwledydd Prydain ers blynyddoedd mawr.

Ar gychwyn yr ymgyrch, roedd hi’n ymddangos mai cael ei choroni yn hytrach na chael ei hethol fyddai tynged y Prif Weinidog Theresa May, gyda’r polau piniwn yn rhoi mantais sylweddol o 20 pwynt a mwy iddi dros arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Gyda May yn destun lled-addoliaeth cyhoeddus ar y dechrau o’i gymharu gyda’r canfyddiadau cyffredinol negyddol am Corbyn,  a 200 o’i aelodau seneddol ei hun yn wrthwynebus iddo, y dybiaeth gyffredinol oedd y byddai’r ymgyrch yn un o’r rhai mwyaf unochrog a diflas erioed. Ond, mae geiriau Harold Wilson ” A week is a long time in politics” yn ymddangos yn fwy proffwydol nag erioed heddiw.

Pwy mewn difri calon a ddychmygai y byddai Corbyn yn profi’n ymgyrchydd mor ddygn ac egniol ac yn ennill yr ymgyrch ei hun beth bynnag fydd y canlyniad dydd Iau nesaf?

Gyda ambell bol piniwn yn dangos fod rhai o’i bolisiau sylfaenol megis adfer addysg prifysgol rhad ac am ddim, gwladoli’r rheilffyrdd a chychwyn trethu pobl o’r newydd ar drothwy o £80,000 y flwyddyn yn hynod boblogaidd, mae Corbyn wedi llwyddo i gipio’r dychymyg cyhoeddus mewn modd na welwyd yng ngwleidyddiaeth Gwledydd Prydain ers 20 mlynedd a mwy.

I raddau mae Jeremy Corbyn wedi gallu troi etholiad am Brexit yn etholiad am faterion bara a chaws, ac mae hynny’n sicr yn fanteisiol iddo.

Pwy fyddai’n meddwl?

A phwy fyddai’n meddwl y byddai Theresa May yn cynnal ymgyrch mor drybeilig o sal, yn gwneud sawl tro pedol a diethrio rhai o’i chefnogwyr craidd selocaf gyda’i pholisi o werthu tai pobol yn gyfnewid am ofal cartref?

Ac wrth gwrs, roedd ei phenderfyniad i beidio cymryd rhan yn nadl yr arweinwyr ar  y teledu  hefyd yn fodd i gynyddu’r teimlad cyhoeddus mai arweinydd gwan a di-asgwrn cefn yw Theresa May mewn gwirionedd, yn gwbl groes i’r mantra hwnnw am fod yn arweinydd cryf a sefydlog.

Pwy fyddai’n rhagweld y byddai pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, a hwythau mor obeithiol o fanteisio ar y 48% a bleidleisiodd o blaid aros yn yr UE y llynedd, yn cael ei chwalu i’r ffasiwn raddau?

Mae’n nodwedd od mewn etholiad hynod od,  bod yr unig blaid sy’n sefyll yn gadarn yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac a fyddai wedi disgwyl dibynnu ar gefnogaeth hyd at hanner y boblogaeth, wedi cael eu gwasgu cymaint gan y pleidiau eraill.

A phwy fyddai’n dychmygu am funud y gallai plaid genedlaethol Yr Alban, yr SNP, fod mewn sefyllfa i fod yn rhan o glymblaid yn Llundain pe bai’n senedd grog ddydd Iau? A fyddan nhw’n barod i ffeirio’r nod o annibyniaeth er mwyn cael rhannu grym yn Llundain?

Problem Nicola Sturgeon

Cur pen posib i Nicola Sturgeon ond a fyddai hi mewn difrif yn gallu gwrthod cynnig felly a hithau’n wleidydd mor ardderchog sydd ben ac ysgwyddau uchben pob gwleidydd arall yn yr ynysoedd hyn bellach? Ai hi yw’r un i achub Ynys Prydain rhag Brexit dinistriol?

Mae’r etholiad hwn fel petai wedi troi popeth wyneb-i-waered dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n ddigon i chwalu pen dyn yn llwyr- ac mae yna wythnos i fynd o hyd!

Ond, mae’n bosib mai’r digwyddiad sydd wedi cael yr effaith mwyaf ar yr ymgyrch hyd yma yw’r bomio dychrynllyd a ddigwyddodd ym Manceinon( gyda digwyddiad tebyg hefyd yn Llundain dros y Sul).

Rhoddodd y bomio derfyn ar unrhyw obeithion oedd gan y Ceidwadwyr i redeg ymgyrch ymffrostgar, gung-ho Brecsitaidd gan gorddi teimladau yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd gan y byddai hynny yn gwbl amhriodol o dan yr amgylchiadau.

Ymhellach, roedd y digwyddiad hwn yn fodd i daflu goleuni o’r newydd ar nifer o fethiannau sylfaenol yn yn ystod teyrnasiad Theresa May fel Ysgrifennydd Cartref. Yn sylfaenol, roedd y bomio’n gyfrwng i ddangos y gwirionedd am Brydain heddiw: lle bregus, ofnus, ansicr a di-gyfeiriad.

Tybed a yw’r bomio wedi dwysau’r teimlad hwnnw sydd wedi bod yn cyniwair ym meddwl  cyhoedd dros y misoedd diwethaf mai gambl anferthol a naid i’r tywyllwch yw Brexit yn y bon, ac mewn sefyllfa felly eu bod wedi penderfynu yn eu doethineb mai senedd grog fyddai’r canlyniad gorau i bawb ddydd Iau nesaf?

Efallai mai’r synnwyr bellach yw y byddai clymblaid sy’n cynnwys tri neu bedwar o arweinwyr yn llawer mwy tebygol o geisio datrysiad cymodlon, synhwyrol, a rhesymol gyda’r Undeb Ewropeaidd na gadael y cwbl yn nwylo sigledig Theresa May.

A allwn ni gredu’r polau piniwn?

Mae eraill yn wfftio’r polau piniwn diweddaraf gan amau bod yna rymoedd tywyll ar waith yma er mwyn manipiwleiddio’r farn gyhoeddus a dychryn cefnogwyr traddodiadol y Ceidwadwyr i droi allan ddydd Iau er mwyn rhwystro Jeremy Corbyn.

Beth bynnag am hynny, mae greddf a phrofiad yn dueddol o ddweud wrth ddyn ei bod hi’n annhebyg iawn y bydd “Middle England”- y bloc anferthol ceidwadol hwnnw sy’n penderfynu pob etholiad cyffredinol- yn troi cefn ar Theresa May ddydd Iau. Ond wedyn, pwy a wyr erbyn hyn a ninnau’n byw mewn cyfnod mor gyfnewidiol ac ansicr.

Mae’n debyg y bydd y canlyniad yn dibynnu’n llwyr ar faint o gefnogwyr y ddwy brif blaid a gaiff eu sbarduno i fynd i bleidleisio ddydd Iau. Mae ystod canrannau cefnogaeth y Ceidwadwyr mewn polau dros yr wythnosau diwethaf yn amrywio o 42% i 49% o’r etholwyr a chanrannau Llafur yn amrywio o 33% i 38%.

Gyda’r ffasiwn ystod hwn, gallai mantais y Ceidwadwyr mewn seddi fod yn 120 ar y naill law neu fe alle nhw golli eu mantais seddau yn llwyr(Colli 12 sedd+ a chymryd y bydd Llafur yn cadw gafael ar eu seddau presennol) ar y llaw arall. Pe bai Llafur yn gallu cyrraedd 38%, byddai hynny’n fwy na thebyg yn gwarantu senedd grog.

Yn y model a ddefnyddiwyd gan Yougov i fesur y pleidleiswyr hyn, rhagwelir y bydd 51% o bobl ifanc rhwng 18 a 25 yn troi allan i bleidleisio dros y Blaid Lafur. Cofier bod hyd at 2 filiwn o’r bobol ifanc hyn wedi cofrestru o’r newydd i bleidleisio, a dyna’r rheswm y mae’r bwlch a ddangosir gan Yougov rhwng y ddwy brif blaid mor dynn (3%).

Mae’r polwyr eraill yn dueddol o amau a fydd y bobl ifanc hyn yn ddigon ymroddedig i droi allan i’r graddau hyn ddydd Iau, ac yn rhagweld felly mai 35% o’r garfan hon fydd yn bwrw pleidlais yn y pendraw, gan olygu y bydd gan y Ceidwadwyr fantais o tua 10% i 15% ddydd Iau.

Mi ddywedodd y Ffrancwr Jean Jacques Rosseau unwaith mai dim ond yn ystod etholiadau cyffredinol yr oedd pobl Lloegr yn rhydd mewn gwirionedd( ac mi fyddai ei ddadl o yr mor berthnasol inni’r Cymry hefyd mae’n debyg).

“Unwaith y maent wedi dewis eu cynrychiolwyr seneddol, maent yn dychwelyd i fod yn gaethweision iddynt,” meddai.

Yn sicr, mae’r cyfnod hwn yn teimlo’n un ymryddhaol iawn a llawn gobaith ar sawl ystyr, Mae yna deimlad bod llawer o’r hyn y mae ein gwleidyddion wedi bod yn ei bedlera ers sawl blyddyn bellach wedi cael ei herio’n gynyddol dros yr wythnosau diwethaf ac mae hynny’n beth llesol iawn i ddemocratiaeth.

Does ond gobeithio y gellid herio barn Rousseau ar ol dydd Iau a pharhau i gadw golwg barcud ar ein cynrychiolwyr wrth iddynt fynd ati i reoli ar ein rhan dros y blynyddoedd nesaf.