RSS

Golwg360

MwyCau 

Adolygiad – Me Before You

Cyhoeddwyd Mehefin 7, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.


Rhiannon Williams
Rhiannon Williams sy’n adolygu’r ffilm sy’n addasiad o nofel Jojo Moyes…

Ymysg y ffilmiau am archarwyr a’r ymrafael rhwng da a drwg sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd fe wyliais un oedd yn gwrthgyferbynnu â’r ffilmiau hyn, sef y ddrama ramantaidd Me Before You.

Mae’r ffilm wedi’i seilio ar nofel fwyaf adnabyddus Jojo Moyes o’r un teitl sy’n dilyn stori Louisa neu Lou Clark (Emilia Clarke – seren Game of Thrones), cymeriad lliwgar ac optimistaidd sy’n cael swydd fel gofalwr i Will Traynor (Sam Claflin – a ymddangosodd yn yr Hunger Games), dyn cefnog, sy’n cwadriplegig o ganlyniad i ddamwain feic modur.

Er eu bod yn perthyn i ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol mae perthynas unigryw yn datblygu rhyngddyn nhw sy’n arwain at gariad gan newid edrychiad y ddau ar y byd.

Cyniga’r ffilm chwa o awyr iach am ei bod wedi’i hysgrifennu a chyfarwyddo gan fenywod ac mae un o’r prif gymeriadau’n fenyw.

Eto, gwrthgyferbynna hyn â ffilmiau tebyg megis The Fault in Our Stars a The Notebook a gafodd eu cyfarwyddo gan ddynion, sydd hwyrach yn dangos bod Hollywood, o’r diwedd, yn symud at y cyfeiriad cywir o degwch rhwng y ddwy ryw yn y gweithle.

Gan nad wyf wedi darllen y llyfr (eto) gallaf feirniadu’r ffilm ar ei phen ei hun. Ceir cydbwysedd gwych rhwng y defnydd o hiwmor ac agweddau trasig trwyddi draw gan wneud y berthynas rhwng Lou ac Will yn hynod o gredadwy.

Er nad oes llawer o gynnwys gweledol yn y ffilm mae ystumiau wynebol y ddau brif gymeriad yn rhywbeth i glodfori. Un o olygfeydd mwyaf hudolus y ffilm yw pan mae Lou yn eistedd ar gôl Will yn ei gadair olwyn er mwyn dawnsio ag ef, ac wrth i’r camera ddilyn y ddau’n troelli, gwelwn weddill y parti’n pylu o’u hamgylch.

Bellach, mae Moyes wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu ysgrifennu dilyniant i’r nofel a ffilm o’r enw After You, sy’n newyddion arbennig ar ôl iddi dorri calonnau pawb sydd wedi darllen y stori.

Rhybudd: mae’r diweddglo yn cael ei drafod isod, felly peidiwch â darllen ymlaen os nad ydych am wybod beth sy’n digwydd.

Er hyn, mae’r ffilm wedi derbyn cryn dipyn o sylw am y rhesymau anghywir gan y gymuned anabl. Nid yw’r cariad rhwng y ddau’n ddigon i Will newid ei feddwl ynghylch hunanladdiad cymorthedig yr oedd yn dymuno ers dechrau’r ffilm ac felly erbyn clo’r ffilm mae Will yn dewis marw.

Does dim amheuaeth ei bod hi’n hen bryd i’r celfyddydau normaleiddio anabledd ond oherwydd y diweddglo a’r wedd Hollywoodaidd ar fywyd ac anabledd mae’r ffilm yn argyhoeddi pobl ei bod hi’n well dewis marw na byw bywyd gyda nam neu anabledd.

Yn ogystal, unwaith eto mae’r diwydiant ffilm wedi rhoi’r rôl i actor abl lle nad oes angen am nad yw’r ffilm yn canolbwyntio ar ddirywiad neu drawsnewidiad y cymeriad, megis y ffilm The Theory of Everything, gan ddiffinio cymeriad Will gan ei anabledd yn unig.

Fodd bynnag, anaml y gwelwn ffilmiau sy’n trafod ewthanasia heb sôn am ei drafod mewn modd mor sensitif ac ystyrlon, sydd eto’n gam mawr i Hollywood.

Er ei bod hi’n ffilm ddadleuol cyniga ochr ffres ar y stori ramantus draddodiadol. Yr unig gyngor sydd gennyf yw i chi ei gweld wrth wisgo masgara waterproof â bocs o hancesi wrth eich ochr.

Marc: 6/10

Pod Pêl-droed Eisteddfod yr Urdd


Podledliad pêl-droedaidd ei naws sydd gennym ni i chi o faes Eisteddfod yr Urdd yn Fflint heddiw, wrth i’r sylw droi at ymgyrch Cymru i ddod yn Ewro 2016.

Owain Schiavone ac Iolo Cheung sydd yn ôl fel yr arfer, wrth iddyn nhw fwrw golwg ar y garfan derfynol a ddewisodd Chris Coleman i fynd i Ffrainc.

Yn ymuno â nhw mae Owain Young, sydd yn rhedeg cwmniau dillad Shwldimwl a peldroedcymru.com, ac yn gefnogwr brwd o’r tîm cenedlaethol.

Mae’r tri yn trafod cynlluniau a gobeithio ar gyfer yr Ewros, ac mae Owain hefyd yn datgelu pa grysau sydd wedi bod yn gwerthu fel slecs ar faes yr Urdd yr wythnos hon!

Pod Eisteddfod yr Urdd – Dydd Mawrth

Cyhoeddwyd Mai 31, 2016 gan Cymru.

Tagiau: Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016


Dyma ni wedi dod at derfyn yr ail ddiwrnod yma yn Eisteddfod yr Urdd 2016 – felly mae’n amser am bodlediad arall o’r maes yn Fflint!

Ddoe fe gawson ni sgwrs â’r actores a’r diddanwr Caryl Parry Jones, a’r darlithydd Dr Heledd Iago, ill dwy yn barod i frolio’u hardal leol sydd yn cynnal yr ŵyl ieuenctid eleni.

Yn ymuno ag Iolo Cheung ar y pod dydd Mawrth mae Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a phrif weithredwr yr Urdd Sioned Hughes.

Mae Anni wedi bod yn brysur eleni yn ei rôl newydd gan ymweld ag ysgolion o bob cwr o Gymru yn rhinwedd ei swydd, ac heddiw ar y maes fe fu hi’n cyfarch Mistar Urdd oedd yn dathlu’i ben-blwydd yn 40 oed.

Rydyn ni hefyd yn cael sgwrs â Sioned am ei rôl gymharol newydd, ei Eisteddfod yr Urdd cyntaf hi, a’r datblygiadau ar gyfer pobol ifanc gan gynnwys bar ar y maes ar ddiwedd yr wythnos.

Heb oedi ymhellach, dyma’r podlediad diweddaraf i chi:

Pod Eisteddfod yr Urdd – Dydd Llun

Cyhoeddwyd Mai 30, 2016 gan Cymru.

Tagiau: Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016, Pod Eisteddfod yr Urdd


Rydan ni bellach yn tynnu at derfyn y diwrnod cyntaf yma yn Eisteddfod yr Urdd – ac am ddiwrnod mae hi wedi bod yma yn y Fflint, gyda’r haul yn tywynnu a’r maes yn llawn bwrlwm plant a rhieni (ac yn bwysicach fyth, mae’r trefnwyr yn ein sicrhau ni nad oes ‘cam’ wedi bod yn y cystadlu eto!).

Dyma ni nôl felly ar gyfer Pod Eisteddfod yr Urdd cyntaf Golwg360 o’r wythnos, wrth i ni gael rhywfaint o flas ar beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen heddiw.

Yn ymuno ag Iolo Cheung ar y pod ddydd Llun mae dwy o ferched yr ardal – y gantores, actores a diddanwr amryddawn Caryl Parry Jones, sydd hefyd wedi bod yn Lywydd y Dydd, a’r darlithydd Dr Heledd Iago o Brifysgol Abertawe.

Mae rygbi a Sir y Fflint yn ddau beth y mae Caryl yn hoff iawn o’i drafod, ac mae’r ddau bwnc ymysg y rheiny sydd yn cael sylw wrth i ni eistedd i lawr yn yr haul am sgwrs, tra bod Heledd yn ein tywys ni drwy rai o weithgareddau’r Gwyddonle.

Gallwch hefyd ddarllen mwy o newyddion y maes, gan gynnwys holl ganlyniadau’r dydd ac enillwyr y gwobrau celf a chyfansoddi, ar ein tudalen Eisteddfodau.

Holi Steffan Alun: Y digrifwr cynhenid Cymreig

Cyhoeddwyd Ebrill 25, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.

Tagiau: digrifwr, Extravaganza Stand-yp, Gwerthu Allan, Steffan Alun


Steffan Alun
Daeth taith criw o ddigrifwyr Cymraeg i ben yn Theatr Richard Burton yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd nos Sadwrn, wrth iddyn nhw ffilmio noson olaf y daith, ‘Extravaganza Stand-yp’ ar gyfer rhaglen ‘Gwerthu Allan’ ar S4C. Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n holi un o’r digrifwyr, Steffan Alun ar ddiwedd y sioe am ei waith fel digrifwr yn Gymraeg a Saesneg.

Alli di ddisgrifio dy deimladau ar ddiwedd noson ola’r daith?

Gweld sêr yn llwyr. Aeth hwnna mor glou ac mor araf ar yr un pryd. O’dd e’n teimlo fel arholiad diwedd blwyddyn. Ni ’di bod ar daith yn paratoi’r stwff ’ma, ond hefyd ar y llaw arall, mae’n teimlo hefyd bo ni ’di bod yn datblygu comedi yn Gymraeg ers cymaint o amser fel bod e hefyd yn teimlo fel penllanw i hynny. ’Na’r gig gorau i fi gael erioed, fi’n credu, ond ’na’r caleta fi ’di gorfod gweithio ’fyd. O’dd e’n bleser gwneud y gig ond mewn ffordd, fi’n falch bod e drosodd.

Roedd nifer o gyfeiriadau at y Noson Lawen yn y sioe. Ydy comedi Cymraeg wedi symud ymlaen ac i ffwrdd o hynny erbyn hyn?

Fi’n credu. Fi’n credu bod comedi Cymraeg yn datblygu mor glou ar hyn o bryd. Ni ’di gweld comedi Saesneg yn datblygu dros ddegawdau. Mae e fel bod comedi Cymraeg yn dala lan mor glou. Pan ddechreuais i bum mlynedd yn ôl, y noson Gymraeg gynta wnes i, fi oedd yr unig ddigrifwr ar y bil. O’dd ’da ti rywun yn canu, rhywun yn dweud jôcs traddodiadol. Fi o’dd yr unig stand-yp yn dweud straeon doniol. Nawr, mae ’da ni noson fel hon lle mae ’da ni ddwsin o ddigrifwyr gwreiddiol Cymraeg yn gwneud eu stwff gwreiddiol eu hunain. Fi’n credu bo ni mewn sefyllfa gref iawn ar hyn o bryd.

Fel comedïwr yn Gymraeg a Saesneg, sut wyt ti’n addasu i weithio am yn ail rhwng y ddwy iaith?

I fod yn onest, sai’n ffindo’r peth yn rhy anodd. Fi’n ddwyieithog, fi’n rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’r deunydd fwy neu lai yn gwbl wahanol yn y ddwy iaith. Sai’n un sy’n cyfieithu o un i’r llall. Fi’n datblygu stwff gwreiddiol yn Gymraeg a stwff gwreiddiol yn Saesneg. Ond ar y llaw arall, mae e yn od. O’n i’n fan hyn heno, a fory, bydda i mewn clwb yn Brighton yn Saesneg lle fydd neb yn gwybod pwy ydw i. Mae e’n brofiad gwahanol, ond dyna hwyl y peth, wir.

Ydy e’n wendid gan rai comediwyr eu bod nhw’n cyfieithu eu deunydd?

Sai’n credu fod e’n wendid. Mae arddull pawb yn wahanol. Mae systemau pawb yn wahanol. I fi, dyw’n stwff Saesneg i, am ba reswm bynnag, ddim yn gweithio cystal yn Gymraeg. Ond fi’n credu, hyd yn oed tase fe yn gweithio, mae’n well ’da fi fynd ar ôl stwff Cymreig cynhenid, stwff sy ddim ond yn gallu digwydd yn Gymraeg. Mae ’na lot o rwystrau’n wynebu adloniant yn Gymraeg a fi’n credu i oresgyn y rhwystrau ’na fod rhaid manteisio ar y cryfderau. Un o gryfderau comedi Cymraeg yw bod llwyth o bynciau sy erioed wedi cael eu trafod ar lwyfan gan ddigrifwr o’r blaen. Mae’n bleser cael mynd ar ôl y pynciau hynny.

Wyt ti’n teimlo bod mwy o bwysau arnat ti pan wyt ti o flaen y camerâu?

Yn bendant. Os oes rhywbeth yn mynd o’i le mewn gig byw, alli di handlo’r peth a gwneud jôc a bron â bod torri ma’s o gymeriad a gwneud jôc am y peth. Os oes rhywbeth yn methu mewn stafell o flaen cynulleidfa, os yw’r gynulleidfa ddim yn chwerthin, rhaid i ti gadw at y sgript achos mae’r camerâu’n bwysicach. Y gynulleidfa gartre sy’n bwysig mewn gig fel hyn. Cwpwl o gannoedd oedd yn y stafell yn fyw, ond miloedd yn gwylio.

Bydd chwe rhaglen yn y gyfres newydd o ‘Gwerthu Allan’ ar S4C, ac fe fydd rhagor o raglenni’n cael eu ffilmio yn yr hydref. 13 o ddigrifwyr fydd yn cymryd rhan yn y gyfres i gyd.

Mae Steffan Alun yn cyflwyno’i noson Saesneg ei hun yn Tino’s ar Wind Street yn Abertawe. Fe fydd e’n ymddangos yn nosweithiau Goreuon Comedi Cymraeg ngŵyl gomedi Machynlleth y penwythnos nesaf (Ebrill 29-Mai 1) ynghyd â Phil Cooper, Karen Sherrard, Beth Jones, Geth Robyns, Chris Chopping, Jams Thomas a llawer mwy.

Palu ‘Lawr II: Amgueddfa Ryngweithiol Anarferol o Bethau wedi eu Colli, eu Torri a’u Hail-ddarganfod


Seran Dolma sydd yn trafod arddangosfeydd celf anarferol y bu hi’n ymweld â nhw gyda’i mab…

Yr artistiaid Lindsay Colebourne a Marged Pendrell, ar y cyd gyda National Theatre Wales sy’n gyfrifol am yr amgueddfa anarferol, gyda digwyddiadau trwy’r wythnos (11-14 Ebrill) yn Storiel ac yn Pontio ym Mangor.  Wele wefan Lindsay am ragor o fanylion.

Cnewyllyn yr amgueddfa yw’r casgliad o wrthrychau a ddarganfuwyd gan Lindsay wrth gloddio yn ei gardd yn Nant Peris – palfa archeolegol yn datguddio darnau llestri, esgidiau, teganau, poteli gwydr, gratiau tan, pennau gwely, hoelion a darnau o fetel o bob siâp.

Mae’n debyg bod y gwaddol yma yn dyddio o’r cyfnod 1871, pryd adeiladwyd y tŷ, hyd at y 1980au.

Mae Lindsay wedi ymchwilio i’r bobol oedd yn byw yn y tŷ, ac mae cerdyn yn yr amgueddfa yn cynrychioli pob un ohonynt.

Mae hefyd argraffnod o garreg fedd Owen Griffiths, a adeiladodd y tŷ, ac a laddwyd mewn damwain yn y chwarel (carreg calchfaen, nid llechen, fel oedd yr arferiad gyda’r sawl a laddwyd wrth gloddio am lechi).


Cyhoedd yn cyfrannu

Mae’r casgliad hwn ynddo’i hun yn gofnod diddorol a dadlennol, ond y peth sy’n anarferol am yr amgueddfa yw’r elfen ryngweithiol.

Gwahoddir y cyhoedd i ddarparu eu gwrthrychau eu hunain i’w hychwanegu at yr amgueddfa, ac i guradu arddangosfa wedi ei gyfansoddi o’r gwrthrychau a ddarparwyd o’r gloddfa yn Nant Peris Ynyd a’u gwrthrychau eu hunain.

I’r pwrpas yma, darperir amrywiaeth o gesys gwydr, bocsys matsis, ffiolau bach gwydr, droriau Fictorianaidd a bocsys arddangos.

Mae wedyn i fyny i’r cyfranogwyr ddewis gwrthrychau, eu sortio a’u didoli, a gwneud cysylltiadau rhyngddynt.

Mynd i fyd natur

Mae gwaith Marged Pendrell yn delio gyda byd natur yn hytrach na gwaddol dynol, ond mae’r gweithiau sydd ar ddangos yma yn canolbwyntio ar yr ysfa i gasglu, didoli, categoreiddio ac arddangos gwrthrychau.

Mewn cas wydr mae casgliad o gerrig, wedi eu dewis am eu siâp a’u lliw – mae ganddyn nhw i gyd rhywbeth yn gyffredin, ond mae pob un yn unigryw.

Mewn cas arall, mae casgliad o wrthrychau bychain, bregus, megis adenydd gwas y neidr, croen pryf copyn, codau hadau, darnau o blanhigion sych.

Mae’r rhain wedi eu cyfuno, eu labelu a’u harddangos gyda gwerthfawrogiad o’u prydferthwch, a’u natur fyrhoedlog, ond gyda hiwmor hefyd, sy’n tynnu sylw at ein tueddiad i ddeall popeth yn nhermau ein profiadau ein hunain.

Yng nghyd-destun yr amgueddfa anarferol, mae gwaith Marged yn dangos sut y gellir arddangos gwrthrychau fel bod y casgliad yn fwy ystyrlon na’r elfennau unigol ar wahân, ac yn gyfanwaith esthetig boddhaol.


Defnyddio dychymyg

Es i a fy mab tair oed i’r Amgueddfa Anarferol yn Storiel ddydd Mawrth, ac roedd o wrth ei fodd yn cael dewis darnau, gafael ynddyn nhw, a chreu eu harddangosfa ei hun.

Roeddwn i’n teimlo bod cael caniatâd i gyffwrdd yn y gwrthrychau yn bwysig iawn iddo ef – dydi edrych ar bethau y tu ôl i wydr ddim yn ddiddorol i blant ifanc iawn, fel y darganfyddais wrth ymweld â gweddill yr arddangosfeydd yn Storiel (sydd yn cynnwys pethau diddorol iawn, petai rywun heb blentyn bach i’w ddiddanu).

Tra’r oedd fy mab yn curadu casgliad o boteli gwydr, hoelion, codau hadau a chregyn lliwgar, cefais gyfle prin i feddwl.

Mae’r amgueddfa anarferol yn cynnig posibiliadau creadigol i’r ymwelydd gyfuno pethau i gyfleu ystyron newydd – i roi eu dadansoddiad eu hunain o’r casgliad.

Yn yr ystyr hyn, mae’n bodoli ar y ffin rhwng archaeoleg a chelf, rhwng dadansoddiad hanesyddol a dyfeisgarwch ffuglennol, rhwng tystiolaeth gadarn gorfforol, a ffantasi.

‘Sbwriel’ y dyfodol

Mae hefyd yn codi cwestiynau diddorol am werth gwrthrychau yn gyffredinol – ein hoffter ohonyn nhw, yr ysfa i’w casglu, a’r perygl o gael ein boddi ganddyn nhw.

Tomen sbwriel lled fodern, wedi’r cyfan, yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y digwyddiad.

Roedd yn gwneud i mi feddwl am ein tomennydd sbwriel cyfoes, ein safleoedd tirlenwi diwaelod yn llawn plastigion a chemegau gwenwynig.

Pa hwyl gaiff archeolegwyr y dyfodol wrth ail-greu ein ffordd ni o fyw? Annhebyg bydd ein sbwriel ni’r un mor ddeniadol ag yw gwaddol troad y ganrif i ni heddiw.

Byw gyda’r byg: Anturiaethau cynganeddol

Cyhoeddwyd Ebrill 11, 2016 gan Llên.

Tagiau: cynganeddu, Llanystumdwy, Ty Newydd


Ty Newydd, golygfa o arfordir Pen Llyn Llun: Mared Ifan
Mae rhyw draddodiad rhyfedd gennym ni yng Nghymru o ffitio geiriau gyda’i gilydd fel jig-so, gwneud i gytseiniaid hanner llinell gyd-fynd â hanner llinell arall, a’i galw’n gynghanedd.

Mae’r arfer hwn yn mynd yn ôl 1,500 o flynyddoedd a chanlyniad y jig-so geiriol yw sain go unigryw ar y glust – yn felodïaidd â rhythm penodol.

Ar ôl dablo â’r grefft am rai misoedd yn Ysgol Farddol Caerfyrddin, bues i’n ddigon lwcus i fynd ar gwrs yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd am dri diwrnod llawn o gynganeddu.

A dyna le bu 11 ohonom, yn y tŷ gwyn eiconig yn Llanystumdwy, yn bobol o wahanol gefndiroedd, o bob cwr o Gymru, wedi ein cau o brysurdeb y byd tu allan, mewn cwlt cynganeddu yn dysgu am ei nodweddion a cheisio creu ambell i linell ohoni.

Dysgu cynganeddu ar Twitter

Roedd yn dridiau o bleser pur, mewn llecyn godidog o Gymru, mewn tŷ llawn ysbrydoliaeth a fu’n gartref i David Lloyd George ym mlynyddoedd olaf ei fywyd.

Roedd rhai yn gwbl newydd i’r grefft, eraill wedi dysgu rhywfaint mewn dosbarthiadau nos ac un wedi dysgu sut i gynganeddu ar Twitter.

Er bod y gynghanedd yn rhywbeth oedd yn codi ofn arnaf i ddechrau, roedd y cwrs wedi dangos nad yw hi mor gymhleth ag y mae rhai yn meddwl, a bod ysgrifennu yn gallu dod â’r pleser mwyaf i rywun.

Ac unwaith mae rhywun yn dod i ddeall y gynghanedd, rydych wedi dal y byg ac yn trio cynganeddu pob gair a welwch neu a glywch chi!

Crefft unigryw i Gymru

Cawsom glywed am hanes a datblygiad y gynghanedd, yng nghwmni’r tiwtoriaid, Tudur Dylan Jones ac Aneirin Karadog a chlywed cynganeddion yn y Llydaweg, sydd wedi colli’r traddodiad erbyn hyn, gyda Twm Morys.

Mae’r grefft, sydd erbyn heddiw yn unigryw i Gymru, yn rhywbeth i drysori, ac mae’n braf gweld y gynghanedd yn cael ei gwynt ati, gyda thon o feirdd ifanc, newydd yn cyrraedd uchelfannau’r gamp.


Mared Ifan
Ble mae’r merched?

Ond un peth sydd ar goll, a rhywbeth am wn i, sydd ddim yn cael ei drafod digon yw’r prinder merched sy’n ysgrifennu’n gaeth yn y Gymraeg heddiw.

Dim ond dwy ferch sydd erioed wedi ennill Cadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yn yr ugain mlynedd ddiwethaf yn unig.

Ond os am draddodiad iach o gynganeddu yng Nghymru, rhaid i ferched cael lle yn ei dyfodol hefyd.

Felly, os cewch gyfle i fynd i Dŷ Newydd neu i unrhyw ddosbarth cynganeddu arall – ewch! Cewch eich trwytho mewn iaith newydd a fydd yn canu yn eich clust.

Mae modd hefyd dilyn dosbarthiadau cynganeddu ar Twitter ar gyfrif, @Cynganeddu.

Dathlu’r cyfraniad Cymraeg ar ben-blwydd Wicipedia

Cyhoeddwyd Ionawr 14, 2016 gan Jason Evans.

Tagiau: golygothon, Wicipedia, Wicipedia Cymraeg


Jason Evans
Jason Evans fydd yn cymryd rhan mewn Golygothon arbennig i ddathlu carreg filltir ‘gwefan Gymraeg fwyaf poblogaidd y byd’ …

Ar 15 Ionawr bydd Wicipedia yn dathlu ei 15fed pen-blwydd. 15 mlynedd yn unig ers creu’r erthygl gyntaf, Wicipedia yw’r gwyddoniadur mwyaf ar y blaned bellach ac mae’n un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y byd.

Gyda degau o filiynau o erthyglau mewn bron i 300 o ieithoedd, mae miliynau o bobl yn troi at Wicipedia am bob math o wybodaeth, o fywgraffiadau o’u hoff sêr ffilm, i grefydd, gwleidyddiaeth a hanes hynafol.

Yn 2007 roedd gan y Wicipedia Cymraeg fil o erthyglau yn unig ond mae wedi tyfu’n gyflym ac erbyn hyn mae’n cynnwys yn agos at 70,000 o erthyglau gwreiddiol yn y Gymraeg.

Ffynonellau

Yr hyn sy’n gwneud y ffigurau yma yn fwy trawiadol yw’r ffaith bod erthyglau Wicipedia yn cael eu creu yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.

Heb y bobl hyn ni fyddai Wicipedia yn bodoli. Fel y Wicipediwr Preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, mae dyletswydd arnaf i annog pobl i gyfrannu at y gwyddoniadur ar-lein ac i annog y Llyfrgell Genedlaethol i rannu ei chyfoeth o wybodaeth a’i chasgliadau digidol, i helpu gwneud Wicipedia yn fwy ac yn well.

Nid yw cyfrannu at Wicipedia erioed wedi bod mor hawdd. Gyda’r Golygydd Gweladwy newydd, gall unrhyw un gyfrannu.

Y cyfan sydd angen er mwyn golygu Wicipedia yw cyfrifiadur, tabled neu ffôn smart a mynediad i ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy.

Er enghraifft, os ydych yn ysgrifennu neu’n ychwanegu at erthygl am chwaraewr rygbi proffesiynol gallech gael gwybodaeth o wefan swyddogol, papur newydd neu hunangofiant.

Yn syml, ychwanegwch y wybodaeth at yr erthygl ac yna dyfynnwch eich ffynhonnell.

Y dyn eira cyntaf

Gan fod Wicipedia mor enfawr, mae hefyd yn llwyfan perffaith i rannu hanes Cymru gyda’r byd. Ers dechrau fy nghyfnod preswyl fel Wicipediwr bron i flwyddyn yn ôl, mae’r Llyfrgell wedi rhannu mwy na phum mil o ddelweddau digidol o’i chasgliadau.

Trwy rannu’r rhain gyda Wicipedia mae’r Llyfrgell yn rhyddhau’r delweddau i’r parth cyhoeddus, felly maent ar gael i unrhyw un at unrhyw ddefnydd, yn rhad ac am ddim.

O’r ffotograffau cynharaf yng Nghymru i baentiadau tirlun a llawysgrifau canoloesol, mae’r delweddau yma eisoes wedi cael eu hychwanegu at filoedd o erthyglau Wicipedia mewn 100 o ieithoedd.

Mae erthyglau sy’n cynnwys delweddau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru bellach wedi cael eu gweld mwy na 21 miliwn o weithiau. Nawr, mae’r Llyfrgell yn gobeithio rhyddhau casgliad o 100,000 o ffotograffau yn ystod y misoedd nesaf.
Delwedd dyn eira – Mae’r ffotograff cyntaf yn y byd erioed o ddyn eira ymhlith y delweddau mae'r Llyfrgell wedi eu rhannu â Wicipedia

Gwefan Gymraeg fwya’r byd

Ond pam y dylem ni fod yn cyfrannu at Wicipedia? Wel, y ffordd orau i gadw erthyglau Wicipedia yn gywir ac yn gyfredol yw cael mwy o bobl i gyfrannu.

Os ydych yn pori trwy erthygl ac yn gweld camgymeriad, waeth pa mor fach, cofiwch fod gennych y pŵer i glicio ‘golygu’, a chywiro’r camgymeriad yn syth yn y fan a’r lle.

Fodd bynnag, yr wyf yn meddwl bod pwysigrwydd y Wicipedia Cymraeg yn ymestyn llawer  ymhellach.

Dyma’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd yn y byd, ac mae’n rhoi mynediad i gyfoeth o wybodaeth am Gymru a’r byd trwy’r Gymraeg.

Yn ôl pob tebyg Wicipedia yw’r corff mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg a grëwyd erioed, a’r cwbl wedi ei greu gan bobl gyffredin sy’n rhoi ychydig o’u hamser i helpu i ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol.

Golygothon

Fel rhan o’m cyfnod preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol, rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau o’r enw ‘Golygothonau’, er mwyn i wirfoddolwyr ddod at ei gilydd i wella erthyglau Wicipedia ar bwnc penodol.

Rydym wedi cynnal digwyddiadau yng Ngwent, Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth, gan gynnwys golygathon Cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae’r digwyddiadau wedi eu hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb, ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, gyda chymorth arbenigol wrth law.

Ers mis Ionawr diwethaf  mae cannoedd o erthyglau newydd neu erthyglau gwell wedi cael eu hychwanegu at Wicipedia yn ystod y digwyddiadau hyn, ac rydym wedi ymdrin â nifer o bynciau gan gynnwys ffotograffwyr Cymreig, Cyfreithiau Hywel Dda, Rygbi a’r Rhyfel Byd Cyntaf.


Golygothon Rygbi – Golygyddion yn gweithio’n galed yn Stadiwm y Mileniwm
I ddathlu pen-blwydd Wicipedia bydd Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal Golygathon arbennig lle gall gwirfoddolwyr wella cynnwys Wicipedia am awduron o Gymru.

Felly os ydych chi yn Aberystwyth am 10.00yb ar 15 Ionawr ymunwch â ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gwrs cyflym ar olygu Wicipedia – a darn o gacen pen-blwydd!

Mae Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Adolygiad – Sherlock a’r briodferch atgas

Cyhoeddwyd Ionawr 11, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.

Tagiau: Sherlock


Rhiannon Williams
Rhiannon Williams fu’n gwylio’r bennod arbennig o Sherlock: The Abominable Bride

Bron i bythefnos ar ôl darllediad cyntaf The Abominable Bride ar ddydd Calan rydw i, o’r diwedd, wedi dod i’r casgliad, pe na fyddai’r teithio trwy amser wedi cael ei gynnwys ynddi, mi fyddai’r bennod wedi bod yn arbennig.

Na, dim Doctor Who sy’n gyfrifol am y neidio sydyn rhwng y gorffennol Fictorianaidd (1895) a’r presennol, ond mind palace cymeriad Sherlock Holmes (Benedict Cumberbatch), a welwyd fel elfen ddiangen sy’n cael ei defnyddio i bwysleisio mawredd ei feddwl yn unig.

Dechreuwn trwy wylio stori arswydus a gothig am ysbryd priodferch ond sylweddolwn erbyn diwedd y rhaglen ein bod wedi gwylio math o ddilyniant i’r ffilmiau Inception ac Adaptation.

Fodd bynnag, cofiwn mai cymhlethdod cynhenid y rhaglen yw un o brif atyniadau cyffrous y gyfres a does dim amheuaeth eich bod chi angen canolbwyntio’n ofalus i ddeall clyfrwch y bennod hon.

Troeon yn y gynffon

Does dim syndod bod y BBC wedi dal yn ôl rhag cyhoeddi unrhyw beth ynghylch y bennod gan fod y troeon yng nghynffon hir y bennod yn ddiddiwedd gan gynnwys tewdra annisgwyl ond gwreiddiol Mycroft (Mark Gatiss), mwstas Molly (Louise Brealey) a dychweliad iasol Moriarty (Andrew Scott) i enwi ond rhai.

Yn gyffelyb i’r penodau blaenorol ceir yr un antur draddodiadol wrth i Sherlock geisio datrys marwolaeth annaturiol ac amhosibl yr olwg mewn amser byr iawn.

Eto, gwelwn berthynas agos Holmes a Watson (Martin Freeman) yn datblygu ymhellach, gan ymylu ar fflyrtan ar adegau, sy’n ategu at hiwmor unigryw’r gyfres.

Rhy glyfar

Yn fy nhyb i roedd Mark Gatiss a Steven Moffat yn trio bod yn rhy glyfar y tro yma, hwyrach er mwyn cuddio’r ffaith nad oedd unrhyw beth yn cael ei ddatrys yn yr awr a hanner, gan wneud y bennod yn ddibwys.

Pwrpas y bennod, felly, yw cadarnhau bod Moriarty yn ei fedd o hyd (rhywbeth a oedd ychydig yn amlwg gan gofio ei fod wedi saethu ei hun yn ei ben erbyn diwedd yr ail gyfres).

Ers y darllediad cyntaf mae agwedd ffeministaidd y bennod wedi cael ei beirniadu’n llym a negyddol iawn gan nifer.

Serch hynny, rhaid cofio ei bod hi’n anodd cyfleu llais credadwy menyw heb fod dros ben llestri pan mai dynion yw’r awduron a phrif gymeriadau.

Yn yr un modd, er bod y plot ychydig gorgyrhaeddol mewn mannau roedd awyrgylch yr oes Fictorianaidd, y set, dillad ac effeithiau technegol yn adleisio storïau gwreiddiol Sherlock gan Arthur Conan Doyle i’r dim.

Gan obeithio pe byddai pennod arall yn cael ei chreu yn benodol ar gyfer gŵyl y Nadolig, eu bod yn canolbwyntio ar un amser yn unig, boed yn y gorffennol neu’r presennol.

Mae rhaglen Sherlock: The Abonimable Bride ar gae i’w gwylio o hyd ar BBC iPlayer.

Adolygiad #BywCelwydd

Cyhoeddwyd Ionawr 3, 2016 gan Ifan Morgan Jones.


Petai Stephen Kinnock yn aelod o Blaid Cymu...
Ifan Morgan Jones sy’n ceisio dyfalu pwy ‘di pwy yn y ddrama wleidyddol newydd…

Y broblem gydag ysgrifennu unrhyw fath o ffuglen am wleidyddiaeth ydi bod y tirwedd gwleidyddol yn newid yn gyson, ac felly gall pleidiau a phynciau a fu unwaith yn berthnasol droi’n amherthnasol yn gyflym iawn.

Mae Byw Celwydd yn cynnig darlun gwneud o fywyd y tu hwnt i’r etholiad nesaf, un lle mae’r ‘Ceidwadwyr Newydd’ wedi clymbleidio gyda’r ‘Cenedlaetholwyr’ (Plaid Cymru) a’r ‘Democratiaid’ (Rhyddfrydol).

Does dim llawer o ymdrech i gelu pwy yw pwy yma, felly mae’n anodd dirnad pam y trafferthwyd newid yr enwau o gwbl. Wedi’r cwbl, does dim modd enllibio pleidiau gwleidyddol cyfan.

Ac mae’n amlwg i’r sgript gael ei hysgrifennu ar adeg cyn chwalfa etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol, oherwydd maent yn meddu ar awenau grym fan hyn, sefyllfa sy’n annhebygol o fod yn wir ar ôl mis Mai.

A does dim golwg o ‘UKIP’ (Y Blaid Isio Gadael Ewrop?), plaid y mae disgwyl iddi ennill bron cymaint o seddi a Phlaid Cymru mewn ychydig fisoedd.

Serch hynny fe wnes i fwynhau’r bennod gyntaf yn fawr iawn, hyd yn oed yn fwy o bosib na fy hoff raglen arall ar S4C, sef ’Teulu’. Mae’r actio yn wych ar y cyfan, a’r deiliog yn naturiol, ac mae yna llawn cymaint o win yn cael ei lyncu ag oedd gan Dr John a’i griw.

Ambell Gwyn

Serch hynny, un sgil effaith anffodus o’r ymdrech i drafod pleidiau real wrth osgoi sylwebu ar faterion y dydd yw nad oes unrhyw bynciau llosg gwleidyddol go iawn yn cael eu trafod.

Ceir yr argraff mai’r unig reswm dros dderbyn unrhyw bolisi yw er mwyn sicrhau bod y blaid yn cadw gafael ar rym. Does dim awgrym o beth yw’r jam ideolegol sy’n cadw’r glymblaid at ei gilydd. Dim ond dyfais i yrru’r plot a’r gwrthdaro rhwng y cymeriadau yw’r gwleidydda. ‘Teulu’ ydyw mewn Senedd yn hytrach nag syrjeri.

Doedd dim byd yn bod ar hynny, ond fe allai ddiflasu’r gwylwyr os mai ‘horse trading’ gwleidyddol yw sail pob pennod – pwy fydd yn bygwth mynd i glymblaid â phwy’r wythnos hon? Fe allai hefyd golli cyfle wrth godi ymwybyddiaeth o’r math o waith caib a rhaw a phynciau y mae’r Cynulliad yn eu trafod yn fynych.

Ymddengys ar adegau bod hanner y cymeriadau yn perthyn i’w gilydd. Mae bybl y Bae yn gallu bod yn lle cyfyng iawn – ond dyw pethau ddim cynddrwg a hynny, siaws?

Nid oedd gwaith y newyddiadurwyr yn arbennig o gredadwy chwaith. Nid yw’n arfer gennym ni i roi gwybod i wrthrych stori o flaen llaw, fel bod cyfle iddynt ddinistrio’r dystiolaeth, camgymeriad elfennol y mae dau o newyddiadurwyr yn ei wneud fan hyn.

Roedd yn anodd derbyn hefyd y byddai gwraig mab y Prif Weinidog yn brif olygydd ‘Newyddion Cymru’ (Y BBC). Siawns y byddai wedi ei symud i swydd o statws cyfatebol lle nad oedd gwrthdaro buddiannau, am yr union resymau y darluniwyd yn yr episod gyntaf?

Yr Etholiad

Bu ambell wyliwr yn achwyn bod cynnig darlun o fyd lle mae Plaid Cymru wedi neidio i’r gwely gyda Cheidwadwyr anegwyddorol yn dangos gogwydd yn erbyn y blaid cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Wedi’r cyfan, maent yn mynnu na fyddant ar unrhyw gyfrif yn gwneud hynny.

Yn fy nhyb i mae’n annhebygol bod drama ffuglennol ar S4C yn mynd i ddylanwadu ar bleidlais unrhyw un.

Ac efallai mai’r Blaid Lafur sydd a’r mwyaf o le i gwyno – wedi eu gwthio allan o rym, er bod y polau piniwn yn awgrymu’n gryf nad oes unrhyw siawns gwirioneddol y gall hynny ddigwydd.

Ac ni fydd y Ceidwadwyr yn or-hapus gyda’u portread yn giwed o fastardiaid diegwyddor fan hyn.

Pwy fydd yn hapus ‘te? Y Democratiaid Rhyddfrydol. A’r gwyliwr lleyg hefyd, a geith fwynhau’r holl ffraeo dros yr wythnosau nesaf…