Cofio Keith Morris

 

Camera Nikon

Llun: CC0

Fore Sadwrn diwetha’ (Hydref 5), roedd yna lafn o haul yn taro pentre’r Borth ar lannau Bae Ceredigion.

Roedd gweddill y wlad yn dywyll; cymylau uwchben Aberdyfi ar ochr draw yr afon a thywyllwch yn crynhoi uwch Aberystwyth, ychydig filltiroedd i’r de.

Ond roedd y rhimyn tai yn Borth sy’n ymestyn am filltir dda ar hyd ymyl y môr yn disgleirio yn yr haul. Y bore hwnnw, roedd yr haul yn greulon.

Fore Sadwrn y daethpwyd o hyd i gorff y ffotograffydd Keith Morris ar lan y môr yr oedd o wedi tynnu ei lun mor gyson. Yn aml iawn, môr brochus, stormus oedd hwnnw a’r tonnau’n rhyferthwy dros y prom yn Aberystwyth.

Mae’n anodd meddwl am Keith Morris yn llonydd.

Ac mae’r co’ yn mynd yn ôl i’r cyfnod yn union cyn sefydlu cylchgrawn Golwg ac yntau’n un o griw o bobol ifanc greadigol yn hen ganolfan y Sgubor yn Aberystwyth.

Fo dynnodd y llun ar gyfer y clawr cynta’ – y rhifyn o’r cylchgrawn a gafodd ei rannu yn rhad ac am ddim yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988. Ac roedd y llun yn nodweddiadol, yn llawn cyffro creadigol.

Roedd gwylio Keith yn tynnu lluniau fel gwylio perfformiad theatrig … neu hyd yn oed arddangosfa gymnasteg. Gorwedd ar y llawr, neidio i ben bwrdd, cyrcydu mewn ffordd oedd yn ymddangos yn boenus, os nad yn amhosib … a’r gliced yn mynd trwy’r amser.

Mae’n anodd meddwl am Keith Morris yn dawel.

Os oedd Keith yno, roeddech chi’n gwybod hynny. Boed yn dynnu coes a chwerthin, neu’n drafodaeth frwd am ryw bwnc neu’i gilydd a’r llygaid yn tanio neu’n wên.

Roedd ganddo fo wybodaeth a diwylliant ymhell y tu hwnt i ffotograffiaeth. Ambell dro, ynghanol cyfweliad, ac yntau’n tynnu’r lluniau, mi fyddai cwestiwn yn dod o’r tu cefn i’r camera. Roedd o’n frwd ac yn llawn diddordeb.

Mi fydd Aberystwyth yn gweld ei golli yn fwy nag unman arall. Fel y mae pob newyddiaduraeth dda yn gwneud, roedd yn cofnodi hynt a helynt cymdeithas ar ei chyfer hi ei hun, yn rhoi drych iddi weld ei hunan.

Cynnyrch ei holl fywiogrwydd, ei hwyl a’i fenter oedd lluniau sy’n rhewi eiliadau, yn eu dal nhw am byth.

Mae’n anodd meddwl mai dim ond mewn lluniau felly y gwelwn ni Keith Morris mwy.

 

Y Blog Celfyddydau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd