Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Aberystwyth a’r cyffiniau wedi dod yn lleoliad cyfarwydd i’r rheiny sydd yn hoff o’u dramâu tywyll a dirgel, gyda llwyddiant cyfres deledu Y Gwyll yn dod a sylw rhyngwladol i ardal Ceredigion.

Nawr mae’r dref hefyd wedi croesawu byd y sgrin fawr, wrth i ffilm Gymraeg Y Llyfrgell gael ei saethu gan ddefnyddio un o adeiladau mwyaf eiconig Aber, y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’r ffilm yn addasiad o nofel Fflur Dafydd o’r un enw, gyda chast sydd yn cynnwys Ryland Teifi, Catrin Stewart, Dyfan Dwyfor a Sharon Morgan.

Ac fe sleifiodd Golwg360 draw yn ddiweddar i gael sgwrs â dau o’r actorion, Catrin Stewart a Dyfan Dwyfor, am eu rôl nhw, a beth allwn ni ei ddisgwyl o’r ffilm:

Gallwch ddarllen mwy am y ffilm, gan gynnwys cyfweliadau â Fflur Dafydd a’r cyfarwyddwr Euros Lyn, yn y rhifyn diweddaraf o Golwg ac ar Ap Golwg.