Dylan Edwards
Dylan Edwards sydd yn trafod y tila a’r gora’ o Ŵyl Ffilmiau Llundain …

Efallai mai’r peth mwyaf diddorol i ddigwydd i ddiwylliant beirniadaeth ffilm ryngwladol ers iddo ymfudo ar-lein, ac i Twitter yn arbennig, yw’r gallu mae’n ei roi i ni i astudio lleoliad daearyddol y bobol sy’n ymateb i ffilmiau.

Yn aml gall consensws godi o gwmpas ffilmiau, neu gall grŵp ffyddlon o ddilynwyr ffurfio ymysg beirniaid ffilm un ardal neu wlad o gwmpas cyfarwyddwyr sy’n peri dryswch i weddill y byd.

Yn Efrog Newydd, yn fwy na Gone Girl gan David Fincher nac Interstellar gan Christopher Nolan nac unrhyw un o’r ffilmiau Oscaraidd i gael eu rhyddhau yn y mis diwethaf, mae’r drafodaeth ers i Ŵyl Ffilmiau Efrog Newydd (NYFF) ddod i ben wedi cael ei dominyddu gan ddrama-gomedi annibynnol Alex Ross Perry o’r enw Listen Up Philip.

Ffilm yw hon am awdur Iddewig yn ei dridegau (wedi ei seilio ar Philip Roth, awdur Goodbye Columbus ac American Pastoral) sy’n narsisistaidd, yn hunanol, yn mynnu codi terfysg seicolegol ar bob un o’i berthnasau, ac sydd, o bosib, yn athrylith.

Listen Up Phillip

Bob tro roeddwn i’n edrych ar Twitter wrth gerdded allan o ddangosiadau ffilmiau yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain mae Listen Up Philip yn amhosib i’w osgoi; yn yr ŵyl hon, lle roedd y ffilm yn chwarae yn yr adran ‘Laugh’, roedd yn stori gwbl wahanol.

Wnaeth yr un o ddangosiadau’r ffilm werthu allan a chlywais i ddim sgwrsio amdani; ac mae’n bosib na chaiff y ffilm ei rhyddhau’n gyhoeddus yma o gwbl.

I mi, roedd naws anghyfforddus i’r ffilm, oedd yn ymylu ar addoli’r prif gymeriad, ac mae ei phwnc a’i themâu yn llawer rhy gyfarwydd iddi ddod yn rhan o sgwrs ehangach am ffilmiau ‘gwych’.

(Diolch, gyfarwyddwyr America, am ffilm arall i ddangos i ni pa mor galed yw bywyd i artistiaid ‘anodd’ gwrywaidd yn yr Efrog Newydd modern!)

Petawn i’n feirniad canol oed Iddewig-Americanaidd dosbarth canol byddai’n stori wahanol.

Pleser Eden

Syndod mwy pleserus oedd Eden, y ffilm olaf i mi ei gwylio yn yr ŵyl ac un o’r rhai ro’n i fwyaf cyffrous i’w gweld.

Wnaeth hi ddim plesio fel ro’n i wedi disgwyl, ond mae hynny oherwydd ei bod yn ffilm mor wahanol i’r un ro’n i wedi ei disgwyl, ac mae’n sicr wedi aros yn y cof.

Mae Eden gan Mia Hansen-Love yn gronicl o’r ugain mlynedd diwethaf yn sîn cerddoriaeth electronig Ffrainc (ac ydyn, mae Daft Punk yn picio i mewn ac allan o’r stori).

O’r disgrifiad hwnnw, gellid disgwyl ffilm epig a chythryblus, ond Mia Hansen-Love yw un o gyfarwyddwyr lleiaf epig a chythryblus y byd ffilm heddiw.

Yr hyn synnodd fi fwyaf oedd diffyg pwyslais y ffilm ar steil  – mae’r gyfarwyddwraig yn haeddu clod, yn fy marn i, am osgoi potensial ‘cŵl’ ei deunydd er mwyn peidio aberthu ei hastudiaeth o berthynas cymeriadau cymhleth y ffilm â’i gilydd, a’r problemau sy’n eu hwynebu.

Mae rhythmau’r ffilm yn fwyn ac mae’r cymeriadau, er mai nhw sy’n gyrru holl blot y ffilm yn ei flaen, bron â bod yn bapur wal.

Dyma ffilm gyntaf y gyfarwyddwraig nad yw’n ddrama Ffrengig ‘dod-i-oed’ farddonol, ac mae ei phrofiad blaenorol yn sicr i’w weld yn ei thriniaeth ddiymhongar, ond gafaelgar, o’r deunydd. Dydy’r gerddoriaeth ddim yn ddrwg chwaith.

Gogledd Iwerddon

Yn fy erthygl o’r ŵyl yn Golwg yr wythnos ddiwetha’, soniais am natur chwyldroadol-wleidyddol nifer helaeth o ffilmiau’r ŵyl eleni.

Mae ’71, un o lwyddiannau mawr yr ŵyl, yn adrodd helynt Trafferthion Gogledd Iwerddon yn y flwyddyn honno, ond mae’n bell o fod yn ffilm wleidyddol; dyma ffilm am effaith seicolegol a chorfforol unrhyw fath o ryfel, ar unrhyw fath o berson.

Mae’r ffilm yn cynnal cydbwysedd perffaith rhwng bod yn farddonol-deimladwy ac yn wirioneddol gyffrous yn y ffordd fwyaf angerddol bosib (o’r safbwynt hwn, mae’r cyfarwyddwr newydd, Yann Demange, yn atgoffa’r gwyliwr o dechneg Paul Greengrass, meistr y thrills deallus).

Gwnaeth golygfa gynnar yn y ffilm o derfysg ar stryd o dai yng nghanol Belffast argraff arnaf mewn modd nad yw’n digwydd yn aml yn y sinema.

Yng nghanol y ffilm mae Jack O’Connell, sy’n chwarae rhan milwr o Loegr sy’n cael ei hunan wedi’i wahanu oddi wrth bawb o’i gwmpas ac yn crwydro tywyllwch y ddinas ar ei ben ei hun, yn gweld hunllef y sefyllfa ym mhob man.

Mewn cyfnod o fisoedd yn unig mae’r actor, gyda chyfres o brif rannau amrywiol a heriol, wedi dod yn un o’n hactorion ffilm fwyaf hollbresennol; ar sail ’71, mae’n haeddu pob clod a rhan uchel-ei-broffeil mae’n ei gael.

Phoenix yn codi i’r brig

Uchafbwynt yr ŵyl? Phoenix, ffilm gan Christian Petzold wedi ei gosod yn fuan ar ôl yr Holocost sy’n benthyg o gonfensiynau film noir, melodrama a body-horror ac sy’n taro’i nodau artistig ac emosiynol â chysondeb perffaith.

Fe wnes i ymateb mor gryf i’r ffilm hon nes ’mod i bron yn gyndyn i ddatgelu gormod o’i phlot rhyfedd.

Mae’n dechrau gyda dwy ddynes mewn car; mae gan un ohonyn nhw rwymynnau o gwmpas ei phen a’i hwyneb. Hi yw’n protagonist oeraidd, y ‘phoenix’ yn y teitl.

Mae hi’n treulio llawer o act gynta’r ffilm yn treillio clwb nos dywyll ym Merlin, sydd am roi rhyw fath o wybodaeth i ni am ei chefndir. Mae’r ffilm yna’n troi yn amrywiad afluniaidd o Vertigo gan Hitchcock, ac yn gorffen fel trasiedi seicolegol.

Y teimlad a gefais i o olygfa olaf Phoenix yw’r rheswm dwi’n dilyn ffilm heddiw; pinacl perffaith i ŵyl sydd wedi bod yn brysur, yn bryfoclyd, ac yn gwbl, gwbl foddhaol.

DEG UCHAF Y LONDON FILM FESTIVAL 2014

1.        Phoenix (Christian Petzold, yr Almaen)

2.      The Wonders (Alice Rohrwacher, yr Eidal)

3.       ’71 (Yann Demange, Lloegr/Iwerddon)

4.       Letters To Max (Eric Baudelaire, Ffrainc)

5.       Pasolini (Abel Ferrara, yr Eidal/America)

6.       Still The Water (Naomi Kawase, Japan)

7.       Hungry Hearts (Saverio Costanzo, yr Eidal/America)

8.       Girlhood (Celine Sciamma, Ffrainc)

9.       Villa Touma (Suha Arraf, Palesteina)

10.     The Duke of Burgundy (Peter Strickland, Lloegr)