Blog gyntaf Dylan Edwards o Cannes, ble bu’n rhoi ei ragolwg ef o’r ŵyl ffilmiau enwog y penwythnos hwn …

Dwi yn y cymylau, hanner ffordd rhwng Birmingham a Nice, ac mae 67ain Ŵyl Ffilmiau Cannes yn aros amdana i. Dylwn i fod yn yr ysgol yn chwysu dros sampl y Bac ac yn adolygu ar gyfer fy arholiadau Lefel A – dosbarth 13A Penweddig: dwi’n ymddiheuro.

Pob mis Ebrill, pan mae rhaglen yr ŵyl yn cael ei chyhoeddi, mae yna gwyno di-ffael am ba mor gyfyng ac elitaidd yw eu prif gystadleuaeth, yr ugain neu fwy o ffilmiau sy’n cael eu dethol yn ofalus i fod yn ganolbwynt.

A dydy arlwy blwyddyn yma yn sicr heb wrthbrofi’r cwynion yma, gyda mwyafrif helaeth y cyfarwyddwyr sydd wedi eu dewis yn enwau hen gyfarwydd i’r Croisette.

Ond mae’n lein-yp syfrdanol am y rhesymau cywir, i mi – pwy all gwyno o weld rhestr sy’n cynnwys ffilmiau newydd sbon gan Jean-Luc Godard, David Cronenberg, y brodyr Dardennes, Olivier Assayas, Ken Loach, a llawer mwy o sêr mwyaf cydnabyddedig byd ffilm y degawdau diwethaf yn yr un gystadleuaeth?

Cynrychiolaeth eang

Chwarae teg i Thierry Fremaux a gweddill y trefnwyr, maent wedi sicrhau serch hynny bod yna gynrychiolaeth ehangach ym mhrif gystadleuaeth 2014 nag arfer.

Dim ond un ffilm Affricanaidd sydd yn y brif gystadleuaeth, ac un ffilm Asiaidd (gan Naomi Kawase, a achosodd ychydig o stŵr yn y byd ffilm ar Twitter wythnos yma pan ddywedodd bod ei ffilm newydd yn “deilwng o’r Palme” dyddiau cyn i’r ŵyl hyd yn oed ddechrau).

Ond dim ond un ffilm gan Americanwr sydd hefyd, sef The Homesman, Western gan yr actor-gyfarwyddwr Tommy Lee Jones.

Ac ar ôl sgandalau’r ddwy flynedd ddiwethaf ynglŷn â’r diffyg cynrychiolaeth o gyfarwyddwyr benywaidd yn y brif gystadleuaeth, mae un o fy mhrif tips i am y Palme d’Or eleni yn Eidales weddol ifanc sydd wedi graddio i’r Compétition ar ôl un ffilm yn unig, gyda Le Meraviglie, ffilm dwi’n gobeithio’n fawr ei gweld.

Jane Campion yw’r unig ddynes erioed i ennill y Palme, a hi sy’n arwain rheithgor y gystadleuaeth eleni  ynghyd â phanel cryf benywaidd sy’n cynnwys Sofia Coppola – mewn cyfweliad â’r Guardian wythnos yma, soniodd Campion am ei brwdfrydedd i weld pa gyfarwyddwyr ifanc a chyffrous gallai eu darganfod.

Y cyfarwyddwr ieuengaf yn y brif gystadleuaeth, ac un o’r ieuengaf i gael yr anrhydedd yn hanes chwe degawd Cannes, yw Xavier Dolan o Gwebec. Yn 25 mlwydd oed, mae wedi cael ei ddewis i’r brif gystadleuaeth o’r diwedd gyda’i bumed ffilm, Mommy, ar ôl codi drwy rengoedd gwyliau ffilm mwya’r byd ers 2009.

Mae arddull idiosyncrataidd, hunanymwybodol, pryfoclyd Dolan yn sicr o hollti beirniaid caled Cannes, ond petai’n llwyddo, gall fod yn ‘foment’ go iawn.

Digon o ddanteithion

Er i ffilm agoriadol yr wyl, Grace Of Monaco, greu penawdau o gwmpas y byd am y rhesymau anghywir, wrth i mi ysgrifennu’r blog hwn mae’r Compétition ei hun yn argoeli’n dda iawn yn barod.

Mae’r ddwy ffilm sydd yn cael eu harddangos i’r wasg ar y diwrnod cyntaf – Timbuktu, gan Abderrahmane Sissako, am labyddio cyhoeddus cwpwl priod gan Jihadists mewn cymuned glòs ym Mali, a Mr Turner, bywgraffiad o’r arlunydd gan Mike Leigh – yn geffylau blaen ar gyfer gwobrau’r ŵyl yn barod.

Dwi’n cyrraedd y Riviera diwrnod yn hwyr i wylio’r ffilmiau yma, yn anffodus, ond bydd dwsinau o ddanteithion amrywiol i mi gael y cyfle i’w darganfod yn ystod fy nhaith o’r brif gystadleuaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys y gystadleuaeth Un Certain Regard (sy’n aml yn cynnig yr un faint o gampweithiau â’r brif gystadleuaeth, ond gan gyfarwyddwyr llai adnabyddus na mawrion y Compétition), y Director’s Fortnight, a rhaglen ymylol y Semaine du Critique.

Marchnad i’r Cymry

Does dim ffilmiau Cymraeg na Chymreig yn cystadlu yn yr ŵyl, ond rhan fach o sioe Cannes yw’r cystadlu ei hunan. Marchnad ffilmiau, yr un fwya’n y calendr ffilm, yw’r ŵyl i’r mwyafrif o bobol a chwmnïau sy’n ei mynychu, a fan hyn bydd y gynrychiolaeth i fyd ffilmiau Cymru yn ymddangos.

Mae Gruff Rhys yn mynd i fod yng Nghannes rhyw ben i geisio gwerthu ei ffilm ddiweddaraf American Interior i werthwyr rhyngwladol, ac mae Keiran Evans yn mynd i wneud yr un peth â’i ffilm ef, Kelly + Victor, a enillodd BAFTA’n gynharach eleni.

Bydd hi’n ddiddorol hefyd gweld faint o bresenoldeb bydd gan ddiwydiant ffilm Cymru ym mhafiliwn Prydain.

Dwi’n gweld môr glas y Côte d’Azur yn agosáu – gwell i mi edrych i fyny o’n ffôn i weld beth sydd gan y dref fach yma i’w gynnig!

Cafodd y blog yma ei ysgrifennu gan Dylan Edwards fel rhagolwg i benwythnos ŵyl ffilmiau Cannes. Bydd ail flog ganddo i ddilyn yn cloriannu ei brofiadau o’r ŵyl.

Gallwch hefyd ddilyn argraffiadau Dylan o Cannes ar Twitter ar @dylanhuw.