Adolygiad o ‘Llanast!’

 


Rebecca Harries a Llion Williams yn Llanasr
Blogwraig Celfyddydau golwg360 Mirain Jones fu’n gwylio drama Gareth Miles yn Theatr y Sherman, a’i mwynhau yn fawr …

Disgrifir y ddrama ‘Llanast!’ gan Theatr Bara Caws fel ‘drama ddoniol a deifiol’, a dyna’n union a welais i yn Theatr y Sherman wythnos diwethaf.

Cyfieithiad yw ‘Llanast!’ gan Gareth Miles o ddrama ‘Le dieu du carnage’ gan Yasmina Reza. Bu’r cynhyrchiad, a gyfarwyddir gan Betsan Llwyd, ar daith llynedd ac wedi iddo brofi’n llwyddiant ysgubol, penderfynwyd rhoi’r cyfle i’r cyhoedd ei gweld unwaith eto eleni.

Mae’r ddrama wedi ennill gwobr ‘Olivier’ a thair gwobr ‘Tony’ mewn ieithoedd eraill ac wedi ei henwebu ar gyfer dwy o Wobrau Beirniaid Theatr Cymru yn y Gymraeg. Yn amlwg felly mae’r ddrama hon yn cael ei chydnabod fel un o brif ddramâu’r cyfnod presennol ac oherwydd hyn teimlais yr angen i’w gweld.

Dau gwpl

Drama am ddau gwpwl priod, diwylliedig yw ‘Llanast!’ ac mae wedi’i lleoli yn ystafell fyw un o’r cyplau, sef Meic a Marged. Maent yn ymddangos ar y dechrau fel cwpwl arferol ond gwelwn y dicter a thensiwn yn adeiladu rhwng y ddau drwy gydol y ddrama.

Daw cwpwl arall i’w tŷ, sef Alun sy’n fargyfreithiwr ac Anette sy’n arbenigwr ariannol. Maent yn dod ynghyd i drafod digwyddiad rhwng eu meibion lle tarodd un ddannedd y llall â ffon gan ei adael heb ddannedd blaen.

Sefyllfa digon arferol ydoedd lle’r oedd y pedwar rhiant yn ymddwyn yn barchus yng nghwmni’i gilydd. Er hyn, trodd y sefyllfa arferol yma yn ‘llanast’ llwyr wrth i fwgwd cymdeithasol  y bobl ddadfeilio gan ddadorchuddio llu o broblemau priodasol y ddau gwpwl.

Llwyddwyd i gyfleu chwâl eu perthnasau drwy ddefnyddio hiwmor, ond tu ôl i’r hiwmor roedd gwir dristwch y cymeriadau yn dod i’r bae. Yn ychwanegol roedd y set yn cyfleu’r dinistr wrth i’r ystafell fyw ar ddechrau’r ddrama edrych fel pin mewn papur ond erbyn y diwedd, ar ôl chwydu, taflu tiwlips a llawer o alcohol roedd y lle’n flêr ac anniben.

Ar y cyfan drama a sgript glyfar a difyrrus tu hwnt oedd ‘Llanast!’ a oedd yn adlewyrchu’r holl glod a gafodd.

Actorion yn hanfodol

Credaf fod yr actorion wedi chwarae rhan fawr yn llwyddiant y cynhyrchiad hwn. Pedwar aelod o’r cast oedd sef Emlyn Gomer, Rebecca Harries, Lauren Phillips a Llion Williams.

Dyma wynebau cyfarwydd yn y cyfryngau Cymreig gyda’r actorion wedi ymddangos mewn rhaglenni teledu megis Gwaith/Cartref, Rownd a Rownd, Pobol y Cwm, C’mon Midffild a llawer mwy. Gan eu bod yn actorion cydnabyddedig teimlais fod gennyf ddisgwyliadau uchel ohonynt, ac ni wnaethom fy siomi.

Roedd pob cymeriad yn dangos personoliaethau tra gwahanol, o’r ddelwedd draddodiadol o ‘fam Gymreig’ i ddyn busnes pwysig, prysur. Llwyddodd yr actorion i ddiffinio’u cymeriadau’n wych gan wneud i mi deimlo fod pedwar cymeriad hollol wahanol yn sefyll o fy mlaen.

Rhaid hefyd cydnabod actio rhagorol Rebecca Harries a enillodd wobr ‘Actores orau mewn cynhyrchiad Cymraeg’ gan Wobrau Beirniaid Theatr Cymru.

Ar ôl clywed cymaint am ragoriaeth y ddrama ‘Llanast!’ ym myd theatr Cymru roeddwn yn edrych ymlaen at ei gweld, ac yn wir fe wnes i ei mwynhau yn fawr. Roedd yr actio gwych, yr hiwmor difyrrus, y sylwadau di-chwaeth a’r llanast llwyr a ddaeth o’r sefyllfa hollol arferol wedi ei gwneud yn ddrama llwyddiannus yn fy ngolwg i. Edrychaf ymlaen at weld beth arall sydd gan Theatr Bara Caws i’w gynnig yn y dyfodol.

Marc: 9/10

Gallwch ddilyn Mirain ar ei chyfrif Twitter – @mirainalaw

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd