RSS

Golwg360

MwyCau 

12 Uchaf: Misoedd Gorau’r Flwyddyn

Cyhoeddwyd Ionawr 1, 2017 gan Ifan Morgan Jones.


Llun: Llinos Dafydd

Blwyddyn newydd dda i chi, ac i bawb sydd yn y tŷ! Ifan Morgan Jones sy’n holi pa fisoedd yw’r goreuon, a phryd i swatio yn y gwely gyda’r dwfe dros eich pen…

12. Chwefror

Anodd yw dod o hyd i unrhyw beth da i’w ddweud am fis Chwefror. Dyma un o fisoedd oeraf, tywyllaf a gwlypaf y flwyddyn. Rydyn ni wedi anghofio erbyn hyn sut oedd yr haul yn edrych a sut oedd ei wres yn ei deimlo ar ein croen. Bydd hanner dwsin o’ch hoff selebs yn marw. Mae’n bosib y bydd eira, ond bydd holl hwyl yr wŷl wedi hen bylu ac fe fydd yn fwy o boen nac o bleser. Mae’r dyddiau yn ymestyn rywfaint, ond ddim digon fel bod modd mwynhau mymryn o olau dydd ar ôl gwaith. Bydd y waled dal yn wag ar ôl y Nadolig a’r aduniadau Blwyddyn Newydd wedi hen redeg allan o stêm. Yr unig beth da y gellir ei ddweud am fis Chwefror yw ei fod yn fyr! Ac efallai diwrnod Pancws/ Crempog ar ei ddiwedd, os ydach chi wedi hen gefnu ar yr adduned i golli pwysau ar ôl Dolig.

11. Ionawr

Y peth gorau y gellid ei ddweud am fis Ionawr yw ei fod yn cynnig gobaith y bydd y flwyddyn nesaf yn well na’r diwethaf. Mae cyfle i’r plant casglu rywfaint o galennig, a gall Dydd Santes Dwynwen apelio at y rhamantus yn ein plith. Ond mae’n fis mor dywyll a diflas, mae’n bosib iawn mai dyma’r amser gwaethaf posib i droi dalen newydd. Swatio y tu mewn, a byta ac yfed bwydydd cysurol sydd angen ei wneud ym mis Ionawr, nid bod allan yn rhedeg a mynd ar ddeiet. Dyma’r mis lle mae’r waled yn wag ar ôl y Nadolig, a’r pen tost ar ei waethaf ar ôl dathliadau’r Flwyddyn Newydd.

10. Tachwedd

Heblaw am y tân gwyllt ar ddechrau’r mis, does dim llawer sy’n dda i’w ddweud am fis Tachwedd. Mae’n dywyll wrth godi yn y bore ac yn dywyll erbyn gadael y gwaith hefyd. Mae’r coed wedi colli eu dail, ac maen nhw’n hel yn bentyrrau ar lawr gan dagu’r cwteri. Yr unig beth gwerth chweil am fis Tachwedd, mewn gwirionedd, yw bod modd dechrau edrych ymlaen ar y Nadolig o ddifrif. Mae yna hefyd ambell i beth gwerth chweil i’w wylio ar y teledu yn ogystal, wrth i bawb swatio dan do.

9. Hydref

Mis y mae yna gymysgedd barn yn ei gylch yw mis Hydref. Dyma hoff fis sawl un sy’n mwynhau’r dyddiau clir, oer, a phrydferthwch y dail wrth iddynt newid eu lliw. Mae yna hefyd Noson Calan Gaeaf i edrych ymlaen ati ar ddiwedd y mis, i’r rheiny sy’n fodlon cael plant yn cnocio ar eu drysau ar ôl iddi nosi. Serch hynny, mae’n gallu bod yn fis digon digalon – mae pob arlliw o’r haf wedi diflannu erbyn hyn, misoedd o dywyllwch ac oerfel o’ch blaen, ac mae newid y clociau ar ddiwedd y mis gan olygu ei bod yn tywyllu toc cyn 5pm yn sioc gas i’r sustem.

8. Medi

Mae’r plant yn ôl yn yr ysgol, a phawb yn ôl wrth eu desgiau â dim byd ond lliw haul ac ychydig atgofion i ddynodi bod haf wedi bod. Serch hynny rydym yn aml yn mwynhau Haf Bach Mihangel ym mis Medi, ac er bod y dyddiau yn dechrau byrhau mae’n dal yn ddigon golau i fynd allan a mwynhau ar ôl gwaith.

7. Ebrill

Pontio llymder y gaeaf a dyddiau gwell diwedd y gwanwyn y mae mis Ebrill. Dyma pryd y mae’r dyddiau yn dechrau ymestyn ar garlam, ac mae’r mis yn gorffen mewn lle llawer gwell, o ran y tywydd a gwelededd yr haul, nac y dechreuodd. Mis gobeithiol yw hwn a’i uchafbwynt yw’r gwyliau ysgol pythefnos o hyd. Yr amser perffaith i ddianc am wyliau i dde Ewrop, lle y mae hi eisoes yn ddigon cynnes i neidio i bwll nofio. Hefyd, wyau Pasg.

6. Mawrth

Mae’r mis yma yn cael achub y blaen ar fis Ebrill oherwydd dathliadau Gŵyl Dewi Sant ar ddechrau’r mis. Mae’r plant bach yn cael gwisgo yn eu gwisgoedd traddodiadol Cymreig, ac mae’r capeli yn llawn i ddathlu’r Sul Cenedlaethol. Y mis hwn yw’r trobwynt pan mae tywydd oer a gwyntog y gaeaf yn dechrau pylu, ac mae modd teimlo rywfaint o gynhesrwydd yr haul ar eich croen unwaith eto. Mae’r clociau yn newid ar ddiwedd y mis ac yn sydyn iawn nid yw’n tywyllu nes saith o’r gloch. Os oes gennych chi adduned blwyddyn newydd, dyma’r amser i ddechrau – nid yng nghanol tywyllwch ac oerfel Ionawr.

5. Gorffennaf

Yn anffodus, roedd ein cyndadau Cymreig yn llygaid eu lle wrth enwi’r mis hwn, ‘Gorffen Haf’, am ei fod yn aml iawn yn dod yn amlwg erbyn ei diwedd hi mai breuddwyd ffug oedd hwnnw am dorheulo ar draeth Llangrannog neu Ddinas Dinlle. Yng Nghymru ydan ni’n byw, wedi’r cwbwl. Dechrau’r gwyliau ysgol – grêt i’r plant, ond yn gallu bod yn gur pen i’r rhieni!

4. Mehefin

Yr un peth â Gorffennaf, ond gyda rhywfaint o obaith o hyd am haf gwerth chweil heb ei ddinistrio gan gawodydd diddiwedd o law.

3. Rhagfyr

Dyma fis tywyllaf y flwyddyn, ac un o’r oeraf, ond diolch byth fe wnaeth ein cyndadau paganaidd ac yna Cristnogol ddyfeisio modd o sicrhau nad yw’r hwyliau yn syrthio’n ormodol. Mae cyffro’r Nadolig i’w deimlo ledled y wlad, a dim ond ychwanegu at y naws glyd y mae’r rhew a’r barrug y tu allan. Mae’n hawdd cadw trefn ar y plant gan eu bod nhw am blesio Siôn Corn. A dyma’r unig amser o’r flwyddyn y mae’n cael ei ystyried yn dderbyniol gwneud mochyn llwyr o’ch hunan.

2. Mai

Ar ôl diflastod hir y gaeaf a glaw a gwynt y gwanwyn, dyma’r mis y mae’r tywydd yn dechrau gwella o’r diwedd. Mae mis Mai yn fwy heulog na hyd yn oed mis Awst yng Nghymru, ac nid yw’n annhebygol y bydd haf bach cynnar i’w gael yn ystod y mis hwn. Mae’r dail yn dechrau ymddangos ar y coed, mae’r gwyliau cerddoriaeth a diwylliannol yn dechrau, ac mae cyfnod gorau’r flwyddyn i edrych ymlaen ato.

1. Awst

Mis gwyliau. Ac os oes rhaid aros yng Nghymru, mis cynhesa’r flwyddyn fel arfer. Dyma’r mis y mae’r byd diwylliannol Cymraeg yn cyrraedd ei anterth, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae yna rywfaint o dristwch ynghlwm â diwedd y mis gyda’r sylweddoliad bod yr haf yn dod i ben, ond effaith hynny yw eich annog chi i daflu popeth i gefn y car a mynd i lawr i’r traeth er mwyn mwynhau’r ychydig heulwen sy’n weddill. Joio!

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 4)

Cyhoeddwyd Tachwedd 16, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.

Tagiau: Cerdd Dant, cor yr heli, gwyl cerdd dant llyn ac eifionydd


Côr yr Heli ar y llwyfan
Bu’n noson hwyr. Y gystadleuaeth olaf un yn Ngwyl Cerdd Dant Llyn ac Eifionydd 2016 oedd y Côr Cerdd Dant Agored. Ac roedd wyth côr gwerin ar y llwyfan yn y gystadleuaeth o’n blaen ni.

Roedd bron i bob cystadleuydd wedi gwisgo du neu lwyd eleni, gan ein cynnwys ni, aelodau nerfus Côr yr Heli. Pam hynny, tybed? Ofn pechu gwylwyr â lliwiau llachar, efallai? Diffyg dychymyg? Pres? Ond roedd pawb ar eu gorau, a rhai ohonon wedi cael siwmper a steil gwallt a bronglwm newydd at y digwyddiad.

Braf oedd cael cip y tu ôl i’r llenni ar fyd dieithr o drefnu a thelynau, o ragbrofion a stiwardio, o lolian ac o laru aros. A’r lle yn gyfeddach o Gymraeg.

Er gwell neu er gwaeth, yn y bwyty lan staer y treulion ni y rhan fwya’ o’r nosweth yn aros ein tro – doedd dim digon o le i bawb yn y neuadd gron. Lle digon braf hefyd – y byrddau bwyd yn orlawn o wahanol bartïon, mamau, dawnswyr a beirniaid; Trystan Ellis Morris a chriw ffilmio Telesgôp yn bachu cystadleuwyr; a dynion gan fwya’ yn llenwi ochr y bar. Cawson gyfle sydyn i lithro i’r neuadd a gwylio o’r cefn ond roedd yn rhaid bodloni ar friwsion y beirniadaethau ffwrdd-â-hi yn y bwyty.

Roedd y corau meibion o dan ordors i beidio ag yfed cyn canu, ond ew, fydde neb yn eu beio am godi hwyl lan staer cyn camu ar lwyfan i lacio ychydig ar y noson. Da fyddai cael gornest cerdd dant feddwol a gwerinol yn y bar i gyd-daro â’r cystadlu ar lwyfan. Efallai ei fod eisoes yn bodoli – buodd yna, yn ôl pob sôn, ddathlu yn y bar ac yn y Whitehall yn y dre tan bedwar y bore, a phawb yn cerdd-dantio’i hochor hi, decini.

Hanner bach

Diolch byth mai dim ond hanner o Guinness gefais i cyn mentro ar lwyfan (wrth bipo ar gêm bêl-droed Cymru ar iPad un o Gôr Colwyn, diolch iddo). Mi grynes fel deilen drwy’r cyfan, ond roedd eisie bod ar y bêl er mwyn geirio’n ofalus a dod i mewn ar y nodyn cywir. Roedd y beirniad yn gwylio ac yn sylwi ar bopeth.

Rhaid ein bod ni wedi gwneud yn o lew gan i ni ENNILL! Do, myn cebyst i. Curo Côr Eifionydd, Côr Glanaethwy, a Lleisiau’r Nant (côr Leah Owen, neb llai). Daeth Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd 2016 ei chloi yn atsain i fonllef y côr o bron i bedwarugain (dyw Gwenan Gibbard yn dal ddim yn siwr faint o aelodau sydd).

Roedd y cynnwrf yn corddi wrth i ni wrando ar Mair Carrington Roberts yn traddodi: ‘dehongliad deallus, treiddgar iawn a mynegiant graenus cerddorol a hynod o deimladwy… Roedd y llefaru mor dreiddgar… Roedden ni’n teimlo’n wir ei bod hi’n fater bywyd arnach chi wrth ei chanu hi…’

Yr unig beth ro’n i am ei wneud ar ôl cyrraedd adre tua 1.30am y noson honno oedd fframio’r feirniadaeth, a chysgu. Wrth geisio suo’r babi tua 4 y bore, sylwi ar neges Dafydd Iawn ar Twitter a llawenhau eilwaith: ‘Llongyfarchiadau i bawb ar lwyddiant yr Wyl Gerdd Dant. Côr yr Heli yn ardderchog.’

Dywedodd sawl un ei bod yn ‘ddiweddglo gwych i ŵyl lwyddiannus’. Pawb yn ymfalchïo bod merched lleol (heblaw i dair ohonon ni) wedi cipio’r wobr. Cefais inne’r fraint o fod yn eu canol.

Un trueni yn yr ŵyl oedd diffyg corau a phartïon o dde Cymru. Nid dim ond i Lŷn y mae cerdd dant yn perthyn. Mae eisiau rhoi cyfle i bawb, boed yn gerddorol ai peidio, roi cynnig ar yr hen grefft. Beth am sesiynau hwyliog gyda thelynor bach da yn chwarae’r gainc, a phawb yn ceisio canu cyfalaw a pheint yn eu llaw. Stompiwn gerdd dant yn neuadd y pentre a’r dafarn.

Ond jiw, mae’r hen bla cystadlu yma wedi cydio ynof i, a dw i’n deall yn iawn ymhle mae’r hen gythraul canu yn llechu. Llandysul 2017 amdani.

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 3)

Cyhoeddwyd Tachwedd 9, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.

Tagiau: cor heli, llyn ac eifionydd, ymarferion, yr wyl cerdd dant


Dim ond tridiau i fynd. Sut y digwyddodd hynny? Hedfanodd yr wythnosau i rywle, fel hen wrach ar ysgub drwy hud yr hydref.

Rydyn ni ar yr ochr dywyllaf i Galan Gaeaf, ac mae yna gyffro i’w deimlo at y noson fawr ym Mhlas Heli. Ewch yno rywbryd am sbec a thamed i fwyta, gyda llaw; mae yna olygfa ddihafal draw at Berch (traeth Abererch) ac Eryri. Ni fydd cyfle i fwynhau’r olygfa nos Sadwrn, wrth gwrs, a phawb ar bigau’r drain yn barod i gamu ar lwyfan.

Bu’n rhaid i mi golli ambell ymarfer, er cywilydd, ar ôl i’r babi fod yn sâl sawl gwaith y mis diwethaf, a minnau yn dychwelyd i’r gwaith. Nid yr adeg delfrydol i ymuno â chôr, ond fel na mae hi.

Y tro nesa’ – ac ydw, dw i’n ffyddiog y bydd yna dro nesa’ os cymrith ryw gôr bach fi – fydda’ i ddim yn colli’r un ymarfer. Dyw peidio â mynd i ymarfer ddim yn deg â phawb arall, yn enwedig yr arweinwyr sy’n gorfod bod yno yn ddiffael.

Cerdd dant ‘go iawn’

Mae bod yn y côr yn dipyn o hwyl ac yn gyffrous. Serch hynny, wn i ddim faint o brofiad cerdd dant ‘go iawn’ y mae rhywun yn ei gael mewn côr mawr fel hwn, o ran dysgu’r hen, hen grefft. Ymarferion tebyg i ymarferion côr cyffredin ydyn nhw, a rheiny o’r safon uchaf; pawb yn mynd ati i ddysgu eu llais (alto, alto canol, soprano, soprano canol) ac asio yn gelfydd wedyn.

Mae hanfodion y grefft yno, wrth gwrs – bydd y cyfeilydd yn chwarae’r gainc wreiddiol a ninnau’n canu’r gyfalaw wahanol, sef y gosodiad.  Ond rydyn ni’n cael copi hen-nodiant o’r gosodiad pedwar llais ac yn cael ymarfer ymlaen llaw. Mae’n debyg taw canu o’r glust yn fyrfyfyr fyddai’r hen gantorion penillion, a hynny am ryw achlysur neu’i gilydd o’r byd yr oedden nhw’n perthyn iddo; nid detholiad o awdl fawr am dranc yr iaith ac am ‘fur Gwynedd’ yn gwegian.

Wedi dweud hynny, falle ’mod i jyst ddim yn sylwi; efallai bod y gwir grefft yn cael ei hau ynon ni’n ddwfn ddwfn wrth i ni gael ein dysgu i godi a gostegu, cyflymu a phwyllo, gwenu a difrifoli.

Efallai taw mynd ati ar eich liwt eich hun sydd raid. Gwell byth, ddysgu gosod cerdd dant – a hynny wrth draed y meistri ar y cyrsiau gosod niferus sy’n cael eu trefnu ar hyd y wlad erbyn hyn. Does yna ddim esgus bellach dros beidio â thrwytho’ch hun yn hen draddodiadau gwerin ein gwlad os taw dyna chi’n ei ddymuno.

Am y tro, r’yn ni yma i gystadlu, a hynny mewn gŵyl fawr genedlaethol. Mae pobol yr ardal wedi gweithio yn galed yn codi arian ac yn pwyllgora a threfnu. Da clywed bod dros ddeg ymhell o bartïon cerdd dant am gystadlu nos Sadwrn (Tachwedd 12). Ac mae’r gwybodusion i gyd yn edrych ymlaen at yr ornest rhwng y corau.

Iaics!

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 2)


Mae Non Tudur yn dal ati’n ddygn gyda gweddill aelodau Côr Heli ar gyfer yr Wyl Cerdd Dant a gynhelir ym Mhwllheli ar Dachwedd 12…

Anadlu. Yn y man cywir. Mae hyn yn HANFODOL. Bydd yr ymarfer yn dod i stop os bydd yr arweinydd yn clywed anadl fawr.

Rhaid cuddio’r anadl rhwng geiriau neu gymal, neu ei gymryd ynghynt yn y llinell, er mwyn eich cario at y diwedd. Rhywbeth tebyg i’r hen ‘gipanadl’ fondigrybwyll y mae’r dihafal gerdd-dantes Sioned Grug (un o gymeriadau comig Caryl Parry Jones) yn ein cynghori arno. Ond efallai yr af i ailastudio dosbarthiadau meistr Sioned – mae yna lot fawr o reolau yn codi wrth ganu cerdd dant. Rhaid ynganu ‘min’ fel ‘mun’, a pheidiwch sôn wrtha i, fel rhywun o Aberystwyth, am drio canu’r gair ‘Llŷn’. A gwenu wrth ganu! Help…

Peidio ynganu ‘ei’

Dylech chi ddim ynganu ‘ei’ fel yn ‘ceir’. Na, mi ddylech ganu ‘ei’ fel i-dot bob un tro. Nid oes y fath beth ag ‘ei’ ar lafar yn Gymraeg. Gwrandewch ac EIliwch.

Blino a llusgo

“Rhaid i chi gyflymu yn y pennill cynta yna, neu erbyn i chi gyrraedd y chweched pennill fe fyddwch chi gyd ar eich cefnau, ar ‘y ngwir.” Dyna gerydd caredig ond difrifol yr arweinydd Alwena – un sy’n aml yn ennyn chwerthin gyda’i disgrifiadau digri o fyd cerdd dant – yn y chweched ymarfer. Y peth yw, gyda chynifer mewn côr, pwy a ŵyr pwy na beth sy’n arafu’r côr. Y dôn / gainc / alaw / y gynghanedd sydd ar fai, nid ni! Wir.

Odi, mae pawb yn trio’u gore glas. Ac am wneud hynny tan y diwedd un. Mae ymuno â chôr cerdd dant – o ran traddodiad cystadleuol yr oes fodern, felly – fel tyngu llw i wasanaethu mewn mintai filwrol. Ein lleisiau yw’n picellau tân. Mae yn llafur cariad, a mawr yw fy edmygedd o’r arweinwyr sy’n gwneud hyn yn gwbl wirfoddol, dros barhad y Pethe a’r Gymraeg.

Ry’n ni’n griw, yn dîm, yn gatrawd, yn gôr. Nid oes dianc rhagor.

Ond mae hi’n hanner awr ’di naw yn barod, mae taith hanner awr adref o ’mlaen a rhaid ymarfer y ddau bennill olaf o leiaf unwaith eto…

Ond BETH fyddwn ni’n ei wisgo?

Dyma yw’r pwnc that dare not speak its name. Fe glywch chi ryw fwmial y tu allan i’r festri cyn bob ymarfer – ‘do, mi soniodd hon a hon am hynny y tro d’wetha, ond does na neb wedi dweud dim’. Er i ni drafod sawl syniad ymysg ein gilydd – yr ymateb rhadlon a geir yn ddiffael yw ‘ond dydi hynny ddim yn gweddu pawb’. Hunllef i’r arweinyddion.

Ym Mhwllheli fyddan ni, ac mae’r môr a’r heli yn rhan o wead y côr, felly fe gewch chi ddyfalu. Dewch i Blas Heli ym Mhwllheli ar Dachwedd 12 neu gwyliwch ar S4C i weld p’un ai “blodyn mawr” yn unol ag un o argymhellion Sioned Grug, ynteu rhywbeth bach mwy sidêt fyddwn ni’n ei wisgo.

Iaics! Mi fyddwn ni ar y teli!

BLOG: Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant! (Rhan 1)


Ymhen tair wythnos, fe fydd yr Wyl Cerdd Dant yn ymweld â Phwllheli. Eleni, mae Non Tudur yn edrych ymlaen at ei morio hi yng nghanol y cerdd dantwyr profiadol…

A dyna ni. Dw i wedi ei gwneud hi. Wedi camu o’r ochr dywyll, ac wedi gweld y golau (i eraill, dw i wedi gwerthu mas, wedi mynd yn gul, ac wedi colli arni). Dw i wedi ymuno â chôr cerdd dant.

Nid unrhyw gôr, ond côr mawr at Ŵyl Cerdd Dant 2016 ym Mhwllheli ganol Tachwedd, o dan arweiniad dwy arglwyddesau’r byd cerdd dant, Gwenan Gibbard ac Alwena Roberts. Daeth y gwahoddiad gan Gwenan, ar ôl i mi gyfaddef wrthi un tro bod gen i (a sawl un arall) ryw ysfa gref i brofi cerdd dant ryw ddydd. Ie, ha ha. Yn anffodus, mae Gwenan yn un anodd iawn i’w gwrthod am ei bod hi mor dirion ei natur.

“Paid a phoeni, bydd rhai ohonyn nhw erioed wedi canu cerdd dant o’r blaen,” meddai, fel mêt. Ac yna’r fwyell: “A digwydd bod, mi fyddwn ni yn canu ar gainc enwog dy fodryb Nan, ‘Penyberth’.” Dyna selio’r ddêl.

Serch hynny, fe fyddai’n golygu teithio hanner awr yn ôl a blaen bob nos Fercher am ddeg wythnos gyfan. Minnau a babi blwydd yn ordueddol o ddeffro yng nghanol nos. Beth ddaeth dros fy mhen? Wedi oes o wadu f’etifeddiaeth, a nosweithiau di-ri’ yn beirniadu cerdd dant ar y soffa adre’, dyma gyfle i fyw’r peth drosof i fy hun.

Roedd yn gynnig unwaith mewn oes. Doedd dim amdani ond cytuno.

Ond fydda i ddim yn nabod neb…

Mae hyn yn bwynt dilys. Os byddwch yn ymuno â chôr ym mherfeddion y fro Gymraeg, mae’n debyg y bydd y lleill yn nabod ei gilydd yn dda IAWN. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi hel at ei gilydd o bob cornel o Lŷn ac Eifionydd ac o Arfon.

D’yn nhw ddim wedi arfer gofyn ‘un o le ydach chi?’ gan eu bod i gyd yn adnabod ei gilydd yn dda IAWN. Ond edrychodd neb yn gam arna i, diolch byth. Maen nhw’n deall y sgôr. Ry’n ni yno i ganu cerdd dant. Yr efengyl sanctaidd.

Yn ei deall hi

Daeth tua 70 i’r ymarfer cyntaf diolch i apêl hwyliog Gwenan. Mae’r nifer wedi aros yn lled gyson trwy’r ymarferion cyntaf, er i haul mis Medi ildio’i le i dywyllwch yr hydref gyda phob ymarfer.

Mae grwn naturiol swynol yn perthyn i griw sydd wedi hen arfer â chyd-ganu cerdd dant – fel sŵn tonnau bach yn torri ar draethell unig. Rhyw asio cyfrin. Mae eisiau ychydig bach o grap ar gerddoriaeth arnoch chi i ddilyn ymarferion.

Cyfle neu ddau sydd yna i ddysgu llinellau’r altos neu’r sopranos ar eich pennau eich hunain, yna pawb drostyn nhw eu hunain wedyn a hei lwc i chi (a chlustfeinio’n slei bach ar eich cymdogion hyderus – cofiwch sodro’ch hun yng nghanol cantorion eich cyfryw lais).

Ond r’yn ni mewn dwylo da; o fewn dau ymarfer roedd o leia’ bedwar pennill yn y bag. Waw.

Adolygiad – Me Before You

Cyhoeddwyd Mehefin 7, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.


Rhiannon Williams
Rhiannon Williams sy’n adolygu’r ffilm sy’n addasiad o nofel Jojo Moyes…

Ymysg y ffilmiau am archarwyr a’r ymrafael rhwng da a drwg sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd fe wyliais un oedd yn gwrthgyferbynnu â’r ffilmiau hyn, sef y ddrama ramantaidd Me Before You.

Mae’r ffilm wedi’i seilio ar nofel fwyaf adnabyddus Jojo Moyes o’r un teitl sy’n dilyn stori Louisa neu Lou Clark (Emilia Clarke – seren Game of Thrones), cymeriad lliwgar ac optimistaidd sy’n cael swydd fel gofalwr i Will Traynor (Sam Claflin – a ymddangosodd yn yr Hunger Games), dyn cefnog, sy’n cwadriplegig o ganlyniad i ddamwain feic modur.

Er eu bod yn perthyn i ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol mae perthynas unigryw yn datblygu rhyngddyn nhw sy’n arwain at gariad gan newid edrychiad y ddau ar y byd.

Cyniga’r ffilm chwa o awyr iach am ei bod wedi’i hysgrifennu a chyfarwyddo gan fenywod ac mae un o’r prif gymeriadau’n fenyw.

Eto, gwrthgyferbynna hyn â ffilmiau tebyg megis The Fault in Our Stars a The Notebook a gafodd eu cyfarwyddo gan ddynion, sydd hwyrach yn dangos bod Hollywood, o’r diwedd, yn symud at y cyfeiriad cywir o degwch rhwng y ddwy ryw yn y gweithle.

Gan nad wyf wedi darllen y llyfr (eto) gallaf feirniadu’r ffilm ar ei phen ei hun. Ceir cydbwysedd gwych rhwng y defnydd o hiwmor ac agweddau trasig trwyddi draw gan wneud y berthynas rhwng Lou ac Will yn hynod o gredadwy.

Er nad oes llawer o gynnwys gweledol yn y ffilm mae ystumiau wynebol y ddau brif gymeriad yn rhywbeth i glodfori. Un o olygfeydd mwyaf hudolus y ffilm yw pan mae Lou yn eistedd ar gôl Will yn ei gadair olwyn er mwyn dawnsio ag ef, ac wrth i’r camera ddilyn y ddau’n troelli, gwelwn weddill y parti’n pylu o’u hamgylch.

Bellach, mae Moyes wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu ysgrifennu dilyniant i’r nofel a ffilm o’r enw After You, sy’n newyddion arbennig ar ôl iddi dorri calonnau pawb sydd wedi darllen y stori.

Rhybudd: mae’r diweddglo yn cael ei drafod isod, felly peidiwch â darllen ymlaen os nad ydych am wybod beth sy’n digwydd.

Er hyn, mae’r ffilm wedi derbyn cryn dipyn o sylw am y rhesymau anghywir gan y gymuned anabl. Nid yw’r cariad rhwng y ddau’n ddigon i Will newid ei feddwl ynghylch hunanladdiad cymorthedig yr oedd yn dymuno ers dechrau’r ffilm ac felly erbyn clo’r ffilm mae Will yn dewis marw.

Does dim amheuaeth ei bod hi’n hen bryd i’r celfyddydau normaleiddio anabledd ond oherwydd y diweddglo a’r wedd Hollywoodaidd ar fywyd ac anabledd mae’r ffilm yn argyhoeddi pobl ei bod hi’n well dewis marw na byw bywyd gyda nam neu anabledd.

Yn ogystal, unwaith eto mae’r diwydiant ffilm wedi rhoi’r rôl i actor abl lle nad oes angen am nad yw’r ffilm yn canolbwyntio ar ddirywiad neu drawsnewidiad y cymeriad, megis y ffilm The Theory of Everything, gan ddiffinio cymeriad Will gan ei anabledd yn unig.

Fodd bynnag, anaml y gwelwn ffilmiau sy’n trafod ewthanasia heb sôn am ei drafod mewn modd mor sensitif ac ystyrlon, sydd eto’n gam mawr i Hollywood.

Er ei bod hi’n ffilm ddadleuol cyniga ochr ffres ar y stori ramantus draddodiadol. Yr unig gyngor sydd gennyf yw i chi ei gweld wrth wisgo masgara waterproof â bocs o hancesi wrth eich ochr.

Marc: 6/10

Pod Pêl-droed Eisteddfod yr Urdd


Podledliad pêl-droedaidd ei naws sydd gennym ni i chi o faes Eisteddfod yr Urdd yn Fflint heddiw, wrth i’r sylw droi at ymgyrch Cymru i ddod yn Ewro 2016.

Owain Schiavone ac Iolo Cheung sydd yn ôl fel yr arfer, wrth iddyn nhw fwrw golwg ar y garfan derfynol a ddewisodd Chris Coleman i fynd i Ffrainc.

Yn ymuno â nhw mae Owain Young, sydd yn rhedeg cwmniau dillad Shwldimwl a peldroedcymru.com, ac yn gefnogwr brwd o’r tîm cenedlaethol.

Mae’r tri yn trafod cynlluniau a gobeithio ar gyfer yr Ewros, ac mae Owain hefyd yn datgelu pa grysau sydd wedi bod yn gwerthu fel slecs ar faes yr Urdd yr wythnos hon!

Pod Eisteddfod yr Urdd – Dydd Mawrth

Cyhoeddwyd Mai 31, 2016 gan Cymru.

Tagiau: Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016


Dyma ni wedi dod at derfyn yr ail ddiwrnod yma yn Eisteddfod yr Urdd 2016 – felly mae’n amser am bodlediad arall o’r maes yn Fflint!

Ddoe fe gawson ni sgwrs â’r actores a’r diddanwr Caryl Parry Jones, a’r darlithydd Dr Heledd Iago, ill dwy yn barod i frolio’u hardal leol sydd yn cynnal yr ŵyl ieuenctid eleni.

Yn ymuno ag Iolo Cheung ar y pod dydd Mawrth mae Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a phrif weithredwr yr Urdd Sioned Hughes.

Mae Anni wedi bod yn brysur eleni yn ei rôl newydd gan ymweld ag ysgolion o bob cwr o Gymru yn rhinwedd ei swydd, ac heddiw ar y maes fe fu hi’n cyfarch Mistar Urdd oedd yn dathlu’i ben-blwydd yn 40 oed.

Rydyn ni hefyd yn cael sgwrs â Sioned am ei rôl gymharol newydd, ei Eisteddfod yr Urdd cyntaf hi, a’r datblygiadau ar gyfer pobol ifanc gan gynnwys bar ar y maes ar ddiwedd yr wythnos.

Heb oedi ymhellach, dyma’r podlediad diweddaraf i chi:

Pod Eisteddfod yr Urdd – Dydd Llun

Cyhoeddwyd Mai 30, 2016 gan Cymru.

Tagiau: Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016, Pod Eisteddfod yr Urdd


Rydan ni bellach yn tynnu at derfyn y diwrnod cyntaf yma yn Eisteddfod yr Urdd – ac am ddiwrnod mae hi wedi bod yma yn y Fflint, gyda’r haul yn tywynnu a’r maes yn llawn bwrlwm plant a rhieni (ac yn bwysicach fyth, mae’r trefnwyr yn ein sicrhau ni nad oes ‘cam’ wedi bod yn y cystadlu eto!).

Dyma ni nôl felly ar gyfer Pod Eisteddfod yr Urdd cyntaf Golwg360 o’r wythnos, wrth i ni gael rhywfaint o flas ar beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen heddiw.

Yn ymuno ag Iolo Cheung ar y pod ddydd Llun mae dwy o ferched yr ardal – y gantores, actores a diddanwr amryddawn Caryl Parry Jones, sydd hefyd wedi bod yn Lywydd y Dydd, a’r darlithydd Dr Heledd Iago o Brifysgol Abertawe.

Mae rygbi a Sir y Fflint yn ddau beth y mae Caryl yn hoff iawn o’i drafod, ac mae’r ddau bwnc ymysg y rheiny sydd yn cael sylw wrth i ni eistedd i lawr yn yr haul am sgwrs, tra bod Heledd yn ein tywys ni drwy rai o weithgareddau’r Gwyddonle.

Gallwch hefyd ddarllen mwy o newyddion y maes, gan gynnwys holl ganlyniadau’r dydd ac enillwyr y gwobrau celf a chyfansoddi, ar ein tudalen Eisteddfodau.

Holi Steffan Alun: Y digrifwr cynhenid Cymreig

Cyhoeddwyd Ebrill 25, 2016 gan Y Blog Celfyddydau.

Tagiau: digrifwr, Extravaganza Stand-yp, Gwerthu Allan, Steffan Alun


Steffan Alun
Daeth taith criw o ddigrifwyr Cymraeg i ben yn Theatr Richard Burton yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd nos Sadwrn, wrth iddyn nhw ffilmio noson olaf y daith, ‘Extravaganza Stand-yp’ ar gyfer rhaglen ‘Gwerthu Allan’ ar S4C. Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n holi un o’r digrifwyr, Steffan Alun ar ddiwedd y sioe am ei waith fel digrifwr yn Gymraeg a Saesneg.

Alli di ddisgrifio dy deimladau ar ddiwedd noson ola’r daith?

Gweld sêr yn llwyr. Aeth hwnna mor glou ac mor araf ar yr un pryd. O’dd e’n teimlo fel arholiad diwedd blwyddyn. Ni ’di bod ar daith yn paratoi’r stwff ’ma, ond hefyd ar y llaw arall, mae’n teimlo hefyd bo ni ’di bod yn datblygu comedi yn Gymraeg ers cymaint o amser fel bod e hefyd yn teimlo fel penllanw i hynny. ’Na’r gig gorau i fi gael erioed, fi’n credu, ond ’na’r caleta fi ’di gorfod gweithio ’fyd. O’dd e’n bleser gwneud y gig ond mewn ffordd, fi’n falch bod e drosodd.

Roedd nifer o gyfeiriadau at y Noson Lawen yn y sioe. Ydy comedi Cymraeg wedi symud ymlaen ac i ffwrdd o hynny erbyn hyn?

Fi’n credu. Fi’n credu bod comedi Cymraeg yn datblygu mor glou ar hyn o bryd. Ni ’di gweld comedi Saesneg yn datblygu dros ddegawdau. Mae e fel bod comedi Cymraeg yn dala lan mor glou. Pan ddechreuais i bum mlynedd yn ôl, y noson Gymraeg gynta wnes i, fi oedd yr unig ddigrifwr ar y bil. O’dd ’da ti rywun yn canu, rhywun yn dweud jôcs traddodiadol. Fi o’dd yr unig stand-yp yn dweud straeon doniol. Nawr, mae ’da ni noson fel hon lle mae ’da ni ddwsin o ddigrifwyr gwreiddiol Cymraeg yn gwneud eu stwff gwreiddiol eu hunain. Fi’n credu bo ni mewn sefyllfa gref iawn ar hyn o bryd.

Fel comedïwr yn Gymraeg a Saesneg, sut wyt ti’n addasu i weithio am yn ail rhwng y ddwy iaith?

I fod yn onest, sai’n ffindo’r peth yn rhy anodd. Fi’n ddwyieithog, fi’n rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’r deunydd fwy neu lai yn gwbl wahanol yn y ddwy iaith. Sai’n un sy’n cyfieithu o un i’r llall. Fi’n datblygu stwff gwreiddiol yn Gymraeg a stwff gwreiddiol yn Saesneg. Ond ar y llaw arall, mae e yn od. O’n i’n fan hyn heno, a fory, bydda i mewn clwb yn Brighton yn Saesneg lle fydd neb yn gwybod pwy ydw i. Mae e’n brofiad gwahanol, ond dyna hwyl y peth, wir.

Ydy e’n wendid gan rai comediwyr eu bod nhw’n cyfieithu eu deunydd?

Sai’n credu fod e’n wendid. Mae arddull pawb yn wahanol. Mae systemau pawb yn wahanol. I fi, dyw’n stwff Saesneg i, am ba reswm bynnag, ddim yn gweithio cystal yn Gymraeg. Ond fi’n credu, hyd yn oed tase fe yn gweithio, mae’n well ’da fi fynd ar ôl stwff Cymreig cynhenid, stwff sy ddim ond yn gallu digwydd yn Gymraeg. Mae ’na lot o rwystrau’n wynebu adloniant yn Gymraeg a fi’n credu i oresgyn y rhwystrau ’na fod rhaid manteisio ar y cryfderau. Un o gryfderau comedi Cymraeg yw bod llwyth o bynciau sy erioed wedi cael eu trafod ar lwyfan gan ddigrifwr o’r blaen. Mae’n bleser cael mynd ar ôl y pynciau hynny.

Wyt ti’n teimlo bod mwy o bwysau arnat ti pan wyt ti o flaen y camerâu?

Yn bendant. Os oes rhywbeth yn mynd o’i le mewn gig byw, alli di handlo’r peth a gwneud jôc a bron â bod torri ma’s o gymeriad a gwneud jôc am y peth. Os oes rhywbeth yn methu mewn stafell o flaen cynulleidfa, os yw’r gynulleidfa ddim yn chwerthin, rhaid i ti gadw at y sgript achos mae’r camerâu’n bwysicach. Y gynulleidfa gartre sy’n bwysig mewn gig fel hyn. Cwpwl o gannoedd oedd yn y stafell yn fyw, ond miloedd yn gwylio.

Bydd chwe rhaglen yn y gyfres newydd o ‘Gwerthu Allan’ ar S4C, ac fe fydd rhagor o raglenni’n cael eu ffilmio yn yr hydref. 13 o ddigrifwyr fydd yn cymryd rhan yn y gyfres i gyd.

Mae Steffan Alun yn cyflwyno’i noson Saesneg ei hun yn Tino’s ar Wind Street yn Abertawe. Fe fydd e’n ymddangos yn nosweithiau Goreuon Comedi Cymraeg ngŵyl gomedi Machynlleth y penwythnos nesaf (Ebrill 29-Mai 1) ynghyd â Phil Cooper, Karen Sherrard, Beth Jones, Geth Robyns, Chris Chopping, Jams Thomas a llawer mwy.