Tîm criced Cymru yn lle Morgannwg? Dim diolch!

 

Gohebydd golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n pwyso a mesur erthygl y gohebydd criced, George Dobell sydd yn galw am greu tîm criced i Gymru fel ateb i broblemau Clwb Criced Morgannwg.

Fe fu gwylio Morgannwg ers rhai blynyddoedd yn brofiad anodd. Does dim dwywaith am hynny. Fe fu rhai yn cwestiynu a yw’r chwaraewyr yn ddigon da; eraill yn dweud nad yw’r tîm hyfforddi, sy’n frith o gyn-chwaraewyr profiadol, yn ddigon da.

Fe ddaeth y cyfan i fwcwl ar ôl tymor siomedig pan gafodd swydd y prif weithredwr a chyfarwyddwr criced, Hugh Morris ei hollti’n ddwy, sy’n golygu bod Morgannwg bellach yn chwilio am Gyfarwyddwr Criced newydd. Ac maen nhw hefyd yn chwilio am Brif Hyfforddwr yn dilyn diswyddo Robert Croft.

Unwaith y cafodd yr adolygiad allanol annibynnol ei gyhoeddi, ac yna ei gyflawni gan Huw Bevan, roedd hi’n anochel y byddai Hugh Morris yn colli o leia’ hanner ei swydd. A oedd yr adolygiad yn gwbl annibynnol sy’n gwestiwn arall, wrth iddo gael ei gwblhau gan dad i un o chwaraewyr iau y sir.

Roedd colli Robert Croft wedyn yn ergyd ddwbwl. Fe ddylai, yn fy marn i, fod wedi cael cyfle i weithio â’r Cyfarwyddwr Criced newydd – a hwnnw, o bosib, yn rhywun ffres o’r tu allan.

Datblygu chwaraewyr a gwerthu tocynnau

Mae George Dobell, mewn colofn yn The Cricketer fis yma, yn dadlau nad yw’r clwb wedi llwyddo o ran datblygu chwaraewyr. Ond rhaid i Forgannwg, o fabwysiadu polisi o ddatblygu’r to iau o Gymru, gadw at y polisi hwnnw. Amynedd piau am y tro. Mae’r chwaraewyr, ac yn enwedig y batwyr, yn sicr wedi tangyflawni. Ond roedden nhw heb brofiad o’u cwmpas ar ôl colli Shaun Marsh ac Usman Khawaja. O mor wahanol allai pethau fod gyda mwy o chwaraewyr profiadol yn y tîm.

O ran diffyg gwerthu tocynnau, ail ddadl y colofnydd, nid Morgannwg yn unig sy’n ei chael hi’n anodd denu’r dorf. Mae’n drist gweld tranc y gemau pedwar diwrnod, y dull puraf ar y gêm. T20 yw’r ffordd ymlaen, meddai’r awdurdodau ers talwm. Ond bellach, ‘The Hundred’ yw’r gystadleuaeth ‘gyffrous’ newydd. Ond mae’r awdurdodau’n gwneud traed moch o’r cynlluniau. Os nad yw Morgannwg, na’r siroedd eraill o ran hynny, yn denu’r dorf i’r Vitality Blast, mae’r gystadleuaeth newydd yn annhebygol o ddenu cefnogwyr newydd i’r gêm ychwaith. Hon, wedi’r cyfan, fydd y “gêm ranbarthol” – cofiwch yr helynt pan aeth y byd rygbi yng Nghymru i lawr y trywydd hwnnw.

Dim “perthnasedd” yn y gymuned

Cylch gorchwyl Morgannwg, ers tro, yw “gwneud Cymru’n falch”. Mae gan Forgannwg safle unigryw ymhlith y siroedd. Nid sir yn unig y mae’n ei chynrychioli, ond cenedl gyfan. Mae’n cynnal gemau yng Nghaerdydd, Abertawe a Llandrillo yn Rhos – fe fu’n cynnal gemau yn Y Fenni, Glyn Ebwy, Pontypridd, Llanelli a Chastell-nedd yn y gorffennol hefyd. Byddai cam yn ôl i’r dyddiau hynny’n gam ymlaen – ond mae’n annhebygol o gofio’r holl arian a gafodd ei fuddsoddi yn y stadiwm yng Nghaerdydd i gynnal gemau rhyngwladol. Cam da yn ariannol, ond mae’n sicr wedi dod ar draul tîm Morgannwg ar y cae.

Y dadleuon yn erbyn Morgannwg

“Gadewch i ni fod yn glir,” meddai George Dobell am Forgannwg. “Nid diben y canlynol yw eu cosbi.” Dywed ei fod am weld criced yng Nghymru’n llewyrchu ac er mwyn i hynny ddigwydd, fod angen “trafod opsiynau amgen adeiladol”.

Mae’n dadlau – efallai yn gwbl gywir – nad yw chwaraewyr iau y sir yn datblygu fel y dylen nhw fod yn ei wneud. Ers yn rhy hir bellach, mae Morgannwg yn colli wicedi cynnar am gyn lleied o rediadau nes bod rhaid dibynnu ar y batwyr gwannaf i’w hachub. All hynny ddim parhau yn y tymor hir.

Mae’n nodi hefyd mai Morgannwg yw’r unig sir i fethu ag ennill tlws ers 2005. Cyn hynny, enillon nhw bedwar tlws rhwng 1993 a 2004 – y gynghrair undydd dair gwaith (1993, 2002 a 2004) a Phencampwriaeth y Siroedd unwaith yn 1997. Un peth oedd yn gyffredin ym mhob un o’r timau – roedd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr yn Gymry. Chwaraewyr profiadol oedd gan Forgannwg yn 1993 a 1997 – cenhedlaeth oedd wedi diodde’ dipyn yn y 1980au. Chwaraewyr iau oedd y rhan fwyaf yn 2002 a 2004, gyda digon o chwaraewyr profiadol o’u cwmpas.

Mae dadlau nad yw Morgannwg wedi cynhyrchu digon o chwaraewyr o Loegr yn gywir, ond yn ddadl ers degawdau, ac nid dim ond yn y cyfnod aflwyddiannus diweddaraf. Y gwir amdani yw fod dewiswyr Lloegr yn dewis peidio croesi Pont Hafren am ba bynnag reswm – ac fe fu digon o chwaraewyr oedd yn deilwng o’u lle dros y blynyddoedd.

 Ai tîm Cymru yw’r ateb?

Dyw’r un o’r dadleuon uchod ddim yn ddigon i gyfiawnhau diddymu Morgannwg. A fydden nhw’n cael eu defnyddio i alw am ddiddymu’r un o’r 17 sir arall yn Lloegr? Go brin. Mae galw am dîm Cymru ar draul Morgannwg yn ateb rhy gyfleus, dw i’n meddwl, ac yn taflu Morgannwg i’r domen sbwriel yn hytrach na buddsoddi amser ac ymdrech i geisio eu codi unwaith eto.

Mae’r ddadl dros sefydlu tîm Cymru yn un sydd wedi bod yn codi stêm yn ddiweddar. Ond fel dw i wedi dadlau yn y gorffennol, mae’n dueddol o godi’i phen wrth i ymgyrchwyr gwleidyddol ymateb i hynt a helynt Morgannwg – pan fo’r sir yn cynnal gemau Lloegr, pan oedden nhw mewn dyled a, bellach, pan fo’r sir yn wynebu un o’r cyfnodau mwyaf ansicr yn ei hanes.

Oni ddylai’r alwad am dîm Cymru ddod ddim ond am fod pobol eisiau gweld tîm cenedlaethol? Ddylai’r ddadl yn sicr ddim cael ei defnyddio i ‘gosbi’ Morgannwg. Dyna sy’n fy mhoeni am erthygl George Dobell. Hyd yn hyn, ychydig iawn o bobol o fewn y byd criced sy’n dadlau o blaid tîm i Gymru. Ond mae angen dadlau o’i blaid am y rhesymau cywir.

Awgrymiadau George Dobell

Yn y lle cyntaf, mae George Dobell yn dadlau y byddai Cymru yn gallu dod yn aelod o’r ICC (Cyngor Criced Rhyngwladol). Fe fydden nhw, meddai, yn gallu chwarae mewn gemau ugain pelawd i ddechrau. Mae George Dobell yn galw am sefydlu cystadleuaeth Brydeinig gyda Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Mae’r fath gystadleuaeth wedi’i chynnal yn y gorffennol gyda thîm amatur Cymru.

Byddai Cymru’n datblygu wedyn, meddai, i chwarae mewn gemau 50 pelawd, fel yr Alban, a cheisio yn y pen draw am statws gemau prawf, fel sydd gan Iwerddon. O’r dechrau i’r diwedd, fe allai gymryd rhai degawdau – fydd e’n sicr ddim yn digwydd dros nos.

Yn ôl George Dobell, mae angen tîm sydd yn cynrychioli ac yn chwarae drwy Gymru gyfan. Gallai Morgannwg ymateb i’r awgrym hwnnw drwy gynnal mwy o gemau yn Abertawe a Llandrillo yn Rhos – rhywbeth sy’n debygol o ddigwydd pan fydd y gystadleuaeth ddinesig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2020.

Fe fyddai Morgannwg, meddai wedyn, yn colli chwaraewyr pe bai gan Gymru dîm cenedlaethol. Byddai rhai yn dal yn dyheu am chwarae mewn gemau 50 pelawd neu gemau prawf i Loegr ac felly yn gweld un o siroedd Lloegr fel ateb i’w breuddwydion. Ond dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd, gyda James Harris ac Aneurin Donald ymhlith y rhai sydd wedi croesi Pont Hafren am y rheswm hwnnw.

Ond, fel y dywed George Dobell, “gadewch i ni fod yn glir”. Fyddai’r gohebydd ddim wedi ysgrifennu’r erthygl pe bai Morgannwg wedi bod yn dîm llwyddiannus dros y degawd diwethaf.

Wrth ennill y gystadleuaeth ugain pelawd yn 2018, dangosodd Swydd Gaerwrangon beth sy’n gallu cael ei gyflawni wrth ddyfalbarhau gyda chwaraewyr iau. Mae’n gyfnod newydd yn hanes Morgannwg. Gadewch i ni weld beth sy’n bosib o dan y tîm hyfforddi newydd. Ond peidied neb â chredu mai gosod Morgannwg a Chymru yn erbyn ei gilydd yw’r ateb i holl broblemau criced yng Nghymru. Mewn undod mae nerth.

Y Blog Criced

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd