Maesu ffug – be’ nesa’ i’r byd criced?

 

Llun parth cyhoeddus CC0 trwy Commons Wikimedia

Alun Rhys Chivers sy’n bwrw golwg ar ddeddfau newydd y gêm…

Mae’r byd criced, i ni’r puryddion, yn symud ymhell oddi wrth y gêm ry’n ni’n ei charu ers degawdau – peli pinc, gemau nos Wener yn esgus i dancio, a chysgod y gystadleuaeth ‘100 pelen’ ddomestig sy’n cael ei chefnogi a’i harddel gan nemor neb.

Ond un peth y bu pawb, bron, yn gytûn yn ei gylch ers y dechrau’n deg yw bod angen cynnal ysbryd y gêm a chadw at y deddfau (nid rheolau, ond deddfau, cofiwch).

Cafodd deddfau criced eu dyfeisio gan Glwb Criced Marylebone (yr M.C.C.) yn 1787. Ond bob hyn a hyn, mae’r awdurdodau criced yn gweld yn dda i’w haddasu yn ôl yr angen.

Fis Medi’r llynedd, cafodd y chwaraewr cyntaf ei gosbi ers addasu rheol 41.5, sy’n dod o dan yr adran ‘chwarae annheg’. Teitl y rheol yw ‘ymyrryd â’r batiwr, ei dwyllo neu ei rwystro’n fwriadol’.

Yr achos cyntaf

Mewn gêm rhwng Queensland ac XI Criced Awstralia, roedd Param Uppal newydd daro’r bêl i gyfeiriad y maeswr Marnus Labuschagne yn y cyfar, ac fe ffugiodd y maeswr dafliad i gyfeiriad y llain, heb fod wedi casglu’r bêl.

Does dim o’i le ar neidio a methu’r bêl (o safbwynt y deddfau, beth bynnag!), ond mae’r weithred o esgus taflu’r bêl yn groes i ysbryd y gêm. O ganlyniad i dafliad ffug y maeswr, oedodd y batiwr cyn cwblhau’r rhediad.

Yn ôl deddfau’r gêm, mae tramgwydd o’r fath yn arwain at bump rhediad cosb i’r tîm sy’n batio, ac mae’r dyfarnwyr yn egluro’r penderfyniad wrth y ddau gapten. Dydy’r belen honno ddim yn cyfri fel pelen gyfreithlon, sy’n golygu bod rhaid bowlio pelen ychwanegol yn ystod yr un belawd.

Dyma union eiriad y rheol:

41.5 Ymyrryd â’r batiwr, ei dwyllo neu ei rwystro’n fwriadol

  • 5.1 Yn ychwanegol at 41.4, mae’n annheg i unrhyw faeswr geisio’n fwriadol, drwy air neu weithred, i ymyrryd â’r naill fatiwr neu’r llall, ei dwyllo neu ei rwystro ar ôl i’r batiwr sy’n wynebu derbyn y bêl.
  • 5.2 Penderfyniad i’r naill ddyfarnwr neu’r llall yw penderfynu a yw unrhyw ymyrraeth, twyll neu rwystr yn fwriadol ai peidio.
  • 5.3 Os yw’r naill ddyfarnwr neu’r llall o’r farn fod maeswr wedi achosi neu wedi ceisio achosi’r fath ymyrraeth, twyll neu rwystr, fe fydd yn arwyddo ‘Pelen farw’ a hysbysu’r dyfarnwr arall o’r rheswm am yr alwad.
  • 5.4 Ni fydd y naill fatiwr na’r llall allan oddi ar y belen honno.

Mae’r deddfau’n mynd ymlaen i ddweud y caiff pum rhediad eu rhoi i’r tîm sy’n batio, a bod y ddau gapten yn cael eu hysbysu ynghylch y penderfyniad. Dydy’r belen dan sylw ddim yn cyfri at nifer y pelenni cyfreithlon yn y belawd, ac mae unrhyw rediadau sydd wedi’u sgorio oddi ar y belen yn cael eu rhoi i’r tîm sy’n batio, ynghyd â phum rhediad cosb.

Ond mae’r deddfau’n nodi’n glir fod pob achos yn wahanol, ac mai cyfrifoldeb y dyfarnwyr yw penderfynu beth sy’n briodol ar gyfer yr achos dan sylw.

Yr achos diweddara’

Fe gododd y mater ei ben unwaith eto nos Wener, wrth i Forgannwg herio Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yng Nghaerdydd. Penderfynodd y dyfarnwyr fod maeswr Morgannwg, Graham Wagg wedi ffugio tafliad er mwyn atal y batwyr rhag cwblhau rhediad.

O ganlyniad, cafodd Swydd Gaerloyw bum rhediad ychwanegol. Dau rediad oedd yn gwahanu’r timau ar ddiwedd yr ornest, a Morgannwg yn fuddugol. Dychmygwch yr olygfa pe bai Morgannwg wedi colli o drwch blewyn!

Methu â bowlio’r holl belawdau mewn da bryd

Cafodd Morgannwg eu cosbi unwaith eto ddydd Sul yn y gêm yn erbyn Middlesex yn Richmond. Methu â bowlio eu pelawdau o fewn yr amser a ganiateir oedd y drosedd y tro hwn. Ond yr un oedd y gosb – pum rhediad ychwanegol i’r gwrthwynebwyr.

Ond fel y dywedodd y cyn-wicedwr Mark Wallace ar Radio Wales, timau sy’n bowlio’r tîm arall allan sy’n aml yn cael eu cosbi o dan y ddeddf hon. Mae dwy funud ychwanegol yn cael eu rhoi ar gyfer pob wiced, ond mae’n cymryd mwy na hynny weithiau i’r batiwr gerdded i’r llain (ddylai e ddim, chwaith). Mae’n annheg, felly, i gosbi’r tîm sy’n maesu am wneud yr hyn y maen nhw i fod i’w wneud – bowlio’r tîm arall allan!

Yn ffodus i Forgannwg, maen nhw wedi ennill y ddwy gêm dan sylw. Ond fe allai’r deg rhediad ychwanegol yn sgil y naill ddigwyddiad a’r llall gostio’n ddrud ar ryw adeg yn ystod y gystadleuaeth pe bai angen cymharu cyfraddau sgorio’r timau.

Does dim byd o’i le ar ddeddfau’r gêm – mae eu hangen nhw. Yr hyn sy’n gadael blas cas i fi, o safbwynt yr helynt maesu ffug, yw’r ensyniad fod un o chwaraewyr Morgannwg, i bob pwrpas, wedi twyllo. Rhaid gochel, ddyfarnwyr, rhag bwrw sen ar gricedwyr sydd, ar y cyfan, yn cofio’r hen ddihareb honno – “It’s just not cricket.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd