RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: A ddaw dyddiau’r daffodil yn ôl?

Cyhoeddwyd Medi 26, 2016 gan Criced.


Carfan '97
Gohebydd Golwg360 Alun Rhys Chivers sy’n edrych yn ôl ar ddiwedd tymor digon siomedig i Glwb Criced Morgannwg…

Ro’n i wedi gobeithio gallu dechrau’r darn yma drwy longyfarch Matthew Maynard, prif hyfforddwr Gwlad yr Haf – a chyn-gapten a phrif hyfforddwr Morgannwg – ar arwain y sir i’w tlws Pencampwriaeth cyntaf erioed.

Daethon nhw’n ôl o waelodion yr adran (roedden nhw, fel Morgannwg, heb fuddugoliaeth yn eu chwe gêm gyntaf ddechrau’r tymor) i ddod o fewn trwch blewyn i orfoledd. Ond doedd dim diweddglo hapus – er iddyn nhw ddangos cryn gymeriad yn ystod y gêm olaf i guro Swydd Nottingham. Trueni na fuasai’r un cymeriad yn perthyn i Forgannwg y tymor hwn.

Pwyso a mesur y da a’r drwg

Gorffennodd Morgannwg yn yr wythfed safle yn ail adran y Bencampwriaeth, er iddyn nhw godi eu safon rywfaint yn ail hanner y tymor i sicrhau tair buddugoliaeth allan o 16 gêm yn y pen draw (daeth y tair yn ail hanner y tymor). Dydy Morgannwg ddim wedi codi eu hunain yn llwyr – ar y cae, o leiaf – allan o’r helynt chwe blynedd yn ôl a arweiniodd at Maynard yn ymddiswyddo, ynghyd â sawl unigolyn blaenllaw arall.

Mae’n deg dweud bod yr awydd i sicrhau criced rhyngwladol yng Nghaerdydd wedi gosod cyfyngiadau ariannol ar Forgannwg dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda stadiwm newydd sbon, fe ddaeth dyledion. Gyda’r dyledion y daeth newid pwyslais – o brynu chwaraewyr o’r tu draw i Bont Hafren i feithrin doniau chwaraewyr ifainc o Gymru.

Ar y cystadlaethau undydd y mae Morgannwg wedi canolbwyntio’r tymor hwn. Ac fe lwyddon nhw i ryw raddau. Daethon nhw o fewn un rownd o gyrraedd Diwrnod Ffeinals y T20 Blast cyn colli allan yn y pen draw i Swydd Efrog ar ddiwedd gêm oedd yn teimlo fel trobwynt – am y gwaethaf. Ryw fynd drwy’r mosiwns oedden ni i gyd ar ôl y noson honno yng Nghaerdydd. Cystadleuaeth o ddau hanner gafodd Morgannwg hefyd yng nghwpan 50 pelawd Royal London – dechrau da ond colli eu ffordd fel nad oedd modd iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Yr un fu’r ‘esgus’ ers blynyddoedd bellach wrth geisio cyfiawnhau un perfformiad gwael ar ôl y llall – “Ry’n ni’n paratoi at y dyfodol”, “ry’n ni’n meithrin sgiliau Cymry’r dyfodol”, a.y.b. Fe’i hailadroddwyd gan Toby Radford adeg ei benodi’n brif hyfforddwr y sir yn 2014. Prin iawn y gwyddem ni oll bryd hynny y deuai’r broffwydoliaeth yn wir o fewn dwy flynedd. Yn wir, gweld rhai o’r chwaraewyr ifainc yn manteisio ar eu cyfleoedd oedd un o uchafbwyntiau prin tymor siomedig.

Tro ar fyd?

Bellach, mae gan Forgannwg griw da o Gymry ifainc yn y tîm ac ar y cyrion – dan arweiniad y Cymro Cymraeg Robert Croft a’r is-hyfforddwr Steve Watkin. Y to iau fydd yn eu cario, mae’n debyg, dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Cafodd Aneurin Donald ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan y sir eleni ar ôl sgorio dros 1,300 o rediadau ym mhob cystadleuaeth. Fe darodd e ganred dwbl (234) ym Mae Colwyn i ddod yn gyfartal â’r record fyd-eang am y canred dwbwl cyflymaf erioed (Ravi Shastri, gynt o Forgannwg, sy’n rhannu’r record). Roedd record hefyd i Kiran Carlson, batiwr 18 oed o Gaerdydd, y chwaraewr ieuengaf erioed yn hanes Morgannwg i daro canred dosbarth cyntaf – gan guro record… ie, Matthew Maynard.

Mae Owen Morgan, y troellwr llaw chwith o’r Hendy, yn prysur sicrhau ei le yn y tîm fel chwaraewr amryddawn yn dilyn ei ganred cyntaf ar ddiwedd y tymor yng Nghaerwrangon ac mae’n siŵr y caiff e ddigon o gyfle i serennu gyda’r bêl y tymor nesaf yn sgil ymddeoliad Dean Cosker.

Ychwanegwch at hynny sgiliau’r bowliwr cyflym ifanc Lukas Carey, a gipiodd saith wiced yn San Helen yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton, ac mae digon o dystiolaeth y gall y daffodil flaguro unwaith eto’r flwyddyn nesaf.

Tymor 2017

Bydd hi’n 20 mlynedd fis Medi nesaf ers i Forgannwg godi tlws y Bencampwriaeth yn Taunton. Mae arwyddion cryf ar hyn o bryd fod potensial i’r criw presennol o Gymry ifainc yn y garfan efelychu llwyddiant carfan ’97. Ond fe fydd rhaid bod yn amyneddgar – fydd e ddim yn digwydd dros nos.

Bydd Orielwyr San Helen yn cyflwyno’u gwobrau nhw i’r chwaraewyr mewn cinio ar gyrion Abertawe heno. Bydd hi’n gystadleuaeth agos rhwng rhai o’r to iau am Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, ond Aneurin Donald yw’r ceffyl blaen. Un neu ddau enw yn unig sy’n sefyll allan ar gyfer gwobr Chwaraewr y Flwyddyn. Gwyliwch y gofod…

Cofio 1966: Ble’r oeddech chi?

Cyhoeddwyd Gorffennaf 30, 2016 gan Criced.


Wrth i’r Saeson hel atgofion di-ri hanner canrif union ar ôl i dîm pêl-droed Lloegr guro Gorllewin yr Almaen yn rownd derfynol Cwpan y Byd, mae gan un Cymro Cymraeg o Felindre ger Abertawe resymau cwbl wahanol am fod ag atgofion melys o Orffennaf 30, 1966. Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n sgwrsio â Llywydd Clwb Criced Morgannwg, Alan Jones.

Gorffennaf 30, 1966. Tîm pêl-droed Lloegr yn hawlio sylw’r cyfryngau chwaraeon wrth iddyn nhw godi cwpan Jules Rimet ar ôl trechu Gorllewin yr Almaen yn ffeinal Cwpan y Byd yn Wembley. Pwy (Sais neu beidio) all anghofio’r llun eiconig hwnnw o Bobby Moore – y cwpan yn ei ddwylo – yn cael ei godi i’r awyr gan Geoff Hurst a Ray Wilson? Llun a allai arwain at y cwestiwn, ‘Ble’r oeddech chi pan enillodd Lloegr Gwpan y Byd?’

Dim ond eiliadau fyddai eu hangen ar un o fawrion Clwb Criced Morgannwg i ateb y cwestiwn hwnnw. Ymhell o fwrlwm a phrysurdeb Wembley, roedd Alan Jones yn 27 oed ac ar lan y môr ar gae San Helen, ar ôl taro canred di-guro yn erbyn dau o fowlwyr cyflymaf a ffyrnicaf India’r Gorllewin. Beth, tybed, fyddai Alan Jones, 77 oed, yn ei gofio hanner canrif yn ddiweddarach am ei fatiad o 161 heb fod allan?

“Roedd tîm da gydag India’r Gorllewin yr adeg hynny. Pan wyt ti’n agor y batio, rwyt ti bob amser yn edrych am y bowlwyr cyflym sy’n mynd i chwarae yn dy erbyn di. Wrth gwrs, yn nhîm India’r Gorllewin bryd hynny roedd Wes Hall a Charlie Griffith.”

Roedd y ddau o’r Caribî eisoes wedi dangos yn erbyn Lloegr pa mor ddinistriol oedden nhw, ac fe welodd Alan Jones drosto’i hun pa mor gyflym oedden nhw o 22 llathen i ffwrdd. Er ei fod wedi taro 104 yn erbyn Swydd Essex yn y dyddiau cyn y gêm, efallai nad oedd wynebu’r bowlwyr agoriadol cymharol ddi-nod Tony Jorden a Brian Edmeades yn mynd i’w baratoi ar gyfer yr her o wynebu cyflymdra Griffith a Hall.

“O’n nhw wedi bowlio’n gyflym iawn yn erbyn Lloegr. Ddim yn aml iawn wyt ti’n cael y bowlwyr sy’n chwarae mewn prawf yn chwarae mewn gêm yn Abertawe ar ôl hynny. Ond ro’dd y ddau ohonyn nhw’n chwarae. Ro’dd y ddau ohonyn nhw’n bowlio’n gyflym iawn.”

Roedd Griffith a Hall wedi achosi anawsterau i un o fawrion y byd criced yn Lloegr, Brian Close, ar daith flaenorol India’r Gorllewin i Loegr yn 1963. Gadael i’w gorff fod yn darian oedd ateb Close i gyflymdra’r bowlwyr, cymaint felly nes bod y llun ohono’n gleisiau du a glas wedi’i anfarwoli bellach. Ond roedd amheuon wedi’u codi am ddull bowlio Griffith. Cafodd y gŵr o ynys Barbados ei gyhuddo o daflu’r bêl yn anghyfreithlon ac fe gafodd hynny ei brofi. Aeth ati wedyn i gywiro’i ddull bowlio. Trwy gywiro’i ddull, fe fyddai’n colli ychydig o’i gyflymdra.

“Bob amser rwyt ti’n chwarae yn erbyn rhywun sy’n bowlio’n gyflym fel y ddau yna, yn dy feddwl, rwyt ti ychydig bach yn nerfus,” meddai Alan Jones. “Ond siwrne ti’n cael dechrau, os galli di sefyll mewn am ryw hanner awr neu dri chwarter awr, mae pethau’n dod tipyn bach yn fwy rhwydd. Ond rhaid dweud, dyna’r ddau fowliwr mwya cyflym o’n i wedi chwarae yn eu herbyn erioed.”

Er yr ymdrechion gan Griffith i gywiro’i ddull, roedd yn parhau i daflu ambell i belen o hyd, yn ôl Alan Jones.

“Pan oedd e’n bowlio pelen fer, roedd e’n plygu’i fraich ac roedd yn galed iawn i bigo’r bêl lan wrth fatio yn ei erbyn e. O’r ddau, ro’n i’n meddwl bod Charlie Griffith yn fwy caled i chwarae yn ei erbyn e na Wes Hall oherwydd bod e’n towlu ambell i bêl. Doedd e ddim yn trial gwneud hynny, dyna fel o’dd e wedi bowlio erioed. Dwi’n cofio siarad gyda Ken Barrington, o’dd yn chwarae i Loegr, ac roedd e’n dweud yr un peth.”

Beth, felly, oedd cyfrinach Alan Jones wrth iddo wrthsefyll her y ddau brif fowliwr cyflym cyn mynd ymlaen i sgorio 161 heb fod mas?

“Rwyt ti’n trio gwneud popeth tipyn mwy cyflym nag wyt ti’n arfer gwneud. Rwyt ti’n trio symud tipyn mwy cyflym nag wyt ti’n symud yn erbyn unrhyw sir. Beth oedd yn galed yn Abertawe wrth chwarae yn erbyn Charlie Griffith a Wes Hall – Wes Hall oedd y cyflyma o’r ddau – oedd fod shwd action dda gyda Wes Hall.”

Ar ôl cael y gorau ar Griffith a Hall ar ddechrau’r batiad cyntaf, cariodd Alan Jones ei fat wrth i Forgannwg sgorio 337-8 cyn cau’r batiad. Cipiodd Griffith a Hall wiced yr un – y naill yn cipio wiced Bernard Hedges a’r llall yn cael y gorau ar Roger Davis. Yn eu batiad cyntaf, cafodd India’r Gorllewin eu bowlio am 193 i roi blaenoriaeth o 144 i Forgannwg. Ymestynnodd Morgannwg eu mantais i 197 wrth sgorio 53-2 cyn cau eu hail fatiad, a Wes Hall wedi cipio’r ddwy wiced. Gyda nod o 198 i ennill, daeth y glaw i roi terfyn ar yr ornest ac ar ddiweddglo cyffrous, wrth i India’r Gorllewin gyrraedd dim ond 33-2.

Roedd 98,000 o bobol yn Wembley i weld Lloegr yn ennill Cwpan y Byd. Ychydig filoedd oedd yng nghae San Helen i wylio’r Cymro Cymraeg o Felindre’n ychwanegu ei enw ei hun at ein llyfrau hanes ninnau yr ochr yma i Bont Hafren. Ac fe fyddai honno’n agor yn swyddogol gwta bum wythnos yn ddiweddarach.

Atgyfodi’r gorffennol er lles cenedlaethau’r dyfodol

Cyhoeddwyd Gorffennaf 22, 2016 gan Criced.

Tagiau: clwb criced casnewydd


Clwb Criced Casnewydd, Parc Spytty
Ar Fehefin 24, 1990 roedd hi’n ymddangos y byddai criced dosbarth cyntaf ar gae Rodney Parade yn dirwyn i ben o dan gwmwl a glaw’r dref ddiwydiannol heb i’r un belen o’r ornest olaf gael ei bowlio. Swydd Efrog oedd gwrthwynebwyr Morgannwg ar y diwrnod y byddai’r llen yn cwympo’n derfynol ar ganrif a chwarter o griced ar y cae hanesyddol yn Rodney Parade. Roedd ar fin cael ei werthu gyda’r byd rygbi yng Nghymru’n paratoi i droi’n broffesiynol.

Yn ddi-gartref ac yn ansicr o’u dyfodol, chwaraeodd Clwb Criced Casnewydd eu holl gemau oddi cartref cyn cael hyd i bencadlys newydd ym Mharc Spytty, cartre’r tîm pêl-droed, yn 1992. Chwarter canrif yn ddiweddarach a Pharc Spytty wedi’i hen sefydlu fel cartref newydd y clwb, roedd perygl bod tolc sylweddol o hanes yn mynd yn angof, fel yr eglurodd y prif hyfforddwr Mike Knight wrth Golwg360.

“Roedd nifer ohonon ni’n eistedd o gwmpas y bwrdd yn y bar yn trafod caeau dosbarth cyntaf da. Cafodd nifer o enwau eu crybwyll a wnes i awgrymu Rodney Parade. Roedd y cae yn dda, a’r llain yn wych i’r batwyr.

“Symudodd y sgwrs ymlaen ac ar ôl ychydig funudau, dywedodd ein capten Mike Claydon wrtha i, ‘Mike, dywedaist ti Rodney Parade. Ble’r oedd y cae criced yn Rodney Parade?’”

Os oedd angen rhagor o ysgogiad i atgyfodi rhan bwysig o hanes y clwb, diffyg gwybodaeth y capten am hanes ei dîm oedd yr ysgogiad hwnnw.

Ychwanegodd Knight, “Ar ddiwedd y noson honno, roedden ni’n teimlo bod angen i ni wneud rhywbeth i warchod traddodiad a hanes y clwb. Doedd gan y bois ifainc ddim clem fod yna orffennol yn Rodney Parade. A dyna ddechrau’r syniad o adeiladu amgueddfa i goffáu Rodney Parade.”

Y cam cyntaf i’r criw brwd a aeth ati i gasglu eitemau ar gyfer yr amgueddfa newydd oedd penderfynu beth oedd uchafbwyntiau 125 o flynyddoedd o griced yng Nghasnewydd. Ble i ddechrau? Batiad o 302 gan Wally Hammond i Swydd Gaerloyw yn 1939, a batiad cyfatebol o 287 heb fod allan gan Emrys Davies yn yr un ornest? Mae’r hanes yn rhan o gasgliad sy’n enwi’r chwaraewyr sydd wedi sgorio canred dwbl yng Nghasnewydd.

A beth am Brian Close a Len Hutton yn chwarae i Swydd Efrog yn 1949? Trevor Bailey yn cipio hat-tric i Swydd Essex yn 1950? Mae lle iddyn nhw hefyd ymhlith trysorau’r amryw gasgliadau. Ond darn bach o’r hanes yn unig yw’r rheiny. Rhaid mynd yn ôl i’r dechrau’n deg, ac i ddechreuadau criced yng Nghasnewydd, i werthfawrogi’r casgliad yn ei gyfanrwydd.

Yn ôl i’r dechrau’n deg


Yr Arglwydd Tredegar

Mae llinell amser sy’n ganolbwynt i’r amgueddfa’n dangos mai yn 1834 y daeth criced i Gasnewydd am y tro cyntaf, a’u bod wedi ymgartrefu yn Shaftesbury am y deugain mlynedd nesaf. Dan nawdd y bragwyr, y brodyr Phillips y cafodd clwb Athletaidd Casnewydd ei sefydlu, ac fe wnaethon nhw gyfrannu £750 at godi pafiliwn newydd ar droad yr ugeinfed ganrif. O fewn dwy flynedd i sefydlu clwb Athletaidd Casnewydd, symudodd y tîm criced i Shaftesbury ac i dir oedd yn eiddo’r Arglwydd Tredegar. Ymhlith y sêr cynharaf i chwarae ar y cae newydd roedd un o’r cricedwyr enwocaf erioed, W.G. Grace. Ar droad y ganrif, roedd gan y clwb dri chwaraewr proffesiynol blaenllaw eu hunain, sef Edwin Diver, Dick Steeples ac Arthur Silverlock, triawd oedd yn rhan hanfodol o lwyddiant cynnar y clwb.


Sêr y clwb – y gorffennol a’r dyfodol


Rhai o'r chwaraewyr sydd wedi chwarae i Forgannwg

Os oedd y triawd hwn yn ganolog i sefydlu’r tîm yn gadarn yng Nghymru, roedd un dyn yn gyfrifol am roi enw Clwb Criced Casnewydd ar y llwyfan rhyngwladol. Jim McConnon yw’r unig chwaraewr yn hanes y clwb i ennill cap i Loegr. Mae lle teilwng i’w orchestion yntau, wrth iddo gael ei ddewis yn lle’r troellwr Jim Laker yn 1954. Ond mae lle hefyd i un arall o gricedwyr rhyngwladol llai adnabyddus y clwb – brawd Mike Knight, Dave. Cynrychiolodd Knight dîm Cymru yng Nghwpan y Byd yn 1979 mewn gornest yn erbyn Sri Lanca.

Ers hynny, mae nifer o chwaraewyr y clwb wedi mynd ymlaen i gynrychioli Morgannwg yn y gêm sirol, gan gynnwys Phil North, Martin Roberts, Ian Thomas a Huw Waters.  Ac mae Mike Knight yn ffyddiog y bydd y traddodiad hwnnw’n parhau am flynyddoedd i ddod.

“Ry’n ni bob amser wedi cynhyrchu llawer o chwaraewyr ifainc sydd wedi chwarae i dimau Cymru a Morgannwg. Mae Mike Claydon wedi bod yn chwaraewr sylweddol i Gasnewydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod ei ddyddiau gyda Morgannwg wedi hen fynd heibio. Fe yw canolbwynt y clwb ac mae e’n arweinydd dylanwadol.

“Mae’r tîm yn gryf ar hyn o bryd, ond mae’n dîm ifanc gyda nifer o chwaraewyr yn cynrychioli timau ieuenctid Cymru ac ail dîm Morgannwg. Pwy fydd y chwaraewr mawr nesaf, wn i ddim. Ond mae nifer ohonyn nhw’n brwydro i wneud hynny.”

Un o sêr y dyfodol, yn ôl Knight, yw Imran Hassan, batiwr ifanc sydd ar gyrion carfan Morgannwg ac un a fyddai wedi bod yn brwydro am le yn y tîm cyntaf oni bai am broblemau’n cymhwyso ar gyfer pasport Prydeinig yn ei feddiant.

“Byddai Imran yn hoffi mynd ymlaen i gynrychioli Morgannwg fel chwaraewr llawn amser. Dw i ddim yn siŵr ar hyn o bryd a fydd hynny’n bosib. Ond mae Imran yn chwaraewr o’r radd flaenaf a dw i’n siŵr y gallai e fod yn gricedwr sirol da.”

Y cylch yn gyflawn


Model o Glwb Criced Casnewydd fel yr oedd ddechrau'r 1990au

Mae un darn bach o’r jig-so’n weddill ac fe fu’n rhaid aros tan ddechrau’r mis yma er mwyn cysylltu gorffennol Clwb Criced Casnewydd gyda’i bresennol. Un aelod o garfan Swydd Efrog ar y diwrnod olaf hwnnw yn Rodney Parade yn 1990 oedd y bowliwr cyflym Peter Hartley. Trwy gyd-ddigwyddiad – neu “weithred sy’n fwy na ffawd”, chwedl Mike Knight – Hartley oedd un o’r dyfarnwyr pan ymwelodd Pacistan ‘A’ â’r clwb yn ddiweddar.

“Allen ni ddim cweit credu’r peth. Ar y daflen gydag enwau’r chwaraewyr, ar y batiau oedd wedi’u llofnodi ac ar y poster o’r gêm olaf honno yn Rodney Parade… roedd Peter Hartley arnyn nhw.

“Wrth i griced dosbarth cyntaf ddychwelyd i Barc Spytty ar ôl chwarter canrif, roedd yn gyd-ddigwyddiad anhygoel mai’r dyfarnwr oedd Peter Hartley.”

Am y tro, mae’r clwb yn gobeithio gweld criced dosbarth cyntaf yn dychwelyd i’r ddinas unwaith eto ac mae’r arwyddion cynnar gan Glwb Criced Morgannwg yn awgrymu bod hynny’n bosibilrwydd cryf.

Rhaid i’r gair olaf fynd i Mike Knight.

“Pan wnaethon ni adael Rodney Parade yn 1990, doedd neb yn credu y bydden ni’n gweld criced sirol yng Nghasnewydd byth eto. Ry’n ni wedi gweithio’n galed dros ben dros y chwarter canrif diwethaf i droi Parc Spytty’n gae da iawn.

“Byddai cael dod yn rhan gyson o galendr criced sirol yn hollol wych. Wnaeth pawb fwynhau’n ddiweddar ac roedd pawb yn y clwb wrth eu bodd. Aeth popeth yn wych. Gobeithio’n bod ni wedi creu argraff ar gwpwl o bobol, pwy a ŵyr?”

Oriel luniau: Amgueddfa Clwb Criced Casnewydd

Cyfweliad: Alun Rhys Chivers

Morgannwg yn “dîm all ennill” y T20

Cyhoeddwyd Mehefin 26, 2016 gan Criced.


Mewn cyfweliad arbennig â gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers, y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn sy’n edrych yn ôl ar ei gyfnod byr yn chwarae i Glwb Criced Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, ac yn pwyso a mesur gobeithion y sir ar gyfer gweddill y gystadleuaeth.

Wrth ddod i mewn i’r tîm, roeddech chi’n nabod rhai o’ch cydwladwyr o Dde Affrica. Faint o gymorth oedd hynny wrth i chi ymgartrefu ym Morgannwg?

Ar unwaith, wrth gerdded i mewn i’r stafell newid a gweld wynebau cyfarwydd, ry’ch chi’n teimlo bod croeso i chi. Wnes i gerdded allan ar gyfer y sesiwn hyfforddi gyntaf ac fe wnaethon ni ddechrau gyda rhywfaint o bêl-droed ac ro’n i yn ei chanol hi. Erbyn y gêm gyntaf yn erbyn Swydd Essex, ro’n i’n lled nabod pawb ac yn teimlo’n gartrefol. Dyna ry’ch chi am ei deimlo. Ry’ch chi am gerdded i mewn i’r stafell newid a theimlo’n gartrefol ar unwaith. Mae’n eich helpu chi i berfformio ar y cae ac mae’r pedair wythnos diwethaf wedi bod yn wych. Dw i wedi bod allan am ginio gyda’r bois, wedi treulio amser gyda nhw rhwng y gemau undydd a’r gemau pedwar diwrnod. Mae wedi bod yn gyfnod pleserus iawn.

Ydy hi’n anodd ymgartrefu wrth ddod i mewn am gyfnod mor fyr?

Fe all fod, am wn i. Mae’n dibynnu ar yr unigolyn. Dw i wir yn mwynhau criced, dw i’n hoffi gwylio criced. Ar fy niwrnodau i ffwrdd pan nad o’n i’n rhan o’r tîm undydd neu’r tîm pedwar diwrnod, ro’n i’n dod i wylio beth bynnag. Dw i ond yn byw i lawr y ffordd, felly fe ddes i i gefnogi’r bois a’u gwylio nhw’n chwarae, a dw i’n credu eu bod nhw wedi gwerthfawrogi hynny. Do’n i ddim yn ei wneud e am unrhyw reswm arall, dw i jyst yn mwynhau’r gêm. Fe ddes i i wylio’r tîm dw i wedi bod yn chwarae iddyn nhw. Fe wnaethon nhw chwarae’n dda iawn. Mae’n bwysig dangos bod ots gyda chi amdanyn nhw. Dw i’n credu eu bod nhw wedi gwerthfawrogi hynny.

Pwy o blith y bechgyn o Gymru sydd wedi creu argraff arnoch chi?

Pob un ohonyn nhw. Y ‘Don’, Aneurin Donald. Mae e’n anhygoel. Dw i’n credu bod ganddo fe ddyfodol disglair o’i flaen e, pan fydd e’n gallu troi’r 40au yn 80au a’r hanner canred yn ganred, yn enwedig yn y T20. Mae 100 yn sgôr mawr, felly os gall e gael 80au heb fod allan a gorffen gemau, mae e’n mynd i ddenu cryn dipyn o sylw.

Gwnaeth batiad David Lloyd y noson o’r blaen [97 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaint] agor ein llygaid, yn sicr. Mae’n debyg ei fod e wedi batio’n nawfed ar ryw adeg yn y gemau pedwar diwrnod. Felly mae’n anhygoel unwaith ry’ch chi’n rhoi cyfle i rywun a dangos rhywfaint o ffydd, beth maen nhw’n gallu ei wneud.

Mae Dean Cosker, yn 38 oed, yn dal i neidio o gwmpas wrth faesu’n agos ac yn taflu ei gorff o gwmpas. Mae’n eithaf ysbrydoliaeth cael gwylio’r math yna o beth.

A all Morgannwg fod yn bencampwyr T20?

Dw i’n credu y gallan nhw fod, y ffordd maen nhw’n chwarae ar hyn o bryd. Mae pawb yn cyfrannu. Mae’r capten yn arwain yn dda. Mae angen hynny arnoch chi. Mae angen capten arnoch chi sy’n gallu newid y bowlwyr yn y modd cywir, ac sy’n ddigon dewr i wneud penderfyniad anodd drwy anfon rhywun i mewn i fatio yn lle’r batiwr arferol.

Mae Colin [Ingram] yn batio’n dda iawn, os oes modd cynnal hynny. Gall y nifer o gemau sy’n cael eu chwarae fod yn anodd. Ond rhaid i chi geisio cynnal y perfformiadau. Yn y gystadleuaeth hon yn enwedig, mae’r bois yn edrych fel tîm hapus. Maen nhw’n chwarae’n dda iawn. Maen nhw’n gwybod ym mle maen nhw’n ffitio i mewn. Man nhw’n gallu mynd allan a pherfformio, ac fe ddangoson nhw hynny dros y pedair wythnos diwethaf. Dw i’n credu eu bod nhw wedi ennill pump allan o’r chwech gêm wnes i chwarae ynddyn nhw, ac fe allen nhw yn hawdd iawn fod wedi ennill y gêm gyntaf hefyd. Mae hwn yn dîm sy’n sicr yn gallu ennill y gystadleuaeth hon.

Sut fyddech chi’n crynhoi eich amser byr yma yng Nghymru?

Tipyn o hwyl, fyddwn i’n dweud. Pan y’ch chi yn yr IPL [yn India], mae tipyn o ymarfer, tipyn o deithio. Wnes i ddim cael mynd ar y cae ryw lawer, sy’n iawn. Dw i wedi bod yn chwarae yn yr IPL ers naw mlynedd felly mae hynny’n iawn. Dw i eisiau chwarae ond dw i’n deal deinameg y tîm a faint o chwaraewyr [o dramor] sy’n cael chwarae. Ond fe ddes i yma, cael llawer iawn o hwyl, fe ges i’r bêl yn fy llaw heb fod unrhyw un yn dweud wrtha’i beth i’w wneud. Fe ddywedon nhw, ‘Rwyt ti wedi bod yn fan hyn o’r blaen, rwyt ti’n gwybod beth i’w wneud. Gwna fe!’ Roedd yn braf cael y fath gefnogaeth. Gwnaeth pawb ffitio o ‘nghwmpas i, gwnes i ffitio o gwmpas pawb arall. Fe ges i dipyn o hwyl. Dw i hyd yn oed yn edrych ymlaen at gael dod nôl yma ryw ddiwrnod o bosib.

Ond cyn hynny, i’r Caribî fyddwch chi’n mynd nesaf…

Ie, dw i’n rhewi wrth i fi sefyll yma! Dw i ddim yn gyfarwydd â hyn! Yn yr IPL, roedd hi’n 45 gradd ac yna, dw i’n cyrraedd fan hyn ac mae hi’n eithaf oer. Ond roedd y pythefnos cynta’n braf – tywydd siorts a chrys-T ond dros y pythefnos neu dair wythnos diwethaf, hwdi, trowsus hir ac esgidiau amdani! Felly dw i’n edrych ymlaen at fynd draw i’r Caribî a chael mynd i’r traeth. Dyna fy mywyd i, dyna beth dw i’n ei fwynhau.

T20 yn gyfle i Forgannwg newid ffocws

Cyhoeddwyd Mai 26, 2016 gan Criced.


Alun Rhys Chivers
Mae tîm criced Morgannwg yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn ar ôl dechrau mor siomedig yn y Bencampwriaeth. Gohebydd Golwg360 Alun Rhys Chivers sy’n edrych ymlaen at eu gêm agoriadol yn erbyn Swydd Surrey ar gae’r Oval nos Iau.

Allai amseru dechrau cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast ddim bod yn well i Forgannwg ar ôl dechrau mor siomedig i’r tymor yn y Bencampwriaeth. Un o’r cwynion yn gyson y tymor diwethaf oedd bod strwythur y cystadlaethau’n golygu nad oedd modd canolbwyntio ar un gystadleuaeth ar y tro. Ond fydd dim modd defnyddio’r un esgus eleni ar ôl i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr benderfynu grwpio’r gemau’n flociau.

Bydd Morgannwg yn sicr yn edrych am welliant yn y gystadleuaeth eleni ar ôl methu â chyrraedd yr wyth olaf y tymor diwethaf, ond mae ganddyn nhw record reit dda ar yr Oval yn y T20 – yn wir dydyn nhw erioed wedi colli ar y cae hwnnw yn hanes y gystadleuaeth ugain pelawd. Hon, i fi, oedd gêm orau’r tymor y llynedd ar ôl i’r capten Jacques Rudolph a’i gydwladwr Colin Ingram adeiladu partneriaeth o 141 mewn deuddeg pelawd i sicrhau cyfanswm o 240 sy’n record i Forgannwg yn y gystadleuaeth hon. Ac fe sgoriodd Rudolph 75 yn y gêm ar yr Oval ddau dymor yn ôl. Mae dirfawr angen rhediadau ar y capten, a dyma’i gyfle gorau i anghofio’r dechrau gwael gafodd e i’r tymor pedwar diwrnod.

Hwb i Forgannwg fydd gweld Ingram yn dychwelyd i’r garfan wedi anaf i’w ben-glin. Er y cyffro, rhaid bod yn ofalus nad yw’r anaf yn cael ei gwaethygu – mae Ingram eisoes wedi dweud ei fod e wedi gohirio llawdriniaeth er mwyn cael dychwelyd i Gymru am ran helaeth o’r tymor.

Bydd rhaid aros ychydig yn hirach cyn y gwelwn ni un o fowlwyr gorau’r byd, Dale Steyn yng nghrys Morgannwg. Mae yntau ynghlwm wrth dîm Gujarat yn yr IPL yn India – ond fe fydd Morgannwg wedi deall fod natur fyd-eang y gêm ugain pelawd yn golygu na allwch chi ddisgwyl i’r sêr fod ar gael am gystadleuaeth gyfan.

Y rhod – a’r llain – yn troi

Beth bynnag am y bowlwyr cyflym, noson i’r troellwyr fydd hi heno ar yr Oval, ac fe fydd Morgannwg yn cael hwb ychwanegol o weld y troellwr llaw chwith dibynadwy, Dean Cosker yn dychwelyd i’r garfan. Fe gipiodd y bowliwr 38 oed wyth wiced yn erbyn Swydd Surrey y tymor diwethaf, ac mewn gêm lle mae pob rhediad yn cyfri, fe fydd Morgannwg yn falch o’i weld e nôl yn y maes hefyd. Mae’n gyfle hefyd i’r troellwr cymharol ifanc Andrew Salter, a phe bai’r llain yn troi go iawn, mae gan Forgannwg yr opsiwn o alw ar y capten Rudolph neu Ingram am ychydig belawdau o droelli coes.

Fe allai hynny, wrth gwrs, olygu na fydd un o’r bowlwyr cyflym yn cael chwarae. Mae angen sgiliau amryddawn Graham Wagg a Craig Meschede, felly mae’n debygol mai un ai Michael Hogan neu Timm van der Gugten fydd yn colli allan. Gallai fod yn gyfle i orffwys y prif fowliwr Hogan, ond mae van der Gugten wedi rhoi pen tost o’r math orau i’r dewiswyr ar ôl cipio saith wiced yn erbyn Swydd Essex yn y Bencampwriaeth yr wythnos hon.

Ond beth am y gwrthwynebwyr?

Swydd Surrey yw Chelsea neu Man City y byd criced. Mae’r garfan yn frith o sêr. Fe fyddai cael gweld Dwayne Bravo ar yr Oval wedi bod yn hwb sylweddol i’r Llundeinwyr ond hyd yn oed yn ei absenoldeb yntau (un arall o giwed yr IPL), mae ganddyn nhw Kumar Sangakkara, Azhar Mahmood a Jason Roy. Yn eu cefnogi nhw wedyn mae’r brodyr Curran a Zafar Ansari, wnaeth gynnig un o ddigwyddiadau siampên y tymor pedwar diwrnod y llynedd wrth redeg Chris Cooke allan gyda thafliad o 75 llathen yng Nghaerdydd.

Un peth sy’n sicr ar yr Oval. Fe fydd galw’n gywir a gwneud y penderfyniad iawn ar ddechrau’r noson yn allweddol. Mae 14 allan o’r 18 gêm ugain pelawd ddiwethaf wedi’u hennill gan y tîm a fatiodd yn ail. Ond mi fydd hi’n gêm wahanol o dan y llifoleuadau heno, wrth gwrs. Bydd y seiliau ar gyfer gweddill y gystadleuaeth yn cael eu gosod heno, felly mae sicrhau buddugoliaeth i Forgannwg yn hanfodol.

Gwyliwch y cyfan yn fyw ar Sky Sports am 6.30!

 

Robert o’r Hendy i Forgannwg?

Cyhoeddwyd Ionawr 28, 2016 gan Criced.

Tagiau: Clwb Criced Morgannwg, Robert Croft


Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n dadlau pam mai Robert Croft ddylai gael ei benodi’n Brif Hyfforddwr newydd Clwb Criced Morgannwg yn dilyn ymadawiad Toby Radford y llynedd

Misoedd segur fel arfer yw’r rheiny rhwng Medi ac Ebrill i gefnogwyr criced sirol yng Nghymru a Lloegr. Ond prin roedden ni wedi gorffen ein llwyaid olaf o bwdin Nadolig yn 2015 pan ddaeth y newyddion am ymadawiad Prif Hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford. Go brin fod chwilio am Brif Hyfforddwr newydd ar restr addunedau Blwyddyn Newydd Hugh Morris!

Ond dyna sydd wedi digwydd i’r Prif Weithredwr wrth i Forgannwg baratoi ar gyfer y bennod nesaf yn eu hanes. Doedd neb, am wn i, wedi rhagweld y byddai’n rhaid i’r sir fynd yn ôl i’r dechrau’n deg yn y gobaith o allu dod o hyd i olynydd i Radford, i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol a wnaed ganddo fe dros y ddau dymor diwetha.

Blynyddoedd Radford

Roedd penodiad Radford cyn dechrau tymor 2014 yn cael ei ystyried yn ddechrau cyfnod newydd yn hanes Morgannwg – gan ddechrau o’r dechrau yn dilyn degawd cythryblus i’r sir, a ddaeth i fwcwl gydag ymadawiad y Cyfarwyddwr Criced Matthew Maynard, y capten Jamie Dalrymple a’r llywydd Peter Walker yn 2010. Roedd cyfnod olynydd Maynard, yr Awstraliad Matthew Mott wrth y llyw yn un anodd â bod yn deg iddo. Go brin y byddai’n llwyddo yng nghysgod un o hoelion wyth y sir ers chwarter canrif.

Ond â’r bennod honno wedi’i gwthio i’r gorffennol pell gyda phenodi’r cyn-gapten Hugh Morris yn Brif Weithredwr a Radford, a fagwyd yn Newbury ond a aned yng Nghaerffili, yn Brif Hyfforddwr, roedd ysbryd o Gymreictod a balchder yn perthyn i Forgannwg unwaith eto. Rhaid i fi gyfadde nad o’n i’n ffyddiog y byddai Radford yn llwyddo i weddnewid degawd llwm. Ond mae’r perfformiadau wedi gwella’n raddol o dan ei arweiniad ac yn bwysicaf oll, mae Radford wedi meithrin doniau nifer o Gymry ifainc – Aneurin Donald a David Lloyd yw’r amlycaf ohonyn nhw – a fydd, gobeithio, yn cynnal y tîm am genhedlaeth.

Fe fu nifer yn feirniadol o’r holl dramorwyr a Saeson fu’n cynrychioli’r sir yn ddiweddar. Y gwir amdani yw fod llai ohonyn nhw, diolch byth, nag a fu yn ystod y degawd ansefydlog. Yn absenoldeb digon o gricedwyr da o Gymru, rhaid oedd dibynnu ar y rheiny o’r tu draw i’r ffin ac o dramor i gynnal y tîm mewn cyfnod ansicr. Hyd yn oed wedyn, doedd y rhan fwyaf o’r garfan – Cymry neu beidio – ddim yn ddigon da i wisgo’r crys.

Erbyn hyn, mae’r Saeson a’r tramorwyr yn y tîm yn llwyr haeddu eu lle – Rudolph, Wagg, Meschede, Hogan a mwy. Byddai unrhyw un o’r deunaw sir yn ffodus o’u cael nhw. Ond yn bwysicaf oll, mae angen y chwaraewyr o’r tu allan er mwyn datblygu Cymry’r sir, a diolch byth bod digon ohonyn nhw i’w dewis bob yn dipyn yn y tîm cynta.

Tîm cyfan o Gymry?

Er mwyn dewis tîm sydd i gyd yn Gymry – damcaniaeth a glywais droeon – fe fyddai’n rhaid dewis chwaraewyr nad ydyn nhw eto wedi profi eu bod nhw’n haeddu cyfle yn y tîm cynta. Byddai’n rhaid derbyn y byddai adeiladu tîm o 11 o Gymry’n brosiect tymor hir ac y byddai angen tipyn o amynedd am rai tymhorau! Byddai’r perfformiadau tymor byr yn llai pwysig na sicrhau dyfodol sefydlog, ac fe gafodd y farn honno’i hategu gan y cyn-hyfforddwr Alan Jones y tymor diwetha.  Yn bwysicaf oll, byddai’n rhaid sicrhau bod llwybrau datblygu yn eu lle er mwyn cynnal y llif o chwaraewyr Cymreig dros gyfnod hir o amser.

Y cyfuniad o Gymry profiadol ac ifainc arweiniodd at lwyddiant Morgannwg wrth iddyn nhw godi tlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1997. Yn arwyddocaol, un Sais – Steve James – ac un o Bacistan, Waqar Younis – oedd yn y tîm hwnnw, ond roedd hyd yn oed hwnnw’n Gymro anrhydeddus yn y pen draw, chwedl y gân ‘Waqar is a Welshman’! Dyna’r ysbryd sy’n ennill tlysau. Roedd sylweddoliad mai cenedligrwydd oedd y glud oedd yn clymu’r tîm ynghyd o dan arweiniad y prif hyfforddwr, Duncan Fletcher, oedd yn gwerthfawrogi’r Cymreictod hwnnw er ei fod yn hanu o Zimbabwe. Pan oedd e’n hyfforddwr ar dîm Lloegr yn ddiweddarach, fe ddywedodd Fletcher na ddylai tramorwr fod yn gapten, yn droellwr nac yn wicedwr mewn unrhyw dîm. Pwy a ŵyr, efallai bod ei gyfnod wrth y llyw ym Morgannwg wedi dylanwadu ar ei farn. Ond wnaeth e ddim dweud unrhyw beth tebyg am hyfforddwyr – byddai hynny’n gyfystyr â thwrci’n hyrwyddo’r Nadolig!

Beth nesaf i Forgannwg? 

Gwnaeth aelod o garfan Morgannwg yn 1997 ddatgan yn ddiweddar yr hoffai weld Cymro’n cael ei benodi’n brif hyfforddwr unwaith eto i adeiladu ar waith y Cymro Radford, gan mai tramorwr – er gwaetha barn Fletcher – yw’r  capten. Y capten hwnnw, wrth gwrs, yw Jacques Rudolph a ddisodlodd Mark Wallace, y wicedwr o Went. Er ‘mod i’n siomedig pan gollodd Wallace y gapteniaeth, dw i ddim yn gwrthwynebu’r egwyddor o benodi tramorwr yn gapten. Yn wir, mae Rudolph yn arwain drwy esiampl ac mae ei berfformiadau dros y tymhorau diwetha wedi bod yn gampus.  Yn 1997, un a gafodd ei fagu a’i addysgu ym Mhorthaethwy oedd y capten, Matthew Maynard, a’r hyfforddwr Fletcher yn dramorwr. Efallai bod fformiwla o’r fath yn haeddu ystyriaeth ofalus gan y panel fydd yn penodi’r tro hwn.

Er mai prin yw’r sïon ynghylch pwy sydd ar y rhestr fer ar gyfer swydd y Prif Hyfforddwr, i fi, Robert Croft – Cymro i’r carn, Cymro Cymraeg ac aelod o’r Orsedd – yw’r dyn delfrydol i arwain Clwb Criced Morgannwg y tymor nesa. Fe wnaeth e gais am y swydd pan benodwyd Radford. Roedd hi’n rhy gynnar iddo bryd hynny, o bosib, ond mae ei brofiad dros y tymhorau diwetha gyda’r tîm cynta – a bellach gyda thîm undydd Lloegr – wedi rhoi’r sgiliau a’r galluoedd perthnasol iddo fe fod ymhlith yr ymgeiswyr cryfa’r tro hwn. Mae’r is-hyfforddwr arall, Steve Watkin eisoes wedi datgan nad yw e’n bwriadu gwneud cais am y swydd. Fe gawn ni wybod o fewn wythnos pwy fydd wrth y llyw yn 2016.

Golwg o’r ffin: Cnoi cil ar dymor Morgannwg

Cyhoeddwyd Hydref 2, 2015 gan Criced.

Tagiau: golwg o'r ffin


Wrth edrych yn ôl dros dymor Clwb Criced Morgannwg yn 2015, mae’n bosib y bydd y digwyddiadau oddi ar y cae yn fwy cofiadwy na rhai o’r perfformiadau ar y cae.

Roedd gorffen yn bedwerydd yn ail adran y Bencampwriaeth yn un o’r uchafbwyntiau, ond tymor digon siomedig gafodd y Cymry yn y cystadlaethau undydd. Fe gollon nhw ornest T20 dyngedfennol yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd a gafodd ei chwtogi i bum pelawd yr un, gan olygu nad oedden nhw wedi llwyddo i gyrraedd yr wyth olaf.

Cafodd Morgannwg ddechrau cryf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London, ond daeth y gystadleuaeth i ben dan gwmwl. Cafodd eu gornest yn erbyn Swydd Hampshire, a gafodd ei darlledu’n fyw gan Sky Sports, ei therfynu ar ôl llai na saith pelawd o’r ail fatiad wrth i’r dyfarnwyr benderfynu bod y llain yn rhy beryglus. Arweiniodd yr helynt at golli pwyntiau, dirwy a ffarwelio â’r prif dirmon Keith Exton, oedd wedi ennill cryn ganmoliaeth am baratoi llain ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw ychydig wythnosau ynghynt.

Roedd y Lludw’n gyfle da i Forgannwg brofi y gall Cymru gynnal digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf. Roedd y digwyddiad yn hwb sylweddol i Forgannwg yn wyneb beirniadaeth lem ar ôl i Gyngor Caerdydd orfod camu i mewn i ddileu dyledion y clwb.

Fe fu’r prif hyfforddwr Toby Radford wrth y llyw ers dau dymor bellach. Onid y rheolwr pêl-droed Luis van Gaal a ddywedodd, “Judge me on my second season”? O dan arweiniad Radford, roedd tîm Morgannwg wedi cryfhau yn ystod yr ail dymor hwnnw, ac mae arwyddion fod y clwb yn dechrau codi o’r gwaelodion i fod yn gystadleuol ym mhob un o’r cystadlaethau erbyn hyn.

Cafodd y bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn ar ddiwedd y tymor, a hynny wedi iddo sgorio 1,160 o rediadau, gan gynnwys 842 o rediadau dosbarth cyntaf, a chipio 60 o wicedi ym mhob cystadleuaeth. Ond daeth ei awr fawr gyda’r bat yn Guildford pan darodd 200 yn erbyn Swydd Surrey yn y Bencampwriaeth.

Fe fu Golwg360 yn holi cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg, Alan Jones am ei argraffiadau o’r tymor aeth heibio.

Y Bencampwriaeth

“Dechreuon nhw’n arbennig o dda ar ddechrau’r tymor. Collon nhw eu ffordd tipyn bach hanner ffordd drwy’r tymor. Wedyn ffaelon nhw bigo’u hunain lan o gwbl tan y diwedd. Wnaeth cwpwl o’r chwaraewyr golli ‘form’ mewn ffordd – Will Bragg yn cael dechrau da i’r tymor ond wedyn ddim yn gorffen cystal.

“Nage hanner tymor mae rhaid i ti chwarae’n dda, mae rhaid i ti chwarae’n dda drwy’r tymor. Ar ol dweud hynny, dim ond 14 o chwaraewyr proffesiynol sydd gyda nhw sy’n ddigon da i chwarae yn y tim cyntaf. Academi yw’r lleill. Mae rhaid i ti fod yn lwcus hefyd, yn enwedig gyda bowlwyr, bo nhw’n cadw’n ffit drwy’r tymor.”

Enillydd gwobr Chwaraewr y Flwyddyn, Graham Wagg

“Mae Graham Wagg wedi cael tymor arbennig o dda. Doedd e erioed wedi erfyn y bydde fe’n sgorio dau gant pan o’dd e’n batio. Mae e wedi bod yn batio pan mae Morgannwg wedi bod mewn trwbwl cwpwl o weithiau’r tymor hyn sy wedi mynd. Mae Graham Wagg ar y diwedd wedi’u cael nhw mas o drwbwl. Mae e wedi cael tymor arbennig o dda gyda’r bat a dwi’n falch fod e wedi ennill chwaraewr y tymor.”

Cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast

“Mae rhaid i fi fod yn onest. Ry’n ni’n cael llawer iawn mwy o law yng Nghymru nag yn Lloegr. Ro’dd hyn yn digwydd pan o’n i’n chwarae. Pan o’n i’n chwarae, ro’dd hi lawer mwy rhwydd sgorio rhediadau i ffwrdd o Forgannwg oherwydd ro’dd y wicedi tipyn yn well, oherwydd bo ni’n cael shwd gymaint o law yng Nghymru. Yn enwedig yn y gemau ugain pelawd, os wyt ti’n colli mwy nag un gem oherwydd y glaw, mae’n golled fawr.” 

Cystadleuaeth 50 pelawd Royal London, cyflwr y llain, a ffarwelio â’r prif dirmon Keith Exton

“Ro’n i lan yng Nghaerdydd yn gwylio’r gem yn erbyn Swydd Hampshire, a dyna lle droeodd y tymor i ddweud y gwir. O’n nhw’n gwneud yn dda lan hyd at y gem hynny, gallen nhw fod wedi ennill y gem a byddai siawns dda gyda nhw. Yn anffodus, ro’dd beth ddigwyddodd gyda’r llain ddim yn ddigon da yn bechod.

“Mae Morgannwg wedi gwneud popeth yn iawn. Mae’n meddwl cymaint i’r clwb pan y’ch chi’n gwneud yn dda drwy’r tymor. Os wyt ti’n colli gem oherwydd fod y llain ddim digon da, mae’n bechod. Mae rhaid dweud, ro’n i’n flin am chwaraewyr Morgannwg a’r clwb yn gyfan gwbl.

“Pan wyt ti’n rhedeg clwb fel Morgannwg, neu unrhyw glwb, mae’n bwysig bo ti’n cael y llain a phopeth arall i weithio fel rwyt ti’n moyn. Amser o’n i’n chwarae, o’n ni’n chwarae llawer mwy o gemau yng Nghaerdydd a San Helen. Fel capten, o’t ti’n dweud wrth George Clement, o’dd yn edrych ar ol y cae pan o’n i’n chwarae, pa siort o wiced o’t ti’n moyn. Pan o’t ti’n cyrraedd y cae yn y bore, o’dd y llain fel o’t ti wedi gofyn i George ei chael hi. Mae’n bwysig, ta pwy sy’n edrych ar ol unrhyw gae, pan mae’r capten yn gofyn i ti am lain gyflym neu llain araf, mae’n bwysig bo nhw’n gwneud hyn a bod y llain yn iawn pan wyt ti’n cyrraedd y cae ar fore’r gem.

“Smo nhw’n chwarae gymaint o gemau nawr ag o’n ni’n chwarae, yn enwedig gemau tri neu bedwar diwrnod. Pan wyt ti’n edrych ar y cae yng Nghaerdydd, mae’r sgwar yn fawr iawn. Ddyle fod dim problem o gwbl.

Perfformiadau Morgannwg o dan arweiniad y prif hyfforddwr, Toby Radford

“Mae pethau wedi gwella. Maen nhw wedi codi lan yn y Bencampwriaeth i fod yn bedwerydd o’r top. Mae’r gemau undydd wedi bod yn well. Mae Toby Radford wedi gwneud gwelliant i’r tim. Nage dim ond Toby Radford sydd wedi gwneud hyn. Mae e wedi cael tipyn o help gyda’r hyfforddwyr eraill. Ro’n nhw’n llawer gwell ac maen nhw wedi cael tymor gwell eleni na’r ddwy neu dair blynedd diwethaf.”

Agweddau i’w gwella’r tymor nesaf

“Dwi’n meddwl bod eisiau bowlwyr cyflym arnon ni. Mae eisiau rhywun i helpu Hogan achos fe yw prif fowliwr cyflym Morgannwg. Licen i weld mwy o chwaraewyr ifanc o Gymru’n dod trwyddo. Ry’n ni wedi gweld bod Andrew Salter a Kieran Bull fel troellwyr, ond mae eisiau cwpwl o fowlwyr cyflym arnon ni i helpu, a gobeithio bod cwpwl o fois ifanc Cymru’n mynd i ddod trwyddo. Nage dim ond hynny, ond mae eisiau batwyr hefyd i ddod trwyddo o Gymru. Bois Cymru ry’n ni moyn yn y tim, a bydda i’n falch pan fydda i’n gallu gweld llawer mwy o fois Cymru’n dod trwyddo i chwarae i Forgannwg.”

Alun Rhys Chivers



Criced Cymru’n gwobrwyo perfformiadau penigamp

Cyhoeddwyd Medi 17, 2015 gan Criced.


Mae nifer o gricedwyr ifanc addawol wedi derbyn gwobrau chwaraewr y mis Criced Cymru am eu perfformiadau penigamp ar y meysydd criced.

Cafodd gwobrau 2015 eu cyflwyno mewn un seremoni gynhwysfawr ar ddiwedd y tymor yn y Swalec SSE yn ystod gornest Clwb Criced Morgannwg yn erbyn Swydd Gaint.

Dyma’r enillwyr:

Mai/Mehefin

Tom Bevan (Bechgyn dan 15 Cymru)

Roedd Tom (Caerdydd a’r Fro) i ffwrdd yn Ysgol Millfield felly methodd â mynychu’r seremoni, ond derbyniodd y wobr am 54 a 30 yn erbyn Swydd Efrog mewn gêm ddeuddydd a 61 yn erbyn Swydd Warwick, yn ogystal â’i gapteniaeth o’r tîm dan 15.

Charlotte Scarborough (Merched dan 15 a dan 17 Cymru, a Merched Cymru)

Yn 14 oed chwaraeodd Charlotte (Gwent) i’r tîm merched hŷn am y tro cyntaf ym mis Mai gan gymryd 2-27 oddi ar saith pelawd.  Hefyd sgoriodd 58 i ennill y gêm yn erbyn tîm dan 17 Cernyw a chafodd sgôr arall o 45 heb fod allan i ennill y gêm yn erbyn ysgol Millfield.  Sgoriodd Charlotte 163 o rediadau ym Mai a Mehefin, cipiodd 9 wiced ac roedd ei sgiliau maesu’n benigamp.  Yn ddiweddar cafodd ei gwahodd i ddiwrnod datblygu tîm dan 19 Lloegr yn Loughborough.

Gorffennaf

Alex Horton (Bechgyn dan 11 Cymru)

Sgoriodd Alex (Gwent) 81 yn erbyn Swydd Warwick, 113 heb fod allan yn erbyn Swydd Efrog, 167 heb fod allan yn erbyn Swydd Stafford, 51 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw, 59 yn erbyn Swydd Gaerwrangon, a 75 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaint.  Roedd ei sgiliau cadw wiced o’r radd flaenaf hefyd.

Jessica Thornton (Merched dan 15 a dan 17 Cymru)

Bowliodd Jessica (Gwent) yn arbennig o dda yn ystod mis Gorffennaf gan gipio 27 wiced ar gyfartaledd o 9 rhediad yr un yn unig.  Cymerodd 4-14 yn erbyn tîm dan 17 Gwlad yr Haf, a’r diwrnod canlynol 4-34 yn erbyn tîm dan 15 Gwlad yr Haf.  Rhoddodd ei pherfformiad gorau yng ngŵyl dan 17 Taunton pan gymerodd 5 wiced am 4 rhediad ar ôl i Gymru sgorio 125  yn erbyn Swydd Gaint. Yn y pen draw, bowliodd Cymru Swydd Gaint allan am 72 gan ennill o 53 rhediad.  Llwyddodd Jessica i wneud hyn i gyd er iddi dorri asgwrn ei bawd yn gynharach yn y tymor.

Awst / Medi

Kiran Carlson (Bechgyn dan 17 Cymru)

Sgoriodd Kiran (Caerdydd a’r Fro) 77 yn erbyn Swydd Gaerloyw ac 111 yn erbyn Swydd Hampshire yng nghystadleuaeth dan 17 yr ECB.  Aeth ymlaen i sgorio 73 a 39 dros dîm Gorllewin Lloegr yng nghystadleuaeth y Super 4 yn Loughborough, ac yna cafodd sgôr gwych o 150 i ail dîm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerlŷr.

Lori Matthews (Merched dan 13 Cymru)

Sgoriodd Lori (Gwent) 62 mewn partneriaeth  o gant a helpodd Cymru i drechu Cernyw yng ngŵyl Malvern. Hefyd, cafodd hi sgôr da iawn o 48 yn erbyn Leinster, yn ogystal â chipio dwy wiced am bum rhediad yn erbyn Swydd Gaint.

Ymateb

Dywedodd Rheolwr Perfformiad Criced Cymru, John Derrick: “Rydym wedi gweld rhai perfformiadau ardderchog gan nifer o’n chwaraewyr ifanc eleni.

“Mae enillwyr y gwobrau’n ysbrydoliaeth go iawn ac yn tystio i’r llu o ddoniau sydd gennym yn y byd criced yng Nghymru.”

Llwyddiant timau criced Cymru’n parhau

Cyhoeddwyd Awst 14, 2015 gan Criced.

Tagiau: Criced Cymru


Mae timau criced Cymru wedi parhau gyda’u haf llwyddiannus, gyda thimau ar draws grwpiau oedran gwahanol yn mwynhau buddugoliaethau.

Dan 11 oed

Curodd tîm dan 11 Cymru dîm cadarn o Swydd Gaint, gyda Frank MacDonald, o Ogledd Ddwyrain Cymru’n cipio 3-5, sef y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar ddiwedd y dydd.

Yna cawsant dair buddugoliaeth arall.  Y gyntaf yn erbyn Swydd Essex, lle bowliodd Cymru’n dda gan ennill yn hawdd o 38 rhediad.  A phan wynebon nhw Ysgolion Llundain, serennodd Ben Kellaway o Went (2-18 a 34) gyda’r bat a’r bêl i sicrhau buddugoliaeth o ddwy wiced.  Ben Mulcahy (3-9) o Gaerdydd a’r Fro a sicrhaodd drydedd fuddugoliaeth y mis i dîm dan 11 Cymru yn erbyn tîm cryf o Swydd Gaerwrangon.

Ond yna collwyd gemau yn erbyn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog, er gwaethaf perfformiadau gwych gan Alex Horton o Went yn y ddwy gêm.  Cafodd y sgôr uchaf gyda 43 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerhirfryn a 62 yn erbyn Swydd Efrog.

Yna cafodd tîm dan 11 Cymru eu trechu ddwywaith yn rhagor gan Swydd Gaer a Gwlad yr Haf.  Ond daeth eu cyfnod hesb i ben yn erbyn Swydd Warwick, gyda sgôr ardderchog Horton o 81 yn selio’r fuddugoliaeth.  Parhaodd Horton i chwarae ar ei orau yn ystod y gêm nesaf, a gollwyd yn erbyn Swydd Efrog, gan dorri’r record gyda sgôr o 113 heb fod allan, cyn bwrw 167 heb fod allan i arwain Cymru i fuddugoliaeth bendant dros Swydd Stafford.  Daeth â’i fis i ben yn erbyn Swydd Gaerloyw, gan fwrw 51 heb fod allan i arwain Cymru i fuddugoliaeth.

Dan 12 oed

Cafodd tîm dan 12 Cymru set o ganlyniadau da hefyd.  Yn ystod eu gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon, cawsant eu bowlio allan am 117 yn unig ond mewn ymateb, bowliodd Joe Westwood o Went (4-14) a Luc Rees o Orllewin Morgannwg (4-18) Gymru i fuddugoliaeth o 43 rhediad.  Yna dilynodd tîm dan 12 Cymru hyn gyda buddugoliaeth bendant yn erbyn Swydd Rydychen, gan eu bowlio allan am 69 yn unig.

Aeth tîm dan 12 Cymru ymlaen i gael eu trechu ddwywaith, y tro cyntaf yn erbyn Swydd Middlesex, wedi i fatwyr Cymru frwydro’n galed yn erbyn troellwyr y gwrthwynebwyr, ac yna yn erbyn Swydd Surrey mewn gêm isel ei sgôr.

Dan 13 oed

Dechreuodd tîm dan 13 Cymru eu mis drwy gael eu trechu mewn gêm isel ei sgôr yn erbyn Swydd Hampshire.  Gan fowlio’n gyntaf, gweithiodd Cymru’n galed i gyfyngu’r ymwelwyr i 133, ond mewn ymateb, cafodd Cymru eu bowlio allan am 96 yn unig.

Fodd bynnag, daeth llwyddiant i’w rhan wedi hynny, gyda buddugoliaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn.  Arweiniodd Morgan Bevans (64) o Went a Ryan Scrivens (31), hefyd o Went, dîm Cymru i gyfanswm buddugol o 192.

Dan 17 oed

Cafodd tîm dan 17 Cymru dair buddugoliaeth.  Roedd y gyntaf yn erbyn Brigâd Dân Prydain, gyda Chymru’n sgorio 235, gyda chymorth sgôr o 72 gan yr agorwr, Joe Voke o Went.  Yna, mewn gêm uchel ei sgôr, llwyddodd Cymru i drechu Swydd Gaerloyw, gyda Sam Pearce o Forgannwg Ganol (69) a Voke (52) yn arwain Cymru i fuddugoliaeth o bum wiced.  Roedd y drydedd fuddugoliaeth yn erbyn Dyfnaint, gyda 164 heb fod allan gwych gan Steffan Roberts o Forgannwg Ganol yn arwain tîm dan 17 Cymru at 302 a buddugoliaeth ar ddiwedd y dydd.

Ar ffurf hirach y gêm, roedd tîm dan 17 Cymru’n gyfartal â Swydd Gaerloyw, ond collon nhw i Swydd Hampshire yn eu batiad cyntaf, ac yn erbyn Dyfnaint.

“Rydym wedi cael rhai canlyniadau positif iawn dros y mis diwethaf,” meddai rheolwr perfformiad Criced Cymru, John Derrick.  “Bu rhai o’r perfformiadau unigol yn wirioneddol wych.”

Criced Cymru yw’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer criced iau a chriced hamdden hŷn yng Nghymru.  Mae’n gweithio’n agos â Chlwb Criced Morgannwg, sy’n llywodraethu gêm broffesiynol y dynion.  Am wybodaeth ewch i:  www.cricketwales.org.uk

Cyfres y Lludw: Diweddglo cyffrous ar y gorwel

Cyhoeddwyd Gorffennaf 11, 2015 gan Alun Rhys Chivers.

Tagiau: Cyfres y Lludw


Peth digon anarferol yw sôn am ddiweddglo cyffrous ar bedwerydd diwrnod prawf criced sydd i fod i bara pum niwrnod, ond dyna’r sefyllfa yn y Swalec SSE yn y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw.

Gallai buddugoliaeth yng Nghaerdydd osod y seiliau ar gyfer gweddill y gyfres i’r naill dîm a’r llall, ond mae Awstralia’n gwybod fod rhaid iddyn nhw greu hanes er mwyn rhoi eu hunain ar y droed flaen.

Pe baen nhw’n llwyddo i sgorio’r 412 rhediad sydd eu hangen i ennill, fe fydden nhw’n torri’r record am y cyfanswm uchaf sydd erioed wedi cael ei gwrso yn hanes Cyfres y Lludw – a’r trydydd cyfanswm uchaf yn hanes gemau prawf. Byddai’n dipyn o gamp i guro ymdrechion Bradman a’i dîm i gyrraedd 404 yn Headingley yn 1948. Mae treigl amser yn golygu mai dau yn unig o’r tîm hwnnw sy’n dal ar dir y byw heddiw.

Er bod llygaid y byd yn anochel yn mynd i fod ar ymdrechion Awstralia dros y deuddydd nesaf, mae Lloegr dan bwysau hefyd gan fod rhaid iddyn nhw ennill y gyfres er mwyn adennill y Lludw – dydy cyfres gyfartal yn dda i ddim. Pwy feiddiodd ddweud fod criced yn gêm ddiflas?!

Os oedd Awstralia’n teimlo’r pwysau ddoe, mae’n sicr eu bod nhw’n teimlo’n well eu byd heddiw ar ôl clywed y digyffelyb Geoffrey Boycott yn dweud nad oes ganddyn nhw obaith caneri o gyrraedd y nod. Os oedd angen hwb ar Awstralia, dyna’i roi iddyn nhw mewn un frawddeg fach ffwrdd-â-hi.

Mae’r dasg sy’n wynebu Lloegr yn syml – cipio deg wiced. Mae Awstralia eisoes wedi awgrymu na fyddan nhw’n rhuthro i gyrraedd y nod. Wedi’r cyfan, mae ganddyn nhw 180 o belawdau dros y deuddydd nesaf i sgorio’r rhediadau. Fel dywedodd y troellwr Nathan Lyon, does dim pwyntiau bonws am gyfradd sgorio gyflym. Ond rhaid dweud hefyd fod cipio wicedi cynnar yn hanfodol i Loegr – mae gan yr Awstraliaid ddawn am fod yn amyneddgar a gwasgu eu gwrthwynebwyr mewn brwydrau dros gyfnod hir o amser.

Co ni off!