Dwy anrheg Nadolig arbennig iawn

Diweddarwyd am  


The Gentle Good
Blogwraig cerddoriaeth golwg360, Miriam Elin Jones, sydd wedi bod yn aros yn eiddgar am anrhegion cynnar gan The Gentle Good ac Endaf Gremlin…

Mae nifer yn dweud mai gwaith diddiolch yw creu cerddoriaeth yn y Gymraeg – ond yr wythnos hon, hoffwn gymryd y cyfle i estyn diolch i ddau artist o Gymru am anrhegion Nadolig cynnar.

Mae The Gentle Good ac Endaf Gremlin wedi bod yn garedig iawn i’w ffans eleni – derbyniwn EP gyfan oddi wrth The Gentle Good, ac mae Endaf Gremlin wedi bod wrthi’n recordio sengl newydd sbon ar ein cyfer ni … ac mae’r anrhegion hyn i gyd i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim!

Rhoi gwedd newydd i hen garolau

Mae EP The Gentle Good, Plygeiniwch!, yn gasgliad hyfryd i ddilyn ei albwm diweddaraf, Y Bardd Anfarwol.

Ymddengys bod Gareth Bonello, y cantor sydd tu ôl i broject The Gentle Good, yn feistr ar gyfuno ac ailwampio traddodiadau – mae ei albwm wedi ei hysbrydoli gan ganu gwerin Cymraeg a cherddoriaeth a chwedlau Tsieineaidd, tra bod yr EP hwn yn tynnu hen garolau’r Plygain ac yn eu perfformio ar gitâr acwstig.

Mae’n rhoi naws Americanaidd i’r hen emynau, ac fel sydd wedi ei grybwyll eisoes, mae dylanwad cantorion acwstig megis John Fahey yn amlwg ar Plygeiniwch!. Yn sicr, mae’r traciau’n dyst i ddoniau gwych Gareth Bonello fel gitarydd.

Mae’r tair cân yn fendigedig – maent yn lled-gyfarwydd eisoes fel caneuon traddodiadol, ac yn gynnes eu naws. Gallaf ddychmygu arogli persawr y mulled wine a theimlo clydwch aelwyd ar noson oer wrth wrando arnynt – yn enwedig  y trac cyntaf, ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore – Tramwywn – Dyledwyr Ym i Seinio’n Clod’.

Rhaid dweud, mi fyddwn wedi bod yn ddigon bodlon talu i brynu’r EP hwn, a’i brynu eto yn anrheg ddelfrydol i deulu a ffrindiau.

Lle aeth gwaedd Endaf Gremlin?

Afraid dweud bod gan Endaf Gremlin rhywbeth gwbl wahanol i’w gynnig – ond rhaid i mi gyfaddef, fy mod braidd yn siomedig gyda’r sengl Nadoligaidd.

Mae ‘Breichiau Oer’ yn gân dda, ond yn ddim byd tebyg i gynnyrch blaenorol ‘supergroup’ y sin. Rydym wedi arfer â chaneuon ffres, edgy a llawn agwedd, fel ‘Canlyniadau’ a ‘Pan O’n I Fel Ti’, a dydw i ddim yn gweld y gân hon yn cyd-fynd gyda’r ddelwedd hynny rywsut.

Mae dylanwad Mei Gwynedd yn gryf iawn ar y trac, a theimlir fel bod synths amlwg Rhys Aneirin wedi ei ychwanegu’n unswydd i’m hargyhoeddi nad cân gan y Sibrydion yw hi (peidiwch â chamddeall – dwi wrth fy modd gyda’r Sibrydion, ond dydyn nhw’n ddim byd tebyg i Endaf Gremlin!). Pe na bawn yn gymaint o ffan o stwff cynt Endaf Gremlin, rwy’n siŵr y byddwn wrth fy modd gyda’r gân hon. Mae’n gân bop ddigon dymunol gyda melodi ysgafn a geiriau cofiadwy.

Byddai’n gân berffaith i’w chanu neu hymian (neu jyst i wrando arni os na fedrwch gynnal tiwn!) wrth lapio presantau ar Noswyl Nadolig. Wedi’r cwbl, rhaid cyfaddef, efallai na fyddai sengl debyg i ‘Cân y Melinydd’, o bosib, yn gweddu fel trac sain i hwyl yr ŵyl!

Osgoi’r elfen ‘novelty’

Rhaid i mi gyfaddef, mae’n gas gennyf ganeuon Nadolig fel arfer. Rwyf eisoes wedi hen syrffedu ar glywed ‘Driving Home For Christmas’ byth a beunydd, ac os glywaf sgrech nawddoglyd Mariah Carey unwaith eto yn dweud wrthyf mai myfi yw’r unig beth y mae hi eisiau fel anrheg, bydd y radio yn cael ffling allan drwy’r ffenest.

Diolch byth, mae caneuon The Gentle Good ac Endaf Gremlin yn osgoi’r elfen dros-ben-llestriaidd sy’n fy ngyrru o ‘nghof, ac rwyf wedi chwarae’r caneuon dro ar ôl tro yn barod heb flino arnynt.

Maent wedi osgoi’r elfen o gân novelty y mae nifer wedi glynu wrtho wrth greu cân o’r fath (ewch i weld hen Sesiwn C2 o ganeuon Nadolig yma i glywed y gorau a’r gwaethaf ohonynt!), ac maent yn ganeuon gallaf ddychmygu gwrando arnynt y Nadolig nesaf hefyd.

Gallwch ddarllen mwy gan Miriam ar ei blog, yn ogystal â’i dilyn hi ar Twitter ar @miriamelin23.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd