RSS

Golwg360

MwyCau 

Helo Nostalgia – Lowri Evans yn agor gigs misol Tyrfe Tawe 2017

Cyhoeddwyd Ionawr 31, 2017 gan Y Blog Cerddoriaeth.

Tagiau: Lowri Evans, tyrfe tawe


Tyrfe Tawe
Y canwr-cyfansoddwr o Drefdraeth yn Sir Benfro agorodd flwyddyn arall o gigs misol yn Nhŷ Tawe, Abertawe nos Wener ddiwethaf

‘Nos da Nostalgia’ meddai geiriau cân Cadi Gwen. Ond ‘Helo Nostalgia’ oedd hi yn Nhŷ Tawe, Abertawe nos Wener wrth i ni groesawu hen ffrind i noson fisol gynta’ Tyrfe Tawe yn 2017. Roedd Lowri Evans ymhlith y perfformwyr yn yr ŵyl gyntaf un yn 2004, ac mae hi wedi dod nôl aton ni bob blwyddyn heblaw am un yn ystod y tair blynedd ar ddeg diwetha’.

Fe gafodd ‘Tyrfe Tawe’ sawl gwisg ar hyd y blynyddoedd hynny – yn ŵyl benwythnos, yn ŵyl gwrw ac yn gyfres o gigs a nosweithiau unigol. Dyma’r ail flwyddyn i’r ‘Tyrfe’ gynnal nosweithiau misol, a dw i’n gwbl hyderus wrth ddweud y bydd eleni’n rhagori ar y llynedd – yn enwedig os gallwn ni farnu ar sail y cyntaf o’r gigs.

Noson ddigon hamddenol fyddech chi’n ei disgwyl gan Lowri Evans a Lee Mason. Ond roedd eu set yn mynd â’r ‘hamddenol’ i’r eithaf yn y bar bach clyd. Eu gitars a’u lleisiau yn unig oedd eu hangen ar y deuawd  o Sir Benfro i’n swyno. Ac roedd Lowri Evans hithau wrth ei bodd â’r awyrgylch, fel y dywedodd wrth Golwg360 ar ddiwedd y noson:

“Mae’r gigs wedi newid, maen nhw lawr stâr nawr yn y bar ond maen nhw’n lot mwy intimate ac annwyl, a hefyd yn acwstig sy’n rhywbeth dw i’n joio mas draw. Mae’n eithaf liberating fod dim eisiau system sain, fod dim meicroffon o flaen ni, a phob un yn dawel yn gwrando.

“Mae’r Fenter Iaith a Tŷ Tawe a’r gymuned yma yn Abertawe’n gwneud jobyn mor dda. Maen nhw wedi cefnogi ni ers y flwyddyn gynta o’n nhw’n gwneud gigs a fi’n ddiolchgar bo nhw’n gofyn i ni ddod nôl. Fi jyst yn joio dod nôl.”

Albym newydd

Aeth Lowri a Lee â ni ar daith drwy rai o’u goreuon dros gyfnod o ddegawd a mwy – o ‘Merch y Myny’ i’w sengl diweddara’ ‘Dyddiau Tywyll Du’ sydd, meddai Lowri, am gariad ac nid iselder – er bod yr enw’n awgrymu fel arall! Un o’i thasgau nesaf fydd dewis pa ganeuon fydd yn ymddangos ar albym o oreuon fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mai.

Dywedodd: “Ry’n ni wedi dewis ac ail-recordio 10 i 15 o ganeuon Cymraeg a Saesneg. Gorffon ni edrych nôl dros y ddeng mlynedd diwethaf, edrych ar yr albyms a trial cael cymysgedd o ganeuon newydd a hen, Cymraeg a Saesneg.

“Felly wnaethon ni recordio mwy o ganeuon nag o’dd eisie ond o’dd hwnna’n beth da gan bo ni’n gallu witlo nhw lawr i ryw 10 neu 12 o’r rhai gorau.

“O’dd e’n anodd achos bod chwech albym, pedwar EP so o’dd bownd o fod ambiti 100 o ganeuon i ddewis o. O’dd e’n bach o jobyn.”

Gigs yn y ddwy iaith

Un peth ro’n i’n awyddus i’w ddarganfod oedd a yw Lowri Evans yn ei chael hi’n anodd, fel cantores ddwyieithog, i gadw’r cydbwysedd rhwng gigs Cymraeg a Saesneg, a hithau bellach wedi dod yn adnabyddus yn Lloegr a’r Alban ac wedi perfformio yn yr Unol Daleithiau.

“Fi’n neud gigs Cymraeg fel heno a phan dw i’n neud gigs yn Lloegr neu’r Alban, dw i wastod yn neud yn siŵr bo fi’n perfformio yn Gymraeg hefyd. Mae’r caneuon Cymraeg yn mynd lawr yn dda yn Lloegr. Maen nhw’n dwlu arnyn nhw lan yn yr Alban.

“A hefyd pan y’n ni ma’s yn America ry’n ni’n perfformio yn Gymraeg. Mae jyst yn teimlo’n naturiol i fi. Fi’n lwcus i fod yn ddwyieithog, mae’n fantais i wneud y ddwy iaith a chadw pawb yn hapus.”

‘Dewch i fwynhau’

Os oedd Lowri a Lee yn hapus ar ddiwedd noson lwyddiannus o ganu a chyfeddach, roedd un o drefnwyr y nosweithiau, Huw Dylan Owen yn wên o glust i glust, gan wybod fod Tŷ Tawe’n debygol o fod dan ei sang fis nesaf wrth i Huw Chiswell a’i biano gyrraedd canol y ddinas.

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae hi’n braf gweld nosweithiau Tŷ Tawe yn llawn ac mae’n bwysig bod digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg llwyddiannus rheolaidd yn Abertawe.

“Felly, dyma apêl unwaith eto eleni – dewch i gefnogi, dewch i fwynhau, a dewch a’ch cyfeillion gyda chi. Rhowch y dyddiadau yn eich dyddiaduron cyn gynted ag y bo modd!”

Y dyddiadau’n llawn:

Chwefror 24 – Huw Chiswell

Mawrth 31 – Gwilym Bowen Rhys

Ebrill 28 – Gai Toms

Mai 26 – Rhys Mwyn – sgwrs ‘Archaeoleg a Diwylliant’

Mehefin 30 – Huw ‘Bobs’ Pritchard

Gorffennaf 28 – Siân James

Medi 29 – Steffan Alun (comedi)

Hydref 27 – Brigyn

Tachwedd 24 – Gareth Bonello

Rhagfyr 29 – Wynne Roberts, yr ‘Elvis Cymraeg’

Stori: Alun Rhys Chivers

 

10 Uchaf Caneuon 2016

Cyhoeddwyd Rhagfyr 30, 2016 gan Owain Schiavone.


Ar ddiwedd blwyddyn, mae’r rhestrau
10 uchaf blynyddol anochel yn ymddangos ym mhob twll a chornel. Dyma restr flynyddol Owain Schiavone o ganeuon cyfoes gorau’r flwyddyn…

Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol o ran cerddoriaeth Cymraeg gyfoes. Un ar bymtheg o recordiau hir, gan gynnwys albyms gan rai o fandiau mwyaf y sin ar hyn o bryd – Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana a Band Pres Llareggub. Mae yna ddigonedd o EPs a senglau ardderchog wedi cael eu rhyddhau hefyd, felly digon o ddewis eleni.

Gyda digon o gynnyrch newydd, mae cyfyngu i 10 cân yn her a dw i’n gwingo wrth sylwi nad oes gen i un o ganeuon newydd Geraint Jarman, The Gentle Good na CaStLeS ar y rhestr. Yn wahanol i’r rhestrau dw i wedi’u llunio dros y blynyddoedd diwethaf, does ‘na ddim caneuon hollol amlwg i mi eu rhoi ar frig y rhestr chwaith, a dw i’n credu mai rhestr o 10 mwyaf cyfartal i mi ei lunio.

Felly, heb oedi ymhellach, dyma 10 uchaf 2016…

10.          Dan Glo – Bendith

Albwm Bendith ydy un o recordiau hir gorau 2016 heb amheuaeth. Mae’n edrych yn hyfryd, yn swnio’n hyfryd ac yn gyfuniad hyfryd o dalent Carwyn Colorama a thriawd Plu. ‘Danybanc’ ydy’r gân amlycaf sydd wedi bod yn ffefryn ar y tonfeddi, ond dw i wrth fy modd â ‘Dan Glo’. Mae’n swnio fel epig o gân allan o sioe gerdd… dw i ddim fel arfer yn hoff iawn o sioeau cerdd, ond mae hon yn dda. Dyma’r math o gân sy’n rhoi ias i chi wrth ei chlywed ac mae lleisiau Carwyn ac Elan yn plethu’n… wel, hyfryd.

9.            Promenad – Ysgol Sul

Mae yna sin hynod o iach wedi tyfu yn ardal Caerfyrddin dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ganolog i’r cyfan mae Ysgol Sul gyda’u sŵn low-fi hudolus sydd heb os wedi dylanwadu ar grwpiau newydd fel Adwaith, Los Blancos ac Argrph. Mae hon i fyny yna gyda’u hit cyntaf nhw, ‘Aberystwyth yn y Glaw’, er yn llai tywyll ac yn fwy bywiog a hafaidd ei naws.

8.            Gormod o Ddyn – HMS Morris

Un o fy hoff fandiau diweddar, ac mae eu setiau byw bob amser yn gofiadwy. Maen nhw hefyd yn gallu sgwennu tiwn, a ‘Gormod o Ddyn’ ydy fy ffefryn o’r albwm, Interior Design,  a ryddhawyd ganddyn nhw ym mis Tachwedd. Mae’n grynodeb perffaith o sŵn pop seicadelig ac unigryw’r triawd lliwgar.

7.            Mantra – Tusk

Un o fy hoff ddarganfyddiadau o 2016. Tusk ydy prosiect Arron Hughes o Fethel, ac fe ryddhaodd ei EP cyntaf, Alligator, yn ddigidol ym mis Tachwedd. Mae’r EP i gyd yn ardderchog, ac mae’r gân Saesneg ‘Permission’, yn ffefryn arall. Mae ‘Mantra’ yn cynnwys llais cyfarwydd Iwan Fôn o Y Reu, ac mae’r sŵn pop electroneg amgen yn fachog ac yn tyfu arnoch chi fel rash.

6.            Suddo – Yr Eira

Weithiau, mae yna fand dw i isho gafael ynddyn nhw a rhoi coblyn o gic yn eu tînau… ac ar hyn o bryd mae Yr Eira’n un o’r rheiny. Y drwg ydi bod ganddyn nhw botensial anferthol ers rhai blynyddoedd bellach, ac yn fy marn i fe ddylen nhw fod yn cystadlu gyda Candelas, Sŵnami ac Yws Gwynedd fel prif fand Cymru, ond hyd yma dydyn nhw ddim. Dw i’m yn siŵr os mai ddim yn gigio digon, neu ddiffyg cynnyrch ydi’r rheswm am hyn, ond pan rydach chi’n clywed cân fel ‘Suddo’ rydach chi’n cofio beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig. Beltar.

5.            Tywod – Argrph

Un arall o’r artistiaid newydd sydd wedi creu argraff fawr arna i yn ystod 2016. Dw i’n hoffi Argrph gan fod y sŵn yn wahanol iawn i unrhyw beth arall sydd ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ond eto, mae yna rywbeth cyfarwydd yn y caneuon ar yr un pryd. Rhyddhawyd ‘Neb yn Cofio’, sy’n gân wych, fel rhan o Glwb Senglau’r Selar ddechrau’r flwyddyn, cyn i ‘Tywod’ ymddangos ar label newydd Decidedly Records ym mis Hydref. Mae yna rywbeth hiraethus, ond cynnes iawn yn hon – bendigedig.

4.            Canfed Rhan – Candelas

Doedd 2016 ddim y flwyddyn brysuraf i Candelas o ran cynnyrch newydd, er iddyn nhw gigio’n gyson a chynnal eu statws fel un ddau neu dri grŵp mwyaf y sîn. Ond, fe wnaethon nhw ryddhau un gân newydd ar gasgliad aml-gyfrannog I Ka Ching, 5, i ddathlu pen-blwydd eu label yn bump oed. Rhaid i mi gyfaddef mod i heb ystyried cystal cân oedd hon nes ei gweld hi’n cael ei pherfformio yn y gig bythgofiadwy hwnnw yn y Pafiliwn ar nos Iau Steddfod Genedlaethol Y Fenni. Stoncar o diwn arall gan yr hogia o Lanuwchllyn.

3.            Deud y Byddai’n Disgwyl – Cowbois Rhos Botwnnog

Mae’r disgrifiad ‘hir-ddisgwyliedig’ yn cael ei ddefnyddio’n llawer rhy aml wrth ddisgrifio recordiau newydd, ond yn achos pedwerydd albwm Cowbois Rhos Botwnnog, IV, mae’r defnydd yn deg. Bu pedair blynedd ers rhyddhau Draw Dros y Mynydd yn 2012, felly roedd croeso mawr i IV pan ymddangosodd ym mis Mawrth. Roedd ‘Deud y Byddai’n Disgwyl’ yn gyfarwydd i lawer cyn hynny diolch i fideo gwych a gynhyrchwyd ar gyfer cyfres Ochr 1 rhyw ddwy flynedd yn ôl – dyma’r Cowbois ar eu gorau. Gwerth nodi bod ‘Lle’r Awn i Godi Hiraeth’ o’r albwm yn agos iawn at gyrraedd y rhestr yma hefyd.

2.            Llenyddiaeth – Cpt Smith

Dyma chi fand, bois bach! Mae Cpt Smith ar radar y rhai sy’n dallt eu miwsig Cymraeg ers rhyw flwyddyn a hanner bellach, ond yn 2016 fe wnaeth y pedwarawd ifanc o Sir Gâr ryddhau eu EP cynta’, Propeller. Casgliad taclus o ganeuon sy’n profi eu potensial, a hon ydy’r gân agoriadol llawn o asbri ieuenctidd sy’n cydio ynddoch chi gerfydd eich gwar o’r eiliad gynta’.

1.            I Afael yn Nwylo Duw – Twinfield

Dw i’n derbyn bod hon yn ddewis braidd yn annisgwyl, ac na fydd pawb yn cytuno, neu wir yn hoffi’r gân yma o gwbwl, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n grêt. Fedra’ i ddim egluro pam yn union dw i mor hoff ohoni, ond mae yna sawl rheswm. Dw i wrth fy modd ei bod hi’n fy atgoffa i o stwff Datblygu, a rhai o’r pethau amgen gwych oedd yn cael eu rhyddhau’n y Gymraeg ar ddechrau’r 1980au. Dw i’n hoffi’r defnydd o’r peiriant drymiau, y sŵn electroneg ddiwydiannol a’r adeiladwaith yn y gân. Ac yn fwy na dim, dw i wrth fy modd efo’r agwedd. Briliant.

Dw i’n derbyn, ac yn gobeithio’n wir, na fydd pawb yn cytuno â’r rhestr yma – gadewch eich sylwadau a dadleuon ynglŷn â’r caneuon sydd ar goll isod, ar bob cyfrif.

Beyoncé yng Nghaerdydd – ‘un sgrech fawr o ffeministiaeth’

Cyhoeddwyd Gorffennaf 4, 2016 gan Roc a Phop.

Tagiau: beyonce, Caerdydd, Lemonade, Mared Ifan


Beyonce yng Nghaerdydd, Llun: Mared Ifan
Roedd mynd i weld y seren bop byd-enwog, Beyoncé, yn brofiad newydd i mi.

Er fy mod i’n nabod y rhan fwyaf o’i chaneuon, fel y rhan fwyaf o bobol eraill fy oedran am wn i, doeddwn i byth yn ffan fawr a hynny am nad oedd llawer yn cael ei ddweud yn ei chaneuon.

Ond daeth tro ar fyd pan gyhoeddodd ei halbwm diweddaraf, Lemonade, sy’n un sgrech fawr o ffeministiaeth a brwydr pobol ddu America am hawliau sifil dros y ganrif ddiwethaf.

Ac os mai dyma beth oeddwn yn ei ddisgwyl wrth fynd i’w gwylio yng Nghaerdydd nos Iau, chefais mo fy siomi.

Gwleidyddiaeth canu pop

Roedd y daith hon, Formation World Tour, sydd wedi’i enwi ar ôl cân orau Lemonade yn fy marn i, yn fwy aeddfed na’i gwaith blaenorol, gan roi lle priodol i wleidyddiaeth mewn canu pop am y tro cyntaf ers sbel.

Roedd ei pherfformiad yn dechrau gyda Formation, cân sy’n adleisio hanes pobol ddu yn America dros y ganrif ddiwethaf, o buteindai New Orleans ddechrau’r ugeinfed ganrif i Gorwynt Katrina yn 2005 a laddodd 1,245 o bobol yn yr un ddinas.

Mae clip yn fideo’r gân sy’n dangos y ddinas dan ddŵr, cyfeiriad pigog tuag at ymateb hwyr yr awdurdodau i helpu pobol New Orleans – llawer ohonynt yn bobol ddu sy’n byw mewn tlodi.

Mae’r gân yn un floedd falch sy’n adlewyrchu lle menywod du am ryddid a chyfiawnder cymdeithasol a dyna oedd y perfformiad hefyd.

Ar yr albwm, roedd llais un o ymgyrchwyr hawliau pobol ddu America i’w clywed hefyd – Hattie White – sydd hefyd yn fam-gu i ŵr Beyoncé, Jay Z, sy’n dweud ar ei phen-blwydd yn 90 oed: “Rwyf wedi cael amseroedd da ac amseroedd caled, ond dw i o hyd wedi dod o hyd i nerth y tu mewn i mi i dynnu fy hun i fyny.

“Cefais lemwnau, ond fe wnes i lemonêd.”

Ysbrydoli merched ledled y byd

Roedd y perfformiad yn adlewyrchiad o daith pob dyn a dynes mewn bywyd ac yn wers bywyd ar sut i aros yn gryf mewn amseroedd caled.

Nid rhyw ‘girl power’ llipa sydd gan Beyoncé fan hyn ond caneuon cryf  – pop â chig arno – fydd yn ysbrydoli merched o bob oedran, ledled y byd.

Roedd hi’n wych bod yno i brofi perfformiad angerddol a gwreiddiol, ac mi adawais y stadiwm yng Nghaerdydd yn ffan o Beyoncé a hefyd yn rhywun oedd yn falch iawn o fod yn ferch.

10 Uchaf caneuon 2015

Cyhoeddwyd Rhagfyr 22, 2015 gan Owain Schiavone.


Yn dilyn traddodiad y
blynyddoedd diwethaf, mae Uwch-golygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar wedi mynd ati i restru ei 10 cân orau o’r flwyddyn ar gyfer Golwg360. Y Reu oedd rhif 1 rhestr 2014, yr anthem ‘Elin’ gan Yr Eira oedd rhif 1 2013, tra bod Candelas wedi cyrraedd y brig gyda ‘Symud Ymlaen’ yn 2012. Tybed pwy fydd ei ddewis ar gyfer 2015?

Mae 2015 wedi bod yn flwyddyn ddifyr arall o ran cynnyrch cerddoriaeth Cymraeg cyfoes. Yn wahanol i 2014, ble roedd 26 o albyms yn gymwys ar gyfer categori ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar, doedd 2015 ddim yn flwyddyn gynhyrchiol iawn o ran recordiau hir. Wedi dweud hynny, roedd hi’n flwyddyn debyg i 2014 yn yr ystyr nad ydan ni wedi gweld cynnyrch newydd gan nifer o’r bandiau amlycaf fel Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog a Candelas tra bod Yr Ods wedi rhyddhau dwy gân fel sengl ‘dwbl A’ yn unig. Sŵnami ydy’r eithriad gyda’i halbwm cyntaf ardderchog.

Efallai nad ydy hynny’n ddrwg o beth cofiwch, gyda chyfle i rai o’r bandiau ac artistiaid eraill hawlio’r sylw a gwneud eu marc. Mae’r ffaith ei bod hi wedi bod yn anodd iawn rhoi trefn blaenoriaeth ar y rhestr isod, a dewis rhif 1 yn arbennig, wedi bod yn her yn adrodd cyfrolau am safon uchel ac amrywiaeth cynnyrch y flwyddyn.

Er nad oes caneuon oddi arnyn nhw ar y rhestr isod, dwi am grybwyll dau albwm a rhyddhawyd yn hwyr yn y flwyddyn sef Tir a Golau gan Plu a Porwr Trallod gan Datblygu. Mae caneuon Plu’n rai sy’n tyfu arnoch chi, a dwi am gyfaddef nad ydw i wedi gallu gwrando digon ar y casgliad eto. Er nad ydw i wedi cynnwys trac gan Datblygu, mae’n wych gweld y grŵp arloesol yma’n ôl gyda record newydd ac roedd Je Suis David yn agos iawn at gyrraedd y rhestr yma.

Dyma’r 10 eleni felly…

10. Fioled – Sŵnami

Roedd hi’n hen bryd i ni weld record hir gan Sŵnami, ac fe ddaeth honno i’r golwg erbyn y ‘Steddfod ym mis Awst. Roedd eu EP, Du a Gwyn, yn gasgliad o senglau ond mae’r albwm yn fwy o gyfanwaith. Wedi dweud hynny, mae cwpl o draciau’n neidio allan, fel ‘Trwmgwsg’ a hon, ‘Fioled’ sy’n adlewyrchu eu cyfeiriad mwy ewro-popaidd diweddar.

9. Heneiddio – Uumar

Er bod steil y grŵp yn wahanol, does dim syndod bod sbin-off Y Bandana yn gallu sgwennu tiwn fachog. Mae hon llawn cystal ag unrhyw beth gan Y Bandana, gyda drymiau a bas cryf yn gyrru’r tempo uchel o’r dechrau a chytgan gofiadwy.

8. Halen – Rogue Jones

Dwi’n hoff iawn o’r ddeuawd cwyrci bach yma, ac roedd hi’n dda gweld rhyddhau eu halbwm VU yn dod allan ar label Blinc ym mis Tachwedd. Dyma fy hoff gân o’r casgliad, gydag alaw syml neis ond un sy’n aros yn y cof.

7. Gwybod bod ‘na fory – Gildas (gyda Hanna Morgan)

Dwi ‘chydig bach fel armadillo…yn galed ar yr wyneb ond yn un digon meddal oddi-tano ac yn hoffi rhyw faled fach nawr ac yn y man. Dwi’n hoff iawn o steil chwarae gitâr Arwel ‘Gildas’ Lloyd ac mae ei fersiwn o gân wreiddiol Linda Griffiths  yn wirioneddol hyfryd, gyda lleisiau Arwel a Hanna Morgan yn plethu’n berffaith.

6. Resbiradaeth – Cpt Smith

Roedd tipyn o sisial siarad dros y gwanwyn am y grŵp ifanc diweddaraf cyffrous o’r Gorllewin – ‘Y Ffug’ newydd. Pan ryddhawyd ‘Resbiradaeth’ fel sengl ym mis Mai fe gadarnhawyd potensial enfawr Cpt Smith gyda chlamp o gân roc flin gyda melodi gyfoethog a riff gofiadwy. Gwyliwch rhain yn 2016.

5. Mhen i’n Troi – Y Reu

Dyma grŵp sydd wedi mireinio eu steil unigryw sy’n plethu roc gyda sŵn electroneg. Dwi’n tueddu’n fwy at yr ochr electroneg, a dyna pam bod ‘Haf’ ar frig y rhestr yma llynedd. Mae hon o EP cyntaf y grŵp, Hadyn, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf yn dipyn o diwn hefyd.

4. Aberystwyth yn y Glaw – Ysgol Sul

Mae ‘na fersiwn demo o hon wedi bod o gwmpas ers i Ysgol Sul ddod i’r amlwg yn haf 2014, ond fe’i rhyddhawyd yn swyddogol fel sengl ym mis Chwefror eleni. Clasur o gân sy’n crynhoi sŵn low-fi unigryw y bois o Landeilo, ac mae’r geiriau’n sicr yn adlewyrchiad teg o Aber dros yr wythnosau diwethaf.

3. Melynllyn – Anelog

Grŵp newydd arall ddaeth i amlygrwydd yn 2015 gyda’u cerddoriaeth electronig freuddwydiol o Ddyffryn Clwyd. ‘Melynllyn’ efallai ydy’r trac mwyaf hygyrch ganddyn nhw hyd yma, ac mae’r math o gân y gallech chi wrando arni drosodd a throsodd gan deimlo’n gwbl hapus eich byd.

2. Ble’r Aeth yr Haul – Yr Ods

Mae ‘na ddadl dros ail drac y sengl ddwbl A yma, ‘Hiroes i’r Drefn’, a ryddhawyd ar feinyl yn yr hydref, ond y gyntaf o’r ddwy gân i’w rhyddhau’n ddigidol  i ddechrau ydy fy ffefryn o’r ddwy. Classic Yr Ods – cân bop dda gyda phenillion sy’n adeiladu at grescendo newid cyweiriol y gytgan.

1. Ti a Dy Ffordd – Breichiau Hir

Dyma chi fand sydd ddim yn cael hanner digon o sylw yn fy marn i, a dwi’n methu deall pam. O’r eiliad mae’r canwr, Steffan Dafydd, yn agor ei geg ar y trac yma mae’n hoelio eich sylw ac mae’n un o’r unig ganeuon eleni sy’n dod ag ias i fy nghefn pob tro gyda’i chymysgedd o dristwch a dicter. Mae’r caneuon ar y rhestr yma i gyd wedi dal fy sylw mewn gwahanol ffyrdd eleni, ond dyma’r gân sydd wastad yn gwneud i mi stopio be bynnag dwi’n gwneud ar y pryd pan ddaw ar y radio, a gwrando…ac mae hynny’n beth prin.

Mae modd i chi wrando ar y caneuon yn eu trefn ar y rhestr chwarae Spotify yma (heblaw ‘Melynllyn’ sydd ddim ar Spotify).

Anghytuno â’r dewis isod? Gadewch i ni glywed eich barn yn y blwch sylwadau isod.

10 Cân Gymraeg Nadoligaidd Orau

Cyhoeddwyd Rhagfyr 16, 2015 gan Cerddoriaeth.

Tagiau: caneuon Nadolig, Nadolig


Beth yw eich hoff gân Nadolig chi?
Ydy, mae’r Nadolig ger ein bron unwaith eto, a’r llwch yn cael ei chwythu oddi-ar gloriau’r senglau Nadoligaidd sy’n eistedd ar silffoedd gorsafoedd radio ledled y byd.

Mae’r un yn wir yn y Gymraeg wrth gwrs, ac mae rhai o’r caneuon tymhorol yna sy’n diflannu am 11 mis o’r flwyddyn yn cael eu chwarae hyd syrffed am ychydig wythnosau.

Ond beth ydy’r caneuon Nadolig Cymraeg gorau? Marged Gwenllian sydd wedi bod yn chwilota ac wedi llunio rhestr 10 Uchaf caneuon Nadolig Cymraeg….

10. Nadolig Llawen Gwyn – Bob Delyn A’r Ebillion

Mae llais dwfn Twm Morys yn canu’n onest ac araf am ddiflastod Nadolig hen ddyn, cyn sylweddoli’r hiraeth sydd ganddo am gyffro’r ŵyl pan oedd o’n blentyn. Mae’r gobaith sydd ynddi yn glyfar ac yn llwyddo i’w rhoi ar y rhestr.

9. O na! Mai’n ddolig eto – Frizbee

O ystyried fod gan Ywain Gwynedd ddwy gân ar y rhestr yma, dwi’n amau’n gryf ei fod o wir yn ochneidio ei bod hi’n ‘ddolig eto. Ond mae hi’n sicr yn gân egnïol sy’n cyffroi pawb arall at yr ŵyl.

8. Sêr y Nadolig – Fflur Wyn

Llais hyfryd sy’n disgleirio’n union fel y mil o lampau mân.

7. Bachgen a Aned – Geraint Griffths/Sonia Jones

Tra’n coginio’r twrci, dathlwch yr ŵyl yn iawn drwy chwarae hon yn uchel nes eich bod yn dawnsio ar hyd y tŷ … mae’n anodd peidio.

6. Fy Nghariad Gwyn – Yws Gwynedd

Hon yw’r gân ddiweddaraf i ymddangos ar y rhestr, ac mae hi’n sicr yn haeddu ei lle. Mae gan Yws Gwynedd ddawn i greu ymdeimlad Nadoligaidd drwy ddefnyddio offerynnau pres, sy’n cyd-fynd â geiriau hyfryd i ddatgan ei gariad er gwaethaf caledwch y cyfnod rhewllyd.

5. Gŵyl y Baban – Caryl Parry Jones

Harmonïau gwych, geiriau cryfion a llais pwerus Caryl. Roedd yn rhaid i’r gân hon fod ar y rhestr.

4. Nadolig Pwy A Ŵyr – Ryan Davies

Y glasur fwyaf ar y rhestr efallai. Does ond angen cychwyn canu “Tinsel ar y…” nes bod pawb yn siŵr o ymuno.

3. Haleliwia – Brigyn

Anaml iawn y mae cyfeithiadau o gân yn llwyddo i fod yn well na’r wreiddiol, ond dyna yw’r farn gan lawer am hon, ac fe gafodd sêl bendith y cyfansoddwr gwreiddiol. Mae’n debyg mai dim ond i’r Gymraeg y mae hi wedi cael ei chyfieithu hefyd, sy’n ei gwneud hyd yn oed yn fwy arbennig.  Cân gwbl hudolus.

2. Noson Oer Nadolig – Meic Stevens

Gall tynerwch sŵn gitar, telyn a llais meddal Meic gynhesu unryw noson oer.

1. Un Seren – Delwyn Siôn

Nid oes posib meddwl am y gân yma heb wenu a theimlo naws y Nadolig. Mae ei symlrwydd a’i gonestrwydd yn gweddu’n berffaith i ystyr y cyfnod arbennig hwn o’r flwyddyn.

Oes ‘na glasur o gân Nadolig Gymraeg yn eisiau ar restr Marged? Rhowch eich sylwadau isod.

10 eitem gerddorol i’r hosan Nadolig

Cyhoeddwyd Rhagfyr 15, 2015 gan Cyfranwyr Gwadd.


Rydan ni gyd wedi bod yn yr un twll, styc am anrheg Nadolig i frawd, chwaer, plentyn, rhiant neu ffrind. Na phoener, mae Golwg360 yma i roi help llaw i chi ac mae Marged Gwenllian wedi bod yn chwilota am syniadau anrhegion bach i lenwi hosan Nadolig y ffans cerddoriaeth gyfoes…

Ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’n siŵr ei bod yn deg dweud mai’r Nadolig ydy’r cyfnod sy’n gweld y gwerthiant mwyaf o recordiau Cymraeg. Dim syndod felly bod tipyn o gynnyrch cerddorol boed yn recordiau newydd neu gynnyrch cerddorol bach eraill, yn cael eu rhyddhau cyn yr ŵyl. Dyma 10 eitem i chi ystyried ar gyfer hosan Nadolig y ffans cerddoriaeth Cymraeg cyfoes.

Feinyl 7” Yr Ods

Rhyddhaodd y band hynod boblogaidd eu sengl Ble’r Aeth Yr Haul / Hir Oes i’r Drefn i’w lawr lwytho’n ddigidol ar 9 Hydref ar label I Ka Ching, ond mae’n amhosib ceisio cyfleu sŵn feinyl yn ddigidol. Mae copïau o’r record feinyl ar gael yn Spillers Records, Palas Print, Awen Meirion, a gwefan I Ka Ching.

“Meic Stevens – Y Swynwr o Solfach” – Hefin Wyn

Dyma lyfr a fyddai’n anrheg Nadolig perffaith, sy’n adrodd hynt a helynt y cymeriad mwyaf lliwgar, a’r cerddor mwyaf adnabyddus ac athrylithgar y degawdau diwethaf. Allan gan wasg Y Lolfa rŵan.

Tocyn Gwobrau’r Selar

Dyma’n sicr oedd un o uchafbwyntiau’r flwyddyn gerddorol llynedd, ac mae’n siŵr o fod cystal, os nad gwell yn 2016. Mae tocynnau newydd eu rhyddhau, ond yn prysur fynd yn barod at y digwyddiad yn Aberystwyth ym mis Chwefror, felly peidiwch â cholli cyfle!

Crys-t Candelas / Sŵnami

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am y ddau fand mwyaf blaenllaw yn y sin gerddoriaeth Gymraeg erbyn hyn, ond beth am brofi’r hoffter ohonynt, na, nid drwy gael tatŵ o’ch hoff aelod, ond drwy wisgo eu crysau-t, sydd ar gael o’u gwefannau – Candelas / Sŵnami.

Beth am brynu albyms diweddaraf y ddau grŵp hefyd os nad ydynt ganddoch yn barod!

EP newydd Ysgol Sul, “Huno”

5 o ganeuon gan y band newydd ac unigryw o Landeilo, sydd wedi llwyddo i greu argraff fawr ar wrandawyr yn barod gyda chaneuon fel Aberystwyth yn y Glaw a Machlud Haul. Mae sŵn araf a thrwm i’r caneuon, sy’n eu gwneud ychydig yn wahanol a mwy mentrus o’i gymharu â bandiau cyfoes eraill Cymru ar y funud.

Llyfr cerddoriaeth “Gair yn Gnawd”

Nid yw sŵn gitârs trwm at ddant (neu glust) pawb, felly beth am ychydig o gerddoriaeth ysgafnach, gyda llyfr o drefniannau caneuon ar gyfer unawdwyr, côr a phiano o’r sioe gerdd Nadolig fodern gan Gwmni Theatr Maldwyn, Gair yn Gnawd sydd wedi’i gyhoeddi gan Recordiau Sain.

Hunangofiant Dewi Pws – “Popeth Pws”

Cyfrol sy’n cynnwys caneuon, cerddi Cymraeg a Saesneg, straeon a lluniau gan y ffigwr hynod adnabyddus a phoblogaidd. Bydd y gymysgedd o’r cynnwys difrifol a dwl yn siŵŵr o blesio’r hen a’r ifanc yn eu hosan Nadolig.

Albwm newydd Plu, “Tir a Golau”

Mae’r ddwy chwaer a brawd newydd ryddhau eu trydydd albwm, sy’n arbrofi gyda melodïau hyfryd a gwahanol haenau o fewn y caneuon i greu caneuon ysgafn ac ymlaciol tu hwnt.

Cofiwch am eu hail albwm “Holl Anifeiliaid y Goedwig” ar gyfer y plant iau hefyd. Rhywbeth i bawb!

Llyfr 100 o Ganeuon Pop, Meinir Wyn Edwards

Beth yw’r Nadolig heb ychydig o gerddoriaeth, neu lawer o gerddoriaeth? Hwn yw beibl cerddoriaeth Gymraeg sy’n ddefnyddiol ar gyfer canu carioci, corau neu ddysgu’r caneuon poblogaidd ar y piano/gitâr. Holl glasuron y sîn o’r 20 mlynedd diwethaf mewn un gyfrol! Perffaith.

Albwm lluniau “Gigs 2016”

Os am rywbeth gwreiddiol, rhowch throw away camera yn yr hosan, ac albwm lluniau gwag. Y syniad yw i’r unigolyn dynnu lluniau ar y camera o bob gig y mae’n mynd iddo yn y flwyddyn sydd i ddod, a’u rhoi yn yr albwm â’r teitl ‘Gigs 2016’. Mi fydd ganddynt gofnod o bob gig gan fod rhaid argraffu’r lluniau, a gallant wedyn edrych yn ôl ar flwyddyn wych o gerddoriaeth Gymraeg byw. Does dim mwy gwerthfawr nag atgofion yn nagoes!

Fideo Yws yn croesi 25k

Cyhoeddwyd Tachwedd 24, 2015 gan Owain Schiavone.

Tagiau: gwobrau'r selar 2015, Huw M, Swnami, yws gwynedd


Yws Gwynedd yn ei morio hi yn fideo 'Sebona Fi'
Owain Schiavone sy’n trafod pwysigrwydd y fideo ar gyfer hyrwyddo cerddoriaeth, a phoblogrwydd un fideo o’r fath yn arbennig eleni.

“Video killed the radio star” meddai geiriau’r gân boblogaidd honno gan The Buggles ar ddechrau’r 1980au, a dros y degawdau diwethaf mae’r fideo cerddoriaeth wedi bod yn arf pwysig wrth hyrwyddo cerddoriaeth boblogaidd.

Mae’r modd mae fideos cerddoriaeth yn cael eu defnyddio wedi esblygu dros y blynyddoedd, o Hard Days Night y Beatles yn y sinemâu ym 1964, ‘Bohemian Rhapsody’ Queen yn dechrau oes newydd i’r fideo ym 1980, ac yna MTV yn lansio ym 1981 gyda nifer o sianeli tebyg yn dilyn.

Erbyn heddiw, mae grym y fideo mor bwerus ac erioed gyda YouTube yn cynnig potensial i gyrraedd miliynau o bobl mewn munudau – does ond angen i mi ddweud Gangam Style i brofi’r pwynt.

Gwobrwyo’r gorau

Rydan ni wrthi’n paratoi i agor pleidlais Gwobrau’r Selar ar 10 Rhagfyr, ac yn gwahodd pobl i yrru eu henwebiadau ar gyfer y categorïau erbyn 1 Rhagfyr er mwyn llunio rhestrau hir.

Ers cwpl o flynyddoedd mae ‘Fideo Gorau’ wedi bod ymysg y categorïau, ac mae wastad yn ddifyr llunio rhestr chwarae o’r fideos sydd wedi eu cyhoeddi dros y flwyddyn a fu. Mae Ochr 1, fel yr unig raglen S4C sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth gyfoes bellach, wrth reswm yn gyfrifol am lawer o’r fideos sy’n cael eu cynhyrchu, ond mae wastad yn braf gweld ambell fideo annibynnol ar y rhestr hefyd.

Mae Sŵnami wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r fideo yma i’r gân Gwenwyn yn ennill y teitl ar gyfer 2014, a’r fideo cofiadwy iawn i Gwreiddiau’n mynd â hi y flwyddyn flaenorol.

Seboni

Wrth ddiweddaru rhestr eleni a llunio rhestr chwarae YouTube ar gyfer y fideos cymwys, mi wnes i ddechrau sylwi ar faint o bobl oedd wedi gwylio rhai o’r fideos yma.

Bydd rhaid aros tan noson y gwobrau ar 20 Chwefror i weld pwy fydd yn ennill pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar, ond does dim amheuaeth ynglŷn â pha fideo o gasgliad 2015 sydd wedi cael ei chwarae fwyaf ar YouTube.

Mae fideo ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd wedi croesi 25,000 o bobl yn gwylio, sydd yn ffigwr digon syfrdanol ar gyfer fideo cerddoriaeth Cymraeg.

Mae poblogrwydd cyn ganwr y grŵp Frizbee yn glir – wythnos diwethaf roedd sôn am docynnau i’w gig yng Nghaernarfon fis Rhagfyr yn gwerthu i gyd mewn awr – ac unwaith eto mae wedi dangos y ffordd gyda’r fideo DIY yma.

I roi hyn mewn cyd-destun, mae Ble’r Aeth yr Haul gan Yr Ods wedi denu ychydig dros 1500 o bobl i wylio hyd yma, a Sŵn y Galon Fach yn Torri gan Huw M jyst dros y 1000, sef y ddau fideo nesaf ar y rhestr o ran i nifer sydd wedi gwylio. Er, mae’n werth nodi mai dim ond ers rhyw fis mae’r fideo hyfryd i gân hyfryd Huw M ar-lein tra bod ‘Sebona Fi’ ar YouTube ers mis Mehefin.

Cofiwch chi, mae gan Yws dipyn o ffordd i fynd cyn dal y glasur o fideo isod i gân Genod Droog o ddyddiau Bandit, sy’n agosáu at ffigwr gwylio o 70,000 wrth i mi deipio.

Mwy na nodau


Gareth Williams - dylanwad caneuon Cymraeg
Wrth i Ŵyl y Dyn Gwyrdd fynd rhagddi yn nyffryn Wysg, Dylan Iorwerth sy’n edrych yn ôl ar ŵyl fawr y cwm drws nesa’, Gŵyl Jazz Aberhonddu …

Efallai nad oes cymaint o sêr mawr Americanaidd yn dod i Aberhonddu ag oedd yn yr 1990au ond, rhywsut, mae’r Ŵyl Jazz yn gwreiddio’i hun yn ddyfnach yn ei thir ei hun.

A lle’r oedd hi ar wasgar mewn pebyll a than drionglau o gynfas lliw, mae hi bellach yn gwneud defnydd llawnach o ychydig o adeiladau’r dre’.

Un o’r mwya’ trawiadol o’r rheiny ydi’r Eglwys Gadeiriol a’r cyfuniad o awyrgylch defosiynol ac acwstig da yn troi ambell i gyngerdd yn brofiad dwys.

Roedd hi’n freuddwyd cael chwarae yno, meddai’r enwoca’ o jazzwyr y penwythnos, Courtney Pine a’i fersiwn o ‘Amazing Grace’ ar y clarinet bas yn dangos pam. Roedd yn ddigon call i’w chadw hi’n berffaith syml a phur, heb ddim ond newid cyweirnod ac ambell i nodyn plyg.

Syml oedd cyfeiliant y bianyddes Zoe Rahman hefyd a’i gwallt yn llythrennol yn cyrraedd at sêt y piano. Ond pan oedd angen, ar ganeuon eraill, roedd hithau’n tynnu seiniau dwfn, clasurol bron, o’r offeryn i redeg hyd y muriau cerrig.

Pan grwydrodd Courtney Pine i gefn yr eglwys, y tu cefn i’r gynulleidfa, roedd y sain fel pebai’n dod o’r awyr ac yntau wedyn yn cerdded i lawr trwy’r canol, fel offeiriad yn ei ddu a’r clarinet fel thuser yn gwasgaru nodau.


Andrea i Joan - Motis a Chamorro
Cadw’r gân yn syml a wnaeth Andrea Motis hefyd wrth roi fersiwn o Hallelujah Leonard Cohen – hi, y ferch 16 oed a’i band o Barcelona. Hi’n dangos aeddfedrwydd rhyfeddol gyda llais a thrwmped ac ambell gên Gatalan yn gymysg â ffefrynnau Saesneg.

Y tu cefn iddi, roedd Joan Chamorro ar fas a sacs – y dyn a ddaeth o hyd i’r gantores yn blentyn 11 oed. Roedd rhywfainto rhyddmau’r Môr Canoldir yn y gerddoriaeth, yn arwydd o allu jazz i lyncu a thrawsffurfio dylanwadau.

Sŵn emynau a chaneuon Cymraeg oedd yr islais yn nwy o alawon Gareth Williams a’r Power Trio – un brydferth, hiraethus, i gofio am Hedd Wyn ac Alun Lewis, beirdd y ddau ryfel byd, ac un arall, leddf, yn deyrnged i’r hanner Cymro, Bill Evans, un o fawrion gwirioneddol piano jazz.

Dyw Gareth Williams ddim yn siarad Cymraeg ond mae’n adnabod y caneuon a recordiau’r tenor David Lloyd yn ddylanwad pwysig arno. Gyda dau gerddor o Gymru, Laurence Cottle ar y bas a’r drymiwr Ian ‘Ianto’ Thomas, mae’r triawd yn gyfuniad o bwer a swyn, yn enwedig mewn ೢcân fel a Welshman in New York, sydd wedi ei hysbrydoli’n rhannol gan dafarn Dylan Thomas, y White Horse.

Un o’r cerddorion Cymreig mwya’ gwreiddiol ydi Huw Warren, o Abertawe gynt, bellach o gylch Porthmadog. Mae’n rhan o bob math o brosiectau gwahanol ac yn gerddor preswyl Gŵyl Aberhonddu, gan dynnu gwahanol gyfuniadau at ei gilydd.

‘Tails for Wales’ oedd ei brosiect y tro yma a chaneuon wedi eu hysbrydoli’n rhannol gan ei brofiadau ei hun. Roedd Dylan Thomas yma eto ond dyfeisgarwch di-ildio Huw Warren ydi ei gryfder mawr a’r tro yma, roedd ei fab, Zoot, ar y drymiau a’r basydd o Gymro Cymraeg, Huw Vaughan Williams, yn uned dynn wrth ei ochr.

Huw Williams fydd un o sêr jazz y dyfodol, ac yntau’n arwain ei fand ei hun o gerddorion ifanc oedd yn gyd-fyfyrwyr yn Llundain. Yn llinach rhai fel Charles Mingus, mae’n arwain o’r cefn ac ef yw cyfansoddwr y caneuon.

A dyna sut y daeth un o gerddi mawr T.H. Parry-Williams i Ŵyl Jazz Aberhonddu am y tro cynta’; mae ‘Hon’, sy’n enw ar y prosiect hefyd, yn gân llawn gwrthdaro i gyfleu agweddau cymysg y bardd – a’r cerddor – at eu diwylliant eu hunain.

I fi, roedd yna sŵn canu gwerin a hyd yn oed organ capel yn yr ychydig fariau cynta’ cyn i’r pump cerddor gydio yn y darn. A nhwthau i gyd yn cyd-ddyfeisio – yn hytrach na bod rhai’n chwarae a’r gweddill yn cyfeilio – mae band fel hyn yn creu siapiau sain yn fwy nag alawon traddodiadol.

Ond roedd yna un gân arall, wirioneddol gofiadwy, ar ôl, gan y gitarydd Martin Taylor, sydd wedi bod yn ymweld ag Aberhonddu ers 30 mlynedd a mwy ac yn un o noddwyr y clwb jazz lleol.

Sŵn canu gwerin yr Alban oedd yn y dôn a sgrifennodd o i gofio ei fab, a fu farw yn 21 oed pan oedden nhw’n byw yng ngorllewin y wlad. Am rai blynyddoedd, mi fethodd y cerddor a gwneud dim, nes i ychydig nodau dreiddio i’w feddwl a throi yn alaw ‘One Day’.

Prif Weinidog Groeg ‘am ymddiswyddo’

Cyhoeddwyd Awst 20, 2015 gan Rhyngwladol.

Tagiau: Alexis Tsipras, Etholiad Cyffredinol, Gwlad Groeg


Alexis Tsipras (Llun - PA)
Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Groeg, Alexis Tsipras, yn ymddiswyddo heddiw er mwyn cynnal etholiadau brys, yn ôl un o uwch-swyddogion llywodraeth y wlad.

Fe fydd Alexis Tsipras yn gwneud araith ar y teledu nes ymlaen heno ac, yn ôl cyfryngau Gwlad Groeg, y disgwyl yw y bydd yn cyhoeddi etholiad cyffredinol ar 20 Medi.

Mae’r Prif Weinidog wedi colli ei fwyafrif yn y senedd ar ôl i rai o aelodau ei blaid asgell chwith Syriza wrthryfela yn erbyn ei benderfyniad i daro bargen ariannol â sefydliadau rhyngwladol.

Ddydd Iau fe dderbyniodd Groeg ei benthyciad cyntaf o €13bn yn rhan o’r mesurau ariannol i dalu ei dyledion.

Ond mae hynny wedi cythruddo llawer o wleidyddion a phobl y wlad sydd yn anhapus â’r amodau llym a thoriadau sydd ynghlwm â’r cymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd a sefydliadau ariannol rhyngwladol.

Sgwrs a Chân – Delyth McLean

Cyhoeddwyd Awst 19, 2015 gan Cerddoriaeth.

Tagiau: Delyth McLean, Sgwrs a chân


Un peth doeddech chi’n sicr ddim yn brin ohono yn Eisteddfod Meifod eleni oedd cyfleoedd i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fu Golwg360 yn cynnal sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Rydyn ni eisoes wedi bod yn sgwrsio ag Y CledrauBromasWelsh WhispererJaffroAl LewisSŵnami ac Aled Rheon, ac mae’n sesiwn olaf ni o’r maes yn dod gan Delyth McLean.

Llewelyn Hopwood fu’n sgwrsio â’r gantores sydd yn rhan o brosiect Gorwelion am ei theithiau diweddar gyda’i band newydd, a chlywed hi a’i chwaer Bethan yn canu fersiwn o ‘Tad a’r Mab’.

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân â Delyth McLean yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Delyth McLean a chael rhagor o wybodaeth amdani ar ei thudalennau Soundcloud, Twitter a Facebook.