Scott Sinclair yw ymosodwr Abertawe
Gohebydd clwb CPD Abertawe, Guto Llewelyn sy’n edrych ymlaen i gêm fawr yr Elyrch yn erbyn Chelsea…

Tymor diwethaf, Hull, Norwich a Leeds oedd gêmau oddi cartref cyntaf yr Elyrch.  Eleni mae Abertawe eisoes wedi teithio i Man City ac Arsenal, ac yfory bydd yn rhaid chwarae yng nghartref un arall o gewri Ewrop. Chelsea fydd ein gwrthwynebwyr; y tro cynta i’r ddau glwb gyfarfod yn y brif gynghrair yn Lloegr ers 1983.

Mae gan Chelsea rai o chwaraewyr enwocaf y byd pêl-droed, un o hyfforddwyr mwyaf addawol Ewrop a pherchennog sydd â  £13.4 biliwn yn y banc.

Yn rhyfedd ddigon,  dechreuodd llwybr  llwyddiannus  Chelsea yn  yr un wythnos ag y daeth tro ar fyd yn  hanes tymhestlog  Abertawe.   Ar y 3ydd o Fai 2003 enillodd Abertawe o bedair gol i ddwy yn erbyn Hull City i aros yn y gynghrair Saesneg.  Y fuddigoliaeth wyrthiol hon, ar brynhawn gwlyb ar gae’r Vetch, sbardunodd dwf y clwb dros y saith mlynedd nesaf. Yn dilyn gwaith sylfaenol Brian Flynn, dyrchafwyd yr Elyrch yn 2005 o dan arweiniad Kenny Jackett. Sgleiniodd y tim yn eu tymor cyntaf yn League 1 ac oni bai am ddau gic sâl o’r smotyn mewn gêm ail-gyfle yn Stadiwm y Mileniwm, buasai Abertawe wedi cael eu dyrchafu i’r bencampwriaeth yn lle Barnsley . Dau dymor yn hwyrach, tim Abertawe, dan Roberto Martinez, oedd pencampwyr League 1, ac yn dilyn dau dymor o gynnydd dan reolaeth Martinez a Paulo Sousa, penodwyd Brendan Rodgers yn reolwr. Ysbrydolodd Rodgers y tim i ennill dyrchafiad yn Wembley fis Mai diwethaf, yn benllanw  tymor cyfan o bêl-droed bendigedig. Nawr, rydym ni fel cefnogwyr yn mwynhau bywyd yn yr Uwchgynhgrair.

Wythnos ar ôl buddigoliaeth Abertawe yn erbyn Hull, curodd Chelsea Lerpwl ar ddiwrnod ola’r tymor –  diolch i berfformiad gwych gan Jasper Gronkjær. Serch dyledion enfawr y clwb, cipiodd Chelsea le Lerpwl yn y Champions League y diwrnod hwnnw.   Fis yn ddiweddarach prynwyd y clwb gan Roman Abramovich; un o ddynion cyfoethocaf Rwsia. Newidiwyd trywydd y clwb yn llwyr gan y perchennog newydd. Llwyddodd arian Abramovich i ddenu rhai o chwaraewyr gorau’r byd i Lundain, ac yn 2004 ymunodd José Mourinho âr clwb o bencampwyr Ewrop, Porto. Y tymor canlynol chwalwyd bron pob record wrth i Chelsea ennill yr Uwchgynghrair yn hawdd.   Ers 2005 maent wedi ennill y bencampwriaeth ddwywaith ac wedi herio’n gyson yn Ewrop. Erbyn hyn mae ganddynt filiynau o gefnogwyr ym mhedwar ban byd a rhai o sêr mwyaf y gem.

Mae tîm presennol Chelsea yn brofiadol, corfforol ac uchelgeisiol, ac mae’n anodd gweld Abertawe’n dwyn pwyntiau oddi ar y  Gleision yn Stamford Bridge.

Ar y llaw arall ni fydd y chwaraewyr yn ei gweld fel gêm anobeithiol yn dilyn y perfformiad gwych yn erbyn West Brom penwythnos diwetha. Mae’r hyfforddwr Brendan Rodgers a’r asgellwr Scott Sinclair yn hen gyfarwydd  â’r clwb, yn dilyn blynyddoedd yn gweithio yn Stamfford Bridge, ac maen nhw’n hyderus eu bod yn gallu adnabod gwendidau eu cyn-gydweithwyr.

Tra bod Abertawe’n ceisio adeiladu ar ôl eu buddigoliaeth gyntaf, bydd Chelsea am ddanfon neges at weddill y gynghrair eu bod dal yn gallu cystadlu yn erbyn Man Utd ar ôl colli yn Old Trafford wythnos ddiwethaf.

Mae Neil Taylor yn holliach i’r Elyrch er y bu’n rhaid iddo adael y cae yn gynnar ddydd Sadwrn gydag anaf i’w ben.  Serch hynny, ni fydd Caulker, Augustien na Tate ar gael oherwydd anafiadau. Mae Brendan Rodgers yn debygol o gadw’r un tîm a gurodd West Brom, sy’n golygu na fydd Danny Graham yn dechrau, er bod ei goes wedi gwella ar ôl anaf.

Mae Alex wedi ei wahardd i Chelsea wedi iddo dderbyn  carden goch yn erbyn Fulham nos Fercher.  Ni ddylai hynny effeithio’n ormodol ar baratoadau’r rheolwr André Villas-Boas gan nad oedd yr amddiffynwr yn debygol o ddechrau taw beth.   Disgwylir i Fernando Torres ddechrau er iddo wastraffu cyfle euraidd yn Old Trafford.

Rhaid i ni gefnogwyr ymweld â stadiymau megis Stamfford Bridge gyda disgwyliadau isel. Gwyddwn y bydd bob pwynt a dderbyniwn yn erbyn y timau mwyaf yn fonws.  Ar y llaw arall credaf bod gan ein chwaraewyr ddigon o ddawn i synnu  a sugo ambell dim mawr. Gobeithiaf am berfformiad tebyg i’r un welsom yn erbyn West Brom, ac efallai, gyda pheth lwc, gallwn ddychwelyd o Lundain gyda phwynt neu dri.