Rhagolwg Grand Prix UDA

Diweddarwyd am  


Ar ôl ras Abu Dhabi, roedd hi yn swnio’n eithaf sicr y byddai Kimi Raikkonen yn cystadlu’r ddwy rownd olaf y bencampwriaeth ar ôl bygwth peidio gan ei fod heb gael ei dalu.

Ond ar ôl hyn i gyd, mae’n troi allan na fydd o’n rasio wedi’r cyfan gan iddo ddewis cael triniaeth ar ei gefn (yn dilyn poenau yn ail-ymddangos yn ddiweddar). Profwr Caterham, Heikki Kovalainen, a gychwynnodd ei yrfa gyda Lotus (Renault fel oeddynt ar y pryd), fydd yn cymryd ei le.

Trac pwrpasol

Yn y ras yma ar drac COTA (Circuit of the Americas) y bydd Sergio Perez, y gyrrwr o Fecsico, yn cael y mwyaf o gefnogaeth mae’n debyg.

Newyddion drwg iddo fo a’i gefnogwyr felly pan gyhoeddodd McLaren y byddai Kevin Magnussen o Ddenmarc yn cymryd  ei le yn y tîm flwyddyn nesaf.  Amser a ddengys os fydd hyn yn symudiad clyfar.

Dyma’r ail ras i gael ei gynnal ar drac COTA, yn Austin, Tecsas. Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad fawr, ac mae F1 eisiau torri i mewn yno. Mae ras America wedi cael ei gynnal, heb fawr o lwyddiant, ar nifer o draciau yn y gorffennol, ond y gobaith yw y bydd y cwrs yma yn gallu denu’r Americaniaid (sydd yn well ganddynt chwaraeon modur megis NASCAR).

Mae hwn yn drac wedi ei adeiladu’n bwrpasol, ddim fel y diwethaf yn Indianapolis, lle cafodd F1 yr embaras o ras 6 car wrth i’r ceir gyda theiars Michelin orfod tynnu allan gan nad oeddynt yn ddiogel ar gorneli uchel y trac.

Ond mae COTA i’w weld yn boblogaidd gan fod prif bensaer F1, Hermann Tilke, wedi cymryd dylanwadau oddi wrth draciau eraill megis Silverstone, Gwlad Belg a Brasil ar gyfer hwn.

Hanes gan Hamilton

Lewis Hamilton enillodd y ras gyntaf yma, yn 2012, wrth basio Sebastian Vettel tuag at ddiwedd y ras. Mae gan y Prydeiniwr y fraint o allu dweud fod ganddo record 100% yn yr UDA wrth iddo ennill yn Indianapolis yn ei dymor  cyntaf, 2007, cyn i’r wlad ddiflannu o galendr F1 tan 2012.

Ar hyn o’r bryd mae Raikkonen dal o flaen Hamilton yn y bencampwriaeth, ond bydd Hamilton dal eisiau cymryd y 3ydd safle ganddo, er mai buddugoliaeth wag yn unig fydd hi o bosib.

Mae’n debyg bod llwyddiant Massa ar ôl cael ei ollwng gan Ferrari wedi bod yn ddefnyddiol iddo, wrth iddo gyhoeddi’r wythnos hon y bydd o’n gyrru i Williams tymor nesaf.

Fy nhyb i ar gyfer y penwythnos yma ydi y bydd Hamilton yn cadw ei record gref yn UDA ac yn ennill yma unwaith eto.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd